Anerchiad Llywyddol – Y Corff Llywodraethol, Ebrill 2016

Mae yna nifer o faterion ym Mhrydain, ac yng Nghymru yn arbennig, ar hyn o bryd, y mae a wnelont â ffyniant pawb ohonom.

Rwy’n cyfeirio at faterion y byddwn yn eu trafod maes o law yn y Corff Llywodraethol hwn – ethol Cynulliad newydd i Gymru a all newid y tirwedd gwleidyddol, a’r Refferendwm ar Ewrop, a fydd, beth bynnag y canlyniad, yn effeithio ar ein dyfodol fel gwlad.

Mae drafft newydd diwygiedig o Fil Cymru ar y gweill, a fydd yn effeithio ar gyfeiriad a natur datganoli. Ac wrth gwrs mae dyfodol y diwydiant dur yn y fantol. Mae gan hynny oblygiadau i Gymru gyfan, ond yn enwedig i drefi fel Shotton a Phort Talbot y mae eu bodolaeth yn dibynnu ar ddur.

Does gan Gristnogion ddim atebion hawdd a rhwydd a phendant i’r un o’r materion hyn, ac fe fyddwn yn anghytuno’n onest â’n gilydd ar sut i ymateb iddynt. Does yna byth un ateb Cristnogol syml i gwestiynau gwleidyddol neu foesegol cymhleth. Ond fe ddylai cwestiynau o’r fath fod o bwys i ni i gyd am eu bod yn cael effaith ar sut wlad a chymdeithas yr ydym yn byw ynddynt. Ac os nad oes gennym ni, Gristnogion, ddim i’w ddweud amdanynt, neu’n waeth fyth ein bod yn honni, fel y gwna rhai, nad oes a wnelont ddim â ni, ac y dylid eu gadael i wleidyddion, yna yr hyn yr ydym yn ei ddweud mewn gwirionedd yw bod y ffydd Gristnogol wedi’i chyfyngu i bethau personol a chrefyddol yn unig ac nad oes ganddi ddim i’w ddweud am ein bywyd gyda’n gilydd fel cymdeithas a chenedl.

Mae hynny’n gwbl groes i ddysgeidiaeth proffwydi’r Hen Destament a fu’n llefaru yn erbyn cam-drin tlodion ac o blaid pobl a wthiwyd i’r cyrion ac nad oedd neb i siarad drostynt, ac yn groes i weinidogaeth Iesu a ddywedodd iddo ddod i achub pobl rhag popeth a oedd yn eu caethiwo a’u bychanu fel bodau dynol a luniwyd ar ddelw Duw.

Gadewch imi felly ddweud rhywbeth yn fyr am bob un o’r materion hyn, ac wrth gwrs siarad yn bersonol yr ydw i.

Mae Cytûn a Chynghorau Eglwysi lleol wedi trefnu hustyngau at etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, i holi ymgeiswyr ar safbwynt eu pleidiau ar yr economi, diwydiant, addysg a’r Gwasanaeth Iechyd, i enwi dim ond pedwar pwnc. Mae’n hawdd anghofio mai ar gryn gost yr enillwyd yr hawl i bleidleisio yn y wlad hon, a bod gennym ni Gristnogion ddyletswydd foesol i arfer yr hawl honno. Un peth a ddylai achosi pryder yw bod rhai gwleidyddion, heb unrhyw gysylltiad â Chymru na diddordeb ynddi tan yn awr, yn defnyddio’r etholiadau hyn i ddilyn eu hagenda eu hunain a hyrwyddo eu gyrfaoedd eu hunain. Ni all hynny fod o unrhyw les i Gymru.

Ar fater Ewrop, mae yna berygl gwirioneddol i bobl gael eu harwain gan sut y mae pethau’n edrych ar y pryd, yn hytrach na chan yr egwyddorion a ddylai oleuo penderfyniad mor dyngedfennol bwysig. Bydd y canlyniad yn ffurfio pedair gwlad y Deyrnas Gyfunol am genhedlaeth a mwy, ac ni ddylid cyfyngu’r drafodaeth i’r ddau bwnc y bu’r mwyaf o sôn amdanynt hyd yma, sef economeg a mewnfudo. Daeth yr Undeb Ewropeaidd i fod yn wreiddiol nid am resymau economaidd ond fel undeb o genhedloedd, er y lles cyffredin, i hyrwyddo heddwch, rheolaeth y gyfraith, y broses ddemocrataidd a hawliau dynol, a bu’n gyfrwng i gynorthwyo rhai o wledydd y bloc Dwyreiniol gynt i gyflawni rhai o’r amcanion hyn.

Yn achos y drafft newydd o Fil Cymru, newidiodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, ei feddwl yn dilyn cwynion gan yr holl bleidiau, arbenigwyr ar y gyfraith a llawer o bobl yng Nghymru, gan gynnwys y Fainc. Bwriedid i Fil Cymru sefydlu ‘cytundeb datganoli cryfach, cliriach a thecach’, ond teimlid nad oedd yn cyflawni’r amcanion hynny, ac yr ydym yn awr yn aros am ddrafft newydd.

At y diwydiant dur. Mae’r sefyllfa’n newid yn ddyddiol. Rai misoedd yn ôl, pan ddaeth y bygythiad o golli swyddi, ysbardunwyd yr eglwysi yn nhref Port Talbot i gefnogi’r gymuned wrth iddi wynebu’r argyfwng. Bellach mae’r sefyllfa’n llawer gwaeth, gyda bygythiad i gau pob gwaith dur yn y Deyrnas Gyfunol. Ffurfiodd grŵp o un-ar-bymtheg o bobl o eglwysi a chapeli Port Talbot dîm o weinidogion i gynorthwyo caplan Tata i gefnogi pobl sy’n brwydro yn erbyn straen. Sefydlwyd canolfan gynghori ar ddyled yn un o’r eglwysi ac agorwyd mwy o fanciau bwyd yn wyneb y gofyn cynyddol a ddisgwylir. Mae hyn oll i’w ganmol. Ein tuedd weithiau yw anghofio cymaint y mae Cristnogion yn ei wneud yn eu cymunedau. Serch hynny, mae’r dyfodol yn ymddangos yn llwm i dref Port Talbot, fel yr oedd yn y gorffennol i Lyn Ebwy a Llanwern.

Roedd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr argyfwng yn un mor ddifrifol nes iddi ailgynnull y Cynulliad, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gobeithio dod o hyd i ateb. Nid argyfwng i Bort Talbot yn unig mo hwn, na hyd yn oed i Gymru’n unig. Mae’n argyfwng i Brydain gyfan. Mae’n codi’r cwestiwn o strategaeth ddiwydiannol i’r Deyrnas Gyfunol, gan mai dur yw sylfaen ei diwydiant cynhyrchu a’i fod felly’n effeithio ar lawer diwydiant arall.

Beth ellir ei wneud? Nid wyf yn economegydd, ond mae’n ffaith bod trethi busnes yn y diwydiant dur yn y Deyrnas Gyfunol yn llawer uwch nag ydynt mewn rhannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd, ac y mae costau ynni yn ôl tunnell o ddur a wneir yn y Deyrnas Gyfunol yn fwy na dwbl yr hyn ydynt yn yr Almaen. Mae gwledydd eraill wedi gosod trethi ar fewnforio a rhoi cymhorthdal helaeth i gynhyrchu dur. Os caeir pob gwaith dur, y perygl yw y bydd pris dur yn cynyddu, ac fe gaiff hynny effaith bellgyrhaeddol ar ein heconomi a’n diwydiant. Fe fydd hi’n rhy hwyr erbyn hynny, a bydd bywydau pobl mewn lleoedd fel Port Talbot, y lluniodd y diwydiant dur eu cymunedau, yn deilchion.

Os oedd y diwydiant bancio – nad yw byth wedi llwyr sylweddoli maint ei achubiaeth, a barnu oddi wrth ymddygiad rhai o’i aelodau – yn werth ei achub, does bosib nad yw’n werth sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol. Mae 1055 o gwmnïau yn y Deyrnas Gyfunol yn cynnwys gwneud neu gynhyrchu dur yn un o feysydd pwysicaf eu busnes. Mae a wnelo dyfodol y diwydiant â gobeithion gwaith miloedd lawer o bobl.

Fe hoffwn yn awr sôn am rywbeth mwy personol.

Efallai nad anerchiad y llywydd yw’r enw iawn am yr hyn y byddaf yn ei draddodi heddiw. Mae’n wir fy mod yn llywyddu dros y Corff Llywodraethol, ond fe fydd fy anerchiad heddiw’n fwy personol na’m hanerchiadau aferol. Rwyf am ddechrau trwy ddiolch i’r rhai hynny ohonoch a ysgrifennodd ataf yn dilyn marwolaeth Hilary ym mis Ionawr. Erbyn hyn, rwyf wedi derbyn ymhell dros fil o lythyrau, ebostiau a chardiau, ac y mae’n amhosibl imi ymateb i bob un. Peidiwch â meddwl bod hynny’n golygu nad oeddwn yn gwerthfawrogi eu derbyn. Cefais fy nghyffwrdd yn ddwfn gan ofal a chydymdeimlad pobl, ac rwy’n gobeithio y derbyniwch fy niolch i chwi fel corff am eich holl ofal amdanom fel teulu.

Wrth siarad fel rwy’n bwriadu gwneud â chwi, rwy’n gobeithio nad wyf yn bod yn hunan-faldodus na dagreuol. Yn sicr, nid dyna fy mwriad. Ond y mae a wnelo diwinyddiaeth â gwneud synnwyr o’n cred yn Nuw yng ngoleuni ein profiad o fywyd, neu yng ngeiriau Archesgob presennol Caergaint, “Mae a wnelo Cristnogaeth â’r profiad bywiol o Dduw yn holl amgylchiadau a holl amseroedd bywyd, gan gynnwys popeth y gall bywyd ei luchio atom”. Ac felly rwy’n bwriadu sôn am ganser, marwolaeth, marw a phrofedigaeth, yn y gobaith y bydd yr hyn sydd gennyf i’w ddweud yn gymorth i eraill, oherwydd bydd gan lawer ohonoch brofiad uniongyrchol neu brofiad teuluol o’r holl bethau hyn.

Y syndod yw bod pobl, hyd yn oed yn y trydydd mileniwm hwn, yn dal i sôn am ganser mewn sibrydion; bydd rhai yn osgoi dweud y gair o gwbl. Ac mae pobl yn dal yn betrus ynglŷn â defnyddio’r geiriau “marwolaeth” a “marw”. Yr ymadroddion a glywir yn fwyaf cyffredin yw “wedi’n gadael ni” neu “wedi huno”, fel pe bai’r ymadroddion hynny’n llai terfynol a chreulon na’r gair “marw”.

Yn oes Victoria, pan oedd pobl yn marw’n llawer ieuangach, ac yn marw gartref fel rheol, roedd sôn am farwolaeth a marw’n llawer mwy cyffredin. Nid felly bellach. Y paradocs yw bod rhaglenni difrifol ar farwolaeth,marw a phrofedigaeth i’w cael yn aml ar deledu a radio, fel bod cryn dipyn o drafod cyhoeddus ar y pwnc. Yr ydym hefyd yn byw mewn byd lle y ceir adroddiadau beunyddiol am drais a marwolaethau erchyll.

Ac eto mae mwy a mwy o bobl yn ein cymdeithas wedi tyfu i fyny heb erioed weld marwolaeth naturiol perthynas. Mae llawer yn cyrraedd canol oed heb unrhyw brofiad uniongyrchol o brofedigaeth, ac erbyn hyn mae dros 70% o farwolaethau’n digwydd nid yn y cartref ond mewn ysbytai, cartrefi preswyl neu hosbisau. Yn aml hefyd, ystyrir marwolaeth yn rhywbeth preifat.

Mewn cyfres ddiweddar o raglenni teledu ar farwolaeth a marw, roedd cyfranwyr gyda diddordeb proffesiynol – cwnselwyr, ymgymerwyr angladdau a meddygon – yn siarad am y pwnc yn rhwydd; ond troi’r stori a wnaent pan ofynnid iddynt siarad am eu hagwedd at eu marwolaeth hwy eu hunain. Roedd anfodlonrwydd amlwg i drafod eu marwolaethau personol yn agored. Yn ei lyfr ar Farw, dywed John Hinton, “Peth anghyffredin yw i bobl siarad yn agored am farw.”

Roedd arna i rywdro eisiau claddu llwch ym mynwent amlosgfa ar y Sul. Derbyniais lythyr oddi wrth arolygydd yr amlosgfa (yn Lloegr yr oedd hi) yn dweud: “Mae’n ddrwg gennyf na allwn ganiatáu i chwi wneud hyn ond rhwng 9.30am a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, oherwydd ni allwn ganiatáu i bobl mewn galar sy’n gofalu am feddau weld angladdau am fod hynny’n achosi gofid iddynt.”

Ond os nad ydym ni Gristnogion yn fodlon wynebu realiti – ac, ar un ystyr, terfynoldeb – marwolaeth, pwy wneith hynny? Ac os dygais i rywbeth gan Hilary (ac fe ddysgodd hi lawer imi am sawl peth dros y blynyddoedd, trwy fod y math o berson oedd hi yn fwy na thrwy ddim a ddywedodd yn agored, a dyna yn y diwedd yw hanfod bod yn ddisgybl i Grist), fe ddysgais oddi wrth ei pharodrwydd i wynebu realiti’r hyn a oedd yn digwydd iddi wrth i’r canser fynd rhagddo trwy fod yn gwbl agored a gonest amdano, er syndod i lawer, hyd yn oed i’w ffrindiau.

Nid un afiechyd yw canser, wrth gwrs, ond teulu cyfan o afiechydon, rhai’n fwy difrifol na’i gilydd. Gellir dileu rhai a’u mendio; mae eraill yn arwain at farwolaeth sydyn; mae eraill eto’n golygu salwch hir. Ym Mhrydain fe ganfyddir bod rhyw fath o ganser ar naw cant o bobl bob dydd. Does ar rai pobl, wrth gwrs, ddim eisiau gwybod beth yw’r rhagolygon.

Roedd arnom ni eisiau gwybod, a dywedwyd wrhym mai cyfartaledd y cyfnod goroesi i rai â’r math o ganser a oedd gan Hilary (canser y fron a oedd yn awr wedi lledu i rai o brif organau eraill y corff) oedd dwy i dair blynedd. Gyda’i meddwl cyfreithiol craff, sylwodd hi fod hynny’n golygu bod yna rai na fyddent yn byw am ddwy i dair blynedd. Ychwanegais innau braidd yn wan ei fod hefyd yn golygu y gallai rhai fyw’n hwy na hynny. “Fydda i ddim yn un o’r rheini,” meddai hithau’n dawel. “Mae fy nghanser i’n un ymosodol ac wedi lledu i nifer o’m horganau”. Ac roedd hi’n iawn – i fod yn fanwl, fe fu hi byw am ugain mis.

Yr hyn sy’n rhaid inni ei wneud,” meddai, yng nghanol ein gofid a’n dagrau, “yw ceisio byw bywyd yn llawn, canolbwyntio ar yr hyn sydd gennym, yn lle poeni am yr hyn nad oes gennym, neu fe fyddwn yn gwastraffu’r amser sydd ar ôl inni gyda’n gilydd. O leiaf, fe wyddom beth sy’n dod”. Dyma’r hyn a alwodd un cyfrinydd yn “sacrament yr ennyd sydd ohoni”. Ac unwaith eto, roedd hi’n llawer gwell am wneud hynny na mi. Gallai wynebu’r ffaith bod angau’n rhythu arni, a doedd arni ddim ofn, er bod arni, wrth gwrs, yn angerddol eisiau byw.

Fe’m hatgoffwyd o’r Esgob John Robinson, awdur y llyfr enwog Honest to God, a ysgrifennodd pan ganfuwyd yn yr wyth degau bod canser marwol arno: “Er bod y rhagolygon yn wael, yr ydym yn pryderu nid am hyd bywyd ond am ei ddyfnder a’i ansawdd, a bwriadwn eu harchwilio’n llwyr.”

Wrth gwrs, yr ydym i gyd yn wahanol. Doedd ar rai pobl y bûm yn gweinidogaethu iddynt ddim eisiau trafod y peth. Ysgrifennodd y Fonesig Cicely Saunders o fudiad Hosbis Sant Christopher fod yn rhaid parchu’r math yna o dawedogrwydd. Ond mae hynny’n wahanol i’r math o beth a ddisgrifiwyd unwaith gan yr Archesgob Anthony Bloom: “Fe ŵyr y wraig, yn ei chorff a’i henaid, bod marwolaeth yn dod; ond mae’r gŵr yn gwenu, y ferch yn gwenu, y nyrs yn gwenu, y meddyg yn gwenu, pawb yn gwenu mewn modd sydd iddi hi yn amlwg yn gelwydd … a’r canlyniad yw gofid, sy’n ei gadael i wynebu marwolaeth mewn unigrwydd ofnadwy”.

Fe wyddem beth ooedd o’n blaen, ond roedd Hilary’n mynnu fy mod i’n gwadu’r peth, ac o edrych yn ôl, rwy’n gweld bod hynny’n wir. Yn ei geiriau hi, “Rwyt ti’n dal i feddwl a gobeithio na ddigwyddith e ddim, a dyw hi’n dda i ddim meddwl fel yna, oherwydd mae e’n mynd i ddgwydd a rhaid inni wynebu hynny.” Unwaith eto, fe’m hatgoffwyd o eiriau’r Esgob John Robinson, yn ei bregeth olaf yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt: “Dylai Cristnogion allu goddef realiti a dangos i eraill sut i’w oddef, neu beth a ddywedwn ni am y groes, realiti canolog ein ffydd?” Fe hoffwn i ddweud Amen i hynny, ond rhaid imi gyfaddef imi ei chael yn enbydus o anodd. Ond doedd ar Hilary ddim eisiau cael ei diffinio gan ei chanser ychwaith, fel pe na bai dim arall am ei bywyd yn bwysig. “Fi ydw i o hyd”, meddai, “mae’n digwydd bod canser arna i, ond mae arna i eisiau cario ymlaen â gweddill fy mywyd cystal ag y galla i.”

Mae’r Litani’n cynnwys y geiriau hyn: “Rhag marwolaeth sydyn, Arglwydd trugarog, gwared ni.” Fedrwn ni, wrth gwrs, ddim dewis sut a phryd y byddwn farw, ond pan gaiff rhywun wybod bod afiechyd marwol arno, fe gaiff ef a’r teulu gyfle i’w paratoi eu hunain at yr hyn sy’n dod, er mai’r gwir yw na all neb baratoi’n ddigonol, os o gwbl. Y cyfan y gellir ei ddweud mewn gwrthgyferbyniad yw y gall marwolaeth sydyn adael perthnasau’n teimlo bod rhai pethau heb eu dweud, am na chawsant gyfle i ddweud yr hyn y byddent am ei ddweud pe baent yn gwybod.

Nid yw’n beth anghyffredin i bobl sy’n dioddef afiechydon marwol feio Duw trwy ofn neu ddicllonedd. Yn dilyn marw ei wraig, a briododd yn hwyr mewn bywyd, o ganser, mae hyd yn oed CS Lewis, yn ei lyfr Grief Observed, yn galw Duw’n “sadydd cosmig”. Bydd eraill, fel cyfeillion Job, yn gweld yr afiechyd fel cosb am rywbeth a wnaethant. Mae Job, yn gwbl gywir yn fy marn i, yn gwrthod y ddadl honno’n llwyr. Ddywedodd Hilary erioed “Pam bod hyn wedi digwydd i mi?” na “Pam fi?” I’r gwrthwyneb, dywedai “Pam nad fi?”, a sôn am bobl a adwaenem a fu farw’n ddirybudd, gan adael teulu ifanc, neu bobl na chawsant unrhyw gyfle o gwbl mewn bywyd oherwydd amgylchiadau teuluol neu dlodi, neu bobl a fu farw o afiechydon ofnadwy fel Alzheimer’s neu Glefyd Motor Niwron, yr oedd hi’n eu hystyried yn llawer gwaeth na chanser. Roedd hi’n ddiolchgar am bob bendith a gafodd mewn bywyd – y teulu, y plant, ei gwaith, ei ffydd.

Dysg inni gyfrif ein dyddiau” meddai’r salmydd, “inni gael calon ddoeth.” Yn angladd yr Athro Geoffrey Lampe, un arall a fu farw o ganser, dywedodd y Parchedig Athro Charlie Moule amdano fod ganddo, o’r dydd y canfuwyd bod y canser arno, “y gallu i fwynhau bywyd yn llawn ac i ddefnyddio pethau materol mewn modd cadarnhaol, am yr union reswm nad oedd yn glynu wrthynt yn feddiangar ond yn hytrach yn eu defnyddio gyda haelioni”.

Neu, a dyfynnu’r Esgob John Robinson eto, “dysgu byw o ddifrif, nid dim ond canolbwyntio ar gadw’n fyw ond ymddiddori mwy mewn cyfrannu at yr hyn sy’n golygu fwyaf a’i fwynhau – rhoi cymaint ag sy’n bosibl i fywyd a derbyn cymaint ag sy’n bosibl yn ôl tra bo’n dal ar gael. Felly, pan fo rhywun yn marw, mae’n golygu nid canolbwyntio ar ryw ymarferiad arallfydol, duwiol – troi oddi wrth bethau’r byd at bethau’r nef – ond byw o ddifrif. Y mae a wnelo â chyflawnder bywyd yn awr.”

Fe fydd pawb ohonom farw, ac mae pawb ohonom, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, yn y broses o farw o’r munud y genir ni, a’r gwir amdani yw na wyddom ni ddim beth sydd o’n blaenau, oherwydd creaduriaid meidrol ydym ac mae bywyd yn ansicr. Mae arnom ni ofn marw, wrth gwrs, oherwydd y mae’n gam i’r anwybod, a rhaid i bawb ohonom, yn y diwedd, ei wynebu ar ein pen ein hun. Nid marwolaeth ei hun sydd arnom ei hofn, ond y broses o farw – a fydd hi’n un boenus ai peidio. Un o ofnau mwyaf Hilary oedd marw mewn poen. Roedd hi’n cofio’i mamgu yn marw o ganser yn ystafell ffrynt y cartref hanner can mlynedd yn ôl, yn crio mewn poen.

Mae gofal lliniarol a’r mudiad hosbis wedi datblygu llawer yn yr hanner can mlynedd diwethaf, a gellir lleddfu poen bellach. Pe na bawn i eisoes wedi fy mherswadio gan y dadleuon yn erbyn rhoi cymorth i farw, fe fyddwn wedi cael fy argyhoeddi o wylio gofal a thynerwch nyrsys yr hosbis a ddeuai i weini sawl gwaith bob dydd, ac nad oedd dim yn ormod o ffwdan iddynt, nac amser yn cyfrif iddynt, hyd yn oed pan fyddent yn nesáu at ddiwedd eu shifft. Sicrhaodd eu hymgeledd, a’u dull gofalus o roi cyffuriau fod y diwedd yn dangnefeddus ac yn y cartref, ac rwy’n sylweddoli hefyd nad yw hyn yn bosibl i bawb.

Cysurir ni Gristnogion yn fawr gan ein cred nad marwolaeth yw’r diwedd ond y bydd bywyd a’n perthynas â Duw yn parhau. “Nid poeni am farw yr ydw i,” meddai Hilary wrth gyfeillion, “ond am sut y bydd y rhai y byddaf yn eu gadael ar ôl yn dod i ben wedi imi fynd.”

Yn aml iawn, fydd gan bobl ddim syniad beth i’w ddweud wrth y sawl sydd mewn galar na sut i ymdrin â hwy. Rwy’n cofio pan oeddwn yn archddiacon mynd i annerch grŵp mewn rhyw blwyf ar natur a dwyster galar. Eisteddai un aelod, a oedd wedi cael profedigaeth ddiweddar, yn wylo yn y gornel. Roedd y Cadeirydd yn ddig iawn â mi am siarad, yn ei geiriau hi, “am bwnc mor angladdol, a gwneud i un o’i haelodau wylo trwy ei hatgoffa o farwolaeth ei gŵr”. Cyn gynted ag y gorffennais siarad, rhuthrwyd y te i mewn, ac ni fyddai dim trafodaeth (a fu’n un dda iawn) wedi bod oni bai i mi fynnu un. Trwy wadu marwolaeth yn gyhoeddus yr ydym hefyd yn cyfyngu’r cyfle i fynegi galar. Ystyrir yn aml bod wylo’n gyhoeddus yn annerbyniol, ac eto fe wyddom i Iesu wylo’n agored ar ôl ei gyfaill, Lasarus.

Proses naturiol yw’r broses o alaru. Hyd yn oed os ydym yn credu nad marwolaeth yw’r diwedd, nid yw hynny’n lleddfu’r trallod o golli rhywun a garwn ac nas gwelwn eto yn y bywyd hwn. Pris ymrwymiad yw galar, pris cariad. Does dim ffordd gywir a ffordd anghywir o alaru – dim ond galar ei hun – taith araf a graddol y sawl a adawyd yn weddw. Nid yw rhai o’n hemynau ychwaith yn gymorth i’r broses o alar:

Rejoice for a sister deceased
our loss is her infinite gain;
A soul out of prison released,
and freed from its bodily chain.”

Nid yw peth fel yna’n gwneud dim ond ychwanegu euogrwydd at beth bynnag arall y gall fod rhywun yn ei deimlo, euogrwydd am fod â diffyg ffydd mewn cyfnod o alar. Mae llawer mwy o gymorth yng ngeiriau’r diwinydd Bonhoeffer:

Ni all dim wneud i fyny am absenoldeb rhywun a garwn, ac ni fyddai’n iawn chwilio am rywbeth i gymryd ei le; rhaid inni oddef a dal ati, dyna i gyd. Mae hynny’n swnio’n beth anodd iawn i ddechrau, ond y mae hefyd yn gysur mawr, oherwydd y mae’r bwlch, tra pery heb ei lenwi, yn cadw’r cwlwm rhyngom. Lol yw dweud bod Duw’n llenwi’r bwlch; nid yw Duw’n ei lenwi o gwbl; i’r gwrthwyneb, mae’n ei gadw’n wag ac felly’n cynorthwyo i gadw’n fyw yr hen gymundeb rhyngom, er bod poen yn hynny.”

Mae’r Testament Newydd yn sôn am baratoi at ein marwolaeth trwy farw’n feunyddiol, am golli bywyd er mwyn ei gael, am yr angen i ronyn gwenith syrthio i’r ddaear a marw cyn y gall ddwyn ffrwyth. Mae eich rhoi eich hun mewn cariad – boed hynny mewn priodas neu fywyd teuluol neu i fod yn ddisgybl i Iesu – yn golygu bod yn barod i farw i chwi eich hun a’ch anghenion a’ch dyheadau a marw i bopeth sy’n amhrydferth a distrywgar a threisgar. Mae hyn i gyd yn baratoad at y marw terfynol.

Mae’r Testament Newydd yn mynnu hefyd ein bod eisoes mewn perthynas â Duw trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu, am ein bod yn aelodau o’i Gorff. Yr ydym felly eisoes yn gyfrannog ym mywyd tragwyddol Duw, ac ni all dim – dim hyd yn oed angau ei hun – ddinistrio’r berthynas. Fel y dywed Paul yn ei Lythyr at y Rhufeiniaid:

[ni] all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd”.

Mewn geiriau eraill, yr ydym yn ymddiried y bydd y Duw a’n creodd mewn cariad ac a gychwynnodd berthynas â ni, am barhau â’r berthynas honno ac na fydd yn troi ei gefn arnom. Yng ngeiriau John Donne, “Y sawl a gâr Duw, fe’u câr i’r diwedd, ac nid i’w diwedd eu hun a’u marwolaeth ond i’w ddiben ei hun, a’i ddiben ef yw eu caru’n fwy”.Golyga credu yn Nuw Iesu gredu yn Nuw trugaredd a gobaith ac felly yn Nuw posibiliadau diderfyn. Mae ffyddlondeb a chariad Duw’n parhau am mai ef yw’r Duw sy’n gwneud popeth yn newydd, am mai ef yw’r Alffa a’r Omega.