Datganiadau taleithiol i’r wasg

Gwir ystyr Cofio yw ymrwymiad i heddwch – Archesgob

Mae negeseuon heddwch heb ymrwymiad ac ymdrech i wneud i hynny ddigwydd yn  gwastraffu’r fuddugoliaeth yr ymladdwyd mor drwm amdani yn y Rhyfel Byd Cyntaf, meddai Archesgob Cymru heddiw.

Nid oedd heddwch yn “ddelfryd anghyraeddadwy” ond roedd angen i ni ymrwymo iddo’n ddyddiol er mwyn adeiladu’r byd y rhoddodd pobl eu bywyd drosto, meddai’r Archesgob John Davies. Rhybuddiodd y byddai ymrwymiad o’r fath yn heriol, un yn galw am ymdrech a risg.

Roedd yr Archesgob yn cyflwyno anerchiad yng Ngwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Trefnwyd y gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru i nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Mawr. Yn bresennol roedd Prif Weinidog Cymru ac Iarll ac Iarlles Wessex, yn ogystal â gwahoddedigion yn cynrychioli’r byd gwleidyddol, Arglwydd Raglawiaid ac Uchel Siryfion, arweinwyr ffydd, y Lluoedd Arfog, Consyliaid Anrhydeddus a’r gwasanaethau brys. Darlledwyd y gwasanaeth yn fyw ar BBC Cymru/Wales.

A book of remembrance is brought into the Cathedral 
Pic:Tom Martin
© WALES NEWS SERVICE

Disgrifiodd yr Archesgob John y Rhyfel Byd Cyntaf fel “un o’r gwrthdrawiadau mwyaf arwyddocaol, ciaidd a gwastraffu yn hanes y byd”. Dywedodd: “Arwyddocaol oherwydd ei fod yn amlygu’r canlyniadau gwenwynig sy’n dilyn pan fydd ffactorau fel uchelgais tiriogaethol a phersonol, cystadleuaeth imperialaidd ac economaidd, cenedlaetholdeb hyll a diplomyddiaeth annigonol, yn gwrthdaro, boed hynny’n fwriadol neu ar hap.

“Ciaidd oherwydd, am y tro cyntaf, ymgymerwyd â lladd ar raddfa ddiwydiannol gan ddefnyddio awyrennau, tanciau a nwy gwenwynig.

“Gwastraffus oherwydd y golled enbyd mewn bywydau a bywoliaeth yn deillio nid yn unig o wrthdaro arfog, ond o afiechydon ac anafiadau.  Bu farw 16 miliwn neu ragor o bobl, mwy na phum gwaith poblogaeth bresennol Cymru, naill ai yn y gwrthdaro neu o’i blegid; cafodd miliynau mwy o fywydau eu difetha gan anafiadau meddyliol a chorfforol; a distrywiwyd bywydau eraill dirifedi trwy golli anwyliaid neu’r boen barhaol o orfod bod yn dystion i ddioddefaint di-baid y rhai a oroesodd gydag anafiadau erchyll.”

Dylai cofio, meddai’r Archesgob John, “ein harwain i deithio y tu hwnt i wybodaeth sylfaenol a ffeithiau moel, i fyfyrio, i ddechrau amgyffred a theimlo, yn ddwfn ynom ein hunain, beth o ganlyniadau ysgubol yr hyn sy’n cael ei gofio: y gost ddynol – y boen, y galar, y drewdod, y budreddi, y diraddio, y tristwch. Bywydau dirifedi wedi eu chwalu; gobeithion dirifedi wedi eu chwalu.”

The Earl and Countess of Wessex are greeted by the Dean and Archbishop
Pic:Tom Martin
© WALES NEWS SERVICE

Anogodd yr Archesgob bobl i ymateb gydag ymrwymiad dyddiol i gyfiawnder a heddwch ac i fod yn oleuni Duw yn y byd a sianelau Ei heddwch.

Dywedodd, “Yn drychinebus, mae’r rhodd o heddwch a gyflwynwyd i’r byd gan mlynedd yn ôl wedi ei afradu’n rheolaidd ac yn waedlyd mewn sawl lle gwahanol ac mewn llawer blwyddyn a ddilynodd. Ond os bydd hyn yn ein harwain tuag at ddim mwy nag edrych ar y gweddïau a negeseuon heddwch fel mynegiant o ddelfrydau clodwiw ond anghyraeddadwy, mae perygl i ni wacau heddiw o wir ystyr; mae perygl inni, fel y nododd y Prif Weinidog David Lloyd George yn Nhachwedd 1918, wastraffu’r fuddugoliaeth a enillwyd, a gwneud dim mwy na chanu clychau llawenydd.

“Na foed i hynny ddigwydd. Boed i’r cofio heddiw, y myfyrio heddiw, beri i ni ymateb yn gadarnhaol, yn raslon ac yn hael gan wneud pob ymdrech i wneud ein byd, ein cenedl, ein cymunedau, y math o le y credai’r rhai yr anrhydeddwn eu bywydau, ac y diolchwn iddynt, eu bod yn ymladd i’w adeiladu.”

Anerchiad llawn