Pregeth Dydd y Pasg – Eglwys Gadeiriol Llandaf, 2005

Y mae rhai’n credu mai seddau’r côr yw’r seddau gorau yn y Gadeirlan hon. Maent yn anghywir. Yng nghorff yr eglwys y mae’r seddau gorau, yn enwedig y rheini ar draws y Groesfan. Rwy’n dweud hynny o brofiad. Y mae’n rhaid imi yn aml eistedd yn y côr ond, o ddewis, pan drawaf i mewn i’r Gosber ar noson waith, byddaf yn eistedd yng nghorff yr eglwys, gan mai oddi yno y gellir gweld yn ei holl ogoniant ‘Majestas’ Epstein. Y drwg, wrth gwrs, yw ein bod mor gyfarwydd ag ef fel na sylwn arno.

Bu’r ddelw hon, mewn alwminiwm digabol ac yn un droedfedd ar bymtheg o uchder, o’r Crist atgyfodedig a dyrchafedig yn destun cryn siarad yn 1957 pan osodwyd hi ar silindr concrit cas yr organ, oherwydd y mae’n tra-arglwyddiaethu dros holl gorff yr eglwys. Hyd heddiw, y mae pobl naill ai’n ei charu neu’n ei chasáu. Ar un ystyr, y mae golwg angau ar ddelw Iesu: mae ei gorff mor hir a thenau a chul, ac mae’n ymddangos fel pe bai’n dal wedi ei gyfyngu a’i rwymo, fel pe bai’n dal yn ei amdo, a lliw llwydaidd marwolaeth, wrth gwrs yw lliw’r alwminiwm. Fodd bynnag, y mae’r modd y mae’n bwrw’i chysgod dros holl gorff yr eglwys, a’i theitl ‘Majestas’, yn ein hatgoffa o Grist atgyfodedig a dyrchafedig Efengyl Luc a’r Actau, ym Methania, a’i ddwylo ar led a’i lygaid yn syllu tua’r nef. Ond efallai nad awdur Efengyl Luc a’r Actau, lle y gwahenir yr atgyfodiad, y dyrchafael a dyfodiad yr Ysbryd yn dri digwyddiad – yr atgyfodiad yn cael ei ddilyn gan y dyrchafael ddeugain niwrnod yn ddiweddarach, a dyfodiad yr Ysbryd ddeng niwrnod wedyn – a ddylanwadodd ar Epstein, yn gymaint ag Efengyl Ioan lle y mae’r marw, yr atgyfodi, yr esgyn a dyfodiad yr Ysbryd fel pe baent oll yn digwydd ar yr un pryd. Cyhoeddir bod Iesu, a chlwyfau ei farw yn amlwg arno o hyd, wedi atgyfodi o blith y meirw a’i fod hefyd yn Arglwydd Bywyd sy’n ymddiried y dyfodol i’w ddilynwyr ac yn addo iddynt ddawn ei Ysbryd.

Mae ‘Majestas’ Epstein yn ein hatgoffa nad dau gam pellach ym mywyd Iesu yw’r atgyfodiad a’r esgyniad, fel pe bai Iesu wedi troi ei gefn ar ei farwolaeth. Mae Iesu’n groeshoeliedig yn ogystal â bod yn esgynedig. Yn Efengyl Ioan, y mae’n dangos ei glwyfau i’w ddisgyblion ar ôl iddo atgyfodi. Fel y dywed un o raglithiau’r Pasg, “mae Iesu’n fyw yn dragwyddol laddedig”, a phortreadodd llawer arlunydd yr Iesu atgyfodedig a chlwyfau’r croeshoelio arno, fel y dangosodd ef ei hun y clwyfau hynny i’w ddisgyblion ar ôl ei atgyfodiad. Ffydd a sylfaenwyd ar Groes Crist yw Cristnogaeth, ac y mae dioddefaint yn rhan hanfodol ohoni.

Dynoda hyn fod yr Iesu dioddefus ac atgyfodedig i’w gael lle bynnag y bo dioddefaint a’i fod yn gefn i bawb sy’n dioddef. Fe’i ceir ymhlith y rhai hynny a drowyd o’r neilltu ac a groeshoeliwyd. Yn ôl un diwinydd, “Bwrir corff Crist allan i blith y tlodion a’r rhai sy’n byw mewn anobaith. Y mae yn ein plith, yn fregus a heb rym. Mae’r dyn hwn yn herio pawb y mae eu llun yn cynrychioli grym a gormes, o Gesar yr oedd llun ei wyneb ar y ceiniogau a archwiliodd Iesu, hyd at Saddam Hussein, y gwelid ei lun gynt ymhobman yn Irác”. Y mae gan Eglwys Uniongred y Dwyrain eicon rhyfeddol o’r Crist atgyfodedig yn sefyll y tu ôl i weiren bigog, ac yn ceisio ei thynnu i lawr, a hynny’n darlunio’r modd y dinistriodd angau a chaethiwed, ond bod cledrau ei ddwylo yn dwyn olion y croeshoelio i ddarlunio hefyd ei ddioddefaint a’r modd y mae’n uniaethu â phawb sy’n dioddef.

Yr ydym yn byw mewn byd lle yr achosir cymaint o fraw a marwolaeth a dinistr nid yn unig gan bobl ond gan fyd natur, fel yn achos trychineb y Tsunami fis Rhagfyr y llynedd. Wrth weld cynifer o fywydau wedi’u dryllio, teimlwn yn ddiymadferth, a gofynnwn ymhle y mae Duw yn hyn i gyd. Ai ef sy’n ei achosi, neu, o leiaf, pam na fedr ei ddatrys? Ateb yr Efengyl yw fod yr Iesu atgyfodedig yn dal yn Iesu croeshoeliedig, ac fel yr oedd yn ddiymadferth wyneb yn wyneb â’i farwolaeth ei hun y mae’r un mor ddiymadferth wyneb yn wyneb â chymaint sy’n digwydd yn y byd, am fod y Duw a ddatguddiwyd yn Iesu wedi dewis bod yn Dduw sy’n gwrthod ymyrryd, ond sydd eto’n caru ei fyd ac yn rhoi iddo ei ryddid. Felly, y mae Iesu ei hun yn llefain oddi ar y groes, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist i?”, ond ar yr un pryd, yn y gobaith y bydd Duw yn ei gynnal, y mae’n cyflwyno’i ysbryd i’w Dad. Ni all Duw Iesu ddatrys ein trychinebau personol na chenedlaethol na byd-eang, na rhwystro i bethau drwg ddigwydd. Y mae, serch hynny, yn Dduw sy’n uniaethu â’i fyd dioddefus.

Ysgrifennodd Elie Wiesel am erchyllterau gweld pobl yn cael eu crogi pan oedd yn garcharor yn Auschwitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y gwaethaf oll oedd gweld crogi dau oedolyn a hogyn ifanc. Cynullwyd pawb i dystio i’r marwolaethau. Ysgrifenna: “Dringodd y tri dioddefydd ar y cadeiriau. Gosodwyd gyddfau’r tri yn rhaff y crogwr ar yr un pryd. Gwaeddodd yr oedolion, ‘Hir oes i Ryddid’. Ond yr oedd yr hogyn yn dawel. ‘Ble mae Duw? Ble mae Duw?’ gofynnodd rhywun y tu ôl imi. Ar arwydd oddi wrth Bennaeth y Gwersyll, trowyd y tair cadair drosodd. Distawrwydd llethol drwy’r gwersyll i gyd. Ar y gorwel yr oedd yr haul yn machlud. Yna gwnaed inni gerdded heibio i’r rhai a grogwyd. Yr oedd y ddau oedolyn wedi marw, a’u tafodau’n hongian allan o’u cegau, yn las a chwyddedig. Ond yr oedd y drydedd rhaff yn dal i symud. Gan ei fod mor ysgafn, roedd y plentyn yn dal yn fyw. Bu yno am fwy na hanner awr, yn hofran rhwng byw a marw, yn marw mewn hir boen yn ein golwg ni i gyd. A bu’n rhaid inni edrych arno yn ei wyneb. Yr oedd yn dal yn fyw pan euthum i heibio iddo. Y tu ôl imi clywn yr un dyn yn gofyn ‘Ble mae Duw yn awr?’, a chlywn ryw lais y tu mewn imi yn ei ateb, ‘Ble mae Duw? Y mae’n hongian yma ar y crocbren hwn.’”

Ysgrifennodd Dietrich Bonhoeffer, y diwinydd o’r Almaen, a ddienyddiwyd ym misoedd olaf yr un rhyfel, “Y mae crefyddolder dyn yn peri iddo droi yn ei gyfyngder at allu Duw yn y byd. Duw yw’r deus ex machina. Y mae’r Beibl, fodd bynnag, yn cyfeirio dyn at ddiymadferthedd a dioddefaint Duw; dim ond y Duw dioddefus a all gynorthwyo”. Yr hyn y mae Bonhoeffer yn ei ddweud yw bod Duw gyda ni yn nyfnderoedd ein tristwch ac yn cyd-gerdded â ni drwy’r dyffryn tywyll, du. Y mae’n amlwg nad yw hyn yn golygu na chyffyrdda drygioni â ni, ond y mae’n golygu fod Duw gyda ni beth bynnag a wynebwn. Wrth i Bonhoeffer fynd at y crocbren, dywedodd wrth ei ddienyddiwr, “Dyma ddiwedd, ac i mi, ddechrau bywyd”. Fe lynodd at y wybodaeth fod Duw yng Nghrist wedi dioddef, a’i fod o blaid pawb sy’n dioddef, am fod ei gorff atgyfodedig yn dal i ddwyn ôl ei farwolaeth.

Y mae stori’r Pasg yn cytuno â hyn hefyd. Prin iawn yw’r nodau buddugoliaethus yn yr adroddiadau am y Crist atgyfodedig. Nid yw Iesu’n cerdded i mewn i Balas yr Archoffeiriad neu Blasty’r Llywodraethwr i ddweud, “Roeddech chi’n meddwl fy mod i wedi marw. Wel, dyma fi!” Nid yw’n profi ei gyfiawnhad. Mae’n mynd am dro yn nhywyllwch cefn gwlad gyda dau o’i gyfeillion, ac y mae’n siarad â Mair yn yr Ardd, a hithau’n ei gamgymryd am y garddwr. Mae’n ymddangos i’r disgyblion hyn mewn modd tawel ac anymwthgar ac annramatig, ac y mae’r disgyblion yn araf i’w adnabod. Yn ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad, yr un oedd y datguddiad o Dduw yn Iesu – tawel ac anymwthgar, gan ddisgwyl i bobl ymateb iddo. Nid buddugoliaeth oedd y Pasg cyntaf, felly, yn gymaint â datguddiad, a’r hyn a ddatguddiodd oedd mai un fel Iesu yw’r Duw tragwyddol, a bod Iesu’n amlygu i bobl wir natur Duw.

Ond y mae Crist esgynedig Epstein â’i ddwylo ar led – fel pe bai’n dweud wrth ei ddilynwyr, “Yr wyf yn awr yn ymddiried y cyfan i chwi”. A dyna’n union a wnaeth, wrth gwrs. Fe gofiwch iddo ofyn yng Ngardd Gethsemane ar i Dduw gymryd cwpan dioddefaint oddi wrtho, ond ei fod, serch hynny, yn barod i wneud ei ewyllys ef. Rhan o’r demtasiwn a wynebai Iesu, mae’n rhaid, oedd yr awydd i barhau â’i waith, ac mae’n si ŵ r ei fod yn teimlo fod gofyn iddo drosglwyddo’r gwaith hwnnw i ofal disgyblion a oedd wedi dangos eu bod yn ddi-glem ac yn gwerylgar ac yn rhanedig. Mae’n rhaid ei fod wedi cael ei demtio i ddal ati, i roi tipyn bach mwy o amser iddynt dan ei ddylanwad ef, i wneud yn si ŵ r y gallent ddod i ben. Ond mynd i’w groes a wnaeth, a throsglwyddo’i waith i’r disgyblion hynny.

Dyma ymddiried ei waith i’w ddisgyblion. Fel y dywed David Ford, “Drwy ei farwolaeth y mae’n creu cylch di-ben-draw o gyfrifoldeb i ni. Fel yn ei ddameg am y meistr a aeth ymaith a gadael stiwardiaid i ofalu am ei eiddo, y mae’r dwylo hyn yn ymgorffori galwad i gyfrifoldeb yn ystod absenoldeb”. Neu efallai nad absenoldeb mohono, yn gymaint â phresenoldeb drwom ni. Fel y dywedodd Sant Teresa o Afila, “Nid oes gan Grist yn awr draed ond ein traed ni, na dwylo ond ein dwylo ni, na genau ond ein genau ni. Trosglwyddwyd Efengyl ei atgyfodiad i chwi a minnau”.

Y mae un peth arall. Mae’r Crist atgyfodedig yn ymddangos i ddisgyblion a’i siomodd, naill ai drwy redeg i ffwrdd pan arestiwyd ef neu ynteu drwy ei wadu a’i adael i’w dynged. Ei neges ef iddynt yw bod eu cymdeithas ag ef yn para’n ddi-dor, waeth beth a ddigwyddodd. “Dewch i gael brecwast,” meddai wrthynt, ac iddynt hwy y mae’n ymddiried ei neges a’i genhadaeth i’r byd. Nid yw’n caniatáu i lwfrdra na brad dorri’r berthynas sydd rhyngddo â hwy. I’r gwrthwyneb, drwy ymddiried iddynt barhad ei waith achubol y mae’n rhoi iddynt brawf diymwad nad effeithwyd o gwbl ar y berthynas honno. Nid oes raid i’r disgyblion wneud dim byd cyn derbyn sicrwydd fod perthynas Iesu â hwy yn para fel o’r blaen. Y mae ei ymroddiad iddynt yn dal yn gadarn, ei gymundeb â hwy yn dal yn gyfan.

Y mae gan yr Eglwys Anglicanaidd fyd-eang rywbeth i’w ddysgu oddi wrth hyn. Ymddengys fod rhai pobl o’r farn na allwch fod mewn cymundeb ag eraill heb eich bod yn credu’r un pethau, neu bod eich moesoldeb personol o ryw safon arbennig, neu eich bod yn barod i dderbyn rhyw isafswm o ofynion ysgrythurol neu foesol neu athrawiaethol, neu eich bod yn edifarhau yn gyhoeddus am eich pechodau. Os felly, ni allwn dderbyn cymun gan neb, na chyda neb, ond yn unig y rhai hynny sy’n meddwl yr un fath â ni, ac yn ymddwyn yr un fath â ni, ac yn uniaethu â’r achosion sy’n annwyl gennym neu â’r credoau a ddilynwn. Y mae atgyfodiad Iesu yn wrthwyneb llwyr i’r math hwn o feddwl ac o ymddwyn. Y mae ef yn derbyn pobl fel y maent, gan wybod maint eu brad, ac yn eu sicrhau fod ei gyfeillgarwch ef â hwy yn dal. Mae’r cymundeb yn ddi-dor.

Felly, nid gwyrdroi popeth a fu ym mywyd Iesu y mae’r atgyfodiad a’r esgyniad, ond yn hytrach eu hatgyfnerthu. Y mae ei bresenoldeb ef yn bresenoldeb cudd a bregus yng nghanol ein trychinebau, ac y mae’n ymddiried i’n gofal ni ei waith o ofalu am y gwan, y dioddefwyr, y rhai a esgeuluswyd, y rhai sydd mewn gofid, gan wybod mai byw a charu fel hyn yw’r unig ffordd i fyw bywyd dynol sy’n gwir foddhau, a’r unig ffordd hefyd i fyw’r bywyd sydd o Duw.