Anerchiad y Llywydd Y Corff Llywodraethol, Ebrill 2004

Ysgwn i a oes rhai ohonoch wedi darllen y llyfr, An Evil Cradling, gan Brian Keenan. Hyd yn oed os nad ydych wedi darllen y llyfr, byddwch yn cofio i Keenan, athro Saesneg o Belfast, gael ei ddal gan yr Hezbollah a’i gadw mewn caethiwed ac unigrwydd am bum mlynedd gyda John McCarthy. Yn ei lyfr, y mae’n sôn am y noson olaf a dreuliodd yn Belfast cyn ymadael am Beirut. Wrth iddo gerdded drwy strydoedd y ddinas, daeth yn ymwybodol iawn o’r murluniau yno – y darluniau enfawr sy’n dynodi’r ffiniau llwythol rhwng y naill ranbarth a’r llall.

Dynodir ffin y gymuned Brotestannaidd gan furluniau o’r brenin William o Orange, yn eistedd ar geffyl gwyn. I’r gymuned Brotestannaidd, William a achubodd y Protestaniaid rhag y gwarchae a fu arnynt gan y Pabyddion yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac y mae felly yn personoli goruchafiaeth y Protestaniaid yng Ngogledd Iwerddon. Y mae’r ceffyl gwyn yn symbol o burdeb. Yn aml, bydd y murluniau’n cynnwys hefyd bortread o ‘Law Goch’ Wlster neu o Jac yr Undeb, a sloganau yn cyhoeddi “Mae Wlster yn dweud Na” i ddatgan llwyr wrthwynebiad i uno Iwerddon.

Ar yr ystadau Pabyddol, gwelir darluniau enfawr o’r Pieta – Crist, y dioddefydd, ym mreichiau Mair, ei fam, neu furluniau o ferthyron ym mreichiau’r Fam Erin. Diben y portreadau hyn yw dangos merthyrdod y rhai hynny a geisiodd uno Iwerddon. Yn aml iawn, bydd y murluniau hyn yn cynnwys darluniau o ynnau, sy’n awgrymu, fe ymddengys, mai’r gwn, yn hytrach na’r blwch pleidleisio, fydd yn sicrhau undod.

Wrth y murluniau hyn yr adwaenir y gwahanol gymunedau yng Ngogledd Iwerddon. Yn ninas Belfast, hwy sy’n dynodi ffiniau a hunaniaeth. Dengys y ffiniau sut y mae hunaniaeth y naill gymuned yn gwrthod arddel hunaniaeth y llall. Dengys y lluniau sut y mae pobl yn synied amdanynt eu hunain. Mae’r mwyafrif o bobl Gogledd Iwerddon yn eu hystyried eu hunain yn Brotestaniaid, ac yn edrych yn ôl mewn edmygedd at fuddugoliaeth William o Orange. Mae’r gymuned Babyddol yn ei gweld ei hun fel y dioddefydd. Oni byddwn yn ofalus iawn, gall pawb ohonom – yn unigolion a chymunedau ac eglwysi – ddod i’n gweld ein hunain mewn modd a all ddiffinio pwy ydym a beth ydym, a gall y ddelwedd ein caethiwo. Yn yr Eglwys yng Nghymru, dros y degawd diwethaf, cawsom ystadegau sy’n dangos, heb unrhyw rithyn o amheuaeth, a pha fynegai bynnag a ddefnyddir – y niferoedd a fedyddiwyd neu a gonffyrmiwyd neu a briodwyd, y niferoedd ar rôl yr etholwyr neu’r niferoedd a gymunodd ar y Pasg neu’r Nadolig, neu gyfataledd presenoldeb yn y gwasanaethau – mai ar i lawr y mae pethau’n mynd. Yn wir, mewn tabl o’r dirywiad ym mhresenoldeb oedolion yn eglwysi esgobaethau Cymru a Lloegr gyda’i gilydd (49 o esgobaethau i gyd) rhwng 1990 a 1999, daw dwy esgobaeth Gymreig i mewn i’r rhestr ar rifau 36 a 37, ac y mae’r pedair arall ar rifau 45, 47, 48 a 49. Ac wrth fynd i lawr y rhestr y cofnodir y dirywiad mwyaf.

Yn union fel y mae cymunedau Gogledd Iwerddon yn tueddu i feddwl eu bod wedi eu tynghedu i aros yn eu hunfan, mae’n bosibl i Eglwys Dduw hefyd fynd i gredu fod dirywiad yn anochel, ac nad oes ffordd allan o’r llanastr y cawsom ein hunain ynddo. Y cwbl y gallwn ei weld yw’r graff digalon, nad yw’n annhebyg i un y Farchnad Stoc yn ystod y blynyddoedd diwethaf, heb fawr o obaith adferiad.

Yn yr Anerchiad Llywyddol hwn, yr wyf am ddweud dau beth wrthych. Yn gyntaf, fedrwn ni ddim gwadu nad yw’r ffigyrau’n ddrwg. Yr ydym yn byw mewn cymdeithas sy’n mynd yn fwyfwy seciwlar. Fel Cristnogion, yr ydym yn anghytuno â gwerthoedd amlycaf ein byd. Mae llawer o bobl o’r farn fod y ffydd Gristnogol yn amherthnasol, ac adlewyrchir hynny yn y niferoedd sy’n dod i’r Eglwys, fel y dangosir yn y mynegeion a grybwyllais. Yn ôl y ffigyrau am 2001/2002 yr ydych chwi a minnau yn addoli gyda rhyw 43,000 yn unig o Anglicaniaid bob Sul mewn talaith lle y mae 2,903,000 o bobl yn byw. Yng ngeiriau un o ysgolheigion yr Hen Destament, yr ydym yn “estroniaid trigiannol”; yn ôl rhywun arall, “nid ydym yn gartrefol yn ein cartref”. Teimlwn ein bod ar y cyrion, ac ar wahân, a gall Duw ymddangos ymhell oddi wrthym neu’n absennol. Does dim diben gwadu hyn. Does dim diben chwibanu yn y tywyllwch i geisio codi ein calonnau. Rhaid inni gydnabod y sefyllfa fel y mae. Rhaid inni fod yr hyn a alwodd rhywun yn “gymunedau trist yn rhestru eu colledion”.

Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rhaid inni beidio â meddwl fod y sefyllfa mor ddrwg na allwn wneud dim ynglyn â hi. A dyna fy ail bwynt. Mae’n demtasiwn mynd i feddwl na all dim a wnawn ni wneud unrhyw wahaniaeth. Ond y mae Duw yn aml yn defnyddio argyfyngau a sialensau’r foment i’n harwain ni i lwybrau newydd ac at syniadau newydd. Dyma’r lle, mi gredaf, i ystyried tipyn o hanes. Fe gofiwch i lawer o bobl Israel gael eu caethgludo i Fabilon yn dilyn y gwarchae a fu ar Jerwsalem yn y chweched ganrif cyn Crist. Yno, fe eisteddasant ar lan afon Chebar yn mwynhau’r gweithgaredd mwyaf afiach hwnnw o hel atgofion am y dyddiau da a fu gynt. Edrych yn ôl i’w gorffennol, at yr amser pan arweiniodd Duw hwy o’r Aifft i Wlad yr Addewid, a chymharu hynny â’r argyfwng yr oeddent ynddo yn awr. A dyma’r proffwyd Jeremeia yn eu rhybuddio: “y mae’r dyddiau ar ddod … pryd na ddywedir ‘Byw fyddo’r Arglwydd a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’, ond, ‘Byw fyddo’r Arglwydd a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o’r holl wledydd lle y gyrrodd hwy’”. A dyna, wrth gwrs, yr union beth a ddigwyddodd. Defnyddiodd pobl Israel y gaethglud i gadarnhau eu ffydd yn Nuw. Gwrthodasant anobeithio. Gwrthodasant dderbyn mai dyma ddechrau’r diwedd. Gwrthodasant y syniad fod Duw wedi cael ei orchfygu. Ac y mae yma wers i ni. Ar ôl cydnabod ein bod mewn cryn argyfwng, rhaid inni ddarganfod drachefn newydd-deb Duw yn ein plith, oherwydd fe all Duw drawsnewid hyd yn oed y fwyaf anobeithiol o sefyllfaoedd. Yng ngeiriau’r Llythyr at yr Hebreaid: “Y mae ffydd yn warant o bethau y gobeithir amdanynt, ac yn sicrwydd o bethau na ellir eu gweld”. Hynny yw, y mae Duw yn ein gwahodd i ymddiried ynddo ef, er na allwn weld yn glir beth yn union a fydd yn digwydd. Rhaid inni wrth ffydd i ymddiried yn addewidion Duw. Fel y dywed Eseia 548, “â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt, medd yr Arglwydd, dy waredydd”. Rhaid inni wrth ffydd i gredu y bydd Duw’n gweithredu. A’r hyn a rydd y ffydd honno inni yw iddo weithredu felly yn y gorffennol.

Nid yw hynny’n golygu, fodd bynnag, na allwch chwi a minnau wneud dim. Er mai busnes Duw, ar un wedd, yw adfer pethau, ac mai ei waith Ef yw sefydlu ei Deyrnas, y mae bob amser yn ein gwahodd ni i ymuno ag Ef yn ei genhadaeth i’r byd. Y mae gennym ninnau ran i’w chwarae. Fedrwn ni ddim gadael y cyfan i Dduw. Gyda Duw, gallwn ddechrau newid y sefyllfa. Y mae rhai pethau y gallwn eu gwneud i hwyluso hynny.

Yn yr wythnos ddiwedd Ebrill y llynedd pan etholwyd fi’n Archesgob, yr oedd pob cyfweliad yn ymwneud â’r dirywiad yn yr eglwys a’r hyn y gallwn i ei wneud i’w atal. Wel, Eglwys Dduw yw hi, nid fy eglwys i. Ac nid fy nghyfrifoldeb i yn unig mohoni, oherwydd fe alwyd pawb ohonom i fod yn ddilynwyr iddo Ef, ac y mae pen draw i’r hyn y gall unrhyw Esgob neu Archesgob ei wneud. Gofynnwyd y cwestiynau hyn ar y dydd Llun. Ar y dydd Iau yr oeddwn yn ymadael am gyfarfod yr Archesgobion yn Brasil, ond yr oedd gennyf ddau fedydd esgob yr wythnos honno – achlysuron deoniaethol, neu, o leiaf, hanner-deoniaethol, yn gymaint â’u bod yn ymwneud â hanner dwy ddeoniaeth wahanol. Yn y ddau le, yr oedd rhwng pump a chwe chant o bobl yn bresennol, a thros hanner cant yn disgwyl bedydd esgob – llawer ohonynt yn oedolion. Ni wn i am unrhyw fudiad arall yng Nghymru sy’n denu pum cant o bobl ynghyd ar noson waith, a hanner cant am ymuno. Yr wythnos o’r blaen, roedd gen i ddau fedydd esgob arall. Yn y naill ohonynt yr oedd tri chant o bobl yn bresennol, a phymtheg ar hugain i’w conffyrmio. Yn y llall yr oedd chwe chant o bobl, a phymtheg a deugain i’w conffyrmio. Dyma, yn ddi-ddadl, arwyddion gobaith. Arwydd arall o obaith, beth bynnag fo ein ffigyrau presenoldeb, yw ein bod mewn cysylltiad â nifer sylweddol o bobl drwy gyfrwng ysgolion a gwasanaethau achlysurol a gwasanaethau arbennig. Y mae gennym o hyd rai sy’n eu cynnig eu hunain i’w hordeinio – dynion a merched o blwyfi a chymunedau Cristnogol sy’n ddigon bywiog ac egnïol i ysbrydoli pobl i ofyn am gael eu conffyrmio neu eu hordeinio. Gallai fy nghyd-esgobion ddweud am bethau gwahanol, ond yr un mor addawol, sy’n digwydd yn eu hesgobaethau hwy.

Beth, felly, a allwn ni ei wneud i newid pethau er gwell?

Fe ddywed rhai ohonoch mai ein hangen mawr yw mwy o ymgeiswyr am urddau, a mwy o glerigion. Y drwg yw fod yn rhaid talu am glerigion. A sut bynnag, nid wyf o’r farn mai ordeinio mwy o glerigion yw’r ateb. Yr oedd gan Esgobaeth Llandaf yr un nifer o glerigion, fwy neu lai, yn 2003 ag a oedd ganddi yn 1993, a dyna’r union gyfnod a welodd y dirywiad mwyaf mewn aelodaeth. Felly, nid mwy o’r un peth yw’r ateb. Rhaid inni ddechrau gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Rhaid inni ofyn: sut y gallwn gefnogi cenhadaeth Duw i’r byd? Sut y gallwn ni newid pethau?

Y llynedd, bu’r Esgob Dominic yn annerch Ysgol Clerigion Esgobaeth Llandaf. Un peth tra dyfynadwy a ddywedodd oedd hyn: “gwallgofrwydd yw gwneud yr union beth a fethodd o’r blaen, a disgwyl y bydd y canlyniadau’n wahanol”. Mae’n bosibl gweld y gweinidog ordeiniedig fel yr unig un sy’n gymwys i gynrychioli’r gymuned gerbron Duw. Y clerig, yng ngeiriau rhywun, yw’r “prif un”, yn gwneud ar ran y gymuned yr hyn na all y gymuned ei wneud drosti’i hun. Ffordd arall o edrych ar weinidogion yw fel arweinwyr sy’n cynrychioli’r gymuned, ac yn gwneud, ar gais y gymuned ac yn ei henw, yr hyn y mae ar y gymuned gyfan angen ei wneud, ac yn atgoffa gweddill yr Eglwys inni oll gael ein galw i fyw bywyd beunyddiol o wasanaeth a thystiolaeth, pwy bynnag ydym. Bydd cymuned sy’n ei deall ei hun yn y termau hyn, ac yn trefnu ei gwaith ar sail hynny, yn gwneud penderfyniadau ar y cyd sy’n agored ac yn eglur ac yn ddeinamig. Swyddogaeth arweinydd yw galluogi a nerthu holl aelodau’r gymuned i fod yn ddisgyblion gweithredol ac i gyfrannu at ddatblygiad yr Eglwys a’i diwinyddiaeth.

Fel y dywed yr Archesgob Rowan ar y fideo, Restoring Hope in our Church (ac yr wyf yn ei gymeradwyo i chwi): “rhan o waith arweinydd yn yr eglwys yw rhoi’r math iawn o ganiatâd i’w mentro hi, gan sicrhau nad yw’r fenter yn un fyrbwyll a di-gefn. Dylid caniatáu i bobl roi cynnig ar bethau newydd a chadw mewn cysylltiad â byd Duw”. Gallwch chwi, glerigion a wardeniaid a chynrychiolwyr y plwyfi, roi arweiniad yn hyn o beth.

Beth arall y gallwn ei wneud i newid pethau er gwell?

  1. Rhaid inni ailddarganfod gweinidogaeth yr Eglwys i addysgu, a dod o hyd i ffyrdd newydd i gynorthwyo pobl i ddysgu am y ffydd. Pan fo plwyfi’n ymgymryd â chyrsiau maethu megis Alpha neu Emaus, dengys gwaith ymchwil fod pobl yn cael eu denu at y ffydd ac i fod yn aelodau eglwysig. Er enghraifft, yn Esgobaeth Caerlwytgoed ddeunaw mis yn ôl, yr oedd 91 o blwyfi yn rhedeg cyrsiau Emaus, ac o’r 527 o bobl a ddilynodd y cwrs, daeth 19% yn Gristnogion ymroddedig. Daeth yr un cyfartaledd yn union bron yn Gristnogion drwy ddilyn un o’r ddau gwrs arall a ddefnyddir yn eang yn Esgobaeth Caerlwytgoed – y cwrs Alpha neu’r cwrs Good News Down the Street. Ni fedrwn ddisgwyl cynyddu os yr unig gyfleoedd sydd gennym yw gwasanaethau’r Sul. Rhaid inni ddarparu cyrsiau a fydd yn ein galluogi ni ein hunain i dyfu ac i ddyfnhau ein hymrwymiad, ac yn ein galluogi hefyd i ddenu eraill fel y gallant hwythau, yn eu tro, dderbyn bywyd o ffydd.
  2. Yn ail, y mae’n rhaid inni, yn unigolion a phlwyfi, ganolbwyntio’n hegnïon ar genhadu, ar beri i’r Efengyl gyffwrdd â mwy o bobl yng Nghymru. Yn rhy aml, y mae ein cynlluniau’n methu am mai ychydig sy’n rhannu’r weledigaeth. Rhaid inni sicrhau fod pobl yn deall beth sy’n digwydd ar bob lefel o fywyd yr Eglwys yn y dalaith, a’u bod yn barod i gymryd rhan yn y gwaith. Yn Esgobaeth Llandaf, yr wyf eisoes wedi gofyn i’r plwyfi ddarparu cynllun cenhadu, ac i dîm datblygu plwyfi’r esgobaeth ddarparu arweiniad i gynllunio cenhadu ar gyfer Cynghorau Plwyfol Eglwysig. Y gobaith yw rhannu, a gweithredu, syniadau a all gynorthwyo eglwysi i dyfu.
  3. Y cam nesaf fydd troi’r weledigaeth yn realiti. Mewn llawer o blwyfi, cyfrifoldeb y Tîm Gweinidogaethu Lleol fydd hyn – sicrhau fod y syniadau’n cael eu gweithredu’n ymarferol, a bod yr holl ddoniau a roddodd Duw i’ch cynulleidfaoedd a’ch cymunedau yn cael eu cydnabod a’u hannog a’u defnyddio. I gynorthwyo yn hyn o beth y mae gan y dalaith ei Chyngor Cenhadaeth a Gweinidogaeth ac y mae gan bob esgobaeth ei Swyddogion Esgobaethol. Bydd yn rhaid i Gynghorau Plwyfol Eglwysig ystyried eu dull o weithio, a gweld sut y gallant roi amser ac egni i’r cynllunio hwn. Yn rhy aml ar hyn o bryd, y cwbl sy’n mynd â’u bryd yw manion bethau yn y plwyf, megis adeiladau a strwythurau, a chaiff yr ochr ysbrydol ei hanwybyddu. Dylai’r dalaith ddarparu rheol buchedd i’w haelodau, fel y gallwn ddyfnhau a lledu ein hymrwymiad i Efengyl Iesu.
  4. Y mae goruchwylio ein harian yn rhan o hyn hefyd. Gallwn oll roi arweiniad yn ein rhoddi ariannol, a gallai hynny newid sefyllfa’r plwyf, a llawer peth arall yn ogystal. Nod yr Eglwys yng Nghymru yw 5% o’n cyflog ar ôl treth. Pe baem oll yn cymryd hynny o ddifrif, ac yn defnyddio’r cynllun rhodd-gymorth os ydym yn drethdalwyr, gellid trawsffurfio’r sefyllfa mewn llawer modd.
  5. Mae’r dalaith a’r esgobaethau wedi ymrwymo i gynorthwyo’r clerigion i’ch cynorthwyo chwi i newid pethau er gwell. Yn y dalaith, y mae un clerig ar gyfer pob 70 aelod. Byddai unrhyw gwmni a chanddo gynifer â hynny o gynrychiolwyr cyflogedig yn falch iawn ohono’i hun, a byddai’n disgwyl cynnydd. Mae’n ddrwg gen i siarad mewn termau mor fras, ond yr ydym yn aml fel pe baem yn treulio ein hamser yn dadlau ynglyn â’r cynnyrch, neu hyd yn oed yn holi a oes gennym gynnyrch, neu’n anghytuno â’n gilydd ar sut i’w farchnata. Rhaid inni weithredu. Mi wn i mai Duw yn y diwedd sy’n cynhyrchu’r cynhaeaf, ond weithiau byddwn yn gosod cymaint o rwystrau ar y ffordd nes gwneud pethau bron yn amhosibl hyd yn oed iddo Ef. Y mae ar Dduw angen ein cydweithrediad. Holl bwyslais yr Ysgrythur yw bod Duw yn ein gwahodd i ymuno ag Ef yn ei genhadaeth ac yn gofyn inni osod amodau a fydd yn arwain i fywyd newydd.
  6. Yr hyn yr wyf yn ei awgrymu ichwi, felly, yw fod angen inni, yn dalaith ac esgobaethau a phlwyfi, gyfamodi â’n gilydd i newid. Dyma rai meysydd lle y mae’r dalaith yn ymrwymo i gyflawni’i haddewid:
    1. Trwy raglenni’r Cyngor Gweinidogaeth ac Addysg byddwn yn cynorthwyo clerigion i fod yn arweinwyr cenhadu, yn hytrach nag yn gaplaniaid i gynulleidfaoedd. Y mae arnom oll angen cymorth i gynyddu cynulleidfaoedd. Yr ydym yn tywallt adnoddau aruthrol i Hyfforddiant Gweinidogaethol Parhaus. Rhaid inni sicrhau fod yr hyfforddiant hwnnw yn addas ar gyfer y gwaith mewn llaw.
    2. Y mae rhai esgobaethau yn cychwyn cyrsiau ar Arweinyddiaeth Gristnogol, fel y gallwn ddatblygu sgiliau newydd ar gyfer newid angenrheidiol.
    3. Byddwn yn annog pob plwyf i roi blaenoriaeth i ddefnyddio a datblygu doniau pawb a fedyddiwyd, er budd y gymuned gyfan. Un dull effeithiol o wneud hynny yw sefydlu timau lleol o arweinwyr gweinidogaethol.
    4. Yr ydym yn adolygu ein system o ddewis rhai i’w hordeinio ac i gyflawni swyddi gweinidogaethol eraill i sicrhau fod gennym bobl a all arwain mewn cenhadu.
    5. Fel y cawn weld yn nes ymlaen yn y cyfarfod hwn, y mae Grwp Adolygu Corff y Cynrychiolwyr wedi darparu dogfen drafod yn rhan o’r broses o sicrhau y bydd strwythurau a rheolaeth ariannol y dalaith yn gwasanaethu Eglwys y dyfodol yn y modd gorau posibl. Dylid darllen yr adolygiad ar gefndir y weledigaeth o’r Eglwys a ddarparwyd gan y Fainc ar ddechrau’r adroddiad.

Nid oes neb yn cymryd arno y bydd hyn yn syml nac yn hawdd. Yn y degawd nesaf bydd yr Eglwys yng Nghymru yn wynebu sialens enfawr. Yn wir, nid gormod dweud nad ydym wedi wynebu newidiadau mor sylfaenol ers y Datgysylltu. Ond neges y Datgysylltu yw y gall newid nas ceisiwyd ac nas croesawyd arwain at gryfhau’r Eglwys. Yn sgîl y Datgysylltu, ac oherwydd ymrwymiad a gweledigaeth ei chlerigwyr ar y pryd a’u parodrwydd i newid, daeth yr Eglwys i fod yn ariannol sicr, yn gryf ei chenhadaeth, wedi’i gwreiddio ym mywyd Cymru, ac, ar lawer ystyr yn Eglwys arloesol.

Peidiwch ag anghofio ychwaith ein bod, mewn termau demograffig, yn ffodus dros ben mewn cymhariaeth â’r Anglican cyffredin. Oherwydd benyw Affricanaidd yw’r Anglican cyffredin. Mae hi dan ddeg ar hugain oed, ac yn fam i dri o blant. Mae’n cerdded 4 cilomedr bob dydd i ymofyn dwr, yn byw ar lai na $1.50 y dydd, ac yn perthyn i rywun sy’n dioddef o HIV/Aids.

Yn y dyfodol, bydd yn rhaid inni wneud â llai o glerigion. Ond gyda strwythurau esgobaethol, deoniaethol a phlwyfol i’n galluogi i dyfu, gallwn sicrhau na fydd y cwtogi’n arwain at ddirywiad. A dyfynnu’r Archesgob Rowan unwaith eto, “Y mae Duw bob amser yn rhoi i’r Eglwys yr hyn y mae ar yr Eglwys ei angen i fod yn Eglwys. Gall olygu chwilio am adnoddau cudd. Wyddoch chwi ddim beth sydd ar gael nes ichwi ddechrau chwilio”. Bendithiwyd y dalaith hon â doniau helaeth.
Rhaid inni gael y doethineb i’w defnyddio. Rhaid anelu at gynnydd, yn hytrach na rheoli dirywiad.

Yr her inni, felly, yw gwireddu ein cynlluniau a’n breuddwydion. Nid wyf yn gofyn am ddim byd newydd. Y mae Cyfansoddiad yr Eglwys yng Ngymru yn ei gwneud hi’n gwbl glir mai prif swyddogaeth y Cyngor Plwyfol Eglwysig yw cynllunio ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys, a rhaid inni ddechrau meddwl o ddifrif, ac mewn modd ymarferol, am hynny. Fe allwn newid. Ac fe wnawn newid. Oherwydd gyda Duw y mae popeth yn bosibl. Canys Ef yw’r Duw sy’n dwyn goleuni lle bu tywyllwch, dewrder lle bu ofn, a gobaith lle bu anobaith. Ef yw Duw’r posibiliadau diderfyn, ac am mai ei bobl Ef ydym, y mae popeth yn bosibl i ninnau, gydag Ef.