Anerchiad Llywyddol – Y Corff Llywodraethol, Medi 2016

Rhaid cyfaddef, yn ystod y tair blynedd ar ddeg diwethaf, nid wyf erioed wedi ailddarllen un o anerchiadau’r llywydd a roddais i’r Corff Llywodraethol hwn. Efallai bydd rhai ohonoch yn dweud mai da o beth yw hynny, gan fod unwaith yn fwy na digon i bawb!! Cyn mynd ati’r tro hwn fodd bynnag, penderfynais ailddarllen yr anerchiad cyntaf imi erioed ei roi fel yr Archesgob newydd ac roedd yn syndod o’r mwyaf imi weld fy mod wedi sôn am awdurdod yr Ysgrythur a’i dehongliad, natur Anglicaniaeth, gwneud penderfyniadau yn y Cymundeb Anglicanaidd, a lle Penderfyniadau Lambeth, a’r cyfan mewn un anerchiad. Roedd yn atgoffa rhywun o’r bregeth gyntaf y byddai rhywun yn ei rhoi wrth gael ei ordeinio, lle mae holl syniadau diwinyddol y person wedi eu cynnwys i gyd gyda’i gilydd.

Y rheswm i mi ailddarllen yr anerchiad oedd fy mod am weld a oeddwn wedi sôn am ddirnad ewyllys Duw trwy ddarllen yr Ysgrythur Sanctaidd yn enwedig mewn perthynas â rhywioldeb dynol. Roedd y drafodaeth a gawsom ar y mater hwnnw mewn Corff Llywodraethol diweddar yn un o’r trafodaethau mwyaf eirenig, adeiladol, cytbwys a gweddigar i ni erioed ei chael yn y Corff hwn. Ni chafwyd cydsyniad ynghylch sut y dylem ymdrin â phriodas a pherthynas unrhyw ond cafwyd gwrandawiad parchus i’r hyn oedd gan bawb ei ddweud.

Ers y drafodaeth honno, fel y gwyddoch, mae’r esgobion wedi cyhoeddi gweddïau y gellir eu hoffrymu gyda’r sawl sydd mewn perthynas unrhyw, ac yn ôl y disgwyl, daeth beirniadaeth gan bobl a oedd yn dweud inni fynd y tu hwnt i’n hawdurdod gan anwybyddu gorchmynion beiblaidd ac oddi wrth rai a ddywedodd nad aethom ni’n hanner digon pell i ddefnyddio’r awdurdod sydd gennym. Boed hynny fel y bo, y cwestiwn hanfodol rwyf am fynd i’r afael ag ef y prynhawn yma yw lle’r Ysgrythur wrth ddirnad ewyllys Duw. A gwnaf fy ngorau i beidio ag ailadrodd unrhyw beth a ddywedais yn 2003.

Mae un llythyr yn crynhoi safbwynt un garfan o bobl. Roedd yn cychwyn gyda’r geiriau “Fy Arglwydd Archesgob”. Pan fo llythyr yn cychwyn gyda’r geiriau hyn, rydych chi’n gwybod eich bod chi wedi tramgwyddo. Aeth ymlaen i ddweud “Ysgrifennaf i fynegi fy mod wedi fy siomi a’m dadrithio’n ddirfawr â chywirdeb moesol eich safiad ar fater perthynas unrhyw. Mae angen i’r eglwys gael ei harwain ar y mater hwn gan lais awdurdodol yr Ysgrythur.”

Roedd y datganiad hwnnw’n awgrymu bod yr esgobion wedi anwybyddu’r Beibl a’u bod wedi cael eu dylanwadu gan ddiwylliant rhyddfrydig ein hoes ac nad oeddent felly’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r Ysgrythur Sanctaidd. Hoffwn ateb fod hyn ymhell o fod yn fater o anwybyddu’r Ysgrythur Sanctaidd, yn hytrach, mae’r esgobion wedi cymryd y cam hwn oherwydd inni roi ystyriaeth ddifrifol i’r hyn sydd gan y Beibl i’w ddweud wrth geisio dirnad ewyllys Duw.

Dydw i ddim am gyfyngu’r hyn sydd gennyf i’w ddweud i fater perthynas un-rhyw yn unig. Mae yma gwestiwn llawer ehangach am sut mae rhywun yn dirnad ewyllys Duw fel y’i datguddir yn yr Ysgrythur Sanctaidd yn fwy cyffredinol. Yn gyntaf, gadewch i mi ddweud yr hyn sy’n amlwg. Nid un llyfr yw’r Beibl ond cyfres o lyfrau ac yn y llyfrau hynny, a ysgrifennwyd gan amrywiol awduron, mae nifer o wahanol safbwyntiau ond hefyd safbwyntiau sy’n newid ynghylch pynciau penodol. Nid geiriau Duw yw testunau’r Beibl, sydd wedi eu harddweud gan Dduw i’w hysgrifennu gan awduron dynol, yn hytrach maent yn ymateb ysbrydoledig i ddatguddiad. Ymateb dynol felly yw’r ymateb, ac ni ellir ystyried ei fod yn union yr un fath â’r datguddiad hwnnw yn enwedig gan fod rhannau o’r Beibl yn anghyson â rhannau eraill.

Dyma rai enghreifftiau.

Mae Ail Lyfr y Brenhinoedd yn cofnodi cyflafan gan Jehu o Dŷ Brenhinol Ahab yn Jesreel. Dywedir i gyflafan teulu cyfan y Brenin Ahab a’r Frenhines Jesebel ac unrhyw un a oedd yn gysylltiedig â hwy gael ei chyflawni gan Jehu ar orchymyn y proffwyd Eliseus, a oedd, yn ôl y gair wedi’i eneinio gan Dduw i gyflawni cyflafan o’r fath.

Hynny yw, gwelir Eliseus a Duw yn cymeradwyo polisi o lofruddiaeth dorfol. Wrth gwrs, rwy’n sylweddoli nad dyma’r hanes cyntaf am lofruddiaeth a chyflafan yn yr Hen Destament, ond wrth ysgrifennu’n llawer diweddarach am y digwyddiad hwn, dywedodd y proffwyd Hosea 1:4 fod Jehu wedi ymddwyn yn warthus ac y dylid bod wedi ei gosbi am yr hyn a wnaeth.

Mewn geiriau eraill, roedd yna newid safbwynt yn yr Ysgrythur ynghylch yr un digwyddiad. Meddai +Rowan wrth ysgrifennu am y digwyddiad hwn “Byddai Hosea wedi dweud “Rwy’n siŵr bod fy rhagflaenydd proffwydol, Eliseus, yn sicr ei fod yn cyflawni ewyllys Duw ac rwy’n siŵr bod angen rhoi terfyn ar ormes ac eilunaddoliaeth Tŷ’r Brenin Ahab, ond ai cyfiawn ydoedd i Jehu eu llofruddio yn y fath fodd?”” Ac mae +Rowan yn mynd ymlaen i ddweud bod sylw Hosea yn ennyd bwerus iawn yn ysgrifau’r Hen Destament – yn gydnabyddiaeth bod modd tyfu mewn dealltwriaeth o ewyllys Duw a bod modd ail-feddwl y gorffennol.

Roedd rhywbeth ym myd Hosea, proffwyd sy’n ysgrifennu mor wefreiddiol am gariad aruthrol Duw at Ei bobl, wedi agor ei galon i ddealltwriaeth newydd o Dduw fel bod, na fyddai’n awdurdodi llofruddiaeth dorfol. Mae Iesu’n mynd â’r mater yn llawer pellach pan ddywed “Clywsoch fel y dywedwyd, llygad am lygad, a dant am ddant. Ond rwyf fi’n dweud wrthych, peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy’n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro’r llall iddo hefyd. Carwch eich gelynion. Gwnewch ddaioni i’r rhai sy’n eich casáu.”

Felly mae Hosea ac Iesu yn sôn am Dduw ac yn ei weld Ef mewn ffordd gwbl wahanol i’r hyn a welir yn llyfrau eraill yr Hen Destament ac maen nhw’n dangos nad cefnogaeth Eliseus i gyflafan Jehu oedd y gair olaf ar y mater hwn. Felly os ydyn ni am ofyn i’n hunain pa safbwynt dybiwn ni sy’n adlewyrchu ewyllys Duw, sut byddem ni’n ateb?

Trown at enghraifft arall, y tro hwn o lyfr Deuteronomium.

Mae Deuteronomium 23 1-4 yn darllen fel a ganlyn:
“Nid yw Ammoniad na Moabiad, na neb o’u disgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa’r Arglwydd. Nid yw bastardyn, na neb o’i ddisgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa’r Arglwydd.”

Yr hyn mae Deuteronomium yn ei ddweud yw bod pawb a oedd yn gynnyrch uniadau anghyfreithlon neu losgach neu a oedd yn ddisgynyddion i’r Moabiaid a’r Ammoniaid i gael eu gwahardd am byth o addoliad oherwydd nad oedden nhw’n cael eu hystyried yn dderbyniol gan Dduw.

Ond mae o leiaf ddau hanes o losgach yn yr Hen Destament sy’n anwybyddu’r gwaharddiadau hyn. Yn gyntaf, Lot a’i ferched, uniadau a gynhyrchodd Ammoniaid a Moabiaid, ac yna mae llosgach Jwda gyda’i ferch yng nghyfraith Tamar. Rhoes merched Lot a Tamar enedigaeth i feibion sydd wedi llunio rhan o linach achyddol a arweiniodd yn y pen draw at Dafydd ac yna Iesu. Mae Ruth, sy’n un o’r Moabiaid, yn un o hynafiaid Dafydd. Os yw hi a’i disgynyddion, a meibion merched Lot a mab Tamar yn cael eu gwahardd o’r gymuned addoli, ble mae hynny’n gadael y Brenin Dafydd?

Felly mae Deuteronomium yn rhoi dedfryd o waharddiad parhaol ar Foabiaid a chynnyrch llosgach rhag dod yn rhan o’r gymuned addoli ond y bobl hyn yw cyndeidiau Dafydd ac Iesu. Mae cyfraith Deuteronomium yn dweud hyn wrthym ni tra bod hanesion yr Hen Destament yn dweud rhywbeth cwbl wahanol.

Mae Dafydd yn ddisgynnydd llosgach ddwywaith gan fod ganddo waed y Moabiaid yn ei wythiennau ac eto mae’n Frenin Israel ac yn llais gweddi Israel ar Dduw. Yn Efengyl Matthew, caiff Tamar a Ruth eu henwi yn llinach y Meseia, heb sôn o gwbl y dylai llosgach a gwaed y Moabiaid wahardd Iesu rhag cymryd rhan yn y gymuned addoli, ac yn sicr ei wahardd rhag bod y Meseia. Mewn geiriau eraill, mae’r Ysgrythur ei hun yn cefnogi cynnwys yn llwyr y sawl y mae testunau ysgrythurol eraill wedi eu dynodi yn wrthun.

Yn Actau’r Apostolion, mae Pedr yn dechrau ymgysylltu â Chenedl-ddynion ac yn eu bedyddio, mae’n anufuddhau yn uniongyrchol i’r gwaharddiad beiblaidd yn Lefiticus i beidio ag ymwneud o gwbl â phobl o dras arall am eu bod yn aflan. Rhoddir Cod Sancteiddrwydd Lefiticus o’r neilltu o blaid credu mewn Duw sy’n derbyn pobl aflan.

Dyma enghraifft arall yr wyf wedi cyfeirio ati o’r blaen.

Mae Deuteronomium 231-4 yn dweud:
“Nid yw neb sy’n eunuch i fynychu cynulleidfa’r Arglwydd”.

Ond yn Eseia 564-5 mae’r proffwyd yn dweud:
“I’r eunuchiaid sy’n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod, y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i’m muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched”.

Yn olaf, yn Actau’r Apostolion pennod 838 mae hanes yr apostol Philip sy’n bedyddio eunuch o Ethiop.

Yn ôl Deuteronomium, mae eunuchiaid yn wrthun gan Dduw ac nid oes croeso iddyn nhw addoli oherwydd eu deuoliaeth rywiol ac oherwydd bod ganddynt enw o fod yn cael rhyw goddefgar gyda dynion eraill. Mae’r proffwyd Eseia yn anghytuno ac yn dweud y cânt eu derbyn a’u bendithio gan Dduw, hyd yn oed yn fwy na’r Iddewon, pobl ddethol Duw. Ac mae hyn i gyd yn cael ei wireddu yn Actau’r Apostolion pan welir Philip yn bedyddio eunuch o Ethiop sydd wedi bod i Fynydd Seion yn Jerwsalem i addoli. Mae’r eunuch, ffigwr gwrthodedig yn ôl Deuteronomium, yn awr yn dod yn dderbyniol i Iddewiaeth ac i Eglwys Crist hefyd.

Roedd yr Iddewon yn casáu tramorwyr a gwyredigion rhywiol yn arbennig am nad oedden nhw’n cynhyrchu plant. Er hynny, mae eunuch o Ethiop yn cael ei dderbyn gan Philip a’i werthfawrogi fel unigolyn o’r iawn ryw ac nid yw ei dras na’i rywioldeb yn cyfrif yn ei erbyn. Mae Eseia yn rhoi gwaharddiadau Deuteronomium o’r neilltu gyda’i gyfreithiau o sancteiddrwydd a phurdeb ac mae’r Testament Newydd yn mynd gam ymhellach ym mherson Philip trwy fod yn barod i fedyddio eunuch.

Mae hyn i gyd yn dangos bod yr Ysgrythurau eu hunain yn cynnwys newidiadau sylfaenol o ran dealltwriaeth yn yr hyn mae dirnad ewyllys Duw yn ei olygu. Yn sicr, nid yw dyfynnu testunau o rannau o’r Beibl mewn modd simplistig heb gyfeirio at eu cyd-destun yn gwneud y tro o gwbl. Mae’n rhaid i rywun drin y Beibl yn ei gyfanrwydd a dirnad, yn aml trwy’r hanesion, i ba gyfeiriad y mae’n symud. Mewn geiriau eraill, mae’r Ysgrythur Sanctaidd nid yn unig yn cynnwys gorchmynion moesegol ond hanesion hefyd, ac mae’r hanesion yn cyfleu gwirionedd am ddealltwriaeth pobl o Dduw. Wedi’r cyfan, treuliodd Iesu’r rhan fwyaf o’i fywyd yn adrodd damhegion er mwyn i bobl ddeall natur a chymeriad Duw.

Meddai George Herbert yn un o’i gerddi wrth sôn am yr Ysgrythurau:
“Oh that I knew how all thy lights combine,
And the configurations of their glory!
Seeing not only how each verse doth shine,
But all the constellations of the story.”
Mae angen ystyried pob un o elfennau’r stori.

Mae’r holl enghreifftiau rwyf wedi eu rhoi yn dangos nad oes un ddealltwriaeth sefydlog o’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am nifer o bynciau ac o’i ddarllen fel cyfanwaith, gall newid safbwynt rhywun yn llwyr.

Gadewch i mi roi enghraifft arall i chi sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol.

Mae’r Beibl yn dweud llawer am gaethwasiaeth. Roedd gan Abraham gaethweision ac yn ôl Genesis 24 35, bendithiodd Duw ef gan roi caethweision gwryw a benyw iddo. Cipiodd Joshua, Dafydd, a Solomon bobl i fod yn gaethweision ar orchymyn Duw. Mae’r Deg Gorchymyn yn cymryd yn ganiataol y bydd gan bobl gaethweision ac mae’r proffwydi yn siarad am drin caethweision yn deg. Nid oes dim yn yr Hen Destament i ddweud bod caethwasiaeth mewn unrhyw fodd yn anfoesol a bod angen dileu’r arfer. Nid oedd Iesu chwaith wedi condemnio caethwasiaeth yn Ei ddamhegion ond eu trin fel petaent yn ffenomen naturiol. Mae Paul yn dweud wrth gaethweision am ufuddhau i’w meistri.

Felly, mae cefnogaeth feiblaidd sylweddol i gaethwasiaeth. Ydy, mae’n wir fod meistri’n cael eu cymell i’w trin nhw’n dda ond fel sefydliad mae’n cael ei ystyried yn rhywbeth da. Yn wir, yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd rhai Cristnogion yn pledio dadleuon a oedd yn seiliedig ar destunau beiblaidd o blaid bod yn berchen ar gaethweision.

Felly, pam y dilëwyd caethwasiaeth o ystyried y gefnogaeth ysgrythurol sylweddol a oedd o blaid hynny? Pam – oherwydd pe baech chi’n darllen yr Ysgrythurau yn eu cyfanrwydd, maen nhw yn erbyn gormes, gorthrwm a chamdriniaeth. “Y mae wedi fy anfon,” meddai Iesu yn Efengyl Luc “i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd”.
Felly, er gwaethaf yr holl ddarnau sydd o blaid caethwasiaeth, wrth fynd ati i archwilio’r Ysgrythurau yn eu cyfanrwydd a gweinidogaeth Iesu yn benodol, rydych chi’n sylweddoli eu bod yn siarad am ryddid oddi wrth bopeth sy’n bychanu ac yn dad-ddyneiddio pobl. Gobeithio na fyddai’r un Cristion heddiw yn dadlau mai peth da yw caethwasiaeth, ond am bedair canrif ar bymtheg, roedd yr Eglwys yn derbyn ac yn amddiffyn yr arfer; mae Duw trwy ei Ysbryd Glân wedi ein harwain at y gwirionedd o weld pethau mewn ffordd gwbl wahanol heddiw ac mae darllen am bobl sydd wedi cael eu cadw yn gaethweision gan eraill yn codi arswyd arnom.

Y cyfan y mae hyn yn ei ddatgelu yw na allwn ddadlau bod un ffordd draddodiadol dderbyniol o ddehongli’r Ysgrythur sy’n wir ac uniongred ac mai glastwreiddio modern, sy’n cael ei gyflyru gan ddiwylliant yw popeth arall. Mae’r Ysgrythur ei hun yn amrywiol ac mae safbwyntiau diwinyddol rhai llyfrau beiblaidd yn cael eu hadolygu yng ngoleuni profiadau ysgrifenwyr eraill.

Fel y dywedodd Iesu yn Efengyl Ioan: “Y mae gennyf lawer eto i’w ddweud wrthych, ond ni allwch ddal y baich ar hyn o bryd. Ond pan ddaw ef, Ysbryd y gwirionedd, fe’ch arwain chwi yn yr holl wirionedd; oherwydd nid ohono’i hun y bydd yn llefaru, ond yr hyn a glyw y bydd yn ei lefaru, a’r hyn sy’n dod y bydd yn ei fynegi i chwi”. Ioan 16 12-13
Neu i ddyfynnu’r Pab Francis yn Synod yr Esgobion y llynedd: “Y demtasiwn yw anhyblygrwydd gelyniaethus, a chau eich hun yn y gair ysgrifenedig (y llythyren) a pheidio â gadael i chi’ch hun gael eich synnu gan Dduw, y Duw sy’n llawn syndod, yr Ysbryd”.

Felly mae cymryd y Beibl yn ei gyfanrwydd a chymryd yr hyn a ddywed yn ddifrifol iawn yn gallu ein harwain at safbwynt gwahanol iawn ynghylch perthnasau un-rhyw i’r safbwynt traddodiadol a goleddir gan yr Eglwys. Nid wyf am edrych yn fanwl yma ar y testunau y dywedir eu bod yn ymdrin â’r mater hwn – beth bynnag, nid oes llawer ohonynt i gyd. Wrth i chi eu harchwilio, y cyfan rwyf am ei ddweud yw nad ydyn nhw’n sôn am berthynas fonogamaidd, ffyddlon, gariadlon ac ymroddgar gyda phersonau o’r un rhyw, yn hytrach maen nhw’n ymwneud â rhywbeth cwbl wahanol.

Mae hanesion Sodom a Gomora er enghraifft, yn gysylltiedig â chyfunrywioldeb ac mae hyn wedi creu’r gair difrïol Sodomiad, sydd mewn gwirionedd yn disgrifio camddefnydd ar letygarwch sef yr hyn y mae un awdur yn ei alw yn “haid o dreiswyr yn ceisio ymosod ar ddau ddieithryn a oedd yn westeion i Lot”. Yn wir, mae Eseciel yn dweud bod perthnasau Lot wedi cael eu cosbi’n bennaf oherwydd iddynt wrthod helpu’r tlodion a’r anghenus.

Yn y Testament Newydd hefyd, nid yw rhai o’r darnau a ddyfynnir yn aml yn sôn am berthynas ffyddlon, ymroddgar a chariadlon rhwng pobl o’r un rhyw, ond yn hytrach am bederastiaeth a phuteindra dynion. Ond ar wahân i hynny, ac o dderbyn y gellir dehongli pob darn am gyfunrywioldeb mewn mwy nag un ffordd, down at y cwestiwn sylfaenol, o gymryd y Beibl yn ei gyfanrwydd, a oes modd inni ddod i’r un casgliad am berthynas un-rhyw gariadlon, ffyddlon ac ymroddgar â’r casgliad a gafwyd ynghylch caethwasiaeth.

Nid ydym, trwy hyn, yn troi cefn ar y Beibl ond yn hytrach yn ceisio ei ddehongli mewn modd sy’n gyson â phrif bwyslais gweinidogaeth Iesu, a aeth yr ail filltir i weinidogaethu ymhlith pobl a oedd yn cael eu heithrio, eu gwthio i’r cyrion, a’u hanwybyddu gan Ei gymdeithas oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn aflan ac annuwiol gan arweinwyr crefyddol Ei ddydd, naill ai ar sail eu rhyw, eu hoed, eu moesoldeb neu eu rhywioldeb. Mae rhoi sylw difrifol i’r Ysgrythur Sanctaidd yn golygu rhoi sylw i weinidogaeth gynhwysol Iesu.

Ac mae hyn i gyd heb inni roi’r un ystyriaeth i’r hyn a wyddom am atyniad un-rhyw yn nhermau seicoleg a bioleg a phrofiad pobl gyfunrywiol. A diau, os mai Duw yw’r Creawdwr, mae’n Ei ddatguddio Ei hun i ni trwy wybodaeth a gweledigaeth newydd fel nad oes angen, er enghraifft, i ni gredu bellach fod y byd wedi ei greu mewn chwe diwrnod. Fel rwyf wedi ceisio ei ddangos, mae’r Beibl yn cynnwys nifer o safbwyntiau cwbl wahanol ar yr un mater. Yr hyn a fu’n gyfrifol am y newidiadau hyn oedd twf mewn dealltwriaeth am y mater dan sylw.

Felly, i’r cenedlaethau a fu, ystyrid arfer cyfunrywiol yn fethiant moesol am nad oedd gan bobl ddealltwriaeth o rywioldeb dynol a’r ffordd y mae bodau dynol wedi eu creu yn fiolegol, yn seicolegol ac yn gymdeithasol. Felly, iddyn nhw, anhwylder ydoedd. Erbyn hyn, gwyddom nad dewis personol yw tueddfryd rhywiol, ond yn hytrach, yr hyn ydyw pobl, a dylai hynny wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydyn ni’n gweld pethau.

Yn y gyfrol wych “Amazing Love”, ysgrifennodd y golygydd, Andrew Davison, y geiriau canlynol:
“Rydyn ni’n fwyaf triw i ni’n hunain pan fyddwn ni’n byw er mwyn eraill ac rydyn ni’n cael bywyd buddiol nid trwy gydio’n dynn ynddo ond trwy ei roi i eraill. Mae byw er mwyn eraill yn tanlinellu ystyr eithaf rhywioldeb. Mae Cristnogion wedi gweld bod pobl yn ffynnu ar eu gorau pan fo’r bywyd hwn er mwyn eraill yn canfod ffocws mewn ymrwymiad i un person arall: pan fo pâr yn gwneud ymrwymiad gydol oes sy’n rhoi lle priodol i ryw”.

Mae’r rheiny yn ein plith sydd, neu a oedd wedi priodi, wedi cael profiad o’r sefyllfa uchod. Pam y byddem ni am wrthod sefyllfa bosibl o’r fath i bobl sy’n cael eu denu at bobl o’r un rhyw â nhw eu hunain?