Pennod III: Corff y Cynrychiolwyr

Rhan I: Cyffredinol

 

1.

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn ddarostyngedig i’r cyfnewidiadau hynny a wneir o bryd i’w gilydd i ddarpariaethau’r Bennod hon ac i’r rheoliadau ynglŷn â Chorff y Cynrychiolwyr a fabwysiedir o bryd i’w gilydd gan y Corff Llywodraethol, ar yr amod bob amser nad yw’r darpariaethau a’r rheoliadau a’r newidiadau hynny yn gwrthdaro ag awdurdod a galluoedd a dyletswyddau statudol Corff y Cynrychiolwyr.

 

Rhan II: Aelodaeth

 

Aelodaeth

 

2.

 

(1) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn cynnwys:

 

          (a)     aelodau yn rhinwedd swydd, sef:

(i)      yr Archesgob;

(ii)     Cadeirydd Bwrdd Cyllid pob esgobaeth; a

(iii)    Chadeirydd y Pwyllgor Sefydlog.

(b)     aelodau etholedig, sef un Clerig ac un person lleyg o bob Esgobaeth wedi eu hethol gan Gynhadledd pob Esgobaeth, a fydd yn dal eu swydd am gyfnod o dair blynedd ac a fydd ar dir i’w hail-ethol am dymhorau pellach o dair blynedd os byddant yn gymwys ym mhopeth arall;

(c)     aelodau cyfetholedig, a gyfyngir i ddau, wedi eu cyfethol gan aelodau yn rhinwedd swydd ac aelodau etholedig Corff y Cynrychiolwyr heb ystyried esgobaethau, a fydd yn dal eu swydd am gyfnod o dair blynedd ac a fydd ar dir i’w cyfethol am dymhorau pellach o dair blynedd os byddant yn gymwys ym mhopeth arall; ac

(d)     aelodau enwebedig, a gyfyngir i bedwar, wedi eu henwebu gan Fainc yr Esgobion mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Sefydlog, a fydd yn dal eu swydd am gyfnod o dair blynedd ac a fydd ar dir i’w henwebu am dymhorau pellach o dair blynedd os byddant yn gymwys ym mhopeth arall.

(2) Os etholwyd aelod dros fwy nag un esgobaeth, bydd Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr yn hysbysu’r aelod hwnnw mewn ysgrifen ac yn galw arno i nodi mewn ysgrifen cyn pen un diwrnod ar hugain pa esgobaeth y mae am ei gwasanaethu. Os bydd yr aelod yn methu â nodi dewis, bydd y Cadeirydd yn dewis pa esgobaeth y bydd yn ei gwasanaethu, ac yna llenwir sedd neu seddau’r aelod hwnnw dros unrhyw esgobaeth neu esgobaethau eraill o’r rhestr atodol briodol o aelodau dros y cyfryw esgobaeth neu esgobaethau.

 

3.

 

(1)     Bydd Cynhadledd pob Esgobaeth, ar adeg pob etholiad blynyddol, yn gwneud rhestrau atodol o Glerigion a phersonau lleyg, fel y gellir llenwi ohonynt leoedd gwag achlysurol ymhlith aelodau etholedig Corff y Cynrychiolwyr yn ôl y drefn y gosodir yr enwau ar y rhestrau hynny gan y Gynhadledd.

 

(2)     Bydd yr aelodau yn rhinwedd swydd a’r aelodau etholedig yn llenwi lle gwag achlysurol ymhlith yr aelodau etholedig o’r rhestrau atodol a baratowyd gan bob Cynhadledd Esgobaethol, gan benodi bob amser glerig i gymryd lle clerig a pherson lleyg i gymryd lle person lleyg.

 

(3)     Gall yr aelodau yn rhinwedd swydd a’r aelodau etholedig lenwi lle gwag ymhlith yr aelodau cyfetholedig hynny a gyfetholwyd ganddynt.

 

(4)     Gall Mainc yr Esgobion, mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Sefydlog, lenwi lle gwag achlysurol ymhlith yr aelodau hynny a enwebwyd ganddynt.

 

(5)     Yn unol ag adran 8, ni waeth beth fo darpariaeth yr adran, bydd person a benodwyd i lenwi lle gwag achlysurol yn dal y swydd hyd at y dyddiad pan oedd yr aelod y mae’n cymryd ei le i fod i ymddeol.

 

4.

 

Ni fydd methiant ar ran unrhyw esgobaeth i ethol neu ddychwelyd aelodau, clerigol na lleyg, nac i lunio neu anfon rhestrau atodol, na methiant ar ran Corff y Cynrychiolwyr i arfer ei allu i gyfethol na llenwi lleoedd gwag, na methiant ar ran Mainc yr Esgobion i ymarfer ei gallu i enwebu na llenwi lleoedd gwag yn rhwystro Corff y Cynrychiolwyr rhag mynd ymlaen â’i waith nac yn annilysu ei drafodion.

 

5.

 

Gall unrhyw aelod o Gorff y Cynrychiolwyr ymddiswyddo trwy anfon hysbysiad mewn ysgrifen wedi ei gyfeirio at Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr.

 

Rhan III: Cymwysterau Aelodaeth

 

6.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i is-adran (2) a (3), bydd pob Clerig sy’n dal anrhydedd penodiad cadeiriol, bywoliaeth neu swydd yn yr Eglwys yng Nghymru, neu drwydded oddi wrth Esgob Cadeiriol Cymru, yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr ac o unrhyw un o’i bwyllgorau a’i is-bwyllgorau.

 

2)      Ni fydd unrhyw Glerig sydd yng ngwasanaeth cyflogedig llawn-amser Corff y Cynrychiolwyr, Bwrdd Cyllid Esgobaeth nac unrhyw gorff taleithiol neu esgobaethol arall o’r fath yn yr Eglwys yng Nghymru yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr nac unrhyw un o’i bwyllgorau na’i is-bwyllgorau.

 

(3)     Ni fydd unrhyw Glerig sydd wedi ymddeol neu sydd wedi cyrraedd ei b/phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr.

 

7.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i isadrannau (2), (3) a (4) bydd pob Cymunwr lleyg sydd dros ddeunaw mlwydd oed ac sydd naill ai yn byw, neu wedi byw ar unrhyw adeg am gyfnod o ddeuddeng mis mewn plwyf sydd yng Nghymru, neu y mae ei enw yn ymddangos yn rhestr etholiadol unrhyw blwyf yng Nghymru ac nad yw’n perthyn i unrhyw gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru, yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr ac o unrhyw un o’i bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau.

 

(2)     Ni fydd unrhyw un sydd yng ngwasanaeth cyflogedig llawn-amser Corff y Cynrychiolwyr, Bwrdd Cyllid Esgobaeth nac unrhyw gorff taleithiol neu esgobaethol arall o’r fath yn yr Eglwys yng Nghymru yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr nac unrhyw un o’i bwyllgorau na’i is-bwyllgorau.

 

(3)     Ni fydd unrhyw gymunwr lleyg sydd wedi cyrraedd ei b/phen-blwydd yn bymtheg a thrigain oed yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr.

 

(4)     Gall Cymunwr lleyg ond gael ei ethol yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr ar gyfer yr esgobaeth lle y mae yn byw, yn dal swydd esgobaethol neu lle y mae ei enw ar gofrestr etholiadol plwyf y cyfryw esgobaeth.

 

8.

 

Bydd aelodaeth aelod etholedig neu gyfetholedig neu enwebedig o Gorff y Cynrychiolwyr yn dod i ben, os yw’r aelod yn Glerig, ar ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain oed neu, os yw’n berson lleyg, ar ei ben-blwydd yn bymtheg a thrigain oed, ond os digwydd ymddeoliad neu ben-blwydd o’r fath yn ystod cyfarfod o Gorff y Cynrychiolwyr neu unrhyw un o’i bwyllgorau bydd yr aelodaeth yn parhau hyd ddiwedd y cyfarfod. At bwrpas y rheoliad hwn, ystyrir bod cyfarfod a ohiriwyd hyd ddyddiad pellach na thrannoeth yn gyfarfod a ddaeth i ben.

 

9.

 

Bydd pob aelod lleyg, cyn cymryd ei sedd, yn arwyddo datganiad mewn cofrestr a gedwir at hynny gan Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, yn y ffurf hon:

Yr wyf fi, J … S … o … drwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn Gymunwr dros ddeunaw mlwydd oed, ac yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.

 

10.

 

Bydd pob aelod sy’n ymddeol o Gorff y Cynrychiolwyr yn agored i fod yn aelod eto os yw’n gymwys ym mhopeth arall.

 

Rhan IV: Gweithdrefn

 

11.

 

(1)     Bob tair blynedd, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn ethol o blith ei aelodau Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd. Yn absenoldeb y Cadeirydd y Dirprwy Gadeirydd fydd yn llywyddu cyfarfodydd Corff y Cynrychiolwyr. Oni fydd y Cadeirydd na’r Dirprwy Gadeirydd yn bresennol mewn cyfarfod o’r fath, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn ethol aelod arall i lywyddu yn y cyfarfod hwnnw.

 

(2)     Bydd gan y Cadeirydd neu, oni fydd Cadeirydd neu bod y Cadeirydd yn analluog neu’n absennol o’r Ynysoedd Prydeinig, y Dirprwy Gadeirydd yr hawl i alw cyfarfod arbennig o Gorff y Cynrychiolwyr ar yr amser ac yn y lle a benderfyno trwy roi i’r aelodau o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd mewn ysgrifen ymlaen llaw.

 

12.

 

(1)     Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn cynnal o leiaf ddau gyfarfod cyffredin bob blwyddyn, a gall gynnal cyfarfodydd eraill fel y bo gofyn.

 

(2)     Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn penderfynu ar leoliad a dyddiad pob cyfarfod o’r fath.

 

Rhan V: Galluoedd

 

13.

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn meddu ac yn ymarfer pob gallu a roddir iddo gan y Corff Llywodraethol.

 

14.

 

Yn unol â darpariaethau Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 a’r Cyfansoddiad, bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i:

(a)     reoleiddio ei weithdrefnau ei hun; ac i

(b)     ddatgan sawl aelod presennol sy’n ffurfio cworwm.

 

15.

 

Penodi Pwyllgorau

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i benodi pwyllgorau o blith ei aelodau neu o blith ei aelodau ac eraill ac i osod galluoedd ac amodau gorchwyl pob pwyllgor o’r fath.

 

16.

 

Eiddo a Rheoli Adnoddau

 

Wrth reoli ei adnoddau bydd Corff y Cynrychiolwyr:

(a)     mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Sefydlog, yn adolygu ei adnoddau a’r modd y rheolir ac y defnyddir hwy i hyrwyddo amcanion Archesgob, Esgobion, Clerigion a Lleygion yr Eglwys yng Nghjymru; ac yn

(b)     llunio cyllideb daleithiol flynyddol i’w chyflwyno i’r Pwyllgor Sefydlog i’w chymeradwyo, a bydd y gyllideb honno yn cysylltu cyfanswm yr adnoddau ariannol sydd ar gael â’r polisi a’r blaenoriaethau y penderfynwyd arnynt gan y Pwyllgor Sefydlog.

 

17.

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn dal pob eiddo a ymddiriedir iddo at ddefnydd a dibenion Archesgob, Esgobion, Clerigion, a Lleygion yr Eglwys yng Nghymru ac at ymddiriedolaethau arbennig eraill yn unol â darpariaethau Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1914.

 

18.

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn dal pob eiddo a ymddiriedwyd neu a ymddiriedir iddo at yr ymddiriedolaethau a enwyd yn adran 17, eithr yn ddarostyngedig i’w awdurdod a’i alluoedd a’i ddyletswyddau statudol, dan orchymyn a rheolaeth y Corff Llywodraethol.

 

19.

 

(1)     Pan werthir unrhyw dir a gynhwysir yn enw Corff y Cynrychiolwyr, a hwnnw’n glastir neu’n glastir a adbrynwyd ac a drosglwyddwyd i Gorff y Cynrychiolwyr yn unol â Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1914 (neu’n cynrychioli tir o’r fath), rhaid dal cynnyrch clir y gwerthiant (a’r eiddo sydd o bryd i’w gilydd yn ei gynrychioli) a’i fuddsoddi neu ei ailfuddsoddi fel cyfalaf, ac ni cheir ei wario fel incwm, ac eithrio hyd yr awdurdodir y fath wario gan fil a ddeddfwyd yn briodol yn unol â’r darpariaethau ar gyfer hynny a geir ym Mhennod II.

 

(2)     Ni newidir darpariaethau’r adran hon na’u diwygio na’u dileu ond trwy gynnig a gyflwynir a’i droi’n ddeddf yn ôl y drefn a draethir ym Mhennod II ar gyfer biliau.

 

20.

 

(1)     Gellir buddsoddi pob arian a ddelir ar y pryd gan Gorff y Cynrychiolwyr ar ymddiriediaeth i’r Eglwys yng Nghymru neu unrhyw ddiben cysylltiedig â hi i brynu neu i sicrhau:

(a)     tir rhydd-ddaliedig yng Nghymru neu Loegr, a oes adeiladau arno ai peidio, ac a yw’n ddarostyngedig ai peidio i brydlesoedd, tenantiaethau, rhwyddhawliau neu gyfamodau cyfyngol;

(b)     tâl rhent parhaol neu dâl rhenti parhaol am dir yng Nghymru neu Loegr;

(c)     stociau, cronfeydd, soddgyfrannau, neu eiddo arall y mae’r gyfraith yn caniatáu (neu y gall o bryd i’w gilydd ganiatáu) i ymddiriedolwyr fuddsoddi arian ymddiriedolaethau ynddynt neu arnynt; ac

(d)     unrhyw stociau, cronfeydd, soddgyfrannau neu eiddo arall o ba fath bynnag

 

(2)     Er gwaethaf popeth a gynhwysir uchod, ni fuddsoddir dim arian mewn nac ar stociau na chronfeydd na soddgyfrannau nac unrhyw fuddsoddiad arall sy’n daladwy i’r daliwr.

 

(3)     Gall Corff y Cynrychiolwyr fenthyca arian ar sicrwydd eiddo, lle y gall yn briodol wneud hynny, hyd at werth llawn yr eiddo a gall gytuno na elwir am ad-dalu’r arian hwnnw am unrhyw nifer o flynyddoedd.

 

(4)     Gall Corff y Cynrychiolwyr gadw yn yr un cyflwr (naill ai dros dro neu yn barhaol) unrhyw fuddsoddiadau a all ddod (trwy rodd neu gymwynas neu gymynrodd) i’w ymddiriedaeth ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw bwrpas cysylltiedig â hi, er gwaetha’r ffaith nad yw’r buddsoddiadau hynny yn rhai a awdurdodir yma; a gall Corff y Cynrychiolwyr yn yr un modd gadw unrhyw fuddsoddiad a phob buddsoddiad a wnaed, neu yr honnir ei wneud, yn rhinwedd ei alluoedd i fuddsoddi.

 

21.

 

(1)     Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu, yn ddarostyngedig i unrhyw Reoliadau a wneir o bryd i’w gilydd gan y Corff Llywodraethol, i godi arian o bryd i’w gilydd trwy forgais, neu mewn modd arall, ar sicrwydd unrhyw eiddo a ymddiriedwyd iddo, ac eithrio:

(a)     eglwysi a thiroedd ar gyfer eglwysi;

(b)     cronfeydd a gwaddoliadau a neilltuwyd yn arbennig ar gyfer atgyweirio, adfer, neu wella unrhyw eglwys; a

(c)     llestri, dodrefn, neu feddiannau symudol eraill sy’n perthyn i unrhyw eglwys.

 

(2)     Gall Corff y Cynrychiolwyr ddefnyddio’r arian a godir felly at unrhyw bwrpasau y gall ar y pryd ddefnyddio arian dan ei reolaeth atynt.

 

22.

 

Ni fydd unrhyw aelod o Gorff y Cynrychiolwyr yn gyfrifol am unrhyw golled a achosir trwy ddibrisiad na methiant unrhyw fuddsoddiad na dim arall, ac eithrio pan achoswyd hynny trwy fai bwriadol y cyfryw aelod.

 

23.

 

Yn ddarostyngedig i’r hyn a ddarperir yma wedi hyn, bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr alluoedd llawn i werthu, cyfnewid, gosod ar brydles, a rheoli pob eiddo real a phersonol sydd ar unrhyw adeg wedi ei gynnwys yn ei enw,

 

ar yr amod bob amser:

 

(1)     nad arferir yr hawliau i werthu na chyfnewid gyda golwg ar:

(a)     unrhyw lestri, dodrefn, neu feddiannau symudol eraill (ac eithrio’r rhai a enwir yn is-adran (2)) sy’n perthyn i unrhyw eglwys neu a ddefnyddir yn yr addoliad dwyfol mewn unrhyw eglwys;

(b)     tiroedd esgobaeth neu gabidwl, clastiroedd a safleoedd ar gyfer eglwysi (heblaw safleoedd y darperir yn arbennig ar eu cyfer yma rhag llaw), tai esgobaeth a thai clastir, anheddau eglwysig ac unrhyw feddiannau symudol a ddelir neu a ddefnyddir ynglŷn â meddiant ar unrhyw gyfryw annedd; ac

(c)     ysgoldai a thiroedd a feddiennir gyda hwy;

heb awdurdod a roddwyd gan benderfyniad mwyafrif o aelodau Corff y Cynrychiolwyr a fydd yn bresennol ac yn pleidleisio, a chydsyniad ysgrifenedig Esgob yr Esgobaeth y lleolir yr eiddo ynddi; eithr ni fydd yn angenrheidiol i’r un prynwr ymholi a roddwyd yr awdurdod neu’r cydsyniad hwnnw.

 

(2)     Ni fydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i werthu na chyfnewid na gosod ar brydles na gwneud i ffwrdd ag unrhyw dir cysegredig, nac unrhyw eglwys neu adeilad a godwyd arno, nac i wneud i ffwrdd ag addurniadau na llestri nac offer a ddefnyddir ynglŷn ag unrhyw sacrament, heb awdurdod a roddwyd trwy benderfyniad tri chwarter aelodau Corff y Cynrychiolwyr a fydd yn bresennol ac yn pleidleisio, a chydsyniad ysgrifenedig Esgob yr esgobaeth y lleolir y tir cysegredig, yr addurniadau, y llestri, neu’r offer ynddi;

 

(3)     Dim ond yn y cyfryw fodd ac yn unol â’r rheoliadau, a osodir o bryd i’w gilydd gan y Corff Llywodraethol yr arferir pob gallu arall i osod ar brydles ac i reoli eiddo.

 

(4)     Bydd unrhyw berson neu unrhyw gorff o bersonau yn yr esgobaeth y lleolir y cyfryw eiddo ynddi yn rhydd i wneud cais i Gorff y Cynrychiolwyr ar iddo weithredu dan yr adran hon.

 

24.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i ostwng unrhyw gyflog neu grant sy’n daladwy ganddo trwy roi tri mis o rybudd ymlaen llaw, os digwydd ar unrhyw adeg fod amgylchiadau croes yn effeithio ar incwm Corff y Cynrychiolwyr ac yn gwneud y gostwng hwnnw’n angenrheidiol.

 

25.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i roi cyfarwyddiadau i Fwrdd Persondai Esgobaeth ac i’w reoli.

 

26.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i wneud rheoliadau ynglŷn â symiau o arian a ymddiriedir iddo gan Gynhadledd Esgobaeth yn unol â Phennod IV A adran 15.

 

27.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr, dan y teitl Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, y gallu i gychwyn neu i amddiffyn neu i gyfaddawdu unrhyw achos cyfreithiol, ac i gymryd unrhyw gam neu sicrhau unrhyw gymorth cyfreithiol neu gymorth arall angenrheidiol i’r pwrpas hwnnw.

 

28.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr yr hawl ar bob adeg i benodi ar ei draul ei hun bensaer neu syrfëwr i ddarparu adroddiad ar unrhyw eiddo a ymddiriedwyd iddo, a bydd gan y pensaer neu syrfëwr hwnnw hawl i archwilio unrhyw eiddo o’r fath ar ôl rhoi rhybudd rhesymol i’r preswylydd.

 

29.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i benodi a thalu ysgrifennydd, a fydd yn Gymunwr, a’r cyfryw swyddogion a gwasanaethyddion eraill a farno’n angenrheidiol, a gall ddiswyddo unrhyw swyddog neu wasanaethydd pan farno ei bod yn briodol gwneud hynny a phenodi un arall o bryd i’w gilydd yn ei le neu ei lle.

 

30.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i ddarparu’r tai, y swyddfeydd, yr adeiladau a’r ystafelloedd eraill hynny a fydd yn angenrheidiol iddo at ddibenion ei gyfarfodydd, neu at  sicrhau preswylfod i’w swyddogion a’i wasanaethyddion neu le diogel i gadw ei soddgyfrannau, ei lyfrau, ei gyfrifon a’i ddogfennau eraill, ac i dalu rhent ac yswiriant a’r holl dreuliau eraill a gyfyd trwy ddarparu’r tai neu’r swyddfeydd hynny, neu a fydd mewn rhyw fodd arall yn angenrheidiol.

 

31.

 

(1)     Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr Sêl Gyffredin, a bydd yn cyflawni dogfennau trwy osod ei Sêl Gyffredin arnynt yng ngŵydd Ysgrifennydd neu Ysgrifennydd Cynorthwyol Corff y Cynrychiolwyr neu Gyfreithiwr Corff y Cynrychiolwyr ac un aelod o Gorff y Cynrychiolwyr.

 

(2)     Rhaid i Gorff y Cynrychiolwyr drefnu ar gyfer cadw’r Sêl Gyffredin yn ddiogel, ac nis defnyddir ond trwy awdurdod Corff y Cynrychiolwyr.