Datganiadau taleithiol i’r wasg

Mae angen ail fantoli’r agenda gwleidyddol, medd Archesgob

Mae tlodi, digartrefedd a gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwegian ymysg y materion tyngedfennol sydd wedi cael eu celu oddi ar yr agenda gwleidyddol yn rhy hir ac sydd angen sylw, dadleua Archesgob Cymru.

Dywed yr Archesgob John Davies fod Cymru’n wynebu rhestr frawychus o anghenion a heriau sydd wedi cael eu gwthio o’r neilltu gan Brexit. Mae’n galw ar i wleidyddion sy’n ceisio cael eu hail ethol ail fantoli’r agenda a rhoi amser, sylw a thrafod priodol i wella bywydau pobl yn dioddef anobaith cynyddol.

Mae’r Archesgob hefyd yn beirniadu cywair yr ymgom a’r ymgyrch etholiadol hyd yma, ac yn galw am drafod sy’n “addysgu ac ysbrydoli” yn hytrach na “drysu a diflasu” pleidleiswyr.

Mewn datganiad cyn yr Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr, mae Archesgob John yn annog pobl i bleidleisio, i gymryd rhan mewn trafodaethau a hefyd i helpu eu ffrindiau a’u cymdogion, a all fod yn gyndyn i fynd allan ar ddyddiau tywyll y gaeaf, i fynd i gyfarfodydd gwleidyddol a gorsafoedd pleidleisio.

Mae hefyd yn gofyn iddyn nhw bleidleisio dros lywodraeth sy’n deisyfu undod a “chymdeithas gyfiawn, groesawgar a goddefgar” yn hytrach nag un sy’n bwydo hunan-les cyfyng. Mae hefyd yn galw am barodrwydd i dalu mwy o dreth i dalu am yr hyn sydd angen ei wella.

 

Datganiad llawn yr Archesgob

Mae Cymru’n wynebu rhestr o anghenion a heriau sy’n arbennig o frawychus ar hyn o bryd. Ochr yn ochr â phroblemau byd-eang fel newid hinsawdd, argyfwng parhaus ffoaduriaid, a ffenomenau rhyngwladol caethwasiaeth fodern, masnachu pobl ac ecsbloetio troseddol, mae’n gwasanaeth cyhoeddus a drysorwyd cyhyd ac a fu unwaith yn arwain y byd, wedi dioddef toriadau didostur mewn ariannu a darpariaeth. Mae lefelau cynyddol o unigrwydd a salwch meddyliol yn effeithio ar blant a phobl ifanc, ac yn cael eu gwaethygu gan unigrwydd ac ynysu. Mae parhad cyndyn tlodi a digartrefedd yn warthus. Fe welwn amodau carchardai sy’n anwaraidd ac sy’n ffyrnigo yn hytrach na diwygio, a system gyfreithiol sydd, oherwydd toriadau i wasanaethau lleol a thocio cymorth cyfreithiol, mewn rhai achosion yn rhwystro mynediad at gyfiawnder.

Ac, wrth gwrs, mae Brexit, sydd wedi tra arglwyddiaethu dros gymaint o drafod cyhoeddus a’r agenda gwleidyddol cyhyd, angen ei ddatrys cyn i ni i gyd anobeithio. Ond mae i bob pwrpas wedi celu a disodli oddi ar yr agenda faterion tyngedfennol eraill yr ydym yn parhau i’w hwynebu, materion sy’n llethu llawer o unigolion a grwpiau o fewn cymdeithas a’r byd yn ehangach. Mae’r sefyllfa hon yn rhy ddifrifol i hynny barhau.

Felly, er bod etholiad 2019 yn digwydd ar adeg pan fo llawer ohonom wedi blino ar wleidyddiaeth ac yn teimlo’n ddiflas a sinigaidd tuag at wleidyddion, mae’n cynnig cyfle inni ail fantoli’r agenda a rhoi amser a sylw priodol i gymaint o faterion pwysig sy’n effeithio’n negyddol ar filiynau o fywydau.

Yn yr ymgyrch sydd eisoes wedi dechrau – yn wyrgam, digyfeiriad a rhy swnllyd ym marn rhai – rydym angen ac yn haeddu clywed am y materion hyn eto. Rhaid i ni fynnu eu bod yn cael eu trafod yn onest ac yn ofalus er mwyn ein gonestrwydd fel gwlad ac fel teulu cenedlaethol. A rhaid i ni gael hawl i glywed amdanynt trwy drafodaeth onest, resymegol a pharchus, ac nid trwy ddull dadlau sy’n groch, emosiynol ac, i fod yn onest, yn warthus a hynod bersonol, y math o ddadlau sydd wedi iselhau ac anharddu’r sefyllfa cyhyd.

Er mwyn gwella’n gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi dioddef toriadau didostur ochr yn ochr yn anghysurus ag addewidion am ostwng trethi, rhaid i ni gael ymrwymiad a pharodrwydd i dalu am yr hyn sydd angen ei wella, ynghyd â system drethu sy’n sicrhau fod osgoi trethi gan gwmnïau ac unigolion yn cael ei ddileu.

Mae ymdrechion eisoes yn cael eu gwneud i annog trefnu cyfarfodydd gwleidyddol lleol ble gellir cael trafodaeth briodol ac effeithiol ble gellir croesholi ymgeiswyr am yr hyn maen nhw’n ei wir gredu, a ble gellir herio ymarferoldeb eu haddewidion. Yma yng Nghymru mae Cytûn wedi cyhoeddi canllawiau gwirioneddol fuddiol ar gyfer trefnu cyfarfodydd fell, ac mae’r canllaw hwnnw i’w gael yn hawdd ar eu gwefan.

Mae’r hawl i bleidleisio yn rhyddid yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol, rhyddid y brwydrwyd yn galed amdano, a rhyddid nad yw’n cael ei fwynhau gan holl genhedloedd y byd. Felly, rwy’n eich annog i ymarfer eich hawl, mae eisoes wedi cael ei ddweud nad yw etholiad yn y gaeaf yn syniad da oherwydd y gall llawer o bobl, nid yn lleiaf y rhai bregus, yr henoed a’r nerfus, fod yn gyndyn i fentro allan i fynd i gyfarfodydd gwleidyddol neu i fwrw pleidlais. Rhaid i ni fod yn barod i’w helpu.

Yn ein cymdeithas ac o’i hamgylch, gan gynnwys ein heglwysi, rydym yn ymwybodol i enghreifftiau di-rif o weithgarwch gwirfoddol sy’n arddangos ewyllys da a thrugaredd dynol, ac sy’n helpu llawer i gael bywyd gwell a mwy urddasol nag a fyddai ar gael fel arall. Mae enghreifftiau felly yn dystiolaeth o awydd ac ymroddiad i greu cymdeithas gyfiawn, groesawgar a goddefgar seiliedig ar gyd werthoedd a chyd gyfrifoldeb, yn hytrach nag un sy’n bwydo hunan les cyfyng. Mae hon yn weledigaeth y mae’n rhaid i’r rhai ohonom sy’n ethol y bobl fydd yn ein rheoli fynnu fod ymgeiswyr yn ei rhannu ac ymrwymo iddi.

Mae Duw yn galw arnom i gyd i fyw a gweithio er lles pawb, ac mae Iesu’n ddigyfaddawd wrth gyfeirio’n sylw at anghenion y tlodion, y rhai ar y cyrion a’r rhai dan draed. Mae gan yr Eglwys hawl a dyletswydd i gynnal y neges hanfodol honno er mwyn creu cymdeithas gyfiawn, ble mae chwarae teg i bawb, a ble gall pawb ddarganfod gobaith. Gadewch i ni i gyd weithio, gweddïo a galw am ymgyrch yn cael ei chynnal gyda gonestrwydd, anghytuno parchus a thrafod rhesymegol fel y gallwn, pan ddaw’r etholiad, deimlo’n bod wedi’n haddysgu yn hytrach na’n drysu, ein hysbrydoli yn hytrach na’n diflasu.

Boed i’r etholiad roi i ni lywodraeth sy’n ceisio undod ac yn eiddgar ac awyddus i wasanaethu anghenion pawb ohonom.