Araith y Llywydd, Corff Llywodraethol – Medi 2005

Yr ydym yn clywed cryn dipyn y dyddiau hyn am yr angen i’r eglwys fod yn eglwys genhadol neu’n eglwys sy’n cenhadu. Yn ogystal â gwneud i nifer ohonom deimlo fel petai’n rhywbeth y tu hwnt i’n cyrraedd, mae hyn yn swnio mor aruchel a diwinyddol. Beth yn union a olygir gan yr ymadrodd fod yr eglwys yn bod er mwyn cenhadu?

Y drafferth gyntaf yw nad gair Beiblaidd yw cenhadu. Wnewch chi ddim darganfod y gair cenhadu yn y Beibl, gan mai gair o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw, a ddefnyddiwyd yn gyntaf gan aelodau o Gymdeithas yr Iesu yng Ngogledd yr Almaen wrth gyfeirio at droi Protestaniaid at Babyddiaeth. Yn ddiweddarach, wrth gwrs, daethpwyd i’w ddefnyddio gan Gristnogion mewn gwledydd nad oeddent yn rhai Cristnogol i gyfeirio at droi paganiaid at Gristnogaeth. Yn anochel felly, cysylltir y gair â chenhadon – pobl a anfonwyd i gludo Duw at anghredinwyr. Ym meddyliau llawer o Gristnogion, felly, ystyr gyntaf y gair cenhadu yw troi at yr Efengyl bobl dros y môr, na chlywsant erioed mo’r Efengyl o’r blaen. Y mae a wnelo â chyhoeddi’r Efengyl lle nad oes eglwys, a lle y mae paganiaeth yn ennyn pryder. Y darlun a ddaw i’r meddwl yw perswadio neu droi neu gyfeirio pobl i’r un safbwynt â ni.

Karl Barth, y diwinydd mawr, a ddywedodd nad oedd gair Duw i’w gael yn y Beibl ond ei fod yn hytrach i’w ddarganfod trwy’r Beibl. Er nad yw’r gair cenhadu yn y Beibl, ystyr y gair Groeg mitto yw ‘anfon’, ac mae Duw’r Beibl yn Dduw sy’n anfon. Adeg y Creu y mae Duw yn anfon ei Ysbryd i’r byd. Anfonir Abraham ganddo; anfonir Moses at bobl Israel; anfonir Jona i Ninefe, anfonir y proffwydi at Israel, ac, wrth gwrs, anfonir Iesu hefyd (“Fe’m hanfonwyd gan y Tad”, a dyfynnu Iesu yn yr Efengyl yn ôl Ioan). Felly hefyd y mae Iesu yn anfon allan y deuddeg, ac yna’r deg a thrigain, ac wedi’r atgyfodiad, yn anfon ei ddilynwyr allan i’r byd i gyhoeddi’r newyddion da. “Fel yr anfonodd y Tad fi, felly hefyd yr wyf fi yn eich anfon chwi”. Mae Duw yn Dduw sy’n cenhadu, yn Dduw sy’n anfon, ac y mae pobl Dduw yn bobl sy’n cenhadu, yn bobl sy’n anfon, os ydynt yn ddilynwyr iddo ef. Mae’n amhosibl, felly, sôn am Dduw heb sôn am genhadu, ac mae’n amhosibl sôn am yr eglwys heb sôn am genhadu. Mae cenhadu yn ganolog i fywyd yr Eglwys am ei fod yn ganolog i Dduw. Mae’r eglwys yn bodoli trwy gael ei hanfon. A dyfynnu un diwinydd, “mae’r eglwys yn byw trwy genhadu yn yr un modd ag y mae tân yn byw trwy losgi.” Cenhadaeth yw Duw yn symud i mewn i’r byd yn y creu a’r ymgnawdoliad a thrwy anfon yr Ysbryd. Cenhadaeth yr eglwys yw cael ei thynnu i mewn i’r genhadaeth sy’n eiddo Duw. Fe’i hanfonir ganddo i wasanaethu ei fyd. Yng ngeiriau’r Archesgob Rowan, “y mae a wnelo â darganfod gweithgaredd Duw yn ei fyd ac ymuno ag ef yn y gwaith hwnnw”.

Mae cenhadu, felly, yn awgrymu symud pwrpasol – symud a mentro allan. Fodd bynnag, nid gorfodi pobl i gredu oedd cenhadaeth Iesu, ond yn hytrach gwireddu bywyd newydd iddynt, gweddnewid eu bodolaeth. Dyna hefyd ein tasg ni – tynnu sylw pobl at bosibilrwydd bywyd newydd, tynnu sylw pobl at amcanion Duw. A dyfynnu diwinydd arall, “Nid recriwtio i’n math ni o grefydd, ond tynnu sylw pobl at deyrnasiad hollfydol Duw”. Fe ddigwydd cenhadu, neu fe ddylai ddigwydd, lle bynnag y bo’r eglwys. Nid â gweithio dramor y mae a wnelo yn y lle cyntaf. Ni olyga ychwaith fynd â Duw i sefyllfaoedd arbennig – fel pe na bai Duw yn y sefyllfaoedd hynny heb i ni fynd ag ef yno. Yn hytrach, y mae a wnelo â datguddio Duw – rhoi cymorth i bobl adnabod presenoldeb Duw a’r hyn y mae eisoes yn ei wneud yn eu plith. Mae’n fater o ymuno â Duw yn ei genhadaeth i’r byd. Fel y dywed yr Archesgob Rowan, “darganfod beth y mae Duw yn ei wneud ac ymuno ag ef i wneud hynny”.

Pa fath o Dduw yw hwn? Mae yna gliw yng ngeiriau’r Iesu wrth ddisgyblion Ioan Fedyddiwr, “Ewch a dywedwch wrth Ioan pa beth yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae’r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahanglwyfion yn cael eu glanhau a’r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.”.

Mewn geiriau eraill, mae’n dangos i’r byd yr hyn y mae Duw eisoes ar waith yn ei weithredu ynddo – yn gwrthwynebu popeth sy’n gwyrdroi neu’n bychanu bywyd dynol ac yn hybu popeth sy’n ei wella. Mae Duw yn erbyn popeth sy’n aflunio a bychanu a gwastraffu a llurgunio bywyd dynol. Dyna oedd craidd cenhadaeth Iesu a dyna hanfod cenhadaeth yr eglwys. Ein tasg ni yw gweithredu yn erbyn popeth yn ein byd ac yn ein cymunedau sy’n manteisio ar bobl, a gwneud popeth o fewn ein gallu i adeiladu ac adfer ac iacháu. Y mae a wnelo cenhadaeth a gweinidogaeth Duw â chymod a thangnefedd a chyfiawnder. Mae Duw yn nesáu at ei fyd mewn cariad, ac felly hefyd y dylai’r eglwys. Mae’r eglwys yn bod i geisio gwneud Teyrnas Dduw yn fwy gweledig yn ei fyd, ac fe’n galluogir i wneud hynny am mai yn yr eglwys y derbynnir ac y cydnabyddir cariad Duw am yr hyn ydyw – y Duw, a ddatgelwyd yn Iesu yn Dduw trugaredd, yn cymysgu â phobl a wrthodir gan y byd, yn iacháu ac yn adfer ac yn dod â bywyd newydd. I grynhoi, Duw sy’n gweddnewid.

Sut, felly, y medrwn ni gyfranogi yn y genhadaeth yn ein plwyfi? Beth yw ystyr hyn i ni? Rwy’n mynd i awgrymu tri pheth.

Yn gyntaf, mae angen i ni adfer ein hyder yn Nuw, gan mai yn yr eglwys y derbynnir ac y cydnabyddir cariad Duw am yr hyn ydyw. Yn fynych, ni all y byd adnabod y cariad hwnnw. Mae’n ffaith na chanfuwyd yn unrhyw fan yn y byd gymdeithas ddigrefydd na diwylliant nas dylanwadwyd arno gan ragdybiaethau crefyddol. Nid y crediniwr yw’r eithriad, ond yr anghrediniwr. Mae angen felly inni fod yn fwy eofn wrth wynebu anghrefydd. Mae angen inni gyhoeddi’r Duw byw a’i gariad at y byd. Yr ydym weithiau yn anghofio fod gan yr eglwys gangen yn ymron bob cymuned. Mae gennym fwy o aelodau ym mhob cymuned nag unrhyw gymdeithas arall. Mae angen inni adfer ein hyder. Mae angen inni gyhoeddi’r newyddion da sydd gennym am gariad Duw. Gall addoli llewyrchus fod yn foddion tröedigaeth. Rhaid iddo fod y gorau y medrwn ei gynnig i Dduw, a rhaid i’n heglwysi fod yn lleoedd croesawgar – er mwyn dwyn pobl i mewn i fywyd Duw. Mae croeso yn allweddol. Y diwrnod o’r blaen yr oeddwn mewn eglwys yn esgobaeth Llandaf lle’r oedd rhywun wrth y drws â chanddo swyddogaeth benodol – nid i rannu llyfrau, ond i roi croeso hamddenol i bawb a oedd yn croesi’r rhiniog. Gwnaeth hynny argraff ddofn arnaf. Dyna sut yr ydym yn croesawu pobl i’n cartrefi. Pam y dylai t ŷ Dduw fod yn wahanol?

Yn ail, yr ydym yn cymryd rhan mewn cenhadaeth oherwydd y math o bobl ydym. Mae’n Diwylliant Gorllewinol yn rhoi pwyslais mawr ar hunan-foddhau a hunan-gyflawni, ar fwynhad a hapusrwydd personol. Nid yw aberth ac asgetiaeth a hunanddisgyblaeth yn eiriau poblogaidd. Ond â’r pethau hyn y mae a wnelo’r Efengyl. Ni ddylai fod gennym ni, gredinwyr, gywilydd dweud hynny. Yn bwysicach fyth, gallwn gyhoeddi’r gwerthoedd hyn orau trwy’r math o fywyd yr ydym yn ei fyw. Y mae arnom angen ein trochi yn y gwerthoedd hynny. Mae angen i fywyd Iesu Grist, bywyd hunanaberthol, hyglwyf, bywyd o haelioni a lletygarwch, fod wedi cyffwrdd â ni yn bersonol a’i wneud yn rhywbeth diriaethol inni yn ein bywyd ein hun. Mae angen inni gael ein newid i fod yn debyg i Grist, ein gweddnewid er mwyn i bobl eraill weld y gweddnewid ynom a chael eu denu i’r un math o fywyd. Ysgrifenna’r Esgob Lesslie Newbigin, “Yr unig ffordd o ddehongli’r Efengyl yw bod cynulleidfa o ddynion a merched yn credu’r Efengyl ac yn byw wrthi”. Cyn y gellir gweddnewid byd nac eglwys, rhaid gweddnewid ein bywydau fel Cristnogion unigol. Y mae Duw y Tad yn anfon Iesu i’n byd fel y gall y byd gael ei weddnewid, ac fel rhai sy’n credu ynddo ef, y mae angen i ninnau gael ein gweddnewid gan ei fywyd a’i Ysbryd.

Ysgrifennodd y diwinydd Almaenig, Dietrich Bonhoeffer, a grogwyd gan y Natsïaid ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, am ddiffyg ymwybyddiaeth Cristnogion ar dro o’r angen am ymrwymiad personol a disgyblaeth ac ufudd-dod i’r Efengyl. ‘Gras rhad’ yw ei enw ef ar y peth – gras heb geisio bod yn ddisgybl, gras heb y groes. Ysgrifenna, “Mae angen inni gyfri’r gost o fod yn ddisgyblion”. Anghofiwn weithiau fod gan Iesu rai dywediadau heriol yn yr Efengylau.

  • Dyma rai ohonynt:
    • [Math 16:24] Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a’m canlyn i.
    • [Math 16:25] Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd er fy mwyn i, fe’i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe’i caiff.
    • [Math 16:26] Pa elw a gaiff dyn os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd?
    • [Luc 9:57] Pan oeddent ar y ffordd yn teithio meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei”.
    • [Luc 9:58] Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr”.
    • [Luc 9:59] Ac meddai wrth un arall, “Canlyn fi”. Meddai yntau, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad”.
    • [Luc 9:60] Ond meddai ef wrtho, “Gad i’r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw”.
    • [Luc 9:61] Ac meddai un arall, “Canlynaf di, Arglwydd, ond yn gyntaf caniatâ imi ffarwelio â’m teulu”.
    • [Luc 9:62] Ond meddai Iesu wrtho, “Nid yw’r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy’n edrych yn ôl, yn addas i deyrnas Dduw”.

Dyna pam ein bod ni fel Mainc yn lawnsio yn y cyfarfod hwn o’r Corff Llywodraethol Reol Buchedd ar gyfer aelodau o’r Eglwys yng Nghymru. Bydd llawer ohonoch yn dilyn rheol o’r fath eisoes, ond y nod i ni oedd ein hatgoffa ein hunain, a holl ddilynwyr Iesu, o arwyddocâd bod yn ddisgybl Iddo. Dyma rai o’r pethau a ddylai fod yn bwysig i bawb sy’n honni ei ddilyn ef. Yr ydym wedi eu hargraffu ar gerdyn fel bod modd in ni ein hatgoffa ein hunain yn ddyddiol o’r hyn a ddisgwylir oddi wrthym:

  1. Gweddïo ar Dduw yn ddyddiol, yn ogystal ag addoli gyda’r eglwys ar y Sul. Dyma’r unig ffordd inni ddyfnhau ein perthynas â Duw. Y mae a wnelo gweddi â chysylltu pethau a gweld perthnasedd pethau â’i gilydd. Mae angen rhoi iddi ynni ac amser.
  2. Darllen rhan o’r Beibl yn ddyddiol. Gorau oll os bydd gennym ganllaw astudio’r Beibl, er mwyn medru tyfu yn ein dealltwriaeth o ewyllys Duw.
  3. Byw ein bywyd yn y fath fodd fel ein bod yn agored i’r hyn y mae Duw yn ei ddweud wrthym ym mhob sefyllfa y deuwn ar ei thraws. Y mae’n ffaith, fel yr atgoffa’r bardd R. S. Thomas ni, “mai yn y ffeithiau moel a’r digwyddiadau naturiol y datgelir Duw; dylanwad gweithredoedd y meddwl sy’n ei guddio oddi wrthym”. Os Duw yw Duw, yna y mae’n siarad â ni yn y digwyddiadau yr ydym yn eu profi a’r bobl yr ydym yn cyfarfod â hwy. Mae angen inni ddirnad y presenoldeb hwnnw.
  4. Fel stiwardiaid creadigaeth Duw, mae angen inni sicrhau ein bod yn rhannu ag eraill y rhoddion y mae Duw wedi eu rhoi i ni – ein hamser, ein doniau a’n arian. Pe byddem o ddifrif ynghylch y rhain, ni fyddai gennym fel eglwys unrhyw broblemau ariannol.

Yn ogystal â’r cardiau, paratowyd deunydd ar bob un o’r pynciau hyn (gweddïo, darllen, byw a rhannu) i gynorthwyo unigolion a phlwyfi i ddirnad goblygiadau dilyn y rheol. Mae hefyd ddalen-nodwr a gweddi arno.

Rhaid i eglwys a fyn weddnewid ei gweinidogaeth a’i chenhadaeth gychwyn trwy wneud neu ail-wneud disgyblion o’i haelodau – dilynwyr gwirioneddol i Iesu, yn barod i sefyll dros yr hyn a gredwn ac i rannu ein ffydd ag eraill a’u gwahodd hwy i ymuno â ni, yn barod am ymrwymiad a hunanaberth personol. A dylai’r cyfan oll fod yn ymateb mewn cariad i gariad Duw yng Nghrist Iesu. Yr ydym yn methu bod yn wir ddisgyblion am ein bod wedi methu dirnad dyfnder aruthrol cariad Duw atom. Dyna pam fod y cardiau’n cychwyn, nid â’r hyn y medrwn ni ei wneud i Dduw ond â’r hyn a wnaeth, ac a wna, Duw i ni. Dyna pam y galwyd Cristnogaeth yn grefydd o ymateb.

Yn drydydd, y mae eglwys genhadol yn ceisio gwasanaethu’r gymuned y lleolwyd hi ynddi. Fe’i hanfonir at y gymuned honno. Mae’n ceisio gweinidogaethu i’r rhai hynny sy’n unig, yn brofedigaethus, ar goll, yn sâl, yn dlawd, ar y cyrion neu dan fygythiad. Ac mae angen iddi wneud hynny, nid trwy hap a damwain wrth iddi ddod ar draws unigolion mewn angen, ond yn hytrach mewn modd strwythuredig a threfnus. Mae angen i’r eglwys fel corff fynd i’r afael â materion sy’n cael effaith ar ei chymuned leol – pethau megis diweithdra, digartrefedd, cardota, hiliaeth, ceiswyr lloches. Mae gennym ni’r offer, ac mewn partneriaeth ag eraill, yr adnoddau dynol ac ariannol. Yn rhy aml, y mae’r eglwys, a anfonwyd i wasanaethu’r gymuned, yn disgwyl i’r gymuned ei chynnal hi, ac yn rhy aml fe’i traflyncir gan ei gofidiau a’i lles ei hun nes ei bod yn anghofio’r byd y mae i fod i’w wasanaethu. Dyna droi’r Efengyl a’i phen i waered. Mae eglwys sydd i fod i wasanaethu eraill yn treulio’r cyfan o’i hamser a’i hynni yn poeni amdani hi ei hun.

Nid mewn crefydd yn unig yr ymddiddorai Iesu. Ymddiddorai hefyd mewn materion beunyddiol, ymarferol. Sylweddolai fod angen iacháu cyrff yn ogystal ag achub eneidiau, a dileu ofnau yn ogystal â maddau pechodau. Integreiddio oedd un o nodweddion ei weinidogaeth. Rhaid bod a wnelom ninnau â lles corfforol pobl yn ogystal ag â’u lles ysbrydol. Rhaid inni nid yn unig weinidogaethu i unigolion ond gweithio hefyd i newid yr hinsawdd gymdeithasol sy’n llesteirio cyflawnder.

Mae’r genhadaeth hon yn perthyn inni i gyd yn rhinwedd ein bedydd. Y mae’n genhadaeth i’r eglwys gyfan yr ydym oll yn aelodau ohoni. “Mae Cristnogion yn eistedd ar fwynglawdd o’r enw’r eglwys ond yn aml yr ydym yn methu gweld mai mwynglawdd aur ydyw” (Newbigin eto). Os llwyddwn i adfer ein synnwyr o genhadaeth, pwy a ŵ yr beth a all ddigwydd, pwy all gael eu denu i mewn i fywyd y ffydd a pha effaith y gall y gweddnewidiad hwn ei gael ar y byd o’n cwmpas.