Anerchiad y Llywydd – Corff Llywodraethol Ebrill 2015

Ymhen dau ddiwrnod ar hugain fe fydd Etholiad Cyffredinol. Fydd traean o’r boblogaeth, fodd bynnag, ddim yn trafferthu pleidleisio. Yn achos y rheini sydd rhwng deunaw a phedair ar hugain oed, mae’r ffigwr yn uwch – fydd bron eu hanner ddim yn pleidleisio. Mae eironi a thristwch yn hyn. Eironi, am y byddai llawer o bobl mewn sawl gwlad yn rhoi llawer iawn am gael byw mewn gwlad ddemocrataidd a chael pleidleisio, tra bod y rhai a all wneud hynny yn y wlad hon yn dewis peidio. Tristwch, am mai peth cymharol ddiweddar yw pleidlais i bawb.

Dim ond yn 1928 y daeth hi’n bosibl i bod dyn a dynes dros un ar hugain oed bleidleisio – cyn hynny, bu brwydr hir. Doedd y Ddeddf Ddiwygio Gyntaf yn 1832 ddim ond yn rhoi pleidlais i oedolion gwryw a oedd yn rhentu eiddo ac yn dal tir hyd at werth arbennig. Hynny yw, dim ond pedwar ar ddeg y cant o’r boblogaeth. Fe gostiodd pleidlais gyffredinol yn ddrud – y llynedd yng Nghymru buom yn nodi 175 o flynyddoedd ers Gwrthryfel y Siartrwyr, pan orymdeithiodd mwy na 3,000 o bobl trwy’r cymoedd i Gasnewydd yn gofyn am ‘siarter i’r bobl’, yn cynnwys yr hawl i bleidleisio. Daeth i ben mewn trychineb, pan laddwyd ugain o bobl mewn gwrthdaro gwaedlyd â milwyr. Heddiw, yn y trefi a’r pentrefi yn y cymoedd y daeth y Siartrwyr ohonynt y mae un o’r canrannau lleiaf o bleidleiswyr yn y Deyrnas Gyfunol i gyd – dim ond 27% o bobl Blaenau Gwent, er enghraifft, a bleidleisiodd yn Etholiadau Ewrop y llynedd.

Pam nad yw pobl yn pleidleisio? Rwy’n amau bod mwy nag un rheswm. Fe all fod yna deimlad nad yw un bleidlais yn mynd i newid dim byd, a bod rhyw sinigiaeth gyffredinol, efallai, am wleidyddiaeth a gwleidyddion at ei gilydd. Collwyd hefyd y synnwyr o gymuned, a chan fod llai o bobl yn perthyn i bleidiau gwleidyddol mae’n anochel bod llai yn ymarfer eu hawl i bleidleisio. Yr unig dro dros y blynyddoedd diwethaf pan fu pleidleisio yn beth cyffrous oedd yn Refferendwm yr Alban, pan bleidleisiodd bron i 85% o’r boblogaeth.

Ond, yn baradocsaidd ddigon, ar yr union amser pan y mae peth apathi am ddewis llywodraeth cawsom drafodaethau eang ar ymarfer rhyddid a hawliau dynol yn dilyn llofruddio aelodau o staff Charlie Hebdo yn Ffrainc ym mis Ionawr. Yn sgil y weithred ysgeler honno, ysgrifennwyd llawer ar yr hawl i ryddid mynegiant – i ddweud, ysgrifennu a thynnu llun yr hyn a fynnwch ar unrhyw bwnc, crefydd yn arbennig. Ac yn y cyd-destun hwn, mae’n werth cofio bod gan Charlie Hebdo bethau digon miniog i’w dweud am Gristnogaeth yn ogystal ag am Islam. Ymunodd arweinwyr sawl gwlad â miliwn a hanner o bobl mewn gorymdaith brotest ym Mharis, a bu protestio o blaid rhyddid mynegiant mewn gwledydd eraill ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nawr, ni all neb yn ei iawn bwyll amddiffyn yr hyn a ddigwyddodd i staff Charlie Hebdo, ond mae’n codi’r cwestiwn a oes gan neb hawl absoliwt i ysgrifennu beth bynnag a fyn ac i sarhau pwy bynnag a fyn. Fel y dywedodd un newyddiadurwr y diwrnod o’r blaen, “wrth sgrolio trwy bethau ar-lein, fe welwch fod pobl yn rhyngweithio ar gyfrifiaduron a ffonau symudol â haerllugrwydd a hyfdra ac anfoesgarwch a fyddai, mewn bywyd cyffredin, wedi troi unrhyw arosfa bws yn faes y gad”.

A yw’r rhyddid i ysgrifennu’r hyn a fynnir, beth bynnag y canlyniadau, yn hawl ddiymwad? I aralleirio’r cwestiwn: os wyf fi’n ymarfer fy hawl i ddweud neu ysgrifennu beth bynnag a fynnaf amdanat ti, beth fydd y canlyniadau i’n perthynas?

I Gristnogion, rwy’n credu bod ymatal rhag mynnu eu hawliau yn rhan o’r hyn a olygir wrth garu cymydog. Mae’n cydnabod bod gennym gyfrifoldebau yn ogystal â hawliau. Fe allwn, wrth gwrs, ymarfer ein rhyddid i sarhau a thramgwyddo, ond mae gennym gyfrifoldeb i beidio â gwneud hynny weithiau, o barch at bobl eraill. Nid yw mynnu fy hawliau yn ddim ond mynnu fy anghenion a’m dyheadau fy hun, a gwrthod cydnabod fy mod mewn perthynas â phobl eraill. Golyga defnyddio fy hawliau’n gyfrifol fy mod yn barod i’w hildio er budd pobl eraill.

Fel y dywedodd yr Arglwydd Woolf, y cyn-Arglwydd Brif Ustus: “Rhaid ymarfer rhyddid meddwl a chydwybod a chrefydd mewn modd sy’n parchu teimladau ac anghenion unigolion a grwpiau eraill, a chymdeithas at ei gilydd. Mewn geiriau eraill, dylid eu defnyddio’n rhesymol ac mewn modd nad yw’n tresmasu’n ormodol ar hawliau pobl eraill.” Neu, fel y dywedodd Sant Paul yn y Llythyr at y Galatiaid: “Fe’ch galwyd i ryddid, ond peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i’r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i’ch gilydd”.

A gall Paul ddweud hynny am i Dduw yn Iesu Grist ddod yn gaethwas er budd dynolryw. Nid mynnu ei hawliau a wnaeth ef ond eu hildio er ein mwyn a dod yn un ohonom. Gwnaeth hynny o’i ryddid sofran. Wrth ildio ein hawliau er budd ein cyd-ddyn, byddwn ninnau’n adlewyrchu delw Duw ynom. Fel y dywedodd Sant Antoni o’r Aifft, “Mae ein bywyd a’n marwolaeth yn nwylo’n brodyr a’n chwiorydd.”

Ac mae gwirionedd sylfaenol yn y wireb honno i Gristnogion sy’n pleidleisio. Mae gennym ryddid i weithredu’n llwyr er ein lles ein hunain a phleidleisio i bolisïau a fydd o fudd i ni’n bersonol, ond mae gennym hefyd ryddid i bleidleisio i bolisïau a fydd er y lles cyffredin, er nad hwy, efallai, a ddaw â’r budd mwyaf i ni.

Rwy’n sylweddoli fy mod, wrth ddweud y geiriau hyn, yn mynd i ddyfroedd peryglus. Y munud y bydd esgobion neu archesgobion yn dweud dim am unrhyw bwnc ac eithrio’r hyn y mae pobl yn eu hystyried yn bynciau ysbrydol, fe’u cyhuddir o ymyrryd mewn gwleidyddiaeth. Fel y gwyddoch, fe gynhyrchodd esgobion Eglwys Loegr ddogfen ar y pynciau a fydd yn codi yn yr Etholiad Cyffredinol, ac fe’u beirniadwyd yn llym am hynny gan rai. Dyma rai sylwadau:
“Pwrpas esgobion yw tawelu ac achub eneidiau clwyfus, nid ymyrryd mewn gwleidyddiaeth”.
“At Dduw y dylai esgobion ein harwain, nid at Marx”.
“Dylai esgobion roi arweiniad ysbrydol a gadael popeth arall i’r gwleidyddion”.

Cymysgu gwleidyddiaeth â gwleidyddiaeth plaid yw hyn, wrth gwrs. Gwleidyddiaeth gydag ‘g’ fach yw’r ffordd y byddwn yn trefnu ein cymdeithas, ac os nad oes gan Gristnogion ddim i’w ddweud ar hynny, nac ar y pynciau sy’n ein hwynebu o ddydd i ddydd, yr ydym yn gwacau’r ffydd Gristnogol o lawer o’i chynnwys, sy’n ein hannog i garu Duw a’n cymydog fel ni ein hun. Mae’r gred yn rhedeg trwy’r Beibl fod Duw o blaid y tlodion, y rhai dan anfantais, gweddwon, plant amddifaid a dieithriaid. A bu proffwydi Israel yn taranu yn erbyn anghyfiawnder ac annhegwch at y tlawd ac yn ceryddu eu cenedl am ganiatáu hynny.

Ac yn ôl Sant Luc, pan ddaeth Iesu i Nasareth ar ddechrau ei weinidogaeth fe ddywedodd iddo ddod i bregethu newyddion da i dlodion, rhyddhad i garcharorion, adferiad golwg i’r dall a rhyddid i’r gorthrymedig ac i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd. Cyfeiriad yw ‘blwyddyn ffafr yr Arglwydd’ at flwyddyn y Jiwbilî Iddewig, a oedd i fod i ddigwydd bob 50 mlynedd, pan gâi pob dyled ei chanslo a phob caethwas ei ryddhau. Bob 50 mlynedd, felly, roedd pawb i fod i ddechrau o’r dechrau eto. Wyddom ni ddim a oedd hynny’n digwydd mewn gwirionedd ai peidio, ond mae Iesu’n pregethu am ryddhau pobl o afael popeth sy’n eu llethu ac yn eu dad-ddynoli. Os nad yw eglwys Dduw’n codi ei llais yn erbyn strwythurau sy’n caethiwo pobl ac yn gormesu arnynt, yna nid yw o ddifrif yn cefnogi dysgeidiaeth Iesu am newyddion da i dlodion.

Os Duw yw creawdwr y byd, mae dioddefaint tlodion a ffoaduriaid, diweithdra, newyn a thrais yr un mor bwysig iddo â bod pobl yn gweddïo, darllen y Beibl a mynd i’r eglwys. Mae’r ffaith bod cynifer o’n heglwysi yn cynorthwyo i redeg banciau bwyd, grwpiau rhieni a phlant a chlybiau cinio neu ganolfannau dyddiol i bobl oedrannus neu rai sy’n ceisio lloches, neu’n ymwneud ag undebau credyd ac yn cynghori ar ddyled, budd-daliadau a diweithdra, yn dangos ein bod yn credu bod Duw’n ymddiddori ym mhob agwedd ar fywyd. Fe all nad oes gan yr eglwys yr ateb i’r un o’r materion hyn, ond mae ganddi’r hawl i ofyn cwestiynau am y cyfundrefnau a’r strwythurau sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Fel dywedodd yr Archbishop Hélda Câmara unwaith: “Pan roddaf fwyd i’r tlodion, fe’m gelwir yn sant. Pan ofynnaf pam nad oes bwyd gan y tlodion, fe’m gelwir yn gomiwnydd.”

Tasg bosibl i’r eglwys yn yr ymgyrch yn arwain at yr Etholiad Cyffredinol fyddai mynd i’r afael ag apathi ymhlith pleidleiswyr, a’u hannog i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gallem roi cymorth i ddarparu gwybodaeth iddynt – trwy gynnal cyfarfodydd, er enghraifft, a gwahodd gwleidyddion o bob plaid i roi eu safbwynt ar bob math o bynciau. Mae pobl yn fwy anhunanol nag a feddyliwn.

Cynhaliwyd arolwg Y Gymru a Garem i geisio darganfod sut wlad y mae’r Cymry am ei gadael i’w hwyrion (dyma sail y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru, a drafodir ar hyn o bryd yn y Cynulliad). Yn ôl y 7,000 o bobl o bob cefndir y siaradwyd â hwy, y pwnc pwysicaf sy’n wynebu’r byd yw’r newid yn yr hinsawdd. Pwy feddyliai mai dyna’r pwnc a ddeuai i ben y rhestr?

Tanlinellwyd chwe peth angenrheidiol i les cenedlaethau’r dyfodol. Maent yn fan cychwyn da i bawbb ohonom wrth inni ystyried sut i ddefnyddio ein pleidlais i wneud gwahaniaeth.

  1. Rhaid rhoi i blant y cychwyn gorau mewn bywyd o’r blynyddoedd cyntaf.
  2. Rhaid i genedlaethau’r dyfodol wrth gymunedau graenus seiliedig ar synnwyr cryf o le.
  3. Mae buddsoddi yn nhwf economïau lleol yn hanfodol i ffyniant cenedlaethau’r dyfodol.
  4. Dibynna ffyniant pawb ar leihau anghyfartaledd a rhoi mwy o werth ar amrywiaeth.
  5. Mae angen mwy o ymrwymiad i’r broses ddemocrataidd; llais cryfach i ddinasyddion a rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau.
  6. Rhaid dathlu llwyddiant a rhoi gwerth ar ein treftadaeth, ein diwylliant a’n hiaith.
  7. Dyma rai o’r pynciau a wynebwn nid yn unig yng Nghymru ond yn y Deyrnas Gyfunol i gyd. Dangosodd yr arolwg hefyd nad yw ymgyrchu gwleidyddol negyddol o fawr werth. Yr hyn sydd ei angen yw gweledigaeth gadarnhaol hir-dymor o’n cymdeithas gyfan i sicrhau ffyniant ei haelodau. Dywedodd y cyn-Brif Weinidog Harold Macmillan, “Os yw pobl am gael synnwyr o bwrpas, rhaid iddynt ei gael gan eu harchesgobion. Ddylen nhw ddim gobeithio ei gael gan eu gwleidyddion.” Wel, gallwch ei gael hefyd trwy wrando ar bobl.

    Yn Llyfr Gweddi 1984, wedi i’r rhoddion o fara a gwin gael eu cludo at yr allor, dywed yr offeiriad y geiriau rhyfeddol o Lyfr Cyntaf y Cronicl. “Oddi wrthyt ti, O Arglwydd, y daw pob peth, ac o’th law dy hun y rhoddwn i ti.” Hynny yw, ein bod yn cydnabod mai Duw yw perchennog popeth, ac mai ar fenthyg dros dro y mae popeth sydd gennym ni – goruchwyliaeth dros dro a ymddiriedir inni. Gan hynny, yr ydym yn atebol yn y pen draw i’r un sy’n berchennog ac yn rhoddwr popeth, ac felly mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn defnyddio ei roddion er lles cymdeithas ac, yn wir, y ddynolryw gyfan.