Datganiadau taleithiol i’r wasg

Teyrngedau i gyn Esgob Bangor

Mae teyrngedau’n cael eu talu i gyn Esgob Bangor a fu farw heddiw yn 80 oed.

Fe wnaeth Esgob Saunders Davies wasanaethu fel Esgob Bangor am bum mlynedd cyn ei ymddeoliad yn 2004. Roedd ei weinidogaeth gyfan, dros 40 mlynedd, yn yr Eglwys yng Nghymru, yn bennaf yn Esgobaeth Bangor.

Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, ei fod yn ‘arwyddocaol’ fod yr Esgob Saunders wedi marw ar ddydd Gwener y Groglith.

Meddai, “Bydd y newyddion am farwolaeth yr Esgob Saunders Davies yn achosi tristwch i lawer yn yr Eglwys yng Nghymru lle bu’n gwasanaethu’n ffyddlon am 40 mlynedd. Roedd Saunders yn unigolyn addfwyn, sanctaidd a gostyngedig, llawn dysgeidiaeth, gyda meddwl craff a chalon gynnes. Fe’i heffeithiwyd yn gynyddol gan Glefyd Parkinson yn ystod ei flynyddoedd diwethaf a oedd yn ei wanhau yn dangos ar ei iechyd. Er gwaethaf y ffaith fod yr afiechyd yn cynyddu, fe lywddodd i ysgrifennu ataf ar fy etholiad fel Archesgob, a gallaf weld ei gerdyn yn fy meddwl, a olygai ei fod wedi gwneud ymdrech aruthrol i ysgrifennu. Cefais fy nghyffwrdd o’i dderbyn.

“Ym mywyd yr eglwys, yn aml mae ‘partneriaethau’ nodedig o wr a gwraig, ac yn achos Saunders, roedd yn eithaf prin iddo gael ei grybwyll heb sôn hefyd am ei wraig Cynthia, a oedd yn ei gefnogi mor llawn a ffyddlon, a rhannu cymaint o fywyd, gweinidogaeth a dysgu. Iddi hi, a gweddill y teulu, yr wyf yn ymestyn sicrwydd fy nghariad a’m gweddïau. Mae’r ffaith fod Saunders wedi gadael y byd hwn ar ddydd Gwener y Groglith yn arwyddocaol. Gweddïwn y bydd, yn rhydd o fregusrwydd a gwendid, yn rhannu llawenydd addewid Crist o fywyd newydd.”

Ychwanegodd Esgob Bangor, Andy John, “Gyda thristwch mawr mae marwolaeth y Gwir Barchedig Saunders Davies wedi’i gyhoeddi. Bu i Saunders wasanaethu’r esgobaeth hon yn ffyddlon fel periglor, archddiacon ac esgob. Mae’n gweddïau a’n cydymdeimlad hefo Cynthia, Siôn, Angharad a’u teuluoedd. Mae Cymro da ac ysbrydol wedi mynd at ei Arglwydd. Boed iddo orffwys mewn tangnefedd ac atgyfodi mewn gogoniant.’

Graddiodd yr Esgob Saunders, o Brifysgol Cymru, Bangor, Coleg Selwyn, Caergrawnt, a Phrifysgol Bonn (Yr Almaen). Fe’i hyfforddodd ar gyfer ordeinio yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, a dechreuodd ei weinidogaeth fel curad yng Nghaergybi. Roedd y Gymraeg yn iaith gyntaf iddo a pharhaodd Saunders ei weinidogaeth yn Esgobaeth Bangor fel Rheithor Llanllyfni, ac Is-ganon yng Nghadeirlan Bangor cyn symud i’r de i wasanaethu fel Ficer Gorseinon a Deon Gwledig Llwchwr yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Yn 1983, fe’i penodwyd fel Ficer yr eglwys Gymraeg yng Nghaerdydd, Eglwys Dewi Sant, lle bu’n gwasanaethu am 10 mlynedd.

Dychwelodd i’r gogledd fel Rheithor Criccieth ac Archddiacon Meirionnydd. Ym 1999 fe’i hetholwyd yn Esgob Bangor, lle bu’n gwasanaethu tan ei ymddeoliad yn 2004.

Yn ystod ei weinidogaeth, cadeiriodd Esgob Saunders y grŵp a ddatblygodd gynllun iaith Gymraeg yr Eglwys yng Nghymru.

Cynhelir gwasanaeth angladd Esgob Saunders ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 7 am 1yp yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi, ac wedyn ei gladdedigaeth yn fynwent Brynach Sant, Nanhyfer.

Yn y llun: Esgob Saunders (chwith) gyda’i ragflaenwyr fel Esgob Bangor, Barry Morgan (canol) a’r diweddar Cledan Mears