Datganiadau taleithiol i’r wasg

Esgobion yn galw ar Brif Weinidog i fod yn ‘dryloyw, geirwir ac agored’

Mae esgobion Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn mynegi eu “pryderon dwys” am ohirio’r Senedd a rhagolygon Brexit heb gytundeb.

Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn rhybuddio Boris Johnson fod Cymru yn fregus i beryglon neilltuol yn ei sector ffermio a bwyd, addysg uwch, busnesau bach a’r Trydydd Sector – sydd i gyd yn dibynnu ar gymorth yr Undeb Ewropeaidd a hwylustod allforio. Maent yn cefnogi galwadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadw ei haddewid i Gymru o ‘ddim ceiniog yn llai’ mewn cymorth nag o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Esgobion hefyd yn mynegi ofnau yr caiff pobl dlawd a difreintiedig eu taro’n neilltuol o wael ac y gallai cytundebau brysiog waethygu amodau ar gyfer gweithwyr a gwneud cyfiawnder trethiant yn anos ei weithredu. Ofnant hefyd y gallai’r berthynas rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig ac Ewrop ddioddef.

Gan dynnu sylw cefnogaeth i’r ddeiseb yn erbyn gohirio’r Senedd, dywedodd yr esgobion y dylai sbarduno trafodaeth, gan bwysleisio ei bod yn “bwysig i’r llywodraeth gadw hyder a chefnogaeth yr etholwyr.”

Galwant am “gyfleoedd creadigol” i ddylanwadu ar sut y symudir ymlaen gyda rhaglenni a maent yn annog y llywodraeth i fod yn “dryloyw, geirwir ac agored”.

Mae geiriad llawn y llythyr yn dilyn:

Annwyl Brif Weinidog,

Fel Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, eglwys sy’n gwasanaethu cymunedau ym mhob rhan o Gymru ac sydd â chonsyrn dros bobl o bob ffydd a’r rhai heb unrhyw ffydd, beth bynnag fo eu barn wleidyddol, teimlwn reidrwydd arnom i fynegi pryderon am ddigwyddiadau digynsail y dyddiau diwethaf hyn a’r tebygrwydd buan y ceir BREXIT heb gytundeb.

Ynghylch BREXIT ei hun, credwn fod Cymru’n agored i beryglon penodol. Mae’r sector ffermio a chynhyrchu bwyd, sy’n bwysicach o lawer i’r economi Gymreig nag yn Lloegr neu’r DU yn ei chyfanrwydd, yn ddibynnol iawn nid yn unig ar gymorth yr UE, ond hefyd ar hwylustod allforio i dir mawr Ewrop. Mae cwmni o fri fel Airbus, a busnesau eraill yn y sector technoleg, yn dibynnu ar gyfnewid rhannau, personél ac arbenigedd yn gyflym gyda’n partneriaid yn Ewrop, y gellir eu colli, yn enwedig os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb. Yn ogystal, mae addysg uwch, busnesau bach, a’r trydydd sector i gyd yn debygol o ddioddef oni wneir trefniadau gofalus iawn i lenwi’r bwlch a adewir gan golli cyllid yr UE, cytundebau a threfniadau partneriaeth. Amlygodd llythyr agored gan sefydliadau Cymdeithas Sifil ym mhob un o 4 gwlad y DU yr wythnos hon y peryglon i’r 3ydd sector o adael heb gytundeb. Gadewir ardaloedd dan anfantais economaidd heb gymorth ychwanegol, a hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw eglurder ynghylch y trefniadau a fydd yn llenwi’r bwlch a adewir wrth golli cyllid neu bartneriaethau’r UE. Ynghyd â Rebecca Evans AC, Gweinidog Cyllid Cymru (cyfarfod ar 29 Awst gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Rishi Sunak), gofynnwn i lywodraeth y DU i gadw ei haddewid i Gymru ynghylch ‘dim ceiniog yn llai ‘ o gefnogaeth nag o fewn yr UE.

Yn unol â’n hegwyddorion Cristnogol, rydym yn arbennig o awyddus i amddiffyn y tlawd a’r rhai sy’n agored i niwed. Mae bron pob eglwys yn y tir yn cefnogi banc bwyd; rydym yn ymgyrchu ac yn cefnogi cinio ysgol a brecwast am ddim; mae nifer o eglwysi’n gweithio i frwydro yn erbyn ‘newyn gwyliau’ ymhlith plant a theuluoedd sy’n dibynnu ar brydau bwyd ysgol yn ystod y tymor. Mae’r posibilrwydd y bydd prinder bwyd a meddyginiaethau, yn enwedig os bydd y DU yn gadael yr UE heb unrhyw gytundeb neu gyfnod pontio, yn real iawn; mae’r amcangyfrifon diweddaraf hefyd yn dangos y bydd pris bwyd a hanfodion eraill yn codi. Bydd swyddi’n cael eu colli, a gosodir mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Er budd cymodi a heddwch, rydym yn pryderu am y berthynas rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, a’n perthynas â gwledydd eraill Ewrop – eglwysi’r rhai y byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau â nhw. Gan nad yw ein cymdogion ond i’w canfod oddi fewn i’n ffiniau neu mewn gwledydd cyfagos, pryderwn y bydd gadael yr UE, mewn brys i sicrhau bargeinion, yn golygu gwneud cytundebau masnach sy’n debygol o waethygu amodau gweithwyr, israddio pryderon amgylcheddol, a gwneud cyfiawnder treth yn anos i’w weithredu.

Ar yr adeg benodol yma, rydym yn wirioneddol bryderus am yr hyn a ymddengys fel defnydd o weithdrefn Seneddol i wthio penderfyniadau’r llywodraeth na chytunwyd arnyn nhw, neu hyd yn oed heb eu craffu, gan y Senedd. Byddwch yn ymwybodol bod Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi galw’r Cynulliad Cenedlaethol yn ôl i eistedd ar 5 Medi yng ngolau’r “dyfroedd dieithr” yr ydym ynddi yn awr. Roedd y ddeiseb yn erbyn gohirio’r Senedd (a ddechreuwyd ddoe) wedi cyrraedd bron i 1.5 m o lofnodion erbyn 2pm ar 29 Awst, a dylai ysgogi trafodaeth. Mae’n bwysig bod y llywodraeth yn cynnal hyder a pharch yr etholwyr. Er y gall fod yn wir dweud na all llywodraethau ddewis pa bleidleisiau cyhoeddus y maen nhw yn glynu wrthyn nhw, nid yw etholiadau hyd yn oed yn cael gwared ar yr wrthblaid; a gellir a dylai fod cyfleoedd creadigol i ddylanwadu ar y ffordd y caiff rhaglenni eu datblygu.

Credwn yn y bon bod cynrychiolwyr etholedig o bob barn wleidyddol â buddianau gorau’r cyhoedd mewn golwg. Anogwn eich llywodraeth i fod yn dryloyw, yn onest ac yn agored yn ei hystyriaethau ar yr adeg eithriadol yma.

Yn gywir

Y Gwir Barchedig
Andy John
Esgob Bangor