Datganiadau taleithiol i’r wasg

Gogledd Cymru yn ennill buddsoddiad mawr i dyfu’r eglwys

Mae prosiect gwerth £3m sy’n ceisio gwneud y ffydd Gristnogol yn gyffrous, yn hygyrch ac yn berthnasol ledled Gogledd Cymru, am gamu ymlaen.

Bydd y prosiect “Llan” yn canolbwyntio ar bobl sydd ag ychydig neu ddim profiad o’r ffydd Gristnogol. Bydd yn meithrin rhagoriaeth wrth arwain pererindodau a chroesawu pererinion, yn tyfu cymuned eglwys Gymraeg newydd, ac yn sefydlu pedair menter gymdeithasol arloesol.

Mae gan y “llan” wreiddiau dwfn yn hanes Cymru. Bydd y prosiect yn creu ‘llannau’ ar gyfer yr 21ain Ganrif – lleoedd lle gall pobl gwrdd hefo Duw, a lle y caiff bywydau eu trawsnewid.

Wedi’i leoli yn Esgobaeth Bangor, y prosiect yw’r ail i ennill cyfran o Gronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru. Lansiwyd y gronfa sydd werth £10m y llynedd ar gyfer cynlluniau uchelgeisiol i ymgysylltu pobl â’r ffydd Gristnogol mewn ffyrdd bywiog a chyffrous.

Dywedodd Esgob Bangor, Andy John, y byddai Llan yn adeiladu ar flaenoriaethau’r esgobaeth i feithrin disgyblion newydd, tyfu gweinidogaethau newydd a chroesawu plant, teuluoedd a phobl ifanc.

Meddai, “Credwn fod y blaenoriaethau hyn yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer datblygu ffrydiau pererindod newydd, efengylu Cymraeg a phrosiectau mentrau cymdeithasol arloesol Llan. Trwy waith newydd a thrwy adeiladu ar ein cryfderau, bydd Llan yn ein galluogi i ddod yn fwy hyderus yn cyhoeddi’r efengyl ar draws yr esgobaeth gyfan. Rwyf am ddiolch i aelodau’r pwyllgor am eu hyder yn ein cynlluniau, yn ogystal a’r cydweithwyr hynny y mae eu gweledigaeth a’u dewrder yn ein harwain ymlaen mewn ffyrdd newydd.”

Mae Cronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru yn cynnig grantiau rhwng £250,000 a £3m ar gyfer prosiectau esgobaethol sy’n canolbwyntio ar dyfu’r eglwys.

Syr Paul Silk sy’n cadeirio pwyllgor y Gronfa. Wrth gyhoeddi cais llwyddiannus Esgobaeth Bangor, dywedodd, “Mae Llan yn brosiect cyffrous ac amrywiol sydd wedi’i gynllunio i ysgogi ffurfiau newydd o weinidogaeth, i gwrdd â phobl mewn gwahanol gyd-destunau ac i feithrin ffydd ar draws ffiniau diwylliannol a chymdeithasol ac yn ein dwy iaith genedlaethol. Mae’r cais wedi ei ffurfio a’i ystyried yn ofalus, ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect yn ddefnydd cadarn o’r Gronfa Efengylu.”

Bydd tîm ymroddedig yn cael ei sefydlu i arwain y prosiect ledled yr esgobaeth a datblygu blaenoriaethau pob ffrwd. Bydd y tîm yn cael ei oruchwylio gan Gyngor yr Esgobaeth a bydd yn ymgynghori’n agos ag arweinwyr clerigol a lleyg ledled yr esgobaeth i ddatblygu adnoddau dysgu a nodi safleoedd allweddol.

Dywedodd Archddiacon Bangor, Mary Stallard, y byddai’r mentrau cymdeithasol yn ganolfannau ar gyfer gweithgaredd cymunedol, gan gysylltu â phlant, teuluoedd a phobl ifanc sydd yn aml ar gyrion yr eglwys.

Meddai, “Ein bwriad yw adeiladu ar ac ymestyn y gwaith arloesol cyffrous sydd eisoes wedi cychwyn mewn sawl man yn yr esgobaeth. Ein gobaith yw y gallwn ddatblygu prosiectau mentrau cymdeithasol newydd: byddai’r rhain yn ffyrdd o wasanaethu anghenion ein cymunedau lleol, gan fodelu ffordd Iesu o wasanaeth cariadus.”

Dywedodd Archddiacon Meirionydd, Andrew Jones, fod pererindod yn ffordd allweddol o ysbrydoli a meithrin ysbrydolrwydd. Meddai, “Ers cenedlaethau mae pererinion wedi dod i’n hesgobaeth i ymweld â’r nifer o ‘gyrchfannau sanctaidd’ sydd gennym ar garreg ein drws. Dros y blynyddoedd rwyf wedi arsylwi gyda chyffro’r traffig pererindod cynyddol i Ynys Enlli ar adeg pan mae cynulleidfaoedd eglwysig rheolaidd yn gwanhau. Mae pob un o’n safleoedd pererindod yn leoedd o dawelwch, harddwch, goleuni a hyd yn oed o drawsnewid dychmygus o’r byd hwn i’r nesaf – gofodau sy’n cynnig inni roddion gwerthfawr ac unigryw.”

Dywedodd Paul Roberts, Swyddog Cyfathrebu’r esgobaeth, fod cenhadaeth Cymraeg yn hollbwysig mewn esgobaeth lle mae’r Gymraeg mor flaenllaw. Byddai’r prosiect yn cynnwys cynllun ‘blwyddyn i ffwrdd’ ar gyfer pump o bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gweinidogaeth Gymraeg. Meddai, “Mae’r adnoddau efengylu sydd ar gael yn Gymraeg yn gyfyngedig iawn ac rydym wedi wynebu heriau wrth feithrin galwedigaethau Cymraeg eu hiaith. Trwy chwistrelliad o egni newydd i’r maes pwysig hwn, bydd Llan yn darparu sylfaen Gymraeg gyson i feithrin a chefnogi efengylu trwy’r esgobaeth gyfan.”

Lansiwyd y Gronfa Efengylu fis Mehefin diwethaf. Mae’r £10m yn cael ei ryddhau o fuddsoddiadau Eglwys sy’n cael eu goruchwylio gan ei Chorff Cynrychioliu.

 

Llan

Tair ffrwd prosiect Llan yw:

Pererindod – i ddathlu lleoedd, adeiladau a thirnodau sy’n mynegi ehangder y dreftadaeth Gristnogol. Bydd y prosiect yn edrych ar sut y gellir siapio’r lleoedd hyn i adrodd stori ffydd ac i ysbrydoli efengylu. Bydd yn sefydlu chwe chanolfan ragoriaeth newydd o amgylch yr esgobaeth ac yn buddsoddi mewn llwybrau pererinion hen a newydd ledled yr esgobaeth. Bydd pobl yn cael eu hyfforddi fel croesawyr a thywyswyr i adrodd y stori Gristnogol a gwahodd ymwelwyr i ddod yn wir bererinion trwy gydblethu eu stori eu hunain â stori fyw ffydd.

 

Iaith – tyfu cymuned eglwys Gymraeg newydd, gyda chefnogaeth cynllun blwyddyn i ffwrdd a fydd yn caniatáu i hyd at bum person ifanc gael blas ar weinidogaeth Gristnogol sy’n siarad Cymraeg bob blwyddyn. Yn ogystal, bydd ystod o adnoddau Cymraeg yn cael eu datblygu i gefnogi dysgu, addoli ac arloesi.

 

Menter – sefydlu pedwar canolbwynt newydd o weithgaredd cymunedol. Boed yn gaffi neu’n dafarn, yn ofod celfyddydol neu’n weithdy ar gyfer busnesau bach lleol, yn hostel ar gyfer partïon ysgol sy’n cerdded y bryniau neu’n siop gornel mewn pentref lle mae gwasanaethau’n brin, bydd mentrau sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder yn cael eu lansio i helpu i ddod â bywyd newydd i gymunedau lleol, yn ogystal â rhoi cyfle i fath newydd o eglwys i ymgynnull yno.