Araith yn y Corff Llywodraethol Ebrill 2008

Yn 1976, ymhell cyn ordeinio merched yn ddiaconiaid yn y dalaith hon yn 1980 – a hynny ar y blaen i Eglwys Iwerddon (1984), Eglwys Loegr (1985) ac Eglwys Esgobol yr Alban (1986) – fe basiodd Corff Llywodraethol gynnig a oedd yn datgan “nad oes unrhyw wrthwynebiad diwinyddol o bwys i ordeinio merched yn offeiriaid”. (Wrth fynd heibio, mae’n werth nodi i’r Eglwys yng Nghymru, pan ddatgysylltwyd hi, dderbyn o’r cychwyn fod merched yn aelodau cyflawn. Hi oedd yr eglwys genedlaethol gyntaf oddi mewn i’r Cymundeb Anglicanaidd i roi lle i ferched ar ei chyngorau llunio polisi). Er gwaethaf penderfyniad 1976, fodd bynnag, a Bil 1996 yn caniatáu ordeinio merched yn offeiriaid, parheir o hyd i gynnig yr un dadleuon yn erbyn eu hordeinio, nid yn unig yn esgobion, ond yn offeiriaid hefyd.

Y rheswm am hyn yw fod cwestiwn ordeinio merched yn cyffwrdd â phob math o gwestiynau pwysig. Gadewch imi restru pump ohonynt:

  1. Sut yr ydym yn deall y Beibl.
  2. Sut yr ydym yn myfyrio’n ddiwinyddol.
  3. Sut yr ydym yn darganfod ewyllys Duw heddiw.
  4. Ein perthynas â Christnogion eraill, ac, ynghlwm â hynny, awdurdod un eglwys genedlaethol i benderfynu ar y mater hwn.
  5. Y berthynas rhwng dynion a merched ac ystyr gwrywdod a benyweidd-dra.

Yn gyntaf, yr ysgrythurau. Y ddadl yw nad oes ynddynt hwy awdurdod i ordeinio merched, a bod cyfyngiadau Paul ar weithgaredd merched yn y cymunedau Cristnogol cynnar yr oedd ef yn ysgrifennu atynt i’w hystyried yn rheoliadau sy’n berthnasol i bob sefyllfa yn yr eglwys am byth. Er enghraifft, yn 1 Corinthiaid 14:34-35, ysgrifenna:  “dylai’r gwragedd fod yn ddistaw yn yr eglwysi, oherwydd ni chaniateir iddynt lefaru. Dylent fod yn ddarostyngedig, fel y mae’r Gyfraith hefyd yn dweud”. Felly hefyd yn 1 Corinthiaid 11:3: “yr wyf am i chwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, ac mai pen y wraig yw’r gŵr, ac mai pen Crist yw Duw”. Hynny yw, i’r dyn y rhoddwyd bod yn ben, ac ni ddylid rhoddi hynny i ferched, gan mai arall yw eu pwrpas hwy yn y greadigaeth. Mae israddoldeb, felly, yn rhan o drefn y creu, ac y mae ordeinio merched yn golygu torri un o ordinhadau’r cread, lle mae’r drefn yw Duw, Crist, dyn, dynes. Gwelir yr un ddadl yn y llythyr at yr Effesiaid ac yn 1 Timotheus 2:12-13: “nid wyf yn caniatáu i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar y gwŷr; eu lle hwy yw bod yn dawel. Oherwydd Adda oedd y cyntaf i gael ei greu, ac wedyn Efa”. I ychwanegu at y ffordd hon o feddwl, penododd Iesu ddeuddeg apostol a oedd i gyd yn ddynion, a hynny er gwaethaf ei agwedd anghonfensiynol a gwreiddiol at ferched. Peth bwriadol oedd dewis deuddeg dyn, ac y mae i hynny oblygiadau i’r weinidogaeth ordeiniedig heddiw am ei bod hi mewn rhyw ffordd yn barhad o waith yr apostolion.

Sut y mae ymateb i hyn? Anodd, ar sail yr ysgrythur, yw dadlau a ddylid ordeinio merched yn offeiriaid ai peidio. Nid yw’r ysgrythur yn trafod y cwestiwn, nac yn trafod diwinyddiaeth y weinidogaeth ordeiniedig o gwbl ond mewn termau cyffredinol iawn. Yr unig offeiriadaeth y sonia’r Testament Newydd amdani yw offeiriadaeth Iesu, ein Harchoffeiriad mawr, ac offeiriadaeth yr holl saint.

Beth am ddadl Paul mai’r dyn yw pen y wraig? Dywed Paul: “Ni ddylai gŵr orchuddio’i ben, ac yntau ar ddelw Duw ac yn ddrych o’i ogoniant ef. Ond drych o ogoniant y gŵr yw’r wraig. Oherwydd nid y gŵr a ddaeth o’r wraig, ond y wraig o’r gŵr”. Mae hefyd yn dadlau na chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gŵr. Tynnu y mae ar Genesis 2, lle y dywedir i Efa gael ei chreu o asen Adda. Yn Genesis 1, fodd bynnag, fe ddywedir i ŵr a gwraig gael eu creu ar yr un pryd, “ar ddelw Duw”: “ yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy”. Cydraddoldeb, nid israddoldeb, sydd yn y datganiad hwn. Nid oes, felly, unrhyw egwyddor lywodraethol yn y Beibl fod y dyn yn ben ar y wraig. Ni ellir dadlau ychwaith fod yr un a grewyd gyntaf yn rhagori, oherwydd, yn Genesis 1, fe gaiff anifeiliaid eu creu o flaen dyn. A yw hynny’n eu gwneud yn rhagorach na dynolryw? Sut bynnag, pwrpas diwinyddol Genesis yw dangos fod yna Greawdwr a luniodd y byd. Ei gamddefnyddio yw ei lurgunio i gyfiawnhau israddoli merched. Dadleuodd rhai fod Genesis 2 yn disgrifio Efa fel “cynorthwyydd” Adda. Ond does dim awgrym o israddoldeb yn y disgrifiad hwnnw ychwaith. Defnyddir y gair “cynorthwyydd” am un rhagorach yn cynorthwyo un mwy distadl – mae Duw yn “gynorthwyydd” Israel.

Hefyd y mae Paul yn croes-ddweud ei hun, oherwydd yn 1 Corinthiaid 11:5 dywed fod “pob gwraig sy’n gweddïo neu’n proffwydo heb orchudd ar ei phen yn gwaradwyddo’i phen”. Hynny yw, fe ymddengys fod gan ferch bob hawl i weddïo neu broffwydo’n gyhoeddus, dim ond iddi orchuddio ei phen cyn gwneud hynny. Erbyn hyn, wrth gwrs, y mae merched yn siarad ac yn pregethu ac yn dysgu yn ein heglwysi. A ydym i’w rhwystro rhag gwneud hynny? Y mae a wnelo dadl lythrennol Paul nid â phwy sy’n llywyddu wrth fwrdd yr Arglwydd neu’n bedyddio, ond â phwy sy’n pregethu ac yn dysgu. Ac y mae ein heglwys ni yn caniatáu’n ddigwestiwn i ferched wneud hynny.

Yr oedd yr apostolion yn unigryw. Ni phenodwyd neb i’w holynu. Ni ellir eu defnyddio fel patrwm i’r weinidogaeth ordeiniedig, am nad ordeiniodd Iesu mohonynt na rhoi iddynt ychwaith swyddogaeth offeiriadol, ac ni adawodd unrhyw gyfarwyddyd ar sut y dylid trefnu’r eglwys. Y mae’n rhy simplistig o lawer uniaethu’r apostolion â chlerigion ein dyddiau ni.

Ynghlwm â’r esboniadaeth feiblaidd hon mai’r gwryw sydd i arwain, dadleuir fod yr aml gyfeirio yn y Beibl at Dduw fel Tad, ynghyd â’r ffaith mai gwryw oedd Iesu, yn ei gwneud hi’n angenrheidiol mai dynion yn unig a all fod yn offeiriaid ac yn esgobion.

Fe â’r ddadl rywbeth yn debyg i hyn. Sonia ysgrifenwyr yr Hen Destament am Dduw fel Tad am mai ef yw’r Creawdwr, a’i fod, felly, yn wahanol i dduwiau Canaan. Nid yw yn creu o’r tu mewn iddo’i hun. Nid yw’n beichiogi ar y greadigaeth nac yn esgor arni. Pe bai hynny’n wir, yna “Mam” fyddai’r teitl priodol iddo. Dim ond y teitl “Tad” a’r berthynas a awgrymir gan dadolaeth sy’n gwneud cyfiawnder â gweithgaredd Duw Israel, oherwydd dim ond tadau biolegol sy’n gallu cymryd y cam cyntaf i greu bywyd newydd ac i ddod ag eraill i fodolaeth nid o’r tu mewn ond o’r tu allan i’w cyrff eu hunain. Pwysleisia Iddewiaeth a Christnogaeth y pellter a’r gwahaniaeth rhwng y Creawdwr dwyfol a’r greadigaeth. Y mae’r pwyslais ar arallrwydd Duw, y trosgynoldeb dwyfol, a’r gyfatebiaeth briodol yw tadolaeth. Yn y Testament Newydd, geilw Iesu ei hun Dduw yn “Abba”. Mae’r gair “Tad” yn air cwbl hanfodol yn y narratif Cristnogol. Y mae’n hanfodol hefyd i swyddogaeth dadol esgob. Felly, y mae’n hanfodol fod yr esgob yn wryw. Y gofid mawr yw y bydd ordeinio merched yn peri symudiad sylfaenol a thrychinebus yn system symbolau Cristnogaeth.

Nid oes amheuaeth, wrth gwrs, nad mewn termau gwrywaidd, gan fwyaf, y buwyd yn sôn am Dduw gydol y canrifoedd. Ond y mae diwinyddiaeth Gristnogol yn gwbl glir nad gwryw yw Duw. Ni all fod felly am nad bod corfforol mohono. Y mae amrywiaeth fawr o ddisgrifiadau o Dduw yn y Beibl nad oes a wnelont ddim â’r naill ryw na’r llall – Duw yn dân, goleuni, craig, noddfa, eryr, ffynnon. Yn ôl Thomas o Acwin, iaith “ddelweddol” yw pob iaith o’r fath. Ni ellir, meddai, sôn am Dduw ond naill ai mewn delweddau neu ynteu mewn geiriau haniaethol megis “cariad”. Yn ei Mulieris Dignitatum, dywedodd y Pab Ioan Paul II : “Ysbryd yw Duw, ac ni pherthyn iddo ddim o nodweddion y corff, yn wryw na benyw. Felly, y mae hyd yn oed dadolaeth Duw yn beth cwbl ddwyfol a chwbl rydd o’r nodweddion corfforol y mae a wnelont â thadolaeth ddynol”. Hynny yw, ni allwn ddiffinio tadolaeth Duw ar sail ein dealltwriaeth fiolegol a diwylliannol o dadolaeth ddynol. Nid tadolaeth ddynol yw’r patrwm i dadolaeth Duw. Yn hytrach, daw pob tadolaeth o Dduw’r Tad ei hun.

Nid oes amheuaeth ychwaith nad oedd y rhan fwyaf o’r cenedlaethau cyn y cyfnod modern yn deall swyddogaeth gwrywdod mewn modd penodol, a seiliwyd ar eu dealltwriaeth o’r system atgynhyrchu a strwythur cymdeithas. Cymerent yn ganiataol fod had y gwryw yn cynnwys bod dynol cyflawn, a roddid yng nghroth y fenyw fel y rhoddir hedyn i dyfu mewn tŷ gwydr. Os cedwid y tŷ gwydr ar y tymheredd iawn, fe enid bachgen. Os âi rhywbeth o’i le, fe enid merch. Y gred oedd nad oedd merched yn cyfrannu dim byd creadigol at gynhyrchu dynolryw, a’u bod hwy eu hunain yn ddiffygiol. Am eu bod yn ddiffygiol, yr oeddynt yn oriog, yn tueddu at hyrddiau emosiynol ac yn amddifad o farn gywir. Yr oeddynt, felly, oherwydd eu natur gorfforol, yn israddol i ddynion. Yn ôl Thomas o Acwin, yr oedd merched yn “ddiffygiol ac amherffaith”: gwrywdod oedd y norm, a chamgymeriad yn y broses o genhedlu oedd geni merch. Credai Aristotlys nad oedd merch yn ddim ond dyn â nam arno. Cyn y cyfnod modern, credai pob awdur Cristnogol fod hyn i gyd yn fiolegol ac yn wyddonol wir. Yn y cyd-destun hwnnw, wrth gwrs, roedd hi’n gwbl naturiol sôn am greadigrwydd Duw mewn termau gwrywaidd. Ond, fel y dywed un diwinydd, “fe fyddem ni heddiw yn annoeth iawn i seilio ein casgliadau diwinyddol ar syniadau biolegol cyn-wyddonol na chlywsent erioed am enynnau na chromosomau”. Eto i gyd, yng ngoleuni’r gred fiolegol hon fe ystyrid mai’r gwryw, ffurf uchaf dynolryw, oedd yn cynrychioli orau weithgaredd Duw drosom. Felly, pan drafoda’r Tadau wrywdod yr offeiriadaeth – ac yn anaml y mae hynny, am eu bod yn cymryd y peth yn ganiataol – fe’i hamddiffynnid ar sail rhagoriaeth y gwryw.  Erbyn hyn, fe wyddom fod yr hen fioleg yn anghywir, a bod gan y ddau ryw ran gyfartal yn y broses o greu unigolyn newydd. Ni allwn, felly, seilio ein diwinyddiaeth ar yr hen gred.

Fe â’r rhai sy’n gwrthwynebu ordeinio merched ymlaen i ddadlau fod Crist yn wryw, yn Fab Duw, nid trwy ddamwain, ond trwy gynllun. Mae’r offeiriad yn ymarfer offeiriadaeth nad yw’n perthyn iddo ef, ond sy’n asiantaeth i offeiriadaeth Crist. Gan mai gwryw oedd Crist, rhaid i’r offeiriad hefyd fod yn wryw, am fod yr offeiriad yn eicon o Grist. Mae ei gorff yn ein hatgoffa o Iesu, ac os yw merch yn llywyddu yn y Cymun, fe dorrir y darlun. Mae’r offeiriad yn alter Christus, yn cymryd swyddogaeth Crist. Fodd bynnag, nid yr unigolyn hanesyddol, Iesu o Nasareth, yn unig a gynrychiolir yn y Cymun, ond y Crist croeshoeliedig ac atgyfodedig. Ac y mae’r Crist hwnnw yn cynrychioli dynolryw yn ei chyfanrwydd – merched yn ogystal â dynion. Os nad yw hyn yn wir, nid yw Crist yn achub merched. Ond, os yw’n wir, y casgliad rhesymegol yw y gall merch, yn ogystal â dyn, gynrychioli Crist yn y swydd hon os gelwir hi i wneud hynny. Onid e, yna, yn ôl athrawiaeth Athanasiws na fedrir iacháu yr hyn nas meddiannwyd,  ni all hi gael ei hachub gan Grist ychwaith.

Fel mater o ffaith, bedydd, nid ordinasiwn, sy’n ein gwneud ni oll yn alter Christus. Yn y bedydd y mae dynion a merched yn rhannu yn offeiriadaeth Crist trwy gael eu hymgorffori ynddo. Y maent, felly, yn rhannu ei offeiriadaeth frenhinol ef ac offeiriadaeth frenhinol yr eglwys gyfan. Gan fod merched, yn ogystal â dynion, yn cael eu bedyddio i farwolaeth ac atgyfodiad Iesu, a chan eu bod yn y broses o gael eu trawsffurfio yn llun ohono ef trwy weithrediad yr Ysbryd (2 Corinthiaid 318) a bod Crist ynddynt trwy’r un Ysbryd (Rhufeiniaid 810), y mae ordeinio merched yn ogystal â dynion yn tystio i’r achubiaeth gynhwysol yng Nghrist. Yn ôl un diwinydd, “y cwestiwn diwinyddol yw nid a all offeiriad sy’n fenyw gynrychioli achubwr sy’n wryw, ond a all offeiriadaeth gwbl wrywaidd gynrychioli achubiaeth dynolryw?”.

Yn hyn i gyd, y mae’n gymorth cofio bod gwahaniaeth rhwng bod yn gynrychiolydd Crist a bod yn ddarlun o Grist. Gwneir hyn yn eglur iawn gan y diweddar Athro Geoffrey Lampe: “mae’r llysgennad yn cynrychioli’r Frenhines. Mae’n gweithredu yn ei henw; mae’n siarad drosti; ond nid yw’n ddarlun o’r Frenhines. Nid yw’n bersonoliad ohoni. Nid oes raid iddo fod yn ferch. Pan fo Brenhines yn olynu Brenin, nid oes raid i’w holl gynrychiolwyr sy’n ddynion gael eu disodli gan ferched”. Mewn geiriau eraill, nid oes raid i’r offeiriad fod yr un fath yn union â’r Crist y mae’n ei gynrychioli.

Mynegodd yr Archesgob Rowan, pan oedd yn Esgob Mynwy, y peth yn gynnil trwy ddweud “nad yw’r Beibl a’r Credoau yn rhoi lle inni gymryd yn ganiataol

  1. Fod perthynas yr offeiriad ordeiniedig ag offeiriadaeth Crist rywsut neu’i gilydd yn wahanol mewn sylwedd i berthynas pawb bedyddiedig ag offeiriadaeth Crist.
  2. Fod perthynas merch fedyddiedig ag offeiriadaeth Crist yn sylweddol wahanol i berthynas dyn bedyddiedig ag offeiriadaeth Crist”.

Nid oes, felly, unrhyw reswm paham na all merch fod yn offeiriad nac yn esgob.

Yn hyn oll, nid gwrywdod Iesu, yn yr ymgnawdoliad na’r dyrchafael, sy’n bwysig. Yr hyn sy’n bwysig yw ei ddyndod. Yn y prolog i’r Efengyl yn ôl Ioan, ac yn y Credoau, ar y gair yn dod yn gnawd, yn fod meidrol, y mae pwyslais yr ymgnawdoliad, nid ar y gair yn dod yn wryw; y gair a ddefnyddir yw homo nid vir. Ar ddyndod, nid ar wrywdod Iesu, felly, y mae prif bwyslais yr ysgrifenwyr beiblaidd a phatristaidd. Yn ôl un awdur, “yr hyn sy’n bwysig yn gristolegol am ddyndod Iesu yw nid ei fod yn Iddew nac yn wryw nac unrhyw nodwedd arall o’r fath, ond, yn syml, ei fod ym mhob dim fel ei frodyr”. Mae’r ddadl ynglŷn â chynrychioli, wrth gwrs, yn codi’r holl gwestiwn o bwy’n union a all gynrychioli Iesu. Yn Marc 9:37, geilw Iesu blentyn ato, a dweud fod unrhyw un sy’n croesawu’r plentyn hwnnw yn ei groesawu ef. Felly, gall plant gynrychioli Iesu, fel y gall y claf a’r newynog, a’r rhai a garcharwyd ac a fwriwyd o’r neilltu. Gall y rhain oll, fe ymddengys, gynrychioli Iesu, ond, am ryw reswm, ni all merched wneud hynny.

Daw hyn â ni at y cwestiwn sut yr ydym i ddarganfod ewyllys Duw ar gyfer y byd. Gan mai Duw, wedi’r cyfan, yw Creawdwr y byd, rhaid inni ddarganfod ei ewyllys yn amgylchiadau a digwyddiadau ein hoes, a thrwy ddefnyddio ein rheswm. Er enghraifft, hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd yr eglwys yn defnyddio’r ysgrythur i gefnogi caethwasiaeth. Nid yw’n gwneud hynny mwyach, am ei bod wedi dod i sylweddoli i’r holl ddynolryw gael ei llunio ar ddelw Duw a bod pawb yn gyfartal yn ei olwg ef. Gan hynny, golyga caethiwio unigolyn ddifwyno a llychwino’r ddelw ddwyfol. Diwygwyr cymdeithasol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddangosodd hyn iddi. Condemniwyd Galileo gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig am haeru fod y byd yn troi o gwmpas yr haul. Yn ôl y Pab Urban VII, yr oedd hynny “yn gwbl groes i’r Ysgrythur Lân”. Bedwar can mlynedd ar ôl gosod Galileo ar brawf, mae’r Fatican wedi ei adfer i fri trwy godi cofgolofn iddo y tu allan i’w waliau. Fel y dywed yr Athro Canon David Brown o Brifysgol Durham, “y mae gweithgaredd hael ac ewyllys Duw yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r eglwys, ac y mae Duw yn datguddio’i hun ym mhob math o leoedd a digwyddiadau”. Mae’n mynd ymlaen i ddadlau fod y Beibl yn llawn enghreifftiau o feidrolion ffaeledig yn gwthio eu canfyddiadau eu hunain fel petaent yn dod oddi wrth Dduw. Ond myn mai’r “delfryd yw caniatáu i bob ffynhonnell gwybodaeth sydd i’w chael am Dduw gydymweithio, heb gymryd yn ganiataol fod y naill yn cymryd blaenoriaeth ar y llall”. Hynny yw, y mae Duw, am mai ef yw Creawdwr y byd, yn hysbysu’i bresenoldeb i feidrolion mewn amrywiol ffyrdd. Y mae gan ferched heddiw statws cwbl wahanol i’r un a oedd ganddynt ym Mhalesteina’r ganrif gyntaf. Y maent yn arwain ac yn cyflawni eu potensial mewn ffyrdd nad oedd yn bosibl iddynt yn y gorffennol, ac y mae i hynny oblygiadau i weinidogaeth ordeiniedig yr eglwys. Fel y dywedodd rhywun, “gall gwirioneddau a fu yno o’r cychwyn cyntaf aros ynghwsg nes bod amgylchiadau cymdeithasol a seicolegol yn caniatáu eu canfod”; neu, yng ngeiriau Iesu yn yr Efengyl yn ôl Ioan, “bydd yr Ysbryd yn eich arwain i’r gwirionedd”. Y gwir amdani yw bod yr eglwys, dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf, wedi newid llawer ar batrymau ei gweinidogaeth a’i litwrgi a’i phwyslais moesegol. Ystyriwyd y rhain oll yn ddatblygiadau cyfreithlon a oedd yn ymateb i anghenion newydd ac i ddealltwriaeth newydd o sut i roi’r Efengyl ar waith yn ein cymdeithas. A gadewch inni fod yn onest. Yr ydym hefyd wedi addasu rhai o orchmynion Iesu ei hun, er enghraifft ei ddysgeidiaeth ar briodas ac ysgariad a’i orchymyn i’r deuddeg i beidio â mynd at y Cenedl-ddynion – yr ydym ni yn rhannu cymdeithas y bwrdd â Chenedl-ddynion, am ein bod yn Genedl-ddynion ein hunain.

Yr hyn sy’n troi’r fantol i rai pobl, wrth gwrs, yw’r ddadl y byddem, trwy ordeinio merched yn esgobion, yn cael effaith ar fywyd yr eglwys fyd-eang. Gan ein bod yn rhan o’r gymuned Gristnogol ehangach, a yw’n iawn i ni yn yr Eglwys yng Nghymru droi ein cefn ar draddodiad heb gytundeb yr holl Gristnogion, yn arbennig yr Eglwys Uniongred a’r Eglwys Gatholig Rufeinig? Pe bai hwn yr unig fater i’n gwahaniaethu oddi wrth y cymundebau hyn, byddwn yn annog pwyll. Ond y mae Cynulliad Athrawiaeth Ffydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig, mewn dogfen newydd a orchmynnwyd gan y Pab Benedict XVI, wedi ailadrodd yr haeriad a wnaed yn y datganiad Dominus Jesus yn y flwyddyn 2000 mai’r Eglwys Gatholig Rufeinig yw unig wir eglwys Crist.

Mae’r testun yn ailddatgan fod yr Eglwysi Uniongred, nad ydynt yn derbyn blaenoriaeth Rhufain, wedi eu clwyfo, ac na ellir hyd yn oed ystyried cymunedau Anglicanaidd a Phrotestannaidd yn wir eglwysi o gwbl. Nid dyna yr ydym ni, Anglicaniaid, yn ei gredu amdanom ein hunain. Yr ydym ni yn datgan fod yr Eglwys yng Nghymru yn rhan o Un Eglwys Lân Gatholig Crist, ac yn cynnal y ffydd Gristnogol fel y proffesir hi yn yr Ysgrythur Lân a’i thraethu yn y credoau catholig. A yw hi’n ddiwinyddol ac yn athrawiaethol dderbyniol i osod undod yn uwch na phob gwerthoedd eraill, ac i eglwys ymwrthod â gwneud penderfyniad y mae hi’n credu fod ganddi orchymyn taer ar sail yr Efengyl i’w wneud? Nid ydym, fodd bynnag, yn newid dim ar drefn urddau esgobion, offeiriaid a diaconiaid, dim ond i’r modd y mynegir y drefn honno. Yr hyn sydd mewn golwg yw helaethiad ac estyniad o’r weinidogaeth Gristnogol hanesyddol. Mater eilradd yn unig ydyw.

Ymhellach, y mae ein cyfansoddiad yn caniatáu inni “lunio erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau a ffurfiaduron newydd, a newid y rheini sy’n bodoli o bryd i’w gilydd”. Ni allwn, wrth gwrs, newid yr athrawiaeth am y Drindod neu am Berson Crist. Nid rhywbeth sy’n perthyn i ni yn unig yw’r ffydd Gatholig. Deuwn o hyd iddi mewn cymundeb â’r eglwys fyd-eang. Ond ni olyga hynny na allwn newid dim byd. Yr ydym yn y gorffennol wedi defnyddio’n pwerau i wneud newidiadau sylfaenol
(efallai y dylid eu galw yn ddatblygiadau) ynglŷn ag ordeinio merched yn ddiaconiaid ac yn offeiriaid. Y mae gan eglwysi’r Refformasiwn ddiwinyddiaeth wahanol ar y Cymun i’r eiddo’r Eglwys Gatholig Rufeinig, heb sôn am safle olynydd Pedr.

Beth ynteu am y ddadl fod yna wahaniaeth rhwng rôl a swyddogaeth dynion a merched, ac na ellir cyfnewid y swyddogaethau hyn: bod yr offeiriadaeth wedi’i chyfyngu i ddynion, a bod ei hagor i ferched yn tanseilio’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau sy’n rhodd oddi wrth Dduw? Wrth gwrs bod yna wahaniaeth rhwng y rhywiau, ond rhaid peidio â gorliwio’r gwahaniaeth ychwaith. Nid i ddynion yn unig y perthyn nodweddion gwrywaidd, na nodweddion benywaidd i ferched yn unig. Y mae ym mhob unigolyn gymysgedd o’r nodweddion y daethom i’w hystyried yn nodweddion gwrywaidd neu fenywaidd. Gwneir llawer o benarglwyddiaeth ac awdurdod y dyn, ond nad anghofiwn mai’r arglwydd a ddilynwn ni yw’r un a’i “gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol”, yr un sy’n dewis “pethau gwan y byd … i gywilyddio’r pethau cedyrn”. I Iesu, ystyr gweinidogaeth yw nid arglwyddiaethu ond gwasanaethu, ac y mae’n gwahardd ei ddilynwyr rhag poeni am safle a rhagoriaeth. Mae’n eironig, felly, ein bod weithiau, yn ein dadleuon ynglŷn â’r weinidogaeth ordeiniedig, yn troi’r ddysgeidiaeth hon wyneb i waered. Y mae a wnelo gweinidogaeth nid â rheoli a llywodraethu ond â gwasanaeth hunan-ymwadol. Y mae’r sawl sy’n gwasanaethu yn golchi traed. Trwy ras Duw yn gweithio mewn gwendid y daw grym y weinidogaeth. A dyfynnu un diwinydd, “mae’n eironig bod un a fu’n byw’r fath fywyd gwylaidd yn cael ei weld gan rai fel un a sefydlodd weinidogaeth awdurdodaidd a hierarchaidd sy’n gwahardd merched oherwydd eu safle gwylaidd”. Gweinidogaeth gweini yw gweinidogaeth Iesu. Pa reswm sydd dros wahardd merched ohoni?

Yn hyn i gyd y mae yna anghenraid cenhadol. Wrth galon Efengyl Crist y mae  gwerthoedd yn ymwneud â gonestrwydd, cyfiawnder, cyflawnder a chynhwysedd. Yng Nghrist “nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw”. Sut, felly, y gall eglwys sy’n hawlio ei bod yn rhyddhau pobl ac yn ystyried pawb yn gyfartal wrthod hyd yn oed ystyried a ellir galw merch i fod yn esgob? Nid yw hyn yn amherthnasol i genhadaeth yr eglwys, oherwydd wrth inni ymddwyn fel hyn y mae’r Efengyl yn anghlywadwy yn ein byd. Fel y dywedodd y diweddar Robert Runcie o Gaergaint, “ni all ei bod yn amherthnasol i efengyliaeth fod cynifer o anghredinwyr yn ystyried fod y lle a roddwn i ferched yn wrthun”.

Neu, yng ngeiriau rhywun arall, “sut y gellir cymeradwyo i fyd anghrediniol rym rhyddhaol yr Efengyl trwy haeru na all neb ond dynion fod yn offeiriaid ac yn esgobion?”