Pennod IV C: Rheoliadau yn ymwneud â Gweinyddu Plwyfi

Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Gweinyddu Plwyfi

 

Yn unol â’i alluoedd o dan Bennod II y Cyfansoddiad, y mae’r Corff Llywodraethol trwy hynyma yn gwneud y rheoliadau a ganlyn o dan y teitl “Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Gweinyddu Plwyfi”, a draethir fel a ganlyn:

Rhan I:      Cwrdd Festri Blynyddol a Chyrddau Festri Eraill

Rhan II:          Cyrddau Cynulleidfaol

Rhan III:    Y Rhôl Etholwyr

Rhan IV:   Y Cyngor Plwyf Eglwysig

Rhan V:    Wardeniaid, Is-wardeniaid ac Ystlyswyr

Rhan VI:   Gweinyddiaeth Gyffredinol Plwyfi

 

Rhan I: Cwrdd Festri Blynyddol a Chyrddau Festri Eraill

 

1.      Cynhelir y Cwrdd Festri Blynyddol heb fod yn ddiweddarach na 30 Ebrill bob blwyddyn.

 

2.1    Gelwir pob Cwrdd Festri gan:

2.1.1      y Periglor neu, os bydd ef yn absennol neu’n analluog, gan y Wardeniaid;

2.1.2      mewn plwyf sy’n wag neu wedi’i atal, gan y clerig-mewn-gofal, os penodwyd un;

2.1.3      oni phenodwyd clerig-mewn-gofal, gan y Deon Bro neu un a enwebodd; neu

2.1.4      pan fo swydd y Deon Bro yn wag, gan yr archddiacon neu un a enwebodd;

ac ym mhob achos trwy rybudd a arwyddwyd gan y person neu’r personau sy’n galw’r cyfarfod yn gosod yr agenda a lleoliad, dyddiad ac amser y cyfarfod.

2.2    Gosodir y cyfryw rybudd yn ymyl prif ddrws eglwys neu eglwysi’r plwyf a phob adeilad arall yn y Plwyf a ddefnyddir at addoli’n gyhoeddus ac sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru am gyfnod a fydd yn cynnwys y ddau Sul cyn y cyfarfod, a rhoddir hefyd rybudd llafar o’r cyfarfod ym mhrif wasanaethau’r Plwyf yn ystod yr un cyfnod.

 

3.1    Y Periglor fydd cadeirydd y Cwrdd Festri, os nad yw’n dymuno’n wahanol.

3.2    Mewn plwyf sy’n wag neu wedi’i atal, y clerig-mewn-gofal, os penodwyd un, fydd y cadeirydd, os nad yw’n dymuno’n wahanol.

3.3    Pan fo plwyf yn wag neu wedi’i atal a heb glerig-mewn-gofal, y Deon Bro, neu un a enwebodd, fydd y cadeirydd. Pan fo swydd y Deon Bro yn wag, y cadeirydd fydd yr Archddiacon neu un a enwebodd.

 

3.4    Mewn Bywoliaeth Reithorol gall Ficer a enwir gan y Rheithor gadeirio. Pan fo Bywoliaeth Reithorol yn wag, y cadeirydd fydd Ficer yn y fywoliaeth honno a ddewiswyd gan y Deon Bro neu, pan fo swydd y Deon Bro yn wag, gan yr Archddiacon.

3.5    Ym mhob amgylchiad arall, dewisir y cadeirydd gan y Cwrdd.

3.6    Bydd gan y cadeirydd bleidlais fwrw, ond pan fo’r cadeirydd yn glerig ni chymhwysir y ddarpariaeth hon at ethol lleygwyr.

 

4.1    Bydd hawl gan y personau a ganlyn i fod yn bresennol, i siarad ac i bleidleisio       mewn Cyrddau Festri:

4.1.1      y Periglor neu, mewn plwyf gwag neu blwyf wedi’i atal, y clerig-mewn-gofal, os penodwyd un neu, oni phenodwyd clerig-mewn-gofal, y Deon Bro neu’r Archddiacon fel y bo’n briodol;

4.1.2      Ficeriaid mewn Bywoliaeth Reithorol;

4.1.3      Curadiaid Cynorthwyol;

4.1.4      Diaconesau;

4.1.5      Gweithwyr Lleyg cyflogedig amser-llawn;

4.1.6      Clerigion eraill â chanddynt drwydded neu ganiatâd i weinyddu ac sy’n preswylio yn y Plwyf, a heb fywoliaeth na thrwydded mewn unrhyw Blwyf arall; ac

4.1.7      etholwyr cymwys o’r Plwyf hwnnw.

4.2    Os cymeradwyir hynny gan y Cyngor Plwyf Eglwysig, gall personau sy’n preswylio yn y Plwyf ac sydd naill ai’n gymunwyr yn y Plwyf ond heb fod yn etholwyr cymwys, neu sy’n aelodau llawn mewn Eglwysi sydd mewn cyfamod â’r Eglwys yng Nghymru, fod yn bresennol a siarad, ond nid pleidleisio.

4.3    Yn ôl doethineb y Cadeirydd, gall personau eraill fod yn bresennol, ond ni chânt siarad na phleidleisio.

 

5.      Os daw i sylw Esgob yr Esgobaeth:

5.1         bod y Cwrdd Festri Blynyddol heb ei gynnal; neu

5.2         bod y Wardeniaid, y Cynghorwyr Plwyf Eglwysig neu gynrychiolwyr y plwyf yng Nghynhadledd yr Esgobaeth neu Gynhadledd y Ddeoniaeth heb eu hethol na’u penodi; neu

5.3         bod cynrychiolwyr y plwyf ar Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth heb eu hethol na’u penodi; neu

5.4         bod cyfarfodydd o’r Cyngor Plwyf Eglwysig heb eu cynnal yn unol â Phennod IV C adran 8;

gall yr Esgob benodi Wardeniaid, Cynghorwyr Plwyf Eglwysig neu gynrychiolwyr plwyfol fel y bo angen, a gall wysio cyfarfod o’r Cyngor Plwyf Eglwysig, ac ym mhob achos o’r fath bydd yr Esgob yn adrodd am yr hyn a wnaeth o dan y Rheoliad hwn i gyfarfod nesaf Cynhadledd yr Esgobaeth.

 

Rhan II: Cyrddau Cynulleidfaol

 

6.1    Mewn Plwyfi sydd â mwy nag un eglwys, gellir cynnal Cwrdd Cynulleidfaol cyn unrhyw Gwrdd Festri. Bydd Cwrdd Cynulleidfaol o’r fath yn agored i bob etholwr cymwys sy’n mynychu’r eglwys dan sylw yn arferol, a hefyd i’r personau hynny a grybwyllir yn Rheoliadau 4.1.1 hyd 4.1.6.

6.2    Mewn Plwyfi sydd â mwy nag un Eglwys, gall pob Cwrdd Cynulleidfaol a gynhelir dan Reoliad 6.1 ethol Pwyllgor Eglwysig i ymdrin â materion yn ymwneud â’r eglwys arbennig honno. Bydd y cyfryw Bwyllgor Eglwysig yn atebol i’r Cyngor Plwyf Eglwysig. Bydd is-wardeniaid yr eglwys arbennig honno, ac unrhyw aelodau eraill o’r Cyngor Plwyf Eglwysig sy’n ei mynychu’n arferol, yn aelodau yn rhinwedd eu swydd o’r Pwyllgor Eglwysig.

 

Rhan III: Y Rhôl Etholwyr

 

7.1    Y mae Rhôl yr Etholwyr (“y Rhôl”) i’w harddangos ym mhob Cwrdd Festri.

7.2    Cyfrifoldeb y Cyngor fydd gofalu am y Rhôl ac, o fewn terfynau darpariaethau Rheoliadau 7.3, rhaid ei diwygio cyn pob Cwrdd Festri Blynyddol. Y mae copi o’r Rhôl, a hysbysiad o’r bwriad i’w diwygio, i’w arddangos yn ymyl prif ddrws eglwys y Plwyf am o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg cyn cychwyn y diwygio blynyddol, a rhaid gorffen y diwygio o leiaf bymtheng niwrnod cyn y Cwrdd Festri Blynyddol. Mewn Plwyfi sydd â mwy nag un eglwys, rhaid arddangos copi o’r Rhôl a’r hysbysiad ym mhob eglwys.

7.3    Bydd y Rhôl yn mynd yn ddi-rym yn union cyn y Cwrdd Festri Blynyddol yn 2010 a phob pum mlynedd wedyn, pan baratoir Rhôl newydd. Y mae hysbysiad o’r bwriad i baratoi Rhôl newydd i’w arddangos yn ymyl prif ddrws pob eglwys yn y Plwyf am o leiaf bymtheng niwrnod cyn dechrau paratoi’r Rhôl newydd.

7.4    Paratoir y Rhôl newydd dan gyfarwyddyd y Cyngor Plwyf Eglwysig, a bydd pob person sydd am gael cynnwys ei enw ynddi yn gwneud cais yn unol â darpariaethau Pennod IV C adran 4. Bydd yn ofynnol i bersonau yr oedd eu henwau ar y Rhôl flaenorol wneud cais newydd.

7.5    Y mae copi o’r Rhôl newydd i’w arddangos yn ymyl prif ddrws eglwys y Plwyf am o leiaf bymtheng niwrnod cyn y Cwrdd Festri Blynyddol, a daw’r rhôl newydd i rym ar ddechrau’r Cwrdd hwnnw. Mewn Plwyfi sydd â mwy nag un eglwys, rhaid arddangos copi o’r Rhôl ym mhob eglwys.

 

8.      Rhaid i’r Wardeniaid ddangos copi o’r Rhôl i’r Esgob neu’r Archddiacon ar ei gais.

 

9.      Cedwir y Rhôl, pan na fydd angen amdani i unrhyw bwrpas arall, yn niogell eglwys y Plwyf. Mewn Plwyf sydd â mwy nag un eglwys, gall pob eglwys gadw’n ddiogel gopïau o’r Rhôl neu adrannau ohoni.

 

Rhan IV: Y Cyngor Plwyf Eglwysig

 

10.    Galluoedd a Dyletswyddau

Bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn ethol lleygion i wasanaethu ar Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth yn unol â Rheoliad 1.5 yn Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Phenodi ac Enwebu.

 

11.1  Bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn penodi ysgrifennydd i’r Cyngor a’r Cyrddau Festri, y traethir ei swyddogaeth yn y Rheoliad hwn, a gall benodi dirprwy ysgrifennydd.

11.2 Os digwydd i’r ygrifennydd a’r dirprwy ysgrifennydd fod yn absennol o gyfarfod, gall y cyfarfod benodi un i fod yn ysgrifennydd i’r cyfarfod hwnnw.

11.3  Bydd yr Ysgrifennydd:

11.3.1   yn bresennol i gadw cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Plwyf Eglwysig a’r Cwrdd Festri;

11.3.2   yn anfon at yr Archddiacon enwau a chyfeiriadau’r Wardeniaid;

11.3.3   yn anfon at y Deon Bro enwau a chyfeiriadau’r rhai a etholir i Gynhadledd y Ddeoniaeth;

11.3.4   yn anfon at Ysgrifennydd Cynhadledd yr Esgobaeth enwau a chyfeiriadau’r rhai a etholwyd i Gynhadledd yr Esgobaeth; ac

11.3.5   yn anfon at Ysgrifennydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth enwau a chyfeiriadau’r rhai a etholwyd i wasanaethu ar y Bwrdd Enwebu.

11.4  Ni chymhwysir darpariaethau Rheoliad 11.3.5 at Blwyf a gysylltir ag eglwys gadeiriol.

 

12.1  Bob blwyddyn bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn penodi trysorydd, a gall benodi dirprwy drysoryddion, i weinyddu cyllid y Plwyf.

12.2  Bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn peri i gopi o’r cyfrifon a ymchwiliwyd neu a archwiliwyd gael ei arddangos ger prif ddrws yr eglwys neu’r eglwysi, a phob adeilad arall yn y Plwyf a ddefnyddir ar gyfer addoliad cyhoeddus ac sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru, a gall hefyd beri  arddangos copïau o’r fath mewn adeiladau eraill yn y Plwyf am gyfnod yn cynnwys y ddau Sul yn union cyn diwrnod y Cwrdd Festri Blynyddol.

 

13.    Aelodaeth

13.1       Yr aelodau yn rhinwedd swydd fydd y Periglor neu, yn achos perigloriaeth wag neu un a ataliwyd, y clerig-mewn-gofal, os penodwyd un, Ficeriaid mewn bywoliaeth reithorol, Curadiaid cynorthwyol, Diaconesau, Gweithwyr Lleyg cyflogedig amser llawn, y Wardeniaid a’r is-wardeniaid.

13.2       Yr aelodau etholedig fydd y cyfryw nifer (heb fod yn fwy na phump ar hugain) o leygion a etholwyd gan y Cwrdd Festri Blynyddol a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cwrdd Festri Blynyddol.

13.3       Yr aelodau cyfetholedig fydd:

13.3.1        yr ysgrifennydd a’r trysorydd, os nad ydynt eisoes yn aelodau yn rhinwedd swydd neu’n aelodau etholedig;

13.3.2        y nifer hwnnw (heb fod yn fwy na saith) o leygion neu glerigion a bennir gan y Cyngor; ac

13.3.3        unrhyw ddarllenwyr trwyddedig (os oes rhai) a bennir gan y Cyngor;

ar yr amod na bydd unrhyw glerig wedi ymddeol ar dir i’w gyfethol.

 

Rhan V: Wardeniaid, Is-wardeniaid ac Ystlyswyr

 

14     Wardeniaid

14.1       Etholir neu penodir Wardeniaid yn flynyddol ac, yn unol â Rheoliadau 14.2, 14.3 a 14.5, byddant yn eu swydd nes derbynnir eu holynwyr.

14.2.1        Trwy hysbysiad mewn ysgrifen, wedi ei gyfeirio i’r Esgob, gall Warden ymddiswyddo o’i swydd a bydd honno’n wag pan dderbynia’r Esgob y cyfryw hysbysiad.  Bydd yr Esgob yn cydnabod yr ymddiswyddiad ar unwaith ac yn hysbysu’r Periglor, y clerig-mewn-gofal neu’r Deon Bro yn ôl fel y digwydd, ynghyd â’r Warden neu’r Wardeniaid eraill, fod y swydd yn wag.

14.2.2        Gellir llenwi swydd wag achlysurol ymhlith Wardeniaid unrhyw amser trwy ethol neu benodi yn ôl fel y digwydd, a gwneir hynny mewn Cwrdd Festri a alwyd i’r diben hwnnw.

14.3       Ni fydd Wardeniaid yn gymwys i’w hethol na’u penodi yn y flwyddyn nesaf ar ôl cwblhau chwe chyfnod olynol yn eu swydd, ond yn unol â darpariaethau Rheoliad 14.4.

14.4       Os rhagwelir y bydd yn anodd cadw at Reoliad 14.3, gall yr Archddiacon, ar gais oddi wrth Gwrdd Festri, neu ar ei liwt ei hun, ganiatáu rhyddhâd oddi wrth ddarpariaethau’r rheoliad, ond ar hynny rhaid i’r Archddiacon hysbysu’r Esgob am y mater.

14.5       Ni fydd Wardeniaid yn gymwys i’w hail-ethol na’u hail-benodi ar ôl cyrraedd yr oedran pan y mae aelodau’r Corff Llywodraethol yn ymddeol.

 

15.    Is-wardeniaid

15.1       Mewn Plwyfi sydd â mwy nag un eglwys, gellir enwi dau etholwr cymwys o’r Plwyf i fod yn is-wardeniaid yr eglwys y maent yn ei mynychu’n arferol. Etholir un ohonynt gan y Cwrdd Festri Blynyddol, ar ôl ei enwebu gan Gwrdd Cynulleidfaol, a phenodir y llall gan y Periglor. Pan fo plwyf yn wag, penodir is-warden yn ôl darpariaethau Pennod IV C isadrannau 13(2) a 13(3).

15.2       Cymhwysir darpariaethau Rheoliad 14.3, 14.4 a 14.5 at Is-wardeniaid yn ogystal ag at Wardeniaid.

 

16.    Ystlyswyr

16.1       Dyletswyddau’r Ystlyswyr fydd cynorthwyo’r Wardeniaid yn eu dyletswyddau.

16.2       Bydd pob Ystlyswr yn etholwr cymwys yn y Plwyf a thros ddeunaw oed.

 

Rhan VI: Gweinyddiaeth Gyffredinol Plwyfi

 

17.    Infentorïau

17.1       Oni orchmynnir yn wahanol mewn ysgrifen gan yr Archddiacon, bydd pob infentori dan ofal y Periglor a’r Wardeniaid, ac fe’i cedwir mewn diogell yn yr eglwys.

17.2       Rhaid i’r Periglor a’r Wardeniaid anfon unrhyw infentori at yr Esgob neu’r Archddiacon ar gais y naill neu’r llall.

17.3.1        Pan â unrhyw berigloriaeth yn wag, bydd yn ddyletswydd ar y Wardeniaid i archwilio llestri’r eglwys a phethau gwerthfawr eraill sy’n eiddo i’r eglwys neu a ddefnyddir ar gyfer addoli mewn unrhyw eglwys neu ystafell genhadol yn y Plwyf, a chymharu’r cyfryw bethau â’r infentorïau, a chyn pen mis wedi i’r berigloriaeth fynd yn wag gwneud adroddiad mewn ysgrifen am ganlyniad eu harchwiliad i Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, a fydd yn cyflwyno’r cyfryw adroddiad i gyfarfod nesaf y Corff hwnnw.

17.3.2        Ar ôl anfon adroddiad o’r fath at Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, bydd y Wardeniaid yn anfon copi ohono, ynghyd â’r infentorïau, at yr Archddiacon, a fydd yn archwilio’r infentorïau a’u dychwelyd maes o law i’r periglor newydd.

 

18.    Rhoddion

18.1       Bydd y Periglor a’r Wardeniaid yn nodi yn yr infentori yn ddiymdroi fanylion am unrhyw rodd i’r eglwys o lestr eglwysig neu o unrhyw beth gwerthfawr arall i’w ddefnyddio yn y gwasanaethau yn unrhyw eglwys neu ystafell genhadol yn y Plwyf.

18.2       Bydd y cofnod yn yr infentori yn nodi enw’r rhoddwr (os yw’n hysbys), ac ymhle y cedwir y gwrthrych pan nas defnyddir, a bydd yn rhoi manylion am unrhyw yswiriant ynglŷn ag ef.

18.3       Bydd y Periglor yn adrodd am y rhodd i gyfarfod nesaf y Cyngor Plwyf Eglwysig a’r Cwrdd Festri Blynyddol.

18.4       Bydd y Periglor a’r Wardeniaid yn anfon copi o’r cofnod am bob rhodd at yr Esgob ac at Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, a fydd yn adrodd am y rhodd i gyfarfod nesaf y Corff hwnnw.

 

19.    Cyfeirir unrhyw anghydfod neu gwestiwn a gyfyd o Reoliadau 17 neu 18, neu sy’n gysylltiedig mewn unrhyw fodd â’r infentori, at yr Archddiacon, a bydd ei ddyfarniad ef ar y mater yn derfynol.