Anerchiad y Llywydd y Corff Llywodraethol Ebrill 2010

Yr oedd 1996 yn Esgobaeth Bangor yn flwyddyn o ddathlu. Cynhaliwyd pob math o ddigwyddiadau yn cyrraedd uchafbwynt mewn diwrnod o ddathlu a Chymun o Ddiolch. Pam? Am fod yr esgobaeth yn fil a phedwar cant a phum deg oed. Fe all eich bod yn meddwl bod mil a phedwar cant a phum deg yn ben-blwydd rhyfedd i’w ddathlu. Pam y gwnaethom ni hynny? Yn rhannol, am i’r Dr Enid Pierce Roberts ddweud y dylem, a phan fydd y Dr Enid yn dweud wrthych am wneud rhywbeth, mae’n rhaid ufuddhau. Ni, meddai hi, yw’r esgobaeth diriogaethol hynaf ym Mhrydain. Hefyd, wrth gwrs, roeddem ni’n sylweddoli na fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn dal yma i ddathlu pen-blwydd yr esgobaeth yn fil a phumcanmlwydd oed. Er bod pawb ohonom sydd yma heddiw yn gobeithio y byddwn yn dal yn fyw ymhen deng mlynedd i ddathlu canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru fel talaith annibynnol, mae ein pen-blwydd eleni yn naw deg oed yn gyfle priodol i fwrw cipolwg ar ein gorffennol ac, yn bwysicach, i feddwl am y dyfodol.

Fe ddylai hanes ein datgysylltu roi gobaith inni. Pam? Am iddo gael ei wthio arnom, ac un o’i amcanion oedd gwanychu dylanwad yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Yn ein dyddiau ni fe all fod datgysylltu yn beth i’w ddymuno, ond yn y cyfnod hwnnw ystyrid ef yn dipyn o ergyd, ac fe ymladdodd pob clerig blaenllaw yn ffyrnig yn ei erbyn gan ddadlau y byddai’n dinistrio Anglicaniaeth yng Nghymru. A beth a ddigwyddodd? Wedi inni ddod dros y sioc fe aethom ymlaen â’r gwaith a ymddiriedwyd i bob eglwys ym mhob gwlad, sef parhau i addoli Duw a gwasanaethu anghenion y cymunedau. Fe ddisbyddwyd ein hasedion, do, ond nid ein morâl a chyda penderfyniad nodweddiadol ohonynt fe gododd pobl Cymru arian ar ddau achlysur i sicrhau parhad gweinidogaeth clerigion plwyf a wnaeth, yn groes i’r farn wleidyddol gyffredin ar y pryd, gymaint dros weithwyr cyffredin y wlad. Fe sicrhaodd y gwaith plwyfol beunyddiol a wnaed yn dawel ac yn ddygn a thrwy ras Duw fod bywyd ysbrydol ein cenedl yn cael ei faethu a’i feithrin ym mhob cymuned, a allai hi ei fforddio neu beidio. Ni wnaeth y datgysylltu inni feddwl na ddylem ofalu am neb ond ein haelodau ni.
Dros y blynyddoedd fe fagodd yr Eglwys yng Nghymru synnwyr newydd o safle cenedlaethol. Bu’n gymorth i iacháu yn dilyn trychinebau megis Aberfan; bu’n gweithio trwy ei litwrgi i gadw’r iaith Gymraeg; bu’n gwarchod cydwybod y genedl mewn sefyllfaoedd megis streic y glowyr yn yr wyth-degau. Ond ni chollasom erioed olwg ar y ffaith ein bod yn rhan o ddarlun ehangach a chyda balchder ac aberth y gwelsom ddyrchafu fy rhagflaenydd i gadair Awstin saith mlynedd yn ôl.

Mewn gair, ddigwyddodd y drychineb a’r argyfwng a fygythiwyd ddim. Yng ngeiriau’r canwr gwerin Dafydd Iwan, “Rym ni yma o hyd”. Dros y 90 mlynedd ddiwethaf daeth yr Eglwys yng Nghymru i fod yn eglwys a thalaith neilltuol, yn gallu gwasanaethu pobl Cymru’n well ac uniaethu’n well â chenedl y Cymry, ond yn perthyn o hyd i gymundeb byd-eang. Gyda phrofiad o’r fath gallwn gynorthwyo ein cenedl i beidio ag ofni datganoli a’r bendithion a all ddod yn ei sgil oddi mewn i fframwaith y Deyrnas Unedig. Mae’r llyfryn a gynhyrchodd yr Eglwys yng Nghymru ac a roddwyd i bob aelod o’r Corff Llywodraethol y llynedd yn dangos pa mor fawr yw ein presenoldeb ym mywyd y genedl. Mae gennym dros 1400 o addoldai, 29% ohonynt wedi’u rhestru’n Radd I a dwy filiwn o bobl yn ymweld â hwy bob blwyddyn. Y mae ein cymunedau’n gwneud defnydd mawr o’n 350 neuadd eglwys – 15,000 o sesiynau bob wythnos a 30% o’r rheini’n sesiynau pobl ifainc. Yr ydym yn cyflogi 160 o staff i redeg prosiectau Cyfrifoldeb Cymdeithasol a gynorthwyir gan 3,000 o wirfoddolwyr, ac yn buddsoddi £2.5 miliwn yn y prosiectau hynny a fu’n gymorth i fwy nag 8,000 o bobl. Y mae a wnelom â phrosiectau tai fforddiadwy a digartrefedd, ac yr ydym yn gyfrifol am 165 o ysgolion eglwys na chyfyngir mohonynt i eglwyswyr ond sy’n agored i bob enwad a chrefydd.  Y mae gennym gaplaniaid mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach, carchardai, ysbytai ac ysgolion, ac yr ydym yn gweithio gyda’r Sector Gyhoeddus, y Sector Breifat a’r Sector Wirfoddol i hyrwyddo ffyniant pobl Cymru.

Mewn gair, yr hyn a ddarganfu’r Eglwys yng Nghymru o’i datgysylltu oedd nad yn y gorffennol y mae popeth da a gogoneddus. Fe yr atgoffodd Jeremeia bobl Israel yn y gaethglud ym Mabilon, a oedd yn edrych yn ôl yn hiraethus at yr exodus o’r Aifft, “nid mor fawr oedd ein Duw a’n harweiniodd ni o’r Aifft ond mor fawr yw ein Duw sydd yn awr yn ein harwain o’r gaethglud”. A dyna’n union a wnaeth Duw. Ar ôl 1920 fe ddeallodd yr Eglwys yng Nghymru y wers honno.

Felly, wrth inni wynebau ein hanawsterau gyda llai o fynychwyr, llai o glerigion a phrinder ymgeiswyr am urddau, rhaid inni gofio bod y Duw yr ydym yn credu ynddo yn gwneud popeth yn newydd ac yn ein harwain i’r gwirionedd dim ond inni ein hymddiried ein hunain i’w ragluniaeth.

Nawr, does arna i ddim eisiau bod fel y Prif Weinidog hwnnw pan ddywedodd rhywun wrtho ei fod yn wynebu argyfwng a atebodd “argyfwng, pa argyfwng?” ond rwyf am eich atgoffa o eiriau Timothy Radcliffe, y pregethwr o Urdd y Dominiciaid, a ddywedodd am y Swper Olaf i’r “eglwys gael ei geni ar amser o argyfwng oherwydd hyd at y Swper Olaf cawsai’r disgyblion eu cynnal gan ryw fath o amlinelliad o’r hyn a fyddai’n digwydd – y gobaith y disodlid y Rhufeiniaid, yr adferid Israel ac y coronid Iesu’n Feseia. Ond ar ddydd Iau Cablyd dyma Jwdas yn ei fradychu, roedd Pedr ar fin ei wadu ac fe ddihangodd y lleill a’i adael i wynebu ei brofi a’i groeshoelio ar ei ben ei hun. Ar yr union funud pan oedd pethau’n disgyn yn ddarnau, cymerodd Iesu fara a gwin a dweud mai ei gorff a’i waed oeddynt. Fe’i rhoddodd Iesu ei hun i’w ddisgyblion ar amser pan ddaeth hi’n amlwg fod y dyfodol yn dywyll a bod popeth ar fin chwalu. Ac felly,” meddai Radcliffe, “y Swper Olaf yw stori sylfaenol y ffydd Gristnogol, yr un y cawn ynddi ystyr ein bywydau. Ac eto stori ydyw am funud pan nad oedd stori i’w dweud, munud pan ddiflannodd y dyfodol. Ein stori sylfaen ni yw stori dinistrio’r stori  ac mae’r gymuned yn edrych yn ôl at ei chwalu”.

Ac yna, wrth gwrs, fe gyfodwyd Iesu o blith y meirw a dechreuodd y disgyblion obeithio’n awr nid y byddai Iesu’n gorchfygu’r Ymerodraeth Rufeinig – roedd yr amser i hynny drosodd – ond y byddai’n dychwelyd drachefn i’r ddaear ac yn arwain i mewn ddiwedd y byd. Ond fe aeth amser yn ei flaen a ddaeth Iesu ddim ac unwaith eto fe chwalwyd byd yr eglwys fore. Am na ddychwelodd Iesu, fe sylweddolodd, os oedd pobl i gredu, fod yn rhaid cael rhyw adroddiad ysgrifenedig o stori ei sylfaenu, a dyna pam yr ysgrifennwyd yr Efengylau. Ar yr argyfwng cyntaf rhodd Crist i’r eglwys oedd y Cymun; ar yr ail argyfwng, yr Efengylau.
Ac felly, meddai Radcliffe, “ddylem ni ddim ofni argyfwng. Fe anwyd yr eglwys mewn argyfwng gobaith. Argyfyngau yw ein harbenigedd. Maen nhw’n ein hadnewyddu”.

Ac mae’r eglwys wedi wynebu llawer argyfwng.  Yng Nghymru, yn oes y seintiau, roedd rhyw ychydig o fynachod yn crwydro o gwmpas yn ceisio pregethu’r Efengyl. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd fe chwalwyd byd Cristnogol yr oesoedd canol, ond llwyddodd yr eglwys i oroesi mewn gwedd newydd trwy’r Diwygiad, y Gwrth-Ddiwygiad a setliad Elisabeth. Beth bynnag ein problemau ar hyn o bryd, rhai bychain ydynt o’u cymharu â’r rhai a wynebasom o’r blaen a phan fyddwn ni weithiau’n meddwl bod “pethau’n syrthio’n dipiau, na all y canol ddal” rhaid inni ein hatgoffa ein hunain o’r modd yr achubwyd ni a sut y mae Duw yn ein sicrhau o’i bresenoldeb ac yn rhoi inni arwyddion o’i ras pan fyddwn ar ein gwannaf. Beth bynnag ein hanawsterau yn yr Eglwys yng Nghymru, nid ydynt yn ddim i’w cymharu â’r chwalu gobeithion am ddyfodiad ei Deyrnas pan fu farw Iesu, nac â’r chwalu gobeithion y byddai’n dychwelyd yn ddi-oed. Ac y mae Eglwys Dduw yma o hyd.

Ond peidiwn ag ymorchestu yn hynny ychwaith, na meddwl bod gennym fel eglwys rhyw allu cynhenid i oroesi. Nid dyna ystyr stori Iesu. Yr ydym yn ddisgyblion i un a gymerodd, mewn gwendid a breuder, fara a gwin a’u rhannu yn nannedd angau. Fe ddangosodd ei fod yn meiddio ymddiried yn y dyfodol heb wybod beth y gallai’r dyfodol fod; neu gan wybod, efallai, mai marw fyddai ei ran, fe ymddiriedodd yng ngallu Duw i orchfygu mewn ffyrdd annisgwyl. Yr ydym yn ceisio dilyn Iesu am ein bod yn gwybod mai dyma sy’n gwneud synnwyr o’n bywydau ac o’n byd ac y bydd yn dal i wneud synnwyr beth bynnag a ddigwydd. Ein cred yw bod Duw yno beth bynnag y mae’n rhaid inni ei wynebu.

Ac felly wynebwn y dyfodol mewn ffydd a hyder, yn benderfynol o achub ar bob cyfle a rydd i wasanaethu Duw yn well fel eglwys ac fel partner allweddol mewn cenedl ddatganoledig, hyderus a bywiog. Fe ellid dadlau na chawsom erioed fwy o gyfleoedd i wneud gwahaniaeth. Mae gennym lawer i’w gynnig i genedl gynyddol ddatganoledig, gyda’n  90 mlynedd o brofiad o “wneud pethau ein hunain” a “dechrau o’r dechrau”. Mae gennym o hyd bresenoldeb ym mhob cymuned yng Nghymru ac yr ydym yn byw ar yr un pryd mewn pentref aml-gyfryngol byd-eang.  Chawsom ni erioed y fath gyfle i ddangos ein ffydd yn Nuw a sut y gall ein hegwyddorion Cristnogol o gariad a pharch at ein gilydd drawsffurfio nid yn unig unigolion ond ein cymunedau a’n cenedl hefyd.

Wrth inni ddod allan o gyfnod anochel o addasu y mae gennym gyfle i lunio rôl newydd i ni ein hunain yn ein cymdeithas gyfnewidiol – i fod yn rhan ohoni yn lle sefyll y tu allan iddi. Mae gennym gyfle i ddangos nad grym pell yn rheoli a barnu yw Cristnogaeth, fel y gwelid hi mewn cenedlaethau a fu, ond ei bod yn rhannu gwerthoedd ein hoes – cariad a goddefgarwch a derbyniad – a bod ganddi neges sy’n fwy perthnasol nag erioed. Yr ydym yn eglwys sy’n credu bod Duw yn rhoi gwerth ar bawb, waeth beth eu rhyw na’u hil na’u tueddiad rhywiol. Mae gennym gyfle i ddangos nad ystyr bywyd yw faint o arian a enillwn neu o arholiadau a basiwn, ond pwy ydym a sut y byddwn yn trin pobl o’n cwmpas – sut y gallwn ddod yn bobl mwy cyflawn, yn rhieni mwy deallgar, yn gymdogion mwy gwasanaethgar, yn gymunedau mwy gofalus, yn gymdeithasau mwy allblyg. Mae gennym gyfle i ddangos sut yr ydym oll yn gyfrifol am blaned Duw a bod ar flaen y gad i’w hamddiffyn. Mae gennym gyfle i ddangos i bobl sut i arafu, camu oddi ar y felin draed a dod o hyd i ofod yn eu bywydau prysur i feithrin eu bywydau mewnol.

Yr ydym yn gwthio drws agored oherwydd y mae gan pobl yr oes hon fwy o amser nag erioed i gwestiynu eu bywyd a’u gwerthoedd ac y maent yn chwilio am gymorth ac arweiniad. Mae’n ddiddorol bod arolygon diweddar yn dangos bod bodlonrwydd mewn swydd, gwneud rhywbeth gwerth chweil, cynorthwyo eraill, yn gryfach cymhellion ac yn rhoi mwy o foddhad na gwneud llawer o arian.

Ffieddiwyd y rhan fwyaf o bobl gan sgandal treuliau aelodau Tŷ’r Cyffredin a bonws bancwyr. Ac mae’n ddiddorol yn hyn oll sut y mae byd busnes yn troi fwyfwy at iaith ysbrydol, grefyddol hyd yn oed. Sonia am weledigaeth ac am gynlluniau cenhadu. Ystyr lythrennol y gair “cwmni” yw lle y mae pobl yn rhannu bara â’i gilydd. Bydd busnesau da yn rhoi gwerth ar bobl ac yn gofalu amdanynt, ac nid yn eu trin fel olwynion mewn peiriant. Dyna hefyd galon yr Efengyl. Ac mae pobl yn barotach i’w derbyn nag a feddyliwn. Fe all fod llai yn dod i’r eglwys ond dywed y rhan fwyaf o bobl eu bod yn credu yn Nuw ac yn gweddïo arno. Fel y dywed un awdur, “pan fo eglwysi yn ddigon dewr i ymdrin â chwestiynau megis ystyr bodolaeth, nid troi pobl ymaith y maent ond eu denu i mewn”.

Sut felly y gallwn wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn? Fel y dywedais, y mae a wnelom mewn cynifer o ffyrdd ag ysgolion, prosiectau cymunedol, arweinwyr llywodraeth a chynlluniau megis Masnach Deg. Ond y mae cymaint yn ychwaneg y gallem ei wneud.

1. Gallem wneud mwy mewn bywyd cyhoeddus. Y mae gennym o hyd nifer fawr iawn o staff taledig – ein clerigion. Y maent yn bobl amlwg yn ein cymunedau. Mewn rhai cymunedau hwy yw’r unig bobl broffesiynol sydd ar ôl. Y maent yno i ddangos a phleidio pryderon moesol ac i adeiladu Corff Crist. Rhaid inni annog clerigion i gynllunio’n anturus a rhaid inni sicrhau yr hyfforddir hwy i wneud hynny mewn ffyrdd a fydd yn cysylltu â’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi.

2. Fe ddylem dderbyn pawb, yn ddiamod. Yn gyntaf, am mai dyna y dysgodd Crist ni i’w wneud ac, yn ail, am fod dadlau diddiwedd am, er enghraifft, le merched neu hoywon, yn effeithio ar ein cenhadaeth. Sut y gallwn ddisgwyl denu pobl atom os nad ydynt yn teimlo eu bod yn dderbyniol? A sut y gall neb ein cymryd o ddifrif pan y mae’r rhan fwyaf o’r wlad wedi symud ymlaen ar y materion hyn ac yn ein gweld ni yn dal i anghytuno ymhlith ein gilydd?

3. Rhaid inni wneud gwell defnydd o’n hadeiladau eglwysig. Yr ydym yn geidwaid treftadaeth ragorol y mae’n iawn inni ei dathlu, ond ni ddylem gadw ein heglwysi at ein defnydd ni ein hunain – dylent fod yn hyblyg i wasanaethu ein cymunedau.

4. Rhaid inni hefyd ddod i benderfyniad buan ar rai o’r materion mewnol y buom yn eu trafod ers degawdau, er enghraifft esgobaeth archesgobol, ffiniau esgobaethau, sut i ail-drefnu ein heglwys a sut i symleiddio’r Cyfansoddiad. Materion bychain iawn ydynt o’u cymharu â’r cwestiynau mawr y mae ein heglwys a’n cenedl yn eu hwynebu. Rhaid inni beidio â gadael iddynt lyncu egni mewnblyg am flynyddoedd i ddod. Yn rhy aml byddwn yn cymryd camre cychwynnol eofn at ddiwygio ac yna’n cael braw ac yn rhedeg i guddio. Yr oeddem yn un o’r taleithiau Anglicanaidd cyntaf i ordeinio merched yn ddiaconiaid yn 1980, ond dim ond yn 1997 y dechreuasom eu hordeinio’n offeiriaid. Ac nid ydym byth wedi cymryd y cam rhesymegol nesaf o’i gwneud hi o leiaf yn bosibl ordeinio merch yn esgob. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ordeinio merched yn ddiaconiaid ac yn offeiriaid heb hefyd ei gwneud hi’n bosibl eu hordeinio’n esgobion. Felly hefyd gyda golwg ar aildrefnu gweinyddol – mae ein ceidwadaeth gynhenid a’n hunan-fanteision yn ein rhwystro rhag dod o hyd i atebion.

5. Yn olaf, yn y byd gorffwyll sydd ohoni, a ninnau weithiau’n teimlo nad oes gennym mo’r adnoddau y mae arnom eu hangen i wneud y gwaith yn iawn, rhaid inni roi mwy o amser i Dduw, i wrando a gweddïo. Mae’n esiampl bwysig i’w gosod. Rhaid inni gymeradwyo’r ffydd sydd ynom a chofio mai pobl o ffydd sy’n denu pobl at ffydd. Denir y rhan fwyaf o bobl i fywyd yr eglwys gan deuluoedd neu gyfeillion. Y mae gan bob un ohonom felly ran i’w chwarae ac y mae’r rheol buchedd a fabwysiadwyd gennym rai blynyddoedd yn ôl mor berthnasol yn awr ag erioed. Fel y dywedodd rhywun, “mae ffordd o fyw’n bwysicach na dogma yn yr unfed ganrif ar hugain”.

Ein sialensiau ni yw’r sialensiau y mae Cymru’n eu hwynebu – tlodi, digalondid, dibyniaeth ar gyffuriau, unigrwydd, diffyg uchelgais, diffyg hunan-werth. Mae gennym gyfle i ddangos bod dulliau eraill o fynd i’r afael â’r problemau hyn – dulliau gwir effeithiol yn hytrach na phecynnau dros dro o dabledi a gwaith papur a grantiau annigonol. Y mae gennym Efengyl i’w chyhoeddi ac y mae gennym weledigaeth y gall Cymru ddyheu amdani – un sy’n hunanymwybodol, yn hunanhyderus ac wedi’i sylfaenu ar ffydd. Y mae ein stori ni yn cychwyn yma. Gadewch inni felly achub ar y cyfle sydd gennym i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud dros y deng mlynedd nesaf wrth inni nesáu at ein canmlwyddiant.