Neges Nadolig 2003

I lawer o bobl, nid yw Duw, Iesu a’r ffydd Gristnogol wedi eu cysylltu o gwbl â bywyd bob dydd. Yn eu tyb hwy, y mae pobl grefyddol yn byw dau fywyd gwahanol – bywyd ysbrydol, sy’n cynnwys gweddïo, mynd i’r eglwys a darllen y Beibl, a bywyd seciwlar, sy’n cynnwys mynd i’r gwaith, magu teulu a mwynhau amser hamdden, ac nid yw’r ddau fywyd fel pe baent mewn unrhyw berthynas â’i gilydd. Ond neges ganolog y Nadolig yw na ellir deall na’r ffydd Gristnogol na gwyl y Nadolig ei hun heb fod ein ffydd wedi ei daearu yn ein gorchwylion beunyddiol, boed hynny’n ymwneud â gwaith, hamdden neu deulu. Pam? Am mai neges y Nadolig yw fod y Gair wedi dod yn gnawd, yn berson real o gig a gwaed yn byw bywyd cyffredin. Nid fel ysbryd y daw Duw, ond fel bod meidrol, yn rhannu popeth a olygir gan feidroldeb. Y mae Duw’n cymryd y byd o ddifrif – bob agwedd arno.

Golyga hynny fod yn rhaid i chwi a minnau, os ydym i ddarganfod Duw, ddod o hyd iddo, nid mewn rhyw fyd crefyddol pell, ond, yn hytrach yn llanast a thryblith ein bywyd bob dydd. ‘Mae’r oll yn gysegredig’, ebe un o’n beirdd. Llefara Duw wrth y byd yn y pethau a ddigwydd inni, yn y llyfrau a ddarllenwn, y ffilmiau y byddwn yn eu gwylio, yn ein teulu a’n cyfeillion. Mae Duw’n gweithio yn ein byd mewn ffyrdd annisgwyl yn aml, ac yn y lleoedd mwyaf annisgwyl hefyd. Pwy fyddai wedi meddwl chwilio amdano mewn preseb, er enghraifft, yn faban i deulu o werinwyr? Duw ydyw sy’n llawn pethau annisgwyl, a rhaid inni gadw’n llygaid yn agored am yr hyn y bydd yn ei wneud nesaf.