Sgwrs yn y Corff Llywodraethol, Medi 2007

Yr wyf am ofyn i chwi fod yn oddefgar. Fe ddywedais na fyddwn yn rhoi anerchiad llywyddol yn y Corff Llywodraethol hwn, ac nid wyf am wneud hynny fel y cyfryw. Fodd bynnag, gan nad yw pethau’n dda yn y Cymundeb Anglicanaidd ar hyn o bryd, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw nid yn gymaint rhoi anerchiad ag amlinellu sut, yn fy marn i, y cawsom ein hunain yn y sefyllfa anodd hon, ac yna, yn ddiweddarach, wrth gyflwyno cynnig ar y Cyfamod, fynd ymlaen â’r stori oddi yno. Fe fydd yn haws i chwi ddeall y cynnig os rhof y cefndir i chwi i ddechrau. Maddeuwch imi os byddaf yn gorsymleiddio’r dadleuon.

Nid oes amheuaeth nad y fflam a gyneuodd y goelcerth oedd cysegru Gene Robinson, gŵr wedi cael ysgariad ac yn byw gyda phartner gwrywaidd, yn Esgob New Hampshire, a bendithio rhai priodasau un-rhyw yn Esgobaeth New Westminster yng Nghanada. I rai yn y Cymundeb, awgrymai’r gair ‘new’ yn enwau’r ddau le hyn fod y camre hyn yn rhai newydd ac y dylid eu hatal. Nid gormodiaith fyddai dweud fod llawer wedi cynddeiriogi. Pam?

Ystyrid bod y pethau hyn yn groes i’r ysgrythur a gwaharddiad yr ysgrythur ar wrywgydiaeth, yn ogystal â bod yn groes i benderfyniad Lambeth yn 1998 a ddatganai fod “ymarfer gwrywgydiaeth yn anghydnaws â’r ysgrythur” ac a argymhellai “gynghori peidio â chyfreithloni bendithio priodasau un-rhyw nac ordeinio rhai a oedd yn byw gyda phartner o’r un rhyw”. Felly, yr oeddid yn diystyru ‘meddwl y Cymundeb’, yn ogystal â gwaharddiadau’r ysgrythur. Ystyrid bod yr ysgrythur a thraddodiad a llais yr eglwys ehangach yn cael eu hanwybyddu.

Ystyrid hefyd fod eglwysi Gogledd America yn benderfynol o ddilyn agenda ryddfrydol, beth bynnag oedd barn gweddill y Cymundeb, a’u bod am wneud yr hyn a fynnent pa bryd bynnag y mynnent, ac y byddai’n rhaid i weddill y Cymundeb ddygymod â hynny. Ac eto, yn Affrica ac Asia y mae’r eglwysi sy’n tyfu, nid yn America a’r Gorllewin, lle y maent yn lleihau. At hyn, ystyrid bod eglwysi’r Gorllewin, a oedd wedi dwyn yr efengyl i Affrica trwy eu cenhadon, yn awr yn ymwrthod â’r efengyl honno ac yn pregethu efengyl wahanol. Nid taleithiau yn y Cymundeb Anglicanaidd ychwaith oedd yn anhapus gyda’r datblygiadau hyn. Yr oedd rhannau o Eglwys Esgobol America yn anhapus hefyd. Yn 2003 rhybuddiodd yr archesgobion Esgob Llywyddol yr Eglwys Esgobol y byddai cysegru Gene Robinson yn achosi “rhwyg yn neunydd y Cymundeb”.

Ymatebodd y rhai a oedd wedi dadlau o blaid y camre hyn yn America a Chanada fel a ganlyn:

  1. Nid oeddynt wedi troi eu cefn ar yr ysgrythur. Yr oedd yr ysgrythur yn ganolog iddynt, ac yn awdurdodol, ond yr oedd angen ei dehongli yn ei chefndir diwylliannol. Nid oedd ond ychydig o destunau yn ymwneud â gwrywgydiaeth, ac nid oedd hyd yn oed y rheini yn ymwneud yn benodol â gwrywgydiaeth, ond yn hytrach â materion ehangach megis halogi goruchafiaeth y gwryw trwy roi gwryw arall yn lle benyw. Delio y mae gwaharddiadau Paul â dynion gwahanrywiol yn cyfathrachu â phuteiniaid gwryw y temlau, yn hytrach nag â gwrywgydiaeth fel y cyfryw. Nid yw’r ysgrythur yn ateb y math o gwestiynau a ofynnir yn ein byd heddiw, am nad oedd y cysyniadau o dueddiad gwrywgydiol, hunaniaeth a pherthynas gariadus rhwng pobl o’r un rhyw yn bod yn y ganrif gyntaf. Ymhellach, os awdurdod yr ysgrythur sydd dan sylw, nid oes gan Iesu ei hun ddim i’w ddweud am wrywgydiaeth, ond y mae ganddo lawer i’w ddweud ar briodi ac ysgaru, ac fe dderbynnir mewn llawer talaith ail-briodi yn yr eglwys rai a ysgarwyd. Iddynt hwy, uchafbwynt stori’r Beibl oedd y sylweddoliad mai cariad yw prif nodwedd Duw, ac yr oedd gweinidogaeth Iesu yn estyn allan at y rhai a oedd ar ymylon cymdeithas a’r gorthrymedig. Erbyn heddiw, hoywon y byd yw’r bobl hynny. A ddylai’r eglwys gondemnio carfan gyfan o bobl am rywbeth sy’n nodwedd ar eu personoliaeth nad oes ganddynt hwy unrhyw ddewis ynglŷn â hi?
  2. Gyda golwg ar Lambeth 1:10 , cynnig ydoedd, ac er bod i’r cynnig awdurdod moesol, nid oedd iddo unrhyw rym cyfreithiol, ac ni thrinid yn yr un modd bob un o’r cynigion eraill a basiwyd yn Lambeth, gan gynnwys gwahardd rhai gwahanrywiol rhag cynnal perthynas rywiol y tu allan i briodas. Er nad oedd cynnig Lambeth 1:10 yn “cynghori cyfreithloni na bendithio priodasau un-rhyw”, ystyrid bod hynny’n wahanol iawn i gondemnio’n chwerw bobl a wnâi hynny a bygwth eu gwahardd o’r Cymundeb. Yr oedd yn sicr lai o gydymdeimlad yn y penderfyniad ar Wrywgydiaeth a wnaed yn 1998 nag mewn penderfyniadau blaenorol ar y pwnc, a datganai Lambeth 1:10 hefyd fod “angen gwrando ar brofiad pobl hoyw a’u sicrhau bod Duw yn eu caru, a bod angen gweinidogaethu iddynt yn fugeiliol”. Pwysleisir nad yw hynny wedi digwydd mewn rhai taleithiau, ac mewn rhai rhannau o’r byd bu’r eglwys yn annog eu herlid a hyd yn oed eu dienyddio gan y wladwriaeth
  3. Nid yw America a Chanada yn ystyried eu bod yn dilyn agenda ryddfrydol. Yn y Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol yn Nottingham yn 2005 dywedodd yr Archesgob Rowan: “Os un safbwynt yw bod eglwysi’r Gogledd wedi ymwerthu i ddiwylliant yr oes, safbwynt arall yw eu bod yn ymwybod â sut y bu’r eglwys yn y gorffennol yn gorthrymu lleiafrifoedd ac yn defnyddio’r Beibl i gyfiawnhau pethau drwg. Bu newid aruthrol yn y ddealltwriaeth gyffredinol o weithgaredd rhywiol. A ellir clywed yr Efengyl mewn byd o’r fath os yw hi’n glynu at ddulliau o ddeall rhywioldeb nad oes ganddynt unrhyw berthynas â’r hyn a gredir gan y bobl yr ymddengys mai hwy yw pobl fwyaf cyfrifol ein diwylliant?” Mewn geiriau eraill, mae’r ddealltwriaeth o rywioldeb wedi symud ymlaen, a rhaid i safbwyntiau diwinyddol newid i gyfateb i’r canfyddiadau newydd.

Dywedodd Esgob Llywyddol Eglwys Esgobol UDA ar y pryd iddo rybuddio ei eglwys o ganlyniadau posibl ordeinio Gene Robinson, ond yr oedd Gene Robinson wedi ei ethol yn ganonaidd, ac unwaith y cymeradwywyd hynny gan yr esgobaethau, nid oedd ganddo ddewis ond ei ordeinio.

Felly, y mae sefyllfa anodd rhwng gwahanol garfannau yn y Cymundeb gyda golwg ar faterion rhywioldeb, dehongli’r ysgrythur a rôl penderfyniadau Cynhadledd Lambeth. Ni ddylid gweld hyn yn syml fel brwydr rhwng y Gorllewin a’r De. Y mae Awstralia a Seland Newydd yn y De, ac nid ydynt hwy o blaid yr eglwysi a ystyrir fel rheol yn eglwysi deheuol. Y mae rhannau o Eglwys America nad yw’n cytuno â’r hyn a ddigwyddodd yno. Y mae rhannau o dalaith De Affrica yn anghytuno â thaleithiau Affricanaidd eraill. Yn wir, y mae gwahaniaethau barn o fewn taleithiau, esgobaethau a phlwyfi, ac ymgynghreiriodd gwahanol garfannau â charfannau eraill o’r un feddwl ledled y byd.

Nid oes amheuaeth nad yw pethau’n chwerw yn y Cymundeb. Bu archesgobion yn dadlau yn erbyn ei gilydd, ac yn gwrthod derbyn cymundeb y naill gan y llall, nac yn wir oddi ar yr un bwrdd cymun; bu archesgobion yn ymyrryd yn nhaleithiau ei gilydd, a phenododd o leiaf dri archesgob esgobion i daleithiau eraill i gynnig gofal bugeiliol i’r rhai hynny sy’n anfodlon â’u hesgob neu eu harchesgob eu hunain. Arweiniodd hyn oll at gwerylon chwerw yn yr Eglwys Esgobol ynglyn ag eiddo.

Rhaid dweud hefyd fod y rhaniadau sydd yn eglwys America yn adlewyrchu i ryw raddau yr hyn sy’n digwydd ar lwyfan y byd. I ryw raddau hefyd, y mae yma frwydro am rym, gydag eglwysi yn Affrica yn adweithio yn erbyn yr hyn y maent yn ei ystyried yn feddylfryd trefedigaethol yr Eglwys Esgobol, sy’n dilyn ei hagenda ei hun yn y byd, yn debyg i fel y gwna llywodraeth UDA, heb ystyried y canlyniadau. Canlyniad hyn oll fu i’r archesgobion ofyn i eglwysi America a Chanada dynnu’n ôl eu cynrychiolwyr o’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol a’i holl bwyllgorau. Gofynnwyd iddynt hefyd, yng Nghyngor Anglicanaidd Ymgynghorol 2005 yn Nottingham, gyfiawnhau eu penderfyniadau yn ddiwinyddol, a pheidio â’u hailadrodd. Ymhellach, fe ofynnodd Comisiwn Windsor – comisiwn a benodwyd gan Archesgob Caer-gaint i edrych i mewn i’r materion hyn, ac yr oeddwn i yn aelod ohono – iddynt ymateb i gasgliadau adroddiad y comisiwn, a geisiai egluro’r mannau o anghytundeb ac a ofynnai am ymateb i rai cwestiynau. Gofynnwyd hefyd i Eglwys Esgobol UDA ymddiheuro. Cymeradwyodd yr archesgobion y gofynion hyn gan Gomisiwn Windsor. Gofynnwyd i grŵp bychan yr oeddwn i yn aelod ohono, ymateb i atebion yr Eglwys Esgobol.

Daeth y grŵp i’r casgliad fod Eglwys Esgobol America wedi cymryd adroddiad Windsor o ddifrif a bod ei Chymanfa Gyffredinol wedi ymateb yn gadarnhaol at ei gilydd. Cytunodd y Gymanfa y dylai “esgobion eu cyfyngu eu hunain i beidio â chytuno i gysegru’n esgob unrhyw ymgeisydd y byddai ei ddull o fyw yn herio’r eglwys ehangach ac yn arwain at straen bellach ar y Cymundeb”. Roedd hyn yn symudiad daeargrynfaol oddi wrth ei safbwynt yn 2003, pan gytunodd yr esgobion i gysegru Gene Robinson. Cytunodd y Gymanfa i beidio â gwneud peth o’r fath eto. Fodd bynnag, er iddi wrthod cymeradwyo nifer o gynigion yn awdurdodi bendithio priodasau un-rhyw, ac er i esgobion yr Eglwys Esgobol yn 2005 addo peidio ag awdurdodi unrhyw wasanaethau cyhoeddus ar gyfer hynny, fe fendithir y priodasau hyn yn rhai o esgobaethau’r Eglwys. Datganodd y Gymanfa Gyffredinol ei gofid hefyd am osod straen ar gwlwm brawdgarwch ac ymddiheurodd i’r rhai hynny yn y Cymundeb a ddigiwyd gan ei methiant i ystyried yn ddigonol effaith ei gweithgaredd ar rannau eraill o’r Cymundeb. Gofynnodd hefyd am faddeuant. Daeth ein grŵp ni i’r casgliad “fod yma eiriau o ymddiheuriad a gofid a chais am faddeuant. Nis gwnaed yn ysgafn, ac ni ddylid eu derbyn yn ysgafn”.

Teimlai’r grŵp, felly, fod yr Eglwys Esgobol wedi ateb gofynion yr archesgobion, at ei gilydd, wrth ymateb i Gomisiwn Windsor. Fodd bynnag, yn eu cyfarfod yn Tanzania eleni, teimlai’r archesgobion fod yna ddiffyg eglurder ynglŷn â’i safbwynt ar awdurdodi bendithio priodasau un-rhyw, ac nad oedd datganiadau’r Gymanfa Gyffredinol yn cyfateb i’r hyn sy’n digwydd yn yr esgobaethau, a gofynasant am sicrwydd y deuai pob bendithio o’r fath i ben erbyn 30 Medi.

Dywedodd yr archesgobion hefyd eu bod am sefydlu cyngor bugeiliol i weithredu ar eu rhan, mewn ymgynghoriad â’r Eglwys Esgobol, i osod strwythurau ar gyfer gofalu’n fugeiliol am y rhai hynny yn Eglwys Esgobol America yr oedd eu perthynas â’u hesgobion wedi methu. Byddai’n rhaid hefyd penodi ficer archesgobol at y pwrpas hwn.

Fodd bynnag, gwrthododd Tŷ Esgobion yr Eglwys Esgobol y cais am ficer archesgobol a chyngor bugeiliol am y byddai’r pethau hyn yn mynd yn groes i Gyfansoddiad a Chanonau’r Eglwys. O ganlyniad, y mae Pwyllgor Sefydlog yr Archesgobion (ac yr wyf yn aelod o hwnnw hefyd) a Phwyllgor Gwaith y Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol, ynghyd ag Archesgob Caer-gaint, yn mynd i America yfory i siarad â Thŷ’r Esgobion.

Dyna’r cefndir. Yr anhawster sylfaenol i’r archesgobion yw eu bod yn ystyried ymateb yr Eglwys Esgobol i ofynion Windsor, a’r modd y gwrthododd y gofal bugeiliol a awgrymwyd ganddynt, yn annigonol. Yr oedd adroddiad Windsor hefyd o blaid sefydlu Cyfamod ar gyfer y Cymundeb i ail-sefydlu bywyd cyd-ddibynnol y Cymundeb ac i sicrhau bod pob talaith yn sylweddoli y gall unrhyw gam a gymerir ganddi effeithio ar fywyd yr eglwys ehangach. Yr wyf yn awr am sôn am y syniad hwn o Gyfamod.

Fel y dywedais, yr oeddwn yn aelod o Gomisiwn Windsor. Yr oeddwn o blaid Cyfamod, ac rwy’n dal o blaid. Y math o Gyfamod a ragwelwn oedd yr un a amlinellais i chwi yn fy Anerchiad Llywyddol i’r Corff Llywodraethol hwn ym mis Medi 2006, pan ddywedais na fyddwn yn gwrthwynebu Cyfamod a fyddai’n ein hatgoffa ein bod yn atebol y naill i’r llall ac yn dibynnu y naill ar y llall, ac y gall fod effeithiau ehangach i unrhyw gamre a gymerwn ar ein liwt ein hun. Ni fyddai gennyf unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i Gyfamod ychwaith. Y mae gennym eisoes Gyfamodau gyda’n partneriaid eciwmenaidd, ac y mae Datganiad Pedrochrog Lambeth hefyd yn fath o Gyfamod lle y mae’r taleithiau Anglicanaidd yn derbyn awdurdod yr ysgrythur, y credoau, y ddau sacrament a awdurdododd ein Harglwydd a’r esgobaeth hanesyddol. Gadewch imi eich hatgoffa o’r math o Gyfamod a oedd gennyf mewn golwg.

  • Cyfamod a fyddai’n datgan ymrwymiad i’r gymdeithas o eglwysi sy’n ffurfio’r Cymundeb Anglicanaidd ac yn amcanu at fyw ar y lefel uchaf posibl o gymundeb.
  • Cyfamod a fyddai’n datgan ei fod mewn cymundeb ag Esgobaeth Caer-gaint ac yn cynnal a lledaenu’r Ffydd hanesyddol a’r Drefn a sefydlwyd yn y Llyfr Gweddi Gyffredin.

Y mae globaleiddio a chyfathrebu ar y pryd wedi newid natur ein byd a’n heglwys, a gall digwyddiad mewn un dalaith effeithio ar daleithiau eraill er gwell neu er gwaeth. Byddai Cyfamod yn gosod allan ein cyd-ddibyniaeth yn ein hatgoffa ni i gyd o’r ffaith hon.

Yn y cyfamser, bu Grŵp Cynllunio yn gweithio ar lunio Cyfamod ar gyfer y Cymundeb, ac yr ydym ni yng Nghymru, trwy’r Fainc a’r Pwyllgor Sefydlog, wedi cynhyrchu er eich mwyn y Datganiad hwn sy’n nodi’r broses a ddilynwyd ac yn addo rhoi ystyriaeth fanwl i destun terfynol y Cyfamod pan fydd yn barod. Pam yr ydym yn bod mor ochelgar? A pham yr ydym yn eich annog chwithau i fod yn ochelgar? Nid oedd yn rhaid i’r Fainc, ar hyn o bryd, ddod ag unrhyw gynnig gerbron y Corff Llywodraethol hwn. Ni ofynnir am gymeradwyaeth synodaidd i’r ddogfen sydd gerbron. Y cwbl a ofynnir i bob talaith yw ei bod yn ymateb i’r drafft o’r testun yn y modd a fynno. Fodd bynnag, er bod gennym ymateb oddi wrth grŵp a sefydlwyd gan y Fainc a’r Pwyllgor Sefydlog, teimlem y dylem ddwyn y mater i’ch sylw, fel y byddwch yn gwybod beth sy’n cael ei wneud yn eich enw ac y galloch wneud sylwadau ar hynny.

Yr hyn yr wyf am ei wneud yn awr yw siarad yn agored am fy safbwynt personol fy hun. Teimlaf fod anogaeth imi wneud hynny yng ngeiriau’r Archesgob Rowan pan ddywedodd mewn anerchiad yn ddiweddar fod yna “sialens i’r Eglwys i ddangos ei bod yn wir yn lle diogel i bobl fod yn onest”. Gadewch imi ddweud eto mai’r hyn a ofynnir gennym yw ein bod yn cymeradwyo nid Cyfamod gwirioneddol ond yr egwyddor o Gyfamod, a rhag bod unrhyw amheuaeth, nid oes gennyf unrhyw anhawster gyda hynny. Ymhellach, cyn cymeradwyo unrhyw Gyfamod terfynol, bydd yn rhaid i’r Corff Llywodraethol hwn ei archwilio’n fanwl. Gall y Corff Llywodraethol ei gymeradwyo neu ei wrthod. Yr wyf o’r farn, fodd bynnag, fod y Grŵp Cynllunio wedi dangos yn glir yn y ddogfen a gynhyrchwyd pa fath o Gyfamod sydd ganddo mewn golwg, a dyma’r lle y mae clychau rhybudd yn dechrau canu.
Mae’n amlwg, os ydym yn cymeradwyo’r syniad o Gyfamod, y bydd arnom angen gweld yn union beth sy’n cael ei gynnig, a bod y ddadl o blaid y cynnwys yn ein hargyhoeddi, cyn y gallwn gytuno i’w dderbyn. Mae hynny’n gwbl glir, oherwydd fe fydd i Gyfamod oblygiadau cyfansoddiadol i ni fel Eglwys. Ni ofynnir inni wneud hyn ar hyn o bryd. Yn ddiweddarach y daw hynny.

Yr ofn sydd gennyf, fodd bynnag, yn syml ddigon, yw bod y drafft hwn yn enghraifft o’r math o Gyfamod a all gael ei gyflwyno. Er ei fod yn gosod allan yn gyffredinol sut y dylem ymddwyn at ein gilydd, a bod llawer ohono’n ddi-fai, fe ymddengys hefyd ei fod yn gytundeb y mae ei amodau yn glir ac yn orfodol, a phe na baem yn eu cadw byddai’n rhaid inni ein hesbonio ein hunain i’r archesgobion. Gallent hwythau wedyn ein ceryddu fel talaith neu ystyried ein bod wedi ein gwahardd ein hunain o’r Cymundeb trwy beidio â chadw amodau’r Cyfamod. Mewn gair, byddem wedi symud oddi wrth berthynas o ras, sef ystyr Feiblaidd Cyfamod, at gysyniad o gontract, ac os ystyrid ein bod wedi torri’r contract hwnnw fe allem ein cael ein hunain y tu allan i’r berthynas o Gyfamod. Yn y Beibl, er ei bod yn wir fod ei bobl, yn eu perthynas â Duw, yn ei siomi’n aml, fe ystyrir o hyd mai ei bobl ef ydynt. Nid yw pobl Dduw byth yn eu gosod eu hunain y tu allan i berthynas gariadus ei Gyfamod ef â hwy. Er nad yw’r ddogfen hon yn sôn dim am wahardd neb, dywed y paragraff olaf ond un: “Yn yr amgylchiadau mwyaf eithafol, lle bo eglwysi sy’n aelodau yn dewis peidio â chyflawni sylwedd y Cyfamod fel y deellir ef gan gynghorau Offerynnau’r Cymundeb, byddwn yn ystyried bod yr eglwysi hynny wedi bwrw o’r neilltu trostynt eu hunain rym ac ystyr y Cyfamod, a bydd angen proses o adfer ac adnewyddu i ail-sefydlu’r berthynas gyda’r eglwysi eraill sy’n aelodau”. Dyna ffordd gyfrwys o wahardd pobl. Os nad ydym yn cadw amodau’r Cyfamod, fe ystyrir ein bod wedi ein gwahardd ein hunain o’r Cymundeb, a chyn y gellir ein hadfer fe fydd yn rhaid inni fodloni gweddill y Cymundeb, neu o leiaf yr archesgobion neu Offerynnau’r Cymundeb. Dyna ddangos yn glir pa fath o Gyfamod sydd gan y Grŵp Cynllunio hwn a’r archesgobion mewn golwg. Mae’n debycach i gontract a chanddo gymalau cosb nag i Gyfamod sy’n berthynas o ras.

Er bod Grŵp Cynllunio’r Cyfamod yn dweud nad yw’n cynnig dim byd newydd, sonia’r testun am yr angen am “ymrwymiad clir yn y rhannau hynny o’r ffydd Anglicanaidd a achosodd y gofid mwyaf yn dilyn digwyddiadau diweddar”. Mae’n amlwg mai cyfeiriad yw hwn at fater rhywioldeb dynol. Mae’r un paragraff yn mynd rhagddo i ddweud y dylai pob eglwys “gynnal gwerthoedd moesol a seiliwyd ar y Beibl”. Nid yw’n dweud beth yw’r gwerthoedd hynny na phwy sy’n eu diffinio. Ond o gofio beth sydd wedi bod yn digwydd yn y Cymundeb, mae’n amlwg mai cyfeiriad sydd yma at rywioldeb. Ymddengys fod hynny’n gosod moesoldeb rhywiol, a ddehonglir mewn un ffordd benodol, wrth galon yr hyn a allai achosi cael eich gwahardd o’r Cymundeb. Mewn geiriau eraill, nid yw Datganiad Pedrochrog Lambeth (yr ysgrythur, y credoau, y sacramentau a’r esgobaeth hanesyddol) yn ddigon bellach i ddangos eich bod yn Anglican. Mae’n rhaid hefyd wrth safbwynt penodol ar rywioldeb dynol. Mae hynny’n dibrisio’r ysgrythur trwy gyfyngu ei gwerthoedd moesol i’r hyn y gall ei bod yn ei ddweud ar berthynas rywiol, ac yn troi’r Beibl i fod yn rhyw fath o lyfr rheolau lle y gellir rhwygo testunau allan o’u cyd-destun.

Yn ôl y ddogfen hon, os oes materion yn peri pryder mawr gyda golwg ar gadw’r Cyfamod, penderfynir arnynt gan yr archesgobion. Y mae llawer o anawsterau yma. Yn gyntaf, dim ond unwaith bob deunaw mis y bydd yr archesgobion yn cyfarfod. Yn ail, nid oes ganddynt mo’r adnoddau gweinyddol a diwinyddol wrth law i ddatrys anghytundebau. Nid yw hon ychwaith yn ffordd synodaidd o lywodraethu’r Eglwys, oherwydd y mae archesgobion, o angenrheidrwydd, yn ordeiniedig ac, at ei gilydd, yn ddynion, ac yn hynafgwyr. Y mae hefyd yn newid natur y Cymundeb Anglicanaidd. Yn lle llywodraeth daleithiol, bydd haen newydd o lywodraeth a deddfwriaeth wedi’i chanoli.

Mi wn fod y drafft yn datgan “na fydd gan Offerynnau’r Cymundeb unrhyw awdurdod cyfreithiol na gweinyddol yn ein taleithiau ac nid oes unrhyw fwriad i ddarostwng taleithiau dan awdurdod cyfarfod yr archesgobion”. Ond, yn ymarferol, dyna’n union fyddai’n digwydd. Nid wyf yn siŵr fod pob un o’r archesgobion yn deall ymreolaeth gyfansoddiadol taleithiau’r Cymundeb.

Fe fydd oblygiadau cyfansoddiadol amlwg i ni fel Eglwys, gan y gellid gofyn inni ufuddhau i benderfyniadau’r archesgobion, a byddai hynny’n newid natur Yr Eglwys yng Nghymru a’i hymreolaeth daleithiol. Y mae ein Cyfansoddiad yn rhoi i’r Corff Llywodraethol yr awdurdod i ffurfio erthyglau newydd, a datganiadau athrawiaethol a ffurfwasanaethau. Pe baem yn gwneud datganiad athrawiaethol a oedd, ym marn yr archesgobion, yn groes i’r Cyfamod, gallem gael ein ceryddu. Nid yw’n glir ychwaith a fyddai’n bosibl apelio, neu apelio yn erbyn camddefnyddio grym. Yn lle llywodraeth leol, synodaidd, fe geid llywodraeth bell, anatebol a phreladaidd. Fe all eich bod yn meddwl fy mod yn baranoiaidd, ond y mae gennyf ofnau gwirioneddol ynglŷn â hyn, am fod yr archesgobion eisoes wedi dangos y math o rym yr hoffent ei ymarfer. Gadewch imi fanylu.

Y maent eisoes wedi gweithredu y tu hwnt i’w hawdurdod. Yr oedd adroddiad Windsor wedi gofyn i’r Eglwys Esgobol roi rhesymau paham y penderfynodd ordeinio Gene Robinson, ac ymddiheuro i’r Cymundeb. Yn Dromantine yn 2005, aeth yr archesgobion ymhellach, a gofyn i’r Eglwys Esgobol ac Eglwys Canada ymneilltuo o’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol ac o Gynghorau’r Cymundeb. Nid oedd ganddynt hawl i wneud hynny, fel y nododd Cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol. Yn 2007, yn Tanzania, ar ôl i Gymanfa Gyffredinol yr Eglwys Esgobol ymateb – yn gadarnhaol, at ei gilydd, ym marn grŵp a sefydlwyd i ystyried yr ymateb – i ofynion Comisiwn Windsor, nid oedd yr archesgobion mor siŵr. Yr oeddent am sefydlu cyngor bugeiliol a ficer archesgobol, er bod Comisiwn Windsor wedi derbyn cynllun yr Eglwys Esgobol ei hun o arolygiaeth esgobol ddirprwyedig ar gyfer anghenion bugeiliol y rhai hynny a oedd yn anghytuno â’r Gymanfa Gyffredinol. Yn y ddau achos hwn, felly, fe ofynnodd yr archesgobion am fwy nag y gofynnodd Comisiwn Windsor na’r grŵp yr oedd archesgobion yn aelodau ohono. Newidiodd y grŵp archesgobion, a sefydlwyd yn 1978 i gael amser “i feddwl yn hamddenol, i weddïo ac i ymgynghori’n ddwfn” i fod yn gorff yr ymddengys ei fod yn gwneud argymhellion y mae iddynt nodweddion gorchmynion. Tynnodd Y Canon Sedgwick sylw at y Fatican, pan ymosododd lluoedd yr Eidal arni yn 1870, yn ymateb trwy ddwyn gerbron athrawiaeth anffaeledigrwydd. Hynny yw, arweiniodd bygythiad at ganoli. Mewn argyfwng ynglŷn â rhywioldeb, y perygl yw i’r Cymundeb Anglicanaidd ymateb trwy sefydlu math o curia o archesgobion.

At hyn, y mae tri archesgob wedi ordeinio esgobion i ymarfer ‘arolygiaeth fugeiliol’ yng Ngogledd America, a chymeradwywyd hynny gan bedwerydd archesgob, sy’n Gadeirydd Grŵp Cynllunio’r Cyfamod, a ddywedodd y gallai cysegru’r esgobion hyn arwain “at greu presenoldeb Anglicanaidd hyfyw, sefydlog ac uniongred yn Unol Daleithiau America”. Hyd yn hyn, fe ystyriai’r Cymundeb fod ymyrryd ym materion mewnol talaith arall yn gwbl annerbyniol. Mae adroddiad Windsor yn condemnio peth o’r fath, fel y gwnaeth penderfyniadau blaenorol o Lambeth. Er i’r archesgobion a gyfarfu yn Tanzania gondemnio’r peth hefyd, yr oeddent fel pe baent yn derbyn na allai rhai archesgobion ymatal rhag gweithredu fel hyn nes gwneir darpariaeth ddigonol ar gyfer y rhai hynny a ystyrir yn Anglicaniaid ffyddlon yng Ngogledd America. Y mae hyn yn llwyr danseilio ffurflywodraeth y dalaith dan sylw ac eglwysoleg Anglicanaidd yn gyffredinol (pe bai’n digwydd yn y dalaith hon, byddem yn ei ystyried yn annerbyniol), ond ymddengys fod yr archesgobion yn barod i’w oddef. Yn eu dwylo hwy y bydd gweithredu’r Cyfamod. Eto, fe ymddengys eu bod yn goddef ‘torri rhwymau brawdgarwch’ mewn modd sylweddol iawn gan rai o’u plith. Fel y dywedasant mewn cynhadledd i’r wasg yn Tanzania, “Cred y rhai a fu’n ymyrryd y byddai’n anaddas dwyn yr ymyrraeth i ben nes bod newid yn yr Eglwys Esgobol”. Ânt ymlaen i gynnig strategaethau bugeiliol, gyda chyngor bugeiliol a ficer archesgobol i fod yn eu lle cyn diwedd Medi. Fe all yr ataliai hynny ymyrraeth o du archesgobion unigol, ond byddai’n glamp o ymyrraeth gan yr archesgobion fel corff ym materion yr Eglwys Esgobol. A hyn i gyd cyn i’r Cyfamod hyd yn oed gael ei dderbyn.

Fe aeth yr archesgobion yn Tanzania ymhellach fyth. “Ni chyfyngwyd anghenion bugeiliol,” meddent, “i’r Eglwys Esgobol yn unig. Hyd oni sicrheir Cyfamod, fe all y bydd yn addas i Offerynnau’r Cymundeb ofyn am ddefnyddio’r cynllun hwn neu gynllun tebyg mewn cyd-destunau eraill, os bydd angen”. Hynny yw, fe allai’r archesgobion ymyrryd fel y mynnent mewn unrhyw dalaith nes bod Cyfamod wedi’i sefydlu, ac ymyrryd wedyn, wrth gwrs, pe baent yn ystyried fod unrhyw dalaith wedi torri amodau’r Cyfamod. Nid rhyfedd i’r Eglwys Esgobol wrthod gofynion o’r fath. Mewn ymgais i wneud heddwch, fodd bynnag, fe ddywedodd hyn: “Er y byddai’r cynllun bugeiliol a gynigiwyd yn peri niwed i’r Eglwys Esgobol, ymrwymwn i chwilio am ffyrdd a fydd yn gydnaws â’n ffurflywodraeth a’n canonau ni ein hunain i gwrdd â phryderon bugeiliol yr archesgobion”. Hyd yn oed cyn sefydlu Cyfamod, felly, y mae’r archesgobion yn gosod terfynau a gorchmynion. Beth fyddai’n digwydd pe bai Cyfamod yn bod?

Dengys y modd y deliodd yr archesgobion â’r Eglwys Esgobol sut y byddent am i’r Cyfamod weithio. Gofynnir i’r Eglwys Esgobol “wneud Cyfamod cyffredin a digamsyniol na fydd yr esgobion yn awdurdodi unrhyw wasanaeth bendithio priodasau un-rhyw yn eu hesgobaethau, a bod y penderfyniad a basiwyd yn y Gymanfa Gyffredinol yn golygu na chydsynnir i ordeinio i urdd esgob unrhyw ymgeisydd sy’n byw gyda phartner o’r un rhyw”, ac i ymateb erbyn 30 Medi. Â’r archesgobion ymlaen i ddweud: “Oni all Tŷ’r Esgobion roi sicrwydd o hyn, mewn cydwybod dda, deil y berthynas â’r Eglwys Esgobol ar y gorau’n ddrylliedig, ac y mae i hyn ganlyniadau gyda golwg ar gyfranogaeth lawn yr Eglwys ym mywyd y Cymundeb”.

Bydd testun unrhyw Gyfamod arfaethedig yn mynd gerbron Cynhadledd Lambeth y flwyddyn nesaf, a’r ofn sydd gennyf yw y gall yr hyn a ddigwyddodd yn 1998 ddigwydd eto yn 2008. Cyn inni sylweddoli beth sy’n digwydd, fe allai’r Cyfamod ddod yn Lambeth 110 newydd, yn orfodaeth foesol ar bob talaith, er nas cymeradwywyd ef ond trwy fwyafrif o blith yr esgobion. Dywedodd rhai archesgobion na fyddant yn dod i Lambeth os na thynnir yn ôl y gwahoddiadau a anfonwyd i’r esgobion a gysegrodd Gene Robinson. Nid ydynt yn barod i ddod i drin a thrafod gyda’r rhai sy’n anghytuno â hwy. Ymddengys i mi fod hynny’n gwadu union natur Anglicaniaeth. Galwyd cynhadledd gyntaf Lambeth yn 1867, am y credid fod yr Esgob Colenso yn dal safbwynt anuniongred ar ddamnedigaeth dragwyddol. Ni wrthododd yr un esgob ddod am fod Colenso wedi’i wahodd, ac ni roddwyd i Colenso unrhyw gerydd. Yr oedd hi gynt yn bosibl i Anglicaniaid ddal amrywiaeth o safbwyntiau ar bob math o bynciau, a chynnal trafodaeth iachus ar y gwahaniaethau rhyngddynt. Os oes gennym ni fel Eglwys neges o gymod i’n byd, a’n bod yn annog ein harweinwyr i gyfarfod â’i gilydd a thrafod, sut y gallwn wneud hynny yn onest pan fo rhai o’n haelodau ni ein hunain yn anfodlon gwneud yr union beth, a hyd yn oed yn sôn am gynnal Lambeth sblit? Nid yw ymddygiad rhai o’r archesgobion, felly, yn fy ngwneud yn obeithiol ynglŷn ag ymddiried iddynt y gwaith o ddehongli a gweithredu amodau’r Cyfamod. Ymddengys bod rhai ohonynt yn annog meddylfryd o dorri perthynas pan â pethau’n anodd, yn hytrach na gweithio ar y berthynas.

At hyn, bwysiced ag ydyw rhywioldeb dynol, a gadewch inni dderbyn am funud y gall ei fod yn fater o athrawiaeth, fel y myn Eglwys Canada, nid yw yn fater o gred nac yn fater i rwygo’r Cymundeb. Ond felly yn union yr ystyrir ef gan lawer o’r archesgobion, ac y maent yn benderfynol nad oes ond un dehongliad ysgrythurol posibl ar y pwnc.

Eto i gyd, datganodd Anglicaniaeth glasurol bob amser nad oes unrhyw ffynhonnell anffaeledig o wirionedd diwinyddol. Mae lle i’r ysgrythur, traddodiad a rheswm, ac arweiniodd y gyd-ddibyniaeth rhwng y tri pheth at ganfyddiadau newydd. Fel y dywedodd Richard Hooker, “Mae gan yr eglwys yr awdurdod i sefydlu yn drefn ar un cyfnod yr hyn y gall ei ddiddymu mewn cyfnod arall, a gwneud yn dda y naill dro a’r llall”. Fodd bynnag, fel y dangosodd Undeb yr Eglwyswyr Cyfoes, y mae symudiad oddi wrth y dull hwn o ddiwinydda at safbwynt lle y mae’r datguddiad dwyfol sydd yn yr ysgrythur i gael ei dderbyn yn ddigwestiwn, “Gan fod y datguddiad yn llawn ac wedi’i etifeddu o’r gorffennol, ni all fod unrhyw ddatguddiad newydd. Pan adwaenir y datguddiad i sicrwydd, y mae’r sawl sy’n anghytuno yn sicr yn anghywir”. Nid oes dim gwerth, felly, mewn meddwl yn greadigol, nac mewn ceisio gwybodaeth newydd o ffynonellau eraill. Ni all ymchwilio genetig na ffisiolegol na seicolegol i’r ogwydd at wrywgydiaeth ychwanegu dim at na thynnu dim oddi wrth y datguddiad dwyfol ynglŷn â gwrywgydiaeth a roddwyd eisoes yn y Beibl. Fe roddwyd hwnnw unwaith am byth, a’r awgrym yw na ellir ei ail-archwilio. Nid oes yma ddim awgrym mai trwy feddyliau dynol ffaeledig y cyfryngir y datguddiad dwyfol, na dim awgrym ychwaith fod newid yn bosibl, fel y bu’n bosibl ar bynciau megis caethwasiaeth, esblygiad, ail-briodi ar ôl ysgaru a safle a gwerth merched mewn cymdeithas – y cyfan yn bynciau y llefarodd y Beibl yn bendant ddigon amdanynt wrth ein hynafiaid, ond yr ydym ni heddiw yn eu dehongli’n wahanol.

Y mae gwahaniaeth rhwng cymryd y Beibl o ddifrif a’i gymryd yn llythrennol neu ystyried ei fod yn anffaeledig. Y mae llyfrau’r Beibl yn ymateb ysbrydoledig i ddatguddiad, ond ffaeledig yw’r ymateb, ac nid yw’r ymateb yn gyfystyr â’r datguddiad, oherwydd, a dyfynnu un diwinydd, “trwy eiriau dynion y daw gair Duw atom”.

Cyfyd hyn oll gwestiwn am le arloesi diwinyddol. Dengys hanes Cristnogaeth ac Anglicaniaeth fel ei gilydd mai’r hyn sy’n tueddu i ddigwydd yw bod un rhan o’r eglwys yn arloesi, a gweddill yr eglwys yn dilyn maes o law. Bedyddiodd Pedr dylwyth cenhedlig Cornelius heb ofyn i neb. Dim ond wedyn, yng Nghyngor Jerwsalem, y penderfynodd yr eglwys fore y gallai Cenedl-ddynion ddod yn Gristnogion heb ddod gyntaf yn Iddewon. Digwyddodd peth tebyg mewn Anglicaniaeth gyda golwg ar ordeinio merched. Fe wnaeth rhai taleithiau hynny, ac er iddynt ddal i sgwrsio â thaleithiau eraill, a dal mewn cymundeb â hwy, ni ofynasant am eu caniatâd. Gallai’r math hwn o Gyfamod ddiffodd pob newid a datblygu ac arloesi diwinyddol.

Dyna pam fod y cynnig yn dweud ein bod yn nodi hyn oll – nid ein bod yn ei groesawu’n frwdfrydig, nac ychwaith, fel y gwnaeth Eglwys Loegr, yn “datgan ein parodrwydd i ymrwymo’n gadarnhaol i argymhellion yr archesgobion parthed y broses a gynlluniwyd i gynhyrchu Cyfamod”. Mae arnaf ofn mai’r dehongliad hynny fyddai ein bod yn derbyn, nid yn unig y syniad o Gyfamod, ond hefyd y drafft o Gyfamod sydd gennym oddi wrth y Grŵp Cynllunio. Er bod y Grŵp Cynllunio yn dweud y bydd testun terfynol y gofynnir i bob talaith benderfynu arno, fe gaiff y ffaith fod Eglwys Loegr wedi pasio’r fath benderfyniad ei defnyddio gan rai i ddadlau ei bod hi wedi cymeradwyo’r holl beth mewn egwyddor, a bod unrhyw beth sy’n ddigon da i Eglwys Loegr yn ddigon da i’r gweddill ohonom.
Gellir casglu hefyd mai’r hyn sydd gan y Grŵp Cynllunio mewn golwg yw mân newidiadau. Yn ei adroddiad i’r archesgobion ym mis Chwefror 2007, soniodd am “ymrwymo yn awr i ffurf sylfaenol y Cyfamod”, a gwahoddwyd yr archesgobion i “fynegi mesur addas o gytundeb â’r testun a’r bwriad i’w gaboli”. Mewn gair, nid yw’n rhagweld llawer o newid. Felly, er na ofynnir inni wneud dim ond cytuno â’r egwyddor o Gyfamod, fe all, oni fyddwn yn ofalus iawn, y cymerir yn ganiataol ein bod wedi derbyn sylwedd y drafft o Gyfamod hefyd.

Yn adroddiadau’r Wasg ar y ddadl yn Eglwys Loegr, fe ddisgrifiwyd y Cyfamod fel ‘côd disgyblu’, ‘wedi ei gynllunio i wahardd y rhai nad oeddent yn barod i ufuddhau’, ac fel ‘dull o orfodi trefn athrawiaethol’. Gall y wasg fod yn anghywir yn aml, ond nid yw’n anghywir bob amser. Mae’n ddiddorol hefyd nodi, pan gyflwynwyd y syniad o Gyfamod am y tro cyntaf gan Gomisiwn Windsor, fod traean taleithiau’r Cymundeb yn erbyn, ac er i draean arall dderbyn y peth mewn egwyddor gofynasant am gael trafod y dull y byddai’n gweithio’n ymarferol.

Ychydig sydd yn y Gyfraith Ganon ar sut y dylai taleithiau Anglicanaidd ymwneud â’i gilydd yn dilyn torri ymddiriedaeth. Rwy’n ofni ein bod yn ceisio datrys y broblem yn nhermau cyfraith, yn hytrach nag yn nhermau perthynas. Mae yna hefyd berygl o droi’r Cymundeb Anglicanaidd o fod yn deulu cytûn i fod yn deulu cyffes, lle y mae prawf aelodaeth i bawb, a gwaharddiad ar bawb sy’n anghydweld. Yn lle perthynas rhwng pobl sy’n gyfartal â’i gilydd, yr ydym yn symud tuag at sefyllfa lle y gellir ystyried fod taleithiau wedi eu gwahardd eu hunain o’r Cymundeb, er nad dyna eu bwriad, am nad ydynt yn barod i dderbyn dehongliad arbennig o’r ysgrythur ar bwnc arbennig. Rwy’n gofyn i chwi, felly, nodi’r broses hon, a dim arall – dim hyd yn oed ei derbyn, am fod arnaf ofn, fel y dywedais, y byddai ei derbyn yn cyfleu’r neges ein bod yn hapus, nid yn unig gyda’r egwyddor o Gyfamod, ond hefyd gyda’r drafft o’r Cyfamod ei hun. Mae grŵp Y Canon Sedgwick hefyd wedi rhestru ei amheuon. Gofynnaf i chwi dderbyn y rheini hefyd, a phasio’r cynnig hwn.

Yr oedd bwriad gwreiddiol y Cyfamod yn un da. Fe’i bwriedid, ac rwy’n dyfynnu, “I egluro hunaniaeth a chenhadaeth eglwysi’r Cymundeb Anglicanaidd, neu eglwysi sy’n gysylltiedig ag ef. Trwy ddatgan ein hunaniaeth eglwysolegol, bydd Cyfamod yn gymorth i’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol i’w ddeall ei hun ac i gynnal perthynas eciwmenaidd. Gall fod yn sylfaen ymddiriedaeth, cydweithrediad a gweithgaredd yn ein perthynas y naill a’r llall ac mewn perthynas â’r Cymundeb cyfan”. Rwy’n barod i arwyddo Cyfamod felly.

Ond beth bynnag am fwriad gwreiddiol y Cyfamod i gryfhau rhwymau brawdgarwch, ymddengys fod llawer bellach yn ei weld fel contract, dull o sicrhau safbwynt unffurf ar rywioldeb dynol, i’w orfodi trwy fygwth gwahardd o’r Cymundeb bawb sy’n anghydweld. Does arnaf i, yn sicr ddigon, ddim eisiau arwyddo Cyfamod felly.