Dydd Nadolig (B)

Grŵp I
Lliw: White

GENEDIGAETH EIN HARGLWYDD

Advent 4 Showing Christmas day Welsh

Cliciwch y llun i weld tudalennau’r Llithiadur am yr wythnos hon

Cliciwch yma i weld darlleniadau’r Gwyliau

Colect 11 (Testun a ddangosir)

Ôl Gymun 12 (Testun a ddangosir)

Prif Wasanaeth (Testun a ddangosir)
Gellir defnyddio un o’r casgliadau canlynol o ddarlleniadau ar Noswyl y Nadolig a dydd Nadolig. Dylid defnyddio casgliad III yn un o’r gwasanaethau yn ystod yr Ŵyl.

Denyddir Set I yn ystod y nos.
Eseia 9. 2-7 / Salm 96 / Titus 2. 11-14 / Luc 2. 1-14, [15-20]

Denyddir Set II yn ystod y dydd.
Eseia 62. 6-12 / Salm 97 / Titus 3. 4-7 / Luc 2. [1-7,] 8-20

Y mae Set III yn orfodol.
Eseia 52. 7-10 / Salm 98 / Hebreaid 1.1-4, [5-12] / Ioan 1. 1-14

Ail Wasanaeth (Testun nas dangosir)
Salm 8
Eseia 65. 17-25
Philipiaid 2. 5-11 neu Luc 2. 1-20 pan na ddefnyddiwyd yn ystod y Prif Wasanaeth y Dydd.

Trydydd Gwasanaeth (Testun nas dangosir)
Salm 110
Eseia 62. 1-5
Mathew 1. 18-25

1984 (Testun nas dangosir)
Tudalen 38
Colect 11

Llyfr Gweddi 1984
Hollalluog Dduw, a roddaist inni dy uniganedig Fab i gymryd ein natur ni, a’i eni ar gyfenw i’r amser yma o Forwyn bur: caniatâ i ni, sy’n llawenychu yn nyfodiad dy fywiol dragwyddol Air, gael ein hadnewyddu beunydd trwy dy Ysbryd Glân; trwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r un Ysbryd, byth yn un Duw, yn oes oesoedd.

Llyfr Gweddi 1984: Colect Ychwanegol
Nefol Dad, sy’n llawenhau â’r coffâd blynyddol am enedigaeth dy unig Fab, Iesu Grist: caniatâ i ni, sy’n ei dderbyn yn llawen yn waredwr, allu edrych arno’n llawn hyder pan ddaw yn farnwr arnom; trwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn oes oesoedd.

Cyfoes
Yn y Nos
Dduw tragwyddol,
a wnaethost i’r noson gysegredig hon
lewyrchu â disgleirdeb
dy unig wir oleuni:
dwg ni, sydd wedi adnabod datguddiad
y goleuni hwnnw ar y ddaear,
i weld llewyrch dy ogoniant nefol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.

Yn y Dydd
Hollalluog Dduw,
rhoddaist i ni dy uniganedig Fab
i gymryd ein natur ni
a’i eni ar gyfenw i’r amser yma o forwyn bur:
caniatâ i ni, sydd wedi ein geni drachefn
a’n gwneud yn blant i ti trwy fabwysiad a gras,
gael ein hadnewyddu’n feunyddiol
trwy dy Ysbryd Glân;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.

Ôl Gymun 12
Yn y Nos
Dduw ein Tad,
y noson hon amlygaist inni drachefn
ddyfodiad Iesu Grist ein Harglwydd;
cadarnhâ ein ffydd a hoelia ein llygaid arno ef
nes y gwawria’r dydd
ac y cyfoda Crist, Seren y Bore yn ein calonnau.
Iddo ef y bo’r gogoniant, yn awr ac am byth.

Yn y Dydd
Dduw ein Tad,
daeth dy Air i’n plith
ym Mhlentyn Sanctaidd Bethlehem:
bydded i oleuni ffydd oleuo ein calonnau
a disgleirio yn ein geiriau a’n gweithredoedd;
trwyddo ef sy’n Grist yr Arglwydd.

Set I
Eseia 9. 2-7 / Salm 96 / Titus 2. 11-14 / Luc 2. 1-14, [15-20]

Eseia 9. 2-7
Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu’n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o’th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu’r ysbail. Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt, a’r croesfar oedd ar eu hysgwydd, a’r ffon oedd gan eu gyrrwr, fel yn nydd Midian. Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes, a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed, fe’u llosgir fel tanwydd. Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe’i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”. Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth, i’w sefydlu’n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.

Salm 96
Testun Beiblaidd
Canwch i’r ARGLWYDD gân newydd, canwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear. Canwch i’r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw, cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd. Oherwydd mawr yw’r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i’w ofni’n fwy na’r holl dduwiau. Eilunod yw holl dduwiau’r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Y mae anrhydedd a mawredd o’i flaen, nerth a gogoniant yn ei gysegr. Rhowch i’r ARGLWYDD, dylwythau’r cenhedloedd, rhowch i’r ARGLWYDD anrhydedd a nerth; rhowch i’r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch i’w gynteddoedd. Ymgrymwch i’r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd; crynwch o’i flaen, yr holl ddaear. Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, “Y mae’r ARGLWYDD yn frenin”; yn wir, y mae’r byd yn sicr ac nis symudir; bydd ef yn barnu’r bobloedd yn uniawn. Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’r cyfan sydd ynddo, llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo. Yna bydd holl brennau’r goedwig yn canu’n llawen o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae’n dod, oherwydd y mae’n dod i farnu’r ddaear. Bydd yn barnu’r byd â chyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.

Salm Pwyntiedig
Canwch i’r Arglwydd / gân – / newydd :
canwch i’r / Arglwydd / yr holl / ddaear.
Canwch i’r Arglwydd, ben/dithiwch • ei / enw :
cyhoeddwch ei iachaw/dwriaeth • o / ddydd i / ddydd.
Dywedwch am ei ogoniant y/mysg y / bobloedd :
ac am ei ryfeddodau y/mysg yr / holl gen/hedloedd.
Oherwydd mawr yw’r Arglwydd, a theilwng / iawn o / fawl :
y mae i’w ofni’n / fwy na’r / holl – / dduwiau.
Eilunod yw holl / dduwiau’r / bobloedd :
ond yr / Arglwydd • a / wnaeth y / nefoedd.
Y mae anrhydedd a / mawredd • o’i / flaen :
nerth a go/goniant / yn ei / gysegr.
Rhowch i’r Arglwydd, dyl/wythau’r • cen/hedloedd :
rhowch i’r / Arglwydd • an/rhydedd • a / nerth;
Rhowch i’r Arglwydd an/rhydedd • ei / enw :
dygwch / offrwm • a / dewch • i’w gyn/teddoedd.
Ymgrymwch i’r Arglwydd yn ysblander / ei sanc/teiddrwydd :
crynwch o’i / flaen, yr / holl – / ddaear.
Dywedwch ymh/lith • y cen/hedloedd :
“Y mae’r / Ar–/glwydd yn / frenin”;
Yn wir, y mae’r byd yn sicr ac / nis sy/mudir :
bydd ef yn / barnu’r / bobloedd • yn / uniawn.
Bydded y nefoedd yn llawen a gorfo/ledded • y / ddaear :
rhued y / môr a’r / cyfan • sydd / ynddo,
Llawenyched y maes a / phopeth • sydd / ynddo :
yna bydd holl brennau’r / goedwig • yn / canu’n / llawen
O flaen yr Arglwydd, o/herwydd • y mae’n / dod :
oherwydd y mae’n / dod i / farnu’r / ddaear.
Bydd yn barnu’r byd / â chy/fiawnder :
a’r / bobloedd / â’i wir/ionedd.

Titus 2. 11-14
Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw’n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol, a disgwyl cyflawni’r gobaith gwyn-fydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a’n Gwaredwr, Iesu Grist.
Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a’n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sêl dros weithredoedd da.

Luc 2. 1-14, [15-20]
1-14
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria. Aeth pawb felly i’w gofrestru, pob un i’w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem, i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi’n feichiog. Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a’i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.
Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos. A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o’u hamgylch; a daeth arswyd arnynt. Yna dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; a dyma’r arwydd i chwi: cewch hyd i’r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb.” Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd.”
[15-20]
Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb; ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn. Rhyfeddodd pawb a’u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt; ond yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt. Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt.

Set II
Eseia 62. 6-12 / Salm 97 / Titus 3. 4-7 / Luc 2. [1-7,] 8-20

Eseia 62. 6-12
Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyr nad ydynt yn tewi ddydd na nos; chwi sy’n galw ar yr ARGLWYDD, peidiwch â distewi, na rhoi llonydd iddo, nes iddo sefydlu Jerwsalem, a’i gwneud yn destun moliant trwy’r byd. Tyngodd yr ARGLWYDD i’w ddeheulaw ac i’w fraich nerthol, “Ni roddaf dy ŷd byth eto’n ymborth i’th elyn, ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano; ond y rhai a’i casgla fydd yn bwyta, ac yn diolch i’r ARGLWYDD amdano; y rhai a’i cynnull fydd yn yfed oddi mewn i gynteddau fy nghysegr.” Ewch i mewn, ewch i mewn drwy’r pyrth, paratowch ffordd i’r bobloedd; codwch briffordd a symudwch y cerrig, dyrchafwch arwydd i’r bobloedd. Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDD i bellafoedd y ddaear, “Dywedwch wrth ferch Seion, ‘Y mae dy achubydd yn dyfod; y mae ei wobr yn ei law, ac y mae ei dâl ganddo.’ ” Fe’u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd, Gwaredigion yr ARGLWYDD, ac fe’th elwir di, Yr un a geisiwyd, Dinas nas gwrthodwyd.

Salm 97
Testun Beiblaidd
Y mae’r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear, bydded ynysoedd lawer yn llawen. Y mae cymylau a thywyllwch o’i amgylch, cyfiawnder a barn yn sylfaen i’w orsedd. Y mae tân yn mynd o’i flaen, ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch. Y mae ei fellt yn goleuo’r byd, a’r ddaear yn gweld ac yn crynu. Y mae’r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear. Y mae’r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, a’r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant. Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau sy’n ymffrostio mewn eilunod; ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau. Clywodd Seion a llawenhau, ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoleddu o achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear; yr wyt wedi dy ddyrchafu’n uwch o lawer na’r holl dduwiau. Y mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n casáu drygioni, y mae’n cadw bywydau ei ffyddloniaid, ac yn eu gwaredu o ddwylo’r drygionus. Heuwyd goleuni ar y cyfiawn, a llawenydd ar yr uniawn o galon. Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn, a moliannwch ei enw sanctaidd.

Salm Pwyntiedig
Y mae’r / Arglwydd • yn / frenin :
gorfoledded y ddaear • bydded y/nysoedd / lawer • yn / llawen.
Y mae cymylau a thy/wyllwch • o’i / amgylch :
cyfiawnder a / barn yn / sylfaen • i’w / orsedd.
Y mae tân yn / mynd o’i / flaen :
ac yn llosgi ei e/lynion / oddi / amgylch.
Y mae ei fellt yn go/leuo’r / byd :
a’r / ddaear • yn / gweld • ac yn / crynu.
Y mae’r mynyddoedd yn toddi fel cwyr
o / flaen yr / Arglwydd :
o flaen / Arglwydd • yr / holl – / ddaear.
Y mae’r nefoedd yn cyhoeddi / ei gyf/iawnder :
a’r holl / bobloedd • yn / gweld • ei o/goniant.
Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau •
sy’n ymffrostio / mewn ei/lunod :
ymgrymwch iddo / ef yr / holl – / dduwiau.
Clywodd Seion a llawenhau •
ac yr oedd trefi Jwda yn / gorfol/eddu :
o achos dy farnedi/gaethau / O – / Arglwydd.
Oherwydd yr wyt ti, Arglwydd,
yn oruchaf / dros yr • holl / ddaear :
yr wyt wedi dy ddyrchafu’n uwch
o / lawer / na’r holl / dduwiau.
Y mae’r Arglwydd yn caru’r rhai sy’n ca/sáu dryg/ioni :
y mae’n cadw bywydau ei ffyddloniaid •
ac yn eu / gwared • o / ddwylo’r • dryg/ionus.
Heuwyd goleuni / ar y / cyfiawn :
a llawenydd / ar yr / uniawn • o / galon.
Llawenhewch yn yr / Arglwydd • rai / cyfiawn :
a mo/liannwch • ei / enw / sanctaidd.

Titus 3. 4-7
Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a’i gariad tuag at bobl, fe’n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o’i drugaredd ei hun. Fe’n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân, a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr. Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.

Luc 2. [1-7,] 8-20
[1-7]
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria. Aeth pawb felly i’w gofrestru, pob un i’w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem, i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi’n feichiog. Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a’i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.
8-20
Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos. A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o’u hamgylch; a daeth arswyd arnynt. Yna dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; a dyma’r arwydd i chwi: cewch hyd i’r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb.” Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd.” Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb; ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn. Rhyfeddodd pawb a’u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt; ond yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt. Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt.

Set III
Eseia 52. 7-10 / Salm 98 / Hebreaid 1.1-4, [5-12] / Ioan 1. 1-14

Eseia 52. 7-10
Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd sy’n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; sy’n dweud wrth Seion, “Dy Dduw sy’n teyrnasu.” Clyw, y mae dy wylwyr yn codi eu llais ac yn bloeddio’n llawen gyda’i gilydd; â’u llygaid eu hunain y gwelant yr ARGLWYDD yn dychwelyd i Seion. Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem, oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl, a gwaredodd Jerwsalem. Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaidd yng ngŵydd yr holl genhedloedd, ac fe wêl holl gyrrau’r ddaear iachawdwriaeth ein Duw ni.

Salm 98
Testun Beiblaidd
Canwch i’r ARGLWYDD gân newydd, oherwydd gwnaeth ryfeddodau. Cafodd fuddugoliaeth â’i ddeheulaw ac â’i fraich sanctaidd. Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys, datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd. Cofiodd ei gariad a’i ffyddlondeb tuag at dŷ Israel; gwelodd holl gyrrau’r ddaear fuddugoliaeth ein Duw. Bloeddiwch mewn gorfoledd i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear, canwch mewn llawenydd a rhowch fawl. Canwch fawl i’r ARGLWYDD â’r delyn, â’r delyn ac â sain cân. Â thrwmpedau ac â sain utgorn bloeddiwch o flaen y Brenin, yr ARGLWYDD. Rhued y môr a’r cyfan sydd ynddo, y byd a phawb sy’n byw ynddo. Bydded i’r dyfroedd guro dwylo; bydded i’r mynyddoedd ganu’n llawen gyda’i gilydd o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae’n dyfod i farnu’r ddaear; bydd yn barnu’r byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.

Testun Beiblaidd
Canwch i’r Arglwydd gân newydd •
oherwydd gwnaeth / ryfe/ddodau :
cafodd fuddugoliaeth â’i ddeheulaw
/ ac â’i / fraich – / sanctaidd.
Gwnaeth yr Arglwydd ei fuddu/goliaeth • yn / hysbys :
datguddiodd ei gyf/iawnder o / flaen • y cen/hedloedd.
Cofiodd ei gariad a’i ffyddlondeb tuag / at dŷ / Israel :
gwelodd holl gyrrau’r / ddaear • fuddu/goliaeth • ein / Duw.
Bloeddiwch mewn gorfoledd i’r Arglwydd, yr / holl – / ddaear :
canwch mewn lla/wenydd / a rhowch / fawl.
Canwch fawl i’r / Arglwydd • â’r / delyn :
â’r / delyn • ac / â sain / cân.
 thrwmpedau ac / â sain / utgorn :
bloeddiwch o / flaen y / Brenin • yr / Arglwydd.
Rhued y môr a’r / cyfan • sydd / ynddo :
y byd a / phawb sy’n / byw – / ynddo.
Bydded i’r dyfroedd / guro / dwylo :
bydded i’r mynyddoedd ganu’n / llawen / gyda’i / gilydd
O flaen yr Arglwydd,
oherwydd y mae’n dyfod i / farnu’r / ddaear :
bydd yn barnu’r byd â chyfiawnder,
a’r / bobloedd / ag un/iondeb.

Hebreaid 1.1-4, [5-12]
1-4
Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy’r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. Hwn yw’r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a’r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo. Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae’n cynnal pob peth â’i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw’r Mawrhydi yn yr uchelder, wedi dyfod gymaint yn uwch na’r angylion ag y mae’r enw a etifeddodd yn rhagorach na’r eiddynt hwy.
[5-12]
Oherwydd wrth bwy o’r angylion y dywedodd Duw erioed: “Fy Mab wyt ti, myfi a’th genhedlodd di heddiw”? Ac eto: “Byddaf fi yn dad iddo ef, a bydd yntau yn fab i mi.” A thrachefn, pan yw’n dod â’i gyntafanedig i mewn i’r byd, y mae’n dweud: “A bydded i holl angylion Duw ei addoli.” Am yr angylion y mae’n dweud: “Yr hwn sy’n gwneud ei angylion yn wyntoedd, a’i weinidogion yn fflam dân”; ond am y Mab: “Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol, a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb. Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith. Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinio ag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.” Y mae hefyd yn dweud: “Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini’r ddaear, a gwaith dy ddwylo di yw’r nefoedd. Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti’n aros; ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn; plygi hwy fel plygu mantell, a newidir hwy fel newid dilledyn; ond tydi, yr un ydwyt, ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.”

Ioan 1. 1-14
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef. Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni. Yr oedd y gwir oleuni, sy’n goleuo pawb, eisoes yn dod i’r byd. Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu’r byd mohono. Daeth i’w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw. A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.

Documents:

Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu, na chadw ar system adfer, unrhyw  
ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy  
unrhyw gyfrwng, electronig, mecanyddol, llungopïo, recordio nac arall, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth ddeiliad yr hawlfraint priodol, ac eithrio fel y caniateir isod. 
 
 
Atgynhyrchu: 
Gellir storio ac atgynhyrchu’r ddogfen hon i’w defnyddio’n ddi-dâl ar yr amod na werthir mo’r copïau, na chynhyrchir mwy na 500 copi a bod enw’r plwyf, y gadeirlan neu’r sefydliad yn ymddangos ar y clawr blaen neu ar y dudalen gyntaf neu fel pennawd neu droednodyn ar ddalen sengl. Dylid cynnwys y gydnabyddiaeth a ganlyn: 
Testun allan o Gair yr Arglwydd 2011 – yr Eglwys yng Nghymru 
Hawlfraint Cyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru 2011. 
 
 
Gwybodaeth am ffynonellau: 
Colectau a Gweddïau Ôl-Gymun o’r llyfr Y Calendr Newydd a’r Colectau  
Hawlfraint Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru 2003 
ISBN – 1853115495 
 
Salmau Pwyntiedig o’r llyfr Gweddi Ddyddiol 
Hawlfraint Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru 2010 
ISBN – 9781853119347 
 
Defnyddiwyd a Salms trwy ganiatâd ddyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.