Pennod IV C: Gweinyddu Plwyfi

Rhan I: Cwrdd Festri Blynyddol a Chyrddau Festri Eraill

 

1.

 

(1)     Ym mhob Plwyf fe fydd Cwrdd Festri Blynyddol.

 

(2)     Gwaith y Cwrdd Festri Blynyddol fydd derbyn a thrafod:

(a)     adroddiad a chyfrifon gan y Cyngor Plwyf Eglwysig am y flwyddyn flaenorol wedi eu gwneud yn unol â Rheoliadau Cadw Cyfrifon yr Eglwys yng Nghymru;

(b)     adroddiadau am drafodion Cynadleddau’r Ddeoniaeth a’r Esgobaeth bob blwyddyn;

(c)     unrhyw adroddiadau eraill a fynnir gan y Cyngor neu a ganiateir gan y cwrdd; ac

(d)     unrhyw fusnes arall a ganiateir gan y Cwrdd, ar ôl derbyn rhybudd amdano.

 

(3)     Bydd y Cwrdd Festri Blynyddol yn ethol i’r swyddi hyn yn y drefn ganlynol:

(a)     Warden, yn unol ag adran 13;

(b)     is-wardeniaid, lle y penodir hwy, yn unol â’r Rheoliadau;

(c)     aelodau’r Cyngor Plwyf Eglwysig;

(d)     Ystlyswyr, pan fo angen;

(e)     bob trydedd flwyddyn, cynrychiolwyr lleyg y plwyf i Gynhadledd y Ddeoniaeth a nifer gyfartal o gynrychiolwyr lleyg atodol;

(f)      pan fo’n briodol, cynrychiolwyr lleyg y plwyf i Gynhadledd yr Esgobaeth;

ar yr amod na bydd yr un clerig yn pleidleisio i ethol person lleyg.

 

(4)     Bydd y Cwrdd Festri Blynyddol yn penodi ymchwilydd annibynnol neu archwiliwr nad yw’n aelod o Gyngor Plwyf Eglwysig y Plwyf.

 

(5)     Ni fydd neb ar dir i’w ethol oni chafwyd ei ganiatâd ymlaen llaw i’w enwebu.

 

(6)     Mewn plwyf a gysylltwyd ag Eglwys Gadeiriol ni fydd a wnelo is-adran (2)(a) ddim ag unrhyw eiddo na chyfrifon yn ymwneud â’r Deon a’r Cabidwl ond gyda’u caniatâd hwy.

 

2.

 

Gellir galw Cyrddau Festri eraill unrhyw bryd, a bydd yn rhaid galw Cwrdd Festri os gofynnir am un mewn ysgrifen gan o leiaf chwarter neu ddeg ar hugain o etholwyr cymwys y plwyf.

 

3.

 

Apeliadau

 

Os cyfyd anghydfod ynglŷn â hawl person i fod yn bresennol, i siarad neu i bleidleisio mewn Cwrdd Festri, bydd dyfarniad y Cadeirydd ar hynny yn derfynol am y cwrdd hwnnw, ond bydd gan y cyfryw berson hawl i apelio at y Deon Bro, eithr os digwydd mai’r Periglor yw’r Deon Bro, apelir at yr Archddiacon.

 

Rhan II: Y Rhôl Etholwyr

 

Y Rhôl Etholwyr

 

4.

 

(1)     Bydd ym mhob plwyf rôl etholwyr (“y Rhôl”).

 

(2)     Bydd gan unrhyw leygwr dros un ar bymtheg oed yr hawl i gael gosod ei enw ar y Rhôl:

(a)     (i)      os yw’n Gymunwr; a

(ii)     heb fod yn aelod o unrhyw gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru, oddieithr iddo gael caniatâd ysgrifenedig Esgob yr Esgobaeth yn ei ryddhau o’r anghenraid hwnnw; ac

(b)     os yw’n preswylio yn y plwyf, neu, os nad yw’n preswylio yn y plwyf, ei fod wedi mynychu addoliad cyhoeddus yn gyson yn y plwyf am gyfnod o chwe mis cyn cofrestru;

(c)     os ydyw wedi arwyddo ffurflen gais am gael ei gofrestru; ac

(d)     os nad yw ei enw wedi’i gynnwys ar Rôl Plwyf arall yng Nghymru, oddi eithr iddo gael caniatâd Cynghorau Plwyf y ddau blwyf.

 

(3)     Gall unrhyw un wneud cais i’r Cyngor Plwyf Eglwysig am gael gosod ei enw ar y Rhôl, ond iddo/i arwyddo’r datganiad canlynol:

 

Yr wyf fi, (teitl ac enwau bedydd yn llawn a chyfenw)

 

………………………………………………………………………………………………………………………….

 

(cyfeiriad post yn llawn)………………………………………………………………………………………………

 

………………………………………………………………………………………………………………………….

 

(rhif ffôn)…………………………………………………………………………………………………………

 

drwy hyn yn gofyn am gael gosod fy enw ar Rôl Etholwyr

 

plwyf………………………………………………………………………………………………………………….

 

yn esgobaeth……………………………………………………………………………………………………..

 

ac yr wyf yn cytuno i dderbyn Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ac i gymryd fy rhwymo ganddo.  Yr wyf yn datgan fy mod yn gymwys yn ôl darpariaethau adran 4(2), pennod IV C y Cyfansoddiad.

 

Dyddiad………………………………… Arwyddwyd…………………………………………………………………

 

5.

 

Dileu enw oddi ar y Rhôl

 

Dilëir o’r Rhôl enw unrhyw berson:

(a)     os bydd wedi marw; neu

(b)     os ordeinir ef neu hi i Urddau Sanctaidd; neu

(c)     os arwydda mewn ysgrifen ei ddymuniad i ddileu ei enw; neu

(d)     os â’n aelod, heb ganiatâd ysgrifenedig yr Esgob, o unrhyw gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru; neu

(e)     fod caniatâd ysgrifenedig yr Esgob yn unol ag is-adran 4(2)(a)(ii) wedi ei dynnu’n ôl; neu

(f)      os peidia â phreswylio yn y plwyf, oddieithr ei fod yn parhau i fynychu addoliad cyhoeddus yn gyson yn y plwyf; neu

(g)     os nad yw’n preswylio yn y plwyf, a’i fod, heb ei rwystro gan afiechyd neu ryw achos digonol arall, heb fynychu addoliad cyhoeddus yn y plwyf yn ystod y chwe mis blaenorol; neu

(h)     os ar unrhyw adeg wedi gosod ei enw ar y Rhôl, y bydd yn peri gosod ei enw ar rôl plwyf arall, oddieithr iddo gael caniatâd Cynghorau’r ddau blwyf; neu

(i)      os nad oedd ganddo’r hawl i’w enw gael ei osod ar y Rhôl yn y lle cyntaf.

 

Apeliadau

 

6.

 

(1)     Rhaid i’r Cyngor Plwyf Eglwysig beri bod y Rhôl ar gael i’w harchwilio gan unrhyw etholwr cymwys yn festri eglwys y plwyf ar unrhyw adeg resymol, ac os cyfyd anghydfod o’r adran hon ac o’r rheoliadau a wneir isod, yr Archddiacon sydd i’w ddatrys.

 

(2)     Gall unrhyw un y gwrthododd y Cyngor Plwyf Eglwysig osod ei enw ar y Rhôl, neu y dilewyd ei enw oddi arni, apelio ynglŷn â hynny mewn ysgrifen at yr Archddiacon, a bydd ef ar hynny yn penodi un neu ragor o Gymunwyr lleyg i weithredu’n llys i ystyried a phenderfynu’r apêl. Bydd gan y llys a benodir felly hawl i archwilio pob papur ac i gael meddiant o bob gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r apêl. Bydd dyfarniad llys o’r fath yn derfynol.

 

(3)     Bydd yr Archddiacon yn cymryd y camre a farno’n addas i sicrhau ym mhob Plwyf gydymffurfiad dyladwy â darpariaethau perthnasol adran 4 a Rheoliad 7 yn y Rheoliadau yn ymwneud â Gweinyddu Plwyfi.

 

7.

 

Gall unrhyw etholwr cymwys mewn Plwyf anfon mewn ysgrifen i Ysgrifennydd y Cyngor Plwyf Eglwysig wrthwynebiad, ar sail diffyg cymhwyster, i ychwanegu enw neu enwau at Rôl Etholwyr y Plwyf hwnnw neu, yn yr un modd, wrthwynebiad i ddileu enw neu enwau oddi arni. Bydd y Cyngor yn ystyried gwrthwynebiad o’r fath, ac oni bydd y Cyngor yn caniatáu’r gwrthwynebiad, gall y gwrthwynebwr apelio mewn ysgrifen at yr Archddiacon, ac â’r mater rhagddo yn ôl darpariaethau is-adran 6(2).

 

Rhan III: Y Cyngor Plwyf Eglwysig

 

8.

 

Galluoedd a Dyletswyddau

 

(1)        Bydd ym mhob Plwyf Gyngor Plwyf Eglwysig (“y Cyngor”), a fydd yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.

 

(2)        Bydd yn ddyletswydd ar y Periglor a’r Cyngor i gydymgynghori a chydweithredu ym mhob mater o bwys a gofal yn ymwneud â’r Plwyf.

 

(3)        Ac eithrio yn achos Cadeirlan lle bo Cynllun y Gadeirlan neu Gyfansoddiad a Rheoliadau’r Gadeirlan yn datgan fel arall, bydd swyddogaethau’r Cyngor yn cynnwys:

(a)        hyrwyddo holl genadwri’r Eglwys yn y Plwyf, yn fugeiliol, cenhadol, cymdeithasol ac eciwmenaidd;

(b)        ystyried a thrafod materion yn ymwneud â’r Eglwys yng Nghymru, neu sydd o ddiddordeb crefyddol neu gyhoeddus, ond ni fydd trafodaeth y Cyngor ar faterion athrawiaethol yn mynd mor bell â llunio neu ddatgan athrawiaeth;

(c)        cyhoeddi a gweithredu unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan y Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr, a Chynadleddau’r Esgobaeth a’r Ddeoniaeth, ond heb amharu ar alluoedd y Cyngor ar unrhyw fater arbennig;

(d)        cyflawni’r dyletswyddau a osodwyd arno gan unrhyw Reoliadau a wnaed yn y Cyfansoddiad;

(e)paratoi cyllideb y plwyf, a fydd yn cynnwys: amrywiol dreuliau’r eglwys, cyfraniadau’r plwyf at gyfran yr esgobaeth ac at y genhadaeth gartref a thramor, ac unrhyw adrannau eraill o waith yr eglwys, ynghyd â threfnu codi’r arian angenrheidiol;

(f)         cynghori ar unrhyw fater a gyfeiriwyd yn briodol i’r Cyngor;

(g)        cysylltu â Chynhadledd yr Esgobaeth neu’r Ddeoniaeth ar unrhyw faterion addas ym marn y Cyngor;

(h)        adolygu’n flynyddol y treuliau y dylai’r plwyf eu talu i’r clerig; a

(i)         chyflwyno adroddiad a chyfrifon yn unol â Deddf Elusennau 1993 ac unrhyw amrywiad arni neu ychwanegiad ati ac unrhyw reoliadau a wnaed ynddi ac yn unol â Rheoliadau Cadw Cyfrifon yr Eglwys yng Nghymru (a’r adroddiad a’r cyfrifon hynny i’w harwyddo gan y Cadeirydd).

 

(4)        Bydd holl gyllid y Plwyf (ac eithrio ymddiriedolaethau arbennig sy’n trefnu’n wahanol, cronfa wrth ddoethineb y Periglor ac, mewn Plwyf a gysylltir ag Eglwys Gadeiriol, eiddo a chyfrifon sy’n perthyn i’r Deon a’r Cabidwl) dan reolaeth y Cyngor.

 

(5)        Wrth ymarfer ei swyddogaethau bydd y Cyngor yn cymryd i ystyriaeth unrhyw fynegiant barn gan unrhyw gwrdd eglwysig a alwyd yn gyfansoddiadol.

 

(6)        Y Cyngor fydd y cyfrwng cyfathrebu normal rhwng y plwyfolion a’r Esgob, a bydd ganddo’r hawl i gyflwyno sylwadau i’r Esgob ar faterion yr Eglwys, gofal eneidiau yn y Plwyf, newidiadau yn y gwasanaethau, ac addurniadau.

 

Aelodaeth

 

9.

 

(1)     Aelodau’r Cyngor fydd:

(a)     aelodau yn rhinwedd swydd, y traethir eu swyddi yn Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Gweinyddu Plwyfi;

(b)     aelodau etholedig, wedi eu hethol yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau; ac

(c)     aelodau cyfetholedig, wedi eu cyfethol yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau.

 

(2)     Ni bydd nifer yr aelodau clerigol ar unrhyw gyfrif yn fwy na nifer yr aelodau lleyg.

 

Cymwysterau Aelodaeth

 

10.

 

Bydd pob aelod lleyg o’r Cyngor yn etholwr cymwys yn y Plwyf, a thros ddeunaw mlwydd oed.

 

11.

 

Bydd pob aelod lleyg o’r Cyngor, cyn cymryd ei swydd, yn arwyddo, mewn llyfr a gedwir at hynny gan Ysgrifennydd y Cyngor, ddatganiad yn y ffurf hon:

Yr wyf fi, J … S … o … yn datgan fy mod yn Gymunwr dros ddeunaw mlwydd oed, a bod fy enw wedi ei gofnodi’n gywir ar rôl etholwyr y Plwyf hwn, y byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau fel Cynghorwr Plwyf Eglwysig yn ffyddlon a diwyd yn ystod blwyddyn fy swydd, ac yr wyf yn cytuno i dderbyn a chael fy rhwymo gan Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.

 

Cyffredinol

 

12.

 

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad a Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Gweinyddu Plwyfi, bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig:

(a)     yn gwneud rheolau sefydlog ynglŷn â’i weithdrefn; ac

(b)     yn gallu penodi pwyllgorau (gan gynnwys Pwyllgor Cyllid) o blith yr aelodau fel y bo angen, a gwneud rheolau sefydlog i reoli galluoedd a gweithdrefn pwyllgorau o’r fath (gan gynnwys yr hawl i gyfethol); ar yr amod, oni roddwyd awdurdod ymlaen llaw, bod yn rhaid i’r Cyngor gadarnhau pob gweithred a phenderfyniad a wneir yn unrhyw bwyllgor.

 

Rhan IV:  Wardeniaid Eglwys

 

13.

 

(1)     Bydd ym mhob Plwyf ddau Warden y bydd darpariaethau Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Gweinyddu Plwyfi yn berthnasol iddynt ac a fydd yn etholwyr cymwys yn y Plwyf hwnnw a thros ddeunaw oed, y naill i’w ethol gan y Cwrdd Festri Blynyddol, a’r llall i’w benodi gan y periglor yn y Cwrdd hwnnw; eithr mewn Plwyf lle’r oedd yn arferol fod mwy na dau warden cyn pasio Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1914, bydd nifer y Wardeniaid yn aros felly, a’r dull o’u penodi yn dal mewn grym nes i Gynhadledd yr Esgobaeth orchymyn yn wahanol.

 

(2)     Mewn plwyf gwag neu blwyf wedi’i atal lle y penodwyd Clerig-mewn-gofal, penodir y Warden yn unol ag is-adran (1) ganddo ef neu hi.

 

(3)     Mewn plwyf gwag neu blwyf wedi’i atal lle ni phenodwyd Clerig-mewn-gofal, neu pan fo’r Periglor yn methu gweithredu, gall y Deon Bro benodi Warden yn unol ag is-adran (1).

 

(4)     Swyddogion yr Esgob yw’r Wardeniaid ar ôl eu derbyn; byddant yn cyflawni’r dyletswyddau arferol hynny a berthyn iddynt; byddant yn flaenllaw yn cynrychioli’r lleygion ac yn ymgynghori â’r periglor a chydweithio ag ef; byddant yn ymdrechu’n ddyfal i hyrwyddo heddwch ac undeb ymhlith y plwyfolion a, thrwy esiampl ac ymddygiad, i annog y plwyfolion i ymarfer gwir grefydd; byddant hefyd yn cadw trefn a gwedduster yn yr eglwys a’r fynwent, yn enwedig ar amser addoliad cyhoeddus; a byddant yn cyflawni’r dyletswyddau a osodir arnynt gan y Rheoliadau Adeiladwaith Eglwysig.

 

14.

 

Rhaid i bob Warden cyn ei dderbyn i’w swydd wneud ac arwyddo gerbron yr Esgob, Canghellor yr esgobaeth, yr Archddiacon neu un a benodwyd i’r pwrpas gan yr archddiacon, ddatganiad yn y ffurf hon:

Yr wyf fi, J… S… yn datgan fy mod yn Gymunwr Conffyrmiedig dros ddeunaw oed a bod fy enw wedi’i gofnodi’n gywir ar rôl etholwyr Plwyf …, ac y byddaf yn cyflawni yn ffyddlon ac yn ddiwyd ddyletswyddau Warden y Plwyf hwnnw yn ystod blwyddyn fy swydd, a’m bod yn cytuno i dderbyn ac ufuddhau i unrhyw benderfyniad gan yr Esgob neu Ganghellor yr esgobaeth ynglŷn â’m hawl ar unrhyw amser i ddal swydd Warden.

 

Rhan V: Gweinyddiaeth Gyffredinol Plwyfi

 

15.

 

Bydd yn ddyletswydd ar Beriglor a Wardeniaid pob Plwyf gwblhau:

(i)      Llyfr Lóg a Llyfr Tir ar gyfer pob eglwys a phob adeilad arall yn y Plwyf a ddefnyddir ar gyfer addoliad cyhoeddus ac sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru; ac

(ii)     Infentori o gynnwys pob un ohonynt, ac o bopeth arall sy’n eiddo i’r eglwys ac a ddefnyddir mewn perthynas â‘r eglwys mewn unrhyw fan yn y Plwyf;

a byddir yn cwblhau’r dogfennau hyn yn y cyfryw fodd ac ar y cyfryw amseroedd ag a benodir o bryd i’w gilydd gan Gorff y Cynrychiolwyr neu’r Pwyllgor addas ohono; ar yr amod, yn achos Eglwys Gadeiriol (ac eithrio Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw), mai cyfrifoldeb y Deon a’r Cabidwl fydd cwblhau’r Llyfr Lóg, y Llyfr Tir a’r Infentori.