Anerchiad y Llywydd y Corff Llywodraethol medi 2009

Fel y gwyddoch, bydd y Corff Llywodraethol hwn yn trafod Adolygiad Addysg yr Eglwys yng Nghymru, ac yr wyf yn ddiolchgar i bawb sy’n gyfrifol amdano. Fel y gwna’r adroddiad, a’r cynigion a seilir arno, yn glir – ac y mae’r pwynt hwn yn hollbwysig – y mae gan yr Eglwys yng Nghymru ddiddordeb ym mhob agwedd ar addysg, ac nid yn unig mewn ysgolion eglwys. Y mae a wnelo’r adroddiad, felly, nid yn unig â’n materion mewnol, er pwysiced y rheini, ond ag addysg a pholisi addysg yn eu cyflawnder.

Dyna pam yr ymunais â’r ddadl ar benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gynharach eleni i ganiatáu i ddisgyblion chweched dosbarth yng Nghymru ddewis peidio â mynychu gwasanaethau cydaddoli mewn ysgolion. Mae’n bwysig cofio nad yw’r ddeddfwriaeth hon yn diddymu addoliad ar gyfer y chweched dosbarth, fel yr haerodd rhai pobl. Ei wneud yn fater o ddewis y mae. Rwy’n poeni, fodd bynnag, mai dechrau’r diwedd yw hyn, dechrau proses o ddibrisio cydaddoli mewn ysgolion ac, yn y pen draw, o’i wthio i’r cyrion. Mae’n rhoi’r argraff hefyd, wrth gwrs, fod cydaddoli yn rhywbeth y mae pobl ifanc yn tyfu allan ohono erbyn y maent yn un ar bymtheg oed, ar yr union amser pan allai fod y ffordd orau o feithrin eu meddyliau a’u calonnau wrth iddynt ddechrau archwilio cyfrifoldebau a chanlyniadau bywyd fel oedolion.

Mae’r weithred feunyddiol o gydaddoli yn rhoi i ddisgyblion o bob oed achlysur arbennig ym mywyd bob dydd yr ysgol, pan ddaw’r gymuned gyfan ynghyd i gydnabod a chyhoeddi a dathlu gwerthoedd y maent yn eu rhannu. “Mater ydyw”, fel y dywed yr Esgob David Wilbourne, “o roi gwerth – rhoi gwerth ar y byd yr ydym yn byw ynddo, rhoi gwerth ar y rhai y cyfarfyddwn â hwy yn ein bywyd beunyddiol, rhoi gwerth arnom ein hunain ac ar yr hyn y bwriedir inni fod.”

Heb gydnabyddiaeth glir o ddimensiwn ysbrydol, mae perygl i ysgolion roi eu holl sylw i gyflawniad personol. Cyfrifoldeb sylfaenol pob ysgol yw datblygu a meithrin potensial llawn ei disgyblion. Gall addoli chwarae rhan yn hyn o beth trwy alluogi pobl ifanc i ofyn cwestiynau treiddgar ac i archwilio materion yn ymwneud â  ffydd bersonol nad yw’r cwricwlwm yn ymdrin â hwy.

Gall addoli mewn ysgol fod yn gyfle hefyd i rannu pererindod ysbrydol eraill ac, ar yr un pryd, i helaethu gwybodaeth a dealltwriaeth bersonol ac i agor gwahanol lwybrau i brofiad ysbrydol.
Dylai hyd yn oed ysgolion yn yr ardaloedd hynny lle y mae amrywiaeth o ddiwylliannau fod yn ffaglau o ymarfer da mewn cydaddoli, lle y gall disgyblion ddysgu’r ffeithiau am ffydd a diwylliant a’u profi ar y cyd â’u brodyr a’u chwiorydd ar gyd-bererindod ysbrydol. Mae rhywbeth arbennig iawn mewn clywed am blant o Fwslimiaid a Christnogion yn sôn yn gyfeillgar am y pethau sy’n eu huno a’r pethau sy’n eu gwahanu. Ac y mae hynny’n digwydd eisoes mewn ysgolion eglwys yn ogystal ag yn ysgolion y wladwriaeth.

Nid mandat i orfodi disgyblion i ddysgu Gweddi’r Arglwydd ac i’w hysbrydoli fel y byddant yn dod i’r eglwys y Sul canlynol yw’r ddeddf sy’n mynnu bod gweithred feunyddiol o addoli mewn ysgolion. Gwahoddiad ydyw i brofi ystyr bosibl ffydd ac ymrwymiad. Mor bwysig, felly, yw porthi meddyliau a chalonnau disgyblion dwy ar bymtheg a deunaw oed sy’n sefyll ar drothwy bywyd oedolion a’i holl gyfrifoldebau. Rhaid inni eu cynorthwyo i ddod o hyd i fyd sy’n fwy na diffeithdir seciwlar di-liw – byd o amrywiaeth ysbrydol gyfoethog lle y mae ffydd yn chwarae rhan sylfaenol mewn mowldio a llunio bywydau.

Mae crefydd yn honni dirnad ystyr a phwrpas bywyd ac, ar dir addysgol yn unig, haedda hynny ystyriaeth ddifrifol. Y mae gan blant a phobl ifanc synnwyr o syndod a rhyfeddod; y mae  plant hŷn yn ymddiddori mewn materion crefyddol ac y maent yn chwilio am ystyr bywyd. Y mae a wnelo addysg ag annog a datblygu’r ymchwil hon. Nid proselyteiddio yw amcan addysg grefyddol nac addoli mewn ysgolion. Nid yw’n rhan o waith ysgol seciwlar i greu ymrwymiad i’r ffydd Gristnogol – gwaith yr eglwys yw hynny, gwaith Cristnogion, gwaith y cartref. Amcan addysg grefyddol ac addoli mewn ysgolion yw nid amddiffyn a chynnal y ffydd Gristnogol ond yn hytrach cynorthwyo pobl i ddeall beth yw crefydd a beth y mae’n ei olygu i gymryd crefydd o ddifrif. Gwaith addysgu ydyw, nid gwaith efengylu. Gellir gwneud hyn oll trwy archwilio sawl agwedd ar grefydd, ac astudio’n fanylach y grefydd Gristnogol am mai hi a effeithiodd fwyaf ar fywyd ym Mhrydain. Yr amcan addysgol (gwaith yr ysgol) yw cynorthwyo plant i ddeall crefydd. Mae’n wahanol i’r amcan efengylaidd (gwaith yr eglwys a’r rhieni) o gynorthwyo plant i fod yn grefyddol.

Ac mae’n rhaid i Gristnogion ymwroli, oherwydd y mae cwestiwn ehangach, sef lle crefydd mewn bywyd cyhoeddus yn gyffredinol. Mae rhai o’r llythyrau y byddaf fi’n eu derbyn yn cymryd yn ganiataol fod crefydd wedi marw, ei bod yn afresymegol ac yn llawn ofergoelion,  nad oes dim lle iddi o gwbl mewn bywyd cyhoeddus ac nad oes gan Gristnogion unrhyw hawl i fynegi eu pryderon ar unrhyw fater. Ond gall y byd yr ydym yn byw ynddo fod yn barotach i wrando nag a feddyliwn. Mae’n wir bod yr eglwys yn dirywio yn y gorllewin, ond yn Affrica ac Asia ac American Ladin y mae’n tyfu. Ac eto, fel y dangosodd digwyddiadau dros y degawd diwethaf yn Nwyrain Ewrop a’r Undeb Sofietaidd, ni lwyddodd dyneiddiaeth anffyddiol na sosialaeth anffyddiol na gwyddoniaeth anffyddiol i ddisodli crefydd. Y ffaith amdani yw na ddarganfuwyd erioed yn unman yn y byd gymdeithas ddigrefydd, ac nid oes diwylliant yn bod na ddylanwadwyd yn drwm arno gan ragdybiau crefyddol. Yr anghrediniwr, nid y crediniwr, sy’n eithriad. Y mae angen inni, felly, fod yn fwy gwrol, oherwydd yr ydym yn barnu bod crefyddolder yn hollbresennol.

Yr ydym yn byw mewn gwlad sy’n galw allan am werthoedd. Mae pobl yn troi at yr eglwys i chwilio am ystyr mewn bywyd. Yn ôl y newyddiadurwraig adnabyddus, Melanie Phillips, “pan fo eglwysi yn ddigon dewr i drafod cwestiynau megis ystyr bodolaeth, nid troi pobl i ffwrdd y maent, ond eu tynnu i mewn”. Mae pobl yn anghofio hefyd fod cred y wlad hon mewn rhyddid a chydraddoldeb, a’r awydd i ddileu tlodi, anghyfiawnder, gorthrwm a chaethwasiaeth, wedi eu sylfaenu ar werthoedd Iddewig-Gristnogol.

Y mae syniad ar led y dylid cyfyngu crefydd i’r cartref a’r eglwys a’i chau allan o fywyd cyhoeddus, mai rhywbeth ydyw y bydd unigolion yn ei wneud yn eu hamser sbâr – rhyw fath o weithgaredd ymylol preifat i’r sawl sy’n hoffi’r math yna o beth. I Gristnogion, y mae popeth yn tarddu o Dduw. Gan mai ef yw creawdwr y bydysawd, nid oes dim sydd y tu allan i’w greadigaeth. Felly, yn y pen draw, rhaid cyfeirio popeth yn ôl ato gan fod ganddo ofal am bopeth am mai ef a greodd bopeth.

Ac anwiredd noeth yw dweud, fel y mae rhai’n dal i fynnu, ein bod yn byw mewn cymdeithas sy’n gyfan gwbl seciwlar. Golygant wrth hynny nad oes gan y rhan fwyaf o fywyd y wlad hon ddim i’w wneud â Duw nac unrhyw gysylltiad ag ef. Ar wahân i’r ffaith mai’r ffydd Gristnogol a luniodd y wlad hon a bod ei hanes yn annatod glwm â hi, mae’r rhan fwyaf o bobl yn dal i honni eu bod yn credu yn Nuw. Ac, fel y nododd Archesgob Caergaint yn ddiweddar, y mae crefydd, yn lle caniatáu iddi’i hun gael ei gwthio i’r cyrion, “wedi parhau i fod yn bresenoldeb – hyglyw weithiau, dylanwadol yn aml – mewn bywyd cyhoeddus”. Pan leddir pobl ar ein ffyrdd, neu pan fo trychinebau erchyll, bydd pobl yn dod â llwythi o flodau i nodi’r achlysur, yn union fel pe baent yn ceisio cysylltu eu teimladau â rhywbeth neu rywun mwy na hwy eu hunain.
Fel y dywedodd rhywun arall, “mae’r eglwys yn dal i fod yn lle y bydd pobl yn dod ag emosiynau nad ânt i unman arall” ac, â dyfynnu eto yr Archesgob Rowan, “mewn cymdeithas seciwlar resymegol a weinyddir yn ofalus ni ddylai fod unrhyw emosiynau na delweddau na theimladau na gobeithion di-alw-amdanynt. Dylid paratoi ar eu cyfer, ond ni wneir hynny. Deil yr eglwys a chyrff crefyddol eraill i fod yn lleoedd y caniateir lleisio ynddynt y cwestiynau a’r gobeithion hyn sy’n annelwig a bron â bod yn anymwybodol”.

Peth gwahanol iawn, wrth gwrs, yw cyfrannu at ddadl gyhoeddus ar, dyweder, gael cymorth i farw neu ar wthio syniadau ar rywun. Myn rhai y dylai Cristnogion fod yn dawel am eu bod yn dadlau ar sail rhagdybiau arbennig, ac nad yw hynny’n wir am seciwlaryddion.
Ymddiddora Cristnogion yn lles y gymdeithas gyfan – y lles cyffredin, nid eu lles hwy eu hunain yn unig, a dyna pam y byddant yn gweithio dros elusennau, eu bod am wella cyflwr y tlodion a’r sawl a wthiwyd i’r cyrion a’r sawl sydd heb rym, am adeiladu cymdeithas lle y gall pawb ffynnu. Nid yw Cristnogion yn derbyn mai dim ond materion economaidd neu dechnolegol iwtilitaraidd sy’n ein cyflyru. Credwn fod yna gwestiynau dyfnach am ystyr ac amcan ein bywydau, bod yn rhaid i’r pethau hynny reoli ein gweithgareddau a’i bod yn iawn inni sôn amdanynt.

Mae’n werth cofio fod yn y wlad hon gymunedau sylweddol o bobl, Cristnogion ac eraill, y mae cred grefyddol yn beth cwbl normadol iddynt ac yn diffinio pwy ydynt a sut y maent yn meddwl. Ac y mae dadlau, fel y gwna rhai, na ddylem gymryd rhan mewn dadl gyhoeddus, yn cyfyngu ar ein hawliau dynol. Mae’n werth cofio hefyd fod pobl sy’n perthyn i grefyddau eraill yn gwbl barod i Gristnogion roi arweiniad ar y materion hyn. Swyddogion cyhoeddus nerfus a seciwlaryddion ymosodol sy’n codi bwganod.

Fel y dywedodd Tomas o Acwin yn gynnil iawn: “nid oes gan ddiwinyddiaeth unrhyw bwnc arbennig; yn hytrach cais ddweud rhywbeth am bopeth mewn perthynas â Duw”.
A daw hynny â mi at y dirwasgiad. Ym mis Mehefin 2009 cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree bapur gan yr Athro Jose Harris lle y mae’n ein hatgoffa bod damcaniaethwyr cymdeithasol a moesegwyr gydol hanes dynolryw wedi rhybuddio yn erbyn peryglon cyfoeth a meddiangarwch er eu mwyn eu hunain yn hytrach nag i ateb anghenion dynol sylfaenol neu at ddibenion cyhoeddus neu gymunedol. Yn y papur hwnnw dywed fod mwy a mwy o ymchwil yn dangos “y gall yn wir fod dilyn materoliaeth fel diben ynddi’i hun heb ystyried gwerth y pethau a brynir nac ychwaith amcangyfrif yn ddoeth anghenion y dyfodol yn ffactor bwerus mewn creu diflastod personol, methiant hunan-ddisgyblaeth, marwolaeth cymdeithas ac anhrefn a dirywiad economaidd”.

Yn Narlithoedd Reith 2009, A New Politics for the Common Good, gwêl yr Athro Michael Sandel dlodi cymharol, a waethygodd pan oedd y farchnad yn gwneud yn dda, yn berygl difrifol i les cymdeithas a dadleua mai’r canlyniad yw bod y cyfoethog a’r tlawd yn byw’n gynyddol ar wahân.  Mae’r cyfoethog yn byw mewn cymdogaethau goludog, na all pobl dlawd y trefi mo’u fforddio; mae ganddynt ysgolion da, neu gallant ddewis ysgolion preifat; mae ganddynt ofal iechyd preifat, cerbydau a chlybiau cymdeithasol. Y canlyniad yw bod y ddarpariaeth gyhoeddus yn dirywio, a bod y cyfoethog yn gynyddol amharod i dalu amdani. Y mae hefyd agendor cynyddol rhwng dinasyddion o gefndiroedd gwahanol na fyddant bellach yn cyfarfod â’i gilydd ar dir cyffredin, a chanlyniad hynny yw dirywiad yn ein synnwyr o gymuned.
Eisoes fe welwyd yn y Deyrnas Gyfunol ostyngiad mawr yn nifer y rhai sy’n cymryd rhan mewn gwaith elusennol a gwirfoddol ac mewn chwaraeon. Mae colli cymuned yn arwain at golli ymddiriedaeth yn ein cyrff cyhoeddus a phroffesiynol. Arweiniodd yr argyfwng economaidd presennol at ddiffyg ymddiriedaeth eang a dwfn yn y sector bancio a’r sector ariannol, a rhoes dadleniadau am Aelodau Seneddol yn camddefnyddio arian cyhoeddus bwysau mawr ar ein hymddiriedaeth yn ein cyfundrefn lywodraethol.

Mae’r Athro Sandel yn ceisio ail-lunio’r ddadl wleidyddol ynglŷn â moesoldeb y marchnadoedd trwy gynnal trafodaeth gyhoeddus fwy grymus a fydd yn ymdrin yn fwy uniongyrchol â chwestiynau moesol neu hyd yn oed ysbrydol. Seilir penderfyniadau yn aml ar ddadansoddiad o gostau, lle y rhoddir i bopeth, gan gynnwys bywyd dynol, werth ariannol. Fe all hyn fod o gymorth i ni fel defnyddwyr, ond ni wna ddim i feithrin dinasyddiaeth ddemocrataidd, a’r canlyniad yw bod llywodraethau yn canolbwyntio ar y Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn hytrach nag ar faterion ehangach megis ceisio cyfiawnder. Dadl yr Athro Sandel yw bod angen rhoi materion moesol a moesegol yn ôl ar yr agenda wleidyddol i gynorthwyo creu symudiadau diwylliannol. Does bosib nad oes gan yr eglwysi ran i’w chwarae yn hyn – a rhan allweddol.

Er gwaetha’r boen ddiamheuol a ddaeth yn ei sgil, fe all i’r dirwasgiad byd-eang ddod â ni i groesffordd. Fe ddygwyd anfri ar wleidyddiaeth y farchnad.

Y mae ymchwydd o bryder cyhoeddus ynglŷn â hunanoldeb eithafol a dadfeiliad cymunedol. Ers y 1960au fe gaewyd allan yn gynyddol o wleidyddiaeth ddadleuon moesol a moesegol ac angerdd dros achosion mawr, a bu hynny’n gymorth i greu’r gymdeithas ranedig sydd ohoni. I ryw raddau, cydsyniodd yr eglwys â hyn. Cynllwyniodd twf amrywiaeth ethnig a chrefyddol, cywirdeb gwleidyddol ac anffyddiaeth, ein hymgolli yn ein gwleidyddiaeth fewnol ni ein hunain a’r amgylchedd wleidyddol sydd ohoni oll â’i gilydd i’n distewi. Rhaid inni yn awr godi ein llais eto, codi ymwybyddiaeth ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau, herio dirnadaethau, edrych ar y darlun mawr a chynorthwyo i roi dadleuon moesol anodd yn ôl ar yr agenda wleidyddol. Fel y dangosodd y protestio cyhoeddus yn erbyn y rhyfel yn Irac, rwy’n credu bod yr ewyllys gyhoeddus yno, dim ond inni fedru ei dal. Os gallwn wneud hynny, a pheri i bobl deimlo drachefn berthnasedd yr eglwys, pwy a ŵyr beth fydd y canlyniadau?