Pennod V: Yr Archesgob a’r Esgobion Cadeiriol

Rhan I: Urdd yr Esgobion

 

1.

 

Bydd yr Archesgob a’r Esgobion Cadeiriol yn eistedd ac yn gweithredu yn gynrychiolwyr i’r Synod Daleithiol hynafol ac, yn ddarostyngedig i’r Cyfansoddiad, byddant yn dal ac yn arfer yr holl awdurdod a galluoedd sydd ac a fu erioed yn eiddo i Synod Daleithiol.

 

2.

 

Bydd gan yr Archesgob flaenoriaeth ar bob Esgob Cadeiriol. Yn nesaf ar ei ôl ef, at holl ddibenion y Cyfansoddiad, bydd blaenoriaeth pob Esgob Cadeiriol arall yn ôl dyddiad ei benodi gyntaf yn Esgob Cadeiriol.

 

3.

 

(1)     Bydd gan yr Archesgob y gallu a gall arfer y gallu i ganiatáu trwyddedau, goddefebau, hawlebau ac ysgrifebau eraill a oedd gan Archesgob Caer-gaint yng Nghymru ar 30 Mawrth 1920, yn ôl fel y gellid trosglwyddo’n gyfreithlon y cyfryw alluoedd.

 

(2)     Bydd gan yr Esgobion Cadeiriol bob gallu a gallant ddefnyddio pob gallu i ganiatáu trwyddedau, goddefebau, hawlebau ac ysgrifebau eraill a oedd ganddynt ar 30 Mawrth 1920.

 

Rhan II: Yr Archesgob

 

4.

 

(1)     Delir swydd yr Archesgob gan Esgob Cadeiriol, a’i benodi yn unol â’r Bennod hon.

 

(2)     At ddiben y Cyfansoddiad, ystyrir yr Archesgob yn Esgob yr esgobaeth y mae’n llywyddu drosti heb amharu ar ei hawliau fel Archesgob.


5.

(1)     Etholir yr Archesgob gan Goleg Ethol Archesgob.

 

(2)     Aelodau’r Coleg Ethol Archesgob fydd:

(a)     yr Esgobion;

(b)     y tri chyntaf ymhlith yr Etholwyr Esgob clerigol a’r tri chyntaf ymhlith yr Etholwyr Esgob lleyg ar restr pob Esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru.

 

(3)     Yr Esgob Cadeiriol blaenaf, os bydd yn fodlon gweithredu neu, yn ei absenoldeb ef neu os bydd ef yn anfodlon gweithredu, yr Esgob Cadeiriol nesaf ei flaenoriaeth sy’n bresennol ac yn fodlon gweithredu fydd Llywydd y Coleg (y “Llywydd”).

 

6.

 

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, bydd y Coleg Ethol Archesgob yn gwneud ei reolau ei hun ar y dull a’r modd y pleidleisir dros yr Archesgob a’i ethol.

 

7.

 

Pan fo’r Archesgob yn fethedig neu’n absennol o’r Ynysoedd Prydeinig:

(a)     y blaenaf o’r Esgobion Cadeiriol sy’n fodlon gweithredu ac yn gallu gweithredu, a heb fod ar y pryd yn absennol o’r Ynysoedd Prydeinig, fydd gwarcheidwad ysbrydoliaethau unrhyw esgobaeth sy’n wag cyhyd ag y bo’r Archesgob yn fethedig neu’n absennol o’r Ynysoedd Prydeinig, a bydd ganddo a gall arfer holl hawliau eraill yr Archesgob;

(b)     os bydd yr Esgob hwnnw yn ystod y cyfryw gyfnod farw neu fynd i fethu gweithredu neu fod yn absennol o’r Ynysoedd Prydeinig am gyfnod hwy na thri diwrnod yn olynol, cymerir ei le i ddibenion yr adran hon o hynny ymlaen neu gyhyd ag y pery’n fethedig neu’n absennol o’r Ynysoedd Prydeinig gan yr Esgob Cadeiriol nesaf ei flaenoriaeth a chanddo’r cymwysterau a enwyd eisoes.

 

Diddymwyd.

 

8.

 

Gall yr Archesgob ymddiswyddo o’i swydd fel archesgob heb ymddiswyddo o’i esgobaeth trwy hysbysu’r Esgob Cadeiriol blaenaf mewn ysgrifen.

 

9.

 

Pan elo swydd yr Archesgob yn wag:

(a)     y blaenaf o’r Esgobion Cadeiriol, ar wahân i’r Archesgob sy’n ymddeol, sy’n fodlon gweithredu ac yn gallu gweithredu fydd gwarcheidwad ysbrydoliaethau unrhyw Esgobaeth sy’n wag, ac ef fydd yn dal ac yn arfer holl hawliau eraill yr Archesgob ac yn llenwi ei le cyhyd ag y bydd yr Archesgobaeth yn wag;

(b)     os bydd i’r Esgob hwnnw farw tra bydd yr archesgobaeth yn wag, neu ei fod neu iddo fynd yn fethedig neu’n absennol o’r Ynysoedd Prydeinig, cymerir ei le at ddibenion yr adran hon o hynny ymlaen, neu gyhyd ag y pery’n fethedig neu’n absennol o’r Ynysoedd Prydeinig, gan yr Esgob Cadeiriol nesaf ei flaenoriaeth a chanddo’r cymwysterau a enwyd eisoes.

 

Rhan III: Yr Esgobion Cadeiriol

 

10.

 

(1)     Etholir Esgob Cadeiriol gan Goleg Ethol Esgob.

 

(2)     Aelodau’r Coleg Ethol fydd:

(a)     yr Archesgob a’r Esgobion Cadeiriol;

(b)     y chwe Etholwr Esgob clerigol a’r chwe Etholwr Esgob lleyg o’r esgobaeth wag; ac

(c)     y tri chyntaf ymhlith yr Etholwyr Esgob clerigol a’r tri chyntaf ymhlith yr Etholwyr Esgob lleyg ar restr pob esgobaeth arall.

 

(3)     Yr Archesgob neu, yn ei absenoldeb ef, yr Esgob Cadeiriol nesaf ei flaenoriaeth sy’n fodlon gweithredu fydd Llywydd y Coleg.

 

(4)     Bydd y Llywydd yn penodi Hwyluswr ar gyfer pob etholiad; ei swyddogaeth fydd cynorthwyo’r Esgobaeth wag i baratoi at yr etholiad, gan gynnwys cynhyrchu Proffeil o’r Esgobaeth a chynnull Etholwyr Esgob yr Esgobaeth i ystyried anghenion yr Esgobaeth ac i ystyried ymgeiswyr y gellir eu henwebu i’w hethol. Awdurdodir yr Hwyluswr i gychwyn ar ei waith wedi i’r E sgob sy’n ymddeol hysbysu ei fwriad i wneud hynny o dan adran 12.

 

11.

 

Yn ddarostyngedig i’r Cyfansoddiad, bydd y Coleg Ethol Esgob yn gwneud ei reolau ei hun ar y dull a’r modd y pleidleisir dros Esgob a’i ethol.

 

12.

 

(1)     Gall Esgob ymddiswyddo o’i esgobaeth trwy hysbysu’r Archesgob mewn ysgrifen o’i fwriad i wneud hynny, a bydd yr Archesgob ar hynny yn gorchymyn i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol roi hysbysiad ysgrifenedig am yr ymddiswyddiad i bob Esgob Cadeiriol, i Gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, Cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr, ac i bob  Etholwr Esgob.

 

(2)     Gall yr Archesgob ymddiswyddo o’i esgobaeth trwy hysbysu’r Esgob Cadeiriol blaenaf, a bydd yntau ar hynny yn dod yn Llywydd y Coleg Ethol Esgob a bydd yn gorchymyn i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol roi hysbysiad ysgrifenedig am yr ymddiswyddiad yn unol ag is-adran 12(1).

 

13.

 

Pan grëir esgobaeth newydd bydd y Corff Llywodraethol yn darparu fel y barno’n fuddiol at sicrhau ethol Esgob yn unol ag egwyddorion y Bennod hon.

 

14.

 

Diddymwyd.

 

Esgob Cynorthwyol

 

15.

 

(1)     Caiff unrhyw Esgob Cadeiriol, os dymuna hynny, Esgob neu Esgobion Cynorthwyol i’w gynorthwyo yn yr esgobaeth.

 

(2)     Ni fydd gan Esgob Cynorthwyol hawl i olynu i unrhyw gadair esgobol.

 

(3)     Ni fydd Esgob Cynorthwyol yn arfer dim ond yr hawliau a’r swyddi hynny yn yr esgobaeth a ymddiriedir iddo i’w harfer o bryd i’w gilydd gan Esgob yr esgobaeth ar y pryd trwy  gomisiwn dan ei sêl esgobol.

 

(4)     Os bydd Esgob Cadeiriol yn dymuno cael clerig mewn urdd offeiriad yn Esgob Cynorthwyol, bydd yn anfon enw’r clerig i’r Archesgob, a bydd yntau’n cyflwyno’r enw i bob aelod o Fainc yr Esgobion; ac os bydd Mainc yr Esgobion, neu fwyafrif ohonynt, wedi ymgynnull mewn Synod, yn fodlon bod y clerig hwnnw’n gymwys, bydd yr Archesgob yn ei gyhoeddi’n Ddarpar-Esgob Cynorthwyol yr esgobaeth, a bydd yr Archesgob yn cymryd y camre angenrheidiol i ddwyn hynny i rym.

 

(5)     Os bydd Mainc yr Esgobion, neu fwyafrif ohonynt, wedi ymgynnull mewn Synod, heb eu bodloni bod y clerig y cyflwynwyd ei enw iddynt yn gymwys, neu os bydd y Darpar-Esgob Cynorthwyol yn gwrthod y penodiad, neu ei fod cyn pen un diwrnod ar hugain ar ôl ei hysbysu o’r cyhoeddiad heb dderbyn y penodiad mewn ysgrifen wedi’i chyfeirio at yr Archesgob, gall yr Esgob Cadeiriol gyflwyno enw arall yn unol â’r darpariaethau uchod.

 

(6)     Ni chaiff y darpariaethau hyn at benodi Esgobion Cynorthwyol mewn esgobaethau amharu nac effeithio ar waith yr Archesgob yn arfer yr hawliau a’r swyddogaethau sy’n gynhenid i swydd Metropolitan, nac ar waith yr Esgobion Cadeiriol yn arfer yr hawliau a’r swyddogaethau sy’n gynhenid i swydd esgob.