Anerchiad y Llywydd Y Corff Llywodraethol, Medi 2013

Mae eleni’n ganmlwyddiant geni dau ddyn pwysig iawn yn hanes yr Eglwys yng Nghymru. Bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod ei bod yn ganmlwyddiant geni R S Thomas, oherwydd fe gynhaliwyd achlysuron i nodi hynny ledled Cymru, ond yn 1913 hefyd y ganed y diweddar G O Williams, Esgob Bangor am bum mlynedd ar hugain o 1957 hyd 1982, ac Archesgob Cymru am unarddeg o’r blynyddoedd hynny.  Cafodd y ddau eu geni cyn y datgysylltiad ond bu y ddau yn gweinidogaethu ar ôl y digwyddiad hynny.

G O, wrth gwrs, oedd esgob RS Thomas pan oedd yn offeiriad plwyf Aberdaron, a gwaetha’r modd, doedd y ddau ddim yn cyd-dynnu. Rwy’n dweud hyn am i’r esgob fynd ag R S Thomas i Lys yr Esgobaeth am fethu â sicrhau cadarnhad ysgrifenedig o alw gostegion mewn plwyf cyfagos i briodfab a oedd yn byw yno ac yn priodi merch o Aberdaron. Fe wnaeth hynny er gwaetha’r ffaith i RS gael ei sicrhau gan gyfeillion a pherthnasau’r priodfab fod y gostegion wedi cael eu galw. Mae rhwyg rhwng esgob a chlerig bob amser yn beth trist, ac nid yw heb ei effaith ar y naill na’r llall, ond mae’n arbennig o drist pan fo’r anghytundeb rhwng esgob a chanddo ddwy radd dosbarth cyntaf, mewn Saesneg a Diwinyddiaeth, o Rydychen, ac un o feirdd mwyaf rhyfeddol yr ugeinfed ganrif, a oedd yn digwydd bod yn gwasanaethu yn ei esgobaeth.  Nid bod R S yn un hawdd gwneud ag ef. Drygau yr oedd yn rhaid wrthynt oedd  esgobion iddo, ar y gorau – ac, ar y gwaethaf, pwy a ŵyr? Fe ddywedodd ar goedd fod “angen archwilio pen unrhyw un a oedd am fod yn esgob”.

Ganed G O Williams ym Mhenisarwaun yn Esgobaeth Bangor, a Phresbyteriad ydoedd nes iddo fynd yn fyfyriwr i Rydychen. Ar ôl blwyddyn yn Nhŷ San Steffan,  bu’n gwasanaethu yn ei dro yn Gurad Dinbych, yn ddarlithydd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yn Warden Hostel yr Eglwys, Bangor, ac yn Brifathro Coleg Llanymddyfri, a daeth yn Esgob Bangor yn 44 mlwydd oed. Gwahanol iawn fu hanes bywyd R S. Fe’i ganed ef yng Nghaerdydd, treuliodd ei blentyndod yng Nghaergybi, ac ar ôl bod yn Gurad y Waun, treuliodd y rhan fwyaf o’i oes mewn plwyfi gwledig – Manafon yn Esgobaeth Llanelwy, Eglwys Fach yn Esgobaeth Tyddewi ac Aberdaron yn Esgobaeth Bangor.

Yn achos R S, wrth gwrs, rhoddodd hynny gyfle iddo i ysgrifennu barddoniaeth. Mae hynny’n peri i ddyn ofyn beth, mewn plwyfi bychain, yr oedd clerigwyr nad oeddent yn ysgrifennu barddoniaeth yn ei wneud. Mae’n werth cadw’r cwestiwn hwn mewn cof pan fyddwn weithiau’n cwyno am grwpio plwyfi o’r fath.

Roedd G O, wrth gwrs, yn amlwg ym mywyd cenedlaethol Cymru. Yn rhannol o ganlyniad i’w gyfeillgarwch â’r Arglwydd Cledwyn o Benrhos, llwyddodd i berswadio’r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, William Whitelaw, fod ar Gymru angen sianel deledu annibynnol, S4C. Ymladdodd yn ddewr dros hawliau’r iaith Gymraeg mewn eglwys ddwyieithog. Roedd yn wir arweinydd, ymhell o flaen ei esgobaeth yn ei syniadau, a chyflwynodd syniadau newydd am weinidogaeth a chenhadaeth nes bod Bangor yn esgobaeth arloesol mewn sawl ffordd. Roedd o flaen ei amser ar faterion taleithiol hefyd. Ef a gomisiynodd adroddiad Harris ar ffiniau a strwythurau’r Eglwys yng Nghymru. Credai fod ar Gymru angen Esgobaeth Archesgobol, a dadleuodd yn frwd o blaid eciwmeniaeth, a’r Cyfamod â rhai eglwysi anghydffurfiol. Fel sawl archesgob cynt ac wedyn, gwelodd y pethau hyn i gyd yn methu.

Felly, dyma ŵr a adawodd ei ôl yn sicr ar yr Eglwys yng Nghymru. Bu’n gadeirydd y comisiwn a fu’n gyfrifol am gyfieithu’r Beibl i Gymraeg diweddar, a bu am gyfnod yn Gadeirydd Cyngor Eglwysi Cymru.

Fe adawodd R S Thomas yntau ei ôl ar ei blwyfi – tystiodd llawer un y byddai’n eistedd gyda phobl a oedd yn  marw, ac yn cludo i Ysbyty Bangor i ymweld â’u perthnasau bobl o Aberdaron nad oedd ganddynt ffordd arall o fynd yno. Dyna’r ochr arall i’r geiniog i’r ddelwedd sarrug a phiwis a greai weithiau. Fodd bynnag, mae ei farddoniaeth yn hysbys ledled y byd – fe’i cyfieithwyd i sawl iaith, a daeth o fewn trwch blewyn i ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth. Mae’n gwbl sicr iddo fod yn gymorth i filoedd o bobl yn eu hymchwil am ffydd a all wrthsefyll archwiliad deallusol, manwl, ac am rai o’r agweddau hynny ar ffydd y mae’n eu codi yn ei farddoniaeth yr wyf am siarad. Y maent yn berthnasol iawn i’n trafodaethau fel Corff Llywodraethol ar hyn o bryd, wrth inni ymgodymu â gwahanol faterion,  beth bynnag fo’n barn arnynt. Mae gennym oll duedd i feddwl, pan fyddwn yn siarad, fod Duw yn siŵr ar ein hochr ni i’r ddadl, a’i fod yn cymeradwyo ein safbwynt. Mae rhai o gerddi ac ysgrifeniadau R S Thomas yn feddyginiaeth gref i beth felly. Fe ysgrifennodd mai “Barddoniaeth yw’r hyn sy’n cyrraedd y deall o’r galon”.[1]

Nawr, dydw i ddim yn mynd i roi darlith ar farddoniaeth R S Thomas, ond rydw i yn dymuno tynnu sylw at un neu ddau o bethau a all fod o gymorth inni.

Yn gyntaf, ei syniadau am Dduw. Iddo ef, yr oedd yn amhosibl diffinio Duw a themâu mawr ei farddoniaeth yw’r Duw cudd, rhithiol; y Duw dirgel, distaw; y Duw tywyll, absennol hyd yn oed.  Byddwn yn anghofio weithiau fod y traddodiad Cristnogol, y Beibl a’r cyfrinwyr Cristnogol mawr, i gyd yn honni bod Duw yn annirnadwy. Mae’n bod ynddo’i hun – yn ddirgelwch na all ein geiriau dynol ni ond cyfeirio ato mewn cyffelybiaethau. Ni ellir profi dim ond yr hyn y gellir ei ddiffinio. Felly, gan na ellir profi bodolaeth Duw fel haniaeth, deil Duw i fod yn gysyniad – drychfeddwl o sut y mae pethau.

Mae R S Thomas yn ein hatgoffa nad gwrthrych i’w archwilio ymhlith gwrthrychau eraill yw Duw, ond dirgelwch na ellir gwneud dim yn ei ŵydd ond sefyll mewn ffydd, gobaith a distawrwydd gweddigar. Gan fod Duw y tu hwnt i bopeth y gallwn ei amgyffred na’i ddeall, dim ond trwy ddefnyddio delweddau, trosiadau a chyffelybiaethau y gallwn ddod o hyd i eiriau amdano, a geiriau dros dro, anghyflawn ac annigonol, fydd pa eiriau bynnag a ddefnyddiwn.

Rhaid inni, yn aml, fodloni ar fynegi yr hyn nad yw Duw, yn hytrach na’r hyn ydyw. Y proffwyd Eseia a ysgrifennodd ‘I bwy y cyffelybwch Dduw? Nid ei feddyliau ef yw ein meddyliau ni; nid ei ffyrdd ef yw ein ffyrdd ni’.[2]

Fel y dywed R S Thomas, ‘it’s the attempt to define him – that’s when the trouble begins – perhaps we shouldn’t attempt to define him, because if the creature can Felly ysgrifenna:

         ‘My equations fail

         As my words do.’[3] (The Absence)

 

         ‘Genes and molecules

         have no more power to call

him up than the incense of the Hebrews

at their altars.’[4] (The Absence)

 

Nid oes gan ddyn technolegol modern unrhyw fwy o allu i gyrraedd Duw na’i ragflaenwyr llai soffistigedig oherwydd bod Duw yn rhyfeddol a thu hwnt i’n cyrraedd.

Yn ei gyfrol ddiweddaraf “Uncollected Poems” a gyhoeddwyd eleni, mae ganddo gerdd gyda’r teitl “The Computer is Unable to Find God – no code number, no address”.

Meddai R S Thomas, “Silence is God’s chosen medium of communication”.[5]  Yn ein tro, mae’r Duw tawel yn ennyn ein tawelwch yn ei bresenoldeb Ef, ond y paradocs yw fod cyfarfyddiad weithiau’n digwydd yn a thrwy’r tawelwch hwnnw.

“It is when one is not looking,

         that it comes”.[6] (Sea-watching)

Mae hefyd yn trin y  cwestiwn a gododd rhai gwyddonwyr nad oes angen Duw mewn byd sy’n esblygu – digwyddodd popeth drwy siawns. Ysgrifenna Thomas:
“Promising myself before bedtime

To contend more urgently

With the problem.  From nothing

Nothing comes.  Behind everything –

Something, somebody?” [7]  (The Promise)

Ond i Thomas, mae’r Duw yma wedi datgelu ei Hunan yn orfoleddus ym mherson Iesu ac er ei fwyn, er yr hyn a ddywedodd am annaliadwyedd Duw, roedd calon yr Efengyl ynglŷn â chariad Duw at Ei fyd, a amlygwyd yn Iesu Grist.

‘He kneeled long,

         and saw love in a dark crown

         Of thorns blazing, and a winter tree

         Golden with fruit of a man’s body.’[8] (In a Country Church)

Mae cariad Duw yn tywynnu yn a thrwy groesholiad Iesu. Caiff y weledigaeth honno ei darlunio yma drwy ffrwythau euraid, gyda aur yn lliw traddodiadol dwyfoldeb. Mae coeden a allai edrych yn hollol farw yn gaeaf mewn gwirionedd yn llawn o ffrwyth euraid a hefyd fieri ffyrnig.

Mae gan gerdd arall yr un thema o fywyd newydd yn dod drwy Groes Iesu:

‘Not the empty tomb

         but the uninhabited

         cross.  Look long enough

         and you will see the arms

         put on leaves.  Not a crown

         of thorns, but a crown of flowers

         haloing it, with a bird singing

         as though perched on paradise’s threshold.’[9] (Counterpoint)

Yn Iesu a thrwy Iesu, caiff Duw ei ddatgelu fel Duw sy’n dioddef, yn uniaethu gyda Ei fyd. Mae Iesu yn datgelu gwir natur Duw.

Felly er ei bod yn amhosibl, fel y dywed, i ddeall ac amgyffred Duw yn llawn, eto nid yw’r Duw yma yn rhyw fath o Dduw anghysbell, anhygyrch, caeëdig, nad yw’r hyn sy’n digwydd i’w fyd Ef yn effeithio arno. Yn Iesu, mae Duw’n tynnu nes at ei fyd Ef, yn dioddef gyda’i fyd Ef, a’i natur yw cariad sy’n gorlifo tuag at y byd hwnnw. Dyna yw ymateb Duw i ddrygoni a thraswedi Ei fyd – cymryd rhan ynddo.  Aiff i galon yr hyn y mae Sant Paul yn ei olygu pan ysgrifennodd “God was in Christ reconciling the world to himself”. 

Mae’r Groes yn:

a mystery

         terrifying enough to be named Love.’[10] (Laboratories of the Spirit)

Mater i ni i weithio arno a’i weithio allan yw sut mae hynny. Nid oes unrhyw atebion ysbrydebol, syml dim ond argyhoeddiad mai natur Duw yw cariad – sydd, wrth gwrs, yr hyn a ddywed y Testament Newydd am Iesu.

Iesu yw gair ffrwydrol Duw.

“What word so explosive

As that one Palestinian

Word with the endlessness of its fall out?”[11]   (Nuclear)

Mae gair Duw yn llawer mwy ffrwydrol nag unrhyw atom neu fom ac mae’n crynhoi ei ddiwinyddiaeth o’r gair yn dod yn gnawd ac am Dduw, yn achub y byd drwy Iesu, mewn cerdd gyda theitl “The Coming”.

“And God held in his hand

A small globe.  Look, he said.

The son looked.  Far off,

As through water, he saw

A scorched land of fierce

Colour.  The light burned

There; crusted buildings

Cast their shadows; a bright

Serpent, a river

Uncoiled itself, radiant

With slime.

         On a bare

Hill a bare tree saddened

The sky.  Many people

Held out their thin arms

To it, as though waiting

For a vanished April

To return to its crossed

Boughs.  The son watched

Them.  Let me go there, he said.”[12] (The Coming)

Nid oedd Thomas yn gwrtais iawn am yr eglwys. Ysgrifennodd:

“We have over-furnished

our faith.  Our churches

are limousines in the procession

towards heaven”. [13] (Counterpoint)

“… History showed us

He was too big to be nailed to the wall

Of a stone chapel, yet still we crammed him

Between the boards of a black book”.[14]  (A Welsh Testament)

 

This God is such a fast God, always before us and leaving as we arrive”.[15]  (Pilgrimages)

Nawr, rwyf mewn perygl o golli arnaf fy hun ond hoffwn ddweud tri pheth byr iawn fel math o gasgliad.

Mewn cerdd gyda’r teitl “The Other” mae’n dweud rhywbeth dwfn iawn am weddi.

“There are nights that are so still
that I can hear the small owl
calling
far off and a fox barking
miles away. It is then that I lie
in the lean hours awake listening
to the swell born somewhere in
the Atlantic
rising and falling, rising and
falling
wave on wave on the long shore
by the village that is without
light
and companionless. And the
thought comes
of that other being who is
awake, too,
letting our prayers break on him,
not like this for a few hours,
but for days, years, for eternity.” 
(The Other)

Mae gennym lawer iawn i’w ddweud am alwedigaeth. Dyma’r hyn sydd ganddo i’w ddweud am alwedigaeth offeiriad.

‘Crippled Soul’, do you say? Looking at him

From the mind’s height; ‘limping through life

On his prayers.  There are other people

In the world, sitting at table,

Contented, through the broken body

And the shed blood are not on the menu”.

 

‘Let it be so’ I say.  ‘Amen and Amen’[16]  (The Priest)

Yn fy meddwl i, mae Thomas hefyd yn fardd o obaith. Gallwn ni, fel eglwys, fod ag obsesiwn weithiau gydag ystadegau a ffigurau mynychu ac yn poeni nad yw’n dylanwad yr hyn oedd. Mae’n ein hatgoffa pa mor hir a pha mor ddwfn mae’r ffydd Gristnogol wedi dylanwadu ar fywyd y wlad yma. Ni ddylem wangalonni meddai, ac mae’n addas mai ef sydd â’r gair olaf.

‘… These very seas

are baptised.   The parish

has a saint’s name time cannot

unfrock …

… people

are becoming pilgrims

again, if not to this place,

then to the recreation of it

in their own spirits.  You must remain

kneeling”.[17]  (The Moon in Lleyn)

Mae’n rhaid i ni yn wir.



[1] Residues, Bloodaxe Books, Northumberland, 2002

[2] Eseia 40 v18; 55 v8

[3] The Absence, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, London, 1990, p361

[4] The Absence, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, London, 1990, p361

[5] The New Mariner, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain, 1990, t388

[6] Sea-watching, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain, 1990, t.306

[7] The Promise – Uncollected Poems

[8] In a Country Church, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain, 1990

[9] Counterpoint, Bloodaxe Books, 1990, t37

[10] Laboratories of the Spirit, Macmillan, Llundain, 1975

[11] Nuclear, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain, 1990

[12] The Coming, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain 1990

[13] Counterpoint, Bloodaxe Books, 1990, t.37

[14] A Welsh Testament, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain, 1990,  t.117

[15] Pilgrimages, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain, 1990

[16] The Priest, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, Llundain, 1990

[17] The Moon in Lleyn, Collected Poems 1945 – 1990, Phoenix, London, 1990, p.282