Araith y Llwydd – Y Corff Llywodraethol Ebrill 2014

Yn y Corff Llywodraethol hwn byddwn yn trafod nifer o faterion pwysig i’n Heglwys a’n cenedl. Mae a wnelo’r rhain â pherthynas un-rhyw, cymorth i farw ac eciwmeniaeth. Ni allaf gofio Corff Llywodraethol lle y trafodwyd cynifer o bynciau pwysig gyda’i gilydd. Fodd bynnag, ni ddisgwylir inni wneud unrhyw benderfyniad ar gymorth i farw na pherthynas un-rhyw. Bydd pobl o ddwy ochr y ddadl yn ein hannerch ar gymorth i farw, a bydd cyfle inni gyfarfod mewn grwpiau i drafod yr hyn a glywsom. Ar fater perthynas un-rhyw, yr ydych i gyd wedi derbyn Adroddiad y Comisiwn Athrawiaeth yn trafod ymatebion posibl.

Bydd y Parchedig Ganon Dr Peter Sedgwick, Cadeirydd y Comisiwn Athrawiaeth, yn cyflwyno’r adroddiad, a byddwn yn ei drafod mewn grwpiau. Ni fydd disgwyl inni benderfynu dim ar hyn o bryd, ond bydd yn fuddiol iawn gweld cyfeiriad cyffredinol y trafodaethau, fel y gall yr esgobion ystyried a ddylid symud ymlaen ar y mater, ac os felly, sut.

Bydd cyfle hefyd i’r Corff hwn leisio barn ar beth a ddylai fod yng Nghôd Ymarfer yr Esgobion, gan fod y Bil i alluogi ordeinio merched yn esgobion yn dod i rym ym mis Medi. Bydd y drafodaeth hon ar yr un llinellau â’r trafodaethau a gynhaliwyd eisoes eleni yn yr esgobaethau. Tasg yr esgobion fydd gwrando ar yr hyn a ddywedir. Ni ddisgwylir unrhyw benderfyniad, gan i’r Corff Llywodraethol, yn y Bil a basiwyd y llynedd, ymddiried y gwaith o lunio’r Côd i’r Fainc.

Fodd bynnag, un penderfyniad y bydd yn rhaid inni ei wneud, ac y mae’n un pwysig, fydd penderfynu ymateb y dalaith i’r cynigion a lawnsiwyd yn y Cydgynulliad yn Aberystwyth ym mis Hydref 2012 i greu Eglwys yn Uno yng Nghymru.

Yr hyn y mae’r holl bynciau hyn yn ei danlinellu yw bod anghytundeb diffuant ymhlith Cristnogion ar faterion moesol, athrawiaethol ac eciwmenaidd. Mewn geiriau eraill, nid oes y fath beth ag un safbwynt Cristnogol ar berthynas un-rhyw, cymorth i farw nac ordeinio merched yn esgobion. Gyda golwg ar y ddau bwnc cyntaf a enwais, bydd y trafodaethau, gobeithio, yn ein galluogi fel Eglwys i ddirnad sut y gallwn, maes o law, ymateb, gan gofio y bydd ein hymateb, a’r hyn a ddywedwn, yn effeithio ar fywydau pobl.

Fe hoffwn yn awr wneud ychydig sylwadau, nid i gynnig atebion ond i bwysleisio cymhlethdod y cwestiynau sy’n ein hwynebu.

Yn gyntaf, does neb ohonom yn dod at y materion hyn yn ddiduedd. Cawsom i gyd ein rhaglennu y naill ffordd neu’r llall gan ein magwraeth, ein haddysg a’n profiad o fywyd i weld pethau mewn ffyrdd arbennig. I mi, darluniwyd hyn yn drawiadol iawn mewn diwrnod o Hyfforddiant Gweinidogaethol Parhaus i glerigion Esgobaeth Llandaf y mis diwethaf ar ymwybyddiaeth o’r rhywiau. Rhoddwyd i’n hanner ni sbectol â lens goch, ac i’r hanner arall sbectol â lens las, a gofynnwyd inni ysgrifennu i lawr yr hyn a welem ar sgrin o’n blaen.

Gwelodd y rhai ohonom â lens goch (dydw i ddim yn meddwl bod dim arwyddocâd yn y lliwiau) frawddegau fel “Yng Nghrist nid oes na gwryw na benyw”; “Gall merched weddïo a phroffwydo yn yr eglwys”; “Roedd merched yn gydweithwyr ac yn gydarweinwyr – roedd Phebe yn ddiacon, Jwnia yn apostol”; “Prisca a ddysgodd y ffydd i Paul”; “Mae awdurdod mewn priodas i’w rannu ac yn perthyn i’r gŵr ac i’r wraig”; “Mae awdurdod cyfartal gan wŷr a gwragedd”.

Gwelodd y rhai ohonom â lens las: “Nid wyf yn caniatáu i ferch ddysgu na bod mewn awdurdod”; “Dylai merched fod yn dawel yn yr eglwys”; “Mae’n beth cywilyddus i ferch siarad mewn eglwys”; “Y gŵr yw pen y wraig, a rhaid i wragedd ufuddhau i’w gwŷr”.

Ac eto, yr oeddem i gyd yn edrych ar yr un sgrin, ac yr oedd y brawddegau hyn i gyd arni, ond bod ein lens arbennig ni yn cuddio’r brawddegau yr oedd y lens arall yn eu hamlygu. Byddwn yn aml yn gweld yr hyn yr ydym yn dymuno’i weld. Byddwn yn aml yn defnyddio’r Ysgrythur i gefnogi safbwyntiau yr ydym wedi cyrraedd atynt trwy ffyrdd eraill, ac am resymau eraill. Mae rhai pobl wedi newid eu meddwl am weinidogaeth merched, er enghraifft, neu am berthynas un-rhyw, ar ôl profi gweinidogaeth merch o offeiriad, neu ddarganfod bod eu mab neu eu merch eu hunain yn hoyw.

Gellir dweud bod y Beibl yn gwbl glir yn ei gyfarwyddyd ar berthynas un-rhyw, a bod yr eglwys, hyd yn oed wrth ei drafod, yn ildio i ysbryd yr oes. Mae perthynas yr eglwys â diwylliant, wrth gwrs, yn bwysig. Yn 1951, ysgrifennodd yr ysgolhaig Americanaidd, Richard Niebuhr, lyfr dylanwadol iawn dan y teitl Christ and Culture. Amlinellodd bum agwedd Gristnogol bosibl ar fater perthynas Crist â diwylliant. Wrth ddiwylliant, golygwn gredoau a gwerthoedd ein hoes. A yw Crist yn gwrthwynebu diwylliant, ac yn galw Cristnogion i wrthod y byd yn gyfan gwbl? Neu a yw’n perthyn i ddiwylliant, fel perffeithydd popeth sy’n dda mewn cymdeithas? Neu a ydyw uwchlaw diwylliant, yn ein tynnu i fod yr hyn y mae Duw am inni ei fod fel bodau dynol? Neu a yw Crist a diwylliant yn bethau sydd wedi eu llwyr wahanu nes dyfod Teyrnas Dduw? Neu a yw Crist yn trawsffurfio diwylliant, yn gwrthod yr agweddau drwg arno ac yn ein galluogi i ddwyn popeth sy’n dda i mewn i gariad achubol Duw? Fel y dywed Efengyl Ioan, ‘bod yn y byd, ond nid yn perthyn i’r byd’.

Y drwg yw y gallwch ddod o hyd i’r holl agweddau hyn ar ddiwylliant yn y Beibl, dim ond i chwi chwilio’n ddigon manwl. Er enghraifft, gwêl y Beibl y byd creedig yn waith dwylo Duw, a rhaid felly gofalu’n dyner amdano, rhoi gwerth arno a’i fawrygu. Fodd bynnag, pan yw Israel yn dymuno cael brenin i’w harwain, yn lle proffwyd, mae’n gwneud hynny yn y lle cyntaf er mwyn cydymffurfio â phatrwm a diwylliant y cenhedloedd o’i chwmpas, ac yn erbyn cyngor y proffwyd Samuel. Er gwaethaf hyn, daeth y frenhiniaeth i fod, a daethpwyd i’w pharchu, ond ceryddwyd brenhinoedd unigol am eilunaddoliaeth ac am gam-drin y tlodion a “gwneud drwg yng ngolwg yr Arglwydd”. Mewn geiriau eraill, newidiodd diwylliant y cenhedloedd o’i chwmpas ddiwylliant Israel ei hun – diwylliant y bu’r proffwydi weithiau’n ei gymeradwyo ac weithiau’n ei feirniadu.

Yn y Testament Newydd, mae Paul yn 2 Corinthiaid 6 fel pe bai’n gofyn i Gristnogion ymwahanu oddi wrth anghredinwyr: “ dewch allan o’u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt … a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan”. Ac eto ef, ynghyd â Phedr, oedd yr apostol a ddadleuodd yn y diwedd nad oedd yn rhaid i Genedl-ddynion ddod yn Iddewon, a chadw’r deddfau purdeb ar fwyd ac enwaediad, cyn dod yn Gristnogion. Dyna gydnabod diwylliant y Cenhedloedd – diwylliant a oedd yn estron i’r Iddewon – safbwynt a gadarnhawyd maes o law gan Gyngor Jerwsalem. Mae Paul hefyd yn annog disgyblion Iesu i ddilyn pa bethau bynnag sy’n anrhydeddus a chyfiawn a phur yn y diwylliant o’u cwmpas. Nid yw cwestiwn ffydd a diwylliant, felly, mor syml ag yr ymddengys.

Beth am y modd y defnyddiwn y Beibl? Negyddol iawn yw’r ychydig destunau beiblaidd sydd gennym am berthynas un-rhyw. Ac eto, fe ellir dadlau nad oedd y math o berthynas wrywgydiol y gwyddom ni amdani, sef perthynas ymrwymedig, ffyddlon a hirhoedlog ag un person, yn bod yng nghyfnod y Beibl, ac mai’r hyn y mae’r testunau’n taranu yn ei erbyn yw anlladrwydd ac arbrofi rhywiol. Yn 1972, roedd Sefydliad Seiciatryddion America o’r farn mai clefyd meddwl oedd gwrywgydiaeth. Nid ydym yn credu hynny mwyach, ond roedd y gred honno’n un gyffredin ddeugain mlynedd yn unig yn ôl.

Mae’r Ysgrythur Lân yn llawer mwy awgrymog a chynnil a chymhleth nag y byddwn yn aml yn sylweddoli. Dywed Llyfr Deuteronomium 23: 1–4 na chaiff eunuchiaid fynychu cynulleidfa’r Arglwydd (byddai eunuchiaid yn cael rhyw goddefol â dynion eraill ac yr oeddent yn rhywiol amwys). Ac eto, dywed Eseia 56: 4–5, “I’r eunuchiaid sy’n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod, y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i’m muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched”. Ewch ymlaen i Lyfr yr Actau, pennod 8, adnod 38, ac y mae Philip yn bedyddio eunuch o Ethiopia.

Yn Deuteronomium y mae eunuchiaid yn ffiaidd gan Dduw ac nid oes croeso iddynt yn addoliad Israel, ond mae Eseia’n proffwydo y bydd Duw’n derbyn ac yn bendithio eunuchiaid hyd yn oed yn fwy na’r Iddewon, ei bobl ddewisedig. Mae Philip yn mynd ymhellach, ac yn bedyddio eunuch sy’n un o weinidogion Brenhines Ethiopia, canghellor ei thrysorlys. Felly, y mae Eseia’n croes-ddweud Deuteronomium, ac yn Llyfr yr Actau croesewir eunuch i gymuned y ffydd.

Waeth inni heb â dyfynnu testunau beiblaidd ar wahanol bynciau a meddwl mai dyna’r gair olaf. Mae’n hawdd ystyried gwaharddiadau’r Ysgrythur fel gair Duw, ac anghofio bod storïau hefyd yn y Beibl sy’n cyfleu gair Duw inni. A rhaid inni gofio nad ydym ni ddim, fel Eglwys, wedi cymryd safbwynt llythrennol ar briodas ac ysgariad, er gwaethaf geiriau pendant Iesu ar y pwnc.

Erbyn hyn, mae’r gyfraith yn y wlad hon yn caniatáu priodasau un-rhyw, ac er bod y ddeddfwriaeth yn gwahardd eu gweinyddu yn yr Eglwys yng Nghymru, fe gaiff rhai o’n haelodau eu priodi gan y wladwriaeth, a byddwn ninnau’n derbyn eu priodas am eu bod yn aelodau o’n heglwys. Ni fyddwn yn ceisio gwadu bod y priodasau hyn wedi digwydd.

Golyga hyn, wrth gwrs, fod anghysondeb yn awr rhwng safbwynt y Wladwriaeth ar briodas a safbwynt yr Eglwys, sef mai uniad ffyddlon am oes ydyw rhwng dyn a dynes.

Yn wir, yr ydym, fel Eglwys, yn yr un sefyllfa ar y mater hwn ag yr oeddem rai blynyddoedd yn ôl ar fater priodas ac ysgariad. Bu’r Wladwriaeth yn caniatáu ysgaru ac ailbriodi ymhell cyn i’r Eglwys ganiatáu hynny.

Yn y 1970au byddai’r Eglwys yng Nghymru hyd yn oed yn gwrthod y Cymun i bobl a oedd wedi ysgaru ac ailbriodi. Rhoddwyd y gorau i hynny, ond daliodd yr Eglwys i wrthod bendithio priodasau o’r fath, er bod llawer o bobl yn ein cynulleidfaoedd yn y sefyllfa honno a ninnau, o ganlyniad, yn cydnabod eu priodas. Erbyn hyn, yr ydym nid yn unig yn bendithio’r priodasau hyn, yr ydym hefyd yn priodi yn ein heglwysi bobl a ysgarwyd. Yn y gorffennol, pe bai clerig yn ysgaru ac yn ailbriodi, ni châi barhau yng ngweinidogaeth ordeiniedig yr Eglwys yng Nghymru. Erbyn hyn, nid yw’n rhwystr. Felly, y mae ein safbwyntiau wedi esblygu a newid ar bwnc y rhoddodd Iesu ei farn arno yn glir iawn. Ni ddywedodd ddim am berthynas un-rhyw.

A fyddwn ni, fel Eglwys, maes o law yn dilyn yr un trywydd ar berthynas un-rhyw ag a wnaethom ar ysgaru ac ailbriodi, neu a yw priodas hoyw mewn categori gwahanol i ailbriodi pobl a ysgarwyd?
Beth bynnag ein safbwyntiau, rwy’n gobeithio y gallwn drafod yn raslon. Mae dull Cristnogion o anghytuno’n bwysicach na’r anghytundeb ei hun. Er y gallwn weithiau anghytuno, ac weithiau anghytuno’n sylfaenol, mae ein perthynas â’n gilydd yn parhau. Fel cydaelodau o Gorff Crist, yr ydym ynghlwm â’n gilydd am ein bod ynghlwm â Christ. Gadewch imi eich atgoffa o’r datganiad a gyhoeddodd Mainc yr Esgobion yn 2005: “mae gan Gristnogion amrywiaeth o safbwyntiau gonest, o’r safbwynt mai’r unig gyd-destun priodol i weithgaredd rhywiol yw prodas dyn a dynes mewn uniad am oes” i’r safbwynt “bod yr amser wedi dod, yng ngoleuni dealltwriaeth sy’n datblygu o natur rhywioldeb dynol, i’r eglwys gymeradwyo perthynas wrywgydiol ymrwymedig”. Yr ydym oll rywle neu’i gilydd ar y sbectrwm hwn.

Dau beth arall. Rwyf wedi sôn o’r blaen am y perygl o drafod gwrywgydiaeth fel rhywbeth haniaethol, fel pe na bai a wnelo ddim â phobl go iawn. Nid oes hanes da iawn i’r Eglwys ar hyn, ac mae llawer yn ystyried ein bod yn homoffobig. Ar y llaw arall, rhaid i’r rhai hynny sydd am unioni’r cam a mynd ymlaen i fendithio’r priodasau hyn yn yr eglwys gofio nad yw’r Eglwys yng Nghymru wedi cytuno i hynny, ac nid awdurdodwyd yr un litwrgi i’r perwyl. Golyga gofal bugeiliol y gall clerigion weddïo’n breifat gyda phob math o bobl mewn pob math o sefyllfaoedd, ond nid yw hynny’n cynnwys bendithio cyhoeddus. Er cymaint y bydd ar rai pobl eisiau gwneud hynny, yr un yw’r rheol ag yn achos ailbriodi pobl a ysgarwyd: rhaid inni ddisgwyl am benderfyniad yr Eglwys gyfan – ac yr ydym yn cychwyn ar y broses honno yn y Corff Llywodraethol hwn.