Datganiadau taleithiol i’r wasg

Dyfynnu adnodau ddim yn datrys anghydfodau moesol – Archesgob

Pan ddaw at droi at y Beibl i ddatrys problemau moesol, rydym yn aml yn gweld yr hyn y dymunwn ei weld, meddai Archesgob Cymru heddiw (23 Ebrill).

Yn ei Anerchiad Llywyddol i aelod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, rhybuddiodd Dr Barry Morgan nad oedd unrhyw un safbwynt Cristnogol ar faterion megis perthynas o’r un rhyw neu gymorth i farw. Yn hytrach, caiff ein hagweddau eu llunio gan ein magwraeth, addysg a mha ran neilltuol o ddarnau’r Beibl a bwysleisiwn.

Dywedodd, “Rydym yn aml yn gweld yr hyn y dymunwn ei weld. Rydym yn aml yn defnyddio Ysgrythur i gadarnhau safbwyntiau yr ydym eisoes wedi penderfynu atynt mewn ffyrdd eraill ac am resymau eraill. Mae rhai pobl wedi newid eu meddyliau, er enghraifft ar weinidogaeth menywod a pherthynas o’r un rhyw ar ôl iddynt brofi offeiriadaeth menyw yn yr achos cyntaf, neu ddarganfod bod eu mab neu ferch eu hunain yn hoyw yn yr achos arall.

“Mae gan yr Ysgrythur Sanctaidd ei hunan lawer mwy o arlliw ac mae’n fwy cynnil a chymhleth nag ydym yn aml yn ei sylweddoli … Ni allwn wneud dim ond dyfynnu gwahanol adnodau ar wahanol bynciau a chredu fod hynny’n setlo mater. Mae’n rhwydd dewis pethau a waherddir yn yr Ysgrythur a’u hystyried fel gair yr Arglwydd ac anghofio fod y Beibl yn cynnwys straeon sydd hefyd yn cyfleu gair Duw i ni.”

Ymhellach, gall barn yr Eglwys esblygu a newid wrth iddi ymateb i’r byd o’i hamgylch, meddai’r Archesgob. Yn union fel yr oedd anghytundeb heddiw rhwng barn y Wladwriaeth a barn yr Eglwys ar briodas yr un rhyw, felly roedd anghytundeb ar ailbriodi pobl wedi ysgaru rai blynyddoedd yn ôl.

Dywedodd, “Fe wnaeth y Wladwriaeth ganiatáu posibilrwydd ysgaru ac ailbriodi am amser maith cyn i ni wneud hynny fel Eglwys. Nid yn unig yr ydym yn awr yn bendithio priodasau o’r fath, yr ydym mewn gwirionedd yn ail-briodi pobl wedi ysgaru yn ein heglwysi. Yn y gorffennol, os oedd clerigwr yn ysgaru ac ailbriodi, ni allai’r person hwnnw mwyach barhau yn yr offeiriadaeth ordeiniedig yng Nghymru, tra nad yw hynny nawr fwyach yn rhwystr i barhau yn yr offeiriadaeth. Felly mae ein barn wedi esblygu a newid ar bwnc y rhoddodd Iesu ddatganiad clir iawn arno. Nid oedd ganddo ddim i’w ddweud am berthynas yr un rhyw.

“A fyddwn ni, fel Eglwys, maes o law yn mabwysiadu’r un agwedd yng nghyswllt perthynas yr un rhyw ag a wnaethom am ailbriodi ar ôl ysgariad, neu a yw priodas hoyw mewn categori gwahanol i ailbriodi pobl wedi ysgaru? Beth bynnag ein safbwyntiau, gobeithiaf y gall ein trafodaethau fod yn drugarog.”

Atgoffodd yr Archesgob aelodau y byddai ymateb yr Eglwys yn effeithio ar fywydau pobl a rhybuddiodd am y perygl y byddai’r Eglwys yn cael ei gweld fel bod yn homoffobig. Fodd bynnag, anogodd y clerigwyr sy’n awyddus i unioni’r fantol a rhoi bendith cyhoeddus ar briodasau yr un rhyw.

“Er y gall rhai pobl fod yn awyddus i wneud hyn, mae’r rheol yr un fath ag yw am ailbriodi pobl wedi ysgaru – mae angen i ni aros i’r Eglwys, yn gyfan, i benderfynu ar y mater – ac rydym yn dechrau ar y broses honno yn y Corff Llywodraethol yma.”

Anerchiad Llywyddol