Anerchiad y Llywydd y Corff Llywodraethol Ebrill 2009

Dynodwyd 2009 yn flwyddyn y plentyn, ac yn y Corff Llywodraethol hwn fe glywn lawer ar y thema hon.

Gadewch imi, felly, ddechrau gyda geiriau Iesu am blant, gan fod ganddo rai pethau grymus iawn i’w dweud amdanynt. Yn Marc 10:14-15:
“Gadewch i’r plant ddod ataf fi; peidiwch â’u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw’n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi”.

Ac yn yr Efengyl yn ôl Mathew 18:2-5: Galwodd Iesu blentyn ato, a’i osod yn eu canol hwy, a dywedodd,
“Yn wir,’rwy’n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma’r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag sy’n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i”.

I ddeall y dywediadau hyn o’r eiddo Iesu, rhaid gwybod rhywbeth am eu cefndir. Yn nyddiau Iesu doedd dim o’r fath beth â phreifatrwydd. Fe fyddai yna blant ymhobman, a byddai gweinidogaeth awyr agored Iesu yn eu denu gydol yr amser.

Fe allent fod yn niwsans (fel y gwyddom i gyd!) a doedd cymdeithas dyddiau Iesu ddim yn sentimental ynglŷn â hwy. Roedd hi’n ystyried plant yn nhermau eu posibiliadau. Roedd plant yn fendith nid am yr hyn oeddent ond am yr hyn y gallent fod. Gydag amynedd fe allent dyfu i fod yn y diwedd yn bethau gwerth eu cael – yswiriant at henaint eu rhieni, rhywun i ofalu amdanynt yn y dyfodol.

Ni wnaeth yr un o athrawon yr hen fyd yr hyn a wnaeth Iesu, sef defnyddio plant yn esiamplau o’r hyn y dylai oedolion fod.

Ni fynnodd neb, fel y mynnodd Iesu, fod plant yn haeddu cymaint o leiaf o barch â neb arall, a hynny nid am eu bod yn asedion gwerthfawr at y dyfodol ond am bod yna rywbeth mewn plentyn sy’n nes at deyrnas Dduw na holl ddoethineb ac aeddfedrwydd honedig oedolion.

Ni ddywedodd beth oedd y nodweddion hyn, a rhaid inni beidio â phriodoli iddo syniadau modern am ddiniweidrwydd, naturioldeb a ffresni plant. Ond fe wyddom oddi wrth ei ddysgeidiaeth pa nodweddion cymeriad y gosodai Iesu werth arnynt. “Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, y rhai addfwyn, y rhai sy’n sychedu am gyfiawnder, y rhai trugarog, y rhai pur o galon, y tangnefeddwyr.”

A allwn ni, oedolion, ddweud ein bod yn debycach o fod felly na phlant?

Gallwn ddweud, felly, fod Iesu’n credu nad asedion at y dyfodol oedd plant ac nad rhywbeth i’w wneud er budd cymdeithas oedd gofalu amdanynt. Roedden nhw o werth tragwyddol fel plant. Roedden nhw’n haeddu cymaint o barch a gofal ag unrhyw fod dynol arall. Y mae ganddynt nodweddion a all ddod â hwy yn nes nag oedolion at deyrnas nefoedd. Y mae i blant werth diymwad nad oes a wnelo ddim â’u defnyddioldeb i ni. Rhaid gweld popeth arall a ddywedaf yn fy anerchiad heddiw ar y cefndir hwn.

Mae’r dirwasgiad bydeang wedi taro’n galed yng Nghymru. Gall effaith gymdeithasol diweithdra fod yn frawychus. Y rhai mewn mwyaf o berygl fydd yn dioddef fwyaf. Eisoes y mae mewn rhai ardaloedd 30% o segurdod economaidd, a hynny’n cynhyrchu diweithdra. Wrth i’r dirwasgiad ddyfnhau, mae cyfarfodydd argyfwng ariannol yn amlach yng nghartrefi pobl nag mewn ystafelloedd bwrdd, ond y mae’r argyfwng yn costio i bawb ohonom, nid yn unig i’r teuluoedd hynny yr effeithir arnynt fwyaf. Mae’n hysbys fod plant sy’n tyfu i fyny mewn tlodi yn debycach o fod yn afiach, o fod ag anawsterau dysgu ac ymddwyn, o dangyflawni yn yr ysgol, o feichiogi’n rhy gynnar, o fod â sgiliau a dyheadau isel, o fod ar gyflog bach neu’n ddibynnol ar fudd-daliadau. Gesyd ymchwil diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree gost effaith tlodi ymhlith plant ar £25 biliwn y flwyddyn, neu fwy na £1000 y cartref.

Y mae achub plant rhag tlodi yn fater, felly, nid yn unig o foesoldeb a chyfiawnder na hyd yn oed o ddewis. Y mae hefyd yn rheidrwydd economaidd. Yng Nghymru, yn ôl y Cynulliad Cenedlaethol, y mae 29% o blant yn byw mewn tlodi cymharol, sef mewn teuluoedd sy’n derbyn llai na 60% o’r cyfartaledd incwm. Tlodi cymharol yw’r math mwyaf difaol o dlodi am ei fod yn gwahardd i bobl y lefel isaf dderbyniol o fyw yn y wlad lle y maent yn preswylio, a phan fo tlodi cymharol yn uchel y mae’r gymdeithas yn anghydradd iawn.

Yn arolwg UNICEF yn 2007 o wledydd cyfoethog, nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith mai’r ddwy wlad gyda’r lefelau uchaf o dlodi cymharol ymhlith plant, sef Unol Daleithiau’r America a’r Deyrnas Gyfunol, oedd y ddwy wlad isaf ar y tabl ffyniant plant. Gwnaeth Hwngari a’r Weriniaeth Tsiecaidd yn llawer gwell yn yr arolwg, er eu bod yn dlotach gwledydd. Nid bod yn dlawd ynddo’i hun yw’r drwg, ond yr anghydraddoldeb a’r cau allan sy’n deillio o dlodi cymharol. Mae’n fraw bod 22% o blant y Deyrnas Gyfunol yn byw mewn tlodi cymharol.

Fe’n poenir yn gyson ag ystadegau arswydus ar ffyniant plant yn y Deyrnas Gyfunol. Y mae o leiaf 300 o blant yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i drais ac esgeulustod yn eu cartrefi. Ers achos ‘Baby P’ cododd nifer y plant a gymerir i ofal yr awdurdodau i 630 y mis – cynnydd o 60%. Hyd yn oed ym mis Mawrth 2007 yr oedd 60,000 o blant yr ‘edrychid ar eu hôl’. Bydd y rhain yn ystadegau cyfarwydd i lawer ohonoch.

Fy nghwestiwn i yw hyn: beth y mae’n ei olygu i’n honiad ni ein bod yn gymdeithas wâr bod o leiaf 7,560 o rieni bob blwyddyn yn berygl i’w plant a bod o leiaf 200,000 o blant ar y rhestr perygl? Wrth gwrs bod y rheoliadau newydd cymhleth yn effeithio ar y modd y mae arbenigwyr yn ymateb a bod cwestiynau ynglŷn â’r gwahanol hyfforddiant a phrosesau oddi mewn i’r gwasanaethau cymdeithasol – a feirniedir pa un bynnag a ydynt yn ymyrryd ai peidio. Ond fe erys y cwestiwn canolog – pam na all cynifer o bobl fod yn rhieni i blentyn gwerthfawr a bregus heb ei esgeuluso neu ei gam-drin?

Fwy na chanrif yn ôl, fe ddywedodd y diwydiannwr a’r ymgyrchwr cymdeithasol Joseph Rowntree mai prif ddrygau cymdeithasol ei oes oedd tlodi, rhyfel, caethwasiaeth, opiwm, anghymedroldeb, amhurdeb a gamblo. Yn 2007 cynhaliodd Sefydliad Rowntree ymgynghoriad i weld beth yr oedd pobl yn eu hystyried yn ddrygau mwyaf ein hoes ni. Y drygau cymdeithasol sy’n poeni pobl fwyaf heddiw yw unigolyddiaeth, trachwant a dirywiad y gymuned. Yr un oedd canlyniadau’r Adroddiad ar Blentyndod Da, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Plant yn gynharach eleni.

Ar gyfer eu Hadroddiad hwy, holodd Cymdeithas y Plant fwy na 10,000 o blant o bob haen a chyflwr mewn cymdeithas – cyfoethog a thlawd; cyflawnwyr uchel a methiannau; dan warchodaeth, mewn gofal ac mewn teuluoedd. Ychwanegwyd at eu hymatebion hwy ymatebion 20,000 o bobl eraill – yn cynnwys arbenigwyr a rhieni. Yna, gwerthuswyd yr holl ymatebion gan banel o arbenigwyr. Daeth ysgrifenwyr yr adroddiad i’r casgliad mai achos gwreiddiol problemau ein plant yw unigolyddiaeth eithafol. Diffinnir unigolyddiaeth eithafol fel y gred mai prif ddyletswydd unigolion yw gwneud y gorau o’u bywyd eu hunain, yn hytrach na chyfrannu at les eraill. Wrth gwrs, mae’n rhaid wrth ryw gymaint o unigolyddiaeth i oroesi. Byddem i gyd yn ystyried bod medru dewis a phenderfynu drosom ein hunain yn angenrheidiol i fywyd da. Ond rhaid cydbwyso hynny â synnwyr priodol o gyfrifoldeb dros eraill a gofal amdanynt.

Dros y degawdau diwethaf fe wanhawyd credoau traddodiadol ac fe lanwyd y gwagle gan unigolyddiaeth eithafol. Dyma’r tanwydd sy’n gyrru materoldeb a thrachwant ac yn ein galluogi ninnau i oddef yr anghydraddoldeb mewn cymdeithas. Hyn hefyd sydd wrth wraidd y dirywiad yn y gymuned ac mewn gwerthoedd moesol. Yn rhy aml, fe ddilynir yr ymchwil am lwyddiant a hapusrwydd personol ar draul eraill. Yn fy marn i, nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith fod y Deyrnas Gyfunol ac Unol Daleithiau’r America, y ddwy wlad lle y gwelir amlycaf, efallai, yr ymchwil am lwyddiant personol, nid yn unig ar waelod tabl ffyniant plant UNICEF, ond mai yn y gwledydd hyn hefyd y dechreuodd argyfwng economaidd ein byd, wedi’i fegino gan drachwant a diffyg rheolaeth yn y sector arian.

Fe wyddom oll mai gwir anghenion plant yw cariad, sefydlogrwydd a hapusrwydd. Mae bywyd yn dechrau yn y teulu, ac o safbwynt plant teulu cariadus yw’r allwedd i gychwyn da. Yn ôl yr Adroddiad ar Blentyndod Da, pan ofynnwyd i blant beth sy’n gwneud bywyd da, yr hyn yr oedd arnynt ei angen yn fwy na dim arall oedd cariad. Os yw plant yn cael eu caru a’u coleddu y maent yn dysgu rhoi cariad ac yn teimlo’n dda ynddynt eu hunain. Heb gariad, y maent yn ei chael hi’n anodd caru na chydymdeimlo ag eraill. Esiampl frawychus o hyn yw Joseph Fritzl, yr oedd ei fam yn ei gasáu ac yn ei guro’n gyson.

Roedd saith o bob deg o’r plant yn eu harddegau a holwyd at yr Adroddiad ar Blentyndod Da yn cytuno â’r gosodiad ‘Mae cytundeb rhwng rhieni yn un o’r prif ffactorau mewn magu plant hapus’. Dim ond tri o bob deg oedolyn oedd yn cytuno, ond y mae’r ystadegau o blaid y plant. Gall rhieni’n cweryla ac yn gwahanu effeithio’n drychinebus ar blant mor ifanc â thair oed, er nad oes effaith o gwbl ar rai plant eraill. O astudio 90 o achosion fe wyddom fod problemau, ar gyfartaledd, gan 50% yn fwy o blant a’u rhieni wedi gwahanu na chan blant a’u rhieni heb wahanu. Mae hyn yn wir yn achos amrediad eang o ganlyniadau – cyflawniad academaidd, hunan-barch, anawsterau ymddwyn, pryder ac iselder. Eto, er gwaetha’r cwbl a wyddom am effaith negyddol hynny ar ein plant, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd bron i hanner y priodasau yng Nghymru a Lloegr heddiw yn dod i ben mewn ysgariad. I barau sy’n cyd-fyw, mae’r siawns o wahanu yn fwy – ac mae mwy a mwy o barau yn dewis peidio â phriodi.

Yr oedd 60% o’r oedolion a holwyd at yr Adroddiad ar Blentyndod Da yn cytuno â’r gosodiad ‘Ni all rhieni heddiw dreulio digon o amser gyda’u plant’, ac oddeutu eu hanner yn cytuno â’r gosodiad ‘Y mae mwy a mwy o rieni y dyddiau hyn yn gorfod rhoi eu gyrfa’n gyntaf, hyd yn oed os yw hynny’n effeithio ar eu bywyd teuluol’. Yn arolwg y Sefydliad Materion Cymreig a gomisiynwyd gan BBC Cymru eleni, gosodai plant bwys mawr ar siarad a bod pobl – rhieni yn arbennig – yn gwrando. Er eu bod yn llwyr ymwybodol o’r angen hwn, dywedai’r rhieni fod bywydau prysur a phwysau gwaith yn eu rhwystro rhag rhoi amser o bwys i’w plant.

Fe wyddom oll beth yw gwir anghenion plant, ond yr ydym yn aml yn gwrthod cydnabod eu bod yn golygu cost bersonol i ni a’n hanghenion a’n dyheadau – peryglu ein gallu i ennill cyflog mawr neu i ddatblygu ein gyrfa, neu orfod ymrwymo i berthynas sy’n llai na delfrydol a gweithio arni. Does gennym ni ddim hawl i blant. Ymddiriedaeth sanctaidd ydynt. Rhaid eu meithrin a gofalu amdanynt.

Gadewch imi egluro nad dweud yr wyf mai yn y cartref y mae lle’r wraig. Nid yw tadau yn ddim llai pwysig na mamau ym mywyd plant. Dengys ymchwil fod plant y mae eu tadau yn ymwneud yn agos â hwy, ac os yw popeth arall yn gyfartal, yn datblygu gwell cyfeillgarwch ac empathi ac uwch hunan-barch, yn fwy bodlon ar fywyd ac yn cyflawni mwy yn addysgol. Y maent hefyd yn llai tebygol o droseddu ac o gamddefnyddio sylweddau. Nid dweud yr wyf ychwaith fod yn rhaid i rieni aros gyda’i gilydd costied a gostio. Lle bo gwrthdaro mawr na ellir ei ddatrys neu bod cam-drin yn y berthynas mae’n amlwg ei bod yn well i’r plentyn os yw’r rhieni’n gwahanu. Dweud yr wyf bod angen newid mawr yn ein ffordd o feddwl. Nid ar chwarae bach y dylid dod yn rhieni. Golyga fod dau berson yn ymrwymo i’w gilydd ac i’w plentyn.

Mae pob perthynas yn mynd trwy gyfnod o straen, a bydd rhai yn methu, ond y mae arnom angen diwylliant lle y bydd rhieni yn ystyried a ydyw o les i’r plant iddynt aros gyda’i gilydd, a chwnsela o safon uchel a gwasanaethau cynnal a fydd wrth law i’w galluogi i wneud hynny. Yn y Deyrnas Gyfunol y mae’r ganran uchaf yn Ewrop o bobl ifainc sy’n byw mewn teuluoedd un-rhiant neu deuluoedd llys-riant.

Adlewyrchiad yw problemau bywyd teuluol o’r anniddigrwydd wrth galon y gymdeithas gyfan. Y mae rhieni a phlant fel ei gilydd yn derbyn negeseuon cyson oddi wrth y gymdeithas a’r cyfryngau fod arnynt angen mwy a mwy o bethau a bod yn rhaid iddynt gystadlu yn erbyn eraill yn y gweithle a’r ysgol i ennill yr holl geriach a ddaw yn sgil cyfoeth. Aberthir gwerthoedd haelioni, cyfiawnder a thegwch o blaid trachwant a hunanoldeb, ac y mae’r rheini yn eu tro yn erydu pob synnwyr o gymuned. Yn ein prysurdeb a’n hymgolli ynom ein hunain, yr ydym wedi colli golwg ar y darlun mawr.

Yr ydym yn amddiffyn ein plant rhag peryglon oddi wrth ddieithriaid a ffyrdd llawn traffig trwy eu cadw gartref lle’r anelir atynt farchnata ymosodol a deiet o ryw a thrais ar y teledu a’r rhyngrwyd ac mewn gemau fideo. Yr ydym o hyd yn chwilio am safon uwch o fyw i ni ac i’n plant, ond nid ydym yn fodlon wynebu’r realiti y gall na bydd dyfodol o gwbl i’n plant a’n hwyrion os methwn addasu ein safon byw a datrys problem cynhesu’r cread.

Y broblem gyda phobl ifainc heddiw yw ni, yr oedolion, a’r gymdeithas a greasom, a does yna ddim atebion hawdd. Mae 10 o blant a’u bryd ar hunanladdiad yn galw Childline bob wythnos ac y mae meddwdod yn fwy o broblem ymhlith plant yn eu harddegau yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol. Yr hyn y mae arnom ei angen yw newid diwylliannol mawr, ond y cyfan yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd yw delio â’r effeithiau, nid â’r achosion. Mi rof enghraifft i chwi. Gennym ni y mae’r raddfa feichiogrwydd uchaf yn Ewrop. Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd y gellid codi’r gwaharddiad ar hysbysebu offer atalgenhedlu. Fe all hynny gynorthwyo’r ystadegau, ond beth y mae’n ei wneud i ddysgu pobl ifainc fod bod yn rhieni yn gyfrifoldeb enfawr sy’n gofyn am gariad a hunan-aberth gan ddau sydd wedi ymrwymo i’w plentyn ac i’w gilydd? Fe ddylem fod yn dysgu, o oedran cynnar, nid yn unig sut i fod yn rhieni, ond hefyd y cysyniadau sylfaenol hyn, yn enwedig i’r rhai hynny nad oes ganddynt unrhyw brofiad uniongyrchol ohonynt – nid dysgu am fecanwaith perthynas rywiol heb unrhyw sôn am gariad a chyfrifoldeb a hunan-barch.

Rwyf am orffen yn y lle y dechreuais. Fe ddaw’r dirwasgiad bydeang â llu o broblemau yn ei sgil ac fe gaiff effaith anghymesur ar y tlawd a’r bregus, yn enwedig ar blant. Ond gobeithio y gall wneud un peth da, sef ein helpu ni i weld y difrod erchyll y gall hunanoldeb a thrachwant rhemp ei wneud i’r gymuned. Dyw’r dirwasgiad ddim yn rhywbeth y gallwn roi’r bai amdano arnyn ‘nhw’ – y bobl ifainc feddw, y mamau dibriod, y llanciau a’u cyllyll, y gangiau gwrth-gymdeithasol, nac unrhyw un arall o’r grwpiau yr ydym yn eu beio am ddrygau cymdeithas. Nyni, Brydain gyffyrddus, yw achos hyn oll. Nid yw’r rhai hynny yr ydym mor barod i’w beio yn ddim ond cynnyrch y gymdeithas a greasom ni.