Anerchiad Y Llywydd Y Corff Llywodraethol, Ebrill 2008

CYMDEITHAS CYMRU A MATERION YN YMWNEUD Â LLYWODRAETHU

Tipyn o gymysgedd fydd yr Anerchiad Llywyddol hwn, oherwydd fy mod i am grybwyll nifer o bethau a ddylai fod o bwys i bob Cristion yng Nghymru. Y cyntaf yw’r ddogfen Cymru’n Un – agenda ddeddfwriaethol Llywodraeth glymblaid trydydd tymor Cynulliad Cymru. Fel y dywed Adroddiad y Fainc, y mae’r Eglwys yng Nghymru, trwy’r esgobion, wedi ymateb i’r ddogfen. Fe wnaethom hynny am ein bod yn credu mewn Duw sy’n Arglwydd bywyd ac yn Greawdwr y bydysawd, nad yw ei ofal wedi ei gyfyngu i faterion crefyddol. Yn wir, mi fedrwn i ddadlau’n gryf, ar sail yr ysgrythurau, fod gan Dduw yn Iesu lawer llai o ddiddordeb mewn crefydd nag sydd ganddo mewn cyfiawnder, gwirionedd, trugaredd, cyfanrwydd a phobl a wthiwyd i ymylon cymdeithas. Dywed yr Efengyl yn ôl Luc i Iesu gychwyn ei weinidogaeth gyhoeddus yn Nasareth â’r geiriau hyn: ” Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio i bregethu’r newydd da i dlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd.” Ac yn hyn oll yr oedd Iesu’n dilyn proffwydi Israel, a fyddai’n pregethu’n aml am ofal Duw am wragedd gweddwon a phlant amddifaid, gan fynnu fod yn well ganddo ef gyfiawnder nag aberth.

Felly, yn eu hymateb, fe aeth yr esgobion i’r afael â materion yn ymwneud â chenedligrwydd, iechyd, ffyniant, addysg, y gymuned, tai, tlodi, diwylliant, yr amgylchedd a llywodraeth – mewn gair, â’r holl faterion hynny sy’n hanfodol i ffyniant cenedl. Ac fe wnaethom hynny am fod yr Efengyl yr ydym yn ei phregethu yn berthnasol i bob agwedd ar fywyd. Os nad ydyw, yna nid ydym yn ei phregethu’n iawn. Y gwir amdani yw fod a wnelo’r Eglwys yng Nghymru â phob agwedd ar fywyd Cymru, ac ym mhob cymuned bron yng Nghymru y mae ganddi adeilad a chynulleidfa sy’n addoli. O ganlyniad, y mae’r esgobion yn trafod gyda Gweinidogion y Cabinet ystod eang o faterion yn ymwneud â bywyd Cymru – iechyd, tai a thlodi, yn ogystal â’r materion hynny, megis addysg, y mae gan yr Eglwys yng Nghymru ddiddordeb uniongyrchol ynddynt. Ac fe garwn i dalu teyrnged i Lywodraeth Cynulliad Cymru am barodrwydd ei Gweinidogion i gyfarfod â ni i drafod y materion hyn. Alla i ddim dychmygu Prif Weinidog a Gweinidog Iechyd unrhyw wlad arall yn rhoi galwad ffôn i’r Esgob lleol i ofyn sut yn union y gallai’r Llywodraeth fod o gymorth gyda golwg ar faterion iechyd meddwl a chefnogaeth i ddioddefwyr, fel y digwyddodd yn Esgobaeth Llandaf yn dilyn marwolaeth drychinebus y Tad Paul Bennett yn Aberdâr.

Y mae Llywodraeth ddatganoledig yn hygyrch, a gall ddelio â materion a ddatganolwyd mewn modd sy’n berthnasol i Gymru. Mewn gair, mae’n rhoi atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Dyna pam yr wyf fi, yn bersonol, yn croesawu sefydlu Confensiwn o dan gadeiryddiaeth fedrus Syr Emyr Jones Parry i archwilio a oes digon o gefnogaeth yng Nghymru i gynnal Refferendwm i’n galluogi i gael pwerau deddfu llawn erbyn 2011. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli fod Deddf Llywodraethu Cymru 2006 eisoes wedi rhoi i Gymru y pwerau hyn – fe’u hysgrifennwyd yn y Ddeddf. Yr unig beth ychwanegol sydd ei angen yw caniatâd pobl Cymru mewn Refferendwm, a chytundeb Llywodraeth y Cynulliad. Roedd hon yn ddeddfwriaeth arloesol. Ni fu erioed o’r blaen ddeddf seneddol yn rhoi pwerau ar gyfer y dyfodol na ellid eu gweithredu heb bleidlais o’u plaid. I raddau helaeth, i gyn-Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, y mae’r diolch am y ddeddf hon.

Yr ydym ni, esgobion, yn rhannu’r uchelgais i drawsnewid Cymru yn genedl hyderus, ffyniannus, iach, lle y mae tegwch i bawb.

Swyddogaeth y Confensiwn fydd: codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o’r trefniadau personol ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru ac o ddarpariaethau’r rhannau hynny o Ddeddf Llywodraethu Cymru a gâi eu gweithredu yn dilyn ennill Refferendwm. Yn ail, hwyluso a hyrwyddo ymgynghoriad eang a thrylwyr ymhlith llawer o bobl ac ar bob lefel yng nghymdeithas Cymru ar fater pwerau deddfwriaethol llawn. Yn drydydd, paratoi dadansoddiad o’r safbwyntiau a fynegwyd a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod y broses. Yn bedwerydd, asesu lefel y gefnogaeth gyhoeddus i roddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu llawn. Yn bumed, adrodd yn ôl i’r Llywodraeth ar ei gasgliadau, gydag argymhellion ar gynnal Refferendwm. Dylai hyn fod o ddiddordeb i bob aelod o’r Eglwys yng Nghymru ac i bawb o ddinasyddion Cymru, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn cymryd rhan gadarnhaol yn y broses. Mae’n amlwg mai’r cwestiwn yw nid a fydd Cymru’n cael pwerau deddfau llawn, ond pa bryd y bydd hynny.

Materion amgylcheddol

Un o brif broblemau ein byd yw cynhesu’r ddaear a newid yn yr hinsawdd. Sylweddolodd llawer o lywodraethau mai dyma bwnc pwysicaf ein hoes. Y demtasiwn, wrth wynebu problem mor fawr â hon, yw i ni – yn unigolion ac yn eglwys – godi ein dwylo mewn anobaith, gan feddwl fod yr hyn y gallwn ni ei wneud cyn lleied nad yw’n werth yr ymdrech. Ond fe ddylem gofio geiriau George Eliot am Dorothea, arwres ei nofel Middlemarch: “Mae llawer o bobl ddigon disylw eu geiriau a’u gweithredoedd beunyddiol yn byw bywyd Dorothea. Eto, fe gafodd ei bywyd hi effaith anhygoel ar y rhai o’i hamgylch, oherwydd y mae lles y byd mawr yn dibynnu i raddau ar weithredoedd digon disylw”.

Felly, y mae gennym ni, fel unigolion ac fel eglwys, ran i’w chwarae yn hyn, ac y mae’r Fainc wedi cymeradwyo datganiad o egwyddorion a datblygu pecyn o adnoddau ar gynaladwyedd ar gyfer plwyfi ac eraill. Mae’r rhain, os mynnwch, yn her i’r eglwys gyfan, fel y gallwn oll ddechrau meddwl yn ofalus sut y gallwn leihau cynhesu’r ddaear trwy newid ein harferion. Gan ddechrau, felly, â’r gosodiad canolog mai stiwardiaid ar greadigaeth Duw ydym ni, nid ei pherchenogion, a’n bod, gan hynny, yn atebol iddo ef, yr ydym wedi cymeradwyo i Gorff y Cynrychiolwyr, ac, o ganlyniad, i’r Eglwys yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, yr egwyddorion a ganlyn. Dylai’r eglwys ymdrechu i weithredu’r gred hon trwy:

  1. Geisio lleihau’r defnydd o ynni yn ein holl adeiladau.
  2. Ystyried defnyddio ynni adnewyddadwy megis ynni haul a melinau gwynt.
  3. Annog defnyddio, lle bynnag y bo’n bosibl, ddulliau trafnidiaeth sy’n llygru llai, yn arbennig cerdded a seiclo.
  4. Datblygu cynlluniau cadwraeth natur yn ein mynwentydd.
  5. Defnyddio, lle bynnag y bo’n bosibl, gynnyrch Masnach Teg a chynnyrch sy’n garedig at yr amgylchedd ac at anifeiliaid.
  6. Lleihau gwastraff trwy ei droi’n wrtaith ac ailgylchu cymaint ohono ag sy’n bosibl.
  7. Defnyddio llai o bapur (a dim ond papur wedi’i ailgylchu).
  8. Ystyried effaith ein cyfarfodydd ar yr amgylchedd, a sut y gallwn leihau’r effaith honno.
  9.  Dosbarthu gwybodaeth ar arferion da ac ymhle y gellir cael cyngor a chymorth ar faterion amgylcheddol.
  10. Hyrwyddo cynaladwyedd yn ein pregethu a’n dysgu, a gosod esiampl dda.

Ar sail yr egwyddorion hyn, y mae Swyddfa’r Dalaith yn mynd i’r afael â rhai materion, er enghraifft:

  1. Comisiynu Archwiliad Ynni o 39 Heol y Gadeirlan.
  2. Parhau i asesu a ellir defnyddio cynadleddau fideo.
  3. Ystyried cynllun teithio i’r swyddfa i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus a rhannu ceir.
  4. Defnyddio mwy ar e-bost pan fo hwnnw y dull mwyaf effeithiol a diwastraff o gyfathrebu. (Er enghraifft, y mae 70% ohonom bellach wedi darparu cyfeiriadau e-bost y gellir eu defnyddio pan fo hynny’n addas).

Cynhyrchodd Adran Eiddo Corff y Cynrychiolwyr ar y cyd ag Eglwysi’n Gweithredu dros Gynnal yr Amgylchedd arweinlyfr gwyrdd ar gyfer plwyfi, gyda rhestr wirio o weithgaredd posibl a rhestr o adnoddau lle y ceir gwybodaeth bellach ac adnoddau at bregethu a dysgu. Trafodir hwn yn y gweithdy heno.

Gosodwyd ar Eglwys Sant Joseff, Cwmaman, yn Esgobaeth Llandaf ddeg ar hugain o baneli haul a melin wynt fechan. Yn 2007 enillodd un o wobrau Adnewyddu Trefol Prydain, ac y mae’n awr yn gwerthu trydan i’r grid gwladol. Hefyd, gwnaeth yr Eglwys yng Nghymru gytundeb â’r Ymddiriedolaeth Garbon i geisio lleihau ein hôl troed carbon.

Gyda golwg ar economeg y newid yn yr hinsawdd, dywed Arolwg Stern y bydd, erbyn diwedd y ganrif, 150-200 miliwn yn fwy o bobl yn byw ar lai na $2 y dydd, ac, yn Ne Ddwyrain Asia ac Affrica i’r de o’r Sahara, bydd 165,000 – 250,000 yn fwy o blant yn marw bob blwyddyn. Felly, er mwyn Duw, y blaned a dynolryw, rhaid i bawb ohonom wneud yr hyn a allwn.

Materion Aml-Ffydd

Dengys yr adroddiad Ffydd yng Nghymru fod cymunedau ffydd yn cyfrannu £102 o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn at economi Cymru. Dydym ni ddim, wrth gwrs, yn bod i gynnal yr economi, ond mae’n dda deall ein bod yn gwneud ein rhan, ac fe ddengys yr adroddiad gyfraniad y cymunedau ffydd i’r gymuned ehangach – yr oriau a weithir gan 42,100 o wirfoddolwyr o gymunedau ffydd ledled Cymru, y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, y rhan a chwaraeant mewn gweithgareddau diwylliannol, yr adeiladau a ddarparant a’u cyfraniadau at ein treftadaeth ac at dwristiaeth. Dengys yr adroddiad hefyd fod gan Gymru ryw ddwywaith mwy o gynulleidfaoedd y pen o’r boblogaeth na gweddill Prydain. Y mae mwy na 4,400 o addoldai – un ar gyfer pob 670 o bobl. Yr Eglwys yng Nghymru yw’r enwad mwyaf. Hi sydd â 30% o’r holl gynulleidfaoedd. O’r rhai hynny sy’n addoli, Cristnogion yw 98%, ac fe â 7.2% o’r boblogaeth i wasanaeth crefyddol bob wythnos. Mae aelodau’r cymunedau ffydd yn ymweld ag ysbytai, yn gweithio gyda phobl ifainc, yn trefnu clybiau cinio a bariau coffi, yn paratoi pobl at briodi, yn cynnal y rhai sydd mewn profedigaeth, ac yn ymwneud â cham-ddefnyddio alcohol a chyffuriau ac â phroblemau ariannol. Y mae cymunedau ffydd yn cynnal 1,600 o adeiladau hanesyddol, 400 ohonynt yn adeiladau Graddfa I, a 200 yn adeiladau Graddfa II. Adeiladau Anglicanaidd yw’r rhan fwyaf o’r rhain. Y maent yn denu 2.5 miliwn o dwristiaid bob blwyddyn, ac mae’r mynediad am ddim.

Rhaid inni, felly, beidio â bod yn rhy hunan-feirniadol o’n hymdrechion fel eglwysi a chymunedau ffydd i wasanaethu’r cymunedau y lleolwyd ni ynddynt. Y mae 500 o gymunedau ffydd yn cyfrannu at weithgareddau’r llywodraeth i adfywio ein hardaloedd neu at strategaeth eu cymuned leol. Y mae yn ein heglwysi ysbryd o annog Cristnogion unigol i wasanaethu’r gymuned sifil mewn busnes a gwaith, trwy eu teuluoedd a’u cymdogion.

Hefyd, y mae’r cymunedau ffydd yng Nghymru yn cyd-dynnu’n dda. Yn dilyn 9/11, sefydlodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, Fforwm Cymunedau Ffydd, a bydd arweinwyr y cymunedau ffydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn yn y Senedd ag arweinwyr yr holl bleidiau gwleidyddol. Sefydlwyd hefyd Gyngor Aml-Ffydd Cymru, corff sy’n annibynnol ar y Llywodraeth, gyda’r bwriad o:

  1. Hyrwyddo gwybodaeth gyhoeddus a chyd-ddealltwriaeth o ddysgeidiaeth, traddodiadau ac arferion y gwahanol gymunedau ffydd yng Nghymru.
  2. Hyrwyddo perthynas dda rhwng pobl sy’n perthyn i wahanol grefyddau a bod o wasanaeth i bobl Cymru.
  3. Hyrwyddo ymwybyddiaeth o nodweddion neilltuol y cymunedau hyn, ac o’r hyn sy’n gyffredin rhyngddynt.

Y mae gennym berthynas arbennig o dda â phobl sy’n perthyn i grefyddau eraill. Hyd yn ddiweddar, fe fûm i fy hun yn Gadeirydd Cyngor Cristnogion ac Iddewon Caerdydd, ac y mae perthynas agos iawn rhwng Cyngor Mwslimaidd Cymru ac arweinwyr Cristnogol. Yn yr holl ffyrdd hyn, y mae cymunedau ffydd Cymru yn cyfrannu at les cyffredinol ac iechyd Cymru, a thrwy hynny yn peri i’r Llywodraeth weld fod gennym gyfraniad hanfodol i’w wneud i fywyd ein cenedl yn ei gyfanrwydd, ac nid i’w bywyd crefyddol yn unig. Hir y parhao hynny.