Datganiadau taleithiol i’r wasg

Nid Brexit yw’r unig fater ar agenda ein cenedl – Archesgob

Dichon ein bod ni mewn adeg o gynnwrf gwleidyddol ond mae gennym faterion o wir angen ar agenda’n cenedl, meddai Archesgob Cymru yn ei neges ar gyfer y Pasg.

Mae’r Archesgob, John Davies, yn rhybuddio fod yna bobl gydag anghenion eithriadol yn ein cymunedau ac mae’n ein hannog i helpu i ddod â bywyd newydd iddyn nhw drwy weithredoedd o haelioni, cariad a thrugaredd.

Mae hefyd yn galw arnom i drin y naill a’r llall gyda pharch, beth bynnag fo’n gwahaniaethau gwleidyddol, ac i wrthsefyll pob ymgais i symbylu aflonyddwch cyhoeddus.

Bydd yr Archesgob John yn pregethu yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ddydd Sul y Pasg. Mae’r gwasanaeth yn dechrau am 11 y bore ac mae croeso i bawb.

 

Neges Pasg

Bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â’r emyn Negroaidd ’Lle’r oe’t ti pan groeshoeliwyd f’Arlwydd pur?’ Ein hateb i’r cwestiwn, wrth gwrs, yw ‘Na, doedden ni ddim yno’. Ond roedd yna bobl o gwmpas yn Jerwsalem pan ddaeth Iesu i mewn a’r dorf yn bloeddio  ‘Hosanna!’ ac mor fuan wedyn yn gweiddi ‘Croeshoelier ef!’. Cafodd atgofion y rhai oedd yno am y digwyddiadau hynny eu trosglwyddo i eraill a dyna sydd yn awr yn ffurfio rhan o stori’r Efengyl.

Gwyddom fod Jerwsalem yr adeg honno ynghanol cythrwfl ac amheuon gwleidyddol ac nid yw’n syndod fod gweld rhywun yn cyrraedd Jerwsalem gan ddenu cymaint o sylw yn gwneud yr awdurdodau yn wyliadwrus iawn. Buan y daethant i weld Iesu a’i negeseuon am gyfiawnder, trugaredd a daioni yn fygythiad peryglus i’r drefn yr oedden nhw wedi llwyddo i’w chreu. Felly aeth ‘’Hosanna’ yn ‘Croeshoelier ef’ – yn syml, gadewch i ni gael gwared â’r unigolyn hwn, y bygythiad hwn i’n bodolaeth gysurus a grëwyd yn ofalus.

Fodd bynnag, mae’r union ffaith fod yn Eglwys Gristnogol wedi ei geni yn cadarnhau gwirionedd sy’n syml ac eto’n gymhleth: er iddyn nhw geisio  cael gwared ag Iesu, er iddyn nhw gredu eu bod wedi cael gwared ag ef, ni ddigwyddodd dim byd o’r fath. Wrth i ni symud tuag at Basg 2019, ein dathliad o’i fywyd newydd, rydym ni ein hunain mewn cyfnod o gythrwfl gwleidyddol. Gobeithiaf, er gwaethaf yr aflonyddu a gweithgareddau gwrthun rhai sy’n gweld hwn yn gyfle i annog aflonyddwch, na fydd hynny’n digwydd ac y bydd pobl yn cymryd cam yn ôl, gan gydnabod fod gan eraill, yn union fel nhw eu hunain, farn bendant a bod eu hawl i ddal y farn honno yn rhywbeth i’w barchu.

Yn fwy na hynny, gobeithiaf y bydd pobl yn troi eu sylw at y nifer o bobl wir anghenus sydd gennym yn ein cymunedau a thu hwnt. Does dim angen i mi’ch atgoffa naill ai am anghenion eithriadol rhai o’r bobl hyn, na’u hachosion. Mae eu byd angen newid; maen nhw angen bywyd newid; maen nhw angen eu hatgyfodiad eu hunain

Fe glywir dweud ambell waith nad oes gennym y gallu i newid y byd – mae’r cyfan yn rhy gymhleth, yn rhy anodd a heriol. Fy ymateb i hynny yw cadarnhau fod un weithred o drugaredd, un weithred o haelioni, un weithred o faddeuant, un weithred o gariad, gan un person tuag at un arall yn newid bywyd y person arall hwnnw; ac os yw bywyd un person yn newid yna mae’r byd yn newid ac yn newid er gwell.

Felly ydym, rydym mewn tipyn o drafferth gwleidyddol, ond mae yna bethau eraill ar agenda’r genedl, problemau go iawn o angen go iawn. Fy anogaeth, ar yr adeg hon o ddathlu bywyd newydd Crist, yw na fyddwn yn gadael i ddaioni a chariad gael eu rhoi o’r neilltu, na fyddwn yn ceisio gwneud  ffwrdd â neges trugaredd, ac y byddwn yn ceisio dod a bywyd newydd i’r rhai sydd mewn angen gwir ddwfn.

Pasg hapus a bendithiol i bob un ohonoch.

Archbishop John Davies' Easter Message

We may be in a time of political turmoil but we have issues of real need on our nation’s agenda, the Archbishop of Wales says in his Easter message.

Posted by The Church in Wales on Thursday, April 18, 2019