Gerallt Gymro ddim yn wladgarwr mawr – Archesgob

10 Awst 2012

Gerallt Gymro ddim yn wladgarwr mawr – Archesgob

Roedd Gerallt Gymro yn sbinddoctor uchelgeisiol y byddai ei dudalen Facebook, pe byddai wedi bodoli bryd hynny, wedi bod yn rhestr "Pwy yw Pwy" o frenhinoedd a thywysogion Ewrop a phabau, meddai Archesgob Cymru heddiw (dydd Gwener).

Wrth gyflwyno darlith Prifysgol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Dr Barry Morgan y gallai clerigwr o’r 12fed Ganrif fod yn un o’r ffigurau hanesyddol mwyaf adnabyddus yng Nghymru ond ystyriai ei hun fel Ewropead yn hytrach na Chymro, a rhoddodd yr argraff nad oedd yn gartrefol yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae’n debyg i’w ymgyrch angerddol i Gymru gael ei Harchesgob ei hunan gael ei thanio gan uchelgais bersonol, yn hytrach na gwladgarwch, a bu farw yn fethiant yn ei lygaid ei hun.

Disgrifiodd Dr Morgan, a gyflwynodd gyfres deledu yn ddiweddar ar S4C yn dilyn yn ôl troed Gerallt Gymro – taith beryglus a wnaeth Gerald bedair gwaith – fel cymeriad llawn gwrthddweud.

Dywedodd, "Mae’n anodd osgoi’r argraff fod popeth a wnaeth a ddywedodd Gerallt, yn y pen draw, ar gyfer dyrchafu Gerallt ei hunan….

“Doedd Gerallt byth yn brin o farn ar unrhyw beth. Pe byddai wedi bod â thudalen Facebook, byddai wedi bod yn ‘Pwy yw Pwy’ canoloesol o frenhinoedd a thywysogion Ewrop, archesgobion a phabau oherwydd roedd yn cymysgu gyda hwy i gyd. 

Ychwanegodd, "Bu Gerald yn farw yn ddyn chwerw ac wedi ymddieithrio oddi wrth bobl Cymru a ystyriai fel rhai ‘syml, diaddysg a diddiwylliant’. Roedd yn beio pawb arall am ei holl drafferthion, gan olygu nad oedd yn cael ei ddeall ac yn cael ei ddifrïo. Methodd yn llwyr â deall ei fod, gan bennaf, yn gyfrifol am ei helyntion ei hun.”

Etifeddiaeth Gerallt, fodd bynnag, oedd ei lyfrau. Dywedodd Dr Morgan, "Gadawodd lyfrau diddorol tu hwnt sydd, er y dylid eu cymryd gyda bwcedi mawr o halen, yn dweud llawer iawn wrthym am Gymru’r 12fed Ganrif ac yn arbennig ei Heglwys."

Rhoddodd Dr Morgan y ddarlith yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod yn Llandŵ, Bro Morgannwg. Gellir darllen y testun llawn isel.

DARLITH – GERALLT GYMRO – EISTEDDFOD

Waeth pa mor brin eu gwybodaeth am hanes cyffredinol Cymru, fe all pob plentyn ysgol enwi dau neu dri o gymeriadau hanesyddol ac, yn ddieithriad, fe fydd Gerallt Gymro yn eu plith. Y mae yna hyd yn oed ffilm gartŵn amdano i blant. Yn 2004, mewn pôl piniwn o arwyr mwyaf Cymru, Gerallt oedd rhif 85.  [Y tri cyntaf oedd Aneurin Bevan, Owain Glyndŵr a Tom Jones.] 

Mae’r ffaith mai fel Gerallt Gymro neu Geraldus Cambrensis (yn Lladin) y cofir amdano, a does neb arall mewn hanes yn cael ei gofio fel hyn, yn dangos ei bwysigrwydd. Enw ydyw, wrth gwrs, a fabwysiadodd Gerallt iddo’i hun oddeutu 1190.  Fel Archesgob Cymru, fe fyddaf innau yn arwyddo fy enw fel +Barry Cambrensis, ond nid yw hynny’n ddim ond llofnod eglwysig – fel y gwyddoch, ystyr y gair Lladin ‘Cambrensis’ yw ‘o Gymru’. Nid yw’n golygu fy mod i’n perthyn i Gerallt!  Ond mi gefais unwaith lythyr oddi wrth Weinidog yn y Llywodraeth a oedd yn agor â’r cyfarchiad “Annwyl Mr Cambrensis”. Fodd bynnag, y mae’r ffaith mai fel hyn yr adwaenir Gerallt yn dangos beth yr oedd arno eisiau ei fod yn anad dim, sef Archesgob Cymru. 

Fe fyddai ei archesgobaeth wedi bod yn un wahanol iawn i f’un i. Doedd diwygiad yr unfed ganrif ar bymtheg ddim wedi digwydd eto, diwygiad a dorrodd Eglwys Loegr, ac Eglwys Loegr yng Nghymru, i ffwrdd oddi wrth y byd Cristnogol Catholig, a’i gwneud yn eglwys annibynnol – Ecclesia Anglicana, heb fod bellach dan awdurdod y Pab ond yn hytrach yn ei llywodraethu ei hun. Roedd Gerallt am fod yn Archesgob Cymru, dan awdurdod y Pab ond nid dan awdurdod Archesgob Caergaint. Os mynnwch, yr oedd am wneud i ffwrdd â’r dyn canol, tra’n parhau i fod yn rhan o Wledydd Cred ei gyfnod.

Bu datblygiad pellach yng Nghymru, wrth gwrs, pan ddatgysylltwyd yr Eglwys yn 1920. Golygai hynny fod Cymru’n dod yn dalaith gwbl annibynnol ar Eglwys Loegr, ac felly’n cael ei harchesgob ei hun. Ond stori arall yw honno. Ac i gwblhau pethau, yn 1913 fe ddynododd Eglwys Rufain Gaerdydd yn Esgobaeth Archesgobol.

Ganwyd Gerallt yng Nghastell Maenor BÅ·r yn 1146, yn fab i’r barwn Normanaidd William de Barri, ar adeg pan nad oedd gafael y Normaniaid ar Gymru yn ddim o’i gymharu â’u gafael ar Loegr. Ymosodai tywysogion Cymru arnynt yn gyson. Pum mlynedd a gymerodd y Normaniaid i goncro Lloegr; fe gymerodd 200 mlynedd iddynt orchfygu Cymru. 

Bu tadcu Gerallt ar ochr ei dad, yn Gwnstabl Castell Penfro. Roedd Nest, ei famgu ar ochr ei fam, yn un o dywysogesau Cymru a thrwyddi hi yr oedd yn perthyn i Rys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth. Fe fyddai rhywun yn meddwl y buasai cefndir o’r fath wedi rhoi iddo bob math o fanteision a pheri iddo gael ei dderbyn gan Gymro a Norman fel ei gilydd. Ond fel arall y bu hi.

Roedd y Cymry’n ddrwgdybus o’i gefndir Normanaidd, yn enwedig am nad oedd yn siarad Cymraeg a’i fod hefyd yn aml yn ysgrifennu’n ddilornus amdanynt a hyd yn oed am ffyrdd y gallai’r Normaniaid orchfygu eu gwlad. Doedd gan y Normaniaid ddim coel arno oherwydd ei dras Cymreig ac roedd y Goron yn aml yn amau ei fod law yn llaw â’r tywysogion trafferthus. Roedd sail i’w hamheuon. Fe ysgrifennodd yn edmygus am Owain Gwynedd, Tywysog Gogledd Cymru, yn canmol ei ddoethineb a’i fonedd a’i ddewrder. Fe ddywedodd amdano’i hun: “Mae’r ddwy ochr yn f’ystyried yn ddieithryn nad yw’n un ohonynt – y naill genedl yn f’amau, y llall yn fy nghasáu.” Mae’n debyg mai Ffrangeg oedd ei iaith gyntaf, yna Lladin, yna Saesneg.

Daw’r rhan fwyaf o’n gwybodaeth am Gerallt, wrth gwrs, o’r hyn a ysgrifennodd ei hun, a rhaid trin hynny gyda gofal am ei fod bob amser yn awyddus i’w gyflwyno’i hun yn y goleuni gorau posibl, yn enwedig yn ei hunangofiant. Fel y dywed H E Butler amdano, “teimlai nad oedd ef ei hun yn ddim llai diddorol na’r byd oddi allan”.  Sonia lawer amdano’i hun yn De Rebus a Se Gestis [1]: “Arferai’r Groegiaid gynt â chyflwyno gweithredoedd gwÅ·r enwog i gof y cenedlaethau i ddod mewn modd a barai y gellid eu cofio’n well ac yn gliriach. A gwnaent hynny yn gyntaf mewn darluniau ac yn ail mewn ysgrifen, fel yr ysbrydolid yr oesoedd i ddod i ddynwared yn hyglod rinweddau mawr y dyddiau a fu. Oblegid nid enynnir neb i ddynwared pan glywo neu pan ddarlleno am weithredoedd eithafol neu amhosibl. Ond pan fo gwir rinwedd dyn yn fflachio i’r amlwg, dyrchefir y meddwl rhinweddol i ddynwared y gweithredoedd gwrol a’u teimlo i’r byw. Gan hynny fe osodais i mi fy hun y gorchwyl o draethu mewn dull ysgolheigaidd, ac eto’n syml a dirodres, weithredoedd enwog un o’n cyfnod ni y bûm naill ai’n dyst ohonynt neu a gofnodais oddi ar ei wefusau.”  Sôn yr oedd, wrth gwrs, amdano’i hun. 

Ysgrifennodd y byddai, pan fyddai’n darlithio ym Mharis, yn denu tyrfaoedd mawr, yn cynnwys ei gyn-athrawon, ac yn llenwi neuadd fwyaf y Brifysgol, gan felysed ei lais.

Roedd Gerallt yn wir yn gymeriad cymhleth a llawn anghysonderau. Yr oedd yn glerigwr uchelgeisiol a hunanol, ond hefyd yn ddiwygiwr eglwysig tanllyd, y dylanwadawyd arno gan Bedr Gantor ym Mharis. Ceisiodd ddileu anfoesoldeb ymhlith clerigion trwy atal o’u swyddi y rhai hynny oedd â gwraig a phlant a’r rhai a oedd wedi cael eu swyddi trwy gysylltiadau personol. Eto, fe dderbyniodd Archddiaconiaeth Brycheiniog gan ei ewythr, a oedd ar y pryd yn Esgob Tyddewi ac yn dad i blant, a’i throsglwyddo ym mhen amser i’w nai ei hun. Ysgrifennodd lyfrau ar Iwerddon a Chymru – Taith trwy Gymru a Disgrifiad o Gymru – sy’n glasuron o lyfrau taith, yn llawn disgrifiadau deallus a threiddgarwch craff. Ond prin oedd ei ddeallusrwydd emosiynol oherwydd mae’n ymddangos iddo feddwl y byddai rhoi’r rhain yn anrheg i’r Pab Innocent III yn ddigon i’w berswadio i gefnogi ei hawl i fod yn Esgob ac yn Archesgob er gwaethaf bygythion a llwgrwobrwyon a holl ddylanwad Coron Lloegr ac Archesgob Caergaint.  Yr oedd yn ddeallus a gwybodus a dysgedig (mae ei weithiau’n llawn dyfyniadau o waith awduron clasurol a’r tadau eglwysig) ond gallai hefyd fychanu ei gydwladwyr a’u gydglerigion a hel clecs amdanynt heb fedru gweld effeithiau posibl hynny.

Y mae ei lyfrau ar y naill law yn ddogfennau hanesyddol amhrisiadwy yn disgrifio tirwedd Cymru yn gariadus fanwl ond ar y llaw arall yn llawn adroddiadau mympwyol am fywyd bob dydd a gwyrthiau lleol ac yn cynnwys chwedlau gwerin a chwedlau gwrach, y cyfan yn adlewyrchu ei gefndir canoloesol a oedd yn cymryd bod pethau o’r fath yn wir.  Ar y naill law, canmolai ddewrder y Cymry mewn brwydr, eu dawn gerddorol, eu crebwyll a’u deallusrwydd ac ar y llaw arall cyhuddai hwy o ddichell, gan ddweud y byddent yn lladrata beth bynnag y gallent osod eu dwylo arno a’u bod yn byw ar ysbeilio, anrheithio a dwyn. Yr oedd yn ddiplomydd ac yn diwtor i dywysogion Lloegr, ond ni sylweddolodd yr effaith ar bwerau’r Goron a gâi’r pwyso a wnâi ef arni i’w wneud yn Archesgob Cymru.  Â’i fryd ar fod yn Esgob Tyddewi, fe wrthododd bedair esgobaeth arall, yn y gobaith y gallai gywilyddio’r Goron a’r Eglwys i’w wneud yn archesgob. Eto, roedd yn fodlon teithio Cymru gyda’r Archesgob Baldwin i listio pobl at y Croesgadau. Gweinyddodd Baldwin y Cymun ym mhob eglwys gadeiriol yng Nghymru i ddangos ei awdurdod dros ei heglwys ac yr oedd Gerallt, a oedd ar y pryd yn wrth-Gymreig, yn ddigon hapus â hynny. 

Ysgrifennodd lyfrau ar Iwerddon a Chymru am nad ysgrifennwyd llawer amdanynt. Fel y dywedodd, “fe’u hanwybyddwyd bron yn llwyr gan ddieithriaid ond y maent yn ddiddorol i’m perthnasau a’m cydwladwyr” [2], Bwriadai ysgrifennu llyfr ar yr Alban i gwblhau hanes y gwledydd Celtaidd ond ni lwyddodd. Dywedai ei fod yn ysgrifennu’n fwriadus syml ar gyfer lleygwyr, ond y mae arwyddion yn ei weithiau na chawsant lawer o ddarllenwyr am eu bod wedi’u hysgrifennu mewn Lladin clasurol.

Yn ychwanegol at ei lyfrau ar Gymru ac Iwerddon, a’i hunangofiant, ysgrifennodd ar gyflwr yr Eglwys ac ar fywydau’r seintiau Huw o Lincoln a Sieffre o Gaerefrog, a llyfr hefyd ar sut i fod y tywysog perffaith. Doedd Gerallt byth heb farn ar ddim. Pe bai Gweplyfr yn bod yr adeg honno, byddai brenhinoedd, tywysogion, archesgobion a phabau Ewrop ymhlith y ‘ffrindiau’ ar ei dudalen ef, oherwydd byddai’n cyfeillachu â hwy oll. Ond er iddo ymweld â Rhufain bedair gwaith, mae’n ddiddorol na soniodd ddim am adfeilion yr hen Rufain glasurol. Yn hytrach, ysgrifennodd am yr erlid a fu ar y Cristnogion cynnar.

Tra byddai ei frodyr yn adeiladu cestyll yn nhywod traethau Sir Benfro, dywedir mai adeiladu eglwysi  a wnâi ef. Fe’i hordeiniwyd yn weddol ifanc. “Fy esgob bach” y byddai ei dad yn ei alw.  

Ceisiodd Gerallt brofi bod gan bwy bynnag a ddewisid yn Esgob Tyddewi hawl i fod yn Archesgob Cymru am mai Tyddewi, yn ei farn ef, oedd y bwysicaf o bedair esgobaeth Cymru. Gan i’w gydganoniaid yn Nhyddewi ei ethol yn esgob ar ddau achlysur, aeth â’i ddadl gerbron llysoedd y brenhinoedd Harri II, Rhisiart I a John, gerbron Archesgob Caergaint ac, yn wir gerbron y Pab ei hun. Pe bai wedi bodloni ar fod yn ddim ond Esgob Tyddewi, fe allai fod wedi llwyddo i berswadio Archesgob Caergaint a’r Goron i gefnogi ei benodiad. 

Rhoddodd ei honiadau y dylai Tyddewi fod yn esgobaeth archesgobol annibynnol ar Gaergaint daw ar unrhyw obaith am gefnogaeth o’r fath, am y golygai ddileu dylanwad Caergaint ar Gymru. Ystyriai Archesgob Caergaint mai ganddo ef yr oedd yr awdurdod dros bob esgobaeth yng Nghymru a Lloegr. Nid oedd y Goron am orfod delio ag archesgob arall yng Nghymru, o gofio’r gwrthdaro a fu rhwng Harri II a chyn-Archesgob Caergaint, Thomas à Beckett, ac yn enwedig am fod Gerallt yn ei ystyried ef yn arwr. 

Gwelai’r Goron hefyd mai un ffordd o reoli Cymru’n wleidyddol oedd trwy dra-arglwyddiaethu arni’n ysbrydol trwy Gaergaint. Roedd Gerallt, wrth gwrs, yn ddall i’r pethau hyn. Daliodd i ddadlau’i achos. Gwrthododd esgobaethau Llandaf a Bangor am na fedrai hawlio’r un peth i’r esgobaethau hynny ag y gallai i Dyddewi.  Gwrthododd hefyd esgobaethau yn Iwerddon.

Yn y  De Iure et Statu Menevensis Ecclesiae VII 338 cofnododd hanesyn doniol amdano’i hun yn ymweld ag Iwerddon ynglÅ·n ag esgobaeth a gynigiwyd iddo yno: “Arferai rhyw glerc heb fod yn ei iawn bwyll ganlyn Llys Prifustus Iwerddon, gan ddifyrru’r gwÅ·r ifainc â’i gellwair bras. Mewn cynulleidfa gyhoeddus byddai hwn yn holi’r Meistr Gerallt ac yna’n ateb yn syth ar ei ran fel a ganlyn:  ‘Meistr Gerallt, wyt ti am fod yn Esgob Waterford?’ ‘Nac ydw.’  ‘Wyt ti am fod yn Esgob Ossory?’  ‘Nac ydw.’  ‘Wyt ti am fod yn Esgob Leighlin?’  ‘Nac ydw.’  ‘Wyt ti am fod yn Esgob Cashel?’  ‘Nac ydw.’  Ac yna byddai’n gofyn, ‘Wyt ti am fod yn Esgob Mynyw?’  ac ateb hynny â bloedd uchel, ‘Ydw!’ a dechrau rhuo chwerthin.

Yn yr un llyfr mae’n gofyn pam na dderbyniodd Siapter Tyddewi yn y diwedd ŵr cystal ac mor fawr ag ef yn esgob. Yr ateb syml, meddai, oedd bod ei haelodau’n llawn cenfigen a rhagfarn.

Ei uchelgais danllyd i fod yn Esgob Tyddewi a reolodd ei fywyd. Teithiodd i Rufain deirgwaith mewn pedair blynedd o 1198 i 1202 i bledio’i achos. Aeth yno drachefn rhwng 1202 a 1204, ond y tro hwn fel pererin. Yn y dyddiau hynny, cymerai’r daith o 1300 o filltiroedd i Rufain chwech wythnos ar gefn ceffyl a thri mis ar droed. Ei uchelgais a’i gyrrai, yn rhannol am i’w ewythr, Dafydd, fod yn Esgob Tyddewi ac iddo yntau gael ei ethol gan Siapter y Gadeirlan i’w olynu pan fu farw yn 1176. Roedd esgobaeth Tyddewi yn cynnwys hanner Cymru.

Credai i Dyddewi fod yn esgobaeth archesgobol o’r amser pan ddaeth Cristnogaeth i Brydain ac mai Dewi Sant yn y chweched ganrif oedd Archesgob cyntaf Cymru. Doedd dim sail hanesyddol i hyn, yn enwedig am yr ystyrid pedair esgobaeth Cymru’n gydradd â’i gilydd. Roedd rhywfaint o werth yn ei honiad na ddylai Cymru fod dan Archesgob Caergaint. Mae’n wir bod Caergaint ers hir amser wedi hawlio awdurdod dros Gymru, ond ni weithredwyd yr hawl honno mewn difrif nes dyfod y Normaniaid. Nid Caergaint fel rheol a gysegrai esgobion Cymru, ac yr oedd hyd yn oed Bernard, arglwydd Normanaidd a benodwyd i Dyddewi gan y Goron, wedi defnyddio rhai o’r dadleuon a gafwyd wedyn gan Gerallt bod iaith, cyfraith ac arferion Cymru’n wahanol i rai Lloegr a bod arni felly angen ei harchesgob ei hun.

Synhwyrai Harri II, y bu ganddo, chwe blynedd ynghynt, ran ym marwolaeth Beckett, y byddai ganddo offeiriad trafferthus arall i ymdrin ag ef pe deuai Gerallt yn esgob, a dywedodd: “Nid yw’n angenrheidiol nac yn fuddiol i’r Brenin na’r Archesgob i ŵr mawr ei onestrwydd a’i gywirdeb ddod yn Esgob Tyddewi rhag ofn i’r Goron a Chaergaint ddioddef trwy hynny. Ni wnâi penodiad o’r fath ddim ond rhoi nerth i’r Cymry a chynyddu eu balchder.” (Mae’n eironig bod y ddelw o Gerallt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi â meitr esgob nid ar ei ben ond wrth ei draed). Sylweddolai Harri II y byddai annibyniaeth barn Gerallt yn debygol o achosi anawsterau mawr iddo pe deuai’n Esgob Tyddewi.

Ysgrifennodd Hubert, Archesgob Caergaint, “Pe bai barbareiddiwch cenedl wyllt a di-ffrwyn y Cymry heb ei ffrwyno gan gerydd yr Eglwys, gyda chymorth Archesgob Caergaint, byddai’r bobl
hyn, trwy wrthryfel parhaus neu gyson, wedi atal eu gwrogaeth i’r Brenin”.

Ni ellir amau dewrder Gerallt. Bu farw llawer ar y daith beryglus ar hyd y Via Francigena i Rufain o Gaergaint. Roedd lladron yn fygythiad cyson. Felly hefyd dywydd enbyd yr Alpau, na ellid eu croesi ond mewn pedwar mis yn y flwyddyn, â’r eira’n ddeg troedfedd ar hugain o ddyfnder. Roedd pob math o rwystrau eraill, ac afiechydon, heb sôn am groesi’r Sianel, â’r cychod ar drugaredd drycinoedd. Ymosodwyd arno gan fleiddiaid, cafodd ei geffylau eu dwyn; fe’i carcharwyd gan Frenin Ffrainc; fe’i hymlidiwyd o Rufain gan gredydwyr.

Bu’n rhaid iddo hefyd, ar dro, osgoi ysbiwyr Archesgob Caergaint, a oedd am ei rwystro rhag cyrraedd Rhufain. Unwaith, yn St Omer, fe ymguddiodd dan gwch drwy’r nos. Dro arall, aeth bob cam drwy Wlad Belg i osgoi gwrthdaro rhwng dau o frenhinoedd Ewrop.

Yn wir, onid oedd pererinion wedi dychwelyd i Gaergaint mewn blwyddyn a diwrnod, rhagdybid eu bod wedi marw. Anogid hwy i wneud eu hewyllys cyn ymadael, sy’n dangos pa mor beryglus yr ystyrid y daith. Y mae’r Via Francegina yn un o lwybrau pererinion hynaf y byd. Dywed rhai ei bod yn dilyn llwybrau a ddefnyddiwyd gan Iwl Cesar. Y mae disgrifiad ohoni gan Sigeric, un o archesgobion Caergaint yn y ddegfed ganrif mewn llawysgrif a ddarganfuwyd yn y 1980au.

Doedd dim o hyn yn rhwystr i Gerallt. Ceisiodd berswadio’r Pab Innocent III i’w gysegru a’i wneud yn archesgob. Mae’n debyg iddo fod yn gydfyfyriwr ag Innocent ym Mharis, a’i fod yn ei ystyried yn gyfaill, ond roedd y Pab yn wleidydd rhy graff i dramgwyddo  Coron Lloegr ac Archesgob Caergaint. 

Doedd ymateb y Pab yn poeni dim ar Gerallt. Dywedai wrth bawb a oedd yn barod i wrando fod y Pab wrth ei fodd gyda’i lyfrau, yn eu cadw wrth ei wely a hyd yn oed yn dyfynnu ohonynt i’w gardinaliaid! Dywedodd wrth y Pab y câi gan eraill libras (llwgrwobrwyon) ond mai ei lyfrau (libros) ei hun a gâi ganddo ef, fel pe bai hynny’n ddigon i beri i’r Pab benderfynu o’i blaid.

Mae’r Via Francegina yn mynd trwy Vercelli yng ngogledd yr Eidal lle y mae grŵp o bobl â chanddynt ddiddordeb mawr yn Gerallt. Yn gynharach eleni, euthum yno i siarad a hwy amdano. Yn Amgueddfa’r Eglwys Gadeiriol y mae Llyfr Vercelli, llawysgrif Saesneg o’r ddegfed ganrif, sy’n cynnwys y gerdd enwog “Breuddwyd y Ffordd”, a adawyd, mae’n debyg, gan  deithiwr a fu farw ar ei ffordd i Rufain. Y mae yno hefyd un o’r creirfeydd canoloesol mwyaf trawiadol yng ngogledd yr Eidal. Daw hynny â ni’n agos at fyd Gerallt, oherwydd honnir bod creirfeydd yn dal gweddillion a rhannau o gyrff saint.

Yn yr oesoedd canol, tybid bod gan y rhain bwerau gwyrthiol. Mewn oes pan ystyrid afiechyd yn gosb ddwyfol am ddrygioni a phan oedd meddygaeth yn gyntefig, roedd y seintiau’n iachawyr o bwys. Mae’n debyg i Gerallt aros yno, yn y llety pererinion a sefydlwyd gan y  Cardinal Guala Bichieri. Fe all bod y ddau’n adnabod ei gilydd, gan mai Bichieri oedd Llysgennad y Pab yn Lloegr. Unwaith fe esgymunodd Gymru gyfan am gefnogi Ffrainc yn erbyn y Brenin John. 

Oherwydd i Gerallt frwydro’n angerddol dros archesgob i Gymru, fe ofynnir yn aml a oedd yn Gymro gwlatgar a oedd am fynnu, yn ei eiriau ei hun, “bod testun ein llyfrau hanes yn dangos, mai ein  heglwys ni, o dair archesgobaeth Prydain, yw’r drydedd mewn nifer ond y gyntaf mewn safle”. Yn sicr, nid oedd am i Gymru fod dan Gaergaint, ond a oedd hynny am ei fod yn caru Cymru neu am fod ganddo’i uchelgais ei hun? 

Roedd yn sicr yn barod i fynd i ddyled i hyrwyddo’i amcanion. Dadleuodd ei achos yn frwd rhwng 1198 a 1203 ond, yn y diwedd, pan sylweddolodd nad oedd yn mynd i ennill, rhoddodd y gorau iddi ac ymddiswyddo hefyd o fod yn Archddiacon Brycheiniog. Yn 1889, galwodd Henry Owen ef yn “Gerallt Gymro” a’i ddarlunio fel un yn brwydro dros enw da Cymru; felly hefyd John Edward Lloyd, a ysgrifennodd yn 1911: “Ni pheidiai Gerallt â phwysleisio ei dras Cymreig, ystyriai mai Cymru oedd ei famwlad annwyl a gwelai ei hun fel arweinydd gwlatgar o Gymro”. 

Yn 1947 aeth yr Athro Thomas Jones, Aberystwyth, ymhellach pan ysgrifennodd: “Gwaed Cymreig oedd yn llifo drymaf trwy ei wythiennau. Fe’i ganwyd yng Nghymru, treuliodd y rhan helaethaf o’i oes yno, brwydrodd dros yr eglwys yng Nghymru. Bywyd ein pobl oedd pwnc y rhan fwyaf o’i lyfrau ac yn naear Cymru y cafodd ei orffwysfan olaf”. Y ffaith amdani yw mai yn Lincoln y bu farw Gerallt, ac nid oes sicrwydd ymhle y claddwyd ef.
               
Ni ellir amau ei gariad at Gymru na’i gred ddiffuant fod Tyddewi’n haeddu archesgob. I hybu’r diben hwn, yr oedd yn barod i wrthod esgobaethau – peth anghyffredin i rywun uchelgeisiol. Ond ni ellir byth osgoi’r argraff bod popeth a wnâi ac a ddywedai Gerallt er gogoniant yn y pen draw i Gerallt ei hun, ac nid oes amheuaeth na fyddai wedi derbyn esgobaeth yn Lloegr pe cawsai gynnig un pan oedd yn llys y brenin yn diwtor i’r tywysogion Rhisiart a John. Nid yw’n ymddangos ei fod ychwaith yn ŵr arbennig o ysbrydol. 

Ni ddylid ychwaith anghofio mai un o wÅ·r y sefydliad ydoedd. Tiroedd wedi eu dwyn oddi ar y Cymry oedd tiroedd ei hynafiaid Normanaidd. Ceir yr argraff nad oedd mewn difrif yn teimlo’n gartrefol yng Nghymru. Yr oedd, fel y dywed C H Williams yn ei ragarweiniad i gyfieithiad H E Butler o Hunangofiant Gerallt, “yn ddieithryn yn y wlad a oedd yn gymaint rhan o’i uchelgais” [3].  Ac yntau wedi’i addysgu yng Nghaerloyw a Pharis, teimlai’n llawer mwy cartrefol ymhlith ysgolheigion nag a wnaeth erioed yn Aberhonddu, lle na threuliodd ond ychydig o amser, ac yn sicr nid oedd yn ystyried bod y Gymraeg yn iaith addas i ŵr o’i safle ef.

Bu farw’n ŵr chwerw ymhell oddi wrth bobl Cymru a ystyriai’n “bobl syml, ddi-ddysg a diddiwylliant”. Beiai bawb am ei drallodion, gan honni iddo gael ei gamddeall a’i ddifrïo. Methodd yn llwyr â gweld mai ei fai ef ei hun, gan fwyaf, oedd ei helbulon.  

Bu farw yn Lincoln. Yr oedd wedi ymddeol yno yn 1222, yn fethiant yn ei farn ei hun, am na lwyddodd i ddod yn Esgob Tyddewi na sicrhau cydnabod Tyddewi yn esgobaeth archesgobol Cymru. Ond gadawodd inni lyfrau ardderchog sydd, er bod yn rhai eu cymryd gyda bwcedeidiau o halen, yn dweud llawer wrthym am Gymru’r ddeuddegfed ganrif, ac yn enwedig am ei Heglwys. Ewropead ydoedd, yn hytrach na Chymro. Yr oedd yn graff ei feddwl a’i lygaid ac yn
sbinddoctor iddo’i hun ganrifoedd cyn i’r gair gael ei ddyfeisio.