Pregeth, Archesgob Cymru y Dr Barry Morgan, Dydd Nadolig 2010

‘Miliwn o resymau dros gredu y Nadolig hwn’ – dyna oedd ar faner mewn canolfan siopa y bûm ynddi’n ddiweddar. Doedd hi ddim yn dweud miliwn o resymau dros gredu beth. Mae’n debyg mai cyfeirio yr oedd hi at filiwn o bethau y gellid eu prynu i gael Nadolig llawen (cyd-destun yw popeth, wedi’r cyfan, a hysbyseb mewn canolfan siopa oedd hon).

A sôn yr oedd hi am gredu y Nadolig hwn – nid unrhyw Nadolig arall. Roedd hi’n cyfeirio at amser penodol. Wedi’r cyfan, fe fydd yna filiwn o resymau eraill dros gredu y flwyddyn nesaf.

Mae Cristnogion, wrth gwrs, yn cychwyn o fan arall. Yr ydym ni’n cyhoeddi ein bod yn credu am mai’r Nadolig yw’r adeg pan fyddwn yn rhoi sylw i’r ffaith i Dduw garu ei fyd gymaint, yn ei holl lawenydd a gofid, nes dod yn rhan ohono yn Iesu Grist. Dyna neges o obaith aruthrol – bod Duw’n uniaethu ei hun â’n byd rhwygedig ni. Mae Iesu’n dangos ac yn ymgorffori bod Duw yn Dduw cariad a’i bod yn werth credu mewn Duw felly bob dydd o’r flwyddyn a phob eiliad o’n bywyd.

Iesu, felly, yw’r rheswm dros gredu yn y Nadolig. Ef yw dull Duw o gyfathrebu â ni. Ef yw’r ffurf ddynol ar y Gair tragwyddol. Mae’n mynegi meddwl Duw cyn llawned ag y gellir ei fynegi mewn bod dynol. Ac fe wyddom mai cariad a maddeugarwch yw Duw am mai dyna fu bywyd a gweinidogaeth Iesu.

Ac os dyna fu bywyd Iesu, oherwydd y math o Dduw yr oedd yn ei gynrychioli, mae hynny’n arweiniad i’r math o fywyd y mae’n rhaid i ninnau ei fyw os ydym i fod yn wir ddilynwyr i Iesu – bywyd llawn o gyfiawnder, gwirionedd, trugaredd a chariad – bywyd lle na fyddwn yn dilyn dyheadau ein calonnau ein hunain na’n greddfau hunanol ein hunain ond lle y byddwn yn dysgu byw mewn cymuned a fydd yn trin pawb yn deg ac yn drugarog.

Pan ddigwydd hynny, mae’r efengyl yn haeru y byddwn nid yn unig yn adlewyrchu natur Duw ac yn dod i fod y math o bobl y mae Duw am inni fod, ond y byddwn hefyd yn bobl gyflawn a bodlon.

Fe ddylai’r Llywodraeth ystyried hynny yn ei hymgais i fesur dedwyddwch. Mae hi am fesur ein ffyniant er mwyn llywio polisi cyhoeddus ac mae hi’n comisiynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal arolygon rheolaidd. Fe fydd hi hefyd yn gofyn i bobl i ba raddau y maent yn cyrraedd eu hamcan mewn bywyd. Perygl arolwg o’r fath yw y gall borthi’r math gwaethaf o hunanoldeb ac unigolyddiaeth.

A wyf fi’n fodlon ar fy nghyflog?  Ar y lle’r wy’n byw?  Ar fy statws?  Gall y cyfan fod mor fewnblyg. Ac mae’n werth cofio bod arolygon yn dangos nad yw cymdeithasau’n fwy dedwydd o ymgyfoethogi. Y gwir yw mai anaml y cawn ddedwyddwch o’r pethau y byddwn yn meddwl y dont â dedwyddwch inni.

Dangosodd arolwg diweddar gan Oxfam fod dedwyddwch dros y Nadolig yn dibynnu ar bethau digon syml fel mwynhau treulio amser o’r gwaith yng nghwmni teulu a chyfeillion.

Mae hon yn thema gyffredin mewn llenyddiaeth, hen a diweddar. Cymerwch, er enghraifft, nofel George Eliott, Silas Marner. Mae’n adrodd hanes dyn a chwerwodd wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam pan oedd yn ŵr ifanc. Mae’n symud o bentref ei febyd, yn gwrthod gwneud dim â neb yn ei bentref newydd yn Raveloe, ac fe’i hystyrir yn gybydd gan bawb sy’n ei adnabod am mai’r unig beth y mae’n ei garu yw arian. Mae’n pentyrru aur – gall ei weld a’i gyfrif ac y mae’n disgleirio. Un noson, caiff yr aur ei ddwyn, ac y mae yntau’n llwyr ddigalonni. Yna, yn fuan wedi’r Nadolig, mae merch fach y mae ei mam wedi cefnu arni yn sleifio i mewn i’w fwthyn am ei bod hi’n oer. Gwêl Silas rywbeth aur yn disgleirio yng ngolau’r tân. Mae’n meddwl am ei aur  ‘– ei aur ef  – wedi ei ddychwelyd iddo mor ddirgel ag y dygwyd ef. Roedd y pentwr aur fel pe bai’n  llewyrchu ac yn cynyddu dan ei drem gyffrous. Gwyrodd ymlaen ac estyn ei law; ond yn lle darn caled o arian a’i amlinell wydn, gynefin, cyfarfu ei fysedd â gwallt cyrliog, meddal, cynnes. Mewn llwyr ryfeddod, penliniodd Silas a gwyro’i ben i archwilio’r wyrth. Plentyn oedd yno, ynghwsg, plentyn crwn, goleubryd a’i wallt yn fodrwyau aur o gylch ei ben’.

Â’r nofel rhagddi i ddangos sut y mae’r plentyn, Eppie, yn trawsnewid bywyd Silas a’i berthynas ag eraill. Mae’n dod i’w charu, a hithau i’w garu ef. Daw Silas, a dreuliodd ei oes yn chwilio am ddedwyddwch, o hyd iddo ar ôl i’w drysor ddiflannu. Trwy hap a damwain, daw o hyd i drysor newydd, a daw hwnnw ag ef yn ôl i’r gymdeithas a’i alluogi i ymwneud â’i gyd-ddyn drachefn.

Iesu yw trysor Duw i’w fyd. Gwna Iesu i ni yr hyn a wnaeth Eppie i Silas Marner. Gwna inni sylweddoli mai gwasanaethu eraill yw gwir ddedwyddwch; ein bod yn perthyn i’n gilydd ac yn perthyn i Dduw; nad yr anrhegion y mae arnom eu heisiau, efallai, yw’r anrhegion y mae arnom eu hangen. Rhydd y Nadolig gyfle inni ystyried hyn oll o’r newydd ac, fel Silas, ‘penlinio, gwyro ein pen ac archwilio’r wyrth’.