Anerchiad u Llwydd – Corff Llywodraethol, Medi 2015

Yn ei adroddiad i’r Pwyllgor Sefydlog ym mis Gorffennaf eleni, edrychodd y Gweithgor Gweithredu ar nifer o faterion y gwnaed argymehllion arnynt gan Arolwg Harries ond na ddeliwyd â hwy hyd yma, a gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog roi cyfarwyddyd ar sut i ymdrin â hwy. Yn eu plith yr oedd – ie, dyna chi – y mater dadleuol o Esgobaeth Archesgobol. Argymhellodd Arolwg Harries leoli’r Esgobaeth Archesgobol yn barhaol yn Esgobaeth Llandaf (Argymhelliad 27) a phenodi i Esgobaeth Llandaf esgob ardal gyda maes cyfrifoldeb bugeiliol wedi’i ddynodi’n gyfreithiol (Argymhelliad 28).

Mewn geiriau eraill, yr Archesgob fyddai Esgob Llandaf ond y byddai esgob ardal Llandaf yn cyflawni’r rhan fwyaf o swyddogaethau esgobaethol, ar batrwm Caergaint/Dover.

Roedd y Gweithgor Gweithredu wedi rhoi’r argymehllion hyn yng nghategori C – yr isaf o’i dri chategori o flaenoriaeth, a hynny, rwy’n amau, am fod yr Eglwys wedi ceisio, ac wedi methu, datrys ymhle i leoli’r Archesgob ar sawl achlysur yn y gorffennol, ac nad oedd y patrwm a awgrymodd Arolwg Harries wedi derbyn cymeradwyaeth yr esgobaethau yn y gorffennol gweddol agos. At hyn, ni allai’r Eglwys ymdrin â holl argymehllion Harries ar unwaith ac, yn gwbl briodol, rhoddwyd y flaenoriaeth i sefydlu ardaloedd gweinidogaeth.

Bu’r cwestiwn o Esgobaeth Archesgobol yn destun sawl arolwg a chynigion i’r Corff Llywodraethol yn y gorffennol, ond ni fu unrhyw newid. Yn 1980, argymhellodd y Comisiwn ar Ffiniau a Strwythurau’r Eglwys yng Nghymru leoli’r Archesgob yn Aberhonddu yn rhan o Esgobaeth golegol Abertawe ac Aberhonddu, a bod rhan orllewinol Esgobaeth Llandaf yn dod yn rhan o Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Byddai dau esgob, un yn Abertawe ac un yn Aberhonddu – a’r Archesgob yn gofalu am yr ardal a elwir yn awr yn Archddiaconiaeth Aberhonddu ac Esgob Abertawe am ardal esgobol Abertawe.
Argymhellai’r un Adroddiad greu un Esgobaeth i Ogledd Cymru trwy gyfuno esgobaethau presennol Llanelwy a Bangor, eto gyda Choleg o Esgobion, a chyfuno maes o law esgobaethau Llandaf a Mynwy, eto gyda Choleg o Esgobion.

Roedd hyn oll yn ddull radicalaidd o feddwl yn y 1980au, a chan ei fod yn effeithio ar fuddiannau bron bob esgobaeth, nid rhyfedd iddynt ei wrthod cyn iddo hyd yn oed gyrraedd y Corff Llywodraethol. Yn y cyd-destun hwn, mae’n werth nodi mai’r hyn yr oedd yr adroddiad (y cadeirydd oedd yr Athro Chris Harries) yn ei argymell oedd yr un math o bethau i esgobion ac esgobaethau ag a argymhellodd adroddiad diweddarach Richard Harries i blwyfi – dull colegol o weithio. Mewn geiriau eraill, fe ddylai fod ym mhob esgobaeth fwy nag un esgob, pob un â maes penodol o awdurdod ond yn ffurfio un uned at ddibenion gweinyddol – yn union fel y bydd gan bob clerig unigol mewn ardal gweinidogaeth faes penodol o ofal bugeiliol ond ar yr un pryd yn rhannu’r cyfrifoldeb am yr ardal gyfan. Golygai hyn symud i ffwrdd oddi wrth y cysyniad o un esgob mewn un esgobaeth a meddwl yn nhermau dau neu dri o esgobion ym mhob esgobaeth, yn cydweithio’n agos mewn partneriaeth â’i gilydd i weinyddu’r esgobaeth yn ei chyfanrwydd, ond bod gan bob un awdurdod bugeiliol dros faes arbennig.

Mae’n werth ailddarllen rhesymeg ddiwinyddol adroddiad 1980, a byddaf yn dychwelyd ato maes o law.

Yn 1992, sefydlwyd Gweithgor arall dan gadeiryddiaeth Esgob Bangor ar y pryd, yr Esgob Cledan. Yr oeddwn yn aelod ohono, ac argymhellodd bod Llandaf yn dod yn Esgobaeth Fetropolitanaidd barhaol, gyda’r Archesgob yn esgob, ond bod hefyd esgob cynorthwyol etholedig i Landaf. Methodd y Bil i ddod â hynny i fod. Yn 2007, argymhellodd Gweithgor arall eto benodi Archesgob heb unrhyw gyfrifoldebau esgobaethol, hynny yw Archesgob amser llawn fel yng Nghanada neu Unol Daleithiau’r America – “Esgobion Llywyddol”, fel y gelwir hwy.

Ar ôl derbyn yr adroddiad hwn, mynegodd y Fainc bryderon diwinyddol ac eglwysolegol am syniad mor benagored o Archesgob, ac felly, yn 2008, cynhyrchodd y Gweithgor adroddiad arall. Unwaith eto, roedd yr Archesgob i’w leoli yng Nghaerdydd ac i fod yn Esgob Llandaf, ond fe fyddai hefyd esgob cynorthwyol etholedig, a’r esgob hwnnw fyddai gwir Esgob Llandaf am y byddai’r Archesgob yn trosglwyddo’r rhan fwyaf o’i gyfrifoldebau fel Esgob Llandaf iddo.

Trafodwyd yr ateb hwn yn yr esgobaethau, ond unwaith eto ni chymeradwywyd mohono. Roedd Esgobaeth Llandaf o blaid yr egwyddor o leoli’r Archesgob yng Nghaerdydd, ond nid o blaid y patrwm arbennig hwn. Roedd Archddiaconiaeth Caerfyrddin ac Esgobaeth Llanelwy o blaid yn fras, ond nid felly’r esgobaethau eraill. O ganlyniad i’r ymateb negyddol hwn, ni ddaethpwyd â’r mater i’r Corff Llywodraethol.

Fodd bynnag, penderfynwyd bod arnom angen trafodaeth yn y Corff Llywodraethol ar weinidogaeth esgobion, ac fe gawsom drafodaeth o’r fath rai blynyddoedd yn ôl. Nid yw’r mater, wrth gwrs, yn mynd i ddiflannu, ac mae’r Pwyllgor Sefydlog presennol o’r farn y dylid profi barn yr esgobaethau arno. Trwy gyd-ddigwyddiad, roeddwn i wedi bwriadu siarad ar y pwnc yn yr anerchiad hwn, ac mae’r Pwyllgor Sefydlog yn gobeithio y bydd hynny’n gymorth i’r trafodaethau yn yr esgobaethau. Dwyf fi ddim yn dal fy ngwynt!

Ymhle, felly, y mae dechrau? Gadewch imi i ddechrau geisio dweud rhywbeth am rôl a swyddogaeth Archesgob yng Nghymru, o’u gwrthgyferbynnu â rôl a swyddogaeth esgob esgobaeth. Rhaid cofio nad oes gwasanaeth ordeinio ar wahân i Archesgob. Mae’n perthyn nid i urdd ar wahân o weinidogion ond i Urdd yr Esgobion. Gwahaniaeth rôl sydd, nid gwahaniaeth urdd.

Mae gan yr Archesgob, fel Archesgob y Dalaith, bwerau metropolitanaidd. Gall gynnal gofwyon archesgobol yn yr esgobaethau eraill, er nad oes yr un Archesgob wedi gwneud hynny ers y Datgysylltiad. Mae ganddo awdurdod dros yr esgobaethau eraill pan nad oes ganddynt esgob ac ef sy’n llywyddu pan ordeinir esgobion. Ef yw llywydd y Colegau Etholiadol a’r Synodau Sanctaidd sy’n ethol ac yn cadarnhau ethol esgobion. Os bydd anawsterau mewn esgobaethau ynglŷn â’u hesgobion, bydd ganddo ran yn y trafodaethau, ac ato ef, yn y lle cyntaf, y daw unrhyw gwynion disgyblaethol am esgobion.

Rwyf yn awr am sôn am ei rôl o dan wyth pennawd.

    1. Yr Archesgob yw Llywydd y Corff Llywodraethol. Yn ogystal â llywyddu dau gyfarfod blynyddol y Corff Llywodraethol, ei gyfrifoldeb ef yw gosod agenda’r cyfarfodydd, ar gyngor y Pwyllgor Sefydlog y mae’n aelod ohono, ac ef yw Cadeirydd yr Is-bwyllgor Busnes.
    2. Mae’n cadeirio Mainc yr Esgobion sy’n cwrdd am ddeuddydd neu dri bedair gwaith y flwyddyn. Ef hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Enwebu’r Dalaith.
    3. Ef yw’r unig esgob ar Gorff y Cynrychiolwyr sy’n cwrdd deirgwaith y flwyddyn; felly, ef yw’r cyswllt ffurfiol rhwng Corff y Cynrychiolwyr a Mainc yr Esgobion.
    4. Mae swyddogaethau eraill, er enghraifft Cadeirydd Elusen Madame Brigitte Bevan; Aelod o Gronfa Ysgoloriaeth Powis ac o Ymddiriedolaeth Eciwmenaidd ac Annibynnol Pantyfedwen sy’n rhoi grantiau i Eglwysi.
    5. Mae’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd â staff allweddol y dalaith, yn enwedig Ysgrifennydd y Dalaith a Swyddog Cyfathrebu a’r Wasg yr Archesgob ei hun.
    6. Y mae hefyd nifer fawr o ddyletswyddau cysylltiedig â safle’r Archesgob fel Primas.
      1. Bydd ei gydesgobion yn ymgynghori ag ef yn aml, ac y mae bob amser yn aelod o weithgorau achlysurol a fydd yn ymdrin â materion o ddiddordeb i’r Dalaith – e.e Gweithgor Arolygu Corff y Cynrychiolwyr, penodi Ysgrifennydd y Dalaith.
      2. At yr Archesgob yr â’r cyfryngau cenedlaethol pan gyfyd materion crefyddol, moesegol a moesol, ac ef yn aml sy’n siarad ar ran yr Eglwys.
      3. At yr Archesgob yr â mudiadau y gall nad ydynt yn deall strwythur yr Eglwys yng Nghymru wrth geisio cysylltu â’r Eglwys, a gall hyn gynnwys Llywodraeth leol neu genedlaethol neu Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
      4. Gwahoddir yr Archesgob yn aml i bregethu ar achlysuron cenedlaethol a sefydliadol o bwys, e.e. agor Cynulliad newydd, Jiwbilí’r Frenhines, yr Eisteddfod Genedlaethol, hanner canmlwyddiant y Gwasanaeth Iechyd, ac ati, neu i ddarlithio, ac ef a fydd yn croesawu ac yn rhoi lletygarwch i ymwelwyr o daleithiau eraill pan fyddant yn dod i Gymru.
      5. Gall plwyfi mewn esgobaethau eraill, neu’r esgobaethau eu hunain, ei wahodd i bregethu ar achlysuron arbennig.
    7. Yn ychwanegol, mae gan yr Archesgob gyfrifoldebau ffurfiol o fewn strwythurau’r Cymundeb Anglicanaidd.
      1. Bydd yr archesgobion yn cyfarfod unwaith bob deuddeg neu bymtheng mis. Byddant yn cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2016.
      2. Gall hynny arwain at gael eich ethol ar Bwyllgor Sefydlog yr Archesgobion ac, o ganlyniad, aelodaeth awtomatig o’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol. Bûm yn gwasanaethu ar y ddau gorff hyn am naw mlynedd, ac ar Bwyllgor Cyllid y Cymundeb am yr un cyfnod.
      3. Gall Archesgob Caergaint ofyn i unrhyw Archesgob, fel y gofynnwyd i mi, i ymgymryd â gwaith ar ran y Cymundeb. Bûm yn aelod o Gomisiwn Windsor; yn cynorthwyo i benodi Ysgrifennydd Cyffredinol diwethaf y Cymundeb a sawl swyddog yn swyddfa’r Cymundeb; yn aelod o grŵp dan gadeiryddiaeth yr Archesgob a oedd yn rhoi grantiau i daleithiau; a gofynnodd Pwyllgor Sefydlog yr Archesgobion imi eu cynrychioli yn y gwaith o benodi Archesgob presennol Caergaint.
      4. Bydd yr Archesgob yn mynychu cyfarfodydd Archesgobion Cymundeb Porvoo bob dwy flynedd.
    8. Mae dyletswyddau a rhwymedigaethau eraill, oherwydd gwahoddir yr Archesgob yn aml i noddi mudiadau lleol a chenedlaethol, a mater iddo ef yw pa rai i’w dewis a maint ei gyfraniad iddynt. Ar hyn o bryd, rwyf fi’n noddwr neu’n ymddiriedolwr i ryw hanner cant o fudiadau, a bûm yn Gadeirydd Canolfan Materion Tramor Cymru, Cymru Yfory – a oedd yn ymdrin â datganoli, a Chomisiwn Shelter ar Ddigartrefedd, ac rwy’n dal yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru. Bydd rhai o’r swyddogaethau hyn, wrth gwrs, yn dibynnu ar ddiddordebau a phersonoliaeth yr Archesgob.

Ond pwy bynnag yw’r Archesgob, fe’i hystyrir yn “bennaeth symbolaidd” yr Eglwys yng Nghymru a bydd sawl mudiad a sefydliad yn ei weld fel prif gynrychiolydd yr Eglwys.
Gadewch imi geisio rhoi hyn yn ei gyd-destun. Mae’r Eglwys Anglicanaidd yn bod er lles y gymdeithas gyfan. Yn union fel y bydd offeiriad plwyf yn gofalu nid yn unig am faterion cul y plwyf ond am y gymuned y mae’r plwyf yn rhan ohoni, dylai’r Archesgob hefyd ofalu nid yn unig am strwythurau a materion mewnol yr Eglwys yng Nghymru ond am y gymdeithas ehangach y mae’r Eglwys yn perthyn iddi, dangos gofal am ystod eang o faterion sy’n wynebu ein cenedl a’n byd am mai byd Duw ydyw a bod Duw’n gofalu am bopeth sy’n digwydd ynddo.

Dyma a ddywed adroddiad 2007 ar Esgobaeth Archesgobol:
“Yn union fel nad dim ond caplaniaid i gynulleidfaoedd yw clerigion plwyf, ond rhai sy’n ceisio gweinidogaethu a dwyn y newyddion da i’r holl gymuned y maent yn byw ynddi, dylai’r Archesgob ymwneud â chymdeithas Cymru yn yr ystyr eang ar ran yr Eglwys”. Mae’n wir nad yw’r Eglwys yng Nghymru yn Eglwys sefydledig, ac ni allwn, ac ni ddylem, hawlio unrhyw freintiau. Ond y mae’n Eglwys ac arni angen ymdrin yn weithredol ac effeithiol â materion yng Nghymru, ac er bod gan esgobion eraill, a phobl eraill, yn yr eglwysi ran yn yn hyn o beth, rhaid i bwy bynnag sy’n Archesgob osod patrwm o’r blaenoriaethau a’r gorchmynion diwinyddol ac efengylaidd i gymryd anghenion pobl a mudiadau Cymru o ddifrif. Fel y dywed adroddiad 2007 eto, “Pan fo’r cyfryngau a mudiadau eraill yn ceisio ymwneud ag Eglwysi Cristnogol Cymru, at yr Archesgob y byddant yn troi gan amlaf, oherwydd y mae’n fwy anodd troi at enwadau Cristnogol y mae eu harweinyddiaeth yn fwy gwasgaredig”.

Yn awr, er mwyn i hyn oll ddigwydd, mae ar yr Archesgob angen amser i feddwl, i weddïo, i ddarllen, i fyfyrio. Felly, pam nad cael Archesgob amser llawn? Mae’r ddwy dalaith sydd ag archesgobion amser llawn, America a Chanada, yn daleithiau mawr, gwasgarog – mae dros 100 o esgobion yn un, 40 yn y llall. Nid yw hyn yn wir am Gymru. Mae Archesgob Canada’n gresynu nad oes ganddo unrhyw ymwneud ymarferol â bywyd esgobaeth. Yn y lle cyntaf, esgob yw pob Archesgob, a thasg esgob yw ordeinio, conffyrmio a bugeilio. Nid prif weithredwr yr Eglwys mohono, ond Tad yn Nuw, ac rwyf o’r farn bod arno angen maes penodol o awdurdod a gofal bugeiliol iddo’i hun. Felly, rwy’n diystyru swydd amser llawn, fel y gwnaeth yr esgobion yn 2007, ar sail diwinyddol ac eglwysolegol. Pe na bai gan yr Archesgob faes penodol i fod yn gyfrifol amdano, byddai’n berson pell, heb ddim cyswllt â bywyd lle a phobl arbennig, na dim ymwneud ymarferol â bywyd plwyfi a chlerigion. O’m rhan fy hun, golygai hynny Archesgob anhapus ac anfodlon, ac rwy’n credu y byddai hynny’n wir am y rhan fwyaf o esgobion.

Wel ynteu, meddech chi, pam nad cadw’r patrwm peripatetig sydd gennym? Dydw i ddim yn meddwl bod hwnnw’n gweithio chwaith. Roedd yn iawn yn 1920, pan nad oedd ond pedair esgobaeth a phan oedd bywyd yn arafach, ond y mae pedwar o’m un rhagflaenydd ar ddeg wedi dweud bod y patrwm hwn ar fin chwalu, neu wedi cael y swydd yn un anodd am wahanol resymau. Rwy’n ychwanegu fy llais at y corws hwnnw.

Yn awr, pan fo pump allan o’r deuddeg Archesgob a fu yng Nghymru wedi dweud wrth yr Eglwys fod y patrwm hwn yn un anodd i’w gynnal, rhaid i’r Eglwys gymryd hynny o ddifrif. Ar wahân i’r Archesgob cyntaf, George Edwards, rwyf fI wedi bod yn Archesgob yn hwy na neb – 12 mlynedd a hanner. Bu George Edwards yn Archesgob am 14 blynedd. Daeth yn Archesgob pan oedd yn 74 mlwydd oed – nid un i’w efelychu, efallai.

Soniodd yr Archesgob Glyn Simon, Llandaf, pa mor drwm oedd y swydd yn fugeiliol a gweinyddol, ac felly hefyd yr Archesgob Gwilym Bangor yn ei anerchiad llywyddol olaf i’w esgobaeth ar anawsterau bod yn Archesgob mewn esgobaeth yn y gogledd. Prynodd G O Williams fflat yng Nghaerdydd gyda’r bwriad o dreulio peth amser yno bob mis ar ei waith fel Archesgob, ond roedd ymrwymiadau esgobaethol a theithio o Fangor i Gaerdydd yn ei lesteirio. Yn 1983 dywedodd, “Oni phenodir Archesgobion ieuangach, a’u bod yn ffit i weithio diwrnod o 14 awr a phara’n ddigon cryf o gorff ac ysbryd i wneud yr holl feddwl a gweddïo sydd eu hangen i ymarfer arolygiaeth heddiw, a’u bod yn cael cymorth ymarferol i ddwyn y baich – bydd yn rhaid newid. Mae’n anodd hefyd i’r Archesgob fod wedi ei leoli mor bell oddi wrth swyddfa’r Dalaith”. Gallaf gydymdeimlo â’r ddwy farn hon. Mae’r gwaith bugeiliol yn Llandaf yn drymach nag yn yr un esgobaeth arall am y rheswm syml bod y boblogaeth a nifer y clerigion yn fwy. Pe bawn i’n Archesgob a hefyd yn Esgob Bangor, byddwn ar yr A470 yn amlach hyd yn oed nag y byddaf yn awr a byddai’n llawer mwy anodd cyflawni’r gwaith. Byddwn yn cael fy rhwygo hyd yn oed yn fwy nag yr ydwyf gan y ddwy rôI.

Ymddeolodd yr Archesgob George, Esgob Tyddewi, yn gynnar oherwydd y baich gwaith, a dywedodd hynny, ac roedd hi’n amlwg nad oedd yr Archesgob Alwyn, Esgob Llanelwy, mewn iechyd da yn ei flynyddoedd olaf.

Mae angen hefyd i’r Archesgob fod wedi ei leoli’n barhaol mewn un lle, fel bod yna barhad strwythur gweinyddiaeth, swyddogion, cofnodion. Fe ddewisir fy olynydd o blith un o’r esgobion cadeiriol presennol. Fel y mae pethau, bydd hynny’n golygu darparu tŷ yn yr esgobaeth honno i esgob cynorthwyol, oherwydd ni all yr un Archesgob, cyhyd ag y bo’n esgob esgobaeth, wneud heb yr un. Bydd arno hefyd angen caplan, a golyga hynny, fel rheol, adeiladu estyniad at dŷ’r esgob. Yr ydym eisoes wedi gorfod gwneud hynny i dŷ dau o’r esgobion.

Felly, dim Archesgob amser llawn, a dim Archesgob peripatetig fel ar hyn o bryd. Pam felly nad Archesgob sy’n Esgob Llandaf a chanddo esgob cynorthwyol etholedig i gyflawni’r rhan fwyaf o’r dyletswyddau? Yn sicr, nid yw’r patrwm hwn yn apelio at Landaf oherwydd er bod ar yr esgobaeth eisiau gweld lleoli’r Archesgob yng Nghaerdydd, does arni ddim eisiau’r patrwm. Nid yw bod yn esgob cynorthwyol yng Nghymru yn rôl hawdd. Allwn i ddim bod wedi goroesi heb fy esgobion cynorthwyol. Pan geisiais wneud hynny am yr oddeutu deunaw mis cyntaf, roeddwn i wedi llwyr ymlâdd. Ond esgob gydag awdurdod wedi’i ddirprwyo yw esgob cynorthwyol, ac nid yw’n gweithredu ond gydag awdurdod yr esgob cadeiriol, ac ni waeth faint bynnag y gofynnir i’r esgob cynorthwyol ei wneud, ac rwyf fi wedi gofyn llawer, mae’r cyfan yn dibynnu yn y diwedd ar yr Archesgob. At hyn, yn gam neu’n gymwys, mae ar bobl ar brydiau eisiau eu hesgob cadeiriol, a gallant weithiau beri i’r esgob cynorthwyol deimlo ei fod yn fath israddol o esgob.

Does ar yr esgobaeth fwyaf ei phoblogaeth a nifer ei chlerigion yn yr Eglwys yng Nghymru ddim eisiau esgob cynorthwyol, hyd yn oed os etholir yr esgob hwnnw i gyflawni’r rhan fwyaf o ddyletswyddau’r esgob cadeiriol. Fe all, wrth gwrs, na fyddai esgob cynorthwyol etholedig yn ddim byd tebyg i’r esgob cynorthwyol presennol, nad yw’n aelod o’r Fainc (er ei fod yn dod i’r cyfarfodydd), nac yn pleidleisio gydag Urdd yr Esgobion, nac yn cael lle awtomatig yng nghynghorau’r Eglwys. Gellid cywiro hynny trwy newid y cyfansoddiad.

Ond y mae gan Esgobaeth Llandaf wrthwynebiad pellach. Fe’m trosglwyddwyd i o Fangor i fod yn esgob cadeiriol Llandaf. Ni ddeuthum yn Archesgob am bedair blynedd arall, pan benodwyd yr Archesgob Rowan i Gaergaint. Pe deuai Llandaf yn Esgobaeth Archesgobol barhaus, a’r Archesgob yn Esgob cadeiriol Llandaf, yna teimla Esgobaeth Llandaf na fyddai ganddi lawer o ddewis wrth ethol ei hesgob cadeiriol, am y byddai’n debygol y dewisid ef o blith yr esgobion presennol. Felly, yn ymarferol, fe ddewisid yr esgob cadeiriol a’r Archesgob o blith y chwech esgob presennol (neu, mewn difrif, o blith pump ohonynt, am y byddai’n annhebygol yr etholid esgob newydd yn Archesgob ar unwaith). Ac ni fyddai’r peth o angenrheidrwydd yn gweithio i’r Archesgob chwaith. Byddai wedi dirprwyo’r rhan fwyaf o’i ddyletswyddau i esgob ardal, fel y gwna Archesgob Caergaint i Esgob Dover, ond y mae Archesgob Caergaint yn byw 60 milltir o Gaergaint, nid ar garreg y drws fel y byddai Archesgob Cymru, ac y mae gan Archesgob Caergaint dalaith fawr a’r Cymundeb Anglicanaidd cyfan i ofalu amdanynt.

Rwyf wedi crybwyll yr hyn a welaf yn anawsterau yn y gyfundrefn bresennol, fel un sydd wedi cyflawni’r rôI. Fodd bynnag, yr hyn y mae Pwyllgor Sefydlog y Dalaith am ei wybod yw a fydd yr esgobaethau’n barod i ailagor mewn egwyddor y cwestiwn o gael Esgobaeth Archesgobol barhaol, heb ymrwymo i unrhyw batrwm arbennig. Felly, yr hyn y gofynnir amdano yw cefnogaeth gyffredinol i ailagor y mater. Rwy’n gobeithio y cytuna’r esgobaethau i hynny. Yr hyn y bwriadaf ei wneud am weddill yr anerchiad llywyddol hwn yw dweud ymhle yr wyf fi’n sefyll ar y mater. Nid dyma o gwbl safbwynt swyddogol yr Eglwys yng Nghymru na’r Pwyllgor Sefydlog, ond y mae’n batrwm y gellid ei ystyried ar y cyd â’r holl batrymau eraill.

O’m rhan fy hun, felly, nid wyf o blaid penodi Archesgob amser llawn, nac ychwaith y patrwm peripatetig presennol, oherwydd y rhesymau yr wyf eisoes wedi eu rhoi. Gyda llaw, rwy’n cydnabod y ddadl ynglŷn â rhoi i bob esgobaeth ei hawr fawr, os dyna ydyw, trwy gael ei hesgob yn Archesgob, ond rwy’n gofyn ichwi ystyried cost hynny i ddeiliad y swydd, fel y tanlinellodd rhai o’m rhagflaenwyr. Nid wyf mwyach o blaid y syniad o Archesgob yn esgob cadeiriol Llandaf, gydag esgob ardal etholedig i gyflawni ei ddyletswyddau chwaith, oherwydd y rhesymau yr wyf eisoes wedi eu rhoi.

Gadewch imi, felly, gynnig yn betrus batrwm gwahanol, yn y gobaith na fydd yn rhoi esgus i’r esgobaethau ohirio trafod yr egwyddor o Esgobaeth Archesgobol. Rwy’n dechrau â’r rhagosodiad bod yn rhaid lleoli’r Archesgob yng Nghaerdydd. Mi wn i nad Caerdydd yw Cymru, ond nid Aberhonddu yw Cymru chwaith, na Thyddewi, nac Aberystwyth na Bangor. Caerdydd yw’r lle amlwg i leoli’r Archesgob (a pheidiwch ag anghofio fy mod yn siarad fel cyn-Esgob Bangor), am y bydd hynny’n osgoi llawer iawn o deithio; yng Nghaerdydd y mae pob un o arweinwyr eraill yr Eglwys; yno y mae swyddfa’r Dalaith, ac yno y mae swyddog cyfathrebu a’r wasg yr Archesgob. Rhaid i’r Archesgob fod ar gael yn hawdd i fynd i gyfarfodydd yn Heol y Gadeirlan neu Fae Caerdydd, neu i weld Ysgrifennydd y Dalaith neu ei Swyddog y Wasg ei hun.

Dylai fod gan Esgobaeth Llandaf ddau, neu hwyrach dri, esgob, ac o bosibl yn y dyfodol (er nad yw hynny’n rhan o’r hyn yr wyf yn dadlau drosto yn awr) dylid ei chysylltu ag Esgobaeth Mynwy. Byddai’n un esgobaeth gyda dau neu dri esgob, pob esgob yn esgob yn llawn ystyr y gair gyda’i awdurdod tiriogaethol ei hun, ond yn gweinyddu’r esgobaeth yn golegol mewn partneriaeth â’i gilydd. Byddai’n gwneud synnwyr i’r Archesgob fod ag awdurdod esgobol dros Ddeoniaethau Llandaf a Chaerdydd, ac fe’i hetholid i’r swydd honno fel Archesgob. Yna, fe etholid esgob arall, neu esgobion eraill, a chanddynt statws (os dyna’r gair iawn) esgobion cadeiriol i ofalu am rannau eraill o’r esgobaeth, a chyda’i gilydd byddai’r ddau neu’r tri ohonynt yn ffurfio Coleg i weinyddu’r uned weinyddol a alwn yn esgobaeth, gydag un o’r esgobion eraill yn cadeirio ei phwyllgorau a’i chynghorau. Yn ôl y patrwm hwn, ni fyddai angen i’r Archesgob gael esgob cynorthwyol, am mai bychan fyddai ei ardal esgobol. Byddai ganddo fwy o amser i ymwneud â’r Eglwys ehangach ac â’r gymdeithas ehangach.

Felly, fe fyddai dau neu dri o esgobion cydradd eu statws, nid esgobion ardal gydag awdurdod wedi’i ddirprwyo, nac esgobion cynorthwyol i’r Archesgob, ond esgobaeth golegol a fyddai’n un uned o safbwynt gweinyddu a chyfran plwyf a grym clerigol ond a chanddi ddau neu dri o esgobion, pob un gydag ardal benodol o awdurdod esgobol a gofal bugeiliol. Pe baem yn estyn y patrwm ledled y dalaith, gellid lleihau nifer yr esgobaethau tra’n cynnal neu’n cynyddu rhywfaint ar nifer yr awdurdodaethau esgobol i sicrhau graddfa briodol o ofal bugeiliol. Yr ydym yn ôl, mewn ffordd, yn 1980, a chyda chynnig yr Archesgob Glyn Simon. Byddai’n hawdd cychwyn yn Llandaf gyda dau esgob, y ddau gydag awdurdod cyfartal, heb achosi gormod o gynnwrf na newid cyfansoddiadol. Cynhelid Coleg i Ethol yr Archesgob ac Esgob Llandaf yn union fel ar hyn o bryd. Golygai hefyd, gan na fyddai gan yr Archesgob awdurdod esgobol ond dros ddwy ddeoniaeth, na fyddai unrhyw wrthdaro, fel y gallai fod pe deuai Archesgob o rywle arall i wneud pethau yng Nghaerdydd yn ardal esgobol rhywun arall – ac fe ddigwyddodd hynny yn y gorffennol pan nad oedd yr Archesgob wedi ei leoli yn y brifddinas. Byddai’r patrwm hwn yn rhoi i’r Archesgob faes gofal bugeiliol, yn ei wreiddio ym mywyd yr Eglwys, ac yn ei ryddhau rhag gorfod rhedeg esgobaeth fawr fel Llandaf , yn enwedig gan fod gwaith esgob wedi cynyddu’n anhygoel dros y blynyddoedd. “Didrugaredd” oedd y gair a ddefnyddiodd un o’m cyd-esgobion yn ddiweddar i ddisgrifio’i waith. Rwyf hefyd yn siarad fel un a fu’n esgob am 22.5 mlynedd. Mae cyfathrebu sydyn a deddfwriaeth newydd ar ddiogeledd, deddfau elusen a phrosesau Adnoddau Dynol, er mor angenrheidiol ydynt, wedi cynyddu baich gwaith pob esgob. Byddai ardal esgobol fechan yn galluogi’r Archesgob i gyflawni ei ddyletswyddau fel Archesgob ac i fod yn fugail ac esgob. Byddai gan ei gyd-esgob awdurdod yn ei hawl ei hun dros weddill yr esgobaeth, ac ef fyddai’n cadeirio’r rhan fwyaf, onid y cwbl, o’i chynghorau a’i phwyllgorau. Byddai hyn oll hefyd yn batrwm ar raddfa esgobaethol o’r hyn yr ydym yn dadlau drosto yn ein hesgobaethau ac yn ein talaith yn ei chyfanrwydd – sef ardaloedd gweinidogaeth lle y mae timau o bobl yn gweithio gyda’i gilydd.

Ac nid patrwm newydd o esgobyddiaeth mo hwn ond adfer patrwm cynharach. Pan fyddai Paul yn sefydlu eglwysi, byddai bob amser yn eu hymddiried i ddau neu dri o bobl, ac yn yr Eglwys fore, nid oedd byth bresbyter/esgob unigol, ond dau neu dri ohonynt yn gweithio gyda’i gilydd. Datblygiad diweddarach yn hanes yr Eglwys oedd esgobion unigol neu esgobion teyrnaid.

Rwy’n cymeradwyo hyn i’ch ystyriaeth. Does gen i ddim cyllell i’w hogi, oherwydd ni fydd dim o hyn yn effeithio arnaf fi, ond yr wyf yn pryderu am faich gwaith pwy bynnag a fydd yn f’olynu. Ar sawl cyfrif, fel Esgob Llandaf ac Archesgob, rwyf fi wedi cuddio’r broblem, oherwydd yr wyf wedi gallu gwneud pethau fel esgob ac Archesgob am fy mod yn byw yng Nghaerdydd. Ac eto, ni fu’n hawdd cydbwyso dwy swydd mor drom, ac rwy’n cyfaddef bod gwaith wedi cymryd fy mywyd drosodd i bob pwrpas. Nid yw hynny’n batrwm i’w efelychu. Mae’r patrwm a gynigiais yn wahanol i’r rhai diweddarach, ond nid yw’n newydd. Fe’i cynigiwyd o’r blaen yng Nghymru, ac y mae’n mynd yn ôl at batrwm llawer cynharach o beth y mae’n ei olygu i fod yn esgob. Rwy’n gobeithio y bydd o leiaf yn peri ichwi feddwl, ac na fydd yn troi’r esgobaethau oddi wrth drafod y mater byth eto – oherwydd dyna’r pwynt hollbwysig – yr angen i’r esgobaethau o leiaf sylweddoli bod yna broblem y mae 5 o’r 12 Archesgob wedi tystio amdani ers y datgysylltiad – a bod yn barod i drafod yr egwyddor o ymhle i leoli’r Archesgob a sut i’w ddefnyddio.