Anerchiad Y Llywydd Y Corff Llywodraethol Ebrill 2012

Listen (with translation) | Listen (without translation)

Yn yr anerchiad hwn rwyf am drafod mater moesegol sy’n wynebu ein heglwys a’n byd. Wrth wneud hynny, rwy’n sylweddoli fy mod i’n mynd i dir peryglus oherwydd nad oes atebion syml i broblemau moesegol dyrys, ac nid oes safbwynt Cristnogol clir ar y mater hwn ychwaith, er gwaethaf beth y mae rhai pobl yn ei feddwl.

Y mae anerchiadau llywyddol yn un ffordd o geisio agor trafodaeth a’n galluogi ni i gyd, gobeithio, i feddwl ymhellach. Sôn yr ydw i, wrth gwrs, am berthynas un rhyw.

Ym mis Rhagfyr y llynedd daeth deddf newydd i rym yn ymwneud â chofrestru partneriaethau sifil mewn adeiladau crefyddol. Er 2005, pan basiodd y Senedd y Ddeddf Perthynas Sifil a oedd yn caniatáu i ddau o’r un rhyw gofrestru’n bartneriaid sifil, bu’n rhaid i’r cofrestru ddigwydd mewn Swyddfa Gofrestru neu adeilad a gymeradwywyd ac fe’i gwaherddid mewn adeiladau crefyddol. Dileodd Deddf Cydraddoldeb 2011 y gwaharddiad hwn. Felly, gellir yn awr gofrestru partneriaethau sifil mewn adeiladau crefyddol os dyna ddymuniad y gwahanol eglwysi.

Yn ein hachos ni, cytunodd gweithgor a gadeiriwyd gan yr Esgob Dominic y bydd yn rhaid i’r Corff Llywodraethol benderfynu ar y mater. Os bydd y Corff Llywodraethol yn caniatáu hyn, bydd yn rhaid i’r eglwys leol wneud cais i’r Awdurdod Lleol am drwyddedu adeilad penodol.  Y mae yna felly ddau gam – yn gyntaf, caniatâd cyffredinol mewn egwyddor gan y Corff Llywodraethol i ddefnyddio ein hadeiladau ac, yna, os rhoddir y caniatâd hwnnw, gwneud cais am drwydded i adeilad eglwysig penodol oddi wrth yr Awdurdod Lleol perthnasol.

Dydym ni ddim eto wedi trafod hyn yn y Corff Llywodraethol ac, nes gwnawn ni hynny, ni ellir defnyddio adeiladau’r eglwys i gofrestru partneriaethau sifil. Yn ôl rhai pobl, rydym ni’n llwfr yn peidio â chaniatáu hynny. Yn ôl eraill, rydym ni’n homoffobig.

Yn awr, y mae’n rhaid inni gydnabod mai record wael sydd gan yr eglwys o ymwneud â pherthynas un rhyw ond, yn fy marn i, nid cofrestru partneriaethau un rhyw yn ein heglwysi yw’r gwir anhawster. Oherwydd pe bai’r Corff Llywodraethol yn caniatáu hynny, caniatáu y byddai i seremoni seciwlar gael ei chynnal yn ein heglwysi gan Gofrestrydd Sifil – rhywbeth nad ydym ni ddim yn ei ganiatau yn achos priodasau sifil. Mae’n wir y gellid ystyried bod hynny’n dangos cydsyniad tawel â phartneriaethau o’r fath, ond byddai’n beth rhyfedd ei ganiatáu heb fod unrhyw gynnwys crefyddol. Sut y gallem ni, fel eglwys, esbonio natur yr hyn oedd yn digwydd? Ni fyddai Cristnogion a oedd am i’w partneriaethau sifil ddigwydd mewn adeilad crefyddol yn fodlon nad oedd yr eglwys yn gwneud dim ond rhoi cartref i’r seremoni. Byddai arnynt eisiau gweddïau neu fendithio’u partneriaeth. A dyna, wrth gwrs, ddechrau gofidiau, oherwydd dyma fater sydd bron wedi rhwygo’r Cymundeb ac y mae ym mhob eglwys wahanol farn. A phe na bai hynny ynddo’i hun yn beth digon anodd, y mae’r Llywodraeth yn awr yn ymgynghori i weld a ellir estyn priodas sifil i gyplau o’r un rhyw.
Mae llawer o Gristnogion ac eglwysi’n mynnu bod perthynas wrywgydiol yn groes i gyfraith Duw fel y datguddir hi yn yr Ysgrythur ac yn groes i natur ac na ddylem ni ddim bod yn ystyried y peth o gwbl, heb sôn am ganiatáu priodas sifil i bobl o’r un rhyw.

Mi ddof yn ôl at ymgynghoriad y Llywodraeth ar briodas sifil, sy’n codi nifer fawr o gwestiynau diwinyddoI i’r eglwys. Fy mhryder ar hyn o bryd yw y gall unrhyw drafodaeth ar y pwnc roi’r argraff unwaith eto i bobl hoyw nad oes gan yr eglwys na gofal amdanynt na chydymdeimlad â  hwy. Fe all y dywedir pethau dros y misoedd sydd i ddod a all niweidio pobl yn fawr o safbwynt bugeiliol. I’r pwnc bugeiliol hwnnw yr ydw i am roi sylw, a gwneud rhai pwyntiau cyffredinol am berthynas rywiol. Yn y cyd-destun hwn, rwyf am eich cyfeirio at ddatganiad a wnaeth y Fainc y mis diwethaf ac a roddwyd ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Rhywioldeb Dynol
Y mae Mainc yr Esgobion

  1. yn glynu at yr athrawiaeth Gristnogol mai undod gwirfoddol am oes rhwng un gŵr ac un wraig yw priodas.
  2. yn cydnabod, hyd oni ddatrysir cwestiynau yn ymwneud â rhywioldeb dynol, fod yna gyplau yn byw mewn mathau eraill o berthynas am oes, a’u bod yn haeddu croeso, gofal bugeiliol a chefnogaeth yr Eglwys.
  3. yn ymrwymo i wrando ymhellach, i fyfyrio’n weddigar ac i geisio goleuni ar fater perthynas un rhyw.

Y cwestiwn yw hwn: sut y gallwn fod yn ffyddlon i’r Ysgrythur a thraddodiad ac ar yr un pryd ufuddhau i alwad ehangach y Testament Newydd i garu ein cymydog? Mewn cynulleidfaoedd lleol,  bydd llawer yn ystyried bod pobl hoyw a’u partneriaid yn byw mewn perthynas y mae’r Ysgrythur yn ei chondemnio. Yn aml, bydd pobl hoyw’n teimlo’n anghyffyrddus a digroeso, ac weithiau byddant yn ymadael am Eglwys sy’n barotach i’w derbyn. Gall hynny ddatrys y tensiwn oddi mewn i’r gynulleidfa dan sylw, ond y mae’n cynyddu’r tensiwn rhwng y ceidwadwyr a’r rhyddfrydwyr, fel y’u gelwir, yn yr Eglwys. Os nod moesol yr efengyl yw annog caru cymydog, sut y gall hynny ddigwydd pan wneir i bobl deimlo nad oes ar neb eu heisiau, nad oes neb yn eu caru, a’u bod yn pechu? Sut y mae’r efengyl yn newyddion da i hoywon?

Fe gydnabu hyd yn oed Lambeth 1:10 yn 1998 dueddiad gwrywgydiol a’r angen am ofal bugeiliol i wrywgydwyr. Aeth ymhellach. Rhwymodd yr Eglwys “i wrando ar brofiad pobl hoyw” a’u sicrhau bod “Duw yn eu caru a’u bod … yn aelodau llawn o Gorff Crist”. Fe gondemniodd hefyd ofni gwrywgydwyr heb reswm. Fodd bynnag, dywed gwrywgydwyr a lesbiaid eu bod yn dal i gael eu trin fel dinasyddion eilradd – ar y gorau, eu goddef, ar y gwaethaf eu difrïo. Mewn adroddiad diweddar pwysleisiodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion fod angen cefnogi hoywon a mynegodd bryder fod y sylw parhaus a roddir i’r bobl hyn yn hybu afiechyd meddwl yn eu plith. Trafodir gwrywgydiaeth yn aml fel pe na bai a wnelo ddim â phobl go iawn; cwyn gwrywgydwyr a lesbiaid yw mai siarad amdanynt, nid siarad â hwy, y mae’r Eglwys.

Fel y dywedais, fe gydnabu Lambeth 1998 dueddiad gwrywgydiol – peth a ystyria rhai yn “gyneddf naturiol mewn rhai pobl”, hynny yw tueddiad naturiol at bobl o’r un rhyw nas llwyr ddeallwyd tan yn ddiweddar. Ateb Lambeth, fodd bynnag, oedd gwahanu tueddiad oddi wrth ymarfer a chymeradwyo diweirdeb.

Ond a ellir gorfodi diweirdeb? Onid rhywbeth yw diweirdeb sy’n alwedigaeth bersonol i bobl wahanrywiol a gwrywgydiol fel ei gilydd? Fel y dywedodd Rowan Williams unwaith, “ni fyddai gan neb a ŵyr am gymhlethdodau’r alwad i fod yn ddiwair unrhyw gydymdeimlad â’r syniad rhyfedd fod tueddiad rhywiol yn cyfeirio’n awtomatig at fywyd diwair: bron fel pe bai diweirdeb gerbron Duw yn llai o gost, a hyd yn oed yn llai o risg, i bobl hoyw nag i bobl wahanrywiol”.
Ac onid yw gwahanu meddwl a chorff neu deimladau neu dueddiad ac ymarfer yn fath o ddeuoliaeth a gondemniwyd gan yr eglwys yn y gorffennol am fod bodau dynol yn un cyfangorff na ellir ei rannu yn y fath fodd? Os yw hynny’n wir am y ddynolryw’n gyffredinol, pam y dylem ni wneud eithriad o bobl a chanddynt dueddiad gwrywgydiol?

Cyhoeddodd Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad yn 2005 yn cydnabod yr amrywiaeth o safbwyntiau dilys sydd gan Gristnogion yn yr Eglwys yng Nghymru. Amrywia’r rhain o’r safbwynt mai’r unig gyd-destun priodol i weithgaredd rhywiol yw oddi mewn i briodas gŵr a gwraig mewn undod am oes, ac sy’n gwrthod pob gwrywgydiaeth, i’r safbwynt bod yr amser wedi dod, yn wyneb dealltwriaeth newydd o natur dynolryw a rhywioldeb, i’r Eglwys gymeradwyo perthynas wrywgydiol ymrwymedig. Seilir yr ail safbwynt ar y rhagdybiaeth nad yw’r Beibl yn cydnabod yn agored berthynas rywiol gariadus ac ymrwymedig rhwng dau o’r un rhyw ac nad yw, felly, yn ymdrin â gwrywgydiaeth fel yr ydym ni’n ei ddeall.

Y mae papur ymgynghori’r Llywodraeth yn ein gorfodi i feddwl am yr holl faterion hyn. Athrawiaeth yr Eglwys yng Nghymru ar briodas yw mai perthynas ymrwymedig am oes ydyw rhwng dau o wahanol ryw. Ac fel y dywedodd y Times, “ni all y Wladwriaeth bennu cynnwys athrawiaeth Gristnogol”. Aeth y Times ymlaen, fodd bynnag, i ddweud “fod y Wladwriaeth dan orfodaeth i weithredu’r cytundeb cymdeithasol ar gydraddoldeb a chyfraith sy’n clymu ei dinasyddion. Yn ymhlyg yn yr egwyddor hon y mae cydraddoldeb llwyr i wrywgydwyr ac felly hawl iddynt briodi“. Byddai hynny’n newid natur priodas yn ein cymdeithas. Dywed yr Ysgrifennydd Cartref nad yw’n fwriad gan y Llywodraeth ymyrryd â phriodas grefyddol. Y cyfan a olyga wrth hynny yw “na fydd yn gyfreithiol bosibl dan y cynigion hyn i fudiadau crefyddol weinyddu priodasau crefyddol i gyplau un-rhyw ac ni orfodir na gofyn i fudiadau crefyddol na gweinidogion yr efengyl wneud hynny. Ni fydd yn bosibl ychwaith i gyplau un-rhyw gael seremoni briodas sifil mewn adeilad crefyddol. Mewn adeilad crefyddol ni fydd yn gyfreithlon gweinyddu priodas o unrhyw fath ond un rhwng gŵr a gwraig“. Gellir gwahardd cynnal priodasau rhwng partneriaid o’r un rhyw mewn eglwys ond bydd gan y seremoni briodi yr un effaith yn union o dan y gyfraith pa un bynnag a yw pobl yn priodi mewn eglwys neu beidio. Yr un fydd dealltwriaeth y Wladwriaeth o briodas â dealltwriaeth yr Eglwys, sef mai ymrwymiad ydyw am oes, ond y cynigir hi yn awr i gyplau o’r un-rhyw. Nid yw’n gwbl glir a yw partneriaethau sifil i fod am oes, er mai dyna yw’r awgrym.

Os caiff y ddeddfwriaeth i ganiatáu priodas sifil ei phasio, ni allaf weld sut y gallwn ni fel eglwys anwybyddu cyfreithlondeb statws partneriaethau o’r fath, ac ni ddylem fod am wneud hynny. Y mae un cymhlethdod pellach, sef y gallai’r Llywodraeth, yn union fel y gwaharddodd ar y dechrau gofrestru partneriaethau sifil mewn adeiladau crefyddol, ac yna estyn y ddarpariaeth i gynnwys adeiladau o’r fath, wneud yr un peth gyda’r hyn a alwant yn briodas sifil. Yn wir, y mae rhai’n dadlau ei bod yn groes i gyfraith Ewrop i wahaniaethu rhwng y ddeubeth am nad oes unrhyw wahaniaeth cyfreithlon yn y wlad hon rhwng priodi mewn eglwys a phriodi mewn swyddfa gofrestru.

Y cwestiwn bob amser yw: a fydd yr Eglwys yn amddiffyn ac yn cefnogi’n fugeiliol berthynas, o ba fath bynnag, sy’n berthynas ffyddlon, sefydlog ac am oes, er mwyn hyrwyddo gwerthoedd dynol fel cariad a ffyddlondeb, ac yn cydnabod angen Cristnogion am ryw arwydd o gefnogaeth grefyddol gyhoeddus? Fel y dywed Helen yn y nofel Nightwatch gan Sarah Waters – a ysgrifennwyd yn 2006: “beth allai hi ei wneud i ddangos i’r byd mai ei heiddo hi oedd Julia?” Fe allai fod wedi mynd ymlaen i ofyn: “beth all yr Eglwys ei wneud i ddangos nad rhywbeth rhyngof fi a’m partner yn unig yw’r berthynas hon ond bod Duw, rywfodd neu’i gilydd, gyda ni ac yn dyheu am inni ffynnu”. Mae’n drafodaeth y bydd yn rhaid inni ei chael.