Anerchiad Llywyddol – Y Corff Llywodraethol, Medi 2004

Yn yr anerchiad llywyddol hwn rwyf eisiau siarad am dri mater sydd, neu a ddylai fod, o gonsýrn i bawb ohonom, sef trefn llywodraethu Cymru, dyfodol y Cymun Anglicanaidd a dyfodol yr Eglwys yng Nghymru. Fel y gwelwch dim ond yn y pethau bach y byddaf yn mynd i’r afael â hwy!

Gadewch i mi ddechrau gyda’n cenedl ein hunain – Cymru. Fel y gwyddoch, penododd Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol gomisiwn dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Ivor Richard i adolygu cwmpas pwerau’r Cynulliad a ph’un ai a oeddent yn ddigonol i ateb anghenion Cymru fodern. Roedd y Comisiwn yn cynnwys gwleidyddion o bob plaid, academyddion ac eraill sy’n gwybod llawer iawn am Gymru a phob agwedd o’i bywyd, a daeth i benderfyniad unfrydol ym mis Mawrth eleni y dylai Cymru gael cynulliad deddfwriaethol; bod angen cynyddu nifer aelodau’r cynulliad o 60 i 80 er mwyn ymarfer y pwer hwn a sicrhau sgriwtini cywir, y dylai fod system pleidlais drosglwyddadwy sengl ac y dylai hyn i gyd ddigwydd erbyn 2011. Wel, gallech ddweud ein bod yn gwybod hynny i gyd ond pam y dylech chi fel archesgob ymwneud â’r drafodaeth hon, yn llai fyth gadeirio grwp dan yr enw Cymru Yfory sydd â’r nod o geisio cael trafodaeth ehangach ar argymhellion Comisiwn Richard? Neu a’i ddweud yn llai cwrtais fel a wnaeth rhywun mewn llythyr yn ddiweddar, “Oes gennych chi ddim digon o broblemau i’w datrys yn eich eglwys eich hun a beth sydd gan hyn i gyd i’w wneud gydag arweinwyr crefyddol?” A dyna yw craidd y broblem. Oherwydd goblygiad y feirniadaeth honno yw nad oes gan y ffydd Gristnogol ddim oll i’w wneud gyda bywyd bob dydd ond yn ymwneud gyda pherthynas gyda Duw, ar wahân i broblemau’r byd yr ydym yn byw ynddo. A’r glo man yw fod gormod o bobol yn credu hynny. Iddynt hwy mae’r ffydd Gristnogol ynglyn ag astudio’r ysgrythurau, dweud eich pader a mynd i addoli, ond heb fawr iawn o berthnasedd i’r byd yr ydym yn byw ynddo a’i holl anawsterau. Caiff crefydd wedyn ei wahanu oddi wrth fywyd a medrwch astudio’r ysgrythurau heb ofyn sut maent yn berthnasol i fyw bywyd disgybl yn y byd. A gwyddom yn y gorffennol y cyhuddwyd y Cristnogion hynny a siaradodd allan yn erbyn anghyfiawnder, anghydraddoldeb ac annhegwch bydded hynny gartref neu dramor o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, tra gwelwyd gwir grefydd fel rhywbeth personol a phreifat yn cynnwys moesau personol yr hunan yn unig.

Ond Duw yr Hen Destament a hefyd Dduw yr Iesu yw creawdwr yr holl fyd, byd a greodd allan o gariad, fel fod popeth ynddo sy’n bychanu neu dad-ddynoli pobl o gonsyrn iddo. Ac union ystyr ymgnawdoliad, fel y’i deallaf ef, yw fod Duw yr Iesu wedi ymwneud â llanastr bywyd beunyddiol nid drwy fod yn grefyddol a dim ond mynd i synagogau a themlau ond trwy gyffwrdd â bywydau y rhai oedd wedi eu cau allan gan awdurdodau crefyddol, moesol a gwleidyddol ei ddydd am fod yn anfoesol, anghyffyrddadwy, annuwiol a thrwy gymysgu gyda phobl o’r fath yn beirniadu sefydliadau sifil a chrefyddol y dydd drwy oblygiad yn ogystal â gwneud hynny’n agored ac felly yn gwneud rhai datganiadau pur rymus am Dduw, y byd a’r sefydliad crefyddol.

Yn yr un modd, mae ymwneud â gwleidyddiaeth yn golygu ymwneud â sut y trefnwn ein hunan mewn cymdeithas ac os yw cymdeithas wedi ei threfnu mewn modd sy’n cau pobl allan oherwydd lliw eu croen, eu rhyw neu dueddiad rhywiol yna mae’r Efengyl Gristnogol yn berthnasol. Ac mae’n berthnasol hefyd sut y trefnwn ein hunain fel cenedl. Mae’n sicr gen i ei fod o gonsýrn i Gristnogion a rhai heb fod yn Gristnogion fel ei gilydd fod comisiwn heb gyllell i’w hogi wedi dod i gasgliad y byddai cynulliad cenedlaethol gyda phwerau deddfu sylfaenol yng Nghymru yn golygu Llywodraeth fwy agored ac yn galluogi proses wneud polisi fwy integredig a galluogi anghenion pobl Cymru i gael eu hateb mewn ffordd well nag y cânt yn awr. Hyd yn oed os na all rhywun gytuno gyda’r casgliadau hynny, mae’n sicr gennyf y medrwn gytuno fod y materion yn haeddu eu trafod oherwydd fod comisiwn annibynnol traws bleidiol wedi dod i gasgliad unfrydol a chodi’r materion hyn mewn dogfen unigryw am drefn lywodraethu Cymru. Dyna pam, pan ofynnodd nifer o wleidyddion o wahanol bleidiau a phobl eraill yng Nghymdeithas Ddinesig Cymru i mi gychwyn trafodaeth am y materion hyn y cytunais wneud hynny, ar ôl ymgynghori gyda fy nghyd-esgobion ac arweinwyr crefyddol eraill yng Nghymru. Oherwydd nid oedd y Comisiwn yn ystyried ei fod yn rhan o’i friff i fynd â’r mater ymhellach a dywedodd Prif Weinidog Cymru a gomisiynodd yr adroddiad nad yw yn awr yn bwriadu mynd â’i argymhellion rhagddynt ond yn awr yn cynnig rhywbeth gwahanol. Mae’r adroddiad hwn yn codi mewn ffurf ddwys beth yw natur llywodraeth ddatganoledig. Felly rwyf yn gwrando ar ble Undeb y Mamau (dim llai) y dylai clerigion godi eu llais ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol.

Gadewch i mi yn awr droi at y Cymundeb Anglicanaidd. Rwyf wedi ymwneud llawer mwy â’i fusnes ers dod yn Archesgob nag a ragwelwn. Fy mwriad oedd setlo i fy rôl newydd yng Nghymru ac yna ymwneud â busnes y Cymundeb pe gofynnid i mi wneud hynny. Fel y bu, cefais fy hun yn aelod o Bwyllgor Sefydlog yr Archesgobion ac fel canlyniad ar y Pwyllgor Ymgynghorol Anglicanaidd a phe na bai hynny’n ddigon ar Gomisiwn Eames a hefyd ar y Pwyllgor Apwyntiadau ar gyfer yr Ysgrifennydd Cyffredinol newydd. Penodwyd cyd-Gelt yn Ysgrifennydd Cyffredinol (fel y gwyddoch efallai) – y Canon Ken Kearon o Eglwys Iwerddon – Cyfarwyddwr Ysgol Eciwmenaidd Iwerddon. Bydd yn dod â gallu deallusol sylweddol a chymeriad deniadol iawn i’r Cymun, yn ogystal â’i brofiad o ddatrys gwrthdaro a chyfryngu yng Ngogledd Iwerddon. Ond mae cymryd rhan yn hyn i gyd wedi golygu fy mod wedi treulio llawer o amser ar faterion y Cymundeb .

Mae Comisiwn Eames yn cwblhau ei adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Archesgob Rowan. Fe’i trafodir ym mis Hydref gan Bwyllgor Sefydlog y Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd a Phwyllgor Sefydlog yr Archesgobion ac yna fis Chwefror nesaf gan 38 Archesgob y Cymundeb yn cwrdd yng Ngogledd Iwerddon. Gofynnir i bob Archesgob ymofyn barn eu Taleithiau cyn y cyfarfod. Mae hyn yn cyflwyno ychydig o broblemau i ni yng Nghymru. Yn gyntaf, mae’n amlwg na fedraf ddweud wrthych beth sydd yn yr adroddiad oherwydd fod hynny, ar hyn o bryd, yn gyfrinachol ac yn ail ni fydd y Corff Llywodraethol yn cael cyfle i edrych arno cyn i’r Archesgobion gwrdd, felly nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd sut i ymofyn barn y Dalaith. Byddaf yn ei drafod gyda fy nghyd-Esgobion ond efallai y medrid sefydlu grwp o’r Dalaith i edrych arno a rhoi sylwadau. Nid yw’n adroddiad sy’n rhoi atebion diffiniol i fater gwrywgydiaeth yn yr eglwys, fel y cred llawer o bobl. Nid oedd hynny’n rhan o dasg y Comisiwn. Yn hytrach gofynnwyd i’r Comisiwn ganfod ffyrdd o gadw’r Cymundeb ynghyd pan roedd rhai taleithiau wedi symud ymlaen ar faterion neilltuol (ac nid oedd y materion hynny o reidrwydd yn ymwneud â rhywioldeb, er mai hynny oedd y syniadau oedd yn cyflwyno eu hunain y pryd), yr oedd taleithiau eraill yn eu hystyried fel dadleuol a phroblematig. Yn gryno, sut ydym yn gwneud penderfyniadau fel Cymun? Sut ydym yn llywodraethu ein bywyd cyffredin? Pa ddulliau sydd gennym ar gyfer ymgynghori neu ffrwyno?

Ond medrech ofyn, pam fod y Cymundeb Anglicanaidd yn cyfrif? Mae’n cyfrif oherwydd fod Cymundod yn rhodd Duw i ni, ac na ddylem feiddio gwrthod yr hyn a roddodd Duw i ni. Yn y Cymundeb hwn mae Duw wedi rhoi pobl i ni sy’n wahanol iawn i ni’n hunain. Fodd bynnag ei rodd Ef i ni ydynt, fel y medrwn ni, gobeithio, fod yn rhodd iddynt hwy. Mae rhoddion yn fodd gras ac yn hynny o beth dylent gael eu coleddu a’u maethu, nid eu gwrthod a’u bwrw o’r neilltu. Mae’r Cymundeb yn cynnwys bron 100 miliwn o Anglicaniaid o wahanol wledydd ein byd. Maent yn bobl fel ni sy’n credu yn awdurdod yr ysgrythur, y credoau, y sacramentau a’r esgobaeth hanesyddol ond sydd mewn ffyrdd eraill yn wahanol iawn i ni yn ddiwylliannol. Fel y dywedodd un adroddiad, “mae’r Cymundeb yn disgrifio grwp diwinyddol dynodadwy o eglwysi rhanbarthol neilltuol sy’n ymgorffori ffydd catholig diwygiedig ac yn olrhain eu bodolaeth wreiddiol a’u hysbrydoliaeth i genhadaeth neu weinidogaeth Eglwys Lloegr neu eglwysi a gysylltir yn agos â hi.”

Mae’r Cymundeb yn cyfrif oherwydd yn ein byd yn aml y sefydliadau anllywodraethol yn hytrach na llywodraethau sy’n mynegi dyheadau poblogaethau. Mae’r Cymundeb Anglicanaidd yn un o sefydliadau anllywodraethol mwyaf y byd ac felly mae ganddo gyfraniad pwysig i’w wneud fel cymdeithas sifig rhyngwladol yn dod â gobaith, cymod a thrawsffurfiad i gymunedau ein byd. Gwelsom sut y digwyddodd hynny eisoes mewn gwledydd megis Kenya a De Affrica. Mae’r Cymundeb yn cyfrif felly oherwydd y dystiolaeth o wirionedd a chyfiawnder a rydd i’n byd yn ogystal â mynegiad hollbwysig o’r hyn y mae’n olygu i fod yn aelod o’r teulu Cristnogol. Mae gan y Cymundeb hwn hefyd gysylltiadau cyfeillach ar draws y byd, cysylltiadau partneriaeth a chenhadaeth, rhwydweithiau rhyng-Anglicanaidd a’r urddau crefyddol yn helpu i’w rwymo at ei gilydd. A ydym eisiau taflu’r cyfan o hynny ymaith?

Oherwydd y mae’n Gymundeb byw ac nid Ffederasiwn fel sydd gan yr Eglwys Lwtheraidd. Felly nid oes unrhyw awdurdodaeth ffurfiol yn gorgyffwrdd ar wahân yn Ewrop ac fel yr allforiwyd Anglicaniaeth, nid eglwys hierarchaidd yn cael ei rhedeg yn ganolog gyda undod yn cael ei gynnal drwy ddyfarniadau awdurdodol oedd y model ond model teuluol a gedwir at ei gilydd trwy rwymau hoffter. Mae Lwtheriaeth yn cynnwys nifer o grwpiau a fodolai ymlaen llaw yn dod ynghyd drwy gytundeb. Fodd bynnag mae’r model teuluol yn deillio o daleithiau yn adeiladu ffyrdd o leisio’r rhwymau sydd ganddynt yn gyffredin wrth iddynt ddatblygu. Mae’r dull teuluol yn wahanol i’r model ffederal gan fod y model ffederal yn cynnwys eglwysi yn dod ynghyd ac yn rhoi’r gorau i rai hawliau a breintiau er mwyn ennill eraill. Mae’r model teuluol yn cydnabod yr hanes a’r traddodiadau sydd yn ein huno ac sydd angen rhyw fath o gefnogaeth sefydliadol. Y gwahaniaeth rhwng y model ffederaidd a’r model teuluol yw’r gwahaniaeth rhwng grwp o ffrindiau yn rhentu ty gyda’i gilydd a theulu yn byw gyda’i gilydd dan yr un to.

Ysgrifennodd yr Athro David Hardy y canfyddir undod mewn Anglicaniaeth drwy symud tuag at eraill, dim mewn symud ar wahân, pa bynnag mor dda yw’r rhesymeg dros hynny. Pam, oherwydd y mae’n ymateb i symudiad Duw tuag at ei fyd ac fel y dywedodd Effesiaid 4:2-3: “Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi”. Y cwestiwn hollbwysig felly yw sut y medrwn wneud hynny? Gadewch i mi amlinellu tair ffordd y medrir gwneud hynny’n bosibl:

Yn gyntaf, drwy wrando ar ein gilydd. Medrir crynhoi hyn orau mewn darn a welais y diwrnod o’r blaen, er nad oes ganddo ddim i’w wneud gyda’r Cymundeb Anglicanaidd ynddo’i hun, ond medrem yn bendant fanteisio o’r cyngor:

“A fedri ddim ond gwrando? Pan ofynnaf i ti wrando arnaf a’th fod yn dechrau rhoi cyngor i mi, nid wyt wedi gwneud yr hyn a ofynnais. Pan ofynnaf i ti wrando arnaf ac y dechreui ddweud wrthyf pam na ddylwn deimlo felly, rwyt yn sathru ar fy nheimladau. Pan ofynnaf i ti wrando arnaf a’th fod yn teimlo fod yn rhaid i ti wneud rhywbeth i ddatrys fy mhroblem, rwyt wedi fy siomi, er y gall hynny ymddangos yn od. Gwrandawa. Y cyfan a ofynnais oedd i ti wrando, dim siarad na gwneud, dim ond fy nghlywed”.

Yn ail, mae angen i ni gofio ein traddodiad Anglicanaidd a’n ffordd neilltuol o wneud diwinyddiaeth. Isaac Williams, Is Gadeirydd y Coleg hwn a Thractariad Cymreig ar ben hynny, a ysgrifennodd yn “Reserve in Communicating Religious Knowledge”. Meddai “We need an abstention from over-hasty doctrinal definition and a commitment to the mystery of God’s presence with us”. Mewn geiriau eraill, bu Anglicaniaeth am gwestiynau terfynol ac nid atebion terfynol. Roedd gan Richard Hooker, y diwinydd o’r 16g hyn i’w ddweud yn ei Law of Ecclesiastical Polity: “Although to know God be life, and joy to make mention of his name: yet our soundest knowledge is to know that we know him not as indeed he is, neither can know him: and our safest eloquence concerning him is our silence, when we confess without confession that his glory is inexplicable, his greatness above our capacity and reach. He is above, and we upon earth; therefore it behoveth our words to be wary and few”. Dywedodd y salmydd, rwyt yn Dduw sy’n cuddio dy hun. Felly ni fyddai bod ychydig yn dawedog am sut yn union y mae Duw yn datgelu ei hunan yn ddrwg o beth.

Yn drydydd, mae angen i ni gofio fod tystiolaeth yr Efengyl a Iesu am gymuned gynhwysol, nid cymuned sy’n allgau. Mae hyn yn golygu cysylltu gyda ac ymdrechu i ddeall a gwerthfawrogi, yn ogystal â derbyn fel brodyr a chwiorydd nid yn unig y bobl sydd debycaf i ni neu sy’n perthyn i ni neu yr ydym yn teimlo’n gysurus yn eu cwmni, ond y rhai sydd lleiaf tebyg i ni a’r rhai y medrem ei chael yn anodd gyd-dynnu gyda hwy. Richard Hooker eto, “Pray God that none may be offended if I seek to make the Christian religion an inn where all may be received joyously rather than a cottage where some few friends or family might be entertained”.

Un o’r darnau allweddol o Ddatganiad Lambeth 1.10 1998 ar rywioldeb dynol oedd, a dyfynnaf, “the Anglican Communion commits itself to listen to the experience of homosexual persons and wishes to assure them that they are loved by God and that all baptised believing faithful persons, regardless of sexual orientation, are full members of the body of Christ”. Mae’n adran sy’n tueddu i gael ei hanwybyddu. Mae’n dda felly fod gennym yn awr yn y Dalaith ganllawiau astudio i’w cymeradwyo i chi yn deillio o’n trafodaethau yn y Corff Llywodraethol hwn fis Medi diwethaf. Byddwch yn cofio i’r Esgobion addo arweiniad astudio i roi rhywbeth i feddwl ac adfyfyrio arno. Bydd y canllawiau hyn ar gael yn fuan yn Theology Wales, dan olygyddiaeth y Parch Jenny Wigley, ac mae’n cynnwys erthyglau a ysgrifennwyd o sawl safbwynt gwahanol. Mae’n ffaith fod pobl yn cael eu herlyn mewn llawer o wledydd y byd yn unig oherwydd eu tueddiad rhywiol. Mewn gwirionedd, mae 80 o wledydd yn y byd sy’n erlyn pobl hoyw a lesbiaid drwy godau penydiol gyda chosbedigaeth yn amrywio o farwolaeth i lurgunio a charchariad. Nid ydym, fel eglwys, eisiau gwneud unrhyw beth sy’n ychwanegu at ddioddefaint ac ymyliad pobl o’r fath.

Gadewch i mi yn awr yn olaf symud at yr Eglwys yng Nghymru. Dylai’r problemau sy’n ein hwynebu fod yn weddol rhwydd eu datrys o gymharu â phopeth arall a ddywedais hyd yma!! Yn y Corff Llywodraethol hwn byddwn trafod holl fater maint aelodaeth y corff hwn a hefyd waith Grwp Adolygu CC ar gyllid a strwythur yr Eglwys yng Nghymru. Nid oes amheuaeth fod yr Eglwys yng Nghymru yn wynebu mwy o newidiadau yn y deng mlynedd nesaf nag ers Datgysylltu. Roedd Datgysylltu yn codi arswyd ar y rhan fwyaf o bobl pan gafodd ei fygwth ac yn sicr ymysg yr holl Esgobion yng Nghymru yn y 1900au. Dros y blynyddoedd fodd bynnag daeth datgysylltu i gael ei ystyried yn un o’r pethau gorau a fedrai wedi digwydd i ni gan i ni ddod yn annibynnol o’r wladwriaeth ac yn gyfrifol am ein busnes ein hun. Yn yr un modd gall rhai fod yn gweld gwaith y Grwp Adolygu CC fel dogfen ofnadwy. Ond mewn amser gall yn rhwydd gael ei weld fel un o’r pethau hanfodol oedd angen iddo ddigwydd i ni fel eglwys. Pam fy mod i’n dweud hynny? Cafodd yr Eglwys yng Nghymru fwy o glustog ariannol dros y blynyddoedd nag unrhyw un dalaith arall yn y Cymundeb Anglicanaidd cyfan. Cafodd y rhan fwyaf o’r costau o redeg ein heglwys hyd yma eu talu gan gronfeydd canolog yr eglwys a gyllidir gan roddion y gorffennol. Mae’r Adroddiad hwn yn hollol onest gyda ni fel eglwys wrth dweud nad yw maint y cymhorthdal ariannol a dderbyniwyd yn y gorffennol yn gynaliadwy mwyach oherwydd nad yw’r arian yno. Mae diffyg ar ein cyllideb ganolog ac mae’n bil pensiwn yn tyfu’n fwy ac yn fwy. Mae’n rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb ariannol dros redeg yr eglwys hon. Y trafferth gydag unrhyw fath o ddibyniaeth yw ei fod yn ein rhwystro rhag cymryd cyfrifoldeb llawn dros ein busnes ei hun. Yr hyn y mae’r Grwp Adolygu CC yn ei ddweud wrth esgobaethau’r Eglwys yng Nghymru yw, o 2009 ymlaen, y bydd y cymhorthdal ar gyfer cynnal y weinidogaeth yn diflannu’n llwyr ac o 2007 i 2009 yn lle bod yr eglwys yn ganolog yn talu am eitemau penodol o wariant, y bydd yn rhoi bloc grant i bob esgobaeth a gall pob esgobaeth benderfynu drosti’i hun yn union ar beth mae eisiau gwario ei arian. Gall y bloc grant hwnnw hefyd ddiflannu ar ôl 2009 yn dibynnu ar yr hinsawdd ariannol. Mae’n golygu fod yn rhaid i ni fod yn ddigon aeddfed i wynebu’r her honno ac i ymateb i’r gofynion ariannol a wneir arnom mewn modd a wnaeth ein chwaer daleithiau am flynyddoedd ac yn y ffordd a wnaeth ein heglwys ein hunain yn y 1920au ar ôl datgysylltu. Os edrychwch ar Eglwys Lloegr, Eglwys Esgobol yr Alban neu Eglwys Iwerddon, heb sôn am unrhyw dalaith arall yn y Cymun, yna byddwch yn gweld iddynt hwy wynebu’r sefyllfa sy’n ein hwynebu ni yn fawr amser maith yn ôl. Maent wedi codi i’r her ac mae’n rhaid i ninnau wneud hynny hefyd. Mae hefyd yn golygu y byddwn fel esgobaethau yn y dyfodol yn penderfynu ar ein gwariant ein hun oherwydd mai ni fydd yn gyfrifol am ei godi. Mae’n eironig nad oes neb yn fy nghwestiynu fi fel Esgob os penderfynaf gyflogi deg yn fwy o glerigwyr oherwydd tybir fod hynny yn ddefnydd da a chywir o adnoddau. Y funud y cyflogaf un lleygwr i edrych ar ôl anghenion lleygwyr, yna clywir y waedd “o ble mae’r arian i ddod”. Gobeithiaf na fydd hynny’n digwydd dan y system newydd oherwydd y byddwn yn sylweddoli fod yn rhaid i unrhyw eglwys aeddfed baratoi lleygwyr yn ogystal â chlerigwyr ar gyfer cennad a gweinidogaeth Duw. Mewn gwirionedd yr hyn sydd angen i ni wneud, fel a wneir yn glir yn adroddiad yr esgobion o’r adroddiad hwn, yw cydnabod fod cenhadaeth a gweinidogaeth yn eiddo i ni gyd oherwydd ein bedydd ac nid yn unig i’r clerigwyr a bod y clerigwyr yma i helpu’r eglwys gyfan i wasanaethu Duw yn Ei genhadaeth tuag at y byd.

Y trafferth gyda ni yn aml iawn fel eglwys yw ein bod yn pleidleisio dros bethau mewn egwyddor neu’n derbyn mewn theori y sefyllfa yr ydym ynddi, ond yn tynnu’n ôl pan ddaw i wneud y penderfyniadau caled. Mae gennym hanes fel eglwys o ddweud ein bod yn cymeradwyo llu mawr o bethau mewn theori ond yn cael traed oer pan ddaw i droi’r theori yn ymarfer. Felly yn y 1970au fe wnaethom bleidleisio mewn theori dros strwythur hollol newydd ac ad-drefnu esgobaethau. Pan aeth i’r pen pleidleisio dros y status quo a wnaethom . Yn niwedd y 1980au fe wnaethom bleidleisio mewn theori dros esgobaeth Archesgobol. Pan daeth i’r pen pleidleisio dros y status quo a wnaethom . Yn y 1960au fe wnaethom ddweud nad oedd mewn theori unrhyw wrthwynebiad diwinyddol i Ordeinio Menywod i’r Ddiaconiaeth ac Offeiriadaeth felly roeddem ymysg y taleithiau cyntaf i ordeinio menywod i’r ddiaconiaeth. Wedyn cawsom draed oer am eu hordeinio i’r offeiriadaeth ac ni wnaethom hynny hyd 1997. Roeddem ymysg y cyntaf i bleidleisio dros ddiwygio’r litwrgi yn y 1960au. Yna ni chawsom fawr neu ddim ad-drefnu ar y litwrgi hyd ddechrau’r 90au. Fe wnaethom bleidleisio mewn theori dros esgob eciwmenaidd ac yna wrthod y cynnig oedd o’n blaenau. Gobeithiaf y bydd pethau’n wahanol y tro hwn ac na fyddwn wrth i ni wynebu rhai penderfyniadau caled yn dweud “rydyn ni’n cymeradwyo mewn theori ond peidiwch i ni roi ein cymeradwyaeth ar brawf”. Mae’n amser penderfynu i’r Eglwys yng Nghymru. Gobeithiaf na fyddwn yn ein cael yn brin.