Datganiadau taleithiol i’r wasg

Archesgob Cymru i ymddeol ym mis Ionawr

Bydd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn ymddeol y flwyddyn nesaf ar ôl bron 14 mlynedd wrth lyw’r Eglwys yng Nghymru a 24 mlynedd fel esgob.

Dr Morgan yw’r archesgob hiraf ei wasanaeth yn y Cymun Anglicanaidd byd-eang ac mae hefyd un o’r esgobion hiraf ei wasanaeth, a bydd yn ymddeol ar ei 70ain pen-blwydd ddiwedd mis Ionawr. Bydd hefyd yn ymddeol fel Esgob Llandaf ar ôl mwy na 17 mlynedd o wasanaeth, ar ôl bod yn Esgob Bangor am bron saith mlynedd yn flaenorol. Bydd yn parhau â’i waith a’i ymrwymiadau yn y ddwy swydd yn ôl yr arfer hyd hynny.

Wrth dalu teyrnged i’w weinidogaeth, cafodd Dr Morgan ei ddisgrifio fel Archesgob Caergrawnt fel “gwas rhyfeddol” y byddai’n “gweld ei golli yn fawr iawn” tra canmolodd Prif Weinidog Cymru ef am ei “gyfraniad enfawr” i fywyd Cymru. Canmolodd yr Archesgob Abertawe ac Aberhonddu, esgob hynaf Cymru, ei “arweinyddiaeth ddewr” ar yr Eglwys yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Dr Morgan, a gollodd ei wraig Hilary i ganser, yn drist yn gynharach eleni, “Bu’n fraint enfawr gwasanaethu fel Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf ac i wneud hynny mewn cyfnod mor bwysig ym mywyd Cymru. Bu’n daith lan a lawr ond drwy’r cyfan cefais fy nghynnal a fy ysbrydoli gan y bobl rwy’n cwrdd â nhw ddydd ar ôl dydd, sy’n byw cariad Duw ym mhob rhan o Gymru drwy eu hymrwymiad ac ymroddiad i’w heglwysi a chymunedau.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi, rhannu a fy nghynnal yn fy ngweinidogaeth dros y blynyddoedd, yn arbennig ers marwolaeth Hilary – bu’n anodd dioddef colli ei chariad, ei hanogaeth a’i chyfeillgarwch.

“Dros y blynyddoedd gwelais Cymru yn tyfu mewn hunanhyder fel cenedl ac rwy’n awr yn obeithiol iawn y caiff hyn ei feithrin a’i gyfoethogi gyda chefnogaeth barhaus yr Eglwys yng Nghymru.”

Yn ystod ei gyfnod fel Archesgob, mae Dr Morgan wedi hyrwyddo llawer o newidiadau yn yr Eglwys yng Nghymru yn cynnwys newid yn ei chyfraith i alluogi ordeinio menywod fel esgobion a gweithredu strategaeth flaengar, Golwg 2020, i helpu’r eglwys i dyfu a ffynnu wrth iddi agosáu at flwyddyn ei chanmlwyddiant. Bu ganddo hefyd rôl amlwg mewn bywyd cyhoeddus, gann ymgyrchu’n fwyaf nodedig am setliad datganoli teg i Lywodraeth Cymru a chodi ei lais ar faterion o gonsyrn moesol.

The Archbishop of Canterbury, Justin Welby (left) with the Archbishop of Wales, Barry Morgan (right) and the Archbishop of Ireland, Richard Clarke

Dywedodd Jusin Welby, Archesgob Caergaint, “Roedd Barry yn un o’r rhai ar y panel cyfweld ar fy mhenodiad fel Archesgob Caergaint ac roedd yn nodedig am ansawdd a chwrteisi’r cwestiynau a ofynnodd. Yn fwy na hynny bu ei gyfraniad dilynol a phob cyswllt ers hynny yn raslon, calonogol a llawn presenoldeb Crist. Arhosodd Caroline a finnau gydag ef a Hilary tua dwy flynedd yn ôl a sylweddoli dyfnder eu partneriaeth, y cyfraniad a wnaeth hi i’w weinidogaeth a’r golled ddofn a deimlodd ers ei marwolaeth. Bu Barry yn was rhyfeddol i’r lleoedd hynny lle gweinyddodd, i’r Eglwys yng Nghymru a’r holl Gymun Angicanaidd. Byddwn yn gweld ei golli yn fawr iawn.”

Carwyn_Jones_2011Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, “Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr gyfraniad enfawr Dr Barry Morgan yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf fel Archesgob Cymru. Cafodd effaith mor gadarnhaol ar fywydau cynifer o bobl o gymunedau crefyddol Cymru ac mae wedi annog sefydlu cysylltiadau cymunedol da ar draws y wlad.

“Bu’n anrhydedd gweithio’n agos gyda’r Archesgob drwy waith y Fforwm Cymunedau Ffydd, y bu’n ei wasanaethu ers ei sefydlu. Rwy’n ddiolchgar am ei gyngor a’i ddoethineb ar faterion yn effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a’i ymrwymiad di-ildio i hyrwyddo gwaith rhyng-ffydd ledled Cymru.”

Bishop John DaviesTalodd John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, deyrnged i arweinyddiaeth ddewr Dr Morgan i’r ddwy esgobaeth a wasanaethodd fel esgob ac i Dalaith Cymru. Dywedodd, “Mae Barry yn ddi-os yn ddyn sydd â barn gref a daliadau Cristnogol clir. Y mae, o safbwynt Cristnogol a dyniaethol, wedi hyrwyddo achosion hawliau menywod, cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chyfiawnder cymdeithasol, ac nid oedd yn ofni codi ei lais yn gyhoeddus ar y materion hyn a llawer o rai eraill. Mae ei ran ym mywyd cyhoeddus Cymru yn hysbys iawn, a daeth yn gyfranogydd a sylwedydd uchel ei barch a dibynadwy ar nifer o faterion yn effeithio ar fywyd cyhoeddus y genedl.

“Fel cydweithiwr, bu Barry yn hael a chefnogol, gan gadeirio cyfarfodydd gyda chyfuniad o waith caled a seiliwyd ar ymdeimlad parhaus a chryf o gymdeithas. Er yr ymdeimlad anochel a pharhaus o alar personol a ddioddefodd yn dilyn marwolaeth ei wraig Hilary, rwyf innau a holl fy nghyd-esgobion yn dymuno’n dda i Barry ym mhopeth sydd i ddod a diolchwn iddo am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth ffyddlon i eglwys a phobl.”

Yn hanu o bentref glofaol Gwaun-Cae-Gurwen yng nghwm Tawe, etholwyd Dr Morgan yn 12fed Archesgob Cymru yn 2003, yn dilyn Dr Rowan Williams ar ei benodiad yn Archesgob Caergaint.

Gyda graddau o brifysgolion Llundain a Chaergrawnt, ordeiniwyd Dr Morgan yn offeiriad yn 1973 ac yn ystod ei weinidogaeth gwasanaethodd fel darlithydd prifysgol a choleg diwinyddol a chaplan prifysgol, fel Rheithor Wrecsam ac Archddiacon Meirionnydd cyn cael ei sefydlu yn Esgob Bangor yn 1993 ac Esgob Llandaf yn 1999. Gwasanaethodd hefyd ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd ac ar Bwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymun Anglicanaidd.

Mae Dr Morgan yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a nifer o brifysgolion yng Nghymru. Mae’n arbenigwr ar farddoniaeth yr offeiriad Cymreig R S Thomas.

Fel Archesgob, Dr Morgan yw Llywydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a bydd ei aelodau’n canu’n iach iddo yn y cyfarfod nesaf, a fydd ei olaf, ar 14-15 Medi ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.