Pennod IV D: Trefniadau Tiriogaethol

1.

 

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, bydd trefniadau tiriogaethol presennol y gwahanol Esgobaethau dan eu gwahanol Esgobion Cadeiriol, a’r gwahanol fröydd a Phlwyfi a Grwpiau o Blwyfi dan y gwahanol bersonau eglwysig sy’n gofalu amdanynt, yn parhau fel y maent ar hyn o bryd.

 

2.

 

Gall Esgob unrhyw Esgobaeth, gyda chaniatâd Cynhadledd ei Esgobaeth, wneud unrhyw newid a farno’n briodol i drefniant tiriogaethol ei esgobaeth.

 

3.

 

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 2, bydd Cynhadledd yr Esgobaeth, neu ei Phwyllgor Sefydlog os awdurdodwyd ef i hynny gan y Gynhadledd, yn cydweithredu â’r Esgob:

(a)     i newid ffiniau unrhyw Blwyf;

(b)     i ddaduno Plwyf unedig;

(c)     i dynnu ymaith ddarn neu ddarnau o unrhyw blwyf a chorffori’r cyfryw mewn Plwyf cyffiniol;

(d)     i droi rhan o fywoliaeth neu Blwyf, neu rannau o fwy nag un fywoliaeth neu Blwyf, yn fywoliaeth neu Blwyf ar wahân;

(e)     i gasglu mwy nag un fywoliaeth neu Blwyf dan un Periglor;

(f)      i ad-drefnu neu ddatod cyfuniadau o Blwyfi a fu neu sydd yn awr neu a fydd rhag llaw wedi’u cyfuno dan un Periglor;

(g)     i uno neu gyfuno, yn barhaol neu dros dro, ddau neu fwy o blwyfi yn un Plwyf;

(h)     i grwpio eglwys heb ardal ag unrhyw Blwyf (lle y dymunir hynny gan y clerigion-mewn-gofal o’r eglwysi);

(i)      i osod unrhyw eglwys sydd heb ardal i fod yn eglwys neu gapel mewn bywoliaeth neu Blwyf; neu

(j)      i ffurfio unrhyw ardal (boed yn un neu ragor o Blwyfi neu rannau o’r cyfryw) yn blwyf a fydd i’w adnabod fel Bywoliaeth Reithorol neu i ad-drefnu neu newid neu ddiddymu Bywoliaeth Reithorol;

ac eithrio na wneir byth unrhyw newid i ffiniau presennol Plwyfi nac unrhyw newid i unrhyw grŵp o Blwyfi, os golyga’r newid gostau ychwanegol, heb ganiatâd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth.


4.

 

(1)     Gwneir unrhyw newid i drefniadau tiriogaethol presennol yr Esgobaeth trwy Orchymyn, na ddaw i rym nes ei arwyddo gan yr Esgob a’i osod yng Nghofrestrfa’r Esgobaeth.

 

(2)     Yn ddarostyngedig i is-adran (3), bydd gorchymyn o’r fath yn gwneud darpariaethau ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynglŷn â:

(a)     yr hawl i ddefnyddio eglwys y Plwyf a phob eglwys arall yn yr ardal;

(b)     pa eglwys, mewn Plwyf a ffurfir trwy uno neu gyfuno dau neu ragor o Blwyfi, fydd eglwys y plwyf neu eglwysi’r plwyf;

(c)     bedyddio, priodi, a chladdu;

(d)     y modd yr etholir cynrychiolwyr lleyg, os bydd rhai, i Gynhadledd y Ddeoniaeth;

(e)     beth sydd i’w wneud ynglŷn â rhol yr etholwyr, y Festri a chyfarfodydd eraill, Wardeniaid eglwys, Ystlyswyr, a’r Cyngor Plwyf Eglwysig; a

(f)      gyda golwg ar grwpio Plwyfi, neu ad-drefnu neu ddiddymu grŵp, pa un o’r tai yn y grŵp fydd y persondy y disgwylir i’r Periglor fyw ynddo yn unol â Rhan VIII Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud a Phersondai.

Ni bydd y gorchymyn yn ddilys heb y ddarpariaeth a’r cyfarwyddiadau hyn.

 

(3)     Yn achos gorchymyn a fydd yn ffurfio neu ad-drefnu neu newid Bywoliaeth Reithorol, bydd gorchymyn o’r fath, yn ychwanegol at y materion a draethir yn is-adran (2), yn gwneud darpariaethau ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynglyn ag:

(a)     awdurdod y Ficer, a’r swyddi, y dyletswyddau a’r gwasanaethau i’w cyflawni ganddo, yn cynnwys dyletswyddau neu gyfrifoldebau arbennig neu hebddynt;

(b)     cyfarfodydd rhwng y Rheithor a’r Ficer neu’r Ficeriaid, mewn cabidwl neu fel arall;

(c)     hawliau’r Rheithor a’r Ficer neu’r Ficeriaid ynglŷn ag offrymau Pasg a thaliadau gwenwisg a thaliadau eraill;

(d)     os bydd Bywoliaeth Reithorol yn cynnwys mwy nag un Plwyf, y materion y darperir ar eu cyfer yn adran 4(2), mutatis mutandis; a

(e)     y materion eraill hynny a farno’r Esgob yn angenrheidiol.

Ni bydd y gorchymyn yn ddilys heb y ddarpariaeth a’r cyfarwyddiadau hyn.

 

5.

 

Bydd gan Gynhadledd yr Esgobaeth y gallu i wneud rheolau at gyflawni pob un o’r newidiadau a wneir dan yr adrannau blaenorol.