Yn 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, y lleolir prif swyddfeydd gweinyddol y dalaith.
39 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9XF
Ffôn: 029 2034 8200
Ffacs: 029 2038 7835
Gellir cyrraedd maes parcio 39 Heol y Gadeirlan o’r lôn gefn y tu ôl i’r adeilad – rhwng Talbot Street a Hamilton Street, fel y nodir gan y saeth yn y diagram uchod.
Mae dau fynediad i’r adeilad: y naill o’r maes parcio a’r llall o’r stryd.
Beth sy’n digwydd yn y swyddfeydd taleithiol?
Mae’r staff taleithiol yn darparu cymorth proffesiynol i waith y Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr, Mainc yr Esgobion a Chynghorwyr yr Esgobion, ac yn rheoli gwaith y grwpiau hyn o ddydd i ddydd. Mae’r staff yn darparu cymorth hefyd yn ôl y galw, i gydweithwyr yn yr esgobaethau ac i’r Esgobion, yn arbennig felly ym meysydd Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol.
Am resymau hanesyddol, gweinyddir hefyd o’r swyddfa daleithiol rai cronfeydd/elusennau, megis y Gymdeithas Gweddwon, Amddifaid a Dibynyddion, Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant, a’r Gronfa Jiwbilî Daleithiol.
Yn ymarferol, mae o fudd i blwyfolion ac aelodau o’r cyhoedd fedru cysylltu â’r swyddfa daleithiol yn y lle cyntaf os oes ganddynt ymholiad.