Anerchiad u Llwydd – Corff Llywodraethol, Ebrill 2007

Yng nghyfarfod mis Medi o’r Corff Llywodraethol, fe gofiwch imi ddefnyddio rhan o’m hanerchiad llywyddol i fynegi pryder am ymrwymiad y Llywodraeth i adnewyddu Trident dros y tymor hir. Yn dilyn hynny, bu i chwi eich hunain basio gyda mwyafrif mawr gynnig aelod preifat yn gresynu at benderfyniad y Llywodraeth i gynnal ac adnewyddu rhaglen arfau rhyfel Trident. Pan fyddwn yn pasio penderfyniad o’r fath, bydd y weinyddiaeth yn ysgrifennu at Brif Weinidog y dydd, ac fe ysgrifennais innau yn bersonol ato, ynghyd ag arweinwyr eglwysig eraill ym Mhrydain. Chwarae teg iddo, mae’r Prif Weinidog bob amser yn ymateb, neu, o leiaf, y mae’n arwyddo’r llythyrau. Ei ymateb y tro hwn oedd bod y Deyrnas Gyfunol eisoes yn gosod esiampl i’r byd ar fater arfau niwclear am fod Llywodraeth Prydain eisoes wedi cyhoeddi lleihad o 20% yn ei stôr o daflegrau niwclear. Ond âi ymlaen i ddweud, gan nad yw’r un wladwriaeth niwclear arall wedi rhoi’r gorau i’w harfau niwclear, nac yn bwriadu gwneud dim o’r fath, ni all Prydain wneud hynny ychwaith. Yn bersonol, yr wyf yn credu y byddai’n gosod esiampl foesol ardderchog pe bai hi’n gwneud hyn.

Ar un ystyr, wrth gwrs, dŵr dan y bont yw hyn oll. Y mae Senedd y Deyrnas Gyfunol wedi cymeradwyo cynllun y Llywodraeth i adnewyddu Trident, er nad oes, fe ymddengys, unrhyw reswm paham fod yn rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw ar y fath frys. Mae’n drist o beth fod y ddadl wedi’i thalfyrru, heb roi unrhyw gyfle iawn i anghytuno. Cyn y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin fe gyhoeddodd y Pwyllgor Amddiffyn, o bawb – Pwyllgor y mae Aelodau Seneddol Llafur yn y mwyafrif arno – adroddiad a hawliai fod gweinidogion wedi methu â rhoi gwybodaeth bwysig i Aelodau Seneddol i’w cynorthwyo i ddod i benderfyniad, ac wedi methu ag ateb cwestiynau megis: beth yw’r wir gost, pwy y bydd Trident yn ei atal rhag ymosod, ac ym mha fodd y mae adnewyddu’r rhaglen yn gyson ag arwyddo cytundeb i ymwrthod â lluosogi arfau niwclear? Pan fo un o Bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin yn gwneud sylwadau fel hyn, rhaid i’r gweddill ohonom gymryd sylw, oherwydd fe ddywedir rhywbeth sylfaenol ac eithriadol bwysig am y modd yr ydym yn cael ein llywodraethu. Yn ein henw ni, a heb fawr ddim ymgynghori, fe benderfynodd y Llywodraeth adnewyddu system arfau sy’n gwbl anfoesol.

Bydd mis Ionawr yn ddegfed pen-blwydd ordeinio merched yn offeiriaid yn yr Eglwys yng Nghymru. Rwy’n meddwl mai fi yw’r unig Esgob sy’n dal ar y Fainc o blith y rhai a ordeiniodd y merched hynny yn 1997 – merched a oedd wedi bod yn ddiaconiaid am flynyddoedd, yn aros yn amyneddgar am i’r eglwys ddod i benderfyniad ar y mater. O’m rhan fy hun – ac rwy’n sylweddoli nad yw pawb o’r un farn, rwy’n hynod o falch i’r Eglwys yng Nghymru gymryd y cam hwn, am fy mod yn digwydd credu fod gweinidogaeth offeiriadol yr eglwys gyfan wedi cael ei chyfoethogi a bod merched wedi dod â doniau newydd a gwahanol i’r offeiriadaeth. Yn fy mhrofiad i, hyd yn oed os bu plwyfi yn petruso derbyn merch yn glerig, unwaith y mae hi yno fe gaiff dderbyniad ysgubol. Fy unig syndod yw na fu i mi, pan oeddwn yn hyfforddi at y weinidogaeth yn saith-degau’r ganrif ddiwethaf, erioed holi pam bod y weinidogaeth ordeiniedig wedi ei chyfyngu i ddynion.

Yn y Corff Llywodraethol hwn byddwn yn trafod a ddylid ordeinio merched yn esgobion. Unwaith eto, o’m rhan fy hun, fe’m llwyr argyhoeddwyd gan y dadleuon diwinyddol o blaid hynny. O’r ochr ddynol, y mae’r offeiriad/esgob yn cynrychioli’r gymuned Gristnogol gerbron Duw, a chan fod y gymuned honno yn cynnwys merched yn ogystal â dynion, mae’n iawn y dylai’r swydd fod yn agored i ferched hefyd. O’r ochr ddwyfol, gan fod yr offeiriad/esgob yn cynrychioli’r Crist atgyfodedig, a achubodd ddynion a merched fel ei gilydd, y mae ordeinio merched yn tystio i’r ffaith fod yr achubiaeth honno yn hollgynhwysol.

A’r eglwys wedi cytuno i ordeinio merched yn ddiaconiaid ac yn offeiriaid, ni allaf, yn bersonol, weld sut y gall hi, yn rhesymegol, a hithau’n credu mewn gweinidogaeth driphlyg, wrthod eu hordeinio’n esgobion; ond rwy’n cydnabod fy mod yn perthyn i eglwys lle nad yw pawb yn cytuno â mi.   Y mae’r Fainc, fodd bynnag,  yn llwyr gefnogi agor swydd esgob i ferched. A rhag ofn ichwi feddwl mai rhiw griw o ‘trendi lefftis’ ydym ni, mae’n ddiddorol i un o esgobion Eglwys Esgobol America, sy’n ei ystyried ei hun yn geidwadwr cymhedrol, ddweud am gyfarfod diweddar Tŷ’r Esgobion dan gadeiryddiaeth yr esgob llywyddol newydd, sy’n ferch, iddi “roi inni synnwyr newydd o golegoldeb a gweddigarwch”. Yn awr, mi wn nad yw doniau o’r fath wedi eu cyfyngu i ferched, ond mae’r sylw, serch hynny, yn un diddorol.

At ei gilydd, fe fu’r rhai sy’n gwrthwynebu ordeinio merched yn rasol ac yn gwrtais wrth offeiriaid benywaidd mewn plwyfi cyfagos a siapterau deoniaethol a digwyddiadau yn yr esgobaethau. Bu’r Esgob David Thomas, er ei fod, wrth gwrs, yn glynu at ei argyhoeddiadau diwinyddol, yn arbennig  felly. Ond fe fu ambell achlysur i’r gwrthwyneb, ac rwy’n tynnu eich sylw at y peth, nid am ei fod yn digwydd yn aml ond am na ddylai ddigwydd o gwbl yn Eglwys Dduw, lle y dylem dderbyn amrywiaeth oddi mewn i undod a bod yn rasol ac yn gwrtais y naill wrth y llall. Fe all nad yw gwahaniaethu o’r fath yn beth bwriadol, ond y mae wedi digwydd i mi, yn syml oherwydd fy marn ar ordeinio merched, ac mi wn mor boenus ac andwyol oedd yr achlysuron prin hynny pan gefais fy sarhau neu fy anwybyddu.  Y mae’n gymaint mwy felly i ferched.

Gadewch imi droi at sefyllfa merched yn gyffredinol yn ein byd ac yn ein heglwys. Ym mis Tachwedd bob blwyddyn, mae gan y Cenhedloedd Unedig Ddiwrnod Dileu Trais yn erbyn Merched. Fel y dywedodd Kofi Annan, yr Ysgrifennydd Cyffredinol, “fe all mai trais yn erbyn merched yw’r trais mwyaf cywilyddus yn erbyn iawnderau dynol, ac fe all mai dyma’r trais mwyaf hollbresennol. Ni osodir  ffiniau iddo gan ddaearyddiaeth, diwylliant na chyfoeth”. Fe all eich bod o’r farn nad yw hyn yn broblem yn y Deyrnas Gyfunol. Fodd bynnag, yn 2003, amcangyfrifodd yr Arolwg o Droseddu ym Mhrydain fod un ferch o bob dwy wedi dioddef rhyw fath o drais yn y cartref neu ymosodiad rhywiol neu gael ei dilyn. Ar gyfartaledd, caiff dwy ferch eu lladd bob wythnos gan bartner, neu gyn-bartner, gwrywaidd. Bob un munud bob un dydd fe hysbysir i’r heddlu un achos o drais yn y cartref. Er ein bod wedi dileu caethwasiaeth, y mae yna o hyd bobl mewn cadwynau yn ein byd, a merched a phlant yw’r rhan fwyaf ohonynt. Merched yw 80% o bobl dlotaf ein byd. Yn ôl yr Independent on Sunday, y mae o leiaf 5,000 o blant yn gweithio fel caethweision rhyw yn y Deyrnas Gyfunol. Yn ôl Sefydliad Rowntree, y mae Prydain yn groesffordd bwysig yn y fasnach trafnidio plant yn gaethweision o gylch y byd, a bygythir merched bregus a phlant bach mor ifanc â phumlwydd oed â thrais, a’u gwerthu naill ai’n wrthrychau rhyw neu’n wasanaethyddion domestig. Yn ein gwlad ni, y mae angen trin y bobl hyn fel dioddefwyr, ac nid fel mewnfudwyr, oherwydd os anfonir hwy yn ôl i’w gwledydd eu hunain, fe’u trafnidir drachefn. Nid yw Prydain eto wedi arwyddo’r Confensiwn Ewropeaidd i ddileu pethau o’r fath. Mae globaleiddio yn bygwth gyrru mwy fyth o ferched i weithio am gyflog bach neu’n rhan-amser, tra’n dal i fod yn bennaf cyfrifol am fagu plant.

Y mae peth o’r trais hwn yn reddfol yn ein cymdeithasau a’n diwylliannau, ac mae arnaf ofn nad oes gan yr un traddodiad crefyddol record dda o ymwneud â merched.  Yn y gorffennol y mae pob un traddodiad crefyddol wedi diystyru merched a’u hystyried yn ddinasyddion eilradd. Dywedodd Tertullian, apologydd o’r ail ganrif, “ti, ferch, a ddinistriodd ddelw Duw, sef Dyn”, a dywedodd Sierôm, “pan fo merch yn dymuno gwasanaethu Crist yn fwy na gwasanaethu’r byd, fe baid â bod yn ferch ac fe’i gelwir yn ddyn”. Ystyriai Tomas o Acwin fod merched yn “ddiffygiol ac anffurfiedig”. Mae darn yn Paul lle y dywed mai “pen Crist yw Duw, pen pob gŵr yw Crist, a phen y wraig yw’r gŵr”. Fe fu’r Eglwys Gristnogol, mae arna i ofn, bob amser ar ochr anghywir y ddadl ar fater rhyddhau merched a rhoi iddynt y bleidlais. Meddylfryd patriarchaidd, gan fwyaf, fu meddylfryd Cristnogaeth sefydliadol.

A daw hyn â mi at gwestiwn dyrys lle merched yn y modd y gwneir penderfyniadau yn ein heglwys ni. Mae’r Corff Llywodraethol hwn wedi pasio cynnig yn gofyn am adolygiad o gynrychiolaeth merched ar ein pwyllgorau. Go brin ei bod yn iawn, mewn eglwys y mae mwyafrif yr addolwyr ynddi yn ferched, mai dim ond traean aelodau’r Corff Llywodraethol sy’n ferched, bod dwy esgobaeth heb ethol yr un clerig sy’n ferch, mai dim ond un sydd o un esgobaeth, a dim ond dwy o ddwy esgobaeth arall. Yng Nghorff y Cynrychiolwyr, allan o bump aelod ar hugain, nid oes ond un ferch. Ym Mhwyllgor Sefydlog y Dalaith, allan o dri aelod ar hugain, y mae dwy. Yn yr Is-Bwyllgor Penodi, dim un. Yn yr Is-Bwyllgor Busnes, un allan o wyth; yn y Pwyllgor Adnoddau Dynol, dwy allan o wyth, ac ym mhwyllgorau eraill Corff y Cynrychiolwyr dim un o gwbl. Mae gan Fwrdd Enwebu’r Dalaith un ferch allan o ddeg aelod, ac nid oes ond dwy ferch allan o ddeg ar Banel Cadeiryddion y Corff Llywodraethol. Nid oes yr un ferch yn gwasanaethu yn Llys y Dalaith. Y mae rhywbeth mawr o’i le yma. Ni fyddem ni, ddynion, yn barod i oddef sefyllfa o’r fath, ac fe fydd yn rhaid inni, fel Eglwys, roi sylw i’r mater ar gryn frys, gan nad yw’n adlewyrchu aelodaeth yr Eglwys yng Nghymru. Gyda golwg ar bobl ifainc, yr ydym wedi cydnabod y broblem, ac yr ydym yn cyfethol nifer o aelodau o dan ddeg ar hugain oed. Gyda golwg ar ferched, nid ydym wedi cydnabod fod problem o gwbl. Mae Cyngor Eglwysi’r Byd yn rheoli’n ofalus y niferoedd yng ngwahanol gategorïau aelodaeth ei  Bwyllgor Canolog trwy ddynodi niferoedd arbennig i wahanol grwpiau. Rhaid i ni edrych yn fanwl ar yr hyn y mae’n ei wneud.

Rwyf am ddychwelyd yn awr at gwestiwn tlodi, digartrefedd a thai yng Nghymru. Fel y dywedais wrthych o’r blaen, gofynnodd Shelter Cymru imi flwyddyn yn ôl gadeirio Comisiwn ar ddigartrefedd a thai gwael yng Nghymru. Deuai fy saith cyd-gomisiynydd o bob math o gefndir. Wrth inni ymweld â gwahanol rannau o Gymru a chlywed oddi wrth bobl a mudiadau, 160 o bobl ac 80 o grwpiau, datblygodd darlun o gyflwr tai yng Nghymru, a dechreuasom roi ystyriaeth i ddatrys y broblem Yn 2005 yr oedd 19,000 o bobl yn ddigartref, a 6,000 o’r rheini yn blant. Dyma’r ystadegau a gofnodwyd, ac nid ydynt yn cynnwys pobl nad aeth at eu Hawdurdodau Lleol – y digartref cudd, pobl sy’n cysgu o soffa i soffa ac sy’n meddwl na all eu Hawdurdodau Lleol eu cynorthwyo. Yn ychwanegol at hyn, y mae 35,000 o blant yn byw mewn tai gwael yng Nghymru, a 43,000 o blant yn byw mewn tai sy’n orlawn yn ôl safonau’r Llywodraeth. Mae mwy na 40% o deuluoedd ifainc mewn gwaith yn methu prynu hyd yn oed y tai rhataf am fod pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru bellach yn £155,000. Yn 2005 yr oedd nifer y rhai a drowyd allan o’u tai am fethu talu morgais 49% yn uwch nag yn 2004.  Erbyn hyn, Cymru yw’r lle lleiaf fforddiadwy y tu allan i Lundain a’r Siroedd Cartref.

Gwnaeth y Comisiynwyr nifer o argymhellion allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cyhoeddasant Adroddiad Dros Dro yn  yr wythnos cyn yr Wythnos Fawr. Fe gyhoeddir Adroddiad llawn yn ddiweddarach eleni pan fydd Llywodraeth newydd yn y Cynulliad.

Yr ydym yn credu mai digartrefedd a thai gwael yw’r materion pwysicaf yng Nghymru am eu bod yn effeithio ar bob agwedd arall ar fywyd, megis iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, troseddu ac addysg. Ewch i’r afael â digartrefedd, ac fe leddfir y pwysau ar y pethau eraill. Gwyddom i’r Prif Weinidog ddweud eisoes y bydd yn gwario £450m ar dai yn y gymdeithas os ailetholir ef. Mae’n amlwg fod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Aelodau’r Pwyllgorau Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio a’r timau swyddogion sy’n ymwneud â thai a digartrefedd yn benderfynol o fynd i’r afael â’r broblem ac wedi cymryd camre breision ymlaen heb ond ychydig o rym ac adnoddau. Ond y mae mater tai fforddiadwy a digartrefedd yn dal i fod yn flaenoriaeth isel i’r Cynulliad cyfan, a barnu, o leiaf, oddi wrth yr adnoddau a ddynodir iddo, o’u cymharu, dyweder, ag addysg neu iechyd.

  • Mae’r Comisiwn yn argymell:
    1. Fod angen rhoi sylw brys i’r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru.
    2. Fod taclo digartrefedd a’r angen am dai yn gofyn am arweinyddiaeth a newid mewn diwylliant ar bob lefel.
    3. Dylai’r gwaith o gynllunio tai newydd gael ei wneud ar lefel ranbarthol, a dylid sicrhau fod yr adnoddau a ddynodir at gartrefu’r digartref a chefnogi pobl yn cael eu defnyddio i’r pwrpas hwnnw, am nad yw rhai Awdurdodau Lleol yn gwneud hynny.
    4. Mae angen helpu pobl na allant fforddio mynd ar ris isaf perchentyaeth – efallai trwy ‘gynlluniau prynu tŷ’.
    5. Y dylai’r Cynulliad hefyd gyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud hi’n haws i gymunedau lleol sefydlu ymddiriedolaethau tir cymunedol fel y gellir bob amser adeiladu tai y gall pobl leol eu fforddio a rhoi iddynt asedau i symud ymlaen pan fyddant yn barod.
    6. Rhywbeth a ddaeth yn sgîl Deddf y Tlodion yw digartrefedd bwriadol. Y mae’n aml yn cosbi pobl fregus a all fod wedi colli eu cartref trwy ddiniweidrwydd neu wneud dewisiadau anghywir.

Yr oeddwn wedi awgrymu fod y casgliadau yn y cyfarfod hwn o’r Corff Llywodraethol yn Abertawe yn cael eu rhoi i Shelter Cymru sydd â’i bencadlys yn Abertawe. Ond yn lle hynny, yn dilyn llofruddiaeth drychinebus Y Tad Paul Bennett, yr wyf wedi penderfynu gofyn i chwi roi at Gronfa ar gyfer y teulu. Yna, ym mis Medi, fe fyddwn yn rhoi ein casgliad i Shelter Cymru, sydd wedi brwydro mor ddewr dros y tlawd a’r digartref yng Nghymru. Wrth inni fynd o amgylch y wlad, fe ddywedwyd wrthym dro ar ôl tro y byddai’n llawer gwaeth ar bobl oni bai am gefnogaeth a gwaith Shelter Cymru. Y mae Shelter Cymru yn haeddu pob cymorth a chefnogaeth y gallwn eu rhoi iddo.