Datganiadau taleithiol i’r wasg

Y Corff Llywodraethol – anerchiad y Llywydd

Mae Archesgob Cymru yn galw ar yr eglwys i gamu allan yn hyderus mewn ffydd i fynd i’r afael â’i heriau.

Yn ei anerchiad fel Llywydd i aelodau’r Corff Llywodraethol cydnabu’r Archesgob, John Davies, fod yr eglwys yn wynebu ‘cyfnod dryslyd a heriol’ a allai arwain at ofn a phryder sy’n anablu. Anogodd aelodau i ddilyn enghraifft y proffwydi drwy roi eu ffydd yn Nuw a gweithredu’n hyderus i wneud i bethau ddigwydd.

Rhybuddiodd y byddai ‘gwneud dim heblaw sefyll ar y lan a syllu ar yr ochr arall’ yn gadael yr eglwys mewn perygl cynyddol.

Dywedodd, “I fenthyg geiriau o’r Llythyr at yr Hebreaid cawn ni, ar yr hyn y gellid ei alw’n gyfnod dryslyd a heriol i’n heglwys, ein hamgylchynu gan gwmwl mawr o dystion: pobl lesg, pobl amherffaith, pobl a gafodd eu herio, pobl a fu’n bryderus, pobl a fu’n ofnus, pobl sydd weithiau wedi ffugio esgusodion fel rhesymau dros ddweud ‘na’, pobl sydd, o bryd i’w gilydd, wedi rhoi cynnig arni a methu – ond o leiaf wedi rhoi cynnig arni. Ond yn y pen draw fe wnaethant brofi’n bobl a fyddai, gyda ffydd ac ymddiriedaeth a dewrder a dyfalbarhad, yn cael y gwaith ar y gweill.

“Dyna beth sy’n rhaid i rôl y Corff Llywodraethol fod – er bod o’r un cnawd llesg ac amherffaith â’r bobl hynny sy’n ffurfio’r cwmwl tystion, gelwir arnom, fel corff ac fel unigolion yn ein lleoedd ei hunain, i’r un ffydd ac ymddiriedaeth a dewrder a dyfalbarhad hwnnw, i gael y gwaith ar y gweill. Weithiau mae’n teimlo’n fwy diogel i aros, yn bryderus, am foment well, amser mwy derbyniol. Ond, fel yr atgoffodd yr apostol Paul y Corinthiaid, gan weithio gyda Christ, daeth yr amser derbyniol. Yr amser derbyniol bob amser yw nawr.”

Atgoffodd yr Archesgob yr aelodau fod yr Eglwys yn mynd i’r afael â’i heriau ac yn gweithredu newidiadau blaengar yn dilyn ei adolygiad yn 2012. Mae hefyd yn cynllunio ar gyfer dathlu ei chanmlwyddiant yn 2020 drwy ‘gydnabod camau pendant, cynnydd cadarn ac ymrwymiad i’n diben creiddiol’. Dywedodd fod gan bawb ran i’w chwarae.

Dywedodd, “Mae’r rhain yn ffeithiau, yn cynnwys i’r argymhellion gael eu derbyn chwe mlynedd yn ôl, ffeithiau y credaf ei bod yn ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb arnaf fel Archesgob i fynnu ein bod yn atgoffa ein hunain ac eraill amdanynt yn gyson; nid yn unig yma yn y Corff Llywodraethol, ond hefyd yn ein hesgobaethau, o fewn eu gwahanol strwythurau, yn ein Hardaloedd Gweinidogaeth, yn ein cynulleidfaoedd ac, yn bwysig iawn, yn ein calonnau a’n meddyliau ein hunain fel Cristnogion unigolion, a elwir fel cwmwl tystion heddiw i chwarae ein rhan, gyda ffydd ac ymddiriedaeth a dewrder a dyfalbarhad.”

Rhybuddiodd yr Archesgob fod ymwrthod newid yn broblem yn yr eglwys a gallai fod yn anablu arweinwyr eglwysig.

Dywedodd, “Mae rhai mannau yn drwghoffi newid, yn ymwrthod â newid, hyd yn oed yn gwrthod ystyried newid, heb sôn am groesawu newid. Byddai’n rhy rhwydd i hyn blannu hadau pryder dwfn ac ofn sy’n anablu yng nghalonnau a meddyliau pawb ohonom y galwyd arnom i fod yn arweinwyr. Gall y ddau beth beri ni i osgoi’r her, ein dargyfeirio rhag symud ymlaen a gwanhau’r dymuniad i afael yn y cyfle neu hyd yn oed geisio creu cyfleoedd.”

Dywedodd na ddylai aelodau gael eu llethu gan yr heriau sy’n eu hwynebu ond bod yn rhaid iddynt ddelio gyda nhw drwy weithredu mewn ffydd.

“Mae’n rhwydd iawn i arweinwyr heddiw ganolbwyntio gormod ar y gostyngiad mewn niferoedd, ac efallai fod rhai wedi gwneud hynny, a darbwyllo ein hunain na allant atal y llif a symud ymlaen i dir newydd.

“Gwn y gallai pob un ohonom eistedd i lawr, wrth fwrdd adre neu wrth ein desgiau, ac ysgrifennu rhestr gynyddol o bryderon a fedrai ein hanablu ni ac eraill rhag profi’r dyfroedd mewn nant sy’n ymddangos na ellir ei chroesi a rhag camu tu fas i’r cyfarwydd a’r sefyllfaoedd y credwn, sydd o leiaf am nawr, yn cynnig sicrwydd i ni. Ond gelwir arnom i gamu mas, ac mae’n rhaid i ni gamu mas, oherwydd y gwyddom nwfn ein calonnau mai’r cyfan a wnaiff peidio gwneud hynny yw gwaethygu, mewn gormod o achosion a gormod o leoedd, ymdeimlad o ddigalondid a fod pethau’n mynd o ddrwg i waeth, gan ein gadael nid gyda sicrwydd, ond mewn perygl cynyddol.”

Gorffennodd yr Archesgob drwy ddweud, “Ble a phryd ac os y caiff ei themtio i wneud hynny, ni all yr Eglwys yng Nghymru wneud dim ond sefyll ar y lan ac edrych yn bryderus ar yr ochr arall; wedi’i gwreiddio yng ngalwad y proffwydi ac yn yr Efengyl, mae’n rhaid i ni, yn astud ac yn ddewr, fod yn barod i groesi. Bydd newid yn digwydd.”

Roedd yr Archesgob John yn siarad ar ddechrau cyfarfod deuddydd o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Venue Cymru, Llandudno. Gellir darllen ei anerchiad llawn yma:

Presidential Address

Gellir gweld yr agenda a’r papurau ar gyfer y Corff Llywodraethol yn https://cym.eglwysyngnghymru.org.uk/news/2018/04/corff-llywodraethol-yr-eglwys-yng-nghymru-11-12-ebrill-2018/