Araith y Llywydd Y Corff Llywodraethol – Ebrill 2005

Y mae 2005 yn flwyddyn bwysig, nid yn unig i’r Eglwys yng Nghymru, sy’n gorfod gwneud penderfyniadau yngl yn â’i dyfodol, ond oherwydd:

  1. bod y Deyrnas Unedig yn Llywydd Gr w p Cenhedloedd G8 a’r Undeb Ewropeaidd.
  2. Y mae’n ugeinfed pen-blwydd Live Aid ac yn ddegfed pen-blwydd Comic Relief.
  3. Bydd Comisiwn Affrica yn cyhoeddi ei adroddiad ym mis Ebrill.
  4. Bydd 5 Mehefin yn Ddiwrnod yr Amgylchfyd, pan anogir unigolion a busnesau i arwyddo cyfres o addunedau amgylcheddol.
  5. Cynhelir etholiad seneddol yn y Deyrnas Unedig.

Mae pob un o’r pethau uchod yn haeddu ein sylw. Gyda’i gilydd, dylent ein hannog i sylweddoli bod eleni yn flwyddyn sy’n cynnig cyfle arbennig.

Eisoes, fe ymunodd llawer o eglwysi â’r coalisiwn ‘Gwneud Tlodi yn Hanes’. Iawn o beth yw bod y cyfarfod hwn o’r Corff Llywodraethol yn ystyried cynnig ein bod ninnau yn uniaethu â’r coalisiwn hwn. Y mae, wrth gwrs, lawer o anawsterau. Nid peth hawdd yw hyn. Y mae a wnelo ag ewyllys wleidyddol, ond rhaid hefyd wrth weithredu addas gan lywodraethau a chwmnïau rhyngwladol ac unigolion.

Y mae Etholiad Cyffredinol yn rhoi cyfle inni oll ystyried i ble yr ydym yn mynd fel cenedl. Rhydd gyfle inni hefyd asesu fel unigolion pa ffactorau y dylem eu hystyried cyn pleidleisio. Ai pleidleisio i’r blaid y credwn y bydd yn gwarchod ein buddiannau personol ni – yn ariannol neu fel arall, ai ynteu ystyried anghenion pobl eraill, fel yr anogir ni yn y Llythyr at yr Effesiaid? A dyfynnu Karl Rahner, “sut y mae gwrando ar fywyd o dan ddylanwad y gair?” Dyma rai o’r pethau sydd, yn fy marn i, yn haeddu sylw – wedi’r cyfan mae’n ffydd ni yn effeithio neu fe ddylai effeithio ar ystyriaethau moesol mawr ein hoes. Rydym wedi gweld trafodaeth yn ddiweddar ynghylch y cyfreithiau ar erthylu. Yn y pen draw, Penderfyniad personol yw sut i bleidleisio ond mae ‘na faterion y dylem eu hystyried yng ngholeuni’r Efengyl, gan fod gwerthoedd yr Efengyl â gobligiadau ar gyfer ein cymdeithas a’n byd.

1. Y mae gan Brydain raglen arfau niwclear sy’n costio biliwn o bunnoedd. Fe’i sefydlwyd i ddifodi targedau yn yr Undeb Sofietaidd sydd wedi peidio â bod ers 15 mlynedd. Ai dyma’r defnydd gorau o’n hadnoddau?

2. A ddylai’r Deyrnas Unedig fod y wlad gyntaf yn y byd i dynnu allan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid (1951), sy’n amddiffyn hawliau 17 miliwn o bobl ddigartref ledled y byd? Fel y dywedodd arweinwyr eglwysi Cymru yn ddiweddar, “ymddengys y bwriad i osod cyfyngiad o bum mlynedd ar ffoaduriaid yn un didrugaredd a gall fod yn rhwystr i gynlluniau i integreiddio pobl ddigartref. Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn annog ffoaduriaid y mae ganddynt sgiliau da i ail-hyfforddi nac i fuddsoddi mewn sefydlu busnesau y mae mawr angen amdanynt yng Nghymru”. Mae’r DU yn gartref i llai na 2% o ffoaduriaid y byd – rhyw chwarter miliwn allan o rhyw 10 miliwn ar draws y byd. Mae Affrica ac Asia yn rhoi llety i rhyw 60% o ffoadyuriaid y byd.

Mae’r ffydd Gristnogol yn ein hatgoffa o freuder bywyd, a pha mor fregus yw rhai pobl a rhai grwpiau o bobl. Dylai ein hagwedd ni adlewyrchu gofal Duw am y bobl hyn. Y maent nid yn unig yn wrthrychau ein gofal a’n cymorth ariannol; y maent hefyd yn obaith newydd i’r byd am fod yn Nheyrnas Dduw wynfydedigrwydd sy’n perthyn i bawb, waeth pa mor fregus ydynt – ac sydd, efallai, yn perthyn i bobl fregus yn arbennig.

3. Yn drydydd, y mae mater tlodi gartref. Yn Llundain, ym mis Chwefror, ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Mawrth, lawnsiodd Cyngor Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon lyfr o dan y teitl Ffyniant gyda Phwrpas sy’n canolbwyntio ar yr angen i symud pobl o dlodi i ffyniant. Mae’n gyffredinol wir fod y mwyafrif o bobl yn y mwyafrif o wledydd, os nad ym mhob gwlad, yn gyfoethocach heddiw nag yr oeddent hanner can mlynedd yn ôl. Mae hynny’n wir hefyd am y rhan fwyaf o bobl dlawd. Fodd bynnag, y mae anghydraddoldeb yn cynyddu, ac y mae’r rhai sy’n wirioneddol dlawd yn gynyddol fregus. Gan fod ffyniant yn dibynnu fwyfwy ar well addysg a gwell cyfleoedd am swyddi mewn hinsawdd o sefydlogrwydd gwleidyddol a chynnydd economaidd, mae’n amlwg fod Affrica, i’r de o’r Sahara, o dan fygythiad arbennig. Y mae a wnelo ffyniant, wrth gwrs, â llawer mwy na dim ond arian yn unig, ond byddem ni, fel Cristnogion, am ddatgan fod i ffyniant gynnwys economaidd. Mae’n bwysig fod pobl yn medru cael swyddi da, tai da, gofal iechyd da, rhwydweithiau cymdeithasol da – ac y mae cyd-destun gwleidyddol i bob un o’r pethau hyn – ond y mae ffyniant yn cynnwys hefyd berthynas bobl â’i gilydd a’u syniad o hunan-werth. Yn yr Eglwys yng Nghymru yr ydym yn ffodus fod ein prosiectau cyfrifoldeb cymdeithasol yn cynorthwyo rhieni ifainc a phlant bach i brofi gwerthoedd cadarnhaol o’r fath. Am gyfnod rhy hir bu Cristnogion yn gwahanu ysbrydoledd oddi wrth realiti economaidd a chymdeithasol. Yr her inni i gyd yn awr yw dod o hyd i ffyrdd cyfannol o ddatrys y problemau sy’n ein hwynebu.

4. Yn bedwerydd, y mae mater tlodi bydeang. Seiliwyd yr ymgyrch ‘Gwneud Tlodi’n Hanes’ ar ddiddymu dyledion, ar fwy o gymorth a gwell cymorth, ar fasnach ac ar gyfiawnder. Mae’r rhain i gyd cyn bwysiced a’i gilydd. Rwy’n cofio pan oeddwn yn Simbabwe yn 1998, yr oedd, ddechrau’r flwyddyn honno, bedair doler Simbabweaidd am bob doler Americanaidd. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd 34 doler Simbabweaidd am bob doler Americanaidd. Gan fod yn rhaid ad-dalu cymorth mewn doleri Americanaidd, fe welwch yr effaith alaethus a gafodd hynny ar economi’r wlad. Erbyn hyn, y mae dwy fil ar bymtheg o ddoleri Simbabweaidd am bob doler Americanaidd. Ond gwyddom hefyd mai ofer fydd pob cymorth yn y tymor hir heb i’r gwledydd Affricanaidd gael eu llywodraethu’n well a bod yn wleidyddol sefydlog. Cydnabu’r Undeb Affricanaidd ei hun y collir 148 biliwn doler o gymorth ac arian buddsoddi mewnol bob blwyddyn oherwydd anonestrwydd ac aneffeithiolrwydd. Y mae Simbabwe, wrth gwrs, yn enghraifft glasurol. Sut, fodd bynnag, fedrwch chi gysylltu nawdd gyda llywodraethu gwell?.

Yn ystod y flwyddyn arbennig hon, byddwn yn canolbwyntio fel Cristnogion ar bob un o’r sialensau hyn. Sut ydym ni, yng ngoleuni’r Efengyl, yn pleidleisio er budd pawb? Mae’n beth da inni godi ein pennau dros y clawdd i edrych at orwelion pellach. Fedrwn ni ddim bodloni ar drafod ein problemau ein hunain gan fod Duw â chonsýrn dros y byd i gyd? Ond fedrwn ni ddim anwybyddu’r problemau sy’n wynebu’r eglwys ychwaith.

Ym mis Chwefror yr oeddwn yn bresennol ym Mhwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd yn Genefa ac yng nghyfarfod archesgobion yr Eglwys Anglicanaidd yn Newry, Gogledd Iwerddon. Mae gan Gyngor Eglwysi’r Byd 550 miliwn o aelodau mewn 120 o wledydd, ac y mae 342 o eglwysi yn aelodau ohono. Mae gan y Cymundeb Anglicanaidd 70 miliwn o aelodau ledled y byd mewn 38 o daleithiau. Yn 2006, bydd Cyngor Eglwysi’r Byd yn cynnal ei nawfed Cynulliad yn Porto Alegre, Brasil, ar y thema ‘Duw, yn dy ras, trawsffurfia’r byd’. Yr unig eglwys fawr nad yw’n aelod o’r Cyngor yw’r Eglwys Gatholig Rufeinig, ond y mae ganddi statws sylwedydd. Cynrychiolir arno yr holl eglwysi Uniongred. Yn wir, Aram I, arweinydd Catholigion uniongred Eglwys Armenaidd Lebanon, yw’r Llywydd. Yn ystod yr wythnos pan gyfarfu’r Pwyllgor Canolog, buom yn ystyried dogfennau yn ymwneud â pherthynas Cyngor Eglwysi’r Byd â’r Eglwys Gatholig Rufeinig, a materion hefyd yn ymwneud ag Irác, y Dwyrain Canol, y Môr Tawel, y weinidogaeth iacháu, materion yn ymwneud â ffydd a threfn, a sut i gydsynio ar benderfyniadau. Neilltuwyd un bore, fodd bynnag, ar gyfer yr hyn a alwai’r Cyngor yn Wrandawiad ar Rywioldeb Dynol – peth y gofynnwyd amdano yn ei Gynulliad diwethaf yn 1998. Y penderfyniad bryd hynny oedd “ein bod yn astudio rhywioldeb dynol yn ei holl amrywiaeth, a sicrhau bod yr astudiaeth ar gael i eglwysi sy’n aelodau, am ein bod yn cydnabod fod hyn yn achosi rhaniadau oddi mewn i eglwysi a rhwng eglwysi a’i gilydd’.

Yn dilyn y penderfyniad hwn yn 1998, digwyddodd dau beth. Yn gyntaf, fe benododd y Pwyllgor Canolog gr w p cyfeirio, a fu’n archwilio pob un datganiad a wnaed ar y mater gan bob un eglwys a oedd yn aelod, ac yn crynhoi ac yn adolygu’r amrywiol ddatganiadau hyn – yn adroddiadau a phenderfyniadau ac argymhellion, neu’n ganllawiau astudio – cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor Canolog. Ar yr un pryd, noddodd Cyngor Eglwysi’r Byd dair seminar ar rywioldeb dynol yn ei d y astudio yn Bossey. Gwahoddodd ystod eang o gyfranwyr o wahanol safbwyntiau o wahanol ranbarthau o’r byd i rannu eu safbwyntiau diwylliannol, lleol a bydeang, ar fater rhywioldeb dynol. Yr oedd gan y cyfranwyr hyn – rhyw ugain ohonynt i gyd – hwyluswr wrth law i’w cynorthwyo i fynegi eu teimladau ac i esbonio’u safbwyntiau y naill i’r llall. Mynegodd y gr w p y farn fod y ddiwinyddiaeth orau yn deillio o brofiadau bywyd go iawn, ac o rannu yn gyfrinachol storïau personol am boen neu euogrwydd. Nodweddid y seminarau, ac rwy’n dyfynnu, ‘[gan] onestrwydd, a buont yn fan cyfarfod i ddynoldeb sanctaidd’. Mewn gair, teimlai pobl y gallent siarad yn agored ac yn onest am fod eraill yn gwrando arnynt gyda pharch a dealltwriaeth.

Peidiwch, da chwi, â meddwl am ‘wrandawiad’ fel rhywbeth cyfreithiol. I Gyngor Eglwysi’r Byd, ystyr ‘gwrandawiad’ yw cyflwyno pwnc o nifer o wahanol safbwyntiau, a hynny’n cael ei ddilyn gan gwestiynau a thrafodaethau, heb ddod i unrhyw ganlyniad. Yn fy marn i, yr oedd y gwrandawiad hwn ar rywioldeb dynol yn un o sesiynau gorau’r Pwyllgor Canolog, oherwydd llwyddodd i ymdrin â’r pwnc dadleuol hwn mewn modd aeddfed ac agored, a chaniatáu trafodaeth a oedd yn ddyngarol, yn ddiwinyddol ac yn ysgogi’r meddwl. Yr wyf yn sôn am hyn oll am fod Cynhadledd Lambeth hefyd yn 1998, mewn sesiwn lawn, wedi cynnal trafodaeth, os gellir ei galw’n drafodaeth, ar rywioldeb dynol, a buom yn dadlau am y peth byth er hynny. Mae’n hawdd beirniadu Cyngor Eglwysi’r Byd, ond y mae’r modd yr aeth ef i’r afael â chwestiwn rhywioldeb dynol, o’i gymharu â’r modd yr aeth y Cymundeb Anglicanaidd i’r afael â’r mater, yn dangos fod gennym lawer i’w ddysgu fel eglwys.

Rwy’n codi’r mater hwn hefyd oherwydd, fel y gwyddoch, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Windsor, fe ofynnodd yr archesgobion i’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol, sy’n cyfarfod yn Nottingham ym mis Mehefin, drefnu gwrandawiad ar rywioldeb dynol. Yr hyn sydd ei angen yn y Cyngor Ymgynghorol yw nid truth diwinyddol na thaflu taflegrau geiriol at bobl sy’n digwydd anghydweld â’n safbwyntiau arbennig ni, ond trafodaeth resymol a chytbwys ar rai o’r materion perthnasol, a rhoi lle ac amser i bob math o safbwynt. Os yw’n mynd i ddirywio i fod yn sesiwn flagardio, byddai’n well peidio â chael gwrandawiad o gwbl ym mis Mehefin. Sut y gallwn ni fel Cymundeb ddal i ddweud, fel y gwna Lambeth 1 10 ac fel y gwna’r archesgobion, “y dylem wrando ar brofiadau pobl hoyw, ymrwymo i’w cefnogi’n fugeiliol a ffieiddio at unrhyw erlid neu fychanu arnynt”, ac eto gwrthod derbyn fod gan bob un ohonom lawer i’w ddysgu amdanom ein hunain fel bodau rhywiol?

Rwy’n ddiolchgar i’r gr w p a gynullwyd gan y Dr Peter Sedgwick, Prifathro Coleg Mihangel Sant, am ei ymateb ar ran yr Eglwys yng Nghymru i Adroddiad Windsor. Fe’i cynhwyswyd yn eich papurau. Gan na chynhelid Corff Llywodraethol cyn cyfarfod yr archesgobion, teimlai Mainc yr Esgobion mai dyma’r dull gorau o ymdrin â’r adroddiad.

Rwy’n ddiolchgar hefyd i’r Parchedig Jenny Wigley am olygu Theology Wales yn dilyn ein trafodaeth ar rywioldeb dynol yn y Corff Llywodraethol yn 2003. Yr hyn sydd yn Theology Wales yw canllawiau astudio, fel y gallwn ystyried y mater hwn yn ei holl gymhlethdod. Ar 11 Mehefin, cynhelir diwrnod yng Ngholeg Mihanel Sant ar gyfer trafodaeth bellach. Yr hyn y mae ei angen arnom yw nid gwrthdrawiad ond parodrwydd i drafod.

Gadewch imi, yn fyr iawn, rannu peth o’r goleuni a gefais yng Nghyngor Eglwysi’r Byd, ac a allai fod o gymorth enfawr i’r Cymundeb Anglicanaidd wrth iddo yn awr fynd i’r afael â’r mater hwn:

  1. Nid dim ond â pherthynas pobl o’r un rhyw y mae a wnelo rhywioldeb dynol. Mae rhywioldeb yn rhywbeth sylfaenol ym mhob un ohonom; mae’n effeithio arnom i gyd ac yn ein gwneud ni’n agored i niwed. Y mae a wnelo Lambeth 1 10 nid yn unig â gwrywgydiaeth ond â rhywioldeb dynol yn gyffredinol.
  2. Cydnabu mwyafrif eglwysi Cyngor Eglwysi’r Byd fod safbwyntiau eglwysig traddodiadol ar rywioldeb dynol yn anghydnaws â realiti’r byd yr ydym yn byw ynddo. Y mae gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedwn fel eglwysi a’r modd y mae Cristnogion yn ymddwyn.
  3. Er bod mwyafrif y datganiadau a wnaed gan yr eglwysi yn ystyried mai’r Beibl oedd y prif sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau moesegol, cydnabyddid hefyd bod angen astudio ymhellach, ac mai datganiadau amodol oedd llawer o’u datganiadau. Deuent at y pwnc gyda gwyleidd-dra. Er bod pob un o’r eglwysi mawr yn rhoi lle canolog i’r ysgrythur, yr oedd cryn anghytundeb ar y cwestiwn ai’r Beibl ei hun sy’n llywio ein moeseg, ai ynteu fod lle hefyd i draddodiad a rheswm, ac os oes, sut y mae cadw cydbwysedd rhyngddynt. Dangosai’r mwyafrif o’r datganiadau barodrwydd i ystyried y Beibl yn feirniadol, ac i ystyried testunau yn eu cyd-destun diwylliannol yn hytrach na derbyn mai dyma eiriau llythrennol a therfynol Duw ar y mater hwn.
  4. Roedd y datganiadau i gyd yn cadarnhau fod rhywioldeb dynol yn beth hanfodol dda, ac yn rhodd y dylid ei dathlu. Atgoffwyd ni fod y farn hon yn wahanol iawn i farn Awstin Sant, y bu’r eglwys yn ei dilyn am ganrifoedd, sef mai melltith mewn gwirionedd oedd rhywioldeb a rhyw.
  5. Dylid gweld pechod yng nghyd-destun ein hymateb cyflawn i gariad Duw a’n methiant i ymateb i’r cariad hwnnw, ac nid ei gyfyngu i faterion rhywiol yn unig. Nid pechodau rhywiol yw’r unig bechodau, nac, yn wir, y prif bechodau.
  6. Rhaid i ddiwinyddiaeth fod yn agored i’r posibilrwydd o weld datguddiad Duw o wirionedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Wedi’r cyfan, dyna ystyr athrawiaeth yr Ysbryd, ac mae’r eglwys yn y gorffennol wedi newid ei meddwl ar lawer o bynciau.
  7. Weithiau fe dry dadleuon yn wrthdrawiadau ideolegol, a’r hyn sy’n mynd ar goll yn yr holl s w n yw’r unigolyn. Yn y Gwrandawiad yng Nghyngor Eglwysi’r Byd fe’n hatgoffwyd fod yna ddirgelwch a sacramentaliaeth yng nghanol bywyd pob un ohonom. Creaduriaid bregus ydym i gyd, a rhaid ein trin gyda gofal. Am inni gael ein llunio ar ddelw Duw, a’n bod yn credu mewn Duw sy’n dymuno ein hadfer a’n hiacháu, y mae angen inni weld y naill y llall trwy lygaid Duw.
  8. Y mae arnom angen trafodaethau agored, nid gwrthdrawiad a thor-perthynas. Os na all eglwys Duw gynnal dadl wâr, a hithau’n hawlio ei bod yn gymuned a gymodwyd ac sy’n cymodi, pa neges a rydd hynny i’r byd? Fedrwn ni ddim fel eglwys ddisgwyl galw am heddwch, cyfiawnder a thosturi yn ein cenedl ac yn ein byd os nad ydym ni fel Cristnogion yn amlygu’r nodweddion hyn yn ein bywydau a’n hymwneud â’n gilydd.