Pennod II: Y Corff Llywodraethol

Rhan I: Aelodaeth

 

1.

 

Bydd i’r Corff Llywodraethol dair Urdd, sef: yr Esgobion, y Clerigion, a’r Lleygion.

 

2.

 

Aelodau Urdd yr Esgobion fydd yr Archesgob ac Esgobion Caderiol yr Eglwys yng Nghymru. Bydd ganddynt yr hawl i gyfarfod ar wahân i drafod yn gyfrinachol a phenderfynu cyn pleidleisio fel Urdd.

 

3.

 

Aelodau Urdd y Clerigion fydd:

(a)     pob Esgob Cynorthwyol a benodwyd i swydd amser llawn gyflogedig;  bydd yn ymuno ag Urdd yr Esgobion ar gyfer trafodaethau preifat ond yn pleidleisio gydag Urdd y Clerigion.

(b)     Deoniaid tair o Eglwysi Cadeiriol yr Eglwys yng Nghymru wedi eu hethol yn unol â Rhan I y Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol;

(c)     un Archddiacon o bob Esgobaeth wedi ei enwebu gan Esgob yr Esgobaeth ar ôl ymgynghori â holl Archddiaconiaid yr Esgobaeth;

(d)     yr aelodau yn rhinwedd swydd hynny sy’n glerigion ac y crybwyllir eu swyddi yn Rhan I y Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol;

(e)     chwe aelod clerigol etholedig o bob Esgobaeth, wedi eu hethol gan aelodau clerigol Cynhadledd yr Esgobaeth, fel y darperir yn Rhan I y Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol; a’r

(f)      clerigion hynny a gyfetholir gan y Corff Llywodraethol fel y darperir yn Rhan I y Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol.

 

4.

 

Aelodau Urdd y Lleygwyr fydd:

(a)  yr aelodau lleyg yn rhinwedd swydd hynny y crybwyllir eu swyddi yn

Rhan I y Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol;

          (b)     deuddeg aelod lleyg etholedig o bob Esgobaeth, wedi’u hethol gan aelodau lleyg Cynhadledd yr Esgobaeth fel y darperir yn Rhan I y Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol; a’r

          (c)     aelodau lleyg hynny a gyfetholir gan y Corff Llywodraethol fel y darperir yn Rhan I y Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol.

 

Rhan II: Cymwysterau Aelodaeth

 

5.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i isadran (2) a (3), bydd pob Clerig sy’n dal anrhydedd, penodiad eglwys gadeiriol, bywoliaeth neu swydd yn yr Eglwys yng Nghymru, neu drwydded oddi wrth Esgob Cadeiriol yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.

 

(2)     Ni fydd unrhyw Glerig sydd yng ngwasanaeth cyflogedig llawn-amser Corff y Cynrychiolwyr, Bwrdd Cyllid Esgobaeth nac unrhyw gorff taleithiol nac esgobaethol arall o’r fath yn yr Eglwys yng Nghymru yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol nac o unrhyw un o’i bwyllgorau na’i is-bwyllgorau.

 

(3)     Ni fydd unrhyw glerig sydd wedi ymddeol neu sydd wedi cyrraedd ei b/phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.

 

6.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i is-adran (2), (3) a (4), bydd pob Cymunwr lleyg sydd dros ddeunaw mlwydd oed ac sydd naill ai yn byw, neu wedi byw ar unrhyw adeg am gyfnod o ddeuddeng mis, mewn plwyf sydd yng Nghymru, neu sydd â’i enw ar rôl etholwyr unrhyw blwyf yng Nghymru ac nad yw’n perthyn i unrhyw gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru, yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.

 

(2)     Ni fydd unrhyw weithiwr cyflogedig gan Gorff y Cynrychiolwyr, Bwrdd Cyllid Esgobaeth nac unrhyw gorff taleithiol nac esgobaethol arall o’r fath yn yr Eglwys yng Nghymru yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol nac o unrhyw un o’i bwyllgorau na’i is-bwyllgorau.

 

(3)     Ni fydd unrhyw gymunwr Lleyg sydd wedi cyrraedd ei b/phen-blwydd yn bymtheg a thrigain oed yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.

 

(4) Ni ellir ethol Cymunwr lleyg yn aelod o’r Corff Llywodraethol ond dros yr esgobaeth y mae’n byw neu’n dal swydd esgobaethol ynddi neu y mae ei enw ar rôl etholwyr plwyf yn yr esgobaeth.

 

7.

 

Bydd pob aelod o Urdd y Lleygwyr, cyn cymryd ei sedd, yn arwyddo datganiad mewn cofrestr a gedwir at hynny gan Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, yn y ffurf hon:

Yr wyf fi, J … S … o … trwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn Gymunwr dros ddeunaw mlwydd oed, ac yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.

 

8.

 

Bydd pob aelod sy’n ymddeol yn agored i fod yn aelod eto os yw’n gymwys ym mhopeth arall.

 

Rhan III: Cyfarfodydd

 

9.

 

Yr Archesgob fydd Llywydd y Corff Llywodraethol a chyfeirir ato o hyn allan fel y Llywydd. Os digwydd ar ryw adeg nad oes Archesgob, neu fod yr Archesgob yn absennol o’r Ynysoedd Prydeinig neu’n methu neu’n gwrthod gweithredu, bydd y blaenaf ymhlith Esgobion Cadeiriol yr Eglwys yng Nghymru sy’n fodlon gweithredu ac yn gallu gweithredu, a heb fod ar y pryd yn absennol o’r Ynysoedd Prydeinig, yn dod yn Llywydd y Corff Llywodraethol, ac ef fydd ei Lywydd.

 

10.

 

Nid annilysir unrhyw gyfarfod trwy fethiant damweiniol i gadw unrhyw un o’r Rheoliadau yn ymwneud â gwysio neu gynnal cyfarfod o’r fath, ac ni bydd absenoldeb nac esgeulustod unrhyw un o Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol yn annilysu unrhyw weithred o’r eiddo Ysgrifennydd arall neu Ysgrifenyddion eraill nac o’r eiddo unrhyw gyfarfod a awdurdodir trwy hynyma; ac mewn cyfarfod o’r fath, yn absenoldeb holl Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, bydd y cyfarfod yn ethol dirprwy Ysgrifennydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw, a bydd yntau yn rhoi adroddiad llawn a ffyddlon i’r Ysgrifenyddion.

 

Rhan IV: Galluoedd

 

Y Cyfansoddiad

 

11.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3), bydd gan y Corff Llywodraethol gallu:

(a)     i newid, i ddiwygio, neu i ddiddymu unrhyw ddarpariaeth yn y Cyfansoddiad;

(b)     i lunio erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau a ffurfwasanaethau newydd ac i newid y rhai sy’n bodoli o bryd i’w gilydd; ac

(c)     i ddarparu ar gyfer materion o ffydd a disgyblaeth ac i newid y rhai sy’n bodoli o bryd i’w gilydd.

 

(2)     Ni wneir dim a ddisgrifir yn is-adrannau (1)(b) ac (c) ond trwy’r weithdrefn berthnasol i filiau a draethir yn Rhan V, ar ôl cyflwyno’r mater i’r Corff Llywodraethol a’i gefnogi ganddo a chan fwyafrif yn Urdd yr Esgobion.

 

(3)     Yn ddarostyngedig i is-adran (2), nid ychwanegir at is-adrannau (1) (b) nac (c),(2) na (3) na darpariaethau adran 33, na’u newid, eu diwygio na’u diddymu, ond trwy’r weithdrefn berthnasol i filiau a draethir yn Rhan V.

 

Galluoedd cyffredinol

 

12.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i wneud rheoliadau cyffredinol ynglŷn ag ethol y Corff a chymhwyster etholwyr, a chyfansoddiadau a rheoliadau at reoli a llywodraethu’r Eglwys yn dda, ynghyd â’i heiddo a’i busnes, naill ai fel cyfangorff neu bob yn esgobaeth, gan gynnwys rheoliadau ar sut a chan bwy y gwneir penodiadau i esgobaethau cadeiriol ac i Fywoliaethau, a’r dull a’r modd y mae cyfansoddiadau a rheoliadau o’r fath i’w creu a’u gweithredu.

 

13.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914, bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i ddiswyddo unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethol neu o Gorff y Cynrychiolwyr os bydd rheswm digonol.

 

(2)     Y Corff Llywodraethol fydd y beirniad terfynol ar yr hyn sy’n rheswm digonol dan yr adran hon.

 

Materion yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol

 

14.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 a’r Cyfansoddiad, bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i wneud rheoliadau parthed y Corff Llywodraethol ar:

(a)     ei aelodaeth;

(b)     cymhwyster ei etholwyr;

(c)     ei etholiadau;

(d)     hyd aelodaeth o’r Corff Llywodraethol;

(e)     diswyddo aelodau;

(f)      busnes a thrafodion y Corff Llywodraethol, gan gynnwys gweithdrefn i lunio rheoliadau cyffredinol dan yr adran hon;

(g)     aelodaeth, galluoedd a gweithdrefnau unrhyw bwyllgor o’r Corff Llywodraethol;

(h)     y modd y rheolir ac y llywodraethir ef;

(i)      ei eiddo a’i fusnes; ac

(j)      unrhyw daliadau at dreuliau aelodau sy’n mynychu cyfarfodydd o’r Corff Llywodraethol a’i bwyllgorau.

 

(2)     Bydd gan y Corff Llywodraethol y galluoedd atodol a chanlyniadol eraill hynny yr ymddengys iddo eu bod eu hangen arno neu y byddai’n fuddiol iddo eu cael i gyflawni ei waith.

 

15.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i ddarparu’r tai, swyddfeydd, adeiladau ac ystafelloedd eraill a fo’n angenrheidiol at ddibenion:

(a)     ei gyfarfodydd;

(b)     tai i’w swyddogion a’i wasanaethyddion; ac

(c)     ystafell ddogfennau neu fan ddiogel arall at gadw ei lyfrau a’i ddogfennau; ac i dalu rhent, yswiriant, a’r holl dreuliau eraill a achosir drwy ddarparu’r tai neu swyddfeydd hynny.

 

16.

 

(1)     Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i benodi a thalu Ysgrifenyddion ac i fynd i unrhyw draul sy’n rhesymol angenrheidiol at unrhyw un o’r dibenion uchod.

 

(2)     Fe fydd pob Ysgrifennydd Clerigol i’r Corff Llywodraethol yn Glerig yn yr Eglwys yng Nghymru, a bydd pob Ysgrifennydd Lleyg i’r Corff Llywodraethol yn Gymunwr yn yr Eglwys yng Nghymru neu mewn Eglwys sydd mewn cymundeb â hi.

 

17.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i wneud y rheolau sefydlog a farno’n addas ar gyfer rheoli ei weithdrefnau, ar yr amod nad yw’r rheolau hynny yn anghyson â dim a ddeddfir yma; a gall o bryd i’w gilydd ddadwneud, atal, neu newid y rheolau hynny.

 

18.

 

Bydd y Corff Llywodraethol yn penodi Pwyllgor Sefydlog o blith ei aelodau a bydd ganddo’r gallu i benodi pwyllgorau neu is-bwyllgorau eraill o blith ei aelodau fel y barno’n angenrheidiol.

 

19.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu unrhyw bryd i newid ei enw neu ei deitl.

 

Materion yn ymwneud â Chorff y Cynrychiolwyr

 

20.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol allu i newid nifer aelodau Corff y Cynrychiolwyr ac i wneud rheoliadau ar gyfer Corff y Cynrychiolwyr ynglŷn â:

(a)     nifer ei aelodau;

(b)     eu cymhwyster, eu hethol eu diswyddo a’u hymddeoliad;

(c)     ei alluoedd a’i ddyletswyddau;

          (d)     ei weithdrefnau;

ar yr amod nad yw’r rheoliadau hynny yn gwrthdaro ag awdurdod statudol na galluoedd na dyletswyddau Corff y Cynrychiolwyr.

 

Materion yn ymwneud â Chynhadledd yr Esgobaeth

 

21.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu:

(a)     i adolygu unrhyw weithred o’r eiddo Cynhadledd Esgobaeth;

(b)     i reoli, newid, diddymu, neu ddisodli unrhyw reol a wnaed gan Gynhadledd Esgobaeth hyd y bo angen (ac am hynny bydd barn y Corff Llywodraethol yn derfynol) fel na dderbynnir unrhyw egwyddor a fydd yn anfuddiol i les cyffredin yr Eglwys yng Nghymru. Ni ddilynir trefn biliau ar gyfer yr adran hon;

(c)     ar dderbyn deiseb oddi wrth o leiaf draean aelodau Cynhadledd Esgobaeth, i newid, diddymu neu ychwanegu at unrhyw un o reolau a rheoliadau Cynhadledd Esgobaeth; ac

(d)     i roi unrhyw orchymyn neu gyfarwyddyd i Gynhadledd Esgobaeth.

 

22.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i gyfeirio unrhyw gwestiwn i Gynhadledd unrhyw Esgobaeth, neu i Gynhadledd pob Esgobaeth, i’w drafod ganddynt ac i gael adroddiad arno.

 

23.

 

Gall y Corff Llywodraethol wneud Rheoliadau ar gyfer Cynhadleddau’r Esgobaethau gyda golwg ar:

(a)     yr aelodaeth glerigol;

(b)     cynnull cyfarfodydd;

(c)     eu busnes a’u gweithdrefnau.

 

Galluoedd Amrywiol

 

24.

 

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 ac i’r Cyfansoddiad, bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i wneud Rheoliadau at y dibenion a ganlyn:

(a)     penodi i swydd yn yr Eglwys yng Nghymru na ddarperir yn benodol ar ei chyfer yn y Cyfansoddiad;

(b)     gwneud darpariaethau at Gynadleddau Deoniaethol;

(c)     gwneud darpariaethau at Weinyddu Plwyfi gyda golwg ar Gyfarfodydd Festri Blynyddol neu Gyfarfodydd Festri eraill ac ar gyfer:

(i)      aelodaeth;

(ii)     hyd aelodaeth;

(iii)    diswyddo aelodau;

(iv)    busnes a gweithdrefnau;

(v)     cyfarfodydd; a

(vi)    galluoedd;

(d)     gwneud darpariaethau at weinyddu plwyfi gyda golwg ar y Rhôl Etholiadol:

(i)      paratoi, cadw a rheoli’r Rhôl;

(ii)     ei chyhoeddi a’i harchwilio;

(e)     gwneud darpariaethau at weinyddu plwyfi gyda golwg ar Gynghorau Plwyf Eglwysig mewn perthynas â materion yn ymwneud â wardeniaid eglwys, is-wardeniaid ac ystlyswyr;

(f)      gwneud darpariaethau ynglŷn â materion plwyfol cyffredinol yn ymwneud â gweinyddu Plwyf a Grŵp o Blwyfi;

(g)     gwneud darpariaethau ynglŷn â phenodiadau ac enwebiadau ar gyfer yr hawl i goladu neu enwebu rhai i’w sefydlu i ofalaethau gwag;

(h)     gwneud darpariaethau ynglŷn ag ethol Esgob Cadeiriol ar gyfer:

(i)      penodi Etholwyr Esgob;

(ii)     y Coleg Ethol Esgob; a

(iii)    phenodi Esgobion;

(i)      gwneud darpariaethau ynglŷn ag ethol Archesgob Cymru ar gyfer:

(i)      Coleg Ethol yr Archesgob;

(ii)     penodi’r Archesgob; a

(j)      gwneud darpariaethau ynglŷn â Phersondai.

 

25.

 

Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i orchymyn trosglwyddo unrhyw ran o unrhyw esgobaeth i esgobaeth arall sy’n bodoli ar hyn o bryd neu a grëir ar ôl hyn, a’i huno â hi, ar yr amod na bydd gorchymyn o’r fath yn ddilys hyd oni chaiff ganiatâd Cynhadledd yr esgobaeth neu Gynadleddau’r esgobaethau yr effeithir arnynt ac nas gweithredir yn ystod esgobawd Esgob yr esgobaeth honno neu Esgobion yr esgobaethau hynny heb ei ganiatâd neu eu caniatâd.

 

26.

 

(1)     Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i rannu esgobaeth, ar yr amod na bydd rhannu felly heb ganiatâd Cynhadledd yr Esgobaeth honno a chaniatâd Esgob yr esgobaeth.

 

(2)     Pan rennir esgobaeth yn ystod ei esgobawd, bydd gan yr Esgob yr hawl i ddewis pa esgobaeth y bydd yn Esgob iddi.

 

Rhan V: Gweithdrefn Bil

 

Cyflwyno Bil

 

27.

 

(1)     Ac eithrio yn yr achosion y darperir ar eu cyfer yn adran 11 (2), gellir cyflwyno bil gan unrhyw ddau neu fwy o aelodau’r Corff Llywodraethol neu gan Gynhadledd Esgobaethol.

 

(2)     Gall y rhai sy’n dymuno cyflwyno bil (“y Cefnogwyr”) gael cyngor a chymorth Is-bwyllgor Drafftio’r Pwyllgor Sefydlog wrth baratoi’r bil cyn ei anfon ymlaen i’r Pwyllgor Sefydlog yn unol ag is-adran (3).

 

(3)     Anfonir copi o’r bil a gynigir, yn Saesneg ac yn Gymraeg, gydag enwau’r Cefnogwyr, i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol heb fod yn ddiweddarach na phedair wythnos cyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog y bydd y Cefnogwyr yn bwriadu i’r bil a gynigir gael ei ystyried ynddo.

 

(4)     Bydd y Pwyllgor Sefydlog yn ystyried yn ei gyfarfod nesaf bob bil a gynigir ac a anfonwyd iddo yn unol ag is-adran (3).

 

(5)     Os bodlonir y Pwyllgor Sefydlog bod y bil a gynigir mewn trefn, bydd yn hysbysu’r Cefnogwyr o hynny ac ar unwaith yn cyhoeddi’r bil trwy gylchredeg copi argraffedig ohono, yn Saesneg ac yn Gymraeg, gydag enwau’r Cefnogwyr wedi eu hargraffu arno, i holl aelodau’r Corff Llywodraethol ynghyd â memorandwm yn egluro’r rheswm dros y bil.

 

(6)     Oni fodlonir y Pwyllgor Sefydlog bod y bil a gynigir mewn trefn, bydd yn hysbysu’r Cefnogwyr o hynny, a gall, gyda’u cydsyniad hwy neu gydsyniad y mwyafrif ohonynt, gyfeirio’r bil a gynigir i’w Is-bwyllgor Drafftio am gyngor a chymorth pellach.

 

Cyhoeddi ac ystyried bil

 

28.

 

(1)     Wedi i fil gael ei gyhoeddi, bydd y Pwyllgor Sefydlog yn penodi Pwyllgor Dethol o aelodau’r Corff Llywodraethol i ystyried a choladu unrhyw ddiwygiadau y dymuna aelodau o’r Corff Llywodraethol eu cynnig i’r bil.

 

(2)     Gall y Pwyllgor Sefydlog, wedi i’r bil gael ei gyhoeddi, benderfynu ymgynghori â’r esgobaethau ynglŷn ag ef ym mha ffordd bynnag a ystyria’n briodol.

 

(3)     Gall unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethol gynnig gwelliant i’r bil, ar yr amod bod yr aelod yn rhoi rhybudd mewn ysgrifen o bob gwelliant o’r fath i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol o fewn y tri mis yn dilyn yn union wedi cyhoeddi’r bil.

 

(4)     Gall y Pwyllgor Dethol ei hun gynnig diwygiadau i’r bil.

 

(5)     Bydd y Pwyllgor Dethol yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Sefydlog o fewn chwe mis  i’r bil gael ei gyhoeddi, ar yr amod y gall y Pwyllgor Sefydlog estyn y cyfnod a roddir i’r Pwyllgor Dethol i wneud yr adroddiad, os bydd yn penderfynu ymgynghori â’r esgobaethau yn unol ag is-adran (2).

 

(6)     Yn ei adroddiad, bydd y Pwyllgor Dethol yn gwneud argymhelliad ar bob gwelliant a gynigiwyd a bydd hefyd yn argymell i’r Pwyllgor Sefydlog a ddylid ystyried y bil yn un dadleuol ai peidio. Bydd yr adroddiad yn dangos unrhyw wahaniaeth barn o bwys o fewn y Pwyllgor Dethol ynglŷn â’i argymhellion.

 

29.

 

(1)     Wedi derbyn adroddiad y Pwyllgor Dethol, bydd y Pwyllgor Sefydlog ar unwaith yn peri cyhoeddi’r adroddiad i holl aelodau’r Corff Llywodraethol, a gosodir y bil i’w ystyried trwy bwyllgor yng nghyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol.

 

(2)     Pan fo’r Pwyllgor Sefydlog wedi derbyn argymhelliad gan y Pwyllgor Dethol nad yw bil i’w ystyried yn un dadleuol, bydd yn adrodd hynny ar unwaith i aelodau’r Corff Llywodraethol cyn dechrau’r cyfarfod y gosodwyd y bil i’w ystyried ynddo trwy bwyllgor.

 

(3)     Yn achos bil nad ystyria’r Pwyllgor Dethol a’r Pwyllgor Sefydlog ei fod yn un dadleuol, bydd y bil serch hynny yn mynd ymlaen i’w ystyried trwy bwyllgor os bydd i un Esgob Cadeiriol neu unrhyw ddeg aelod o’r Corff Llywodraethol ofyn am hynny drwy sefyll yn eu lle. Oni wneir cais o’r fath, pleidleisir ar unwaith ar y cynnig fod y bil i’w basio, yn unol ag adran 32 o hynyma, heb unrhyw ystyried na thrafod pellach.

 

30.

 

(1)     I ddiben trefn pan ystyrir bil trwy bwyllgor, bydd y Corff Llywodraethol yn penodi aelod i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

(2)     Yn ystod y cyfnod pwyllgora, ni chynigir ond y gwelliannau hynny a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Dethol, ar yr amod serch hynny y gellir cynnig yn ystod y cyfnod pwyllgora:

(a)     welliannau a gynigiwyd gan y Pwyllgor Dethol;

(b)     welliannau yn codi o welliannau eraill a wnaed yn ystod yr un eisteddiad; a

(c)     gwelliannau eraill y gellir eu caniatáu trwy ganiatâd arbennig Cadeirydd y Pwyllgor a’r cyfarfod.

 

(3)     Wedi’r cyfryw ystyriaeth trwy bwyllgor, hysbysir y bil i’r Corff Llywodraethol, a gosodir cynnig i’w drafod ar unwaith bod y bil yn cael ei basio, ar yr amod, os bydd Cadeirydd y Corff Llywodraethol yn penderfynu hynny, y gellir gosod y bil i’w drafod naill ai drannoeth neu yng nghyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol.

 

(4)     Pan na osodir cynnig i drafod ar unwaith bod y bil yn cael ei basio, caniateir cyfeirio’r bil i’w ystyried ymhellach gan y Pwyllgor Dethol ac i’w ystyried ymhellach trwy bwyllgor yn y Corff Llywodraethol, ar yr amod na ellir cynnig wedi hynny ond gwelliannau o dan amodau is-adrannau (2)(a), (b) ac (c).

 

(5)     Ystyrir bod bil yn fethiant oni chwblhawyd pwyllgora arno o fewn tair blynedd i’w gyhoeddi.

 

31.

 

Wedi cynnig bod bil yn cael ei basio ni chaniateir unrhyw welliant, a chymerir pleidleisiau pob urdd arno ar wahân, ar yr amod bob amser na fydd Urdd yr Esgobion yn pleidleisio cyn cyhoeddi pleidleisiau’r ddwy Urdd arall. Wedi cyhoeddi’r pleidleisiau, gall Urdd yr Esgobion, os barnant hynny’n addas, ymneilltuo i drafod yn gyfrinachol, a chyhoeddi canlyniad eu pleidleisio ar y cyfryw adeg yn ddiweddarach yn ystod yr eisteddiad hwnnw o’r Corff Llywodraethol ag a farnant yn addas.

 

32.

 

(1)     Os derbynnir y bil gyda mwyafrif o ddwy ran o dair o’r aelodau a fo’n bresennol ac yn pleidleisio ym mhob un o’r tair Urdd, bydd y Cadeirydd yn ei gyhoeddi’n un o ganonau’r Eglwys yng Nghymru, a bydd o hynny allan yn gyfraith yr Eglwys yng Nghymru ac yn rhwymo ei holl Aelodau hi.

 

(2)       Os gwrthodir bil gan ddwy o’r tair Urdd, ni chyflwynir mohono drachefn am gyfnod o dair blynedd.

 

Rhan VI: Cynigiadau

 

Darpariaethau yn ymwneud a chynigion (ar wahân i’r rhai y mae a wnelont â biliau)

 

33.

 

(1)     Rhaid i bob cynnig a ddaw gerbron y Corff Llywodraethol (ac eithrio’r rhai y mae’n rhaid eu cyflwyno a’u pasio yn ôl gweithdrefn bil cyn y deuant i rym) gael ei basio gan fwyafrif o’r aelodau a fo’n bresennol ac yn pleidleisio.

 

(2)     Gellir mesur mwyafrif o’r fath drwy arddangos dwylo, ond gellir galw am rannu’r aelodau, naill ai cyn neu wedi arddangos dwylo, trwy i un Esgob Cadeiriol neu unrhyw ddeg aelod godi yn eu lle, ac os digwydd hynny ni chyfrifir bod y cynnig wedi’i basio oni cheir cydsyniad y mwyafrif ym mhob un o’r tair Urdd, sef yr Esgobion, y Clerigion a’r Lleygion.

 

(3)     Os bydd mwyafrif mewn dwy o’r tair Urdd o blaid y cynnig, gellir ei gyflwyno yng nghyfarfod cyffredin nesaf y Corff Llywodraethol, ac os bydd iddo’r pryd hwnnw gael cydsyniad pob aelod o Urdd yr Esgobion a fo’n bresennol ac yn pleidleisio, a hefyd ddwy ran o dair naill ai o Urdd y Clerigion neu o Urdd y Lleygwyr a fo’n bresennol ac yn pleidleisio, fe’i cyfrifir yn benderfyniad a basiwyd yn ddyladwy gan y Corff Llywodraethol.

 

34.

 

(1)     Pan fo’r Corff Llywodraethol yn pasio cynnig sy’n peri bod angen diwygio’r Cyfansoddiad, cymerir yn ganiataol, oni bydd cyfarwyddyd gwahanol, bod y cynnig hwnnw yn cynnwys gorchymyn i Is-bwyllgor Drafftio’r Pwyllgor Sefydlog i baratoi’r diwygiad neu’r diwygiadau priodol i’r Cyfansoddiad.

 

(2)     Pan ddatgenir bod cynnig a basiwyd gan y Corff Llywodraethol wedi ei wneud yn unol â’r is-adran hon, bydd cynnwys y cynnig, heb aros am unrhyw ddiwygiad i’r Cyfansoddiad a fyddai fel arall yn angenrheidiol, yn dod i rym ar unwaith, eithr dim ond hyd at gyfarfod cyffredin nesaf y Corff Llywodraethol.

 

(3)     Pan fo’r Corff Llywodraethol yn pasio cynnig sy’n peri bod angen diwygio’r Cyfansoddiad ac y datgenir iddo gael ei wneud yn unol â’r is-adran hon, cymerir yn ganiataol fod y cynnig hwnnw yn cynnwys gorchymyn i’r Pwyllgor Sefydlog i ddod â’r diwygiad neu’r diwygiadau priodol i rym unwaith y bydd yr Is-bwyllgor Drafftio wedi eu paratoi oni bydd yr Is-bwyllgor hwnnw neu’r Pwyllgor Sefydlog yn penderfynu’n wahanol.

 

Rhan VII: Gweithdrefn i lunio Rheoliadau a dod â hwy i rym

 

35.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r adran hon, awdurdodir Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol i lunio a pheri dod i rym bob rheoliad y mae gan y Corff Llywodraethol y gallu i’w wneud dan y Cyfansoddiad a’r Bennod hon.

 

(2)     Y mae galluoedd y Pwyllgor Sefydlog i wneud rheoliadau yn cynnwys galluoedd i newid, diwygio, ychwanegu at neu wneud darpariaeth newydd yn lle Rheoliadau presennol.

 

(3)     Gall Corff y Cynrychiolwyr, neu unrhyw ddau aelod neu fwy o’r Corff Llywodraethol (y cyfeirir atynt ar ôl hyn fel “y cynigydd”) gynnig Rheoliadau drafft i’r Pwyllgor Sefydlog.

 

(4)     Bydd y cynigydd yn arwyddo’r rheoliadau drafft ac yn eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Pwyllgor Sefydlog ynghyd â nodyn yn esbonio’r rhesymau dros y cynnig o leiaf bedair wythnos cyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog y bwriada’r cynigydd iddo ystyried y rheoliadau drafft.

 

(5)     Yn unol ag is-adran (4), gall y cynigydd gael cyngor a chymorth yr Is-bwyllgor Drafftio i baratoi’r rheoliadau drafft cyn eu cyflwyno.

 

(6)     Os cyflwynir rheoliadau drafft yn unol ag is-adran (4), bydd y Pwyllgor Sefydlog yn ei gyfarfod yn ystyried y Rheoliadau drafft ac, os derbynnir egwyddor y drafft, gyda gwelliannau neu hebddynt, bydd yn cyfarwyddo’r Is-bwyllgor Drafftio i baratoi’r rheoliadau.

 

(7)     Bydd yr Is-bwyllgor Drafftio yn cyflwyno’r rheoliadau i’r Pwyllgor Sefydlog, a all:

(a)     eu hanfon yn ôl i’r Is-bwyllgor Drafftio i’w newid ymhellach;

(b)     penderfynu argymell i’r cyfarfod nesaf o’r Corff Llywodraethol bod y rheoliadau yn cael eu gwneud; neu

(c)     wneud y rheoliadau; os felly, bydd y Pwyllgor Sefydlog yn penderfynu dyddiad dod i rym y cyfan neu unrhyw un o’r rheoliadau, a chymhwysir is-adrannau (8), (9) and (10).

 

(8)     Yn ei adroddiad nesaf i’r Corff Llywodraethol bydd y Pwyllgor Sefydlog yn cynnwys copi o’r holl reoliadau a wnaeth o dan is-adran (7)(c) ynghyd â memorandwm yn esbonio’r rhesymau dros y rheoliadau a’r effaith a gânt. Ni dderbynnir unrhyw welliant i’r rheoliadau ac ni ellir eu diddymu y pryd hwnnw.

 

(9)     O leiaf dri mis cyn y cyfarfod o’r Corff Llywodraethol a fydd yn dilyn y cyfarfod y rhoddodd y Pwyllgor Sefydlog adroddiad iddo am wneud y rheoliadau o dan is-adran (7)(c), gall o leiaf un Esgob Cadeiriol neu o leiaf ddeg aelod o’r Corff Llywodraethol arwyddo rhybudd ysgrifenedig o gynnig i ddiwygio neu ddiddymu’r rheoliadau hynny. Anfonir rhybudd o’r fath at Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol. Gosodir pob cynnig o’r fath i’w drafod yng nghyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol.

 

(10)   (a)     Os rhoddir rhybudd yn unol ag is-adran (9), bydd y Rheoliadau hynny, os ydynt eisoes mewn grym, yn dal mewn grym hyd ddiwedd y drafodaeth ar y cynnig i’w diwygio neu eu diddymu.

(b)     Os caiff y cynnig ei basio, yn unol ag adran 33, diwygir neu diddymir y rheoliadau hynny yn ôl y galw, ac:

(i)      yn achos diddymu, ystyrir bod y rheoliadau yn ddi-rym o ddyddiad eu diddymu, ond nid effeithir ar ddilysrwydd dim a wnaed yn unol â’r rheoliadau cyn eu diddymu;

(ii)     yn achos diwygio, ystyrir i’r diwygio ddod i rym ar ddyddiad diwygio’r rheoliadau, ond nid effeithir ar ddilysrwydd dim a wnaed yn unol â’r rheoliadau cyn eu diddymu.

 

Rhan VIII: Cyffredinol

 

Cadw galluoedd yr Archesgob a’r Esgobion Cadeiriol

 

36.

 

Ni chaiff dim a gynhwysir yma effeithio ar hawliau presennol Esgob Cadeiriol i benodi i unrhyw Fywoliaeth na swydd eglwysig, nac ar unrhyw hawl sydd gan yr Archesgob a’r Esgobion wedi ymgynnull mewn Synod i gadarnhau etholiad esgob, nac ar unrhyw hawl sydd gan Archesgob i gysegru Darpar-Esgob.

 

37.

 

Yn ddarostyngedig i’r Cyfansoddiad, ni chaiff yr un gweithrediad o’r eiddo’r Corff Llywodraethol ymyrryd â gwaith yr Archesgob yn arfer y galluoedd a’r swyddogaethau sy’n gynhenid i Swydd Metropolitan, nac â gwaith yr Esgobion Cadeiriol yn arfer y galluoedd a’r swyddogaethau sy’n gynhenid i Swydd Esgob.