Pennod IX: Tribiwynlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru

Rhan I: Cyffredinol

 

 

1.

 

I holl ddibenion Llysoedd a Thribiwnlys yr Eglwys yng Nghymru:

(a)     aelod o’r Eglwys yng Nghymru yw un y mae’r Cyfansoddiad yn ei rwymo yn rhinwedd Pennod 1 adran 2; a

(b)     pherson cyfreithiol gymwys yw un sy’n aelod o Far Lloegr a Chymru neu’n Gyfreithiwr yn Llysoedd Uwch Lloegr a Chymru.

 

 

2.

 

Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Eglwys yng Nghymru fod yn bresennol a rhoi tystiolaeth, pan wysir ef yn briodol i wneud hynny, mewn unrhyw brawf neu ymchwiliad dan awdurdod y Cyfansoddiad.

 

 

3.

Rhaid i bawb a elwir yn dyst mewn prawf neu ymchwiliad a gynhelir fel y dywedwyd uchod, cyn rhoi tystiolaeth, wneud datganiad difrifol y bydd yn dweud y gwir, y holl wir, a dim ond y gwir.

 

 

4.

 

(1)     Os bydd unrhyw Aelod o’r Eglwys yng Nghymru yn fwriadol a heb reswm digonol yn esgeuluso neu yn gwrthod bod yn bresennol a rhoi tystiolaeth, ac yntau wedi’i wysio’n briodol i wneud hynny mewn prawf neu ymchwiliad a gynhelir dan awdurdod y Cyfansoddiad, gall Llys y Dalaith a’r Tribiwnlys trwy orchymyn gyhoeddi’n wag unrhyw swydd yn yr Eglwys yng Nghymru (gan gynnwys aelodaeth o unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru) yr etholwyd neu y penodwyd yr Aelod hwnnw iddi, ac yna llenwir y swydd honno yn ôl y drefn fel pe bai’r Aelod hwnnw wedi marw.  Gall Llys y Dalaith a’r Tribiwnlys yn ychwanegol trwy orchymyn gyhoeddi fod y cyfryw Aelod i’w amddifadu neu’i atal rhag pleidleisio yn yr Eglwys yng Nghymru.

 

(2)     Pan wnelo’r Tribiwnlys neu Lys y Dalaith orchymyn dan is-adran (1), rhaid iddo hysbysu hynny i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, Ysgrifennydd unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru y mae’r sawl y mae’r gorchymyn yn effeithio arno yn aelod ohono, ac Ysgrifennydd Cyngor Plwyf Eglwysig unrhyw blwyf y mae naill ai’n dal swydd ynddo neu’n byw ynddo.

 

5.

 

Ni fydd pleidleisio gan unrhyw Aelod a ataliwyd rhag pleidleisio dan adran 4(1), 17(a) a 34 yn annilysu’r gweithrediadau y pleidleisiwyd arnynt.

 

 

6.

 

Bydd Pwyllgor Rheolau i Dribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru fel y traethir yn Rhan VI.

 

 

7.

 

Telir pob ffi sy’n daladwy ynglŷn ag achosion a wrandewir gan Dribiwnlys neu un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru i Gofrestrydd y Tribiwnlys neu’r Llys, a bydd ef yn eu casglu ac yn rhoi cyfrif amdanynt bob chwarter i Gorff y Cynrychiolwyr.

 

 

Rhan II: Y Tribiwnlys a’r Llysoedd

 

 

8.

 

(1)     Bydd Tribiwnlys Disgyblu yn yr Eglwys yng Nghymru ac fe’i cyfansoddir fel y darperir yn Rhan III.

 

(2)     Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru fydd:

(a)     Llys Esgobaeth ym mhob esgobaeth, wedi’i gyfansoddi fel y darperir yn Rhan IV, a

(b)     Llys y Dalaith, wedi’i gyfansoddi fel y darperir yn Rhan V.

 

(3)     Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad bydd o fewn gallu’r Archesgob, Esgob Cadeiriol, Llys y Dalaith, Llys Arbennig y Dalaith a’r Goruchel Lys gyhoeddi dedfryd o rybudd, ataliad neu ddeoliad o swydd yn yr Eglwys yng Nghymru.
 

Rhan III: Y Tribiwnlys Disgyblu

 

 

9.

 

Bydd Tribiwnlys Disgyblu yn yr Eglwys yng Nghymru y bydd ganddo’r gallu i wrando ac i ddedfrydu ar achwyniad ynghylch:

(a)     dysgu, pregethu, cyhoeddi neu arddel athrawiaeth neu gred sy’n anghydnaws â’r
eiddo’r Eglwys yng Nghymru;

(b)     esgeuluso dyletswyddau swydd, neu ddiofalwch parhaus neu aneffeithlonrwydd llwyr wrth gyflawni’r cyfryw ddyletswyddau;

(c)     ymddygiad sy’n rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd;
(d)     torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o ddarpariaethau’r Cyfansoddiad neu’r Datganiad o Amodau Gwaith a gyhoeddwyd yn dilyn Canon Amodau Gwaith Clerigion 2010;

(e)     torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o reolau a rheoliadau Cynhadledd yr Esgobaeth y mae’r cyfryw un yn dal swydd neu’n byw ynddi;

(f)      anufuddhau i unrhyw ddyfarniad, dedfryd neu orchymyn gan yr Archesgob, Esgob Cadeiriol, y Tribiwnlys, neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru

(g)     a wneir yn erbyn unrhyw un o’r canlynol, a oedd ar ddyddiad yr ymddygiad a achosodd yr achwyniad neu ddyddiad y gŵyn, yn:

(i)     Glerig sydd wedi dal trwydded a ganiatawyd gan un o Esgobion yr Eglwys yng
Nghymru;

(ii)     Clerig sydd wedi dal Caniatâd i Weinyddu a ganiatawyd gan un o Esgobion yr Eglwys yng Nghymru;

(iii)     Clerig sy’n derbyn pensiwn neu sydd â hawl i fudd-dal pensiwn gohiriedig gan yr
Eglwys yng Nghymru;

(iv)     Clerig sy’n derbyn tâl neu fudd ariannol arall gan yr Eglwys yng Nghymru;

(v)     unrhyw un sy’n hyfforddi at y weinidogaeth awdurdodedig yn yr Eglwys yng Nghymru a noddwyd ar gyfer y cyfryw hyfforddiant gan un o Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, ac sydd wedi cytuno’n ysgrifenedig i gydymffurfio â darpariaethau’r adran hon;

(vi)     Warden Eglwys neu Is-Warden sydd wedi dal swydd yn un o blwyfi’r Eglwys yng Nghymru;

(vii)     Aelod lleyg o’r Eglwys yng Nghymru sydd wedi dal trwydded, caniatâd i weinyddu neu gomisiwn ar ran neu gan un o Esgobion yr Eglwys yng Nghymru.

Aelodaeth

 

10.

 

(1)     Bydd 24 aelod i’r Tribiwnlys wedi eu penodi fel a ganlyn:

(a)     chwech aelod wedi eu penodi gan Fainc yr Esgobion;

(b)     deuddeg aelod clerigol, dau o bob esgobaeth, wedi eu hethol gan Urdd Clerigion Cynhadledd pob Esgobaeth;

(c)     dau aelod gyda chymwysterau cyfreithiol, sef Cangellorion neu rai cymwys i fod yn Ganghellor wedi eu penodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol;

(d)     dau aelod, y ddau gyda naill ai gymwysterau meddygol neu wedi eu hyfforddi’n gynghorwyr, wedi eu penodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol; a

(e)     dau aelod lleyg, Aelodau o’r Eglwys yng Nghymru wedi eu penodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.

 

(2)     Mewn unrhyw achos lle y cyfeiriwyd Esgob neu Esgob Cynorthwyol i’r Tribiwnlys bydd aelodau’r Tribiwnlys yn cynnwys Esgob Cadeiriol neu Esgob Cynorthwyol a enwebwyd gan y Llywydd ac a fydd yn aelod llawn o’r Tribiwnlys sy’n delio â’r achos yr enwebwyd ef ar ei gyfer.

 

(3)     Bydd pump aelod o’r Tribiwnlys, dau ohonynt yn aelodau clerigol ac o leiaf un o’r rheini wedi ei ethol dan isadran (1)(b), yn ffurfio cworwm y Tribiwnlys a’u dedfryd hwy neu ddedfryd y mwyafrif ohonynt fydd dedfryd y Tribiwnlys.

 

(4)     Pan fydd Cynhadledd Esgobaeth yn ethol aelodau clerigol yn unol ag isadran 1(b) rhaid iddi ar yr un pryd wneud rhestr atodol o ddau aelod clerigol i lenwi unrhyw le gwag achlysurol yn y penodiadau a wneir dan isadran 1(b).

 

 

11.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i isadrannau (4) a (5) bydd gan y Tribiwnlys Bwyllgor i benderfynu a oes, ym mhob achwyniad a gyfeirir, achos i’w ateb.

 

(2)     Bydd aelodau’r Pwyllgor yn cynnwys lleiafrif o dri pherson o blith aelodau’r Tribiwnlys, un ohonynt yn aelod clerigol wedi’i ethol dan adran 10(1)(b).

 

(3)     Mewn unrhyw achos lle y cyfeiriwyd Esgob neu Esgob Cynorthwyol i’r Tribiwnlys bydd aelodau’r Pwyllgor yn cynnwys Esgob neu Esgob Cynorthwyol a enwebwyd gan y Llywydd ac a fydd yn aelod llawn o’r Pwyllgor sy’n delio â’r achos yr enwebwyd ef ar ei gyfer.

 

(4)     Yn ddarostyngedig i isadran (5) gall y personau a gyfeiriwyd gytuno i hepgor ystyriaeth y Pwyllgor o’r achos a dewis mynd ymlaen yn syth i wrandawiad llawn.

 

(5)     Pan seilir cyfeiriad i’r Tribiwnlys ar ffeithiau trosedd y cafwyd yr atebydd yn euog ohono gall y Llywydd neu aelod arall cyfreithiol gymwys o’r Tribiwnlys a benodwyd gan y Llywydd i’r diben hwn orchymyn i’r cyfeiriad fynd ymlaen yn syth i wrandawiad llawn heb fod angen ystyriaeth y Pwyllgor.

 

(6)     Ni chaiff unrhyw aelod o Bwyllgor a fu’n trafod cyfeiriad wasanaethu ar y Tribiwnlys a fydd yn trafod y cyfeiriad hwnnw.

 

 

12.

 

Ni ellir diswyddo unrhyw aelod o’r Tribiwnlys ond trwy orchymyn Mainc yr Esgobion wedi’i gadarnhau gan fwyafrif ar wahân yn Urdd Clerigion ac Urdd Lleygion y Corff Llywodraethol.

 

13.

 

Bydd aelodau’r Tribiwnlys yn dal eu swydd am bum mlynedd a byddant yn gymwys i’w hailbenodi ond y bydd eu haelodaeth yn dod i ben ar eu pen-blwydd yn bump a thrigain oed neu, yn achos Clerig, ar ei ymddeoliad, ac eithrio y gall aelod gwblhau gwrando achos y dechreuodd wrando arno.

 

 

14.

 

Llenwir unrhyw le gwag yn yr aelodaeth trwy benodi yn yr un modd ag y penodwyd yn wreiddiol. Bydd y sawl a benodir felly yn gwasanaethu am weddill tymor gwasanaeth yr aelod y mae’n cymryd ei le, a bydd yn gymwys i’w ailbenodi am dymor pellach o wasanaeth yn unrhyw un o’r categorïau a draethir yn adran 10(1).

 

 

15.

 

Gall y Tribiwnlys, os yw’n barnu hynny’n briodol, wysio i’w gynorthwyo un neu fwy o bersonau gyda medr a phrofiad yn y mater y mae a wnelo’r achos ag ef i fod yn aseswyr.

 

 

16.

 

Bydd gan y Tribiwnlys Lywydd wedi’i benodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol o blith aelodau cyfreithiol gymwys y Tribiwnlys.

 

 

17.

 

Galluoedd

 

Bydd gan y Tribiwnlys y gallu i:

(a)       atal o unrhyw benodiad, swydd, aelodaeth o gorff a’r hawl i bleidleisio yn yr Eglwys yng Nghymru unrhyw un yr achwynwyd yn ei erbyn ac sydd dan archwiliad gan y Tribiwnlys nes bydd gwrando a dedfrydu ynglŷn â’r achwyniad a gall Esgob Esgobaeth un felly wneud trefniadau ynglŷn â chynnal ei ddyletswyddau yn ystod yr ataliad; a

(b)       gorchymyn na chaiff Clerig neu ddiacones a ataliwyd fyw mewn Persondy a ddiffinnir ef ym Mhennod VII adran 1(d) , na dal meddiant ar y clastir tra bo wedi’i atal, a bod y cyfryw Glerig neu ddiacones yn trosglwyddo pob llyfrau, allweddi, ac eiddo arall a ddelir ganddo neu ganddi yn rhinwedd ei swydd i’r sawl a benodo’r Tribiwnlys i ddal yr eiddo hwnnw dros ac ar ran Corff y Cynrychiolwyr.

 

18.

 

Bydd gallu’r Tribiwnlys yn cynnwys gwneud dyfarniad, dedfrydu neu orchymyn:

(a)     rhyddhau diamod;

(b)     rhyddhau amodol;

(c)     ceryddu;

(d)     rhybuddio;

(e)     rhwystro;

(f)      gwahardd;

(g)     atal neu ohirio penodiad, swydd, bod yn aelod o gorff neu’r hawl i bleidleisio yn yr Eglwys yng Nghymru; a

(h)     diswyddo o Urddau Sanctaidd a diarddel o swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru.

 

 

19.

 

Gall Clerig y gorchmynnodd y Tribiwnlys ei ddiswyddo o Urddau Sanctaidd a’i ddiarddel o swydd Clerig yn yr Eglwys yng Nghymru apelio o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y dyfarniad trwy anfon hysbysiad ysgrifenedig o apêl at Gofrestrydd Llys y Dalaith.

 

 

20.

 

Penodi Cofrestrydd y Tribiwnlys

 

Bydd y Tribiwnlys o bryd i’w gilydd yn ôl y galw yn penodi un person cymwys a phriodol i fod yn Gofrestrydd ac un neu fwy i fod yn Ddirprwy Gofrestryddion. Byddant:

(a)     dros ddeg ar hugain mlwydd oed ac yn gyfreithiol gymwys;

(b)     yn cael eu talu am eu gwasanaeth y symiau hynny a farno Corff y       Cynrychiolwyr yn addas; ac

(c)     yn dal eu swydd am bum mlynedd ac yn gymwys i’w hailbenodi ac eithrio y bydd yn rhaid iddynt ymddeol cyn eu pen-blwydd yn bump a thrigain oed.

 

Rhan IV: Llys yr Esgobaeth

 

 

21.

 

Aelodaeth

 

(1)     Aelodau Llys yr Esgobaeth fydd y Canghellor, y Dirprwy Ganghellor (os oes un) ac Archddiaconiaid yr esgobaeth.

 

(2)     Y Canghellor, a benodir fel y darperir yn adran 24, fydd Llywydd Llys yr Esgobaeth.

 

(3)     Ni chaiff yr Archddiaconiaid fod yn aelodau o’r Llys pan fydd yn ymdrin â chais a ddygir dan adran 22(a).

 

 

Awdurdod

 

22.

 

Bydd gan Lys yr Esgobaeth y gallu i wrando a phenderfynu:

(a)     ceisiadau am hawlebau yn yr esgobaeth;

(b)     cwynion yn erbyn Wardeniaid eglwys a Chynghorwyr Plwyf Eglwysig lleyg yn eu gwaith fel y cyfryw, a dadleuon ynglŷn â’u hethol;

(c)     materion a gyfeirir ato gan ddarpariaethau’r Cyfansoddiad; ac

(d)     unrhyw anghydfod rhwng aelod o’r Eglwys yng Nghymru a Bwrdd Cyllid Esgobaeth, Bwrdd Persondai Esgobaeth, Bwrdd Enwebu Esgobaeth, Cynhadledd neu Gabidwl Deoniaeth Bro, Festri neu Gyngor Plwyf Eglwysig, neu rhwng unrhyw rai o’r cyfryw gyrff, onid yw’r Cyfansoddiad yn trefnu at ei benderfynu’n wahanol.

(e)     unrhyw faterion eraill yr ymdrinnid â hwy gynt gan Lys yr Archddiacon.

 

23.

 

Gweithdrefn hawleb

 

(1)     Cymhwysir y weithdrefn hawleb at:

(a)     eglwysi cysegredig a thir cysegredig a ddelir fel ystad rydd-ddaliol neu ystad lai gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru neu Fwrdd Cyllid esgobaeth neu unrhyw ymddiriedolwyr eraill sy’n cytuno i’w rhwymo yn y cyfryw fodd;

(b)     eglwysi heb eu cysegru, mynwentydd heb eu cysegru a chladdfeydd heb eu cysegru sydd:

(i)                                                     wedi eu rhestru dan y ddeddfwriaeth briodol o ddiddordeb pensaernïol hanesyddol arbennig; neu,

(ii)     wedi eu lleoli mewn ardal cadwraeth; neu,

(iii)    yn ddarostyngedig i weithdrefn o’r fath yn rhinwedd gorchymyn ysgrifenedig gan Esgob yr esgobaeth.

 

(2)     Bydd eglwysi, mynwentydd a chladdfeydd sy’n ddarostyngedig i weithdrefn hawleb yn rhinwedd is-adran (1)(b)(iii) yn peidio â bod felly os bydd Esgob yr esgobaeth yn gorchymyn hynny mewn ysgrifen.

 

(3)     Cofnodir gorchymyn a wnaed yn unol ag is-adran (1)(b)(iii) neu isadran (2) yng

nghofrestrfa’r esgobaeth a bydd y cofrestrydd yn anfon copi ohono i Gorff y Cynrychiolwyr ac i ysgrifennydd y Cyngor Plwyf Eglwysig perthnasol.

 

(4)     Lle bo trefn hawleb i’w chymhwyso ni ellir dechrau ar a ganlyn heb ganiatâd hawleb:

(a)     unrhyw newid yn y defnydd a wneir o eglwys neu dir (ar wahân i ddefnydd gan enwad arall a wnaed trwy gytundeb dan Ddeddf Cyd-ddefnyddio Adeiladau Eglwysig 1969, neu unrhyw ddiwygiad neu ail-ddeddfiad statudol arni);

(b)     unrhyw newid, unrhyw ychwanegu at neu atgyweirio, addurno, ailaddurno neu ddymchwel, neu symud ymaith oddi wrth adeiladwaith eglwys, neu dir;

(c)     ychwanegu at eglwys neu dir, neu symud ymaith o eglwys neu dir, neu newid neu ail-leoli o fewn eglwys neu dir ddodrefn, cyfarpar, murluniau, cofebau (gan gynnwys cerrig beddau), llestri a chelfi gwerthfawr eraill, neu atgyweirio dim o’r cyfryw ddodrefn, cyfarpar, murluniau neu gelfi (ac eithrio yn achos benthyg i amgueddfa neu sefydliad cyffelyb);

(d)     caffael hawl tros byth neu hawl lwyrneilltuol i gladdu mewn unrhyw fedd, man claddu, claddgell neu feddrod;

(e)     symud ymaith gorff, neu weddillion corff neu weddillion corff a losgwyd, o fedd, claddgell neu feddrod sydd eisoes yn bod;

ac eithrio:

(i)        na chymhwysir paragraffau (a) (b) a (c) lle rhoddir caniatâd dan y Rheoliadau Gweinyddu Mynwentydd;

 

(ii)       na chymhwysir yr is-adran hon pan fo’r gwaith yn hanfodol o safbwynt diogelwch neu iechyd neu i gadw’r adeilad, a’i gyfyngu i’r isafswm sy’n rhesymol angenrheidiol, ar yr amod y rhoddir, mor fuan ag sy’n rhesymol ymarferol, rybudd ysgrifenedig yn cyfiawnhau’n fanwl sut y gwneir y gwaith i Gorff y Cynrychiolwyr, y Periglor neu’r Clerig-mewn-gofal, y Wardeniaid, y Cyngor Plwyf Eglwysig a Chofrestrydd yr esgobaeth, ac nad yw neb ohonynt yn hyrwyddo’r gwaith;

(iii)     na chymhwysir yr is-adran hon at y materion bychain hynny y bydd Pwyllgor Rheolau Tribiwnlys Disgyblu yr Eglwys yng Nghymru yn penderfynu arnynt o bryd i’w gilydd.

 

(5)     Bydd unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at eglwys neu dir yn cynnwys rhan neu rannau o’r cyfryw eglwys neu dir ac unrhyw gyfarpar ynddynt neu arnynt.

 

(6)     Tystir i bob caniatáu neu wrthod hawleb mewn ysgrifen a arwyddir gan y Canghellor.

 

 

24.

 

Penodi Canghellor yr Esgobaeth

 

(1)     Bydd yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl yr angen, yn penodi person cymwys a phriodol i fod yn Ganghellor yr esgobaeth a Llys yr Esgobaeth.

 

(2)     Bydd y sawl a benodir yn Ganghellor yn gymunwr dros ddeg ar hugain mlwydd oed, yn gyfreithiol gymwys, a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.

 

(3)     Gall yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl y galw, benodi person addas a phriodol i fod yn Ddirprwy Ganghellor, a bydd gan bob un a benodir felly holl alluoedd a gall gyflawni holl ddyletswyddau’r Canghellor y penodwyd ef neu hi i weithredu drosto, ar yr amod bob amser y bydd pob Dirprwy Ganghellor yn cyflawni gofynion is-adran (2).

 

(4)     Bydd pob Canghellor a Dirprwy Ganghellor, oni bydd eisoes wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo, yn ymddeol ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain; ar yr amod y gall yr Esgob yn ei lwyr ddoethineb ohirio dyddiad y cyfryw ymddeoliad am gyfnod heb fod yn hwy na dau gyfnod olynol o ddeuddeng mis.

 

(5)     Ni ellir diswyddo na Changhellor na Dirprwy Ganghellor ond ar orchymyn yr Esgob, wedi ei gadarnhau gan Lys y Dalaith.

 

(6)     Swyddi mygedol fydd swyddi Canghellor a Dirprwy Ganghellor.

 

(7)     Bydd yr holl alluoedd a dyletswyddau a berthyn i Ganghellor ac a draethir yn y Ddogfen Benodi yn parhau mewn grym er bod yr esgobaeth yn wag, heb angen Dogfen Benodi ychwanegol tra bo’r esgobaeth yn wag.

 

25.

 

(1)     Bydd y Canghellor yn gwrando a phenderfynu yn breifat ar bob dadl ynglŷn â ffioedd dyledus i Lys yr Esgobaeth neu i’r Cofrestrydd.

 

(2)     Gellir apelio i Lys y Dalaith yn erbyn dyfarniad y Canghellor ar unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r cyfryw ffioedd, a bydd penderfyniad Llys y Dalaith yn derfynol.

 

(3)     Rhaid anfon rhybudd ysgrifenedig o unrhyw apêl y cyfeirir ati yn isadran (1) i Gofrestrydd Llys y Dalaith o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.

 

 

26.

 

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, ac mewn perthynas â chaniatáu trwyddedau priodas a phenodi dirprwyon, bydd gan bob Canghellor, yn ogystal ag unrhyw awdurdod neu alluoedd a roddir gan y Cyfansoddiad, yr awdurdod a’r galluoedd (ac eithrio ynglŷn â ffioedd) yr oedd gan Ganghellor hawl iddynt ar 30 Mawrth 1920, a bydd yn arfer yr awdurdod a’r galluoedd hynny yn ôl y gyfraith a’r arfer fel yr oedd y pryd hwnnw.

 

 

27.

 

Penodi Cofrestrydd yr Esgobaeth

 

(1)     Bydd yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl y galw, yn penodi person cymwys a phriodol yn Gofrestrydd yr esgobaeth a Llys yr Esgobaeth.

 

(2)     Bydd y sawl a benodir yn Gofrestrydd dros ddeg ar hugain mlwydd oed ac yn gyfreithiol gymwys.

 

(3)     Gall yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl y galw, benodi person addas a phriodol i fod yn  Ddirprwy Gofrestrydd, a bydd gan bob un a benodir felly holl alluoedd a gall gyflawni holl ddyletswyddau’r Cofrestrydd y penodwyd ef neu hi i weithredu drosto, ar yr amod bob amser y bydd pob Dirprwy Gofrestrydd yn cyflawni gofynion is-adran (2).

 

(4)     Bydd pob Cofrestrydd a Dirprwy Gofrestrydd esgobaeth, oni bydd eisoes wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo, os oedd yn dal y swydd ar 17 Ebrill 1980, yn ymddeol ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn bymtheg a thrigain mlwydd oed, ac os penodwyd ef neu hi i’r swydd wedi’r dyddiad hwnnw bydd yn ymddeol ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain.

 

(5)     Ni ellir diswyddo unrhyw Gofrestrydd na Dirprwy Gofrestrydd esgobaeth ond ar orchymyn yr Esgob a bydd gan unrhyw Gofrestrydd neu Ddirprwy Gofrestrydd hawl i apelio at Lys y Dalaith yn erbyn y gorchymyn o fewn cyfnod a chwech wythnos wedi ei hysbysu ohono.

 

(6)     Bydd gan y Cofrestrydd hawl i gyflog a bennir ac a delir gan Fwrdd Cyllid yr esgobaeth.

 

(7)     Gall yr Esgob, wrth benodi Dirprwy Gofrestrydd, fynegi mewn ysgrifen i Fwrdd Cyllid yr esgobaeth pa gyfran, os bydd cyfran, o gyflog y Cofrestrydd a delir i’r Dirprwy, ac wedi hynny bydd Bwrdd Cyllid yr esgobaeth yn talu i’r Cofrestrydd a’r Dirprwy yn unol â’r gyfran a fynegwyd gan yr Esgob.

 

(8)     Bydd yr holl alluoedd a dyletswyddau a berthyn i Gofrestrydd ac a draethir yn y Ddogfen Benodi yn parhau mewn grym er bod yr esgobaeth yn wag, heb angen Dogfen Benodi ychwanegol tra bo’r esgobaeth yn wag.

 

 

28.

 

Bydd pob Canghellor a Dirprwy Ganghellor, cyn dechrau ar waith ei swydd, yn gwneud ac yn arwyddo yng ngŵydd yr Esgob, ddatganiad yn y ffurf hon:

Yr wyf fi, J … S …, trwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn gymunwr dros ddeg ar hugain mlwydd oed, yn gyfreithiol gymwys a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.

 

 

Rhan V: Llys y Dalaith

 

Aelodaeth

 

29.

 

(1)     Aelodau Llys y Dalaith fydd pedwar Barnwr eglwysig a chwe Barnwr lleyg a benodir gan Fainc yr Esgobion, a bydd y Fainc yn yr un modd o bryd i’w gilydd yn enwi un o’r Barnwyr i fod yn llywydd Llys y Dalaith.

 

(2)     Bydd pob Barnwr eglwysig yn Llys y Dalaith yn glerig a fu mewn Urddau Sanctaidd am o leiaf bymtheng mlynedd ac nad yw wedi ymddeol na chyrraedd ei b/phen-blwydd yn ddeg a thrigain mlwydd oed; bydd pob Barnwr lleyg yn gymunwr dros bymtheg ar hugain oed ac o dan bymtheg a thrigain oed ac yn gyfreithiol gymwys.

 

(3)     Rhaid i’r Barnwyr hyn fod yn gymwys i fod yn aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru neu o Synod Gyffredinol Eglwys Loegr, a chyn dechrau ar waith ei swydd rhaid iddynt wneud ac arwyddo yng ngŵydd Esgob Cadeiriol ddatganiad yn y ffurf hon:

Yr wyf f i, J … S …, trwy hyn yn difrifol ddatgan

(a)  fy mod wedi fy ordeinio ers mwy na phymtheng mlynedd,

          neu

(b)       fy mod yn gymunwr dros bymtheg ar hugain mlwydd oed, yn gyfreithiol gymwys, a’m bod yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru (neu o Synod Gyffredinol Eglwys Loegr), ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.

 

(4)     Mewn unrhyw achos pan fo Esgob neu Esgob Cynorthwyol yn wrthrych apêl at Lys y Dalaith gan y Tribiwnlys bydd aelodaeth Llys y Dalaith yn cynnwys Esgob neu Esgob Cynorthwyol na fu ganddo unrhyw ran flaenorol yn yr achos, wedi ei enwebu gan y Llywydd, a bydd yn aelod llawn o’r Llys a fydd yn ymdrin â’r achos y penodwyd ef ar ei gyfer.

 

(5)     Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r bennod hon, ni ddiswyddir Barnwr ond ar orchymyn Mainc yr Esgobion, wedi’i gadarnhau gan fwyafrif ar wahân o Urdd Clerigion ac  Urdd Lleygion y Corff Llywodraethol.

 

(6)   (a)     Yn ddarostyngedig i baragraff (b), bydd pob Barnwr yn dal ei swydd am saith mlynedd neu hyd ymddiswyddo neu ei ddiswyddo, ond bydd ar dir i’w ail-benodi.

(b)     Bydd Barnwr eglwysig yn cilio o’i swydd pan fo’n ymddeol neu’n cyrraedd ei b/phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed, pa un bynnag fydd gyntaf, a bydd pob Barnwr lleyg yn cilio o’i swydd ar gyrraedd ei b/phen-blwydd yn bymtheg a thrigain oed ac eithrio, yn y naill achos a’r llall, y gall gwblhau gwrando achos y mae a wnelo eisoes ag ef.

 

(7)     Bydd Mainc yr Esgobion yn llenwi pob lle gwag ymysg barnwyr Llys y Dalaith trwy benodi Barnwr eglwysig neu leyg, yn ôl y digwydd, yn yr un modd ac ar yr un amodau ag wrth benodi gyntaf.

 

 

30.

 

Bydd un Barnwr eglwysig a dau Farnwr lleyg yn gworwm Llys y Dalaith, a’u dyfarniad hwy neu ddyfarniad y mwyafrif ohonynt fydd dyfarniad y Llys.

 

31.

 

Nid anghymhwysir Barnwr na’i atal rhag gwrando a phenderfynu ar achos gan y ffaith ei fod yn aelod o ryw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru sy’n un o’r pleidiau yn yr achos, eithr ni chaniateir, mewn achos yn ymwneud ag aelod o’r Eglwys yng Nghymru, i nac Esgob na Changhellor unrhyw esgobaeth y mae’r cyfryw aelod naill ai’n dal swydd neu’n byw ynddi gymryd rhan.

 

 

Awdurdod

 

32.

 

(1)     Bydd gan Lys y Dalaith y gallu i wrando a phenderfynu ar:

(a)     apeliadau o Lys Esgobaeth;

(b)     apeliadau o’r Tribiwnlys Disgyblu;

(c)     apeliadau ynglŷn â sefydlu, coladu, enwebu i ofalaethau, methiant a hawliau penodi yn ymwneud â Chlerigion;

(d)     unrhyw apeliadau neu faterion eraill a gyfeirir ato yn unol â’r Cyfansoddiad.

 

(2)     Bydd Llys y Dalaith yn cyflafareddu yn achos:

(a)     unrhyw anghydfod rhwng Aelod o’r Eglwys yng Nghymru a Chorff y Cynrychiolwyr;

(b)     unrhyw anghydfod rhwng Aelod o’r Eglwys yng Nghymru a Chynhadledd Esgobaeth; ac

(c)     unrhyw apeliadau neu faterion eraill a gyfeirir ato yn unol â’r Cyfansoddiad.

 

(3)     Cyflwynir rhybudd ysgrifenedig o unrhyw apêl y cyfeirir ati yn is-adran (1) i gofrestrydd Llys y Dalaith o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.

 

 

33.

 

Bydd penderfyniad Llys y Dalaith ar apêl neu gyflafareddiad yn derfynol a rhaid iddo ei hysbysu i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, Ysgrifennydd unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru y mae’r sawl y mae’r gorchymyn yn effeithio arno yn aelod ohono, ac Ysgrifennydd Cyngor Plwyf Eglwysig unrhyw blwyf y mae naill ai’n dal swydd neu’n byw ynddo.

 

34.

 

Gall Llys y Dalaith atal unigolyn neu unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru (ac eithrio’r Corff Llywodraethol neu Gorff y Cynrychiolwyr) am esgeuluso neu wrthod ufuddhau i unrhyw ddyfarniad, dedfryd neu orchymyn, fel y digwydd, o eiddo’r Archesgob, Esgob Cadeiriol neu unrhyw Lys, eithr ni fydd gorchymyn i atal Cynhadledd Esgobaeth yn ddilys heb gydsyniad yr Esgob.

 

 

35.

 

Penodi Cofrestrydd Llys y Dalaith

 

(1)     Bydd Llys y Dalaith o bryd i’w gilydd yn ôl y galw yn penodi person cymwys a phriodol i fod yn Gofrestrydd y Llys.

 

(2)     Rhaid i’r sawl a benodir yn Gofrestrydd fod yn gymunwr dros ddeg ar hugain mlwydd oed, yn gyfreithiol gymwys a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.

 

(3)     Bydd gan y Cofrestrydd hawl i gyflog i’w bennu a’i dalu gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.

 

(4)     Rhaid i Gofrestrydd nad yw eisoes wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo ymddeol ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain.

 

(5)     Ni ellir diswyddo Cofrestrydd ond trwy orchymyn Llywydd Llys y Dalaith a bydd gan y Cofrestrydd hawl i apelio yn erbyn y cyfryw orchymyn.

 

(6)     Bydd y weithdrefn i’w dilyn ynglŷn ag unrhyw apêl o’r fath fel a ganlyn:

(a)     rhoddir rhybudd o’r apêl mewn ysgrifen i Gofrestrydd yr Archesgob o fewn 28 diwrnod wedi i Gofrestrydd Llys y Dalaith dderbyn hysbysiad o’r gorchymyn;

(b)     gwrandewir yr apêl gan banel o bum aelod wedi eu penodi gan yr Archesgob yn unol â’r is-baragraff dilynol nesaf wedi iddo ymgynghori ag aelodau eraill Mainc yr Esgobion;

(c)     bydd y panel yn cynnwys aelodau cymwys i fod yn aelodau o’r Corff Llywodraethol, dau ohonynt yn glerigion a thri yn aelodau lleyg, a dau o’r cyfryw aelodau lleyg gyda chymwysterau cyfreithiol;

(d)     bydd y panel yn penderfynu ar ei reolau trefniadaeth ei hun; a

(e)     bydd dyfarniad y panel yn derfynol.

 

(7)     Bydd y Cofrestrydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i’r rheolau uchod ac yn ddarostyngedig hefyd i unrhyw delerau neu amodau pellach a osodir gan Lys y Dalaith.

 

36.

 

(1)     Os bydd y Cofrestrydd yn glaf neu’n methu gweithredu dros dro, gall Llys y Dalaith benodi person cymwys a phriodol i weithredu’n Ddirprwy Gofrestrydd yn ystod y cyfryw afiechyd neu anallu; a bydd gan y sawl a benodir felly bob gallu a bydd yn cyflawni pob dyletswydd a berthyn i’r Cofrestrydd y penodwyd y Dirprwy i weithredu yn ei le, ar yr amod bob amser bod pob Dirprwy Gofrestrydd yn cyflawni gofynion adran 35(2).

 

(2)     Telir i’r Dirprwy Gofrestrydd am ei wasanaeth neu ei gwasanaeth y swm hwnnw a farno Corff y Cynrychiolwyr yn gymwys.

 

 

37.

 

Bydd Cofrestrydd Llys y Dalaith ac unrhyw Ddirprwy Gofrestrydd iddo, cyn dechrau ar waith ei swydd, yn gwneud ac yn arwyddo yng ngŵydd un o Farnwyr Llys y Dalaith, ddatganiad yn y ffurf hon:

Yr wyf fi, J … S …, trwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn gymunwr dros ddeg ar hugain mlwydd oed, yn gyfreithiol gymwys a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.

 

 

Rhan VI: Y Pwyllgor Rheolau

 

 

Pwyllgor Rheolau Tribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru

 

38.

 

(1)     Bydd Pwyllgor Rheolau i Dribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru, a chanddo’r gallu i wneud a chyhoeddi rheolau at roi mewn grym ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â hawlebau ac â rheoleiddio pob mater y mae a wnelo â gweinyddu, arfer neu drefn gweithredu’r Tribiwnlys neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru.

 

(2)     Gall y Pwyllgor Rheolau o bryd i’w gilydd newid neu amrywio’r rheolau.

 

(3)     Aelodau’r Pwyllgor Rheolau fydd un o Farnwyr eglwysig Llys y Dalaith a dau o’i Farnwyr lleyg wedi’u henwebu gan Lywydd Llys y Dalaith, dau aelod lleyg o’r Tribiwnlys wedi’u henwebu gan Lywydd y Tribiwnlys, a dau Ganghellor nad ydynt eisoes yn aelodau o’r Pwyllgor.

 

(4)     Ni fydd methiant aelod o’r Pwyllgor Rheolau i fod yn bresennol yn un o’i gyfarfodydd yn rhwystro’r Pwyllgor rhag mynd ymlaen â’i waith nac yn annilysu’i weithrediadau.

 

(5)     Rhaid i dri neu fwy o aelodau’r Pwyllgor Rheolau arwyddo copi o unrhyw reol newydd a wneir gan y Pwyllgor a’i osod gyda Chofrestrydd Llys y Dalaith, a rhaid iddo yntau, cyn gynted ag y gellir wedi hynny, anfon copi wedi’i ardystio o’r cyfryw reol newydd i bob un o Farnwyr Llys y Dalaith, pob aelod o’r Tribiwnlys, Cofrestrydd y Tribiwnlys, Canghellor pob esgobaeth a Chofrestrydd pob esgobaeth.  I ddiben yr is-adran hon cyfrifir unrhyw reol y gwneir newid ynddi yn rheol newydd.

 

 

Rhan VII: Amrywiol alluoedd a darpariaethau yn ymwneud ag Esgobion Cadeiriol

 

 

39.

 

Bydd gan Esgob Cadeiriol yr hawl i atal o’i swydd unrhyw un sy’n dal swydd yn ei esgobaeth ac y gwnaed cyhuddiad yn ei erbyn nes bod yr achos yn ei erbyn wedi’i wrando a’i benderfynu, ac i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni dyletswyddau’r swydd honno yn y cyfamser.

 

 

40.

 

Bydd gan Esgob Cadeiriol y gallu i orchymyn na chaiff Clerig neu ddiacones a ataliwyd fyw mewn Persondy a ddiffinnir ym Mhennod VII adran 1(d) na dal meddiant ar y clastir tra bo wedi’i atal, a gall orchymyn i’r cyfryw Glerig neu ddiacones drosglwyddo pob llyfrau, allweddi, ac eiddo arall a ddelir ganddo neu ganddi yn rhinwedd ei swydd i’r sawl a benodo’r Esgob i ddal yr eiddo hwnnw dros ac ar ran Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth.

 

 

41.

 

Bydd yn gyfreithlon i Esgob yr Esgobaeth drwy ysgrifen dan ei law orchymyn atafaelu unrhyw gyflog, neu ryw ran o’r cyfryw gyflog a fyddai fel arall yn daladwy i Glerig neu ddiacones a ataliwyd, dros y cyfryw gyfnod ac ar yr amodau a farno’r Esgob yn gymwys, a rhaid i’r Esgob anfon copi o’r gorchymyn i Ysgrifennydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth ac iddo yntau gyflawni amodau’r gorchymyn.

 

 

42.

 

(1)     Pan ddaw cyfnod rhoi rhybudd am unrhyw apêl i ben neu pan wrthoda Llys y Dalaith apêl gan Glerig y gorchmynnwyd ei ddiswyddo o Urddau Sanctaidd a’i ddiarddel o swydd Clerig yn yr Eglwys yng Nghymru, bydd Esgob yr esgobaeth y mae’r Clerig yn dal swydd neu’n byw ynddi yn :

(i)      cyflawni Gweithred Diswyddo;

(ii)     peri cofrestru’r cyfryw yng Nghofrestrfa Archesgob Cymru.

 

(2)     Bydd Cofrestrydd yr Archesgob ar unwaith yn trosglwyddo copi swyddfa o gofrestriad y Weithred i’r Clerig ac i Esgob yr esgobaeth ac yn rhoi rhybudd i’r Archesgob ei fod wedi gwneud hynny.

 

(3)     Wedi derbyn y copi swyddfa am gofrestru’r Weithred, bydd Esgob yr esgobaeth yn peri cofnodi’r Weithred yng Nghofrestrfa’r Esgobaeth, ac ar hynny ac wedi hynny (ond nid cyn hynny) bydd yr un canlyniadau’n dilyn parthed y sawl a ddiswyddwyd ac a diarddelwyd yn y Weithred â phe bai ef neu hi wedi cyflawni, cofrestru a chofnodi Gweithred Ildio.

 

(4)     Pan orchmynno’r Tribiwnlys amddifadu neu atal a phan ddaw’r cyfnod rhoi rhybudd o apêl i ben neu i Lys y Dalaith wrthod apêl gan Glerig y gwnaed gorchymyn o’r fath yn ei erbyn, rhaid i Esgob yr esgobaeth, wrth orchymyn yr amddifadu neu’r atal, hysbysu hynny i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, Ysgrifennydd unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru y mae’r sawl y mae’r gorchymyn yn effeithio arno yn aelod ohono, ac Ysgrifennydd Cyngor Plwyf Eglwysig unrhyw blwyf y mae naill ai’n dal swydd neu’n byw ynddo.

 

 

Rhan VIII – Ymweliadau

 

 

43.

 

(1)     Cynhelir Ymweliadau Archesgobol megis cynt, a’r un fydd y gyfraith a’r arfer ynglŷn â hwy ag a oedd mewn grym ar 30 Mawrth 1920.

 

(2)     Cynhelir Ymweliadau Esgobol ym mhen y cyfryw gyfnodau ag a benderfynir gan yr Esgob, a’r Esgob fydd yn penderfynu ffurf y cyfryw Ymweliad.

 

(3)     Bydd Archddiaconiaid yn cynnal Ymweliadau cyson â holl blwyfi’r archddiaconiaeth, a’r Archddiacon fydd yn penderfynu ffurf yr Ymweliad yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Corff Llywodraethol.

 

Rhan IX – Rhestr Cofrestrydd yr Archesgob

 

 

44.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon, bydd yn ddyletswydd ar Gofrestrydd yr Archesgob i gadw rhestr o bob Clerig:

(a)     a gosbwyd neu a geryddwyd (gyda’u cydsyniad neu fel arall) dan y bennod hon; neu

(b)     a ddiswyddwyd o Urddau Sanctaidd; neu

(c)     a ymddiswyddodd yn dilyn dwyn cyhuddiad ysgrifenedig yn eu herbyn gerbron yr Esgob;

a bydd y cyfryw restr yn cynnwys manylion am y gosb neu’r cerydd neu fanylion yr achwyniad a arweiniodd at yr ymddiswyddiad.

 

(2)     Pan fo Cofrestrydd yr Archesgob wedi cynnwys yn y rhestr un sy’n dod dan baragraffau (a) neu (c) isadran (1), bydd yn cymryd pob cam rhesymol i hysbysu’r person hwnnw mewn ysgrifen  i hynny gael ei wneud  ac o’r manylion a gofnodwyd ynglŷn ag ef. Gall y person hwnnw ofyn i Lywydd Llys y Dalaith adolygu’r mater ac, ar derfyn yr adolygiad, bydd Llywydd Llys y Dalaith yn gorchymyn parhau i gynnwys y person hwnnw ar y rhestr neu ei symud oddi arni

ac, yn yr achos cyntaf, newid y manylion a gofnodwyd yn y modd y bydd y Llywydd yn ei nodi.

 

(3)     Bydd yn ddyletswydd ar Gofrestrydd yr Archesgob i adolygu, yn y cyfryw fodd ag y gellir ei bennu, cynnwys person ar y rhestr, ymhen pum mlynedd ar ôl gwneud hynny a hefyd os bydd y person hwnnw neu Esgob Cadeiriol yn gofyn iddo wneud hynny.

 

Ar yr amod na fydd gan y person hwnnw yr hawl i wneud cais o dan yr isadran hon yn ystod y cyfnod dywededig o bum mlynedd nac ychwaith yn ystod y pum mlynedd a fydd yn dilyn unrhyw adolygiad blaenorol.