Datganiadau taleithiol i’r wasg

Arloeswyr yn archwilio gweinidogaethau newydd – Llais 2019

Math newydd o weinidogaeth eglwys yw canolbwynt digwyddiad deuddydd y mis hwn.

Mae arloeswyr eglwysig o bob cwr o Gymru yn cyfarfod i rannu eu straeon gydag eraill a chwilio am ffyrdd i yrru’r weinidogaeth yn ei blaen.

Ac er mwyn ysgogi tipyn o feddwl creadigol ychwanegol, maen nhw’n cyfarfod ar y diwrnod cyntaf yng nghanolfan darganfod gwyddoniaeth ymarferol Caerdydd, Techniquest.

Mae’r gynhadledd, o’r enw Llais 2019, yn cael ei threfnu gan Sefydliad  Padarn Sant, corff hyfforddi’r Eglwys yng Nghymru. Bydd yn cael ei chadeirio gan Esgob Bangor, Andy John.

Dywed yr Esgob, “Mae gweinidogaeth arloesol yn golygu cysylltu gyda’r gymuned y tu hwnt i’r eglwys – cyfarfod pobl ble bynnag y maen nhw yn hytrach na disgwyl iddyn nhw ddod i adeilad yr eglwys ar y Sul. O weithio gyda ffermwyr mewn marchnad wartheg i deuluoedd difreintiedig ar ystadau tai, mae’n harloeswyr yn adeiladu cysylltiadau gyda’r gymuned ehangach ac yn chwilio am fyrdd dychmygus i rannu ffydd a datblygu cymuned Gristnogol sy’n addas ar gyfer y grwpiau hyn.

“Rydym yn edrych ymlaen at glywed lleisiau arloeswyr a straeon o bob rhan o Gymru yn y digwyddiad hwn addysgu sut y gallwn ddatblygu’r math hwn o weinidogaeth yn holl gefndiroedd bywyd. A does gen i ddim amheuaeth y bydd yr awyrgylch greadigol yn  Techniquest yn ysgogi’n meddyliau wrth i ni edrych am ffyrdd newydd o wasanaethu eraill.”

Yn ymuno â’r cynadleddwyr bydd Jonny Baker sy’n bennaeth hyfforddi cenhadaeth gyda Chymdeithas Genhadol yr Eglwys. Bydd yn edrych yn ôl ar drafodaethau’r grwpiau bob diwrnod.

Bydd Llais 2019 yn digwydd ar 29-30 Ebrill yn Techniquest ar y diwrnod cyntaf ac yn y Future Inn ar yr ail ddiwrnod.

 

Astudiaeth Achos – gweinidog arloesol, y Parch. Jon Price, Esgobaeth Bangor

Mae pobl yn tueddu i ramantu bywyd cefn gwlad. Ond yn y pentrefi o amgylch Llanidloes gall y sefyllfa go iawn fod yn dra gwahanol. Gall unigrwydd, problemau trafnidiaeth a bywyd teuluol anhapus fod yn barlysol. Mae eglwys yma’n ymlafnio gyda niferoedd bach, ond mae yna hoffter mawr tuag at adeiladau eglwysig hyd yn oed ymhlith rhai sydd byth yn eu mynychu. Gyda’n gilydd rydym yn gweithio i ddod â’r Newyddion Da, nid yn unig y tu mewn i eglwysi ond ymhell tu hwnt i’r waliau. Byddai llawer o’r bobol sy’n byw yn yr ardal a’r cyffiniau yn ei chael hi’n anodd mynd i wasanaeth eglwys traddodiadol oherwydd ei fod wedi peidio â bod yn rhan o ddiwylliant wythnosol y gymdeithas, felly’n bwriad ni yw mynd â phopeth sy’n dda ac yn llesol ynghylch yn gymuned Gristnogol atyn nhw.

Noddfa yw enw’r gymuned genhadol fechan a ddaeth i fodolaeth tua thair blynedd yn ôl. Mae wyth ohonom i gyd, pob un yn rhannu ymrwymiad i dyfu fel disgyblion a rhannu’n ffydd a’n hefengyliaeth. Wrth i’r gymuned genhadol ymffurfio, daethom ar draws anghenion a phroblemau eang a byddai wedi bod yn rhy hawdd meddwl: ‘Ble dechreuwn ni? Os ceisiwn ni fynd i’r afael â’r gwaith i gyd ddown ni byth i ben.’ Yn lle hynny fe ddechreuon ni’n hamser gyda gweddi a gwrando. Roedd hyn yn ein helpu ni i weithio allan y ffordd orau i garu’r bobl yr oeddem wedi’n galw i ymgyraedd atyn nhw.

Canlyniad hynny oedd i’n gweinidogaeth ddilyn dau drywydd penodol: datblygu caplaniaeth ym Marchnad Wartheg y Trallwng; a gweinidogaethu i deuluoedd ac eraill ar ystadau tai lleol.

Gyda llawer o’r rhwydweithiau cefnogi traddodiadol fel tafarn, siop a swyddfa bost y pentref wedi mynd, i lawer ardal wledig does dim ond yr eglwys ar ôl i geisio llenwi’r bwlch, a darparu’r  ‘glust i wrando’ y mae cymaint o bobl ei hangen. Dyna sut y crëwyd ein rôl fel caplaniaid; i ddarparu’r cyfleoedd ar gyfer sgwrsio a chyfeirio’r bobl sydd mewn trafferth tuag at fy o gymorth.

Yn y cyfamser, ar y stadau rydym wedi trefnu digwyddiadau hamddenol, anffurfiol, seiliedig ar letygarwch, ac wedi adeiladu perthynas gref gyda’r teuluoedd sydd yno.

Yn ystod y camau hyn o garu a gwasanaethu ac adeiladu cymuned, gobeithiwn ddihuno awydd pobl i archwilio ffydd ymhellach,  ac rydym yn pendroni sut y gallwn ddatblygu’r gofod a chasglu’r adnoddau i symbylu hyn. Mae rhai pobl yn ddrwgdybus o efengyliaeth am ei fod yn edrych yn anghydnaws â’n diwylliant goddefgar, parchu’r-hawl-i-anghytuno. Ond y cyfan mae efengyliaeth yn ei olygu yw cynnig lletygarwch Duw.

Gyda’n gilydd teimlaf y gallwn wneud gwahaniaeth a dangos i bobol fod yr Eglwys yn malio a’n bod yna iddyn nhw.

Fideo am Noddfa