Anerchiad y Llywydd – Corff Llywodraethol, Medi 2014

Fel y byddech yn disgwyl, mae Anerchiadau’r Llywydd i’r Corff Llywodraethol yn anerchiadau a ysgrifennir ac a draddoddir gan yr Archesgob, fel Llywydd, ar y cwestiynau a’r heriau a’r cymhlethdodau sy’n wynebu ein heglwys a’n byd.

Mae’r anerchiad hwn yn wahanol oherwydd y mae’n anerchiad gan bob un o’r saith esgob – yn anerchiad y cytunodd pob un ohonom arno. Felly, er mai fi sy’n ei draddodi, rwy’n gwneud hynny ar ein rhan ni i gyd. Os dymunwch, yr ydym oll yn gyd-lywyddion ar yr achlysur hwn, ac fe ddaw’r rheswm am hynny yn amlwg yn y munud.

Dywed yr Americanwr Marcus Borg, ysgolhaig yn y Testament Newydd, fod “dau beth yn nodweddu gweinidogaeth Iesu – ei fod yn agored i ysbryd Duw a’i fod yn agored i dosturi Duw. Gweddïai Iesu ar Dduw, galwai ef yn dad, a dechreuodd ei weinidogaeth â’r geiriau ‘Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf’”. Yn ganolog i’w fywyd yr oedd y berthynas ddofn a pharhaol hon â Duw.

Mae’r efengylau’n llawn hefyd o storïau am dosturi Iesu – iddo ef tosturi oedd y nodwedd a ddiffiniai Dduw. Golyga tosturi deimlo poen rhywun arall ar lefel ddyfnach na lefel yr ymennydd. Golyga fynd i mewn i boen rhywun arall a chael eich ysgogi i wneud rhywbeth ynglŷn ag ef. Fodd bynnag, i arweinwyr crefyddol oes Iesu, prif nodwedd Duw oedd nid tosturi ond sancteiddrwydd, a golygai bod yn sanctaidd fod ar wahân i bopeth a oedd yn aflan. Roedd yr hen gymdeithas Iddewig wedi’i sylfaenu ar gyfundrefn o burdeb, lle y câi popeth ei ddosbarthu’n bur neu’n amhur, yn lân neu’n aflan. Gallai eich gwaith eich gwneud yn amhur os oeddech yn gasglwr trethi neu’n fugail, yn yr achos cyntaf am eich bod yn gweithio i’r awdurdodau estron, ac yn yr ail am eich bod yn gweithio gydag anifeiliaid. Ystyrid bod pobl anafus neu glaf neu dlawd yn amhur, am eu bod yn llai na pherffaith. Roedd dynion yn burach na merched, Iddewon yn burach na’r Cenhedloedd.

Effaith hyn i gyd oedd creu byd o ffiniau cymdeithasol tyn rhwng y cyfiawn a’r pechadur, gwryw a benyw, y cyfoethog a’r tlawd, yr Iddewon a’r Cenhedloedd. Trwy ailddiffinio prif nodwedd Duw fel tosturi yn hytrach na sancteiddrwydd, chwalodd Iesu yr hen drefn hon. Mae dameg y Samariad Trugarog yn feirniadaeth arni – mae’r offeiriad a’r Lefiad yn anwybyddu’r dyn ar ochr y ffordd am yr ystyrid cyffwrdd ag anaf yn ffynhonnell amhurdeb. Byddai Iesu’n cyffwrdd â gwahangleifion a merched â diferlif gwaed. Byddai’n bwyta â phob math o bobl ac yn gadael i ferched ei eneinio. Achosai hynny wrthdaro rhyngddo ag arweinwyr crefyddol ei ddydd. Gweinidogaeth yn cynnwys pobl, nid yn eu cau allan, oedd ei weinidogaeth ef.

Wedi marw Iesu, penderfynodd yr eglwys fore nad oedd yn rhaid i’r Cenhedloedd ddod yn Iddewon cyn dod yn Gristnogion. Felly, nid oedd angen i Gristnogion Cenhedlig gadw deddfau bwyd yr Iddewon, nac i’w gwrywod dderbyn enwaediad. Eglwys gynhwysol oedd yr eglwys fore.
Gydol hanes yr eglwys, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau o bryd i’w gilydd ar wahanol faterion. Er enghraifft, penderfynodd yr eglwys dderbyn yn ôl i’r teulu Cristnogol Gristnogion a oedd wedi gwrthgilio ar adeg o erledigaeth – penderfyniad cynhwysol arall, a fu’n siom i rai. Ar y llaw arall, penderfynodd Cyngor Chalcedon gau allan y rhai hynny na allent dderbyn ei Gredoau, a thrwy hynny cychwynnodd sgism sydd wedi parhau am bymtheg canrif.
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd syniadau’r Diwygwyr ar ystyr ‘achubiaeth yng Nghrist a thrwy Grist’ mor wahanol i rai’r eglwys ganoloesol fel y gadawsant hi – a’n heglwys Anglicanaidd ni yn eu plith. Yn ddiweddarach, wrth gwrs, yn y ddeunawfed ganrif, ymwahanodd Methodistiaeth oddi wrth Anglicaniaeth. Felly, ni fu’r eglwys bob amser yn gynhwysol. Y perygl yn hyn oll yw y gallwn gau pobl allan nid am fod bygythiad sylfaenol i wir bregethu’r efengyl ond am ein bod yn digwydd meddwl yn wahanol i’n cyd-Gristnogion a’n bod yn mynd i gyfeiriadau gwahanol fel disgyblion Crist.
Gwelodd yr ugeinfed ganrif beth gwahanol. Wynebai’r byd y fath gau allan yn y maes gwleidyddol – ffasgaeth yn erbyn democratiaeth, y Dwyrain yn erbyn y Gorllewin, comiwnyddiaeth yn erbyn cyfalafiaeth – fel y bu’n rhaid i’r eglwysi Cristnogol (ac yr oedd erbyn hyn lawer iawn ohonynt, yn ymwahanu ac yn cau pobl allan dro ar ôl tro) ailfeddwl yn sylfaenol.
Y cwestiwn, yn syml, oedd sut y gallai eglwysi yr oedd arnynt eu hunain angen cymodi â’i gilydd gyhoeddi’r efengyl am gariad cymodlon Duw at ei fyd.
O ganlyniad, fe aned y mudiad eciwmenaidd, ac amharodrwydd i gau pobl allan oherwydd materion yn ymwneud ag athrawiaeth a moesoldeb. Yn wir, mae’rmudiad eciwmenaidd yn ceisio dwyn ynghyd bawb sy’n cyffesu Iesu’n Arglwydd ac yn Waredwr, er gwaethaf y gwahaniaethau dyfnion sydd rhyngddynt.
Nid difaterwch – mater o “fe wna rhywbeth y tro” – mo hyn, ond gwir barodrwydd i ofyn y cwestiwn: os ydym yn cau pobl allan, a yw hynny o ddifrif am na allwn weld Crist ynddynt?
Gwelwn Grist heddiw yn wynebau llawer o bobl na fyddem wedi ei weld ynddynt mewn cenedlaethau a fu. Nid ‘pabyddion’, mewn ystyr ddifrïol yw Catholigion Rhufeinig erbyn hyn. Ni fernir bod pobl sydd wedi ailbriodi ar ôl ysgaru wedi eu torri eu hunain i ffwrdd oddi wrth dosturi a gweinidogaeth yr eglwys.
Mae dau gwestiwn arall y buom yn eu trafod mewn cyfarfodydd diweddar o’r Corff Llywodraethol nad oes atebion hawdd iddynt – beth ddylai agwedd yr eglwys fod at bobl sydd mewn priodasau a phartneriaethau sifil un rhyw, a pha safiad y dylai ei gymryd ar gymorth i farw? Ar y naill bwnc a’r llall deil Cristnogion safbwyntiau cwbl wahanol a chwbl ddiffuant.
Cred rhai o aelodau’r Eglwys Anglicanaidd y dylem gau allan bobl sydd mewn priodasau a phartneriaethau sifil un rhyw, ond y mae safiad yr eglwys ar y mater yn y gorffennol wedi achosi trallod difesur. Dewis arall, wrth gwrs, fyddai derbyn perthynas o’r fath yn frwdfrydig a dweud wrth y sawl na all wneud hynny, gan droi o chwith y condemnio yn y blynyddoedd a fu, eu bod hwy yn awr yn rhydd i adael.
Mae’r demtasiwn yn fawr i fod yn daclus neu’n rhesymegol, a chau allan y naill gategori neu’r llall. Y drwg yw nad gwahaniaethau trefnus mo’r rhain rhwng Cristnogion a phobl sy’n gwrthod efengyl Iesu, ond gwahaniaethau oddi mewn i Gorff Crist, a’r cwestiwn hollbwysig yw sut yr ydym yn mynd i dderbyn gwahaniaeth ac amrywiaeth. Ysgrifennodd yr Archesgob Rowan un tro: “Byddwch yn ofalus ymhle yr ydych yn gosod y ffin oherwydd fe all y gwelwch Grist yn codi ei law arnoch o’r ochr draw”. Daw perthnasedd hyn i’n hagenda yr wythnos hon yn amlwg unwaith eto pan fyddwn yn adolygu’r trafodaethau a gawsom yng nghyfarfod mis Ebrill o’r Corff Llywodraethol ar berthynas un-rhyw.
A daw hyn â mi at fater ordeinio merched i Urdd yr Esgobion yn ein heglwys, sy’n fater arall a chanddo’r potensial i begynu barn o gwmpas cynnwys neu gau allan. Gadewch imi eich atgoffa eto fod yr anerchiad llywyddol hwn, er mai fi yw’r llefarydd, yn datgan ein barn ar y cyd fel esgobion. Rwy’n ymwybodol fod perygl y gall yr hyn y byddaf yn ei ddweud fethu â phlesio’r rhai hynny sy’n frwd o blaid merched yn y weinidogaeth ordeiniedig nac ychwaith y rhai hynny sy’n frwd yn erbyn.
Dyna’r risg a gymerodd y Corff Llywodraethol wrth ymddiried i’r esgobion, ac i’r esgobion yn unig, y gorchwyl o lunio’r Côd Ymarfer. Fodd bynnag, cynaliasom broses eang o wrando yn y chwe esgobaeth ac yn y Corff Llywodraethol, a chawsom lif o lythyrau a dogfennau o bob math.
Yr ydym wedi cynhyrchu Côd Ymarfer nid er budd y naill ochr na’r llall yn y ddadl, ond er budd yr eglwys gyfan. Dyna’r hyn y gofynasoch inni ei wneud. Dywed y Bil yn glir y dylid llunio’r Côd Ymarfer yn y fath fodd fel y bydd pob aelod o’r Eglwys yng Nghymru’n teimlo’n ddiogel. Hynny yw, nid Côd yw hwn i’r rhai hynny sy’n anghytuno o gydwybod, ond Côd i holl aelodau’r Eglwys yng Nghymru. Yr ydym hefyd wedi tynnu llawer oddi ar waith a wnaethpwyd mewn rhannau eraill o’r Cymundeb Anglicanaidd. Diau y byddwch yn adnabod cymalau a syniadau a glywsoch mewn lleoedd eraill. Teimlem hefyd, gan mai’r Corff Llywodraethol a ofynnodd inni lunio’r Côd, mai chwi ddylai fod y rhai cyntaf i gael clywed beth yw ei gynnwys. Ac felly rwy’n ymdrin ag ef yn awr, yn hytrach nag fel eitem ar wahân ar yr agenda.
Mae’r Côd Ymarfer mewn dwy ran. Yn gyntaf, y mae pum egwyddor sy’n sylfaen iddo, ac yna y mae pum darpariaeth y rhoddir eu manylion yn yr ail ran. Y mae hefyd nodyn esboniadol. Bydd copïau ohono, yn y ddwy iaith, ar gael amser te.
Beth felly yw’r egwyddorion yr ydym yn eu hargymell? Dyma’r ddwy gyntaf:

“Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo’n llawn ac yn ddigamsyniol i agor pob urdd o weinidogaeth i bawb, waeth beth eu rhyw. Deil fod pawb y mae’n eu hethol yn briodol, yn eu hordeinio’n ganonaidd ac yn eu penodi i swydd yn ddeiliaid gwir a chyfreithiol y swydd honno a’u bod yn haeddu dyledus barch ac ufudd-dod canonaidd.

Rhaid i bawb sy’n gweinidogaethu yn yr Eglwys yng Nghymru fod yn barod i dderbyn bod yr Eglwys yng Nghymru wedi dod i benderfyniad clir ar y mater.”
Ac fel y gwna ein nodyn esboniadol yn glir, mae’r Côd hwn yn datgan y bydd unrhyw ferch sy’n dod yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru yn dod yn esgob ar yr union un telerau, a chyda’r union un awdurdod, ag unrhyw esgob cadeiriol arall yn y dalaith.
Gallem wedyn fod wedi mynd ymlaen i ddweud, gan mai felly y mae pethau, fod y sawl sy’n anghytuno’n rhydd i adael neu ddiflannu’n dawel. Yr ydym wedi gwrthod gwneud hynny, yn rhannol am nad ydym o’r farn y byddai’n gydnaws â’r Efengyl yr ydym yn ei chyhoeddi, ond hefyd am ein bod yn dal mewn cyfnod o dderbyn oddi wrth ein gilydd, oddi wrth y Cymundeb Anglicanaidd ac oddi wrth yr eglwys ehangach. Y mae o hyd daleithiau yn y Cymundeb Anglicanaidd nad ydynt yn ordeinio merched i’r un o’r tair Urdd, ac fel y dywed y drydedd o’n hegwyddorion, mae’r eglwys ehangach hefyd yn mynd trwy broses o ddirnad:

“Gan fod yr Eglwys yng Nghymru yn dal i rannu’r hen olyniaeth esgobol ag eglwysi eraill, yn cynnwys eglwysi eraill yn y Cymundeb Anglicanaidd, yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Eglwysi Uniongred, sy’n parhau i ordeinio dynion yn unig yn offeiriaid ac esgobion, mae Mainc yr Esgobion yn cydnabod bod y penderfyniad hwn ar weinidogaeth a rhyw yn perthyn i broses ehangach o ddirnad a derbyn oddi mewn i’r Cymundeb Anglicanaidd a holl Eglwys Dduw.”

Ac fel yr esbonia egwyddor 4:

“Mae’r rhai hynny yn yr Eglwys yng Nghymru na allant, ar sail argyhoeddiad diwinyddol a chydwybod, dderbyn gweinidogaeth sacramentaidd esgobion neu offeiriaid sy’n ferched, yn parhau i fod oddi mewn i sbectrwm dysgeidiaeth a thraddodiad y Cymundeb Anglicanaidd. Deil yr Eglwys yng Nghymru, felly, i fod yn ymrwymedig i alluogi ei holl aelodau i ffynnu yn ei bywyd a’i strwythurau fel pobl a dderbynnir ac a werthfawrogir. Gwneir darpariaeth briodol iddynt mewn modd a fwriedir i gynnal y raddfa uchaf bosibl o gymundeb a chyfrannu at gyd-ffyniant ledled yr Eglwys yng Nghymru.”

Mae hyn yn adleisio Penderfyniad III.2 Cynhadledd Lambeth 1998, sy’n datgan bod “y sawl sy’n anghytuno, yn ogystal â’r sawl sy’n cytuno, ag ordeinio merched yn offeiriaid ac yn esgobion yn Anglicaniaid teyrngar”.

Felly, nid yw’r Fainc yn cytuno â’r sawl sy’n dweud na ddylem o hyn allan gonffyrmio nac ordeinio neb nad yw’n derbyn ordeinio merched. Golyga proses o amgyffred ddisgwyl i weld beth a fydd yn digwydd yn y Cymundeb.

Mae’r bumed egwyddor yn cadw i’r Fainc “yr hawl i ddiwygio darpariaethau’r Côd hwn fel y bo angen yn y dyfodol”. Mae hyn yn synhwyrol ac yn ymarferol. Yr ydym yn agored ynglŷn â’r gwaith a wnaethom, ond yr ydym am wneud yn glir y gall y Fainc ddiwygio’r côd yn y dyfodol.

Dyna’r pum egwyddor a fu’n llywio ein meddyliau. Beth felly yw’r darpariaethau yr ydym yn eu gwneud?

Mae’r gyntaf yn gwneud yn glir y bydd yn rhaid cydnabod awdurdod merch sydd yn esgob “yn ddiamod a diymatal, fel y traethir ef yng Nghanonau a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.” Fodd bynnag, gwneir darpariaeth arall ar gyfer unigolion (nid plwyfi, ond unigolion) na allant, ar sail cydwybod, dderbyn gweinidogaeth sacramentaidd (nid awdurdod) esgob sy’n ferch, hynny yw na allant dderbyn conffyrmasiwn neu ordinasiwn ganddi. (Darpariaeth 2)                                                                                                                                                                           Awn ymlaen i ddweud y bydd esgob yr esgobaeth yn gwneud darpariaeth arall, yn dilyn cais ysgrifenedig oddi wrth yr unigolion dan sylw gyda chefnogaeth mewn llythyr oddi wrth eu hoffeiriad plwyf. (Darpariaeth 3)

Os digwydd hynny, mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn addo cynorthwyo’i gilydd i wneud y ddarpariaeth. Er enghraifft, mewn esgobaeth lle y mae esgob sy’n ferch, ac unigolion yn gofyn am beidio â chael eu conffyrmio neu eu hordeinio ganddi, fe fydd hi’n ymgynghori â’r Fainc ac, ar ei chais, bydd un o’i chydesgobion gwryw yn dod i gonffyrmio neu ordeinio yn ei hesgobaeth neu fe fydd hi’n gofyn i’r ymgeiswyr fynd i’w hesgobaethau hwy. Fe all y bydd yn well gan rai gael eu hordeinio gan esgob benywaidd, a phan wneir cais o’r fath i esgob esgobaeth, bydd hwnnw’n darparu bod hynny’n digwydd, fel bod yna lwyr gytbwysedd.

Yr ydym yn ceisio dangos ein hewyllys da pan ddywedwn yn Narpariaeth 5: “Ni fydd yn rhaid i unrhyw Esgob ddwyn achos yn erbyn unrhyw aelod o’r Eglwys yng Nghymru am fod yr aelod hwnnw’n anghydweld, ar sail cydwybod, â darpariaethau’r Canonau i alluogi Ordeinio Merched yn Esgobion neu’n Offeiriaid”.
Mae llawer o’r rhai sy’n gwrthwynebu ordeinio merched am inni fynd gam ymhellach ac nid yn unig ganiatáu bod esgob gwrywaidd yn ordeinio neu’n conffyrmio, ond ordeinio’n benodol esgob gwryw i wneud hynny sydd ei hun yn gwrthwynebu ordeinio merched.
Dyma batrwm o esgobyddiaeth na all y Fainc hon mo’i dderbyn. Ystyriwn mai agwedd anghatholig at esgobyddiaeth yw i bobl wrthod derbyn neb yn esgob ond y sawl sy’n digwydd cytuno â’u safbwyntiau hwy. Gallai eraill wrthod derbyn gweinidogaeth esgobion am nad ydynt yn cytuno â hwy ar sawl mater arall.
Nawr, fe all fod rhai ohonoch yn meddwl gan fod y Fainc yn y gorffennol wedi ordeinio Esgob Taleithiol Cynorthwyol, pam nad gwneud hynny eto? Fel mae’n digwydd, y fi yw’r unig esgob sydd ar ôl a fu’n rhan o’r cytundeb hwnnw. Yn y cyfamser mae’r eglwys wedi symud ymlaen, ac mae’r sefyllfa erbyn hyn yn dra gwahanol. Pan benderfynodd y Fainc ar y pryd benodi Esgob Taleithiol Cynorthwyol, roedd ei haelodau’n cyfyngu o wirfodd ar eu gweinidogaeth eu hunain trwy ganiatáu, o dan rai amodau, i’r Esgob Taleithiol Cynorthwyol ordeinio a chonffyrmio yn eu hesgobaethau. Mae’r sefyllfa yr ydym yn darparu ati yma yn gwbl wahanol am y byddem yn gosod cyfyngiadau ar weinidogaeth rhywun arall – nid ar ein gweinidogaeth ein hunain ond ar weinidogaeth esgob o ferch.
Mae paragraff 4 ein nodyn esboniadol yn egluro mai “Un o ganlyniadau clir y trafodaethau a fu ar fater merched yn Esgobion, yng nghyfarfod mis Medi 2012 o’r Corff Llywodraethol (ac wedyn mewn trafodaethau ym mis Medi 2013 a mis Ebrill 2014) oedd i’r aelodau bleidleisio’n gryf o blaid darpariaeth fugeiliol, yn hytrach na darpariaeth strwythurol, i’r rhai hynny sy’n anghydweld, ar sail cydwybod, â gweinidogaeth fugeiliol esgobion sy’n ferched, a rhoddodd yr esgobion sylw dyladwy i hyn”.

Hefyd, fel y gwneir yn glir ym mharagraff olaf ein nodyn esboniadol: “Ni pherswadiwyd yr esgobion i ddarparu gweinidogaeth esgobol arall benodol i aelodau’r Eglwys yng Nghymru na allant, ar sail cydwybod, dderbyn gweinidogaeth esgob sy’n ferch. Ni allai gweinidogaeth o’r fath fod mewn cymundeb llawn â Mainc Esgobion yn y dyfodol a fyddai’n cynnwys merched, ac felly ni fyddai’n gwasanaethu undod yr Eglwys”. Mae’r Côd, fel y dywedais eisoes, yn darparu’n benodol y gall aelodau o’r fath ofyn am, a derbyn, darpariaeth sacramentaidd arall.
Mae gan esgobion gyfrifoldeb arbennig am ffydd a threfn, ac yr ydym am fod mor gynhwysol ag y bo modd. Dyna pam y gallwn groesawu’n galonnog ordeinio merched yn esgobion, a derbyn hefyd y dylid darparu ar gyfer y rhai hynny na allant dderbyn eu gweinidogaeth sacramentaidd. Wrth wneud darpariaeth o’r fath, ein gobaith yw na fydd neb yn teimlo rheidrwydd i adael yr Eglwys yng Nghymru.
Fel y gobeithiwn y gwnaeth yr anerchiad hwn yn glir, mae’r eglwys yn y gorffennol wedi dewis tynnu pobl i mewn a chau pobl allan. Ni ellir cau neb allan ond pan na allwn weld Crist ynddynt mwyach. Yn yr Eglwys yng Nghymru, yr ydym ni, eich esgobion, a bod yn gwbl onest, yn gweld Crist ar waith yn ein holl aelodau, priod a sengl, hoyw ac union. Yr ydym yn dirnad bod Duw’n galw merched i’r tair urdd, ac yr ydym yn parchu ffydd y rhai hynny na allant o gydwybod dderbyn eu gweinidogaeth. Wrth wynebu’r cwestiynau hyn, a chwestiynau eraill, gwahoddwn yr Eglwys i uno yn y gorchwyl pwysicach o gyhoeddi’r Efengyl.