Ethol Esgob Mynwy Newydd

Pam mae’r Eglwys yng Nghymru’n ethol Esgob Mynwy newydd?

Galwyd yr etholiad hwn gan yr Archesgob John yn dilyn ymddeoliad yr esgob diwethaf, y Gwir Barchedig Richard Pain, ar 30 Ebrill.

Pwy sy’n ethol yr esgob newydd?

Mae Esgobion Cymru’n cael eu hethol gan Goleg Etholiadol sy’n cynnwys esgobion, clerigion a lleygion o bob rhan o’r Eglwys. Mae pob esgob mewn gwasanaeth yn aelod, ac mae pob cynhadledd esgobaeth yn ethol rhestr o glerigion ac aelodau lleyg i wasanaethu am gyfnod o dair blynedd.

Ym mhob cyfarfod, mae pob esgobaeth ‘gartref’, Mynwy yn yr achos hwn, yn cael ei chynrychioli gan 12 aelod – chwe chlerig a chwe lleyg – gyda’r pum esgobaeth arall yn cael eu cynrychioli gan saith aelod – un esgob, tri chlerig a thri lleyg. Mae hynny’n gwneud cyfanswm o 47 aelod. Mae Esgobion yn cael eu hethol nid yn unig i esgobaeth ond hefyd i’r Eglwys yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, ac felly mae’n briodol fod yr esgobaethau i gyd yn cael eu cynrychioli mewn etholiadau, gyda dirprwyaeth yr esgobaeth ‘gartref’ yn cael mwy o bwysau na’r un o’r esgobaethau eraill.

Gallwch weld rhestr o’r etholwyr fydd yn gwasanaethu yn y cyfarfod hwn o’r Coleg Etholiadol yma.

Ble mae’r etholiad yn cael ei gynnal? A all unrhyw un fod yn bresennol?

Mae’r Coleg Etholiadol yn cyfarfod yn yr esgobaeth sy’n chwilio am esgob, fel arfer yn y gadeirlan. Mae cyfarfodydd y Coleg Etholiadol yn cael eu cynnal yn breifat, er mwyn hwyluso trafodaeth lawn ac agored ar yr ymgeiswyr. Yn achos yr achlysur hwn, bydd y Coleg yn cyfarfod Ddydd Mawrth 17 Medi yng Nghadeirlan Casnewydd, gan gychwyn gyda dathliad o’r Cymun Bendigaid am 09:30. Mae croeso cynnes i aelodau’r Eglwys fynychu’r gwasanaeth agoriadol. Gall y Coleg gyfarfod am hyd at dri diwrnod yn olynol er mwyn dod i benderfyniad, ac felly gallai’r Coleg Etholiadol gyfarfod hefyd ar Ddydd Mercher Medi 18 a Dydd Iau 19 Medi.

Pwy sy’n gymwys i gael ei ethol yn esgob?

Mae’n bosibl i unrhyw un mewn urddau offeiriad, naill ai o fewn yr Eglwys yng Nghymru neu o dalaith arall o’r Cymundeb Anglicanaidd, gael ei ystyried ar gyfer etholiad. Fodd bynnag, wrth ystyried ymgeiswyr posibl, bydd yn rhaid i’r etholwyr hefyd gymryd i ystyriaeth anghenion yr esgobaeth a’r Eglwys yng Nghymru’n gyffredinol.

Gallwch weld proffil yr esgobaeth, sy’n gosod allan anghenion yr esgobaeth yma. Hefyd gallwch weld adroddiad ar anghenion y dalaith, wedi’i baratoi gan yr Archesgob John, yma

Sut mae ymgeiswyr yn cael eu henwebu ar gyfer cael eu hystyried?

Ar hyn o bryd, dim ond aelodau o’r Coleg Etholiadol sy’n gallu enwebu ymgeiswyr, a hynny yn y cyfarfod ei hun. Does yna ddim proses ar gyfer enwebu ymlaen llaw, na system ffurfiol ar gyfer enwebiadau sy’n cael eu gwneud o’r tu allan i aelodaeth y Coleg. Does dim yn rhwystro pobl o’r Eglwys yng Nghymru ehangach i awgrymu enwau ymgeiswyr posibl i’r etholwyr, ond byddai angen i bob etholwr yn unigol wedyn benderfynu ai enwebu’r person hwnnw yng nghyfarfod y Coleg Etholiadol ai peidio.

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfarfod y Coleg Etholiadol?

Mae cyfarfodydd y Coleg Etholiadol wedi’u gwreiddio mewn addoliad a gweddi, a bydd amser yn cael ei neilltuo yn ystod pob cyfarfod i ddistawrwydd, gweddi a myfyrdod. Yn dilyn y gwasanaeth agoriadol, bydd y cyfarfod yn cychwyn gyda’r Veni Creator, i ddeisyf arweiniad yr Ysbryd Glân.

Bydd yr aelodau’n cael cyfle i drafod anghenion yr esgobaeth a’r Eglwys ehangach, ac yna byddant yn cael eu gwahodd i gynnig enwau i’w hystyried. Unwaith y byddant wedi cytuno ar restr o ymgeiswyr, bydd yr enwau hynny’n cael eu trafod. Os digwydd i rai o’r enwebeion fod yn bresennol yn y cyfarfod, bydd gofyn iddynt ymadael cyn y drafodaeth, ac yna dod yn ôl ar gyfer pleidleisio trwy bleidlais ddirgel.

Os digwydd i un o’r ymgeiswyr gael dwy ran o dair o bleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio, caiff hwnnw’i gyhoeddi’n ddarpar-esgob. Os na fydd yr un o’r ymgeiswyr wedi cyrraedd y trothwy pleidleisiau, bydd y Coleg yn mynd yn ôl i’r cam enwebiadau unwaith eto. Nid yw enwau’n cael eu cario ymlaen i’r rhestr enwebu nesaf yn awtomatig, ac felly mae enwau’n cael eu cynnig o’r newydd bob tro.

Bydd y cylch hwn o enwebu-trafod-pleidleisio yn parhau hyd nes y bydd un ymgeisydd yn bodloni’r trothwy dwy ran o dair. Os na fydd ethol wedi digwydd cyn pen tri diwrnod, bydd y penderfyniad yn mynd gerbron Mainc yr Esgobion.

Pryd fydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi?

Mae’n amhosibl rhagddweud pryd fydd y Coleg Etholiadol yn dod i benderfyniad – mae’n dibynnu ar ganlyniad pob pleidlais – ond unwaith iddo wneud hynny bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi o ddrws y gadeirlan a thrwy wefan yr Eglwys yng Nghymru a’r cyfryngau cymdeithasol. Fel arfer, mae’r cyfryngau Cymreig yn cael gafael ar y stori, ac yn aml mae’r darpar-esgob yn cael ei gyfweld yn fuan wedyn.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r darpar-esgob yn cael hyd at 28 diwrnod i benderfynu a yw am dderbyn ei etholiad/ei hetholiad ai peidio. Os yw am dderbyn, bydd yr esgobion yn cyfarfod mewn seremoni a elwir yn Synod Sanctaidd i gadarnhau’r etholiad. Wrth wneud hynny, byddant yn sicrhau bod tystysgrif geni, llythyrau urddo a datgeliadau DBS y darpar-esgob mewn trefn, ac yn rhoi cyfle i aelodau o’r cyhoedd godi unrhyw faterion maen nhw’n teimlo y dylid eu hystyried.

Unwaith i’r etholiad gael ei gadarnhau, bydd yr esgob newydd yn cael awdurdod dros ei esgobaeth, a gellir ei ordeinio i urddau esgob gan yr Archesgob ac esgobion eraill. Gelwir y gwasanaeth hwn, sydd gan amlaf yn cael ei gynnal yng nghadeirlan yr Archesgob, yn wasanaeth o ymgysegriad. Ar yr achlysur hwn, bydd y gwasanaeth ymgysegriad yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Aberhonddu. Mae hefyd yn arferol i’r esgob newydd gael ei groesawu’n ffurfiol i’r esgobaeth mewn gwasanaeth a gaiff ei gynnal yn fuan wedyn yn y gadeirlan ‘gartref’.