Anerchiad y Llywydd y Corff Llywodraethol Medi 2011

Yn yr anerchiad hwn, yr wyf am ymdrin â nifer o faterion sydd o bwys i’n cenedl ac i’n heglwys.

Rhagdybio Caniatâd:

Bwriada Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn golygu, yn hytrach na bod pobl yn arwyddo cerdyn i ddangos eu bod yn barod i roi eu horganau ar ôl marw, y rhagdybir eu bod yn barod i wneud hynny os nad ydynt wedi arwyddo i’r gwrthwyneb. Y drwg ar hyn o bryd yw bod 90% o’r boblogaeth yn dweud eu bod yn fodlon rhoi eu horganau, dim ond un rhan o dair sydd wedi arwyddo’r gofrestr genedlaethol neu sy’n cario cerdyn rhoddwr. Felly, bwriada Llywodraeth Cymru (yn wahanol i bob rhan arall o’r Deyrnas Gyfunol) gyflwyno deddf a fydd yn rhagdybio eich bod yn fodlon rhoi eich horganau os nad ydych yn benodol wedi dewis peidio.

Mae’n hawdd deall y rheswm am hyn. Yn y Deyrnas Gyfunol gyfan y mae bob amser ryw 10,000 o bobl yn disgwyl am galon newydd, aren newydd neu iau newydd, a phob dydd fe fydd tri o bobl farw am nad oes organ addas ar eu cyfer. Rhaid i glaf sy’n disgwyl am aren newydd aros am dair blynedd; rhaid aros am chwe mis ar gyfartaledd am iau neu galon newydd. Erbyn hyn, y mae trawsblannu organau yn llwyddiant aruthrol. Bydd 90% o organau a drawsblannwyd yn gweithio’n iawn flwyddyn ar ôl y llawdriniaeth a gall y cleifion a’u derbyniodd fyw am ddegawd neu ddau. Y mae Llywodraeth Cymru, sy’n ymwybodol ei bod yn gwneud cynnig radical, yn cynnig hefyd yr hyn a eilw yn ‘ddewis meddal’, sef rhoi hawl i berthnasau i wahardd cymryd yr organ. Ond er bod bwriad rhagorol i hyn i gyd, rwy’n teimlo braidd yn anniddig, nid yngl_n â rhoddi na thrawsblannu organau, oherwydd y mae canllawiau llym i reoli hynny ac y mae rhoddi organau yn arfer canmoladwy, ond yngl_n â rhagdybio caniatâd.

Golyga rhagdybio caniatâd wahaniaeth cynnil – neu heb fod mor gynnil, efallai – yn y berthynas rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth, sef, oni bai ein bod wedi dewis ein heithrio ein hunain, mai eiddo’r wladwriaeth yw ein horganau a bod gan y wladwriaeth yr hawl i wneud â hwy fel y myn. Yr awgrym amlwg yw y gall y wladwriaeth ddewis drosom. Yn fy marn i, y mae hynny’n peryglu hawliau a rhyddid unigolion ac yn codi’r cwestiwn moesol a oes gan y wladwriaeth hawl i wneud penderfyniadau o’r fath. Hynny yw, a yw’n gyfreithlon i unrhyw wladwriaeth fod â’r gallu hwn? Fe fydd y wladwriaeth, wrth gwrs, yn dadlau na wneir dim heb ymgynghori â’r perthnasau, ond y mae serch hynny ragdybiaeth o blaid y wladwriaeth ac awgrym bron nad yw ein cyrff yn ddim ond asedau’r wladwriaeth, at ddefnydd y wladwriaeth.

Mae’n ddiddorol hefyd bod Gweithgor y Llywodraeth yn Lloegr wedi gwrthod y rhesymegu hwn am nad oedd o’r farn y bydd rhagdybio caniatâd yn cynyddu’r nifer o organau a fyddai ar gael i’w trawsblannu. Yma yng Nghymru, yr oedd Adroddiad rhyng-bleidiol i’r Cynulliad yn anghymeradwyo rhagdybio caniatâd.

Y mae yma ddadl ddiwinyddol hefyd. Mater o rodd, nid mater o ddyletswydd, yw rhoddi organ, does bosib. Os cymerir organ heb ganiatâd, ar y rhagdybiaeth bod rhywun sydd heb ei eithrio’i hun yn cytuno i hynny, nid rhodd rad i eraill mo’r organ honno. A dyna’n union ddylai rhoddi organ fod – rhodd, gweithred o gariad a haelioni. Rhoi organ yw’r weithred fwyaf haelionus o hunanroddi y gellir ei dychmygu, ond rhaid ei gwneud o ddewis, nid am fod y wladwriaeth yn ei rhagdybio. A dweud y peth yn blwmp ac yn blaen, mae’n troi gwirfoddolwyr yn gonsgriptiaid.

Rwy’n credu hefyd ei fod yn rhoi’r meddygon a’r nyrsys a fydd yn gwneud y gwaith mewn lle anodd. Bron nad yw’n eu gwneud yn weision y wladwriaeth; golyga wahaniaeth cynnil yn y berthynas rhwng meddyg a chlaf. Gallai hynny, yn y pen draw, danseilio ymddiriedaeth yn y proffesiwn meddygol.

Yn fy marn i, y ffordd ymlaen yw i bawb ohonom geisio annog pobl i roi eu horganau. I wneud hynny’n haws, dylai’r wladwriaeth ystyried a ellir gosod cwestiynau ar ffurflenni cyfrifiad neu pan fyddwn yn cofrestru gyda meddyg teulu neu’n cwblhau ffurflen dreth. Eisoes, fe ofynnir y cwestiwn ar y ffurflen gais am drwydded yrru newydd. O leiaf, y mae hyn yn sicrhau y gellir cofnodi a ydych am i’ch organau gael eu cymryd ai peidio ac y mae’n amlwg bod angen ymgyrchu i gael mwy o bobl i roi.

Dadleuodd yr Athro John Saunders, Cadeirydd Pwyllgor Coleg Brenhinol y Meddygon ar foeseg mewn meddygaeth y dylid rhoi inni ddewis dan fandad – hynny yw, rhoi gorchymyn cyfreithiol i bob oedolyn i ddewis beth i’w wneud â’u horganau pan fyddant farw. Gellid gwneud hynny trwy’r Gofrestr Etholwyr neu ryw beirianwaith arall. Golygai hynny y gallai unigolion ddewis drostynt eu hunain, ond y byddai’n rhaid iddynt ddewis. Byddai’n werth cynnal y ddadl a, thrwy wneud pobl yn fwy ymwybodol o’r angen, y mae’n bosibl y byddai mwy yn barod i roi.

Mae’n wir fod gan wledydd sy’n rhagdybio caniatâd fwy o roddwyr organau na’r Deyrnas Gyfunol. Gellir dadlau, fodd bynnag, mai rhesymau eraill sy’n gyfrifol am hynny, megis bod mwy o roddwyr ar gael, bod gwell trefn a strwythur i’r gwasanaeth trawsblannu, mwy o fuddsoddi mewn gofal iechyd a mwy o ymwybod â’r angen. Mae’n dibynnu hefyd ar nifer y cydlynwyr organau sy’n gweithio gyda theuluoedd trallodus, nifer yr arbenigwyr sy’n tynnu’r organau a nifer yr ymgyrchoedd hysbysrwydd cyhoeddus. Nid yw’r ddadl o blaid rhagdybio caniatâd yn un mor gref ag yr ymddengys. Nifer fechan o roddwyr organau sydd gan Sweden, lle caniateir eithrio, a chydnabu’r Sbaenwr sy’n Llywydd y Mudiad Trawsblannu Cenedlaethol ei bod yn debygol nad rhagdybio caniatâd yw’r prif reswm dros lwyddiant Sbaen yn cynyddu’r nifer o roddwyr organau ers y 1990au.

Yr Iaith Gymraeg:

Rhoddwyd sylw mawr dros y misoedd diwethaf i statws yr iaith Gymraeg yn ein bywyd cenedlaethol pan hysbyswyd S4C gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y torrir ei chyllideb o 24% dros y pedair blynedd nesaf ac, o 2014 ymlaen, y daw’r rhan fwyaf o’i chyllid o drwydded deledu’r BBC.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Llywodraeth ei bod wedi dod i gytundeb â’r BBC a fydd yn caniatáu i’r BBC benderfynu lefelau cyllid S4C o 2015 hyd 2016. Nid ymddengys y bu unrhyw ymgynghori ag S4C. Ymhellach, dywedodd y Llywodraeth wrth D_’r Cyffredin y byddai gwarantu annibyniaeth i weithredu i S4C yn peryglu atebolrwydd y BBC am arian y drwydded. Eto i gyd, ar sail annibyniaeth i weithredu y sylfaenwyd S4C. Nid ymddengys bod y Llywodraeth Glymblaid wedi deall pa mor bwysig yw annibyniaeth y Sianel. Y mae’n un o’n sefydliadau cenedlaethol a dylai fod yn annibynnol ac wedi’i chyllido’n ddigonol. Beirniadodd y Pwyllgor Materion Cymreig a’r Pwyllgor Diwylliant yn San Steffan y diffyg ymgynghori a fu. Ymladdodd un o’m rhagflaenwyr, yr Archesgob Gwilym Williams, yn galed, gydag eraill, i sicrhau bod gan Gymru ei sianel deledu ei hun am ei fod yn sylweddoli y dylanwad enfawr y gallai sianel o’r fath ei gael. Mae’n codi cwestiwn, wrth gwrs, yngl_n â lle’r iaith Gymraeg yn ein holl sefydliadau.

Derbyniais lythyr yn ddiweddar yn mynegi pryder yngl_n â’i lle ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru. Roedd y peth a’i hysgogodd yn beth syml iawn, ond yn beth sy’n mynd at wraidd y mater. Roedd y llythyrwr wedi derbyn amlenni rhodd a oedd wedi’u hargraffu yn Saesneg yn unig. Âi ymlaen i ddweud bod siaradwyr Cymraeg yn yr eglwys honno, ond hyd yn oed pe na bai, yr argraff a roddir, mewn rhai rhannau o’r Dalaith, yw mai eglwys Saesneg yw’r Eglwys yng Nghymru.

Mae’n ffaith bod yna lawer o eglwysi â’u hysbysfyrddau yn Saesneg yn unig, a lle na ddefnyddir dim ond llyfrau emynau Saesneg a llyfrau gweddi Saesneg. Yn awr, nid swyddogaeth yr Eglwys yng Nghymru yw amddiffyn y Gymraeg na gwneud eilun ohoni, ond y mae hi’n eglwys ddwyieithog, ac y mae hi’n ceisio gwasanaethu pob cymuned ledled Cymru. Mae ganddi hanes hir ac anrhydeddus o gynnig gwasanaeth a gweinidogaeth yn y ddwy iaith a bu llawer o’i chlerigwyr yn ysgolheigion ac ieithyddion o fri. Hyd yn oed os na chynhelir gwasanaethau Cymraeg, fe ddylai pethau fel hysbysfyrddau, amlenni rhodd, llyfrau emynau a llyfrau gweddi fod ar gael yn y ddwy iaith i bwysleisio ein bod yn ceisio gwasanaethu pawb ym mhob cymuned.

Fe wnaeth yr Eglwys yng Nghymru gamgymeriad wrth gynhyrchu llyfrau gweddi uniaith Saesneg, ar y cyd â’r rhai dwyieithog, yn y 1980au. Canlyniad hynny yw bod rhai eglwysi heb unrhyw lyfrau addoliad Cymraeg o gwbl. Heb sôn am y ffaith bod yr iaith yn rhan o’n treftadaeth ac mai hi, i laweroedd, yw eu hiaith gyntaf ac iaith eu haddoliad a’u gweddi, ni ddylid byth fychanu effeithiau symbolaidd a seicolegol peidio â rhoi iddi ei phriod le ym mywyd ein holl eglwysi. Wedi’r cyfan, fy rhagflaenydd yn Esgob Llandaf, William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg yn 1588 a thrwy hynny achub yr iaith Gymraeg rhag difodiant.

Pan oeddem yn rhan o Dalaith Caergaint hyd at 1920, ni phenodwyd yr un esgob a fedrai Gymraeg i’r un esgobaeth yng Nghymru rhwng 1715 a 1870. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly, fe ystyrid Eglwys Loegr yng Nghymru yn eglwys estron nad oedd yn parchu’r Gymraeg, a dyna, yn rhannol, pam y datgysylltwyd hi. Yn y blynyddoedd oddi ar hynny fe geisiodd yr Eglwys yng Nghymru fod yn driw i’w threftadaeth a rhoi statws cydradd i’r ddwy iaith a, thrwy hynny, adfer ei hygrededd. Ymhlith yr holl sialensiau eraill sy’n ein hwynebu, rhaid inni beidio ag anghofio’r sialens hon neu, yng ngeiriau’r un a fu’n llythyru â mi, fe fyddwn yn creu’r argraff “mai sefydliad Seisnig imperialaidd yn ei hanfod yw’r eglwys, nad yw bellach yn poeni dim am yr iaith Gymraeg ac sy’n trin ei siaradwyr fel dinasyddion eilradd”. Mae’n mynd ymlaen i ddweud “nad dyna’r gwirionedd, wrth gwrs, ond dyna’r argraff a gyfleir nes bod siaradwyr Cymraeg yn teimlo eu bod yn cael ei diystyru yn eu heglwys eu hunain. Byddant yn aml yn dioddef yn dawel rhag achosi cynnen ymhlith y gynulleidfa.”

Y mae a wnelo’r mater hwn, mewn gwirionedd, â’n cenhadaeth i bobl a chenedl y Cymry. Y mae a wnelo hefyd â chyfiawnder. Dyw hi ddim yn ddigon da anwybyddu llythyrau o’r fath. Y mae gennym fel Eglwys Gynllun Iaith Gymraeg wedi’i seilio ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae’n datgan yn gwbl glir y bydd “yr Eglwys yng Nghymru, wrth gynnal ei gweithgareddau cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn ieithoedd cyfartal”. I’n cynorthwyo ni i wneud hynny’n well, y mae Mainc yr Esgobion, mewn partneriaeth â’r Pwyllgor Sefydlog, wedi sefydlu Gweithgor y gofynnwyd iddo, ymhlith pethau eraill, “ystyried beth fyddai’n arfer da wrth ddarparu gwasanaethau a gweinidogaeth arall yn ddwyieithog”.

Yn awr, fe wn i am rai o’r problemau – ychydig sy’n dod i’r weinidogaeth o blwyfi Cymraeg; y mae ail gartrefi a chartrefi ymddeol yn cynyddol seisnigeiddio ardaloedd a fu gynt yn ardaloedd cwbl Gymraeg (er bod llawer o bobl wedi ymddeol yn dysgu’r iaith); mae yna brinder clerigion Cymraeg. Ond mae’n hawdd anghofio bod yna ym mhob plwyf siaradwyr Cymraeg ac os na chaiff hynny ei adlewyrchu yn ein haddoliad a’n bywyd, yr ydym oll yn cael ein lleihau.

Er enghraifft, yr oedd Esgobaeth Llandaf, mewn canrifoedd a fu, yn un o’r esgobaethau Cymreiciaf. Er bod ynddi heddiw, oherwydd ei maint, fwy o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg nag mewn unrhyw ran arall o’r Dalaith, nid yw hynny’n cael ei adlewyrchu ym mywyd ei phlwyfi, ac y mae hynny’n peri tristwch mawr i mi. Nid oes gennym bellach lawer o glerigion Cymraeg eu hiaith ac ychydig iawn o wasanaethau dwyieithog sydd, heb sôn am wasanaethau Cymraeg. I ble bynnag yr af, mi fyddaf bob amser yn cynnal rhan o’r gwasanaeth yn Gymraeg, a byddaf yn synnu at nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg â mi ar y diwedd ac at nifer y rhai di-Gymraeg sy’n gwerthfawrogi bod yr iaith yn cael ei defnyddio. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad yr ydym wedi ei gomisiynu i weld sut y gallwn ymdrin â’r mater hwn.

Ysgolion Eglwys:

Bu llawer o sôn yn y newyddion eleni am ysgolion eglwys. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Bwrdd Addysg Eglwys Loegr ddogfen o dan y teitl Admission to Church of England Schools, yn pwysleisio galwad yr ysgolion hyn i addysgu’r tlodion fel y newidir eu bywydau. Dyna oedd prif swyddogaeth y Gymdeithas Genedlaethol y dethlir ei daucanmlwyddiant yn Abaty Westminster ym mis Hydref eleni. Fe’i sefydlwyd “i hyrwyddo Addysgu’r Tlodion yn Egwyddorion yr Eglwys Sefydledig ledled Lloegr a Chymru”.

Y mae dogfen Eglwys Loegr yn cadarnhau’r hyn a fu’n wir ers hir amser yng Nghymru, sef bod gan ysgolion eglwys ddyletswydd i wasanaethu’r cymunedau lle y lleolir hwy ac i “ddarparu addysg penodol Anglicanaidd ei ethos”. Y mae ysgolion eglwys, felly, yn wahanol ac yn gynhwysol, yn gwasanaethu rhai nad ydynt yn perthyn i’r eglwys, yn enwedig y tlodion, yn ogystal â’r rhai sy’n perthyn iddi. Tanlinellodd ein Harolwg Addysg ni yn 2009 fod ein hysgolion eglwys ninnau yn croesawu pobl o enwadau a chrefyddau eraill.

Fel y dywed Adroddiad Dearing, “Dylai ysgolion eglwys feithrin y sawl sydd â ffydd; annog y sawl sydd â ffydd wahanol; a herio’r sawl sydd heb ffydd”. Yng Nghymru y mae mwy na 250 o ysgolion yn perthyn i’r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Rufain (y mae 168 ysgol Anglicanaidd). Y maent yn gwasanaethu 50,000 o ddisgyblion ac felly’n darparu un lle o bob wyth yn ein hysgolion. Dywed 75% o glerigion Cymru eu bod yn ymweld ag ysgolion – ysgolion cymuned yn ogystal ag ysgolion eglwys – bob wythnos ac yn gweld hynny’n flaenoriaeth o safbwynt bugeilio.

Ym mis Mehefin eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen o dan y pennawd Ffydd mewn Addysg, sy’n amlinellu’r bartneriaeth rhwng ein Llywodraeth a’r eglwysi ym maes addysg. Bu Cymru, wrth gwrs, dros y deng mlynedd diwethaf yn gwneud ei chyfreithiau ei hun ar bopeth yn ymwneud addysg. Yn wir, addysgu a hyfforddi oedd y meysydd cyfreithiol cyntaf i’w llwyr ddatganoli i Gymru, ac am fod gan yr Eglwys yng Nghymru gyfrifoldeb statudol ym maes addysg bu’r Eglwys a’r Llywodraeth yn cydweithio’n agos â’i gilydd. Yr anhawster, fodd bynnag, yw bod y trefniant yn dibynnu ar berthynas waith dda, a’r ofn bob amser yw y gellid penodi gweinidog heb fawr o gydymdeimlad ag ysgolion ffydd.

Y mae’r ddogfen hon yn cadarnhau bod lle i addysg wedi’i sylfaenu ar ffydd yng ngwaith Llywodraeth Cymru, ac y mae hynny’n beth i lawenhau o’i blegid. Mewn rhagair iddi, dywed y Gweinidog Addysg fod Llywodraeth Cymru’n credu’n gryf “mewn dathlu’r gwahanol ac amrywiol ddiwylliannau yng Nghymru. Y mae ysgolion o gymeriad crefyddol yn un agwedd ar yr amrywiaeth oddi mewn i’n cymunedau ac y mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y rhan a chwaraeodd ffydd yn natblygiad y gyfundrefn addysg yng Nghymru. Y mae ysgolion o gymeriad crefyddol yn parhau i gyflawni swyddogaeth werthfawr yn y gymdeithas Gymreig”.

Mae’r ddogfen yn darlunio ethos a chymeriad ysgolion ffydd ac yn gosod sylfaen i le ffydd mewn addysg. Mae’n ymdrin ag ethos arbennig ysgolion o gymeriad crefyddol a’r cyfraniad y gallant ei wneud i’r gymdeithas ehangach. Ar un wedd, nid yw’n dweud dim byd newydd, dim ond cadarnhau rôl yr Eglwys mewn addysg a phalmantu’r ffordd at bartneriaeth effeithiol yn y dyfodol.

Eto i gyd, y mae’n ddogfen arloesol am ei bod yn cydnabod bod ysgolion eglwys yn rhan erbyn hyn o’r tirwedd addysgol a’u bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i’r gyfundrefn addysg a gyllidir o’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru. Wrth sôn am y terfysgoedd diweddar yn Lloegr, pwysleisiodd yr Archesgob Rowan mor bwysig ydyw bod ysgolion yn dysgu gwerthoedd rhinwedd, cymeriad a dinasyddiaeth – y mae ein hysgolion eglwys yn ceisio gwneud hynny. Gall eu pwyslais ar gyfrifoldeb moesol yn ogystal ag ar gyflawniad academaidd, atal yr hyn a alwodd y Prif Weinidog wedi’r terfysgoedd yn “chwalfa foesol araf” ein cymdeithas.

Gadewch imi ddyfynnu darn neu ddau o’r ddogfen i ddarlunio’r pwyntiau y bûm yn eu gwneud: “Mae yna gamdybiaeth bod ysgolion o gymeriad crefyddol yn gwasanaethu diddordebau enwadol, eu bod yn dethol y rhai a dderbyniant ac yn gyfyng eu hagwedd a bod eu disgyblion yn dod o gymdeithas gul. Dengys tystiolaeth bod ysgolion yn y sector hwn yn tynnu disgyblion o’u cymdogaeth leol ac o’r gymuned ehangach a bod ynddynt yn aml amrywiaeth gymdeithasol gyfoethog. Cynigir nifer sylweddol o leoedd i rai o grefyddau eraill ac, yn wir, i rai heb grefydd o gwbl”. Er enghraifft, yn Ysgol y Forwyn Fair yn Nhre-biwt, daw mwy na hanner y disgyblion o gartrefi Mwslemaidd.

Dyfyniad arall: “Y mae ysgolion yn y sector crefyddol yn croesawu ac yn dysgu disgyblion a chanddynt anghenion gwahanol ac sy’n dod o wahanol gefndiroedd am eu bod yn credu bod pob plentyn yn sylfaenol gydradd ac yn rhodd unigryw oddi wrth Dduw. Y tu ôl i barchu urddas pawb y mae’r cysyniad o garu Duw trwy garu cymydog, cysyniad a weithredir yn yr ysgolion trwy groesawu a dathlu gwahaniaethau ac ystyried eu bod yn gyfraniadau cadarnhaol i fywyd y byd.” Y mae’r rhain, mewn dogfen o’r eiddo’r Llywodraeth, yn ddatganiadau cryfion. Yn union fel y bûm, ar ddechrau’r anerchiad hwn, yn codi cwestiynau yngl_n ag un o bolisïau’r Llywodraeth, yr wyf, wrth derfynu, am ddiolch iddi am anrhydeddu lle ysgolion yr Eglwys ac, o ganlyniad, lle’r Ffydd Gristnogol yng nghyfundrefn addysg ein cenedl.