Anerchiad y Llywydd y Corff Llywodraethol Ebrill 2011

Fe all y bydd rhai ohonoch yn cofio imi eich atgoffa yn fy anerchiad fis Ebrill diwethaf y byddwn yn y flwyddyn 2020 yn ganmlwydd oed fel Talaith annibynnol o’r Cymundeb Anglicanaidd, er i’r Eglwys Gristnogol fod yn rhan o’r genedl hon ers cyn i Awstin Sant ddod i Gaergaint yn y chweched ganrif. Awgrymais y pryd hynny y byddai’n amser da i feddwl am ein dyfodol. O ganlyniad, buoch chwi, y Corff Llywodraethol, yn cyfarfod mewn grwpiau bychain ac yn cynnig pob math o ffyrdd y gallwn, fel eglwys, wasanaethu’r genedl a chymunedau Cymru. Bore yfory, bydd Mr  Nigel King a’r Archddiacon Robert Williams yn sôn am eich trafodaethau ym mis Medi, ac yna bydd cyfle pellach i fyfyrio mewn grwpiau.

Fe all y byddwch yn cofio hefyd i chwi, yng nghyfarfod mis Medi o’r Corff Llywodraethol, ofyn i’r esgobion a’r Pwyllgor Sefydlog ymateb i’r sefyllfa a ddisgrifir yn yr Adroddiad Aelodaeth a Chyllid am 2008/09 a oedd yn tanlinellu yn arbennig:

  1. bod cyfartaledd presenoldeb yn dal i syrthio o 2% yn unol â’r duedd hir-dymor;
  2. bod cyfartaledd presenoldeb ymhlith pobl ifainc wedi syrthio’n arbennig o sydyn;
  3. bod graddfa’r cyfanswm rhoi uniongyrchol wedi syrthio am y tro cyntaf ers dechrau casglu’r ystadegau yn y ffurf hon yn 1990;
  4. bod cyfanswm incwm plwyfi, am y tro cyntaf er 1993, yn llai na’r cyfanswm gwariant;
  5. bod y gyfran a wariodd y plwyfi ar adeiladau wedi cynyddu o 28% i 31%.

Mae’r ffigurau hyn yn sialens inni fel eglwys, ond y maent hefyd yn rhoi cyfle inni i’w datrys. Y mae tair her arbennig:

  1. Yn gyntaf, arweinyddiaeth:  Buom yn trafod swyddogaeth esgobion a’r Archesgob. Yr ydych wedi datgan eich bod am i’r esgobion fod â phresenoldeb cyhoeddus amlwg yn y gymdeithas a sbarduno bywyd yr eglwys. Fodd bynnag, fel y nododd grwpiau’r Corff Llywodraethol, y mae mater arweinyddiaeth yn un llawer ehangach. Wrth inni ystyried y cwymp a fydd yn nifer y clerigion, rhaid inni feddwl sut i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol ledled yr eglwys, a sut i gynnal, calonogi a chyfarwyddo arweinwyr lleol. Rhaid inni sicrhau bod gan yr eglwys y math o weinidogaeth y mae arni eu hangen: gweinidogion proffesiynol, wedi’u hyfforddi a’u hadnoddi’n dda, a’u hysgogi i wneud gwahaniaeth yn y byd. Pa newidiadau sydd angen eu gwneud i’n dulliau o ddethol, hyfforddi a chynnal pawb sy’n ymwneud â’n gweinidogaeth gyhoeddus fel eglwys, er mwyn darparu’r arweinyddiaeth effeithiol y mae arnom ei hangen i adeiladu’r gymuned?
  2. Yn ail, adnoddau: Ar hyn o bryd, y mae buddsoddiadau’r dalaith a’r esgobaethau’n rhoi oddeutu 30%  o nawdd at wir gost darparu gweinidogaeh i’n plwyfi – y mae cronfeydd canolog yr eglwys yn rhoi dros £6 miliwn o bunnoedd y flwyddyn i’r chwech esgobaeth. Fodd bynnag, y mae’r adnodd cyfoethog hwn o’r gorffennol o dan bwysau cynyddol fel yr â rheoli buddsoddiadau mewn cyfnod o ddirwasgiad yn fwy anodd ac yr â mwy a mwy o arian at gost darparu pensiynau. Sut y gellir defnyddio adnoddau dynol ac ariannol yr eglwys, a’i hadeiladau, yn fwy effeithiol at gynnal ei chenhadaeth?
  3. Yn drydydd, strwythur:  Yn hanesyddol, bu’r Eglwys yng Nghymru yn bresenoldeb Cristnogol ym mhob cymuned yng Nghymru. Yn y trafodaethau yn y Corff Llywodraethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yr ydych wedi ail-ddatgan bod y presenoldeb hwn yng Nghymru er mwyn Cymru yn rhan hanfodol o’i chenhadaeth. Fodd bynnag, y mae’r plwyfi o dan bwysau cynyddol – eu cynulleidfaoedd yn heneiddio a’u hadnoddau’n prinhau. Trefnir yr eglwys yn ddeoniaethau ac archddiaconiaethau ac esgobaethau. A yw’r strwythurau hyn yn ateb ei anghenion ac yn cynnal ei gwaith? Sut y gall yr eglwys gadw presenoldeb effeithiol a thystiolaethu i gariad Duw ledled Cymru?

Felly, gan gadw mewn cof yr holl bwyntiau a wnaethoch, ac adeiladu arnynt, treuliodd y Fainc, gyda chefnogaeth y Pwyllgor Sefydlog, lawer o’i chyfarfod diwethaf yn ystyried ei gweledigaeth o ddyfodol yr eglwys a’r rhwystrau yn ffordd y weledigaeth honno ac yn ystyried pa gamre y mae’n rhaid eu cymryd i ddatrys y sialensiau sy’n ein hwynebu. Byddwn yn parhau â’r drafodaeth hon yng nghyfarfod nesaf y Fainc.

Fodd bynnag, yr ydym eisoes wedi cytuno i roi sylw i’r materion hyn mewn dwy ffordd:

Yn gyntaf, y mae rhai meysydd ym mywyd yr eglwys y mae gennym ni, y Fainc, gyfrifoldeb amdanynt. Yn eu plith y mae sicrhau bod gennym y dulliau iawn o ddethol, hyfforddi a chynnal er mwyn medru darparu gweinidogaeth ar bob lefel a fydd yn gyson â’r eglwys a ddymunwn fod yn 2020 ac wedi hynny. Byddwn, fel Mainc, yn rhoi mwy o sylw yn ein cyfarfodydd nesaf i ddiffinio ein gweledigaeth o “eglwys addas i’w phwrpas” ac i sicrhau bod gennym y cynlluniau a’r prosesau iawn at gynnal gweinidogaeth yr eglwys ar bob lefel i sylweddoli’r weledigaeth.

Yn ail, yr ydym wedi penderfynu mai un o’r pethau a allai ein cynorthwyo fel talaith fyddai grŵp bychan annibynnol i adolygu ein gwaith a’n strwythurau. Yn y gorffennol, pan oedd arnom angen arolygu unrhyw agwedd ar ein gwaith, buom yn penodi cynrychiolwyr o bob esgobaeth i ffurfio uwch-gomisiwn. Pan ddigwyddai hynny, byddai’n cymryd amser eithaf hir i’r comisiwn adrodd, ac wedi hynny fe ddeuai’r gweddill ohonom o hyd i hanner cant o resymau da paham na allem weithredu ei argymhellion. Felly, penderfynasom wneud pethau’n wahanol y tro hwn. Yr ydym wedi gofyn i bobl nad oes ganddynt ddim i’w ennill na’r un gyllell i’w hogi i edrych ar ein bywyd a’n strwythurau. Rhaid peidio ag ystyried y bydd y grŵp hwn mewn unrhyw fodd yn torri ar draws y prosesau sydd eisoes ar y gweill; yn hytrach, bydd yn eu cynorthwyo. Bydd ganddo ryddid i siarad â phwy bynnag a fyn a holi pwy bynnag a fyn a bydd hefyd yn dod i’r Corff Llywodraethol hwn i wrando ar beth sydd gennym ni i’w ddweud ac i edrych i mewn i’r hyn yr ydym wedi’i ddweud eisoes. Bydd crynodeb o waith y Corff Llywodraethol hyd yma yn un o’r dogfennau allweddol a roddir i’r Grŵp.

Bydd y Grŵp Arolygu’n cynnwys yr Arglwydd Richard Harries, a fu’n Esgob Rhydychen am bedair blynedd ar bymtheg, ac sydd, felly, â hir brofiad o strwythurau eglwysig ac yn adnabod yr Eglwys yng Nghymru am fod ganddo gartref yma; yr Athro Charles Handy, Gwyddel, a wnaeth lawer o waith gydag eglwysi a sefydliadau eraill ar reoli sefydliadau a newid strwythurau, un a fu am flynyddoedd lawer yn athro yn Ysgol Fusnes Llundain ac awdur sawl llyfr, yn cynnwys Understanding Organisations, Gods of Management a The Making of Managers; ac un aelod arall nas enwyd eto.

Rhagwelir y bydd y Grŵp yn gofyn cwestiynau sylfaenol ynglyn â bywyd yr Eglwys yng Nghymru ac yn gwneud argymhellion penodol. Yn arbennig, bydd yn ystyried:

  • a yw’r adnoddau sydd ar gael i’r Eglwys yng Nghymru’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn fedrus i alluogi’r eglwys i genhadu
  • a yw trefniadaeth yr Eglwys yng Nghymru yn ei galluogi i roi sylw effeithiol i genedl y Cymry
  • a ddylid addasu’r drefniadaeth i alluogi’r eglwys i fyw yn llawnach batrwm o fywyd eglwysig sy’n yn ddiwinyddol ac yn genhadol gyson ac sy’n gynaliadwy yn yr hir dymor.

Mewn geiriau eraill, a yw’r Eglwys yng Nghymru yn addas i’w phwrpas o sianelu gras Duw  i unigolion, i’n cymunedau ac i’n cenedl?

Gobeithir y bydd y Grŵp yn gweithio’n weddol fuan ac y gall adrodd erbyn y flwyddyn nesaf. Gall y Grŵp hwn fod yn bellgyrhaeddol mewn modd nad oedd yn bosibl i Arolwg Corff y Cynrychiolwyr 2004/5 oherwydd bod cyfyngiadau ar gylch gorchwyl y grŵp hwnnw.

Wrth gomisiynu arolwg o’r fath, bydd yn rhaid i bawb ohonom fod yn barod i gymryd ei gasgliadau o ddifrif ac i fod yn agored i’r posibilrwydd o wneud newidiadau sylweddol i’n strwythurau, ein gweinidogaeth a’n defnydd o’n hadeiladau a’n hadnoddau eraill os ystyrir bod hynny’n fuddiol i’n heglwys yn ei chenhadaeth i bobl a chymunedau Cymru wrth inni baratoi at y degawd nesaf. Credwn, fel Mainc a Phwyllgor Sefydlog, y bydd cyfuno’n dirnadaethau ni â dirnadaethau’r Grŵp hwn yn ein galluogi i fod y math o eglwys y myn Duw inni fod.

Un peth a fydd o gymorth inni wrth inni ymgymryd â’r broses hon, os byddwn yn teimlo dan fygythiad neu dan warchae, fydd gwybod nad yw rhai o’n hanawsterau’n ddim o’u cymharu â’r problemau y mae rhai o’n chwiorydd-eglwysi yn y Cymundeb Anglicanaidd yn eu hwynebu.

Rhaid i lawer ohonynt fyw gyda’r bygythiad beunyddiol o erledigaeth dreisgar.

  • Y mae yn Nhalaith Jerwsalem a’r Dwyrain Canol ansefydlogrwydd ac ansicrwydd mawr. Hysbyswyd Esgob Jerwsalem nad oes ganddo bellach hawliau preswyl yn ei wlad ei hun.
  • Y mae Eglwys Pacistan, eglwys leiafrifol mewn Gwladwriaeth Islamaidd, yn wynebu ing oherwydd deddfau cabledd y wlad ac, yn dilyn llofruddio Llywodraethwr y Punjab a Shahbaz Bhatti, y Gweinidog dros Leiafrifoedd – dau a gefnogai hawl Cristnogion i addoli – gwaethygodd y sefyllfa ac ymddengys bod eithafwyr yn cario’r dydd.
  • Ymosodir ar gymunedau Cristnogol yn Nigeria ac erlidiwyd yr Eglwys Anglicanaidd yn Simbabwe gan y wladwriaeth am nad yw’r wladwriaeth yn cydnabod Esgob newydd Harare a’i bod yn dal i gefnogi’r cyn-esgob ysgeler. O ganlyniad, ni all Anglicaniaid Simbabwe yn aml addoli yn eu heglwysi ac fe’u rhwystrir rhag gwneud hynny gan lywodraeth Mugabe.
  • Yn Ne Swdan, lle y penderfynodd refferendwm rannu’r wlad yn ddwy, wyneba’r eglwys yr her o gynorthwyo yn y broses honno tra’n cynnal tystiolaeth unedig i’r wlad gyfan.
  • Y mae Eglwys Corea hefyd yn wynebu’r anhawster o dystiolaethu’n unedig mewn dwy wladwriaeth elyniaethus i’w gilydd.

Dyna anawsterau beunyddiol ein chwiorydd-eglwysi, heb sôn am y difrod dychrynllyd a achosodd y ddaeargryn yn Seland Newydd, nac am anawsterau’r eglwys yn Siapan wrth iddi weinidogaethu i bobl yn sgil y tswnami. Dylai’r pethau hyn beri inni weld pethau fel y maent, a gweld yr angen i sefyll, fel yr atgoffodd Archesgob Caergaint ni, “mewn gweddi ac undod pan wyneba ein Cymundeb ymosodiadau ar yr Efengyl a’i thystiolaeth ar y naill law a dioddefaint ddynol a cholled ar y llaw arall”.

Yn ddiweddar, lawnsiodd yr Archesgob y Cynghrair Anglicanaidd Byd-eang i ddatblygu’r gwledydd mwyaf bregus yn ein Cymundeb, ysgafnhau eu baich a dadlau drostynt, ac i gynnal eglwysi lleol yn eu cenhadaeth a’u cynorthwyo i barhau’n bartneriaid mewn mudiadau sy’n perthyn a heb fod yn perthyn i’r llywodraeth, oherwydd, fel y dywed yr Archesgob, “ni ellir dibynnu ar yr eglwysi eu hunain i fod yn asiantau at newid”. Fe roddir y casgliad a wneir yn y Corff Llywodraethol hwn at y Cynghrair Anglicanaidd. Fe hoffwn yn awr sôn am gyfarfod yr archesgobion yn Nulyn yn gynharach eleni.

Gallaf ddweud yn onest mai hwn, yn fy wyth mlynedd i fel Archesgob, oedd y cyfarfod archesgobion mwyaf tangnefeddus a ffrwythlon y bûm ynddo erioed. Ni fu cyfarfodydd yr archesgobion dros yr wyth mlynedd diwethaf yn achlysuron dymunol, gan i rai archesgobion gadw draw o rai o’r sesiynau, peidio â dod i’r Cymun Bendigaid a pheidio, mewn rhai achosion, â bod yn ddigon cwrtais hyd yn oed i hysbysu’r llety na fyddent yn bresennol am brydau bwyd.

Cyfarfod yw hwn, wrth gwrs, o archesgobion a llywyddion y Cymundeb Anglicanaidd, a gynullir gan Archesgob Caergaint. Yr Archesgob Coggan a alwodd gyntaf am i’r archesgobion gwrdd “i feddwl yn hamddenol, i weddïo ac i ddwys ymgynghori”, a mynegodd Adroddiad Windsor y gobaith y byddai cyfarfod yr archesgobion yn fforwm i gryfhau bywyd y taleithiau ar y cyd.

Yn Nulyn, wynebasom yn onest ein gwahanol swyddogaethau cyfreithiol a chanonaidd fel archesgobion. Y mae gan rai archesgobion lawer iawn o awdurdod o fewn eu taleithiau a disgwylient, felly, i’r Grŵp Archesgobion weithredu’r un awdurdod gyda golwg ar yr eglwys ehangach – yr hyn a alwodd Archesgob Caergaint yn batrwm o archesgob yn ‘gorchymyn a rheoli’. Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o archesgobion fod eu Canonau’n cyfyngu ar eu pwerau. Penderfynasant, felly, y byddai’n anodd iddynt ar y cyd roi pwerau i archesgobion a fyddai’n fwy nag a ganiateid iddynt yn unigol gan eu Canonau taleithiol eu hunain. Ein barn unfrydol oedd nad rhyw fath o oruchel lys gyda phwerau canonaidd i orfodi trefn a disgyblaeth mohonom, ond yn hytrach gorff y mae a wnelo â diogelwch ac undod ac adeiladu perthynas o ymddiriedaeth.

Cred rhai pobl i hyn oll gael ei gyflawni am fod rhai archesgobion yn absennol. Mae’n wir bod saith neu wyth o archesgobion wedi cadw draw’n fwriadol o’r cyfarfod, a bod saith arall wedi methu dod oherwydd problemau penodol yn eu taleithiau. Rhaid cydnabod y gallai’r grŵp cyntaf fod wedi bod yn lleisiau croes pe baent yn bresennol ond rwy’n credu ei bod yn arwyddocaol bod y gweddill ohonom yn teimlo mai ein ffordd ni oedd y ffordd iawn. Teimlai rhai ohonom hefyd i’r rhai hynny a gadwodd draw o fwriad amddifadu eu talaith o lais yn y trafodaethau. Nid eu cynrychioli eu hunain yn unig y bydd archesgobion, ond eu taleithiau hefyd, ac y mae’n ddyletswydd arnynt fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn.

Ni allaf wneud yn well na dyfynnu’r hyn a ddywedodd yr archesgobion amdanynt eu hunain:

“Y mae’r archesgobion:

  • yn dod â realiti, disgwyliadau a gobeithion y mannau lle y maent yn byw, ac felly’n cynrychioli’r lleol mewn cyd-destun byd-eang
  • yn dysgu am realiti, disgwyliadau a gobeithion mannau eraill, ac
  • yn mynd adref i gynrychioli’r cyd-destun byd-eang yn lleol.

Gyda’i gilydd, y mae’r archesgobion:

  • yn arwain a chynnal bywyd y Cymundeb wrth iddo fyw’r Pum Nod Cenhadu
  • yn ceisio parhad a chydlyniad mewn ffydd, trefn a moeseg
  • yn ganolbwynt undod
  • yn rhoi sylw i faterion o bwys ym mywyd y Cymundeb
  • yn rhoi arweiniad i’r Cymundeb
  • yn rhoi sylw i faterion o bwys byd-eang
  • yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol yn y sefyllfaoedd hyn.

Yr ydym yn ceisio cyflawni ein gwaith trwy:

  •  weddïo
  • cymdeithasu â’n gilydd
  • astudio a myfyrio
  • gofalu am ein gilydd fel archesgobion a chynnal ein gilydd.
  • ymgynghori â’n gilydd ac ag Archesgob Caergaint
  • adeiladu ein perthynas mewn cyfarfodydd cyson
  • bod yn ysbrydol effro
  • bod yn golegol
  • bod yn ymgynghorol
  • cydnabod amrywiaeth a rhoi lle i wahaniaeth
  • bod yn agored i’r Ysbryd proffwydol
  • ymarfer awdurdod ar sail adeiladu consensws a chyd-ddirnadaeth a fydd yn arwain at ddoethineb darbwyllol.

Ymrwymiad

Yn ein bywyd cyffredin yng Nghrist yr ydym yn angerddol ymroddedig i gyd-deithio dan ymddiddan yn onest â’n gilydd. Mewn ffydd, gobaith a chariad ceisiwn adeiladu ein Cymundeb a hyrwyddo teyrnas Dduw”.

Os gallwn ni, archesgobion, fyw’r egwyddorion hyn, byddwn wedi byw i’n galwad ac wedi cynorthwyo’r Cymundeb i osod patrwm o geisio byw gwerthoedd yr Efengyl trwy garu a gwasanaethu byd Duw.

Rhoddwyd crynodeb o’r Pum Nod Cenhadu yn adroddiad Missio 1999 a’u hail-ddatgan yn y Cyfamod Anglicanaidd. Y pump yw:
Cyhoeddi Newyddion Da’r Deyrnas
Dysgu, bedyddio a meithrin credinwyr newydd
Ymateb i anghenion dynol mewn gwasanaeth cariadus
Ceisio trawsnewid strwythurau anghyfiawn cymdeithas
Ymdrechu i ddiogelu cyfanrwydd y greadigaeth a chynnal ac adnewyddu bywyd y ddaear