Anerchiad y Llywydd y Corff Llywodraethol Ebrill 2013

Yn yr Anerchiad Llywyddol hwn, mi hoffwn sôn am ddau beth amlwg ym mywyd y Dalaith ar hyn o bryd, sef yr Arolwg diweddar a mater priodasau un rhyw. Dim llawer i’w drafod, felly. Gadewch inni ddechrau gyda’r Arolwg.

Mae perygl inni gael ein llethu cymaint gan yr Arolwg Taleithiol, neu ganolbwyntio cymaint ar ei fanylion, nes inni ei wrthod yn ei gyfanrwydd am ein bod yn anghytuno â rhai pethau ynddo. Byddai hynny’n drueni mawr. Yn fy marn i, yr hyn a wna’r Arolwg yw dal drych o’n blaenau fel Eglwys, a dweud “dyma beth a oedd gennych i’w ddweud amdanoch eich hunain; rydym ni’n adlewyrchu’n ôl i chwi yr hyn yr ydych yn ei feddwl sydd ar goll yn eich eglwys, a dyma rai pethau y gallech eu gwneud i wella’r sefyllfa”. Fe all nad yw eu hatebion yn gwbl gywir bob tro, gan fod o hyd lawer o waith i’w wneud ar rai materion, ond beth y carwn ei wneud y prynhawn yma yw nid sôn am fanylion yr Arolwg, nac am y broses chwaith, ond am ei ragdybiaethau sylfaenol, oherwydd y mae’n rhagdybio rhai pethau hanfodol am yr eglwys a phobl Dduw o safbwynt diwinyddiaeth ac eglwysoleg. Fe all fod o fudd i mi, hyd y gallaf, fanylu ar hyn.

Awgryma’r Arolwg sefydlu ardaloedd gweinidogaeth gydag arweinydd tîm, a phawb yn y tîm yn cydweithio â’i gilydd, yn glerigion – rhai’n gyflogedig, y mwyafrif ddim, ac yn bobl leyg – rhai’n gyflogedig, y mwyafrif ddim. Sylfaenir hyn ar y rhagdybiaeth sylfaenol mai sacrament pwysicaf yr eglwys yw nid ordinasiwn ond bedydd. Fe all mai ein prif gamgymeriad fel Eglwys yw meddwl mai ordinasiwn, yn hytrach na bedydd, yw ein sacrament pwysicaf.

Pan ofynnwyd i’r Pab Ioan Paul II pa un oedd diwrnod pwysicaf ei fywyd, fe atebodd “diwrnod fy medydd”. Yn anad dim, cymuned y bedyddiedig yw’r Eglwys. Mewn gwasanaeth ordeinio, cyn arddodi dwylo ar neb, fe ddywed yr esgob y “gelwir pawb a fedyddiwyd i amlygu Iesu Grist yn Waredwr ac Arglwydd ac i fod yn gydweithwyr ag ef wrth iddo adnewyddu’r byd”. Mae pob aelod bedyddiedig o’r gymuned Gristnogol yn ddisgybl i Iesu, a chanddo ddawn, ac felly weinidogaeth, i’w chynnig. Allan o’r teulu bedyddiedig hwn y gelwir y rhai a ordeinir i ymarfer doniau a swyddogaethau arbennig yn yr Eglwys. Ffordd arall o ddweud hyn yw bod pawb yn yr Eglwys yn bobl Dduw, nid dim ond y rhai a ordeiniwyd. Dywedodd Martin Luther iddo gael ei wneud yn offeiriad pan fedyddiwyd ef ac yn weinidog pan ordeiniwyd ef. Dywed catecism yr Eglwys yng Nghymru fod “yr Eglwys yn cyflawni ei chenhadaeth trwy weinidogaeth ei holl aelodau.”

Temtir eglwysi â chanddynt glerigion ordeiniedig i ragdybio yr ymgorfforir pob gweinidogaeth mewn gweinidog holl-fedrus, sy’n medru canu a dawnsio a phopeth arall ac y mae’r gwaith o weinidogaethu yn eiddo iddo. Os yw pethau’n mynd yn ormod, gall ddirprwyo ambell gyfrifoldeb i bobl eraill, ond yn ei hanfod perthyn y weinidogaeth i’r gweinidog ei hun. Dechrau yn y fan anghywir yw hyn. Yn ôl un diwinydd, “Mae’n rhaid wrth gymuned i arddangos y gras sydd yn Iesu”. Os felly, ymddiriedir y gwaith o weinidogaethu i’r Eglwys gyfan ac, o blith yr Eglwys, fe elwir rhai i ymarfer gweinidogaethau arbennig. Yn drist ddigon, dywed Adroddiad 1993 ar Gyflwr yr Eglwys yng Nghymru fod “lleygwyr yn dal i feddwl amdanynt eu hunain nid fel gweision Duw ond fel gweision y Ficer; ef yw’r Eglwys iddynt.” Chefais i mo f’argyhoeddi bod fawr ddim wedi newid, a rhaid i bawb ohonom rannu’r bai am hynny. Dengys hyn yn glir iawn hefyd sut yr ydym yn methu â gweithredu hyd yn oed yr adroddiadau a gomisiynwyd gennym ni ein hunain. Rwy’n gobeithio na ddigwydd hynny yn achos yr adroddiad hwn.

Ni ddylid ychwaith roi’r gwaith gweinyddu i leygwyr, a gadael i glerigion ofalu am bethau ysbrydol fel bedyddio a phriodi a pharatoi at fedydd esgob, cynghori’r profedigaethus, ymweld â’r claf ac ymwneud â’r gymuned. Yn hytrach, mae’r gwaith hwn i’w wneud ar ran yr eglwys gan dîm o bobl, clerig a lleyg, dan arweiniad offeiriad cyflogedig. Ni wna hynny waith arweinydd y tîm yn waith llai offeiriadol na llai eang. Os rhywbeth, fe’i gwna’n fwy felly am y bydd yr offeiriad, fel arweinydd cerddorfa, yn sicrhau bod yr holl dîm yn cymryd rhan. Fel y dywedodd rhywun, “Byddwch fel bydwraig yn annog pobl i roi genedigaeth i’r doniau a roddwyd iddynt”. Ac, wrth wneud hyn oll, byddwn yn dychwelyd at hen batrwm. Galwodd Iesu ei hun y deuddeg i gydweinidogaethu ag ef, er y byddai weithiau wedi bod yn well ar ei ben ei hun.

Felly hefyd Sant Paul. Wedi i Paul sefydlu eglwys, byddai’n ei hymddiried nid i un henuriad, ond i nifer. Mae Gweithgor yr Arolwg yn ein herio i adfer dull y Testament Newydd o weld yr Eglwys yn ei chyfanrwydd ac yn ein galw’n ôl at ein haddunedau bedydd fel y gellir cydnabod ac awdurdodi gwahanol weinidogaethau a doniau. Pe baem yn gwneud hyn o ddifrif, fe all, yn baradocsaidd ddigon, y gwelem fwy yn cael eu galw i’r weinidogaeth ordeiniedig, am y byddem yn cymryd o ddifrif ddoniau pawb.

I hyn oll lwyddo, mae arnom angen hyfforddiant. Os hyfforddwyd chwi i weithio ar eich pen eich hun, mae’n anodd wedyn gweithio mewn partneriaeth ag eraill, er mai dyna yw gwir arweinyddiaeth. Y dyfodol, felly, yw timau o glerigion a phobl leyg yn cydweithio ag arweinydd profiadol mewn ardal weinidogaethol, ac yn cael eu cyd-hyfforddi fel y caiff yr Efengyl ei chyhoeddi a’i byw. Mewn tîm o’r fath gall fod rhai wedi eu donio a’u hyfforddi i weinidogaethu i bobl ifainc; gall rhai weinidogaethu i oedolion ifainc, rhai i ysgolion; a gall rhai, â chanddynt ddawn i efengylu, beri i’r eglwys dyfu trwy eu gallu i esbonio’r Efengyl mewn ffyrdd newydd. Ni olyga dim o hyn ein bod yn ysgubo ymaith bopeth sydd gennym ar hyn o bryd. Yn hytrach, golyga ddefnyddio’r holl adnoddau a roddwyd inni, a’r doniau sydd gan bawb ohonom, yn fwy creadigol a myfyrgar. Golyga bod clerigion a phobl leyg yn rhannu’r un weledigaeth o waith yr Eglwys yng nghenhadaeth Duw i’r byd.

Mae’r ardaloedd gweinidogaethol hyn, fel y dywed gwefan Esgobaeth Mynwy, “yn dal i fod wedi eu gwreiddio mewn cymunedau lleol, ac mae ganddynt arweinwyr lleol; maent felly’n adlewyrchu’r ymgnawdoliad. Maent yn apostolaidd am fod ganddynt arweinwyr sy’n gyfrifol am addysgu a meithrin galwedigaethau a galluogi eraill i weinidogaethu; yn genhadol am eu bod yn chwilio am gyfleoedd newydd i weinidogaethu ac i efengylu; ac yn llawn gweledigaeth am eu bod yn gofyn am ddull newydd o ymateb i alwad Duw i ehangu ei deyrnas”.

Yn ei lythyrau dywed Paul iddo dderbyn comisiwn i bregethu’r Efengyl fel y câi Iesu ei ddatguddio ynddo. Mae’n sôn am gael ei groeshoelio gyda Christ a’i gyfodi gydag ef. “Nid myfi sy’n byw, ond Crist sy’n byw ynof fi”. Mewn gair, mae’n datguddio Iesu nid yn unig trwy bregethu ond hefyd trwy’r modd y mae’n byw ei fywyd.

A dyna a ddisgwylir gan bawb sy’n ddisgyblion i Iesu. Rhaid i’n buchedd a’n perthynas ag eraill gael eu llunio gan yr Efengyl, mewn cariad, cymdeithas, trugaredd a gofal am eraill. Ystyr bod yng Nghrist yw byw ar batrwm yr Efengyl, a phan amlygir hynny fe wêl eraill ei ddilysrwydd ac fe’u tynnir i mewn i fywyd y ffydd. Dyna sut y crëir Cristnogion newydd.

Trof yn awr at y Bil Priodas (cyplau un rhyw). Fe gewch fwy o fanylion yn yr ail Atodiad i Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog. Fel y gwyddoch, fe ddatgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920. Fodd bynnag, fe gadwodd Deddf 1919 ddyletswydd yr Eglwys dan y gyfraith gyffredin i briodi pobl. O’r safbwynt hwn, mae’r Eglwys yng Nghymru yn yr un sefyllfa ag Eglwys Loegr. Mae’n ddyletswydd arnom briodi plwyfolion, beth bynnag fo’u crefydd.

Gan nad yw priodas yn beth a ddatganolwyd, mater i Senedd San Steffan yw unrhyw newid yn y gyfraith. Dyna pam y gwnaeth Maria Miller, y Gweinidog Diwylliant a Chydraddoldeb, sy’n digwydd dod o Ben-y-bont ar Ogwr, ddatganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar 11 Rhagfyr y llynedd ar briodasau un rhyw, a dweud bod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud hi’n anghyfreithlon i eglwysi Anglicanaidd Lloegr a Chymru briodi cyplau un rhyw. Bwriad y darpariaethau hyn oedd cydnabod ac amddiffyn natur unigryw a sefydledig yr eglwysi hyn cyn belled ag y mae priodas yn y cwestiwn, gan fod y gyfraith yn eu gorfodi i gynnal priodasau. Pe bai’r Wladwriaeth yn newid y diffiniad sy’n hysbys i ni o briodas, byddai’n rhaid i’r Eglwysi Anglicanaidd yn Lloegr a Chymru briodi cyplau un rhyw, oni bai, wrth gwrs, bod y gyfraith yn eu gwahardd rhag gwneud hynny. Ysgrifennais at y Gweinidog i fynegi pryder am y diffyg ymgynghori a hefyd am y diffyg dealltwriaeth ymddangosiadol o sefyllfa gyfreithiol unigryw yr Eglwys yng Nghymru.

Mae’n wir, yn achos y Ddeddf a gynigid, oni bai bod ynddi ryw ddarpariaeth arall, y gellid erlyn clerigion fel cofrestryddion pe baent yn gwrthod priodi cyplau un rhyw. Yn fy marn i, doedd deddfu i wahardd yr Eglwys yng Nghymru rhag gwneud hynny ddim yn gosod y cyweirnod iawn. Ymhellach, gallai Eglwys Loegr, pe dymunai, ddiddymu’r gwaharddiad trwy basio mesur yn y Synod i’w gymeradwyo gan y Senedd. Yr unig ffordd y gallai’r Eglwys yng Nghymru wneud hynny fyddai trwy Ddeddf Seneddol, a fyddai’n beth hynod o anodd, hyd yn oed pe caniateid amser seneddol iddo. Gallai hefyd fod yn beth drud iawn.

I grynhoi, yr hyn yr oeddem ni yn ei geisio gan y Llywodraeth, y daeth ei swyddogion i Gaerdydd ddwywaith, oedd amddiffyn clerigion trwy beidio â’u gorfodi i weinyddu priodasau un rhyw, a pheirianwaith i alluogi’r Eglwys yng Nghymru i weinyddu priodasau un rhyw pe bai, yn y dyfodol, yn penderfynu gwneud hynny, heb orfod diddymu’r Ddeddf Seneddol a oedd yn ei gwahardd. Yn awr, athrawiaeth bresennol yr Eglwys yng Nghymru ar briodas yw mai uniad ydyw rhwng un dyn ac un ddynes, a’r uniad hwnnw i bara am oes. Ac fe wneuthum yn glir i’r Gweinidog nad oeddwn o’r farn y byddai’r Eglwys yng Nghymru, ar hyn o bryd, am newid y sefyllfa. Fodd bynnag, pe byddai am wneud hynny, dylai fod ganddi’r hawl i benderfynu heb orfod diddymu deddfwriaeth. I fod yn deg, yn dilyn y dryswch cychwynnol, gweithiodd y Llywodraeth yn galed gyda’r Eglwys yng Nghymru i geisio dod i ddeall ein sefyllfa.

Fel y mae ar hyn o bryd, dywed y Bil na chaiff dyletswydd clerigion yr Eglwys yng Nghymru i weinyddu priodasau ei estyn i gynnwys priodi cyplau un rhyw, ac y mae ynddo gymal i gyflwyno gweithdrefn benodol i’r Eglwys yng Nghymru i’r perwyl, pe bai’r Corff Llywodraethol yn y dyfodol yn penderfynu caniatáu priodi cyplau un rhyw yn ei eglwysi, y gallai’r Arglwydd Ganghellor wneud hynny’n bosibl trwy Orchymyn Seneddol. Mae hynny’n ein hamddiffyn ac, ar yr un pryd, yn caniatáu inni benderfynu drosom ein hunain ar y mater yn y dyfodol.

Fel y gallwch ddychmygu, aeth hyn i gyd â llawer o amser ac egni. Ymddangosodd cynrychiolwyr o’r Eglwys yng Nghymru gerbron y Pwyllgor a oedd yn ystyried y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin a gerbron Pwyllgor Deddfu ar Faterion Cyfansoddiadol Cynulliad Cymru.

Y drwg yw nad oedd sôn am ddeddfu ar briodasau un rhyw ym maniffesto yr un o bleidiau’r Coalisiwn. Nis cynhwyswyd yn Araith ddiweddaraf y Frenhines, ac ni chafodd fandat o ymgynghoriad diwethaf y Llywodraeth ar Bartneriaethau Sifil. Hefyd fe baratowyd y ddeddfwriaeth ar frys mawr ac o ganlyniad methodd yn arbennig â deall sefyllfa’r Eglwys yng Nghymru. Anaml y mae deddfu ar frys yn ddeddfu da.

Mae hefyd yn codi nifer o faterion eraill.

    1. Gellir eto herio’r ddeddfwriaeth hon yn Llysoedd Iawnderau Dynol Ewrop yn Strasbourg.
    2. Rhaid i ni fel Eglwys drafod a ydym am gadw’r statws cyfreithiol arbennig hwn parthed priodas. Pe câi pwnc priodas ei ddatganoli, ni allaf weld Llywodraeth Gymreig ddatganoledig yn caniatáu i Eglwys a ddatgysylltwyd gadw rhyw weddill fel hyn o’r amser pan oedd hi’n Eglwys Sefydledig. Sut bynnag, fe all y byddem ni ein hunain am newid y trefniadau presennol. Pe câi Deddf 1919 ei diddymu fel nad oedd gorfodaeth gyfreithiol ar yr Eglwys yng Nghymru i briodi’r un plwyfolyn, byddai’n dal yn bosibl cofrestru pawb o’n clerigion i fod yn gofrestryddion priodasau. Mater i’r Eglwys yng Nghymru wedyn, nid i’r Wladwriaeth, fyddai’r rheolau ynglŷn â phrewylio a chysylltiadau cymwys. Felly y mae, wrth gwrs, yn achos eglwysi eraill yng Nghymru ar hyn o bryd.
    3. Mae hefyd yn codi’r mater o briodasau un rhyw a phartneriaethau un rhyw. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd yn nealltwriaeth y gymdeithas ehangach o berthynas un rhyw, a dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o rywioldeb dynol yn gyffredinol. Yn yr Eglwys yng Nghymru, fel y sylwodd yr esgobion, y mae amrywiaeth barn ar foeseg perthynas un rhyw. Mae gwerthfawrogiad newydd o bob perthynas ffyddlon ac ymrwymedig gydol oes. Yn ôl Archesgob newydd Caergaint yn ddiweddar: “Byddai’n beth hollol hurt awgrymu bod y cariad a fynegir mewn perthynas hoyw yn llai na’r cariad sy’n bodoli rhwng cyplau syth”. Felly, mae’r esgobion wedi gofyn i’r Comisiwn Athrawiaeth archwilio holl fater perthynas un rhyw, a phan fydd ei adroddiad yn barod bydd yn rhaid inni gael trafodaeth gyffredinol, mewn grwpiau i ddechrau, efallai, yn y Corff Llywodraethol hwn, i fapio ein ffordd ymlaen fel Eglwys.

Gwnaeth yr Athro Thomas Watkin y sylw direidus bod yr Eglwys yng Nghymru eisoes yn gyfarwydd â’r cysyniad o briodas un rhyw pe bai rhywun am briodi ynddi yn Gymraeg. Geiriau agoriadol y Gwasanaeth Priodas yw ‘Saif y ddeuddyn sydd i’w priodi o flaen yr offeiriad’. Mae ‘deuddyn’ yn air cynhwysfawr – gall olygu dau unigolyn neu, yn wir, ddau ddyn!