Anerchiad y Llywydd Y Corff Llywodraethol, Medi 2003

Yn ystod wythnos olaf mis Ebrill, pan etholwyd fi’n Archesgob, mae’n rhaid fy mod wedi gwneud o leiaf bump ar hugain o gyfweliadau i’r wasg a’r teledu yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd dau brif bwnc i’r holi. Roedd a wnelo’r cyntaf â’r dirywiad parhaus yn aelodaeth yr Eglwys yng Nghymru dros y degawd diwethaf, a beth y bwriadwn i ei wneud i newid hynny. (Mae’n ddiddorol nodi fod y cyfryngau, o leiaf, yn meddwl fod gan yr Archesgob rym gwirioneddol, ac mai mater i mi yw troi’r trai yn llanw. Ni waeth faint o weithiau y dywedwn fod hwn yn fater i bawb ohonom, ac nid i mi yn unig, ni adawent y cwestiwn yn llonydd.) Y mae, wrth gwrs, yn bwnc hanfodol bwysig, a byddaf yn dychwelyd ato mewn anerchiadau llywyddol yn y dyfodol, gan ein bod yn ceisio mynd i’r afael â’r mater ar hyn o bryd yn Esgobaeth Llandaf. Ond, yn sicr ddigon, nid mater i mi yn unig mohono. Yr oedd a wnelo’r ail gwestiwn â rhywioldeb pobl. Y pwnc dan sylw yma oedd : o ystyried agweddau rhyddfrydol yr Archesgob Rowan (mae wrth ei fodd yn cael ei alw’n Rhyddfrydig!), a oeddwn i yn bwriadu dilyn yn yr un modd? Unwaith eto, y rhagdybiaeth oedd mai’r Archesgob ei hun sy’n penderfynu ar faterion o’r fath. Digwyddodd hyn i gyd, wrth gwrs, cyn i’r Canon Jeffrey John gael ei benodi, a thynnu’n ôl o fod, yn Esgob Reading, a’r helynt ar ôl hynny yngly$n â phenodi’r Canon Gene Robinson yn esgob New Hampshire yn America. Achosodd y ddeubeth hyn gryn ddadlau, a dweud y lleiaf, ledled y Cymundeb Anglicanaidd a’r tu hwnt iddo. Ni ddigwyddasai’r un o’r ddau pan gyfarfu’r Archesgobion yn Brasil ym mis Mai eleni, ond o ganlyniad iddynt, fe alwodd Archesgob Caer-gaint gyfarfod arbennig o’r Archesgobion yn Lambeth ym mis Hydref. Bu’r wasg yn fy holi’n barhaus a oedd gennyf fi unrhyw gyngor i’w roi i’r Archesgob Rowan. Fy ateb bob amser oedd fod Rowan wedi derbyn mwy na digon o gyngor yn barod – y rhan fwyaf ohono heb fod o unrhyw gymorth, ac nid oedd yn rhan o’m gwaith i i ychwanegu at ei broblemau. Nid wyf, yn yr anerchiad hwn, am ymdrin â rhywioldeb pobl yn gyffredinol, nac â pherthynas un-rhyw yn benodol, ond yr wyf am edrych ar rai o’r pynciau cyffredinol sydd yn y fantol a’r cefndir y dylid cynnal y ddadl arno.

Y pum pwnc cyffredinol yr wyf am ymdrin â hwy yw :

  1. Awdurdod yr Ysgrythur a’i Dehongliad
  2. Natur Anglicaniaeth
  3. Gwneud penderfyniadau yn y Cymundeb Anglicanaidd
  4. Lle penderfyniadau Lambeth
  5. Pwnc rhyw yn y cyd-destun ehangach

Y mae’r rhain i gyd yn gwestiynau anferthol ynddynt eu hunain, ac ni allaf fi ond cyffwrdd â hwy. Ond wrth wneud hynny, fe allwch, hwyrach, weld sut y mae un pwnc penodol yn arwain at bob math o gwestiynau eraill – yr union reswm, wrth gwrs, paham fod y fath anghytuno angerddol oddi mewn i’r Cymundeb.

1. AWDURDOD YR YSGRYTHUR A’I DEHONGLIAD

Gan fod y rhai sy’n beirniadu’r datblygiadau yn y Cymundeb Anglicanaidd yn
hawlio y dylid dilyn yr Ysgrythur yn ddiwyro, y cwestiwn canolog yw defnyddio a dehongli’r Ysgrythur.

Crynhoir y ddealltwriaeth Anglicanaidd yn y Deugain Erthygl Crefydd Namyn Un. Y mae’r chweched erthygl yn datgan fod yr Hen Destament a’r Newydd yn cynnwys ‘pob peth angenrheidiol i iachawdwriaeth’. Y maent yn air Duw, nid am i Dduw arddywedyd bob gair sydd ynddynt, ond am i’r Eglwys ddod i gredu i Dduw ysbrydoli eu hawduron meidrol drwy ei Ysbryd i ddatguddio cynllun ei iachawdwriaeth i’r holl fyd. Yr Ysgrythur Lân sy’n darparu sylfaen ac egwyddor lywodraethol ein perthynas â Duw, a gwna hynny drwy gyfrwng narratif, cyfraith, proffwydoliaeth a barddoniaeth mewn casgliad amrywiol o ddogfennau a ysgrifennwyd gan amryw o awduron mewn gwahanol gyfnodau a lleoedd. Yma y gwelir ymateb pobl Dduw i weithredoedd achubol Duw – sy’n cyrraedd uchafbwynt ym mywyd a gweinidogaeth, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, y mae ei wyneb, i Gristnogion, yn wyneb meidrol Duw. Tystia’r Testament Newydd am Iesu, ac am yr effaith a gafodd ar y gymuned Gristnogol gynnar. Gallech feddwl, felly, mai’r cyfan sy’n rhaid ei wneud i gael gwybod beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am bwnc arbennig yw darllen yr adran berthnasol, ac yna’i chymhwyso. Yr anhawster yw y gall y dull hwn o ddarllen yr Ysgrythur arwain at broblemau, e.e.y mae Exodus 21.15 yn darllen, “Pwy bynnag sy’n taro’i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth”; mae Exodus 21.17 yn darllen, “Pwy bynnag sy’n melltithio’i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth”; dywed Deuteronomium 25.11-12 , os bydd gwraig “yn dod i achub ei gw$r rhag yr un sy’n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall, torrer ei llaw i ffwrdd”; a dywed Deuteronomium 21.18-21 fod “mab gwrthnysig …, yn un glwth ac yn feddwyn” i gael “ei labyddio’n gelain â cherrig”. Y mae Deuteronomium 23.19 yn gwahardd codi llog ar arian a fenthycir.

Fe ddewisais enghreifftiau eithafol braidd i wneud y pwynt nad ydym yn cadw pob gorchymyn sydd yn y Beibl. Byddwn yn dethol a dewis, am nad ydym yn ystyried fod pob gorchymyn yn un y mae’n rhaid ei gadw. Y cwestiwn yw : sut y mae dehongli’r Ysgrythur Lân? Fel hyn y mae’r Datganiad o Gydsyniad, a wneir gan bob clerig cyn cymryd ei swydd, yn gosod y peth : “Y mae’r Eglwys yng Nghymru yn rhan o’r un Eglwys lân, gatholig ac apostolig, yn addoli’r un gwir Dduw, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân. Mae’n proffesu’r ffydd a ddatguddiwyd yn unig yn yr Ysgrythur Sanctaidd ac a osodwyd allan yn y Credoau Catholig, ac y gelwir ar yr Eglwys i’w chyhoeddi o’r newydd ym mhob cenhedlaeth”. Mewn geiriau eraill, fe’i sylfaenwyd ar y Beibl a’r Credoau traddodiadol, ond y mae hefyd yn cydnabod fod yn rhaid dehongli’r gwirioneddau hyn o’r newydd i bob cenhedlaeth, a dyna ddechrau’r anhawster. Y cwestiwn yw : beth ellir, a beth na ellir, ei newid? Beth ellir, a beth na ellir, ei fwrw heibio? Ffordd arall o ofyn y cwestiwn fyddai : beth yw swyddogaeth rheswm mewn diwinyddiaeth Anglicanaidd? Neu sut y mae’r Ysbryd yn ein harwain i’r gwirionedd ac yn ein galluogi ar yr un pryd i fod yn driw i’r Ysgrythur ac i draddodiad fel ei gilydd? Mewn gair, sut y mae cyrraedd system o gred?
Gadewch imi roi rhai enghreifftiau o’r hyn sydd gennyf mewn golwg. Dros y canrifoedd fe wrthwynebodd yr Eglwys bethau y mae’r Ysgrythur yn amlwg yn eu pleidio, ac fe ganiataodd bethau a waherddir ganddi. Yn Llyfr Genesis, y mae’r ddau adroddiad o’r creu yn cyfyngu meidrolion i fod yn llysieuwyr. Ar ôl y dilyw, fodd bynnag, fe ganiateir bwyta cig anifeiliaid, ond gwaherddir bwyta’r gwaed. Yn Llyfr yr Actau, daliodd Cyngor Jerwsalem fod yn rhaid i Genedl-ddynion a oedd yn troi at Gristnogaeth barchu’r gwaharddiad hwn, ac fe’i cadwyd yng Nghanonau’r eglwys fore. Dadleuodd Awstin, fodd bynnag, dros ei godi, ac yn y Bedwaredd Erthygl ar Bymtheg o’r Deugain Erthygl Crefydd Namyn Un, fe ddywedir i Eglwys Jerwsalem gyfeiliorni yn hyn ac mewn materion eraill. Y mae rhai eglwysi yn dal hyd heddiw i wahardd bwyta gwaed, ar sail y gwaharddiad wedi’r dilyw a gwaharddiad Cyngor Jerwsalem, ond y mae’r mwyafrif o eglwysi’r Gorllewin wedi gosod y gwaharddiad o’r neilltu.

Enghraifft arall yw caethwasiaeth. Derbynnir caethwasiaeth yn ddigwestiwn yn yr Hen Destament, ac y mae Lefiticus 25 yn gosod allan reolau yngly$n â pherchenogi caethweision. Mae’r Testament Newydd hefyd yn goddef caethwasiaeth. Nid yw Paul ond yn gofyn am i gaethweision gael eu trin yn deg. Nid yw’n gofyn am i gaethwasiaeth gael ei gwahardd. Yn nhreigl amser, fodd bynnag, fe ddaeth yr Eglwys i weld caethwasiaeth fel peth a oedd yn foesol anghywir. Nid yw’n beth y dymunem ei amddiffyn ar sail ysgrythurol. Dadleuwn erbyn hyn fod ein dealltwriaeth o’r ddeddf foesol, yng nghyd-destun parch i hawliau’r unigolyn yng ngoleuni’r Efengyl, yn mynnu ein bod yn diddymu caethwasiaeth. Ond bu llawer o Gristnogion yn dyfynnu’r Ysgrythur i amddiffyn caethwasiaeth yn erbyn y rhai a oedd am ei dileu.

Neu cymerwch fater ysgaru. Gwaharddodd Iesu ysgariad yn y modd cryfaf posibl, ac ail-briodi ar ôl ysgaru mewn termau cryfach fyth. Yn yr Efengyl yn ôl Marc 1010-12, fe ddywed , “Pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae’n godinebu yn ei herbyn hi; ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gw$r a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu”. Pan yw’r disgyblion yn ei holi paham y rhoddodd Moses ganiatâd i ysgaru, y mae Iesu’n ateb mai oherwydd fod pobl mor anhydrin y bu hynny, ond mai bwriad gwreiddiol Duw oedd na fyddai dim ysgaru na dim ail-briodi. Mewn geiriau eraill, yr oedd Iesu’n cydnabod fod Moses yn caniatáu ysgaru, ond fe sylfaenodd ei waharddiad ei hun ar ran arall o’r Pumllyfr, a dangos, drwy hynny, fod anghysondeb ar y mater hyd yn oed oddi mewn i’r Pumllyfr ei hun. Gadewch inni roi o’r neilltu yr holl ddadl a oedd Iesu’n deddfu yma ai peidio, ac a oedd ei ddatganiad ar ysgaru yn wahanol i’w ddywediadau a’i ddysgeidiaeth ar faterion moesol eraill, ac edrych, yn hytrach, ar beth sydd gan yr Efengyl yn ôl Mathew i’w ddweud ar y mater. Ynddi hi, y mae gwahaniaeth arwyddocaol. Yn Matthew 532+199 dywed Iesu “fod pob un sy’n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o porneia, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae’r sawl sy’n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu”. Y mae Eglwys Mathew wedi ychwanegu at ddysgeidiaeth wreiddiol Iesu, ac yn caniatáu ysgariad mewn achos o porneia. Mae’n amlwg, felly, nad oedd Eglwys Mathew o’r farn fod Iesu yn deddfu ar gyfer pob oes, ac fe addaswyd y ddysgeidiaeth ar ysgariad. I Mathew, yr oedd porneia, beth bynnag yw ystyr y gair – godineb, hwyrach – yn sail digonol i ysgariad. Y mae’r Eglwys Uniongred bob amser wedi caniatáu ysgariad am rai rhesymau – godineb, amheuaeth o odineb, ceisio llofruddio neu wallgofrwydd. Yn y traddodiad diwygiedig, caniateir ysgaru, ac ail-briodi yn yr eglwys yn ôl doethineb y gweinidog, a symudodd yr Eglwys Anglicanaidd hefyd i’r cyfeiriad hwn yn ddiweddar. Gwelir yn yr achos hwn, felly – oddi mewn i’r Testament Newydd ei hun, ac wedi hynny – symudiad amlwg oddi wrth ddysgeidiaeth eglur Iesu. Un o’r dadleuon dros hynny a ddefnyddiasom yn yr Eglwys Anglicanaidd oedd bod ein dealltwriaeth o’r Testament Newydd yn ei gyfanrwydd yn dangos inni Iesu a oedd yn estyn allan mewn maddeugarwch at bobl a oedd wedi methu ac yn rhoi ail gyfle iddynt, a bod y ddealltwriaeth honno yn cymryd blaenoriaeth dros ei eiriau llythrennol mewn cyd-destun penodol.

Y mae’r modd y lluniwyd ac y ffurfiwyd ni fel Cristnogion, a’r cyd-destun yr ydym yn byw ein bywyd ynddo, yn effeithio ar y modd y byddwn yn dehongli’r Ysgrythur. Y mae gwahanol bobl yn dehongli’r Ysgrythur mewn gwahanol ffyrdd, ac, yn aml, fel y dangosais yn awr, gosododd yr Eglwys destun clir yr Ysgrythur o’r neilltu mwyn ymateb i anghenion y byd ac i’w dealltwriaeth hi ar y pryd o feddwl Crist. Wrth wneud hynny, ni wnaeth yr Eglwys ddim mwy nag a wnaeth Iesu ei hun yn ei ddydd drwy anwybyddu rhannau o’r Hen Destament a fynnai gau allan wahangleifion, puteiniaid, cenedl-ddynion, pechaduriaid, ac eraill a ystyrid yn aflan, o wyddfod Duw.

2. NATUR ANGLICANIAETH

Fel yr wyf fi’n ei deall, bu’r Eglwys Anglicanaidd o’i dechreuad yn eglwys eang a chynhwysfawr. Fe’i galwyd yn aml yn Eglwys y Via Media – y ffordd ganol. Ni olyga hynny o gwbl ei bod hi hanner y ffordd rhwng Catholigaeth Rufeinig ar y naill law a Phrotestaniaeth Ddiwygiedig ar y llall, ond ei bod, yn hytrach, yn eglwys sy’n tynnu ei dirnadaethau o bob math o leoedd, ac nad yw’n poeni gormod am beth yn union yw daliadau pobl. Darllenwch eto beth sydd gan Cranmer i’w ddweud ar ddiwinyddiaeth yr Ewcarist. Weithiau, gallech feddwl ei fod yn un o ddilynwyr Zwingli, gyda’i bwyslais ar y Cymun Bendigaid fel gweithred o gofio yn unig. Dro arall, mae’n pwysleisio presenoldeb real Crist yn yr elfennau, a thro arall eto, bresenoldeb Crist yng nghalon y crediniwr. Pa fath o bresenoldeb sydd yna yn yr Ewcarist? Gallwch weld y ddilema yng ngeiriau gweinyddu Llyfr Gweddi Gyffredin 1662, sy’n gyfuniad o’r hyn a osododd Cranmer yn Llyfr Gweddi 1549 a’r hyn a osododd wedyn yn Llyfr Gweddi diwygiedig 1552. Dyma’r geiriau : “Corff [neu waed] ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a roddwyd drosot ti, a gadwo dy gorff a’th enaid i fywyd tragwyddol. Cymer a bwyta hwn, er cof farw o Grist drosot ti, ac ymborth arno yn dy galon trwy ffydd, gan roddi diolch”. Dyna ddatganiad tra chynhwysfawr, a allai gynnwys llawer safbwynt. Dilynodd Eglwys Oes Elisabeth I sylw’r frenhines ei hun nad oedd hi’n dymuno creu ffesnestri i eneidiau dynion. Bu bob amser le yn y traddodiad Anglicanaidd i amrywiaeth o ddehongliadau yngly$n â nifer fawr o bethau, gan gynnwys swyddogaeth esgobion. A yw esgobion yn hanfodol i’r Eglwys, h.y. nad oes Eglwys onid oes esgob? A ydynt er bene esse yr Eglwys, h.y. yn ddull da o arolygu, dull y mae llai o anawsterau yngly$n ag ef na dulliau eraill o lywodraeth eglwysig? Neu a ydynt yn plene esse i’r Eglwys, h.y. na chanfyddir yr Eglwys yn ei chyfanrwydd neu ei chyflawnder ond lle y bo esgobyddiaeth yn rhan o drefn ei gweinidogaeth? Delir pob un o’r tri gwahanol safbwynt gan wahanol Anglicaniaid.

Delir yr un amrywiaeth o safbwyntiau ar gwestiynau moesol. Nid oes barn benodol Anglicanaidd ar fynd i ryfel, er enghraifft. Bendithiodd rhai esgobion yn y gorffennol longau tanfor niwclear y Llynges; yr oedd esgobion eraill yn heddychwyr. Roedd Cristnogion yn anghytuno ar foeseg mynd i ryfel yn erbyn Irác. Teimlai rhai y gellid cyfiawnhau’r peth oherwydd creulondeb llywodraeth Saddam Hussein at ei phobl dros gyfnod o ddeunaw mlynedd, a hynny yn nannedd penderfyniadau’r Cenhedloedd Unedig. I eraill, yr oedd gweithredu yn erbyn cenedl nad oedd ar fedr ymosod arnom ni yn tramgwyddo yn erbyn egwyddorion rhyfel cyfiawn. I eraill eto, y mae pob rhyfel yn erbyn pa genedl bynnag yn anghywir.

Daeth Cristnogion ac Anglicaniaid defosiynol, drwy weddïo ac ymlafnio a myfyrio, i gasgliadau cwbl wahanol ar amrywiaeth fawr o bynciau athrawiaethol a moesol, a’r casgliadau hynny yn ymddangos weithiau i rai o’u cyd-Gristnogion yn anghywir ar y gorau, ac, ar y gwaethaf, yn wrthnysig. Dyma ni, Gristnogion, felly, yn ymlafnio â’r un wybodaeth, yn darllen yr un Ysgrythur, yn gorfod gwrando y naill ar y llall fel cyd-aelodau o Gorff Crist, ac eto i gyd yn dod i gasgliadau gwahanol. Peth felly yw corff amherffaith Crist – cydnabod mai rhannol a thymhorol yw ein holl ddealltwriaethau, a bod yn rhaid inni fod yn agored i’n gilydd a pharhau mewn cymundeb â’n gilydd.

A yw hynny’n bosibl? Mewn darlith yng Nghynhadledd Lambeth yn 1998, gosododd yr Archesgob Rowan y peth fel hyn : “Yng nghorff Crist, yr wyf fi mewn cymundeb â Christnogion o’r gorffennol yr wyf yn ystyried iddynt gyfeiliorni’n ddwfn ac yn niweidiol – â’r rheini a fu’n cyfiawnhau caethwasiaeth ac arteithio a dienyddio hereticiaid. Cyfiawnhaent y pethau hyn ar sail yr un Beibl ag a ddarllenaf finnau, ac yr oeddynt yn bobl a fyddai’n gweddïo – yn fwy angerddol, mae’n debyg, nag a wnaf fi byth. Sut yr wyf fi i ddwyn perthynas â hwy? Byddai pethau’n llawer haws pe na bai raid imi gydnabod fod y rhain yn rhan o’m cymuned, a’m bod yn rhannu bywyd â hwy, a bod eu daliadau yn codi o’r ffydd sydd gennyf fi a hwy yn gyffredin. Nid wyf yn ceisio’u condemnio, ond yn hytrach sefyll ochr yn ochr â hwy yn fy ngweddïau fy hun, heb wybod pryd, yn economi ryfedd Corff Crist, y gall eu bywyd hwy a minnau gydweithio er ein hiachawdwriaeth gyffredin. Nid wyf am un munud yn meddwl eu bod yn iawn ar bynciau megis y rhai a grybwyllais, ond yr wyf yn cydnabod eu bod yn ‘gwybod’ beth a ddysgodd eu cymunedau Cristnogol iddynt yn eu dydd, yn union fel yr wyf fi’n ‘gwybod’ yr hyn a ddysgais innau yn yr un modd. Pan safaf yng ngw$ydd Duw, neu wrth Fwrdd yr Arglwydd, y maent yn rhan o’r cwmni y perthynaf iddo.” Mewn geiriau eraill, rhaid inni ddysgu byw gyda safbwyntiau gwahanol ar amrywiaeth fawr o bynciau moesol. Dylai’r rhai sy’n bygwth rhaniadau ar bynciau arbennig wrando’n astud ar ddoethineb geiriau’r Archesgob Rowan, yn enwedig pan fo’r pwnc yn un moesol yn hytrach nag un athrawiaethol.

3. GWNEUD PENDERFYNIADAU YN Y CYMUNDEB ANGLICANAIDD

Nid oes gennym yn yr Eglwys Anglicanaidd system ganolog o lywodraeth. Nid yw Archesgob Caer-gaint yn Bab inni. Nid oes gan esgobion yng Nghynadleddau Lambeth hawl i ddeddfu. Corff Ymgynghorol yn unig yw’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol. Does gan yr archesgobion, pan fyddant yn cyfarfod â’i gilydd, ddim hawl i ddeddfu ychwaith. Diffinir y teulu Anglicanaidd, a’r hunaniaeth Anglicanaidd, gan y ffaith ein bod yn derbyn yr Ysgrythur, y Credoau, y ddwy sacrament a awdurdodwyd gan ein Harglwydd, a’r esgobaeth hanesyddol, wedi’i chymhwyso at anghenion lleol – y pedwar peth a alwyd yn Ddatganiad Pedrochrog Lambeth. Y mae pob talaith yn ymreolus. Y mae’n rhaid inni, wrth gwrs, fod yn sensitif i anghenion ein gilydd ac i ehangder etifeddiaeth y ffydd, ond yn y pen draw yr ydym oll yn daleithiau sy’n llywodraethu eu hunain, gyda’n dull ein hunain o ddewis esgobion, ein trefniadaeth synodaidd ein hunain, a’n ffyrdd ein hunain o ymdrin â phynciau moesol. Mewn geiriau eraill, credwn, fel Anglicaniaid, ein bod yn dysgu ein ffydd mewn lle arbennig, boed hynny yng Nghymru neu yn Lloegr neu yng Nghanada neu yn Affrica. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn cael ein boddi gan y diwylliant lleol, ond y mae’n galluogi cymunedau Cristnogol mewn gwahanol rannau o’r byd i fod â gwahanol safbwyntiau. Symudodd taleithiau wrth eu pwys eu hunain, felly, ar fater ordeinio merched yn offeiriaid ac yn esgobion. Y mae Eglwys Nigeria yn caniatáu amlwreiciaeth, am y crybwyllir ef yn y Beibl, ond yr ydym ni, yn y Gorllewin, yn credu mewn perthynas briodasol un gw$r/un wraig. Y mae hyn yn rhan o berthyn i eglwys fyd-eang nad yw’n unffurf nac unlliw.

4. LLE PENDERFYNIADAU LAMBETH

Nid yw Penderfyniadau Lambeth yn ddeddfau. Nid rheolau yn rhwymo holl daleithiau’r Cymundeb Anglicanaidd mohonynt. Yn Lambeth, bydd esgobion y Cymundeb yn cytuno ar bwysigrwydd rhai materion, ac yn eu cymell i’r eglwys ehangach i’w hastudio a’u trafod, ac, o bosibl i weithredu arnynt. Y drwg yw mai’r penderfyniad ar rywioldeb yw’r unig benderfyniad y gall pobl ei gofio, ac ymddengys iddo ddod i fod yn benderfyniad sy’n diffinio pwy sydd, a phwy nad yw, yn Gristion, neu, o leiaf, pwy sydd, a phwy nad yw, yn Anglican. Gallech dyngu na thrafododd Cynhadledd Lambeth ’98 ddim byd arall. Ond, mewn gwirionedd, yr oedd dwy dudalen a thrigain o benderfyniadau, yn ymwneud â phethau megis y datganiad byd-eang ar iawnderau dynol, rhyddid a goddefgarwch crefyddol, pobl a ddiwreiddiwyd ac a ddigartrefwyd, cyfiawnder i ferched a phlant, cyni pobl mewn gwahanol rannau o’r byd, arfau niwclear, ffrwydrynnau daear a dyledion rhyngwladol. Pa dalaith neu esgobaeth a ymatebodd i’r her i gyfrannu 0.7% o’i hincwm i ariannu rhaglen ddatblygu ryngwladol?

Ymhellach, mae’r penderfyniad ar rywioldeb yn cynnwys llawer mwy na’r penderfyniad ar wrywgydiaeth. Mae’n sôn am gam-drin merched, am AIDS, ac am gam-drin plant. Yr oedd yn ddogfen y bu trafod arni am bythefnos cyfan gan grw$p o esgobion na fuont yn trafod fawr ddim arall. Gwahaniaethent yn ddirfawr yn eu barn a’u safbwyntiau. Cadeiriwyd y grw$p gan Archesgob De Affrica, a ddywedodd iddynt fedru llunio, ar ôl pythefnos o astudio a gweddïo, datganiad y gallent un ac oll gytuno arno. Pan aed â’r datganiad i’r Sesiwn Lawn o holl esgobion y Cymundeb, tybiai ef ei fod yn ddealledig na newidid dim na gwella dim arno, ond y derbynnid ef fel datganiad o ddealltwriaeth y grw$p. Ond ei newid a wnaed, ac arweiniodd hynny i anhrefn, gan ddryllio cydbwysedd gofalus y datganiad. Yr oedd y ddadl yn Lambeth ar rywioldeb yn wers ymarferol ar sut i beidio â llunio diwinyddiaeth. Ni chafodd yr un penderfyniad arall ei drin yn y fath fodd yn y Sesiwn Lawn, ac, a bod yn onest, fe aeth y rhan fwyaf o’r penderfyniadau i’r fasged sbwriel. A chofier hefyd mai pwnc moesol, nid pwnc athrawiaethol, oedd hwn

5. PWNC RHYW YN Y CYD-DESTUN EHANGACH

Yn olaf, yr wyf am edrych ar y cwestiynau ehangach sy’n ymwneud â Chenhadaeth a Gweinidogaeth yr Eglwys. Ar ôl Cynhadledd Lambeth ’98, fe sefydlodd Archesgob Caer-gaint grw$p o esgobion i edrych ar bynciau yn ymwneud â rhywioldeb. Daeth y grw$p hwnnw i’r casgliad fod “y broses ddeddfwriaethol yn ddull annigonol i geisio dirnad meddwl Crist yn rhai o’r materion sensitif sy’n ein hwynebu wrth inni barhau i dyfu fel cymundeb o Eglwysi. Yr hyn y mae arnom ei angen yw sgwrsio â’n gilydd wyneb yn wyneb fel taleithiau”.

Yr wyf newydd ddychwelyd o Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd yn Genefa, ac y mae yntau wedi bod yn ystyried materion yn ymwneud â rhywioldeb, ac, yn dilyn y Cynulliad yn Harare yn ’98, wedi sefydlu grw$p i ddarparu yr hyn a alwodd yn “ofod i drafod a dadlau a dadansoddi”. Cynhaliwyd nifer o ymgynghoriadau ar y pwnc yn Bossey, lle y gallodd nifer o gyfranwyr fod yn agored i’w gilydd a rhannu myfyrdodau. Daethpwyd i’r casgliad fod “cyfuno safbwyntiau a gwneud datganiadau awdurdodol yn wrthgynhyrchiol ac yn dyfnhau’r gagendor rhwng eglwysi ac o’u mewn. Yr hyn y mae angen amdano yw gofod ar gyfer cyfarfodydd, dadansoddiad, deialog”. Mewn geiriau eraill, y mae Cyngor Eglwysi’r Byd yn cytuno ag esgobion Lambeth mai’r dull mwyaf creadigol o symud ymlaen yw drwy sgwrsio, nid drwy wneud datganiadau croch.

Y mae gan y Cymundeb Anglicanaidd lawer i’w ddysgu am y dull hwn o sgwrsio, gan i’r hyn a ddigwyddodd yn ystod y misoedd diwethaf fod yn anfuddiol iawn. Ni fu unrhyw wir gyfathrebu na thrafod – dim ond datgan a gwrth-ddatgan gwahanol safbwyntiau. Sut dystiolaeth a roes hynny i’r byd am ein dull o ymwneud â Duw ac â’n gilydd? Hawlia’r Eglwys ei bod yn Gorff Crist, lle’r anogir yr aelodau i geisio nid eu buddiannau eu hunain ond buddiannau aelodau eraill y Corff (darllenwch yr Epistol at yr Effesiaid). Mae’n tystio’n fwyaf ffyddlon i’r Efengyl pan gais wasanaethu Crist ym mherson rhywun arall. Mewn geiriau eraill, dylem roi sylw anhunanol i eraill oherwydd y sylw anhunanol a roddodd Duw i ni. Dyna galon yr Efengyl. Yn ein hymgais i geisio lleisio un barn groch ar yr un pwnc hwn, collasom ein golwg fel Cymundeb ar rywbeth hanfodol yng nghnewyllyn gwerthoedd yr Efengyl. Neu, a defnyddio iaith liwgar Iesu, yr ydym wedi “hidlo’r gwybedyn a llyncu camel”, am ei bod yn ymddangos inni anghofio ein bod yn byw mewn byd a anrheithiwyd gan dywallt gwaed a newyn ac afiechyd. Yr ydym mewn perygl yn y Cymundeb Anglicanaidd o droi pwnc perthynas rywiol pobl â’i gilydd i fod yr unig bwnc sy’n cyfrif – i’w wneud bron yn fater o ddiffinio pwy sydd, a phwy nad yw, yn Anglican, onid, yn wir, yn Gristion. Os gwnawn hynny, byddwn mewn perygl o beidio â chymryd o ddifrif werthoedd canolog ein Hefengyl nac ychwaith draddodiadau ein Heglwys.