Anerchiad y Llywydd y Corff Llywodraethol Medi 2010

Fel y gwyddoch, yn y Corff Llywodraethol diwethaf buom yn trafod mewn grwpiau ymhle yr hoffem i’r Eglwys yng Nghymru fod yn 2020 ac fe neilltuais i fy Anerchiad Llywyddol i edrych ar faterion yr wyf yn eu hystyried yn hollbwysig. Byddwn yn dilyn hyn eto mewn grwpiau yn y Corff Llywodraethol hwn fel na chollir y momentwm.

Fel y dywedais ym mis Ebrill, y mae a wnelo’r Eglwys yng Nghymru nid yn unig â’i bywyd a’i strwythurau a’i lles ei hun ond hefyd â’r byd a wnaeth Duw.  Calon yr Efengyl yw bod Duw’n caru’r byd a greodd a’r gobaith yw y bydd hynny, yn ei dro, yn ennyn ynom ni gariad at Dduw ac at ein cymdogion.  Yr ydym yn bod i wasanaethu Duw a’r gymuned y gosodwyd ni ynddi, sef, yn achos y Dalaith hon, Cymru.  A golyga gofal am gymunedau lleol ac am y genedl fwy na rhyw ofal cyffredinol diniwed; golyga ymwneud â materion penodol y dydd. Y munud y dywedaf hynny, mi wn y bydd rhai pobl yn fy nghyhuddo o ymyrryd mewn gwleidyddiaeth, a byddaf yn cofio geiriau’r Archesgob Tutu, “Wn i ddim pa Feibl y maen nhw’n ei ddarllen pan fydd pobl yn dweud na ddylid cymysgu crefydd a gwleidyddiaeth”.  Y mae dau ystyr i’r gair ‘gwleidyddiaeth’.  Mae’n disgrifio pleidiau gwleidyddol ac etholiadau, ond fe ddaw’r gair Saesneg ‘politics’ o’r gair Groeg ‘polis’, sy’n golygu ‘dinas’, yr hyn a alwem ni heddiw yn ‘gymdeithas’.  Os gwahanu y mae gwleidyddiaeth plaid, cyfannu y mae gwleidyddiaeth yn yr ystyr hon.  Y mae a wnelo â chydlynu, â’r lles cyffredin.  Ac y mae a wnelo’r lles cyffredin, wrth gwrs, nid yn unig â llywodraethau ond â phawb ohonom, oherwydd y mae a wnelo â pherthyn ac â’n cyfrifoldeb at ein gilydd – â theuluoedd a chymunedau a chyfiawnder.

Mewn trafodaeth oleuedig ar ddameg y Samariad Trugarog yn ei lyfr, The Idea of Justice, dywed Enillydd Gwobr Nobel  mewn Economeg 1998– Amartya Sen – fod cysylltiad rhwng y Samariad a’r dyn a glwyfwyd oherwydd amgylchiadau’r dod o hyd iddo, y digwyddiad ei hun.  Sefydlwyd cysylltiad achosol rhwng y ddau a oedd yn eu gwneud yn ‘gymdogion’.  Daeth y Samariad o hyd i’r dyn, gwelodd yr angen a darparodd gymorth, a thrwy hynny sefydlodd berthynas ag ef.  Mae gan y cysylltiad hwn oblygiadau sylweddol i’r hyn y gallem  ei alw yn ‘gyfraith drugarog’.  Nid elusen oedd yn ysgogi’r Samariad, nid synnwyr o ‘gyfiawnder’, nid hyd yn oed synnwyr o ‘degwch a chydraddoldeb’ – nid oedd yr un o’r rhain yn berthnasol am nad oedd yn adnabod y dyn a glwyfwyd.  Fe gysylltwyd y ddau â’i gilydd yn syml yn rhwymau eu dynoliaeth gyffredin.  Y mae cysylltiad o’r fath yn ehangu ein synnwyr o gyfiawnder ac ehangir ffiniau cyfiawnder yng ngrym y cysylltiadau rhyngom a’n gilydd.

Felly, yn ôl Sen, ychydig o bobl sydd heb fod yn gymdogion, gan ein bod oll mewn cysylltiad â’n gilydd yn gymdeithasol a gwleidyddol ac economaidd a hefyd yn ein cyd-bryder am yr anghyfiawnder a’r annynoldeb sy’n herio’r byd a’r trais a’r terfysg sy’n ei fygwth.

Yn y Beibl Cymraeg Newydd, y mae dameg y Samariad Trugarog yn cynnwys yr ymadrodd ‘Daeth [y] Samariad ato’.  Dyma hanfod yr Ymgnawdoliad.

Gwneud cyfiawnder…,” meddai’r Archesgob Rowan Williams “… yw byw ac ymddwyn mewn modd sy’n gwneud yn weladwy ofal angerddol Duw am les pawb a’i ymwneud â hwy”. Cais ein cyfreithiau a’n cyfundrefn gyfiawnder ddangos ein bod ynghlwm â’n gilydd, ac y mae goblygiadau i hynny.  A dyfynnu Rowan Williams eto, “y mae cyfraith yn cyfyngu ar rym am ei bod yn cydnabod presenoldeb moesol eraill”.  Ac y mae’n cydnabod heb wahaniaethu.

Dylem gofio hyn i gyd yn y trafodaethau presennol ar ‘y Gymdeithas Fawr’.  Disgrifia’r Prif Weinidog hynny fel “Tynnu grym oddi ar yr elitiaid yn San Steffan a’i roi i’r dyn a’r ddynes yn y stryd.  Y mae a wnelo â galluogi, â rhyddid, â chyfrifoldeb.”  Os golyga wrth hynny ein bod yn gyfrifol am ein gilydd, yna ‘dwy floedd a hanner’, fel y dywedodd yr Archesgob Rowan; ond beth y mae’n ei olygu mewn gwirionedd?  Â’r Prif Weinidog ymlaen i ddweud “y bydd llywodraethau yn gwneud llai yn nhermau ysgolion newydd, er enghraifft, a chlybiau ieuenctid a chlybiau ar ôl ysgol.  Golyga fusnesau yn hyfforddi pobl at waith, elusennau yn ailsefydlu troseddwyr”.  Mae hyn oll yn digwydd eisoes, wrth gwrs, mewn eglwysi a mudiadau gwirfoddol eraill.  Ond a yw’r ‘Gymdeithas Fawr’ yn golygu y bydd y wladwriaeth yn cilio o’r meysydd hynny mewn bywyd lle y mae fwyaf ei hangen – cefnu ar wasanaethau hanfodol y mae’r tlawd a’r bregus yn dibynnu arnynt?  Rhaid cofio hefyd, wrth gwrs, bod llawer i fudiad gwirfoddol yn dibynnu ar grantiau’r wladwriaeth i barhau mewn bod, ac y mae’r grantiau hynny mewn perygl.  Rhaid i’r llywodraeth sicrhau bod addysg ac iechyd o safon dda, a gwasanaethau eraill hefyd, o fewn cyrraedd pawb, a llywodraethu er lles y genedl gyfan.  Oherwydd, fel y dywed Sen, “yr ydym oll yn annatod glwm y naill wrth y llall”.

Ond yr ydym yn perthyn nid yn unig i genedl y Cymry, neu i’r Deyrnas Unedig, ond i’r byd ehangach.  Ac y mae’r hyn sy’n wir oddi mewn i genhedloedd yn wir hefyd am y berthynas rhwng cenhedloedd a’i gilydd.  Y mae’r ffaith y gallwn wybod mewn eiliadau am ddigwyddiadau ledled byd – pethau, yn aml, y byddai’n well gennym beidio a gwybod amdanynt – yn ehangu ein synnwyr o gyfiawnder ac yn peri inni sylweddoli ein bod oll yn perthyn i’r un ddynolryw.

Yn yr ystyr hon, yr ydym yn gymdogion i bawb sy’n dioddef dan lywodraethau gormesol, pawb sydd wedi’u dal mewn rhyfel, pawb sy’n ffoaduriaid, yn newynog neu’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol.

Ni all gweddill y byd, felly, anwybyddu beth sy’n digwydd yn Simbabwe, er enghraifft.  Erlidir yr Eglwys Gristnogol yno, ond y mae’r holl boblogaeth yn dioddef, ac fe ddylai bod cenhedloedd y byd, De Affrica yn arbennig, yn rhoi mwy o bwysau ar yr Arlywydd Mugabe.  Y mae Simbabwe, a oedd unwaith yn wlad ffyniannus, bellach yn un o’r tlotaf, a’i diwydiant amaethu bron wedi’i lwyr ddinistrio.

Yn nes adref, mae’r sefyllfa yn Israel/Palestina hefyd yn frawychus – ac y mae gan y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb hanesyddol am yr ardal arbennig honno, fel ag am Simbabwe.  Rwy’n sylweddoli, pryd bynnag y dywedaf unrhyw beth ar y mater hwn, y cyhuddir fi o fod yn wrth-Semitaidd, ond y mae’r Prif Weinidog ei hun wedi galw Gasa yn wersyll carchar. Bu a wnelom ni yn yr Eglwys yng Nghymru â Chyngor Eglwysi’r Dwyrain Agos ac, felly, â Gasa, oherwydd yr ydym wedi darparu iddynt uned ddeintyddol symudol.  Yr oeddem wedi gobeithio y byddai honno erbyn hyn yn talu amdani’i hun, ond ni fu hynny’n bosibl. Mae’r costau rhedeg eleni yn llawer uwch am mai dim ond trwy’r twneli y gall Cyngor Eglwysi’r Dwyrain Agos gael tanwydd a chyflenwadau meddygol, ac y mae prisiau’r farchnad ddu yn uchel.  Bydd yr uned eleni yn costio £26,000 ac nid oes gan yr Eglwys yng Nghymru ond £20,000 ar ôl i’w ariannu.  Gasa yw’r ail le mwyaf poblog yn y byd, gyda 1.2 miliwn o bobl yn byw ar rimyn o dir rhwng yr anialwch a’r môr nad yw ond 280 o gilomedrau sgwâr.  Y mae dwy ran o dair o’r bobl hyn yn byw mewn tlodi enbyd, mewn gwersylloedd i ffoaduriaid, ar ôl i lywodraeth Israel feddiannu eu cartrefi a’u tir.  Mae’r sefyllfa’n waeth erbyn hyn na phan fûm i yno yn 2001, pan oedd pobl yn byw mewn terasau o hofelau sinc, heb drydan na dŵr, a charthion yn llifo trwy’r heolydd.  Yr oedd dinas Gasa ei hun fel lle a fomiwyd.  Mae’r sefyllfa’n debyg i hen gyfundrefn apartheid yn Ne Affrica, oherwydd y mae cymydog Gasa, Israel, yn un o’r gwledydd mwyaf soffistigedig a modern yn y byd.  Y mae gan Israel dechnoleg a rhwydweithiau mewnol ardderchog.  Yn Gasa, y mae pobl yn cludo nwyddau gyda cheffyl a chert. Y mae gan Israel gyfundrefn addysg heb ei hail.  Y drws nesaf iddi gwaherddir i’r plant hyd yn oed addysg sylfaenol am fod eu hysgolion wedi eu bomio.

Myn rhai fod yn Gasa gyflenwadau da o bob nwyddau, a bod yno ganolfan siopa newydd sbon.  Tua’r un faint â Tesco bychan yw’r ganolfan, mewn gwirionedd, a stondinau, fel ym Marchnad Caerdydd, sydd ynddi.  Yn ôl Oxfam, sy’n anfon adroddiadau ar y sefyllfa ar sail yr hyn a eilw yn ‘ffynonellau rhyngwladol dibynadwy’, ni adawyd i mewn i Gasa yn ystod un wythnos ym mis Awst 2010 ond 32% o’r tanwydd diwydiannol angenrheidiol.  O ganlyniad, caewyd y pwerdy’n llwyr am ddeuddydd, a bu toriadau trydan am 16 awr y dydd – a hynny, yn ei dro, yn effeithio ar y cyflenwad dŵr, trin a symud carthion, a’r gwasanaethau iechyd.  Mae 30% o gartrefi Gasa heb ddŵr glân ond am bedair i wyth awr yr wythnos; mae 40% heb ddŵr glân ond unwaith bob pedwar diwrnod; mae gan y 30% sy’n weddill ddŵr glân bob deuddydd.  Dim ond hanner y nwy coginio sydd ei angen a adawyd i mewn ym mis Awst; ni ddaeth dim diesel na phetrol ers wythnosau – o ganlyniad, fe gludir diesel a phetrol trwy’r twneli er gwaetha’r perygl o ymosodiad gan yr Israeliaid. Cyfyngir mewnforio, a chyfyngir yn llym ar ddefnyddiau crai; ni adewir i unrhyw ddefnyddiau adeiladu ddod i mewn a llwyr waherddir allforio dim.

Mae’r gwarchae ar Gasa wedi dinistrio rhwydweithiau’r gwasanaethau cyhoeddus ac mae toriadau trydan am ddeuddeg awr y dydd yn yr ysbytai; gwaherddir triniaeth feddygol frys i’r preswylwyr, a gollyngir deugain miliwn o dunelli o garthion i’r môr bob dydd oherwydd diffyg tanwydd i’w trin a’u pwmpio.  Gwahanwyd pobl oddi wrth eu perthnasau ar y Lan Orllewinol ac mewn lleoedd eraill.

Yn awr, nid oes neb yn gwadu nad oes gan Israel yr hawl i fodoli ac i’w hamddiffyn ei hun. Mae’n wir ei bod wedi’i hamgylchynu gan wladwriaethau sydd am weld ei dinistrio, ac ni ellir amddiffyn gwaith Hamas yn saethu rocedi ati.  Ond po hwyaf y pery pethau fel y maent, mwyaf yn y byd fydd dicllonedd Palestiniaid cyffredin, a thebycaf yn y byd yw y bydd iddynt ffyrnigo.  Mae’r Cenhedloedd Unedig, y Cyngor Diogelwch a’r Undeb Ewropeaidd am weld pob croesfan i Gasa yn barhaol agored ar gyfer cymorth dyngarol a masnachol – peth y cytunodd awdurdodau Israel a Phalestina arno yn 2005.  Ym mis Rhagfyr 2009, cyhoeddodd grŵp o arweinwyr eglwysig ym Mhalestina y datganiad diwinyddol mwyaf arwyddocaol ar y gwrthdaro ers blynyddoedd, yn nhyb rhai.  Cymerodd ddeunaw mis i’w lunio ac fe’i hysgrifennwyd ar gyfer dwy gymuned – yn gyntaf, cymunedau Cristnogol Palestina, y cymeradwyodd pob un ohonynt ef ac, yn ail y gymuned Gristnogol ryngwladol.  Fe’i hadwaenir fel dogfen Kairos.  Eleni hefyd fe gyhoeddodd yr Eglwys Fethodistaidd adroddiad dan y teitl Justice and Peace for Palestine, ac fe’i trafodwyd yn ei chynhadledd.  Dywed y ddau adroddiad hyn mai’r prif rwystr i ddiogelwch a heddwch parhaol yn yr ardal yw’r ffaith bod gwladwriaeth Israel wedi meddiannu tiriogaeth y Palestiniaid.  Cymerodd Israel feddiant milwrol o’r Lan Orllewinol, dwyrain Jerwsalem, Llain Gasa a Mynydd-dir Golan yn 1967 ac, ar ôl tair blynedd a deugain y mae’n dal i’w meddiannu ac yn gyfrifol, felly, dan y Gyfraith Ryngwladol, am les y Palestiniaid sy’n byw ynddynt.  Mor bell yn ôl â 1994 ysgrifennodd yr Archesgob Rowan bapur o dan y teitl Holy Land and Holy People lle y mae’n dadlau i bobl Dduw yn y Beibl, yr Iddewon, dderbyn gwlad yn rhodd er mwyn hyrwyddo bywyd cymunedol a ddiffinnir gan ddoethineb a chyfiawnder.  Ar y ddealltwriaeth hon, rhaid i wladwriaeth fodern Israel, os yw’n honni mai hi yw mamwlad yr hen Iddewon, pobl Dduw, gymryd ei galwedigaeth o ddifrif fel patrwm o genedl y gwelir ynddi weithredu cyfiawnder a doethineb.  Y mae ymsefydlu gan wladychwyr Israelaidd yn anghyfreithlon dan y gyfraith ryngwladol ac adeiladwyd mwy na thraean o’r tai hyn ar dir a oedd yn eiddo personol i Balestiniaid.  Y mae’r wal a adeiladwyd – sydd dros 702 cilomedr o hyd, bedair gwaith yn hwy a dwywaith yn uwch na wal Berlin ac yn cynnwys ffensys, ffosydd, weier rasal, rhigolau a llwybrau, system fonitro drydanol, ffyrdd patrôl a chylchfa rhagod – yn gwahanu’r Palestiniaid nid yn unig oddi wrth yr Israeliaid ond hefyd oddi wrth eu teuluoedd a’u cyfeillion.  Mewn ardaloedd gwledig, y mae’n eu gwahanu oddi wrth eu holewydd a’u gerddi llysiau.  Ym mis Gorffennaf 2004, datganodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol fod y wal yn anghyfreithlon a galwodd ar i Israel beidio ag adeiladu dim mwy, tynnu i lawr yr hyn a adeiladwyd eisoes a darparu iawndal i’r rhai hynny a niweidiwyd gan yr adeiladu.

Ni allwn ni fel Eglwys wneud llawer, efallai, ond fe ddylem ddod i wybod beth sy’n digwydd, ac ymladd yn erbyn anghyfiawnder, a mynnu cynnal trefn y gyfraith lle bynnag yr anwybyddir hi am ba reswm bynnag.  Y mae’n ddyletswydd arnom i godi’n llais. Y mae’r hyn sy’n digwydd i un unigolyn neu i un genedl yn effeithio arnom i gyd.

Mae’r bardd Waldo Williams yn mynegi’r peth yn dda yn un o’i gerddi:

Mae rhwydwaith dirgel Duw
Yn cydio pob dyn byw;
Cymod a chyflawn we
Myfi, Tydi, Efe . . .
Myfi, Tydi, ynghyd
Er holl raniadau’r byd,
Efe’n cyfannu’i fyd.