Datganiadau taleithiol i’r wasg

Eglwys ‘ceidwad y Gymraeg’ yn paratoi ar gyfer ymweliad Brenhinol

Mwy na thebyg nad yw’r miloedd o deithwyr sy’n gwibio yn ôl a blaen ar hyd Cymru ar briffordd yr A470 fawr o feddwl eu bod yn mynd heibio o fewn troedfeddi i berl hanesyddol a diwylliannol.

Yr wythnos hwn, fodd bynnag, bydd cryn dipyn o geir yn aros yn y gilfan hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth yn Nyffryn Dyfi, sy’n gweithredu fel y prif faes parcio i bentref bach Mallwyd.

Bydd EUB Tywysog Cymru yn ymweld ag eglwys bentref Tydecho Sant dydd Gwener – adeilad Canoloesol syfrdanol a wasanaethwyd am 40 mlynedd gan ysgolhaig o gyfnod y Dadeni sy’n cael ei gofio fel ‘ceidwad yr iaith Gymraeg.’

Yn gyn reithor Mallwyd, y Parch Ddr John Davies wnaeth olygu a diwygio cyfieithiad Cymraeg 1620 o’r Beibl – 400 mlynedd yn ôl i’r flwyddyn nesaf – a hefyd Llyfr Gweddi Gyffredin 1621. Nid yn unig fe wnaeth y cyfieithiadau y llyfrau yn haws i bobl eu cyrraedd ar adeg pan mai ychydig oedd yn gallu darllen neu ysgrifennu, roedden nhw hefyd yn hynod arwyddocaol o ran cadw’r iaith Gymraeg yn fyw.

Yn ystod ei ymweliad bydd y Tywysog yn ymuno â’r gynulleidfa yng ngwasanaeth traddodiadol y Plygain, dan arweiniad parti o gantorion harmoni clos. Cyn gadael bydd hefyd yn cymryd golwg ar goed yw hynafol yn y fynwent.

 “Rydym wrth ein bodd fod Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn cydnabod arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol eglwys Tydecho Sant i Gymru,” medd y Parch Miriam Beecroft, ficer ac Arweinydd Ardal Gweinidogaeth. “Mae’n un o’n trysorau cudd, i raddau helaeth oherwydd mai yma y gwasanaethodd John Davies tra’r oedd yn gweithio ar y cyfieithiadau a ddaeth â bri iddo fel ‘ceidwad yr iaith Gymraeg’. Mae’n addas iawn fod yr ymweliad yn cael ei nodi gyda gwasanaeth Cymraeg hynafol, y Plygain.”

Bydd y Plygain yn cael ei arwain gan Ddeon Bangor, Kathy Jones.

Cefndir

Roedd Dr John Davies yn ysgolhaig Cymreig nodedig a fu’n rheithor Mallwyd am 40 mlynedd o 1604 hyd at ei farwolaeth yn 1644. Yn fyfyriwr i’r Esgob William Morgan, gweithiodd gyda’r Esgob Richard Parry i olygu a diwygio’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin. Ysgrifennodd hefyd ramadeg Cymraeg (yn Lladin) a geiriadur (Cymraeg-Lladin, Lladin-Cymraeg).

Codwyd cofeb i Dr Davies yn yr eglwys i nodi dau ganmlwyddiant ei farwolaeth.

Sefydlwyd eglwys Mallwyd oddeutu’r chweched ganrif gan Tydecho Sant ar ôl iddo ddod i’r ardal o Gernyw. Mae’r adeilad presennol, sydd wedi ei restru’n Gradd Dau, yn dyddio o’r  14eg Ganrif gyda’r tŵr a’r cyntedd yn cael eu hychwanegu yng nghyfnod Dr Davies yn yr 17eg Ganrif. Cafodd balconi anarferol gyda rhesi o seddau ei ychwanegu yn 1764. Mae nifer o goed yw hynafol yn y fynwent tu allan.

Gallwch weld ffilm fer o eglwys Tydecho Sant yma