Datganiadau taleithiol i’r wasg

Adolygiad Eglwys Gadeiriol Llandaf

Cafodd yr apêl i godi £1.5m ar gyfer organ newydd i Eglwys Gadeiriol Llandaf ei drin yn gwbl briodol, yn ôl adroddiad annibynnol.

Fe ddadansoddwyd y cyfrifon ar gyfer prosiect yr organ, a ddigwyddodd rhwng 2006-2010, fel rhan o adolygiad eang o Eglwys Gadeiriol Llandaf a gomisiynwyd yn gynharach eleni gan Esgob Llandaf a chorff ymddiriedolwyr yr Eglwys Gadeiriol, y Cabidwl. Roedd hyn yn dilyn cyhuddiadau o gam-drin ariannol a wnaed gan grŵp bach o bobl.

Casgliad yr adroddiad oedd, er bod diffygion yng nghynllunio a gweithredu’r prosiect clodfawr hwnnw, roedd y cyfrifo ar gyfer y prosiect wedi bod yn gwbl briodol.

Cynhaliwyd yr adolygiad o Eglwys Gadeiriol Llandaf gan dri arbenigwr mewn llywodraethu eglwysi cadeiriol: Richard Bacon, cyfrifydd profiadol sy’n gweithio’n agos gyda Chadeirlan Bryste, Canon Jane Barker CBE, Cadeirydd Grŵp Yswiriant Marsh, a chadeirydd Grŵp Ymgynghorol Cyllid Eglwys GadeiriolCaersallog, a Nick Bury, cyn Ddeon Eglwys Gadeiriol Caerloyw. Fe’i comisiynwyd i gynorthwyo gyda’u hymateb i raglen ehangach o newid o fewn holl eglwysi cadeiriol Cymru.

Yn yr adroddiad disgrifiodd y tîm adolygu Eglwys Gadeiriol Llandaf fel lle ardderchog gyda chlerigwyr a staff ymroddgar. Mae’r presenoldeb mewn gwasanaethau yn iach gyda llawer o bobl ifanc a chyfoeth o sgiliau a phrofiad yn y gynulleidfa. Mae’r adolygwyr yn cydnabod fod yr Eglwys Gadeiriol erbyn hyn mewn gwell cyflwr ar ôl sefydlogi ei materion ariannol a rheoli ei chostau gweithredol, yn ogystal â bod wedi adfer yn llawn ei thraddodiad cerddorol cyfoethog. Mae ganddi hefyd un o’r organau gorau yn y wlad.

Mae’r heriau sydd i ddod, fodd bynnag, yn galw am well model busnes sy’n fwy cynaliadwy i helpu i ariannu’r gwaith atgyweirio ac ailddatblygu rhannau allweddol o’r adeilad gan helpu hefyd i ariannu cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys Gadeiriol. Argymhellodd yr adolygwyr newidiadau sylweddol i’r ffordd y mae’r Eglwys Gadeiriol yn cael ei llywodraethu fel y gall lunio a chyflenwi strategaeth fentrus ac eang. Yn allweddol i’r ailstrwythuro hwnnw bydd cael mwy o leygwyr gyda sgiliau arbenigol i gymryd rhan.

Sefydlwyd Grŵp Gweithredu gan y Cabidwl dan gadeiryddiaeth Gerard Elias QC i fynd i’r afael â’r newidiadau cyfansoddiadol angenrheidiol i drefn lywodraethu’r Eglwys Gadeiriol ac i sicrhau fod argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu.

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Esgob Llandaf , June Osborne, “Mae’r adolygiad hwn yn dod ar adeg ardderchog i’r Eglwys Gadeiriol ac rwy’n aruthrol ddiolchgar i’r tri o adolygwyr uchel eu parch sydd wedi buddsoddi mor hael eu hamser a’u dirnadaethau  sylweddol.

“Mae’r Cabidwl wedi nodi fod y cyhuddiadau o gamymddwyn yn yr apêl codi arian a rheoli prosiect yr organ wedi eu profi i fod yn ddi-sail gan yr adolygiad hwn, gan roi pen ar y mater yn ddigamsyniol gobeithio.

“Gwn fod fan bobl de Cymru ymroddiad i ffyniant a chynaladwyedd yr eglwys hon yn y dyfodol. Mae gan yr Eglwys Gadeiriol ran hanfodol i’w chwarae yn nyheadau Esgobaeth Llandaf ac yn arbennig yn Ninas Caerdydd. Mae’n rhoi llety i bob math o ddigwyddiadau sy’n adlewyrchu bywyd crefyddol, dinesig a diwylliannol Cymru ac yn fuan bydd yn dathlu 900 mlwyddiant ei sefydlu. Mae angen iddi fod yn addas ar gyfer ei dibenion ac yn ddigon hyblyg i ymateb i’r galwadau a roir arni gan genedlaethau’r dyfodol. Wrth ddiolch i’r adolygwyr, rwy’n hyderus y bydd eu gwaith yn ysbrydoli’r Eglwys Gadeiriol yn ei gweinidogaeth ac yn darparu llwyfan ar gyfer y newidiadau angenrheidiol.”

Dywedodd Deon Llandaf, Gerwyn Capon, “Mae’r Adolygiad wedi argymell newidiadau i gyfansoddiad corff llywodraethol yr Eglwys Gadeiriol. Gwyddom nad oedd y modelau ariannol hanesyddol a wasanaethodd yr Eglwys Gadeiriol hyd at yn lled ddiweddar yn rhoi sicrwydd angenrheidiol bryd hynny, ac na ydyn nhw’n awr, i gynnal ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Cabidwl yn barod i ddysgu gan y gorffennol ac yn ymrwymo’n llwyr i weithredu argymhellion yr adolygiad.”